Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Y FRENINES A'R SENEDD.

TRAMOR. •

YR ARSYLLPA.

Araeth Mr. John Bright yn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Araeth Mr. John Bright yn Birmingham. Nos Sadwrn diweddaf darfu i'r aelodau dros Birmingham, Mri. John Bright, Dixon, P. H. Muntz, anerch cyfarfod mawr o'u hetholwyr yn y Town Hall. Cymerwyd y gadair gan y Maer am chwech o'r gloch. Mr. Bright, yr hwn a dderbyniwyd gyda tharanau cymeradwyol, a ddyweclodd Mr. Maer a boneddigion, — Y mae cyfnod o ddeuddeng mis wedi pasio ymaith oddiar yr achlysur pan ganiatawyd i'm cydaelodau a minau i sefyll wyneb yn wyneb a'n hetholwyr, ac yn ystod y cyfnod hwnw y mae Senedd- dymhor wedi pasio ymaith, yr hon ellir ystyried fel sesiwn o fesurau bychain ac yn ddyspeidiad seneddol, neu y gyfran fwyaf o honi, yn mha un y cawsom lawer o siarad trwy bob parth o'r wlad ar fesurau y sesiwn. Ni fydd i mi aros ar y materion yr ymdrin- iwyd cymaint arnynt—pynciau a feddyliwyf yn gysylltiedig a deddfwriaeth y flwyddyn ddiweddaf. Bydd i mi ofyn i chwi am faddeu i mi os na chyffyrddaf a cholliad y Vanguard, ac os pasiaf heibio gwestiwn y cylchlythyr caethwasiol (na, na) yn ddisylw. Nid yw y cwestiwn hwnw mor hollol rwydd ag y mae llawer o'n cyfeillion yn tybied ond y cwest- iwn ag sydd bob amser yn ymgynyg i mi, pan glywn rywbeth neu feddwl rhywbeth am dano oedd, paham nad allai y Llywodraeth ei adael yn llonydd ? (clywch clywch). Gall y cawn glywed atebiad pan gyferfydd y Senedd; ni fydd yn ddrwg genyf os bydd yn foddhaol i'r genedl; ac ni alwaf eich sylw ychwaith i ymdrafodaeth fawr y Stock Exchange yn mha un y bu y Llywodraeth yn ymwneyd. Yr wyf yn cofio rai blynyddau yn ol am araeth Prif Weinidog presenol Ty y Cyffredin, yn mha un y siaradai gyda gwawdiaeth ddirmygus am bersonau neiilduol, y rhai a brynent ac a werthent gyfranau (shares), a galwai ef yn flaenfynediad; a dichon ei fod ef wedi bod yn ymwneyd a phrynu shares, ac efallai y geilw hyny yn wladweiniaeth (statesman- ship ). Bydd yn dda genyf, os, pan gyferfydd y Senedd, y gellir rhoddi eglurhad o'r ymdra- fodaeth, yr hon fydd yn hollol foddhaol i'r holl genedl. Ond yn awr y mae un ran o'r siarad yn ystod tymhor y toriad i fyny, at ba y caf alw eich sylw yn neiilduol. Tebygol y cofiwch fod aelod enwog iawn o'r Llywodraeth nid llai person na'r Gweinidog Tramor, wedi treulio ychydig ddyddiau yn ddiweddar, yn ninas Edinburgh, lie y traddododd dair araeth—un o honynt i efrydwyr y Brif Ysgol, at ba un nad oes angen i mi gyfeirio yn mhellach-un o honynt i Arglwydd Uchel- faer Edinburgh a'i gyfeillion, pan gyflwyn- wyd iddo ryddfraint y ddinas, araeth feddyl- iwyf oedd yn synwyrol ar y cyfan, ac yn gall. Ond yr araeth at ba un y bydd i mi gyfeirio yn neillduol, sydd un yn mha un yr anerchai Arglwydd Derby gyfarfod mawr, yr hwn y dywedid ei fod yn gynwysedig o 3,000 o bersonau, y rhai a, elwid yn weithwyr Ceid- wadol dinas Edinburgh. Yn awr, pa un a oedd tair mil yn bresenol ai peidio, nid wyf yn gwybod, ond yr wyf yn amheu fod yno dair mil o weithwyr, canys hyn a wn: pan gymer etholiad cyffredinol le yn Edinburgh nid yw y gweithwyr Ceidwadol gartref (chwerthin.) Ychydig o honoch chwi sydd wedi cael y cyfle i wrando Seneddwr Ceid- wadol yn gwneyd araeth i weithwyr Ceidwad- ol. Pe baech, caect allan yn mha fath an- hawsder yr ydoedd. Buasai raid iddo wadu neu annghofio hanesyddiaeth, a buasai ei araeth gan mwyaf, yn lie hyfforddi ei wran- dawyr, yn ymddangos yn gyffredinol wedi ei bwriadu i'w camarwain. (Rhyw gymaint o gyffro yn nghorff y neuadd.) Yr wyf yn ofni eich bod yn rhy dyn yna i fod yn gysurus. Y mae yn fy ngwneyd yn annghysurus hyd yn nod i'ch gweled, ond gofynaf i chwi fod mor amyneddgar a llonydd ag y gellwch, mewn trefn ag i chwi allu clywed yr ychydig eiriau yr ydwyf ar fedr eu traethu i chwi. Yr oeddwn yn dweyd wrthych am araeth Ar- glwydd Derby i weithwyr Ceidwadol Edin- burgh. Os darllenasoch hi, ac yr ydwyf yn gobeithio i chwi wneyd, cewch ei fod yn gwneyd y sylwadau hyn:—Gofynai, "Paham na fyddai y gweithiwr yn Geidwadol?" ac yr wyf yn ateb paham na fyddai? Ond aeth rhag ei flaen i wneyd rhyw sylwadau anarfer- ol. Ar wladweinwyr poblogaidd nid wyf yn gwybod at bwy y mae yn cyfeirio, yr wyf yn tybied nad oedd yn cyfeirio at eu gyd-swydd- wyr. Dywedai nad oedd gwladweinwyr pobl- ogaidd byth yn rhoddi i un dyn well cyllog- au neu well tai i fyw ynddynt. Gallant yn wir broffesu i symud beiau, o'r fath ag y gall y gyfraith ddelio a hwy, ond pa le y mae y camweddau hyny gyda ni ? Wel, oddiwrth y pethau hyn, y mae yn eglur ei fod yn golygu dweyd fod, mor belled ag oedd a fynai a'r dosbarth gweithiol, un blaid mor dda a'r llall, ac y gellwch fod yr un mor ddedwydd a'r un mor foddlongar dan ddeddfwriaeth a gweinyddiaeth Geidwadol, ag un Ryddfryd- ol. Wel, yn awr, aeth yn mlaen i ddweyd nad oedd gan y gweithwyr yn bresenol ddim trethi i'w talu (chwerthin) oddigerth ar de, myglys, a gwirodydd. Ond ni ddywedodd wrthych fod pymtheng mlynedd ar ugain yn ol fwy na 1200 o bethau ar ba rai y codid trethoedd, ac mai dim ond wedi tair blynedd o ddeddfwriaeth benderfynol yr Anti Corn Law League, ydechreuasant symud y trethoedd hyny a bod, pan ddarfu i Syr Robert Peel fabwysiadu y cynllun o ddiwygio y doll-daflen, pob cam a roddodd yn colli iddo gyfran o ymddiriedaeth y blaid fawr o ba un I yr oedd y pryd hwnw yn arweinydd ac yn weinidog a phan ddaeth at y mwyaf o'r holl nwyddau, sef yd a'ch bara beunyddiol, yna, cwerylasant ag ef yn chwerw a ffyrnig, a gyr- asant ef o'i swydd ac nid oedd gwarthnod na dirmyg, yr hyn na phentyrasant ar ei gymeriad a'i wladweiniaeth (clywch, clywch). Aeth Mr. Bright yn mlaen i'r un cyfeiriad, a phrofodd mai y Rhyddfrydwyr oeddynt wedi rhoddi y bendithion penaf i werin fawr Prydain mewn dilead tollau a stampiau, &c., ac eisteddodd, wedi siarad awr a deng mynud, yn nghanol cymeradwyaeth daranllyd. Anerchwyd y dyrfa hefyd gan Mri. Dixon a Muntz, yr aelodau ereill dros y fwrdeisdref. Cynygiwyd penderfyniad gan Mr. J. S. Wright, ac eiliwyd gan Mr. Thomas, yn diolch i'r aelodau am eu gwasanaeth yn y Senedd, ac yn datgan ymddiriedaeth ddilaesu ynddynt. Cododd Mr. Bell i gynyg gwelliant, yn condemnio ymddygiad Mr. Bright a'i gyd- aelodau gyda golwg ar gwestiwn cynrychiol- aeth uniongyrchol llafur, ond er apeliadau taerion y cadeirydd gwrthododd y cyfarfod ei wrando. "Eiliwyd y cynygiad gan Mr. Osborne yn nghanol cyffro mwy fyth, yr hyn a derfynodd trwy i gorff in awr y dyrfa ganu "Britons never shall be slaves." Cynygiodd Mr. Power hefyd welliant yn gofidio am anweithgarwch yr aelodau dros Birmingham o barthed i gwestiwn Tichborne, ond gorfu iddo yntau dewi, a chariwyd y pen- derfyniad cyntaf gyda bloeddiadau. Atebodd Mr. Bright mewn ychydig eiriau, a therfynodd y cyfarfod wedi diolch i'r cadeirydd.

[No title]

Advertising

-.'--.-Free Emigration to…