Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

Nodiadau Cyffredinol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Cyffredinol. Dynodir y ganrif bresenol fel cyfnod ar- Ibenig yn nadblygiad celfyddyd, yn mha un y gwneir y darganfyddiadau mwyaf pwysig. Peirianwaith a diwygia-dau celfyddydol wedi emll safle artenig; y pellebr, y rheilffyrdd, a morwriaeth, i gyd yn cymeryd eu dyddiad o fewn cof miloedd ag sydd yn fyw heddyw. Anturiaeth fawreddog camlas y Suez yn profi .nad oes dim yn anmhosibl i'w gyflawni gan beirianwyr y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Tyllwyd y Mont Cenis yn llwydrtianus, a thebyg ydyw y gwneir yr un peth a Mont St. Gothard, yn ol y rhagolygon presenol; mae y gwaith yn myned yn mlaen yn llwydd- ianus. Nodir all^n orchwyl newydd arall, sef gwneyd tramwyfa danforawl o dan y cyfyngfor Prydeinig, er gwneyd y cysylltiad yn agosach rhwng Lloegr a Ffrainc. Byddai tramwyfa o'r fath yn gafFaeliad mawr i deith- wyr, a gallant drwyddo osgoi clefyd y mor, heblaw gwneyd cyfleusderau masnachol rhwng I- y ddwy wlad yn fwy hwylus a clymunoi. Dyna ddau bwynt neillduol, a'r pwnc nesaf ydyw, a ellir gwneyd i'r anturiaeth dalu drwy gael y derbyniadau i gyfateb y treuliau. Pe gellid llwyddo i wneyd amcan-gyfrif o'r arian a dderbynid oddiwrth gludiad teithwyr a nwyddau, fe fyddai yn hawdd wedi hyny weled a fyddai y derbyniadau yn ateb y treul- iau. Yr amcan-gyfrif o'r draul ydyw deg miliwn ar ugain, ond ni wyddis a fydd hyny yn' cymeryd i mewn bob treuliau o gadw pob peth mewn trefn i weithio. Oes y gystadl- euaeth ydyw yr oes bresenol, ac yn ol pob tebyg yn awr, y bydd i'r sawl a fydd byw i weled terfyniad y ganrif, y bydd eto lawer o bethau rhyfedd wedi cael eu cyflawni. Gall y codir gwrthwynebiad i'r cynllun, rhag dygwydd i annghydfod dori allan rhwng y wlad hon a galluoedd y Cyfandir, ae y byddai y llwybr tanforawl yn niweidiol i Brydain o dan y cyfryw amgylchiadau. Pan mae gwell- I:ly iantau o'r fath yn cymeryd lie, nid oes ond gobeithio fod dyddiau rliyfel wedi eu rhifo yn y gorphenol, ac na chlywir mwyach wer- yriad y march nwyfus a tharandrwst y mag- I A nelau ar faesydd y gael. Cylymwyd y Werydd a'r Tawelfor gan ddolen gydiol o reilffyrdd dros gyfandir hir- faith o dair mil o filldiroedd, a dysgwylir y gwneir anturiaethau pellach fiewn ymchwil- iadau dros ororau eangfawr Arizona a chym- ydogaethau ereill yn ac o amgylch glanau y Tawelfor. Y darganfyddiadau dyddiol a wneir gan deithwyr anturiaethus i ganolbarth Affrica, gyda'r hynt i for y tJogledd, a ddug i ni newyddion dyddorol fod y ddaear wedi ei gwneyd er mwyn y dyn, yn un banlawr cyfoethog, fel y byddo yn gysurus a dedwydd tra yn trigfanu yn mhlith bodau isloerawl. Coleddir gobeithion cryfion yn yr Amerig am agoriad buan i aur dyrau y Bryniau Duon, yn mha le yn ol tystiolaeth teithwyr, y mae mwy o aur yn gorwedd yno nag a welwyd erioed yn Awstralia a Chaliffornia. Dadl fawr y dyddiau presenol ydyw, pa un gwell gweithio ar gyflog wrth y dydd neu ynte trwy gytundeb penodol, sef cael pris yn ol mesur neu bwysau y gwaith a gyflawnir. Myn rhai ddadleu nad yw gweithio ar gytun- deb yn rheol deg a chyfiawn rhwng dyn a dyn, am y byddai y drefn hono yn niweidiol i'r cyffredinolion. Arall a fyn ddadleu fod gweithio ar gytundeb yn onest a chyfiawn, am fod y dull hwnw yn dangos rhagoriaeth y naill weithiwr ar y llall, ac na ddylai y dyn annghelfydd dderbyn yr un gyflog a'r celfydd- ydwr medrus a chyfarwydd. Pan fyddo dyn wedi treulio dyddiau a blynyddoedd i ddysgu celfyddyd, a thrwy ddyfalbarhad chwilio allan y dirgelion a berthyn i'r. cyfryw gelfyddyd, nid cynawn gosod y difater a'r annghyfar- wydd ar yr un tir ac i dderbyn yr un faint o gyflog; os gwneir hyny, nid yw bod yn weith- iwr cywrain yn un fantais o gwbl. Mae y dyn diwyd a gonest yn fwy o werth i gym- deithas na'r musgrell a'r diymgais, am nad yw yr olaf yn teimlo y- clyddordeb a ddylai yn y byd yn gymdeithasol a masnachol. Os rhaid i'r mortis, fel y gwr annghelfydd a diwerth, fod yn ddarostyngedig i'r un rheol- au, mwy na thebyg ydyw yr a pob peth yn fasnachol i ddirywiad buan, am fod y cyfryw reol yn annghyfiawn a niweidiol. Y safon decaf ydyw talu pob dyn ol ei deilyngdod, ac wrth fesuriad y gwaith a gyflawna wrth reol cyfiawndev. Mae masnach forawl Prydain yn dyoddef yn erwin oherwydd diffyg dynion da yn gwybod y-gelfyddyd o forio, a phan gyflogir pob math fel morwyr cyfarwydd, wedimyned allan o'r porthladd mae y gwaith yn disgyn ar y cyfarwydd; o ganlyniad, nid teg i'r gwr nad all rhedeg i fyny i'r hwylbren i drefnu .a gosocl yr hwyliau i dderbyn yr un gyflog a'r sawl fyddo yn alluog i wneyd. Daw yr un egwyddor i bwyso yn mhob cysylltiad .wy mewn celfyddyd a gwaith. Mae yr egwyddor o osod pawb yn gydradd yn annghyfiawn a chythreulig, ac nid yw y sawl a gefnogant y cyfryw reolau ac egwyddorion yn ddim am- gen na dynion am ddifetha masnach y wlad, a dinystrio cysuron cymdeithas y cyfryw ag sydd yn alluog i wneyd diwrnod teg o waith am gyflog teilwng fel ad-daliad. Dylai y pwnc hwn gael ei drin yn helaeth er mwyn y werin, yn gymaint a bod dwy ochr i'r ddalen yn y mater hwn fel pob mater-' ion ereill. Carwn weled rhywun cyfarwydd yn ymaflyd yn y pwnc, a benclithio y darllen- wyr Cymreig ag ychydig lythyrau arno, rhag i neb gael ei gamarwain mewn adeg pan mae cymaint o gyffro yn y wlad a dadleu rhwng dynion a'u gilydd ar bwnc cyfalaf a llafur. A gaf fi ofyn i'r Cadlywydd barddol o'r Glyn am roddi i ni erthygl ar y pwnc yn y GWLADGARWR.—Yr eiddoch, NAI 'RHEN DDYRNWR.

LLANDDOWROR, SIR GAERFYRDDIN.

DERI.

LLANDILO.

-PONTARDAWE.

BWRDD YSGOL I BLWYF LLANDILO.

.ALLTWEN.

CEFNCOEDYCYMER. j

[No title]

Advertising

YR OERNI YN SIBERIA.

BRATHIAD ANGEUOL YN DEAN FFOREST.

TREHERBERT A'R AMGYLCHOEDD.

[No title]

LLANELLI. !

Lli YSTALYFERA. ,,,ê.,1Áq-

[No title]