Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
Eisteddfod Treherbert.
Eisteddfod Treherbert. BEIRNI A.D AETH AR Y CYFANSODDIADAU BARDDONOL. Cywydd ar "Abraham yn Offrymu Isaac." Daeth tri o gywyddau i law ar y testyn hwn, sef eiddo "Hanesydd yr hen oesau," Ap Aled," ac Awel o ben Moriah." Hanesydd yr hen oesau.—Dengys y bardd hwn allu i gynghaneddu, ond arddengys raddau o ddiffyg i ddethol geirian priodol. Dylasai ddethol ymadroddion rhagorach na rhai fel hyn:—" Mab braf, o groth addewid," i Aden wreng," "Bryndir bra," "-Moel off- rymu," &c. Tybiwn nad astudiodd berseinedd ■cyfansoddiad; oblegid tora benau ymadrodd- ion, a tholnoda eiriau yn dra anmhersain. Gallem dybio mai ychydig o sylw a roddodd i gynlluniad a gweithiad allan ei Gywydd; canys nid yw y naill na'r llall yr hyn a ddy- lasent fod. Os cymer y bardd hwn addysg oddiwrth y pethau a grybwyllwyd, gall ddyfod yn awdwr gioew. Ab Alecl.-Rhagora." Ab Aled" ar "Hanes- ydd y r hen oesau yn ei iaith, ac yn llithrig- rwydd ei gyfansoddiad; ond ni ragora fawr arno yn nghynlluniad ei waith: canys dilyn hanesiaeth y testyn y mae o'r dechreu i'r diwedd. Cofied" Ab Aled nad yw pwyntiau hanesyddol testyn i fod ond megis cyfeirnodau i'r awen weithio wrthynt. Heblaw hyn, bu "Ab Aled" yn esgeulus i gadw y mesur, fel y dengys y llinellau hyn:— "Am brifair, lym brofL "-6 sill. "Holltodd goed heb wylltu."—6 sill. Nid diffyg gallu sydd yn y bardd hwn, ond diffyg gofal wrth roddi ei allu ar waith; ac oherwydd hyny, ymddengys ei waith yn ym- ddifad o urddunedd barddonol. Aioel o ben Moriah.—Cywydd da yw hwn. Mae ei gynllun yn wych, ei iaith yn goeth, ei gynghaneddiad yn dlws, a'i syniadau yn farddonol. Heblaw hyny, deallodd y bardd hwn beth oedd nod angen ei destyn, sef profi ffydd Abraham, ac y mae yn dal y prifnod hwn yn deg o flaen llygaid y darllenydd; ac y mae hyn yn un o ben campau pob bardd llwyddianus. Barnwn fod y cywydd hwn yn un o brif emau Eisteddfod Treherbert, y flwyddyn hon; ac y mae ei awdwr awenyddol yn gwir deilyngu y wobr. Englyn y Bryniau. I Derbyniwyd pump-ar-ugain o englynion i'r bryniau Pen-bwlch-careg," "Pen-bwlch- Gwion," "Pen-bulwgan," a Pen-pych." Y mae yr holl englynion yn lied lan oddi- iwrth feiau cynghaneddol; ond anefir un neu ddau o honynt a'r bai a elwir tor mesur. Cynganeddir enwau y bryniau yncldynt oil, ond y mae y naill a'r llall yn dra ymddifad o farddoniaeth y bryniau. Y mwyaf di-dram- gwydd, efallai, yw eiddo "Goronwy;" ond nid ydyw ynfau yn agos i'r peth y dylasai fod. Mwy o egni y tro nesaf, anwyl feirdd. Pryddest ar yr "Efengyl." Daeth pump o Bryddestau i law, sef "Idwal Llwyd," "LIef Geiriau," "Crediniwr er ys talm ynddi," "Credadyn," ac "Esay mab Amos." Idwal Llwyd. —Dechreua "Idwal Llwyd ei bryddest mewn eidduniad am ysbryd yr Efengyl i'w alluogi i ddadlenu cyflwr truenus y byd trwy bechod, ac i arddangos ei adferiad gogoneddus drwy yr Efengyl. Wedi hyny symuda yn mlaen i son am ddyfodiad pechod i'r byd, ac i ddesgrifio ei effeithiau dinystriol ar ddynolryw. Dyry ddesgrifiad o'r byd yn ei gyflwr o eilunaddoliaeth, ac o'r dylanwad oedd gan y gauathrawon arno. Ar ol crybwyll am y fagddu oedd yn toi y bobloedd, desgrifia wawr nefolaidd yr Efengyl yn dyfod i'r golwg, 0 "ac haul y cyfiawnder yn ymddyrchafu, gan ledaenu ei oleuni tros y byd. Diwedda ei bryddest yn yr ymsyniad melus o lwyr ddy- .chweliad y byd at Dduw. Mae llawer o gein- ion yr awen yn britho y bryddest hon ond buasai y gwaith yn llawer gloewachpe cymer- asai yr awdwr fwy o ofal gydag ambell air a ffigyr. Dymunol hefyd fuasai cael mwy o eneiniad yr ysbryd drwy y gwaith, o herwydd .cyfansoddiad lled sych ydyw ar y cyfan. Lief Geiriau. —Dengys y bardd hwn lawer .0 athrylith farddonol, ond ni bu yn ddigon gofalus i wneud y defnydd goreu o'i athrylith y tro hwn. Y mae ol brys mawr ar ei gynllun ac ar ei ffigyrau. Dechreua trwy ddesgrifio trueni y byd cyn ymddangosiad y Gwaredwr vnddo. Wedi hyny crybwylla am ymddan- gosiad yr angylion i'r bugeiliaid, ac am eu hysbysiaeth o enedigaeth Crist. Ar ol hyn cawn ddesgrifiad o fywyd, marwolaeth, cladd- edigaeth, adgyfodiad, ac esgyniad Crist ar .Y ddcheulaw Duw a diwedda trwy ddarlunio dylanwad yr Efengyl ar y byd. Dysgleiria llawer o feddyliau barddonol drwy y bryddest; .ond y mae pethau ereill yn ymddangos fel yn ,cymylu ei dysgleirder; megys tywyllwch moesol y byd Yn ymollwng megys hunllef drom ar fron rhyw blentyn collfarn," Angel cryf a fagwyd yn y Nefoedd," "Llyncwyd Iesu gan y Nefoedd," "Nerthu ffydd i fwrw angor i fynu i'r graig sydd yn y Nef," &c. Gallasai y bardd gael desgrifiad llawer gwell o'r tywyllwch moesol oedd ar y byd na dywed- yd ei fod fel "hunllef." Ni chlywsom erioed son am faban o angel yn cael ei "fagu" o'r blaen. Onid creu angylion yn eu llawn faint a wnaeth Duw? Tra gwrthwynubus i'n chwaeth ni ydyw "Llyncwyd Iesu gan y Nefoedd." Buasai derbyniwyd, neu dyrchaf- wyd, lesu gan y Nef oedd, yn llawer addasach, debygem ni, na "llyncwyd." Y mae "Bwrw ,an r0r i graig" hefyd yn bradychu anwybod- aeth yr awdwr o forwriaeth, oblegyd nid i oreigiau y bydd y morwyr yn arfer bwrw eu han°orion, ond i glai-waelodion y moroedd. Y mae pethau fel hyn, a'u cyffelyb, yn llychwino gloewder y bryddest, ac yn ar- ddangos yn eglur na chymerodd yr awdwr amser i goethi ei waith cyn ei anfon i'r gys- tadleuaeth, ac o herwydd byny mae ei waith yn ymddangos yn anorphenol. Crediniwr er ys talm ynddi.-Dosbarthodd y bardd hwn ei bryddest i bedair o ranau. Tybiwn iddo gymeryd llawer o drafferth i gynllunio ei waith; ond annghofiodd roddi lie i waith yr Ysbryd Glan ynei gynllun, yr hyn sydd yn ddiffyg dirfawr yn ei bryddest. Bradycha yr awdwr hwn ddiffyg chwaeth dirfawr yn ei ddewisiad o eiriau a ffigyrau. Mae ganddo "Boeri gwawd," "Angylion y herclwffaidd," "Angylion feI cregyn," "Gau- grefyddau drewllyd dyn," "Aflendid yn ffoi fel dylluanod, &c. Pryddest wyllt ydyw hon, ac yn arddangos fod yr awdwr yn ym- ddifad o farn aeddfed a chwaeth bur. Os ail ddarllena yr awdwr ei bryddest yn ystyriol, fe wel ein bod yn gywir yn ein barn ami ac os hoffai ymddyrchafu fel bardd, efe a gymer addysg i fod yn fwy gwyliadwrus o hyn allan. Credadyn.—Ceir llawer o farddoniaeth yn y bryddest hon ond nid yw ei chynlluniad yn agos i gymesur. Treulia yr awdwr ormod o amser i ddarlunio pethau amgylchiadol i'r testyn,—megys Eden Ardd, y Diluw, Dinas- oedd y gwastadedd, yr Aipht, y Mor Coch, Sinah, yr Anialwch, Cwymp Jericho, &c. Y mae hefyd yn ail-adrodd yr un pethau, yr hyn sydd yn distrywio trefn a dosbarth y cyfansoddiad, ac yn arddangos na chymerodd yr awdwr ddigon o ofal wrth gyfuno ei waith' Dylasai dalu mwy o lawer o sylw i gyfunedd Ily a chydbwysedd cyfansoddiadol, a dylasai gymeryd mwy o ochelgarwch wrth wisgo ambell feddwl; pe gwnaethai hyn, buasai ei bryddest yn grynhoach a dillynach, ac yn debycach o gyraedd y nod. Esay mab Amos.—Diau fod llai i'w ddy- wedyd yn erbyn y bryddest hon na'r rhai blaenorol. Mae ei chynllun yn gyflawnach a chrynhoach, a'i weithiad allan yn well. Mae ei hiaith a'i syniadau yn addasach i'r testyn, ac arddengys lawer mwy o addfedrwydd barddonol. Y mae yr eneiniad santaidd yn tyneru yr holl bryddest, ac arddengys fod yr .Y awdwr wedi yfed yn helaeth o ysbryd yr Efengyl. Ond nid yw y bryddest hon y peth y dymunasem iddi fod, ar y fath destyn gogoneddus; ond hi yw yr agosaf i'r nod, ac oherwydd hyny, i awdwr hon y dyfarnwn y wobr.—Yr eiddoch yn bur, HWFA MON.
CAERFFILI.
CAERFFILI. CYNGHERDD.-Nos Fercher, lonawr 26ain, cafwyd cyngherdd yn Ysgoldy Cenedlaethol y lie hwn, gan yddwyMiss Lewis, Caerdydd, (merched Eos Ebrill,) Mr. Corbett, Caerdydd. Yr offerynwyr oeddynt, ar y berdoneg, dwy ferch fach tua deg oed, plant Mr. Atkins, organydd eglwys St. loan, Caerdydd. Y telynor oedd Mr. W. T. Barker, Caerffili, mab Mr. Barker, ysgolfeistr o'r lie hwn. Gwnawn rai sylwadau ar y gwahanol berfform- iadau, fel y teimlem ar y pryd. Agorwyd y gyngherdd a deuawd ar y berdoneg gan y ddwy eneth fechan, "Jubel Overture" (Weber). Cyfansoddwyd hwn i un o uchel- wyliau Germania, yn terfynu yn yr Anthem Genedlaethol." Yr oedd y plant bach yn chwareu gyda chwaeth bur, ac yn hynod o feistrolgar. Y nesaf oedd Can gan Gertrude Lewis, mewn llais tyner a phur. Nid oeddem yn hoffi y tremolo ar y chwyddnodau ganddi, "nid da gormod 0 ddim." Canodd y fonedd- iges hon dair gwaith, ond nid oedd ei cliynan- iaeth yn ddigon eglur. Y mae ganddi lais melus a chwmpasog. Canodd ei chwaer, Jenny Lewis, yn hynod o deiniladwy a gafael- gar, "The meeting of the waters." Y mae Ilais contralto hyfryd gan y foneddiges hon, yn llawn o'r peth byw sydd yn goglais tanau tvner vr enaid. Cawsom ein boddhau yn fawr yn ei dull diymhongar ar yr esgynlawr. Yr oedd arddull Mr. Corbett yn goethedig, ond nid yw yn feddianol ar lais melus. Can- odd "The Yeoman's Wedding Song" er boddhad. Cawsom ddau ddeuawd gan Mr. a Mrs. Barker yn dda iawn, acun deuawd gan Mr. Barker a Miss Kate Jones yn swynol. Cafwyd dwy gan bedgir rhan yn bur dda hefyd. Un o'r pethau goreu oedd chwareu yr eneth fechan ar y berdoneg, un o sonatas Beethoven, efelychiad o'r gwyntoedd gog- leddol. Yr oedd rhuadau y gwyntoedd ar y nodau isaf yn rhamantus a chynhyrfus, a'r awelon ar y nodau uchaf yn brydferth a dar- luniadol iawn. Parhaodd perfformiad y darn hwn tua chwarter awr, ac nid oedd eich gohebydd wedi blino gwrando ar y fath ddesgrifiad godidog. Cawsom ddau ddarn campus ar y delyn gan yr hogyn bychan Tom Barker. Nid ydym yn petruso dweyd mai dyma yr arddangosiad mwyaf o dalent gerdd- orol a welsom erioed. Yr oedd chwareuad yr "Harmonious Blacksmith" (Handel) yn wir effeithiol. Chwareuai gydag eglurder a phurdeb yn ngwahanol symudiadau efelych- iadol y darn swynol hwn. Ond y darn a'r mwyaf o display ynddo oedd, "Nel co piu" (Bocsha), (Hope told a flattering tale). Yr oedd yn y double harmonies mor feistrolaidd a goreuon ein telynorion Cymreig. Yr oedd ei glycandos a'i appojiaturas yn ogleisiol. Yn wir, y mae yn dreat i glywed y crwt hwn yn chwareu ar y delyn. Nid yw ond unar- ddeg oed, ond medr chwareu darnau o weith- iau Chatterton, Pencerdd Gwalia, Dusseck, Alvers, &c. Yr ydym yn dweyd hyn er mantais i bawb fynu ei glywed, a barnul drostynt eu hunain. Yr oedd yr elw yn myned i drysorfa yr eglwys newydd sydd i gael ei dechreu y Gwanwyn dyfodol. Y TwR CAM.
BWRDD YSGOL LLANDILO.
BWRDD YSGOL LLANDILO. Fel yr awgrymwyd yn y GWLADGARWR diweddaf fod naw wedi eu cynyg i fod yn aelodau i'r Bwrdd uchod, pan nad oedd ond lie i saith; pedwar gan yr Annghydffurfwyr a phump gan yr Eglwyswyr. Er mwyn osgoi etholiad bu yr Eglwyswyr mor foneddigaidd a thynu daU allan; felly, y personau canlynol ydynt yr aelodau am y tair blynedd nesaf:— Arglwydd Dynefwr, (E.); Syr J. Mansel, (E.); Mri. D. Pugh, (E.); John Lewis, Gurry Manor, (A.); Daniel Bevan, Twynboli, (A.); David Bowen, Llandilo, (M.); M. Davies, Cwmifor, (B.) Y personau dynodd yn ol oeddynt Mri. Rees Davies, Maesyffynon, a J. Morgan, Aman Inn, Cwmaman. Y mae y personau hyn i'w canmol am hyny, lhag taflu cost a thrafferth i'r ])hvjiolion.Bendigo.
PENTYRCH.
PENTYRCH. Mae genym y gorchwyl pruddaidd o gof- nodi marwolaeth un arall eto o'r rhai a. niweidiwyd yn Nhanchwa Pentyrch, sef Shadrach Davies, Gwaelod-y-garth, yr hyn a. wna swm y marwolaethau yn ddau-ar- bymtheg. Bu farw dydd Mawrth, Ionawr 25ain, yn 38 oed. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod selog gyda'r Annibynwyr yn Beth- lehem, ac yn un o ffyddloniaid yr Ysgol Sabothol yn y lie. Gadawodd weddw a nith amddifad i alaru ar ei ol. Y dydd Sadwrn. canlynol ymgynullodd tyrfa luosog i weini y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Gwas- anaethwyd ar yr aclilysur yn y ty gan y Parch. M. C. Morris. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys hynafol Pentyrch.-Ioan. Araid. •
CWMBACH.".,/'\';:1.
CWMBACH. /1. BRYN SEION.—Rlioddwyd cyngherdd gan. Gor yr Aelwyd, o'r America, yn y lie uchod, Nos Fawrth, Ionawr 25ain, 1876. Yr oedd yn dda gan ein calon weled y capel mor llawn o wynebau siriol ynr croesawu eu hen gyfaill E. T. Davis yn ei hen gartref, lie y bu yn canu am flynyddoedd cyn myned i'r America., Yr oedd Mr. Davis wedi enill iddo ei hun. enw da fel cerddor pan oedd yma o'r blaen, Ond yn awr yr ydym wedi ein synu wrth. glywed y fath dalent gerddorol gan dri o'r un teulu. Canasant am ddwy awr o amser heb un cynorthwy gan neb nes synu pawb. Mae Lizzie fach, sef Eos Ohio, wedi enill iddi gan- oedd o gyfeillion newydd yn y lie hwn trwy ei thalent gerddorol. Llywyddwyd y gy- ngherdd gan y Parch. J. Morgans, y gwein- idog.-Homo.
CWMLLYNFELL.
CWMLLYNFELL. Da genyf hysbysu, drwy gyfrwng y GWLAD- GAmVR, fod glofa y lie uchod wedi dechreu-. gweithio, a'n bod fel gweithwyr wedi dyfod i gyturrdeb heddychol a'n meistr ar bwnc y gostyngiad dydd Llun, Ionawr y 24ain, sef derbyn telerau y Bwrdd Cymodol. Bu yma ami i strike faith yn y goiphenol, ond gobeithiwn y gallwn fyned yn mlaen yni:- hwylus yn y dyfodol hebddynt. I I W. D. DAVIES.
'"- SCI*EN.;
SCI*EN.; Nos Iau, Ionawr 20fed, cynaliwyd cy- ngherdd mawreddog yn Nghapel y Tabernact.. y lie uchod. Am haner awr wedi saith ok"" gloch, cyjnerwyd y gadair gan E. Maddock, Ysw.; ac wedi cael araeth fer ganddo, deehreuodd alw y personau canlynol at en gwaith: Lewis Arnold, Castellnedd; Miss Elinor Rees, Castellnedd William a John. Thomas, Llansamlet; William Samuel, Tre- foris; Eos Morlais, a chor y lie (dan arwein- iad Gwilym Richards). Aeth pawb trwy eu gwaith yn ganmoladwy, ac. i foddlonrwydd y dorf luosog oedd yn nghyd, yn neillduol y ddau frawd o Llansamlet, Eos Morlais, a'r c6r. Mae!r côr hwn roewn sefyllfa, oBeithiol iawn yn bresenol, ac y mae wedi bod yn brwydro a phrif gorau yr ardaloedd yn ddi- weddar (o'r un gynulleidfa), a ellael rhan o'r ysbail hefyd. Mae hyn yn siarad yn uchel am athrylith gerddorol a medrusrwydd ar- uchel eu harweinydd galluog, oherwydd fod cor mor ieuanc ac anymarferol—heb fod yn cystadlu ond rhyw bedair o weithiau—wedi cyrhaedd saflemor uchel mewn eystadleuaeth. Buwyd mewn tipyn o drafferth gyda chael perdoneg at wasanaeth y gyngherdd, ond cafwyd benthyg un gan y barda a'r llenor gobeithiol Crumlun, Llansamlet. Yr oedd cynyrch y cyngherdd yn myned i dalu treul- iay gas i'r capel.—Llew Llivyd.
DOLGELLAU. 'Id-Tr
DOLGELLAU. 'Id-Tr Bu cyfarfod misol yma dro yn ol yn nghapel Salem, a'r prif bregethwyr heblaw y rhai oedd o'r sir ydoedd Parchn. J. J ones, Rhosllanerchrugog; J. Lewis, Caerfyrddin, (Homo Ddu.) Mewn canlyniad i'r cyfarfod hwn ymunodd puuip .a'r eglwys. Gwelir wrth hyny fod min ar y weinidogaeth. Bu cyfarfod dirwest yn nghapel y Wesley- aid, ar yr 17eg cyfisol, a'r Parch. J. Williams, (Bt) oedd prif ddyn y cyfarfod hwnw. Bu yn foddion i enyn rhai o'r Temlwyr Da, ac y maerhai o honynt yn meddwl mai Temlydd- iaoth neu cldirwest yw yr Efengyl a dim yn. rhagor. Bu tafarnwr mor anRbrtunus a chael ei ddirwyo i 5p a'r costau am werthu diod yn. anamserol, a dirwywyd dau o'r yfwyr i 12s. yr un a'r costau. Bu y Trefnyddion Calfinaidd yn cydben- derfynu ailadeiladu capel newyddfashio-nable, digon eang i gynwys tua 400 o wrandawyr. Gosodwyd yr ysgol uwchraddol i'w hadeiladu am. y swm o 2,09Cp i Mr. R. Jones, Arthog. -Hanesydd. J.. 1'<1 ¡
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. Dydd Iau wythnoB i ddoe, anrhegwyd y Parch. J. W. Williams, gweinidog y Bedydd- wyr Seisnig o'r lie hwn, a thysteb. Cafodd Mr. Williams filwad yn ddiweddar oddiwrth. eglwys yn Abertawe, ond llwyddwyd i'w gadw yn Mountain Ash. Cymerodd yr an- rheg le yn Nazareth, pan yr oedd yn bresenol Dr. Price, Aberdar, ac amryw weinidogion ereill. Anrhegwyd Mr. Williams a ffon hefyd gan Mr. D. James, Navigation Hotel, a chafodd Mrs. Williams ei hanrhegu amodrwy aur.
[No title]
Ni CHBDWIR HWVNT.—Y mae y cyhoedd YA cael eu rhybuddio yn erbyn peii-ianau gwnior had- lawn ac o wneuthuriad g^vael, y rhai yn fynych a argymellir ar y pryuwyr oherwydd yr elw mawr » geir, rhagor rhai o wneuthuriad da., am bris rhes- ymol; y rhai ni chedwir ganddyn,t, ac yr ydym yn anog prynwyr i fynu gweled Taylor's Patent, a phan iui chcdwir hwynt, anfoner am y darlunlen at I\AYLOB!S PATENT LSKWING MACHINE COMPANY, Great Driffield, neu 97, Cheajpside London. '2S.C. » V
COR YR AELWYD.
COR YR AELWYD. BETHESDA, ABERCWMBOY.—Nos Lun, y 24ain o'r mis diweddaf, cynaliodd Cor yr Aelwyd, yr hwn sydd yn gynwysedig o dad a dwy ferch, gytigherdd ardderchog yn y capel uchod. Aethpwyd i gapel y Bedyddwyr trwy ganiatad caredig y brodyr yno, gan fod capel yr Annibynwyr yn cael ei ail adeiladu. Llywyddwyd gan y Parch. D. R. Davies, gweinidog yr Annibynwyr, yn ddoniol a deheuig. Aethpwyd trwy programme am ry w- iol o ugain o ddarnau, gyda dau ddarn ychwanegol. Clywsom am y Cor hwn o'r blaen, a gwelsom gymeradwyaeth iddo yn y Drych Ameiicanaidd, ond yn sicr ni fyneg- wyd dim o'r haner. Y mae galluoedcl can- yddol y tad a'r ddwy ferch, yn neillduol y fechan deudde? oed yn nodedig; a rhodd- asant fwy na boddlonrwydd i bawb oedd yn nghyd. Yr elw tuag at osod y ferch ieuengaf yn Mhrifysgol Aberystwyth, a deallwn y bwriadant gynal rhes o gyngherddau yn y wlad i'r un perwyl. Yr ydym yn anog pawb trwy siroedd y Deheudir i fynu eu clywed, ac yr ydym yn sicr nad edifarant. Deallwn fod y tad wedi bod yn flaenor y ga,n yn Mryn Sion, Cwmbach, am flynyddau lawer ac am yr un flynedd ar bymtheg ddiweddaf, yn Mineral Ridge, America. Y maent yn wir deilwng o gefnogaetli,—Gohebydd.
HYN A'R LLALL 0 GWMLLYNFELL.
HYN A'R LLALL 0 GWMLLYNFELL. Anfynych y cofnodir yn y newyddiaduron helyntion y Cwm henafol hwn?fel y gwneir a chymoedd ereill sydd o bosibl yn llai eu pobl- ogaeth, a dichon fod llawer yn barod i ofyn yr achos o hyhyma. Nid am nad oes yma ddygwyddiadau gwerth eu cofnodi, ac nid am nad oes yma fechgyn digon galluog i wneuthur pwt o lythyr pan fyddo galw am hyny; ond y gwir am dani yw, fod difaterwch wedi ym- daenu fel llwydrew dros y bobl, fel nad oes yma neb yn meddwl am y fath beth. Bwriad- wyf ymysgwyd o'r llwch, ac i roddi goreu y medraf ychydig o hanes y lie hwn yn awr a phryd arall yn y GWLADGARWR, fel na byddo yr ardal hon yn ol i ardaloedd ereill. Y GWEITHFEYDD.—Y mae glowyr Hen- dreforgan Colliery wedi dyfod allan a'u hofferynau gan fod y meistri yn gomedd syrthio i delerau y bwrdd, ond gobeithiwyf y bydd iddynt ddyfod i gymod a'u gilydd ar fyrder, fel na chaffont eu cyhuddo o fod yn mynwesu yr henfwystfiles a adnabyddir wrth yr enw strike. Y mae gwaith glo Brynhen- llusg yn dra llewyrchus. Nid rhyw lawer o amser sydd er pan y dechreuwyd myned i chwilio am y "cawr du" yn y fan hon o'r ddaear ond yn awr, y mae yno ugeiniau yn enill eu bara beunyddiol wrth y mandrel. Llwyddiant ddilyno ymdrechiori y Welsh Company. Glofa Owmllynfell ydyw yrun ag yr ymddibyna yr ardal hon fwyaf arni ac er cysur i'r rhan luosocaf o'r ardalwyr, y mae yma argoelion llewyrchus iawn. Yn ddi- weddar, bu pen y pwll o dan adgyweiriad; a thrwy hyny, arosodd y lofa am dair wythnos, ond y mae wedi ail gychwyai eto, a hyny yn ol telerau y Bwrdd Cymodol. Y mae clod yn ddyiedus i'r arolygwr (Mr. John Hay) anlY gwelliantau dirfawr y mae wedi wneuthur yn ac oddiamgylch i'r gwaith hwn, ac am ei ym- drechion difiino o blaid meistr a gweithiwr. Nid oes ynddo ddim o'r ysbryd treisiol a gormesol, ond ymddyga bob amser yn deilwng o'r dyn. Dangosodd gydymdeimlad mawr tuag at hen weithwyr, pa rai oedd wedi cael eu troi allan fel pethau diwerth gan arolyg- wyr dideiinlad, drwy roddi iddynt orchwylion y gallant yn hawdd eu cyfiawni yn eu hen ddyddiau. Y mae gweithredoedd fel hyn yn siarad yn uwch na geiriau'am rinwedd- au ein harolygwr. CYFAEFOD LLENYDDOL HYNOD.—Cynal- iwyd ef prydnawn dydd Mawrth, Ion. 25, yn v New Mountain Hare gan weithwyr Cvvmllynfell, fel arwydd o'u llawcnydd, meddent hwy, am gael adclewid o ddechreu gweithio dranoeth yn ol telerau y Bwrdd. Clywais fod yno areithio brwd ar wahanol destynau, yn nghyd a gwobrwyon teilwng mewn llestri pridd. Diau y byddai croniclo manylion y cwrdd hwn yn destyn galar neu lawenydd i bob copa walltog. Fy nghyd- weithwyr, pan y byddoch yn teimlo awydd i gynal cyfarfod llenyddol, eto, carwn i i cliwi ddewis rhyw le gwell nag un o syna- gogau i acehus i wneuthur hyny.-Givalch Bryn ()■ r.
[No title]
BREAKFAST — EPPS'S COCOA. — GHATEFUL AND C'OMFOBTING.—"By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of diges- tion and nutrition, and by a careful application of the fine properties of well selected cocoa, Mr. Epps has provided our breakfast tables with a deli- cately flavoured beverage which may save us many heavy doctors' bills. "Civil Service Gazette. Made simply with boiling water or milk. Each packet is labelled—" James Epps and Co., Homoeopathic Chemists, London. L332 ENAINT HOLLO WAY.—Yn awr pan y mae y flwyddyn yn troi, doethineb fyddai ceisio gwella unrhyw glefyd a all fod yn y corif, yn enwedig y sawl sydd yn d) oddef oddiwrth glwyfau a chle- fydau cyffelyb, ac os esgeulusirpwy a wyr y can- lyniadau all ddilyn. Bydd yr Enaint hwn yn sicr o'u gwella yn drwyadl. 11 mae yn glanhau y clwyfau, ac yn tynu y drwg allan o'i wraidd, ac yn adnewyddu lechyd perffaith. Drwy rinwedd di- gymar yr Enaint hwn, iacheir y coesau clwyfus, hyny yn hollol. Yr oedd y fath obaith i'r claf jrn annghymeradwy yn yr amser gynt.
BRYNAMAN.
BRYNAMAN. Cafwyd wythnos ryfedd yn Brynaman yr wythnos ddiweddaf, sef "can mlynedd" a rhagor mewn tair noson. Cafwyd y Y can' mlynedd diweddaf," gan Ap Vychan, a chred- wn y bydd son am dani am y can' mlynedd, nesaf. Hefyd, pregethodd, a bu yn areithio ar ddirwest, a chafodd gynulliadau nad yn fynych mewn can' mlynedd y gwelir eu bath. Yr oedd yn hyfrydwch o'r iawn ryw i eistedd i wrando yr hen Ap yn dweyd ei feddwl mor ddidaro, eto mor gryf mor daw el, ac eto mor nerthol; yr oedd mor ddidrafferth, mor ddiofn, ac mor ddigyffro a phe buasai yn y byd er ys llawer ychwaneg o amser na chan' mlynedd. Iechyil oedd cael Ap Vychan,—i'r wyl fawr I le fel Brynaman Y'mha un ceir ei ail mewn "can' Mlynedd ? "—neb mai ei hunan! Yr oedd cynyreh y ddarlith i gynorthwyo dau fachgen o'r lie i gael ysgol, er eu parotoi hwythau i fyned i bregethu; ac y mae yn ymddangos—wedi y can' mlynedd diweddaf— na fydd yn debyg j gwelant eisieu am y can' mlynedd nesaf. Cafwyd dau Gyfarfod Chwar- terol yr Ysgol Sul hefyd, bob pen i'r wythnos yma, ac yr oedd adfywiad, bywyd, bias, a swn jiwbili yn y rhai hyn. Gobeithio y gwelir ol y siarad ar galon yr ardal, ac y bydd crefydd a sobrwydd yn blodeuo wedi y trin a'r gwr- teithio yma.—Brodor.
LLANELLI. ;
LLANELLI. BRYN. —Oynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie hwn nos Sadwrn, Ionawr 22ain. Trodd allan yn llewyrchus iawn. Beirniadycanu oedd Mr. Bassett, Llanelli; y traethodau, y farddoniaeth, &c., Mr. D. Williams, Halfway; y samplers, Miss ThomaSj Brynffynon. Enill- wyd ar y gwahanol destynau gan y personau eanlynol: -Mri. W. Jenkins, Dafen; Ainazia Morris, W. Evans, Dafen; W. Williams, Bryn; W. Williams, Cwmfelin; D. Hughes, W. Jones, W. Hughes, J. 'Jenkins, Bryn; a D. Jeffreys; Misses M. A. James, Anne Jones, a E. Williams. Buan y delo cyfarfod o'r un natur eto medd lluaws oeddynt yn nghyd.
v. ABERAFON. :.
v. ABERAFON. DARLITH.—Traddodwyd darlith .gan y Parch. F., Samuel, Abertawe, ar "Ddoethineb Duw," yn y Wern, capel perthynol i'r An- nibynwyr, nos Iau, Ionawr 27ain. Cymer- wyd y gadair am saith o'r gloch, gan T. D. Daniel, Ysw., a Uanwodd ei swydd yn ar- dderchog; cymerodd gwerth lp o docynau i'w dosbarthu rhwng tlodion y lie, a dywed- odd ond iddynt glirio dyled y capel erbyn Nadolig nesaf, y bydd iddo roddi 5p tuag at hyny, ac nid yw y ddyled uwchlaw 80p. Cafwyd darlithgampus, a gv.'randawiad astud. Y mae yr eglwys yn teimlo yn ddiolchgar ,iawn i Mr. Daniel am ei haelioni crefyddol. Gwyddonydd Glan Afan.
DREFNEWYDD.
DREFNEWYDD. GAL WAD.—D.x geuyni gael ar ddeall fod Mr R. Powell, Ebenezer, Aberdar (yn breseno yn fyfyriwr yn Athrofa Annibynol y Bala), wedi derbyn galwad unfrydol a thaer oddi- wrth eglwys Drefnewydd, Sir Dretaldwyn, a'i fod yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Bwriada ddechreu ar ei weinidogaeth dechreu Mai nesaf. Diamheu fod yr eglwys uchod wedi bod yn hynod ffodus mewn dewis gwein- idog, oblegyd y mae pawb sydd yn adwaen Mr. Powell yn ei edmygu fel cyfaill trwyadl, myfyriwr diwyd, pregethwr poblogaidd, a Christion dysglaer. Byclded fod bendith y nefoedd ar-yr uniad; a chaffed Mr. Powell oes faith ac iechyd da i fod yn ddefnyddiol yn ngwasanaeth ei Dduw yw dymuniad calon -1. G
[No title]
Dywedir fod Mr. Gladstone yn bwriadu cwestiyno y Llywodraeth gyda golwg ar y doethineb o bwrcasu y cyfranau yn nghamlas Suez. Dysgwylid fod yr Anrhydeddus W. E. y Gladstone, Mrs. Gladstone, a'r merched yn gadael Castell Hawarden yn gynar yr wyth- noshoner myned i'r brif ddinas yn barod erbyn agoriad y Senedd. Cafwyd corff dyn yn Uaid yr afon Thames yn East Greenwich. Tybir ei fod wedi ei gam drin, gan fod ei ddwylaw wedi eu cylymu a thri napcyn. Y mae dedfryd marwolaeth ar George Ford- ham, yn Leicester, am loiruddio John Smith, wedi ei newid i lafur penydiol am ei oes. Dygwyd dyn un tro ger bron yr ynadon ar y cyhuddiad o latrata ceffyl; a'r funud y gwelodd yr ynad ef, efe a lefodd "Yr wyf yn gweled dyhiryn yn dy wynebpryd." "Dyma y tro cyntaf," meddai y carcharor yn ddigyffro, "i mi wybod fod fy ngwynebpryd yn wrthddrych _I,
[No title]
RHYBUDD.—Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau gla« gwael yn cael eu gweyd yn fodiau, peleni, a phow- dwr; ond eto, y maent yn gorfod rhybuadio y cyhoedd yn erbyn mathau gwael o liw glUs sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny, Gofaler, gan hyny, am gael y Paris Blue pedair- onglog, yn dwyn enwau I. RECKITT A'I FEIB- ION yn nghyda'r arwyddnod masnachol. 1177. PELENI HOLLOWAY.-YR YSGYFAINT A'R CYLLA —Y mae tywydd twym a borel au a phrydnawnau oerion bob amser yn creu anhwylderau yn rhanau treuliol y corff, y rhai ddylai gaelgofal prydlawa. Nid oes dim yn debyg i Beleni Holloway amwella y treuliad. Maent yn cael eu cydnabod yn gar- trefol a thramor fel y feddyginiaeth sicraf ac effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diffyg treuliad, gwynt, chwyddiad, gwrthwyneb- edd, pob math o ryddni, clefyd y gwaed, sychdery eroen, a bol-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn amddiffyn y cyfansoddiad rh y niweidiau am. ryvviol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y tywydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwyddyn. Nid ydynt yn ymyraeth dim a gwaith na phlesw