Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. DIGWYDDIADAU YR WYTHNOS. Nid oes nemawr i ddiwrnod, wythnos, na mis yn myned heibio nad ydym yn clywed am ryw anffodion neu gilydd, ddydd ar ol dydd. Trychineb ar drychineb fel yn dilyn, Bywyd*u'n dianc fel ar bob mynudyn; I'r mor diddarfod, heb un trai na llanw, Yn ngwlad tywyllwch dudew-gwh.d y meirw. Prydnawn dydd Gwener, ar reilffordd y Great Northern, yn herwydd ystorm fawr o eira, fe ataliwyd gweithrediadau y gwahanol arwydd- ion ar hyd y llinell sydd yn rheoleiddio y gosgorddlu agerddawl sydd yn cludo nwyddau a theithwyr o'r naill fan i'r llall. Rhyw chwech milldir o Huntingdon y saif gorsaf Abbots Ripton, lie yr oedd peiriant a nifer luosog o gerbydau llwythog o 16 wedi derbyn gorchymyn i droi o'r ffordd, er rhoi lie i ger- bydres yn cludo teithwyr i fyned yn mlaen am y brif-ddinas. Cyn iddynt gael amser i glirio y llinell, dyma y brys gerbydres, o Edinburgh, yn dyfod i lawr gyda chyflymder aruthrol, gan redeg i mewn i'r gerbydres 16, ag i wneyd y peth yn waeth fyth, dyma ger- bydres gyfiym arall yn dyfod o Lundain gan redeg i'r chwalfa, fel y mae yn hawddachi dychymygu na darlunio y trychineb. Daliodd un o'r peirianwyr ei afael, er gwneyd cais i atal rhwysg y peiriant, a thorwyd ei law ym- aith yn ddiseremoni. Dywedir fod 13 wedi eu lladd, a' nifer mawr wedi eu clwyfo. Digwyddodd fod rhai o gyfarwyddwyr y Uin- ellau yn deithwyr, ac iddynt ddianc gyda'r eithriad ddarfod i un o honynt dori ei fraich. Nid oes dim yn y manylion yn priodoli es- geulusdod ar ran nob, ni i: Jio'lach na bod y cyutr wvauiauau Leo fod yn ddigon prydlon, a'r arafwch yn cael ei briodoli i ddigter yr ystorm. Daeth cynorthwy buan i fangre y gyilafan, a dywed un hanesydd fod yr olygfa yn arswydol a brawychm. Diangodd Ar- glw-ydd Colville a'r Trafnoddwr Rwsiaidd heb gael un niwed, gan iddynt ddigwydd bod yn un o'r cerbydau olaf; ond, er hyny, cawsant ysgydwad nad annghofiant yn fuan. Dywed un o'r peirianwyr fod yr eira yn disgyn mor drwm fel nad oedd yn bosibl iddynt ganfod y mynegbyst a'r arwydd-freichiau ar hyd yr holl ffordd o ganlyniad, nid yw yn rhyfedd fod y fath wrthdarawiad wedi cymeryd lie, a gallasai, yn ol pob tebyg, fod yn llawer gwaeth, a mwy o fywydau wedi eu colli yn y cythrwfl dychrynllyd. ATALFA AJJ Y PELLEBYR. Ataliwyd y cenadau pellebrol yn hollol xhv/ng L'erpwl a Llundain, fel nad oedd dim gan lochgyn y swyddfeydd i'w wneyd, trwy gydol dydd Sadwrn, ond eistedd mewn tawel- wch a myfyrio ar alluoedd dinystriol y cor- wynt a dylanwad aruthrol yr ystorm. Bernir fod y cyfnewidiad buan wedi effeithio yn ddinystriol ar y gwefrau, a'r cysylltiad wedi y 11 ei gwbl dori mewn amrywiol fanau. Daw y newyddion fod pethuu yn cael eu had-drefnu, A bydd y cwbl oil wedi 011 hadfer yn fuan fel cynt. Gwelir wrth hyn fod dig-on o allu mewn eira a gwynt i roddi taw ar dafuJ y negesydd buan-drwy osod bys anweledig i gyffwrdd a'r gwefr y gall ddweyd "hyd yina, a dim yn mhellach, Mr. Trydan, er cymaint eich buan- dra cyflym." Bu raid gosod o'r neillduy fas- nach o brynu a gwerthu ar y Gyfnewidfa, am nad oedd y cenadau gwefrol yn dwyn i mewn brisoedd y farchnad mewn trefydd a dinas- oedd ereill ag sydd yn dal cysylltiad masnachol &'r porthladd hwn. Bu raid i lawer tordyn ymchwyddol foddloni ar fod yn dawel dydd Sadwrn diweddaf, er cymaint ei awyddfryd a'i raib am farchnata; ac, am wn i, nad priodol dangos iddynt ambell dro fod un mwy na dyn yn llywio yr elfenau, ag yn medru marchog y eorwynt. Gwers arall i feidrolion hunan- ymchwyddol a dyrchafedig i beidio bod yn rhy fawr, a meddwl nad all y byd wneyd hebddynt. Yn y goleuni yna yr edrychaf ar fa.wredd dymchweliadol yr ystorm, a'r cyffro yn mro yr elfenau, y dyddiau ag sydd wedi myned heibio. Y mae mawredd dychymygol ac hiuian- greadigol ambell ddyn yn ei hynodi gymaint fel y gellir yn hawdd ei weled ar bared cym- deithas yn ymfflamychu ac yn arllwys ei lava fel rhyw losgfynydd aruthrol; ond, wrth fyned yn agos ato, ceir nad yw gwres ei ffwrnes ddim b fewn i ddeugain gradd cyn boethed a phobty Betty Gryffudd. Rhaid iddo redeg ei gwrs, a bydd iddo yntau fel ereill gyrhaedd ei ganolbwynt, yn hwyr neu hwyrach. Byddaf i, yn bersonol, yn edrych ar y cyfryw ddigwyddiadau fel yn ddim amgen na chynyrfiadau cyffredin y natur ddynol, pan yn dyoddef o dan ddylanwad siomedigaeth, gan fyned i raddau yn or- phwyllog, ac yn ymollwng i adrodd pethau nas gall byth eu hategu ar gyhoedd gwlad pan yn ei iawn bwyll. NEWYDDION AMERICANAIDI). Yn y nodiadau hanesyddol diweddaf o'r Corllewin ymddengys fod Jonathan am lei- "hau treuliau y Weriniaeth trwy ostwng cyf- i Hogau swyddogion y Uywodraeth mewn gwahanol wledydd. Dygir ysgrif i _mewn o Saeri Ty y Cynrychiolwyr i leihau y treuliau i'r swm taclus o dri chan' mil o ddoleri yn llai na'r flwyddyn ddiweddaf. Y mae y cyflogau i gyd i gael eu gostwng, fel y bydd i'r trafnoddwyr i Brydain, Ffrainc, Germany, a Rwsia, i fod yn bedair mil ar ddeg o ddoleri, gyda'r eithriad fod y Cadfridog Schenck i dderbyn dwy fil a phum' cant o ddoleri yn ychwanegol at dreulia-u penodol sydd yn disgyn arno fel y prif drafnoddwr. Y cen- adon i Spain, Austria, Brazil, Mexico, Japan, a China, i dderbyn cyflog o ddeng mil yn y flwyddyn. Y gweinidogion arosol yn Port- ugal, Belgium, Switzerland, Netherlands, Denmarc, Sweden, Norway, a Thwrci, i gael chwe' mila phum' cant yn y flwyddyn, a'r cenadwr yn Liberia .i dderbyn pedair mil yn flynyddol. Y mae treuliau yr is-genadon yn y llysoedd tramor i gael eu gostwng o ddeu- gain i ugain mil yn y flwyddyn. Ysgrifen- yddion yr amrywiol genadau yn Llundain) Paris, Berlin, a St. Petersburgh, i gael cyflog o ddwy fil, chwe' chant, a phump ar hugain o ddoleri yn flynyddol. Yn China a Japan, tair mil y flwyddyn Austria, Brazil, Itali, a Spain, i dderbyn mil ac wyth cant y flwydd- yn. Is-ysgrifenyddion Llundain, Paris, a Berlin, i dderbyn dwy fil y nwyddyn bob un. Y cenadau o'r America Ddeheuol i gael eu cydgrynhoi er mwyn gwneyd lleihad yn y nifer a thynir i lawr o gyflogau y prif gen- adon yn ol y cyfrif o ddeg y cant. Gwneir i ffwrdd yn hollol a deg ar hugain o drafnodd- wyr, gan osod yn eulle weinidogion arosol, a symudir y Pencadlys Trafnoddawl o Llun- dain i L'erpwl, a phenodir y Trafnoddwr yn L'erpwl yn Benciwdawd ar y .cyfan. Y gweinidpg i Itali i gael gostyngiad i wyth mil yn y flwyddyn, a'r swydd o weinidog i Groeg i gael ei diddymu, gan sefydlu yno is- ,9 drafnoddwr ar gyflog o ddwy fil yn y flwyddyn. Os cymer y mawr gyfnewjidiadau hyn le trwy dderbyn cadarnhad y llywodr- aeth, deuant i weithrediad ar y cyntaf o Orphenaf nesaf. Fe wel y darllenydd gyda hyn fod y cyfnewidiad yn fawr, a gall y bydd yn wers i Brydain er dysgu cynildeb. Cofier mai doleri a olygir drwy y cyfrif uchod, ac mai pob mil o ddoleri yn werth 175p. o arian Lloegr, yn ol cwrs y farchnad hqddyw. Gan fod y fath gyfnewidiadau i gymeryd lie yn nghyflogau swyddogion tramor y weriniaeth, mae lie cryf i gasglu y dygir yr unrhyw wein- idogaeth mewn grym gartref, yr hyn a fydd yn sicr o greu adfywiad yn y wlad mewn ystyr fasnachol. Bid a fyno, ni a obeithiwn hyny er mwyn y dyfodol, er cael y pleser o weled y miloedd yn myned a dyfod fel c/nt. Mae y cyfleusderau teithio ar y mor yn awr yn fwy dymunol a chysurus, ac yn llawer cyflym- ach, a phris y cludiad yn weddol o resymol, pan ystyrjipm y pellder a threuliau y daith. Mae gobeithion y dyfodol yn well nag y gwelwyd hwynt er's amser yn ol, a gwledydd newydd yn ymagor i dderbyn y ffrwd ymfudol. EGLWYSIG. Mae yr Eglwys Gymreig wedi bod am dymhor heb un bugail ar ol marwolaeth yr hen Gymro dysgedig, Mr. James. Y mae nifer wedi bod yn cynyg am y lie gwag o hyny hyd yn awr, a daeth y gynulleidfa i'r penderfyniad o wahodd y Parch. Evan T. Davies, Bettws, Llangynwyd a bellach y mae efe wedi sefydlu fel bugail ar Eglwys Dewi Sant yn L'erpwl. Ymddengys i mi yn Gymro Cymreig o'r iawn argrafliad; a go- beithio y bydd llwyddiant i'w ddilyn yn ei le newydd, ac y bydd iddo wneyd lies yn mhlith Cymry L'erpwl. Deallwyf ei fod yn lienor o safle, yn llawn bywyd dros Gymry, Cymro, a Chymraeg. ANNIBYNOL. Mwy na thebyg fod y gynulleidfa Annibynol yn Grove-street, hen gapel Hiraetho^, wedi rhoddi galwad i John Davies (Ossian Dyfed), a'i fod wedi ateb yn y cadarnhaol. Bydd genyf sylw pellach yn y dyfodol, wedi y deall- wyf yn mhellach fod y peth yn sicr a chadarn- haol. Hyn am y tro.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Y Ffoaduriaid Oymreig yn Lerpwl.
Y Ffoaduriaid Oymreig yn Lerpwl. Mae y papyrau Seisnig a gyhoeddir yn Nghymru yn gwneyd camsynied parthed y dull a'r modd y daeth y pechaduriaid i'r ddalfa. Detective Collingwood, un o swydd- ogion L'erpwl, oedd yr hwn a gymerodd Richard Rees i'r ddalfa, fel nad oedd gan yr Heddgeidwad Jones, o Llanelli, ddim i wneyd ond cyrchu y troseddwr yn ol i dderbyn ei wobr. Er i gyfreithiwr y troseddwr geisio profi nad oedd yn byw gyda'r fenyw Elizabeth Stephens, fe allesid cael tystion i brofi hyny yn L'erpwl, a phe cawsai y gwalch flwyddyn yn lie tri mis o garchar gyda llafur caled, ni buasai yn ormod iddo. Parthed y ffoadur David Evans, alias Dai gwas yr Arglwydd, fe all y darllenydd feddwl wrth ddarllen y Western Mtiil a'r Cambrian, mai y swyddog Allison, p Abertawe, a gymer- odd hwn i'r ddalfa ond er mwyn y gwirion- edd, tegweh yw hysbysu mai Detectives Thornthwaite a Pritchard a gymerodd Dai i'r ddalfa, mewn lodging house bychan, 3, Edmund street, heb fod yn mhell oddiwrth y Gyfnew- idfa. Nid oedd gan Allison ddim i wneyd ond ei gymeryd yn ol i Abertawe. Rhodder y clod i'r sawl sydd yn deilwng o hono, er nad oedd un o'r ddau ddigwyddiad yrr gamp- waith neillduol; ond cymaint sydd o glod cysylltiedig a'r mater, perthyna yn gyfangwbl i swyddogion Le'rpwl. Os gwir a ddywed y fenyw oedd yn byw gyda'r teiliwr a'r ex- pregethwr fel ei wraig, ymddengys fod y llys wedi delio yn rhy dyner ato, am y dylasai gael ei brofi am y trosedd o amlwreigiaeth. Hen gyw yn tynu at 60 oed yn byw gyda dynes heb fod dros haner hyny, a chanddynt blentyn bychan tua phedair oed. Yn ngwyneb hyn, nid oedd mis o garchar gyda llafur caled yn ddim iddo yn ol maint ei drosedd. Cre- _.Á. achinaid fel hyn sydd yn gwarthruddo y wlad a'r genedl, a dylid cospi ycýfryvPÍfiydeithaf y gyfraith. Fe ddylai yr awchirdbdau chwilio allan os oeddynt wedi priodi, fel y gellid ei gospi am briodi dwy wraig. Ni fuaswn yn gwneyd y sylwadau hyn oni buasai fy mod yn gweled fod y papyrau Seis- nig yn gosod lliw anmhriodol, a braidd yn myned oddi wrth y gwirionedd. Mae y gwir- ionedd am bethau fel hyn yn ddigon, fel nad oes achos ymhelaethu arno. SYLWEDYDD,
Gwrthdarawiad Dychrynllyd…
Gwrthdarawiad Dychrynllyd ar y Gledrffordd. Cymerodd damwain o nodwedd ddychryn- llyd le dydd Gwener diweddaf ar brif linell y Great Northern Railway yn ngorsaf Abbott's Ripton, chwe' milldir i'r Gogledd o Huntingdon, trwy i'r Scotch Express 0 daro yn erbyn tren nwyddau. Erbyn i'r ddau hyny daro dyma y Leeds Express yn d'od i fewn yn ei lawn nerth. Yr oedd y dyryswch a'r dyoddefaint gan yr ail wrthdarawiad yri ddychrynllyd. Lladdwyd triarddeg, a njweid- iwyd deuddeg ar hugain. 'l ,I..
Dowlais. ' ' : owalSo,','
Dowlais. ow alSo Nos Lun diweddaf, yn Hermon, capel y Methodistiaid Calfinaidd; traddododdy Parch. Samuel Davies, Sciwen, ei ddarlith ddyddorol ar yr "Yr Eglwys yn nyddiau Charles yr Ail." Gobeithio y caiff y gwr ieuanc parchus fyw i draddodi llawer o'r cyffelyb ddarlithiau Y mae yn werth i'r wlad ei chlywed.-J.
CynrychiolaethSirGaerfyrddin
CynrychiolaethSirGaerfyrddin Yn ol y newyddion a'n cyrhaeddasant o'r brif ddinas yr wythnos hon, ymddengys fod bwriad- i ddwyn Syr Harding Giffard, y Cyfreithiwr Cyffredinol, yn mlaen fel ymgeisydd dros Sir Gaerfyrddin. Bwriedir dyrchafu Isiarll Emlyn i Dy yr Arglwyddi, ae felly bydd sedd wag dros y sir. Os cymer hyn Ie, yr ydym yn deall nad etholir Syr Harding yn ddiwrthwynebiad, canys y mae yn, mwriad y Rhyddfrydwyr i ddwyn allan eu dyn, sef yr yswain poblogaidd W. B. H. Powell, o'r Maesgwynne. Diau y cawn glywed rhagor am hyn eto un o'r dyddiajt nesaf.
Y 'Daily Telegraph'.
Y 'Daily Telegraph'. Y mae y newyddiadur poblogaidd a gulluog hwn sydd yn ymffrostio yn y cylchrediad hel- aethaf yn y byd yn awr mewn dwfr poeth, canys y mae wedi ysgrifenu rhyw bethau yn dra llym a beimiadol am ynadon Hastings yn herwydd eu gwaith yn dedfrydu dyn o'r enw Thomas Ross i garchar am chwech wythnos am ladrata nifer o fresych. Apeliwyd o flaen y Barnwyr yn y Queen's Bench, dydd Llun diweddaf, am wyseb yn erbyn y papyr, a chaniatawyd hi. Daw yr achos yn mlaen yn fuan.
Ymosodiad ar yr Heddgeidwad…
Ymosodiad ar yr Heddgeidwad yn Llwydcoed. Dydd Mawrth diweddaf, yn llys yr heddgeid- waid, Aberdar, dygwyd William Thomas, Peter Clement, Thomas Davies, Thomas Roderick, Cornelius Cronin, Benjamin Llewelyn, William Enoch, Daniel Cronin, a Thomas Bowen, (naw mewn nifer,) ger bron yr Ustusiaid, am ymosod mewn modd mileinig ar yr heddgeidwad George Cross, nos Sul diweddaf, y 23ain. Ymddengys, oddiwrth dystiolaeth yr heddgeidwad, fod y carcharorion, yn nghyd ag ereill yn yfed yn yr Earl Grey Inn, ac yn cadw cryn lawer o dwrw, iddo yntau fyned i mewn a galw sylw gwraig y ty atynt. Dywedodd hithau y byddai iddynt gael eu troi allan yn union. Wedi iddynt ymad- ael odd;yno, eu bod yn myned fraich yn mraich, gan waeddu, canu, a chadw pob math o dwrw. Iddo ef (yr heddgeidwad) fyned atynt,, a dymuno arnynt fod yn dawel; ond yr ateb a gafodd oedd, "Ewch i— a "meindiweh eich busnes," a'r cyflelyb. Wedi hyny ceisient fyned i'r Corner House, ond gwrthodwyd hwynt. Ar hyn, aeth yr heddgeidwad atynt drachefn, gan eu cymhell i fyned adref yn ddistaw. Wedi iddynt ei alw ar bob enw ffiaidd allent feddwl am dano, dech- reuasant ei guro a'i gicio yn y modd mwyaf gwarthus, nes ei gleisio a'i archolli yn dost, gan ei adael yn hollol ddideimlad. Wedi holi am- ryw dystion ereill, cafwyd wyth o honynt yn euog, a dedfrydwyd hwynt fel y canlyn: Y ddau Cronin, i chwech mis o garchar Davies, Roder- ick, Clement, ac Enoch, peclwar mis; y gweddill, ■ i un mis. Rhyddhawyd Thomas, gan na wasg- wyd y cyhuddiad yn ei erbyn. Hysbysodd Mr. de Rutzen, wrth draddodi y ddedfryd, y byddai i bob achos cyffelyb i'r presenol a ddygid ger ei fron ef, os profid y cyhuddiad, dderbyn y gosb- edigaeth drymaf, gan ei fod yn ystyried ymosod- iadau o fath y presenol, nid yn unig yn drosedd, ond hefyd yn gywardaidd i'r pen.
Family Notices
GENEDIGAETHA U. Ionawr 7fed, priod Mr. John Davies (loan o'r Factory), ar ferch, a gelwir ei henw hi Gwenllian Louisa Mary.-loan Myrddin. Ionawr 9fed, priod Mr. John Evans, Bont Cottage, ger Pontspwdwr, Cydweli, ar ferch.- loan Oloff. Rhagfyr 29ain, 1875, priod Mr. T. Howells (Hywel Cynon), ar fab, a gelwir ei enw ef Aneurin. Tra'r gauaf certh a'i rew a'i wyntoedd croch Yn deifio gweddill blagur dol a bryn, Yn ngardd deuluol Hywel Cynon hoff 'E wynebledojld prydferth rosyn gwyn. Os daeth i'r byd yn nghanol gauaf du, Caed haf trwy'i oes nes myn'd at lesu cu. BRYTHONFRYN. Un yw Aneurin Hywel—a'i haniad 0 rieni tawel; Arddengjgi rhyw wedd angel Eres yw hir oes a wel. Y byd a'i urddas boed erddo-ei darian A'i dwr I6r a fyddo; Drwy ein byd i'w arwain bo' A'i law addas i'w Iwyddo. G. AB IOAN.
[No title]
Y mae mynydd tanllyd Vesuvius yn dra I' aflonydd y dyddiau hyn, ac arwyddion y bydd tan-ruthriad i gymeryd lIe yn fuan.
Advertising
Gwyl Gerddorol Dyffiyn Rhondda. CYNELIR yr Wyl uchod yn PENTRE YSTRAD, DYDD LLTJN PAKC, 1876, pryd y gwobrwyir y Corau buddugol. iar y darflau canlynol :— 1. I'r COr, heb fod dan 80 mewn rhif, a gano yn oreu "Why, my soul, art thou so vexed y chorus diweddaf allan o As the hart pants, gan Mendelssohn. Gwobr, 20p., a 5p. i'r Arweinydd. 2. I'r Cor o'r. un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn rhif, na eriillodd dros lOp. o'r blaen, a gano yn oreu Y Blodeuyn Olaf" (J. A. Lloyd) Gwobr, lOp. 3. I'r Part; o Wrywod, heb fod dan 20 mewn rhif na thros 25, a gano yn oreu "Rhyfelgan y Myncod," gan Joseph Parry (Pencerdd America). I'w gael gan yr Awdwr. Gwobr, 3p. 3s. BeirniaLl-Mr. T. DAVIES (Eos Rhondda). Pianist-Mr. D. BOWEN. Dowlais. Y mae y proip-amme yn awr yn barod, ac i'w gael gan yr Ysgrifenydd am geiniog, trwy y llythyrdy, ceiniog a dimai.-Dros y pwyllgor, E. H. DAVIES, Baglan House, Llywydd. D. WILLIAMS, Timber Merchant, Trysorydd. D. THOMAS, Grocer, Pentre, .Ysgrifenydd. 1168 Brynfterws, Llanedi CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod Dydd Sadwrn, yr lleg o Fawrth, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mew* Cerddoriaeth ac Adroddiadau. Prif Ddarnau Cerddorol. I'r C6r, heb fod dan 60 mewn rhif, a gano oreu "Mor hawddgar yw dy bebyll," (J. Parry.) Gwobr, £10. I'r C6r, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano oreu, "Y Blodeuyn olaf." (J. A. Lloyd). Cwobr, 25. Bydd enwau y Beirniaid, a'r gweddill o'r tes- tynau, i'w cael yn y pro</rammt, ac i'w cael am ddwy stamp gan yr Ysgrifenydd. DAVID DAVIES, 1223 Park, Cross Inn, R.S.O. Yn Eisieu. "V^SGOLFEISTR cymhwys i gymeryd gofal X ys^ol sydd dan arolygiaeth y Llywodraeth. Ni raid i neb ymgeisio oni bydd ganddo dyst lythyrau boddhaol a thysteb (certificate). Rhaid i'r ymgeisydd hefyd fod yn alluog i siarad, darllen, ac ysgrifenu yr-jaith Gymraeg. Hysbysed pa un a ydyw yn briod neu ddibriod.' Ymofyner â-Mr. PHINEAS JAMES, Agent, Llanover, Abergavenny, 1242 Mon., S.W. Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg." Tra M6r, tra Brython." EISTEDDFOD IFORAIDD ABERDAR. CYNELIR yr EISTEDDFOD uchod DYDD LLUN SULGWYN, 1876, dan nawdd Adran Iforaidd Aberdar. BEIRNIAID. Y Cwu—J. Parry, Ysw., M.B., Aberystwith, a John_yhoinas, Blaenanerch. Y Farddoniaeth—Parch. W. Thomas (Islwyn). Tracthodau—Parch. J. Jones (Mathetes). TESTYNAU A GWOBRWYON. TRAETHODAU. 1, Aon y Traethawd goreu ar Safle y Gweith- iwr yn y Cyfansoddiad Prydeinig." Gwobr, lOp. 10s. 2. Am y Traethawd goreu ar Ddyledswydd pawb i ymuno a'r Cymdeithasau Cyfeillgar (Friendly Societies), yn nghyd a'r lies deilliedig oddiwrthynt. Gwobr, 5p. BARDDONIAETH. 3. Am y Chwareugerdd oreu ar Amgylchiadau | ymweliad Owen Glyndwr & Syr Lawrence Berk- rolles." Gwel y Gwyddaniadur Cymreig. Gwobr, lOp. 10s. 4. Am y 12eg Englyn Unodl Union goreu i'r di- weddar Cynddelw," gwobr 3p. 3s. 5. Am y Duchangerdd oreu "I'r Siaradwyr a'r Ysgrif en wyr hyny sydd mor hoff o orfeichio y Gymraeg a geiriau Saesonaeg." Dim dros wyth penill. Gwobr, 2p. 6. Am yr Englyn Unodl Union (Beddargraff) goreu i'r diweddar Griffith Williams, o'r Bell Inn Trecynon, am ei weithgarweh a'i gywirdeb fel aelqd a Thrysorydd Cyfrinfa Ifor, Aberdar, am uwchlaw ugain mlynedd. Gwobr, lp. CERDDORIAETH. I. I'r C6r, heb fod dan 150 o rif, a gano yn oreu, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," gan John Thomas, Blaenanerch. Gwobr, 70p., yn nghyd a baton ardderchog i'r Arweinydd. 8. I'r C6r o'r un Gynulleidfa, na enillodd dros 20p., a gano yn oreu Y Gwlithyn," gan Alaw Dau. Gwobr, 20p. 9. I G6r o Blant, heb fod dan 40 mewn rhif, na thros 15 oed, a gano yn oreu, Nis rhoddwn fyny'r Beibl," gan Gwilym Gwent, o Oor y Plant. Gwobr, 6p. Ail oreu, 3p. Caniateir i wyth mewn oed i gynorthwyo. 10. I'r Parti, heb fod dan 20 na thros 30, a gano yn oreu "Y Gwanwyn," gan Gwilym Gwent. Gwobr, 5p. II. I'r Gwryw a gano yn oreu Gogoniant i Gymru," gan J. Parry, B.M. Gwobr, 10s. 12. I'r Ferch a gano yn oreu •' Tros y Gareg," o'r Songs of Wales, gan Brinley Richards. Gwobr, 10s. 13. Tu the Brass Band who will best render a Selection of Wekh Airs, to be had from R. De Lacey, 10, Millbrook Road, Brixton, London. (No Reeds allowed). Prize, 7p. 7s. CELFYDD YD WAITH. 14. Am y Crys lliain Gwyn goreu" (gwaith nodwydd), lp. 10s. .15. Am En-hraifft o'r Gwelliant goreu o Lusern Ddyogel" (Safety Lamp). Gwobr, 2p. AMODAU. Y Cyfansoddiadau, yn nghyd a'r Lamp a'r Crys, i'w hanfon i'r Ysgrifenydd erbyn yr 31ain o Ebrill, 1876; Enwau pawb a fydd yn cystadlu ar y testynau ereill i fod yn Haw yr Ysgrifenydd erbyn yr 21ain o Mai, 1876. Ni wobrwyir oni fydd teilyngdod. Y Cyfansoddiadau Buddugol i fod yn eiddo y Pwylfeor. Rhaid i bob Ymgeisydd na allo fod yn bresenol anfon ei enw dan sel i r Ysgrifenydd erbyn dydd yr Eisteddfod. Gofelir am bersonau cymhwys i feirniadu y Lamp a'r Crys. CYNELIR' CYN G HERD D 'FAWREDÐOG Yn yr hwyr, pryd y gofelir am enwogion o fri i wasanaethu. Cyhoeddir eu henwau yn y Newyddiaduron '-fig, o leiaf, cyn dydd yr Eisteddfod, yn nghyd ag enwau Llywydd ac Arweinydd y dydd y lie, yn nghyd a'r pris i'r Eisteddfod a'r Gyngherdd, &c. Ar ran y Pwyllgor, D. R. LEWIS, Ysg., 1241 33, Wind Street, Aberdar,
LLINELL Y "NATIONAL" I NEW…
LLINELL Y "NATIONAL" I NEW YORK. Y'. y Cwmni hwn yn cymeryd arnynt en hunain y cyfrifoldeb o insurio pob un o'r llestri i'r swm o £100,000, ac felly, yn rhoddi y sicrwydd goreu i'r ymfudwyr am eu dyogelwch; ae y maent hefyd bob amser wedi mabwysiadu y Ilwybr deheuol er mwyn osgoi y rhew a phen- oedd. YR agerlongau MWYAF r r. 0 Liverpool i New York bob dydd Mercher, a phob .yn ail ddydd Gwener i Boston a New York. EGYPT. Mercher, Ion. 191 HELVETIA Mercher, Ion. 26 THE QUEEN Mercher, Chwef. 2". Yn gadael Queenstown y dyddiau canlynol. Rhedant o Llundain i New York fel hyn ERIN Mercher, Ion. 19!. CANADA Mercher, Ion. 26 GREECE Mercher, Chwef. 2 Y mae cyfleusderau saloons yr Agerlongau hyn ya dra rhagorol, trwy fod y state-rooms yn eang an- arferol, ac yn agoryd i'r saloons, pa rai sydd yn y- poop ar y deck. Pris y cludiad, 10, 12, 15, a 17 gini, yn ol W- leusderau, y state-room. Pawb yn cael yr un hawl," yn y saloon. Pris y cludiad yn y Steerage yw .£5. Return Tickets—24 Guineas. Y mae eangder, goleuni, ac awyr y steerage, yn anghydmarol, ac y mae digonedd o ymborth fresh- yn cael ei barotoi gan Stewardiaid y Cwmpeiai; af. ni oheir cludiad rhatrach gydag unrhyw linell. Gall ymfudwyr bookio drwodd i bob parth o,, Ganada a'r Talaethau Unedig am brisoedd isel Am fanylion pellach, ymofyner a'r NATIONAL STEAM SHIP CO., 23, Water-street, Liverpool neu at SMITH, SUNDIUS, & Co., Agents, 33, Grace- church-street, London. Neu at JOHN THOMAS, 1, Prospect PlaCftv. George Town, Tredegar; GEORGE OWEN, Upper High-street, Rhymny; HENRY A. LEWIS, Newtown, Ebbw Yaie; D. THOMAS- Clydach and Brynmawr; HERBERT T. REES, Pentre Ystrad, Rhondda Valley; neu at F. W, CAUNT, 4, Whitcombe-street, Aberdare. L,369v
. TNMAN ROYAL MAPK JL STEAMERS,…
TNMAN ROYAL MAPK JL STEAMERS, LIVERPOOL t& NEW YORK. Dyddiau Mawrth a lau. SALOON, 12, 15, 18 a 21 Gini; Steerage.ambria a. kj llawer is nag arferol, gyda digonedd o ym- borth wedi ei goginio yn dda, a lleoedd cyfleua. Trosglydir Teitlnvyr y Steerage i Boston » Philadelphia heb dal ychwanegol. Bookir teitlK wyr i unrhyw ran o'r Taleithiau o Canada am brisiau neillduoL Rhoddir tocynau a phob cyfarwyddyd gala WILLIAM INMAN, 22, Water-street. Liverpool, new rywrai o oruchwylwyr yr Inman Line. L.153 LLINELL Y "WHITE STAR" 0 UNITED STATES MAIL STEAMERS. 0 Liverpool i ac o New York; RHYBUDD.—Cyfier Agerlongau y Llinell hon y Lane Routes wrth fyned a dychwelyd, y rhai a- gymeradioyir gan yr Is-qadben Mauri/. r^r1^10 Iau. Io^ AnRTm'f.' Dydd Iau, Ion. 27 Dydd iaU; Chwef. S P^PTTPT rri Dyddiau, Chwef. 10 RE PUBLIC Dydd Iau, Ch^i-ef. IT 0 NEW YORK. CELTIC Dydd Sadwrn, Ion. 8 ADRIATIC Dydd Sadwrn, Ion. 15 Gan alw yn Queenstown, i dderbyn teithwyr, ddydd Gwener. Y mae yn yr agerlongau hyn. gyfle-tfSderau neillduol i gaban-deithwyr; y mae y saloon, state-room, ystafell smocio yn midships. V mae meddyg a goruchwylwyr ar bob llong. SALOON,-15 gini a 18 gini. Return tickets am 35 gini. Steerage, at reduced rates. Am hysbysleni a manylion pellach, ymofyner -ri T v T ISMAY, IMRIE, & Co, East India-avenue, London, a 10, Water-street*. Liverpool. L.369
Advertising
AT YMFUDWYR TO EMIGRANTS. General Agent to all American and AustralianJ. Sailing Ships and Steamers. NM. JONES (OVMBO GWYLLT), Passenger • Broker, 34, Union-street, Liverpool, Gor- wyliwr i'r Llinellau canlynol :—Inman Line Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National" Line, White Star Line, Dominion Line, Stato Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa- hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a' Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y. cyfarwyddiadaugofynol drwy anfon llythyr iV cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofak iddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REES* brodor o Merthyr Tydfil. Y mae genym dy private eang a chyfleta e- cyfarfbd ag angenrheidiau y fasnach. j Cofier y Cyfeiriad,— I N. M. J ONES (CYMRO GWYLLT), 34, Union-street, IiverpooL D.S.-Gellir ymholi yn Aberdar t John James Crown HoteL POWELL'S COUGH LINCTUS. Meddyginiaeth elfeithiol i bawb yn dyoddef- oddiwrth BESWCH, ANWYD, DIFFYG ANADLr INFLUENZA, BRONCHITIS, ASTHMA, CRUGNI. Mae y cyffeir hwn wedi ei brofi yn feddygin" iaeth effeithiol rhag y Coglais yn y Gwddf, y hyn sydd yn amddifadu y dyoddefydd o gwag, drwy achosi peswch blin a pharhauu. Tystiolaeth. Maesteg, Chwef. 1874. Anwyl syr,-Oddeutu deuddeg mis yn ol yr oeddwn yn dyoddef oddiwrth anwyd trwm, a'i»' gwrais oddiwrth ddiffyg anadl a pheswch. Cyng' horwydni i wneyd prawf o'ch Cough Linctus, » da genyf allu tystio i'r anhwylderau ymadael a Dt ar ol defnyddio un costrelaid. Yr wyf yn cad!: costrelaid o hono yn awr wrth law, arhoddaf ef plant fel byddo angen, ac y mae yn feddyginiaetf1 sicr. Yr wyf yn falch i allu tystio yn gyhoeddu*' am rinweddau eich Linctus mewn acnosion Anwyd a Pheswch. Y r eiddoch, JOSEPH HUTCHINSON. Parotoedig gan W. Poivell, Fferyllydd, &c'* Caroline Street, Bridgend. IV gael gan yr holl Fferyllwyr, mewtf Co9' trelau, pris Is ljc. a 2s 9c. yr un. 123**
EISTEDDFOD TREFORIS.
jris, a Miss Francis, Tir Peary Arms, feL y hai nesaf &% yr oreu. Yn nesaf, nnawd ar rr harmori>/um, "Hold the Fort;" dau yn I jystadlu; goreu, Miss H. Davies, Treforis. Oanti "The ship on fire." Un ddaeth yn mlaen i ganu' y darn hwn, sef Mr. William Lewis, Hafod, a chafodd y wobr. Canu "The Bell Ringer;" tri yn cystadlu; diangodd y buddugol cyn rhoddi ei enw priodol. Araeth fyrfyfr deg yn cystadlu; .goreu, Mr. William Griffiths, Treforis. Yr oedd yr elw at drysorfa seindorf bres Cwmtawe, a throdd y cwbl allan yn llwyddianus mewn ystyr arianol. Teimla y pwyllgor yn dra diolchgar i eglwys Libanus am fenthyg eu hysgoldy, ag i bawb a roddasant gefnogaeth iddynt.—Yr eiddoch, EISTEDDFODWR ARALL.