Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. AMRYWION. Fy amcaa bob amser wrth ddechreu fy llith o L'erpwl ydyw, ceisio ysgrifenu rhyw- -beth a fyddo yn ddyddordeb i'r darllenydd, a thaflu i fwrdd y GWLADGARWR bethau gwerth-eu hargraffu, nid er mwyn yr ychydig, ond i'.r lluaws ac sydd yn teimlo dyddordeb mewn newyddiaduron Cymreig. Mae yn dygwydd yn fynych fod y newyddion mas- nachol am drafnidiaeth cydrhwng Prydain a gwahanol wledydd yn wael a difywyd, a bydd ambell un yn cwyno am fy mod yn gwneyd defnydd o'r newyddion anffafriol i lanw tudal- enau y GWLADGARWR, ac na byddaf un amser yn adrodd dim a fyddo yn galonogol i'r werin am ddyddiau gwell, ac amser mwy dymimol i'r dosbarth gweithiol. Tra yn cydnabod ddarfod i mi ar adegau adrodd am bethau anffafriol, meddaf yr hawl o ddweyd yn gwfel ddifloes<mi fy mod wedi cadw at y gwinonedd, gan osod pobpeth yn y Uiw a'r llun priodol, heb ofyn ffafr nac ofni gwg neb. Awgrymwyd llawer o bethau iuasai yn lies mawr i filoedd yn Nghymru pe buasent yn gwrando ac yn gweithredu yn ol y cyfarwyddiadau, ond gan na wnaethant hyny, bu raid iddynt ddyoddef y canlyniadau. Rhaid fod rhywrai yn gyfrifol am y dyryswch, ond ni fyn yr enwogion gyd- nabod yr amryfusedd, nac ychwaith gymeryd arnynt fod a fynont a dim ag sydd wedi arwain y bobl i drobwll trueni trwy ddi- faterwch. Dyledswydd arbenig arweinyddion y bobl ydyw cadw golwg ar helyntion y byd yn fas- nachol a chymdeithasol er mwyn bod yn alluog i redeg y cwrs priodol, fel na byddo iddynt daro ar greigiau rhwystr, a than ddy- lanwad camsyniadau fod yn achos i wneyd difrod mewn amser annghyfaddas, a'r muoedd i orfod teimlo a dyoddef yn herwydd y cam- gyfrif. Y Cadfridogion a'r Maeslywyddion Bydd yn cael ei dal yn gyfrifol am fyrbwyll- dra a symudiadau cyfeiliomus ar faes rhyfel, a gellir gyda'r un priodoldeb osod y bai ar ysgwyddau blaenoriailywerin mewn cysyllt- iadau gweithfaol a chymdeithasol; o ganlyn- iad, fe ymddengys awyddogaeth y cyfryw yn un bwy-sig a chyfrifol, ac yn gofyn am bwyll a gofal mawr cyn wynebu ar un .ymgyrch a fyddo yn debyg o droi yn niweidiol wrth ymgais at binacl buddugoliaeth. Mae y blaenor doeth a deallgar bob amser yn cyn- llunio mewn dull cy wrain a medms, :,i i* dyben o gadw pobpeth yn drefnus a boddhaol, ac er mwyn cryfder ac ychwanegu nerth y cymun- deb y perthyna iddo. Diffyg gwyliadwriaeth briodol ydyw yr achos o'r mynych dryehiEebau yn ein byd, a gallwn i dybio y dylai y gwersi a ddysgwyd yn y gorphenol fod yn addysg i'r presenol a'r dyfodol. Gall nad wyf yn barnu yn uniongred, ond credwyf yn nghywirdeb y farn hyd nes y dysgir i wybod a deall pethau amgenach. Mae dygwyddiadau y blynydd- oedd diweddaf yn ddigon o brawf fod rhyvr gamsyniadau wedi bod, ac erys y pwnc i rywun mwy na mi i'w nodi allan, a gall y bydd yn rhaid i'r darllenydd aros yn hir cyn cael y dadleniad. Ofer i neb cyffredin geisio cael gan gyfangorfF y bobl i gredu yr hyn sydd iawn er lies, llwyddiant, a dyrchafiad y teulu dynol. Ni thai gorphwylledd a rhysedd anystyriol ar fater pan fyddo cysur a ded- wyddwch y miloedd yn dibynu arno. Mae difaterweh wedi costio yn rhy ddrud i Gymry cyn yma, fel y dylid bod yn ofalus rhagllaw pa fodd y gweithredir, am fod canlyniadau pwysig yn dilyn penderfyniadau brysiog ac anaddfed. Mae y newyddion diweddaraf a ddaeth i law o gyrau Ffrainc yn adrodd am drychineb mewn glofa yn y wlad hono. Y glowr druan, wedi myned yn aberth ar allor maauachaeth, ac nid oes wybod hyd yma rifedi y bywydau sydd wedi eu colli yn y fi-wydriad Gallesid manylu llawer o bethau ereiU am y naill beth a'r llall, ond rhaid vm- atal, gan fod pethau yn galw fy sylw i gyfeir- IAD araU.-Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Araeth Syr Wilfrid Lawson,…
Araeth Syr Wilfrid Lawson, Barwn, 1 i'w Etholwyr. Yr wythnos ddiweddaf, anerchwyd ethol- wyr Carlisle gan Mr. Robert Ferguson, a'r Barwnig poblogaidd uchod, y ddau aelod Rhyddfrydol dros y lie. Gwyr ein darllen- wyr mai Syr Wilfrid ydyw arwr mawr llwyr- ymwrthodiad, a gelyn penaf y tafarndai a'r fasnach feddwol yn ei holl agweddau. Y mae Syr Wilfrid yn llawn o natur dda, ac yn un o'r rhai mwyaf humorous fel siaradwr. Wrth anerch ei etholwyr, dywedai, pe byddai yn ewyllysio siarad yn ddirmygus am weithrediadau y llywodraeth, byddai iddo ddweyd eu bod wedi adferu pwrcas yn y fyddin, wedi gwneyd esgob, ac wedi gyru Mr. Plimsoll yn gynddeiriog. (Chwerthin). Oddiar toriad i fyny y Senedd, yr oeddynt wedi bod wrth y gorchwyl o wneydarglwyddi, suddo llongau haiarn, a dal caethion ffoedig. (Cymeradwyaeth a chwerthin). Ar yr un pryd, yr ydoedd efe yn cymeradwyo ysgrit hawliau tenantiaid, er mai bychan ydoedd. Yr oedd yn llawen ganddo fod deddfau llafur wedi eu diwygio; ac er y gallai y Rhydd- frydwyr hawlio eu bod wedi cynorthwyo i'w pasio, eto, nis -gallent wadu nad oeddent wedi eu pasio gan weinyddiaeth Doriaidd. Arferid dywedyd fod y Toriaid yn rhedeg eu penau yn erbyn muriau cerig ond os bu erioed achos o adeiladu mur i redeg penau yn ei erbyn, hyny ydoedd y llywodraeth Doriaidd yn dwyn allan y cylchlythyr caethwasiol. (Cymeradwyaeth). Paham y dygwyd ef allan, nis gallai ddweyd ond gallai fod, gan nad oedd y llywodraeth wedi gwneyd dim ag oedd yn ddrygionus am amser hir, ei bod wedi rhoddi y cylchlythyr hwn i'r Rhyddfrydwyr i danio ato; neu feallai fod Mr. Disraeli yn meddwl y buasai yn beth da i atal y caethion rhag dringo i fyny ystlysau ein llongau rhyfel, canys buasent yn sicr o fyned i'r gwaelod can gynted ag y byddent yno. (Cymeradwyaeth a chwerthin). Ond a gadael heibio gellwair, rhaid galw yn ol y cylchlythyr hwnw. Ym- ddangosai iddo ef y dylai y blaid Ryddfrydig fod yn gorff cenadol. Nid oes ddadl nad oedd ac na fyddai y Maid Ryddfrydig o hyn yn grynodeb gwrth a. chymysg rywloi. (Chwerthin). Yr oedd pob un yn profflemi r bod yn Ryddfrydwr o ryw fath neu gilydd, ac nid oedd yn ddim.ond cwestiwn o gyflym- der. Adgofid ef o'r desgrifiad a rydd Macaulay yn ei "Lays of Ancient Rome;" lie mewn rhyfel, yr oedd y rhai o'r tu ol yn gwaeddi "Yn mlaen," a'r rhai oedd yn y front yn gwaeddi "Yn ol." Felly yr ydoedd gyda'r fyddin Ryddfrydig. Yn flaenorol, yr oedd ganddynt arweinydd ac er eu bod wedi ei golli am dymor, nid oedd efe heb obaith y %l) y byddai iddo eto ddychwelyd; pan wnelai, y gallai fod yn ddefnyddiol i'w gydwladwyr, ac y gallai eu harwain yn mlaen i fuddugoliaethu yn achos diwygiad a rhyddid. (Cymeradwy- aeth). Yr oedd Arglwydd Hartington yn bendefig a gwell na hyny, yr ydoedd yn foneddwr. Yr oedd yn unplyg ac annibynol, ac ni chydsyniai i unrhyw ddichell na tlirks- iau; ond yr oedd efe yn arweinydd ag oedd ynbloeddio "Yn ol." Gyda golwg ar bryn- iad Camlas Suez, dywedai y byddai iddo wneyd yr un sylw ag a wnaed gan hen ddyn- es yn un o weithiau Dickens. "Yn ei farn ef, y byddai yn ffynonell ffrwythlon o ddwfr poeth."
Aberdar.
Aberdar. Dymunem dynu sylw ein darllenwyr at y gymdeithas adeiladu elwir yr Aberdare, Mountain Ash, and Hirwain Permanent Benefit Building Society." Mae y gym-. deithas wedi ei sefydlu er ys yn agos i dair blynedd, gyda'r amcan o roddi benthyg arian ar delerau rhad i weithwyr—yn fwyaf neill- duol—i adeiladu tai iddynt-eu hunain. Mae ugeiniau eisoes wedi dal ar y fantais gynyg- i^ig, ac wedi adeiladu iddynt eu hunain! aneddau cysurus, y rhai fydd yneiddo iddynt ac i'w plant ar eu hoi. Mae y gymdeithas yn cael .ei llywodraethu yn gyfangwbl gan fas- nachwyr pronadol o bobl gyfrifol Aberdar a r gymydogaeth, ac y mae rhai miloedd o bunau eisoes wedi eu rhoddi allan ar fenthyg. Mae y gymdeithas yn teilyngu sylw pob gweithiwr sydd yn talu ardreth, ac yn awyddus i fyw yn annibynol ar ei gymydog yn eidy ei hun.
Agoriad y .Senedd.
Agoriad y Senedd. Dydd Mawrth diweddaf, agorwyd y trydydd sesiwn o'r nawfed Parliament yn nheyrnagiad Victoria, gan y Frenines yn bersonol, yn nghyd a Th.ywysog.es Cymru a'r Dywysoges Beatrice, gyda. rhwysgfawredd ac ysplander mwy nag arferol. Dechreuodd Ty, yr Arglwydfti gael ei lanw cyn un o'r gloek, ac yn hir cyn dau o'r gloch yr oedd bron bóbsedd wedi ei meddianu. Yn mysg y rhai cyntaf a ymgynullasant ydoedd Arglwydd Aberdar, a llu mawr o Arglwyddi ereill. Wedi hyny daeth y Cenadwyr Tramor, ac ar eu hoi hwy yr Esgobion a'r Barnwyr. Am ugain mynud i ddau daeth yr Arglwydd Gang- iellydd yn ei wisgoedd swyddogol, gan gymeryd ei eisteddle ar y sach wlan. Dilynwyd ef gan y Tywysog Christian, Dug a Duges Edinburgh, Duges Teck, a Dug Cambridge. Am chwarter i ddau daeth ei Mawrhydi yno a phan ddaeth hi i mewn o'r ystafell tu ol i'r orsedd, cododd pawb ar eu traed. Yr oedd ei Mawrhydi wedi ei gwisgo mewii velvet du, a choron ddysglaer ar ei phen. Wedi i lefarydd ac aelodau Ty y Cyffredin dd'od yn nghyd, ymgrymodd yr Arglwydd Ganghellydd o flaen ei Mawrhydi, gan gynyg yr araeth iddi, ond amneidiodd hi arno i'w darllen. Yn adran gyntaf yr araeth cyfeirir at y Gwrthryfel Tyrcaidd, yna at bwrcas cyfranau Camlas Suez, helyntion China, yn nghyd ag ymweliad y Tywysog ag India. Gan ein bod yn golygu rhoi yr araeth i fewn yn gyfiawn yn ein rhifyn nflssf, ni ai gadawn yma yr wythnos hon.
Family Notices
GENEDIGA ETH A TJ. Chwef. 5ed, priod Mr. G. Williams (Cynon- lanc,) Engineer's Row, Abernant, Aberdar, ar. fab, a gelwir ei enw ef Daniel.—D. G. G. PRIODASAU. Chwef. 5ed, yn Eglwys Ystradgynlais, yn ngwydd y periglor, Mr. Richard Griffiths, a Miss Jennet Jones-y ddau o Gwmtwrch.— P. Ion. 25ain, yn swyddfa'r cofrestrydd, Middles- bro-on-Tees, Mr. William Nicholas, mab hynaf Mr. David Nicholas, foreman, Gweithiau Haiarn Britannia, o'r dref uchod, a Miss Margaret Williams, merch Mr. Rosser Williams, gynt o Nantyglo.-H. G. Chwef. 5ed, yn swyddfa'r cofrestrydd, yn Mhontardawe, Mr. Rees T. Rees, Ystalyfera, a Miss Catherine Hopkins (Eos Meudwy,) Craig, Llangiwc. Priodwyd Eos Meudwy .j:C: .1. A Rees, mab Thomas Rees, x tn, Aur gylchwyd hi'n urddasol A modrwy am ei bys; Dymunir i'r ddau lwyddiant Gan bawb a'u hadwaen hwy, A Rees fo'n destyn cysur I'r Eos ganu mwy. j.inv; Z. MARWOLAETHA U. Ionawr 31ain, yn 80 mlwydd oed, Watkin Watkins, Wern, berafon, gynt o Brynmenyn. Ionawr 24ain, wedi hir gystudd, yn 62 oed, Mrs. Elizabeth Smale, Pelly Street, Cwmafon. Ionawr 22ain, yn 49 mlwydd oed, Ann, priod anwyl William Williams, 39 Bwllfa-road, Cwm- dar, Aberdar. Dyoddefodd gystudd blin am amryw fisoedd. ,-J. W. Ionawr 23ain, yn 39 mlwydd oed, Ann, anwyl briod Mr. Thomas Richards, Banwen St., Treforis. Claddwyd hi y dydd Mercher canlynol yn mynwent henafol Llansamlet, pan y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. W. M. Jones, Libanus. Ionawr 24ain, yn 35 mlwydd oed, Mr. David Peters, brodor o sir Aberteifi, ondyn nawr erys rhai blynyddan yn Nhreforis. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn Libanus, ac yn gristion cymeradwy. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent Mynyddbach, pan y gweinyddwyd gan y Parch. W. M. Jones. Ionawr 25ain, yn 15 mis oed, wedi dau day do. o gystudd, MOrfydd merch,i Mr. a Mrs. Richard Elias (Meillionog), Treforis:-B. Tciwe, Ionawr 29ain, yn ei dý-, bu farw y brawd parchus John Morgan, Cyfarthfa Row, Nanty- gwenith, Merthyr, yn 75 mlwydd oed. Y r oedd yr ymadawedig yn dad i Mr. Lewis Morgan, arweinydd COr Undebol Merthyr; dangosodd aelodau y c6r gydymdeimlad trwy ddyfod mor gryno a lluosog i roddi eu gwasanaeth yn yr angladd. Dydd Mercher canlynol, ymgynullodd torf barchus a lluosog o berthynasau a chyfeill- ion yr hoffus a'r anwyl Sh6n Morgan, o Einon, er talu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Wedi cyrhaedd capel Carmel, Cefncoedycymer, darllenodd a gweddiodd y Parch. 0. W. James, a phregethodd y Parch. John Vaughan, Einon, oddiar destyn o ddewisiad yr ymadowedig, sef "Gwyn ei fydy neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod," Salm xxii. 1. Yna, yn nghanol dolefain cryf a dagrau, mewn bedd yn ymyl drws y capel, "claddwyd y niarw allan o'r golwg." "Cyfaddas cofio heddyw, Nid oes ond y fan nad yw." Ganwyd ef ar Gefncoedycymer, yn y flwyddyn 1800. Bedyddiwyd ef yn afon TM", yn ymyl y Bont Haiarn, Merthyr, gan yr anfarwol Barch. Dafydd Sanders, Merthyr, yn 1830, a chadwodd ei •gymeriad fel crefyddwr gonest a didwyll o'r pryd hwnw hyd ei farwolaeth; bu'n daiacon droa un-flynedd-ar-ugain, a llanwodd y swydd bwyaig hon yn anrhydeddus hyd y diwedd. Teimla eglwys Einon yn ddwys ei cholled ar ei Un cynghor rhagor ni rydd, Diddyfnwyd byd o'i ddefnydd." Abram Fardd.
Advertising
Ysgoldy Brytanaidd Clydach. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod C Dydd SADWRN Y GBOGLITH, sef EBRILL 15fed, 1876. Prif Ddarnau Gorawl. 1. I'r Côr, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu Clyw, O Dduw, fy IJefain," gan D. Jenkins, Trec^stell; gwobr, 6p. 2. I'r Cdr, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu Glanrhondda. o'r Ychwanegiad (Ieuan Gwyllt); gwobr,2p. Ceir manylion pellach drwy anfon tair stamp dimeu at yr ysgrifenydd, JOHN THOMAS, Assorter, 1258 L Ynyspenllwch, Swansea. At Lowyr y Glo Careg (Anthracite Coal) yn Nghwmnedd, Cwmtawe, Cwmdulais, Cwmaman, Cwmgwen- draeth, &c. BYDDED hysbys y cynelir Cyfarfod o Gyn- rychiolwyit~"un o bob Gwaith—yn y BIKD IN HAND, ABERTAWE, ar y 14eg eyfisol, am unarddeg o'r 914sch, pryd y bydd pethau o bwys yn cael eu trafod. Da chwi, frodyr, gofelwch am hyn. Bydded hyn i fod o dan eich ystyriaeth. A ydym i ym- wahanu a phenderfyniad y Bwrdd Cymodol ?—Yr eid^hyngywir, WILLIAM ABRAHAM. Cyfarfod Cyhoeddus Trethdalwyr Cilybebyll. CYNELIR CYFARFOD CYHOEDDUS gan Drethdalwyr Cilybebyll yn YSGOLDY Y PLWYF, am Saith o'r gloch, nos FERCHER, CHWEFBOB 16eg, pryd y gwahoddir eu Gwarcheidwad (Guardian) parchus, D. SMITH, YSW., i fod yn bresenol er rhoddi cyfrif o'i oruchwyliaeth. Ymdrafodir yn y cyfarfod ar yr ORFODIAETH a osodir ar WeithwyrTlodion i dalu at gynal eu Rhieni, yn nghyd a materion ereill perthynol i'r Plwyf a Bwrdd Gwarcheidwaid Pontardawe^^ 1259 GENTS WANTED to sell Jewellery, Watches, and Birmingham Goods. New Specialities Wholesale Book Post-free. Apply —HENBY MAY, Birmingham. 1255 MONEY: to lend on good leasehold or freehold security. For furthur particulars, apply to Mr. John T. Howells, Solicitor, Public Hall Offices, Treherbert., 1165, Temperance Hall; Tredegar. A GRAND; FlST £ bi)FOD wjll be held in the .above hall, 'on MONDAY, May 1st, 1876, when prizes Will be awarded ;to successful choirs and bands. To the Choir, of not leea than 100 in number, that will best render We never will bow down" (Judas Maccabceas), prize 23 0, and a silver cup (value k-2) to the conductor. To the. Choir of not less than 60, who have not won £15, that will best render And the glory of the Lord" (Messiah), prize £10, and a silver cup (value £ 1) to the conductor. To the Brass Band, of not less than 15 in num- ber, that will best perform Hallelujah to the Father" (Mount of Olives), prizes £20.. Solos, £1 each. Adjudicator, — PROFESSOR PARRY (Pencerdd America). Railway arrangements are being entered into, particulars of which will shortly appear. Programmes may be had of the Secretary, MR. J. DAVIES, Tailor & Draper, 1251 9, Fourth Row, Georgetown, Tredegar. Music Hall, Abertawe. CYNELIR EISTEDDFOD GERDDOROL Fawreddog yn y lie uchod dydd LLUN SULGWYN, Meheifn 5fed, 1876. Ceir manylion pellach yr wythnos nesaf.—Dros y pwyllgor, THOMAS ROBERTS, 1248 Board School, Brynhyfryd, Swansea. Cerddoriaeth Newydd Boblogaidd gan ALAW DDU. I: "CAN Y CARDOTYN" (The Beggar's Song), I leisiau Mezzo-Soprano neu Tenor. Geiriau Cymraeg a Saesonaeg. Pris 6c. "CLEDD FY NHAD" (My Father's, Sword), Can i lais Baritone. Geiriau Cymraeg a Saeson- aeg. Pris 6c. •: ° H 1 ANTHEM: "Rhaid i'r rhai a'i haddolant Ef" -shi (They that worship Him). Trefnedig i GorauBychain (fel Soli Quartett, a Chorus), gydag Organ neu Pianoforte Accom- paniment. Geiriau Cymraeg a Saesonaeg. Pris 4c. Cyhoeddedig ac rwcaelgan W. Davies, Pub- lisher & Bookseller, 31, Market St., Llanelly. Yr elw arferol i Lyfrw-erthwyr a Dosbarthwyr. 1249. Tycoed, Pont-henry. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod V_Y DYDD LLUN Y PASG, EBBXLL 17eg, 1876. Prif Ddarnau Coratol. 1. I'r C6r, heb fod dan 70 o rif, a gano oreu "Y Blodeuyn Olaf," gau J. A. Lloyd'; gwobr, 12p. 2. I'r Cdr, heb fod dan 50 o rif, a gano oreu t "Yr Alarch," gan Stephens (Moelwynfab); gwobr 5p. 3. I r Cdr, heb fod dan 40 o rif, a gano yn oreu unrhyw Glee neu Rangan gwobr, 3p. 4. I'r Cdr, heb fod dan 30 o rif, a gano oreu, O taste and see," gan Syr John Goss. Cyhoedd- edig gan Novelle, Ewer, and Co., 1, Berners-street, London; gwobr, 2p., rhoddedig gan Lady Thomp- son, Glyn Abbey. Cyfyngedig i (}wrn draeth. Beimiad—EOS MORLAIS. Bydd pob manylion pellach i'w gweled yn y programme, i'w gael gan yr ysgrifenydd am ddwy geiniog gyda'r post. GEORGE EVANS, Pontyeats, 1253 Kid-yvelly, Carm. Gellionen, ger Pontardawe. CYNELIR y DBYDEDD EISTEDDFOD FLYN- C YDDOL yn y lie uchod LLUN T SULGWYN, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol ar y testynau canlynel Am y Traethawd goreu ar "Annyoddefgarwch Crefyddol;" gwobr, lp. 10s. Am y Bryddest oreu ar Daniel yn Ffau'r Llewod "—dim dros 200 o linellau; gwobr, lp. 10s. Prif Ddarn Corawl. "Gwalia Wen gan D. Jenkins, Trecastell; gwobr, lOp., a thlws j'r arweinydd. JSGimictd y Fct^ddotvicXfttHy L/« IVIOSESJ Owmaman, R. S. O. Beimiad y Gerddoriaeth.—D. JENKINS, Tre- castell.. Y gweddill o'r testynau i'w gweled yn y programme, i'w gael am y pris arferol gan yr YSGRIFENYDD, HOPKINS, Cathelid Farm, 1241 Cwmclydach, Swansea. Tabernacl, Sciwen. BYDDED hysbys y cynelir EISTEDDFOD yn y Capel uchod am ddau o'r gloch prydnawn dydd SADWRN, y 25ain o FAWRTH, 1876, pryd y gwobrwyir y rhai llwyddianus ar y darnata can- lyi0li'r^C6r, heb fod o dan 30 o rif, a gano ynoreu "Nant y Mynydd" (J. Thomas); gwobr, 5p., a chromatic pitchfork i'r arweinydd. 2. I'r Cdr, heb fod dan 30 o rif, a gano yn oreu Carmel" (Stephens a Jones) gwobr. 2p. 10s. 3. I'r Cdr o Blant a gano yn oreu Yn y man caniateir chwech mewn oed gwobr, lp.. 4 I'r Wyth a gano yn oreu Cydgan y Mor- wyr," gan Joseph Parry gwobr, 10& 5. I'r Wyth a gano oreu Ffawydden Werdd," o'r Cerddor Cymreig; gwobr, 8s.. 6. I'r hwn a gano oreu Y Ddraig Goch; gwobr, 4s. _c ) 7. I'r hon a gano yn oreu "Myfi sy'n magu'r baban;" gwobr, 3s. Adroddiadau. 8. I'r sawl a ttdroddo yn oreu Y Llong ar dari;" gwobr, 4s. -v. j r « 9. I'r sftwl a adroddo oreu Prydiondeb, o Gorlan y Beirdd; gwobr, 3s. v 10. Am yr Araeth oreu, heb fod dros bedwar mynud, ar Ddyrchafiad Joseph gan Phavaoh;" ^11. Am y Traethawd goreu ar "Ufudd-dod; gwobr, 3s. 12. Am yddau Englyn goreu i'r "Dyn dau- ddyblig ei feddwl; gwobr, 3s. Beimiad y Canu-D. FRANCIS, Treforis. Beirniad y Farddoniaeth ar Adroddiadau, &c. A. THOMAS (Crumlun), Llansamlet. Enwau y cystadleuwyr a'r cyfansoddiadau i fod yn llaw yr Ysgrifenydd ar neu cyn yr 21ain c Fawrth.—LEWIS JONES, Francis-street, Sciwen. 1254 Wanted Immediately, AN ACTIVE YOUTH to learn as SALESMAN to the Cabinet and General Furnishing Trade. Must speak Welsh language thoroughly. Indoor.—Apply, with references, to—J. M. MOSES and SONS, 7, High-Btreet, Swansea. 1256 r Sefott, Abercanaid. CYNELIR EISTEDDFOD yn y capel uchod Dydd LLUN, EBBILL 3ydd. 1876, pryd y gwobrwyir ymgeiswyr llwyddianus mewn Cerdd- oriaeth, Barddoniaeth, Rhyddiaeth, Adrodd, &c. PBIF DDARNAU CERDDOROL. 1. I'r Cdr o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu "Y Blodeuyn Olaf." Gwobr, 8p.. a Latcm, hardd i'r arweinydd. 2. I'r Cor o Blant, heb fod dan 35 o rif, a gano yn oreu, Follow your Leader or Onward," No.' 118, lol. x., April, 1875. Gwobr, lp. 10s. Bydd y programme yn barod yn fuan, yn cynwys enwau y Beirniaid a'r gweddill o'r testynau, ac i w cael am geiniog yr un, drwy y post, dwy geiniog, gan yr ysgrifenydd, JAMES EVANS. 35, Chapel-street, Abercanaid, Merthyr Tydfil. i 1232 Yn eisieu, GWR a GWRAIG, i gymeryd gofal Fferm.— Ymofyner a Howell Davies, Hendre Baily, Aberdar. Prize Drawing W. Thomas, 52 Pem- broke-street Aberdare. DYMUNIR ar bawb sydd wedi cael Tocyn- lyfrau y Drawing uchod ddyfod a'r llyfrau a phob arian i mewn ar neu cyn Mawrth 1, 1876. D. BEYTHONFBYN GRIFFITHS, Hon. Sec. 10, Whitcoinbe-st, Aberdare. 1252
LLINELL Y "NATIONAL" I NEW…
LLINELL Y "NATIONAL" I NEW YORK. YMae y Cwmni hwn yn cymeryd arnyrit en JL hunain y cyfrifoldeb o insurio pob un o'r llestri i'r swm o £100,008, ac felly, yn rhoddi y sicrwydd goreu i'r ymfudwyr am eu dyogelwch; ac y maent hefydt bob amser wedi mabwysiadu y llwybr deheuol er mwyn osgoi y rhew a phen- oedd. YR AGERLONGAU 2^ MWYAF O Liverpool i New York bob dydd Mercher, » phob yn ail ddydd Gwener i Boston a New York. EGYPT. Mercher, Ion. 19 HELVETIA Mercher, Ion. 26 THE QUEEN Mercher, Chwef. 2 Yn gadael Queenstown y dyddiau canlynol. Rhedant o Llundain i New York fel hyn ERIN .Mercher, Ion. 19 CANADA. Mercher, Ion. 26 GREECE.Mercher, Chwef. 2. Y mae cyfleusderau saloons yr Agerlongau hyn ya dra rhagorol, trwy fod y state-rooms yn eang an- arferol, ac yn agoryd i'r saloons, pa. rai sydd yn y poop ar y deck. his y cludiad, 10, Ie, 15, a 17 gini, yn ol cyf- leusderau y state-room. Pawb yn cael yr un hoW yn y saloon. Pris y cludiad yn y Steerage yw £ 5. Return Tickets—24 Guineas. Y mae eangder, goleuni, ac awyr y steerage, ya anghydmarol, acy mae digonedd o ymborth frith yn cael ei barotoi gan Stewardiaid y Cwmpeim; as ni cheir cludiad rhatrach gydag unrhyw linell Gall ymfudwyr bookio drwodd i bob parth « Ganada a'r Talaethau Unedig am brisoedd iseL Am fanylion pellach, ymofyner a'r NATIONAL STEAM SHIP CO-, 28, Water-street, LiverpooJ tr&ri at Simnr, CA. <?• xigviliOj OOj VjlaVd* church-street, London. Neu at JOHN THOMAS, 1, Prospect Place, George Town, Tredegar; GEORGE OWEN, Upper High-street, Rhymny; HENRY A. LEWIS, Newtown, Ebbw Vale; D. THOMAS, Clydach and Brynmawr; HERBERT T. REES, Pentre Ystrad, Rhondda Valley; neu at F. W. CAUNT, 4, Whitcombe-street, Aberdare. L,389
Advertising
Js-1 TNMAN ROYAL MAIIk J- STEAMERS, LIVERPOOL fco ■OSielBr NEW YORK. Dyddiau Mawrth a IOIU. SALOON,12,15, 18 a 21 Gini; Steerage am brio a. SALOON,12,15, 18 a 21 Gini; Steerage am bru »■ llawer is nag arferol, gyda digonedd o ym- borth wedi ei goginio yn dda, a lleoedd cyfleaa, Trosglydir Teithwyr y Steerage i Boston &> Philadelphia heb d^l ychwanegoL Bookir teith- wyr i unrhjnv ran o'r Taleithiau o Canada aaa briaiau neillduol. Rhoddir tocynau a phob cyfarwyddyd gaa WILLIAM INMAN, 22, Water-street. Liverpool, neo rywrai o oruchwylwyr yr Inman Line. L.153
LLINELL Y "WHITE STAR" 0
LLINELL Y "WHITE STAR" 0 UNITED STATES MAIL STEAMERS. ■jSMlliStk O Liverpool i ac o New York. RHYBXJDD.—Gymer Agerlongau y Llindl hon y Lane Routes wrth fyned a dychwelyd, y rhai a, gymerackoyir gam yr Isrgadben Maury. GERMANIC Dydd Iau, Ion. 20 CELTIC Dydd Iau, Ion. 5J7 ADRIATIC Dydd Iau, Chwef. 3 BALTIC Dydd Iau, Chwef. 10 REPUBLIC. Dydd Iau, Chwef. 17 0 NEW YORK. CELTIC. Dydd Sadwrn, Ion. 3 ADRIATIC. Dydd Sadwrn, Ion. 15 Gan alw yn Queenstown, i dderbyn teithwyr, as ddydd Gwener. Y mae yn yr agerlongau hyn gyfleusderau neillduol i gaban-deithwyr; y mae Jf saloon, state-room, ystafell smocio yn midships, if mae meddyg a goruchwylwyr ar bob llong. SALOON,-15 gini a 18 gini Return tickets am 35 gini. Steerage, at reduced rates. Am hysbysleni A manylion pellach, ymofyner a ISMAY, IMRIE, & Co, East India-avenue, London, a 10, Water-street, Liverpool. L.369
Advertising
-v. AT YMFUDWYR. TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australian Sailing Ships cmd Steamers. NM. JONES (CYMRO GWYLLT), Passenge* Broker, 34, Union-street, Liverpool, Gor- wyliwr i'r Llinellau camlynol :—Inman Line, Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, State Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa- hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, &!N Tiriogaethau Prydeimg, gall yr ymfudwyr gael cyfarwyddiadau gofynol drwy anfon llythyr i If cyfeiriad hwn. Cam pawb a ymddiriedo eu gofal iddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. "RffHiElj brodor o Merthyr Tydfil. Y suae genym dy prvuate eang a chyfleu* e cyfarfod ag angenrheidiau y fasnach. Cofier y Cyfeiriad,— N. M. JONES (CYMBO GWYLLT), 34, Union-street, Liverpool. D.S.—'GtaUir ymholi yn Aberdar & John dameo Cvown Hotel.
BEIRNIADAETH AWDLAU SCIWEN.
rhoddwyd pythefnos o rybudd gan ein meistr, ac aethom ninan a rhybuddion i'r goruchwyl- .iwr ar yr un ad eg; ond gomeddodd en derbyn, am y rheswm fod rhybudd wedi ei roddi gan y meistr, a daethom allan a'n hofferynati ar y 24ain o Ragfyr, 1875. w|di sefyll allan am fis, galwyd arnom i gyfarfod a'n meistr ar y Main o Ionawr, a therfynwyd yr annghydfod, ond nid ar gynygiad cyntaf y meistr, fel y myn gohebwyr rhai newyddiad- uron i'r cyhoedd gredu. Er mai cynygiad y meistr o hyd oedd dilyn y Bwrdd Cymod- lawn, pa fwrdd.yr oedd efe yn ei ddilyn trwy ostwnwg 27 y cant yn mhris y dunell lo, sef c Is. (He. i Is. ile. y dunell? Ffaith arall 2 -2 ydyw ei fod yn dweyd fod Is. Uc. y dunell yn ddigon i'r glowyr, oblegid y gallasent dori pnm' tunell v dydd yr un, a hyny am y rheswm, medd efe, fod dan yn gweithio yn y gwaith ar adeg y strike, ac yn tori hyny. Ond y gwirionedd cysylltiedig a hyny ydyw, fod y ddau berson hyny yn llanw y ddwy droedfedd ysgarthion (rubbish) sydd rhwng y glo trchaf a'r glo isaf allan yn gymysg a'r glo, heblaw fod dyn taledig gan y meistr am yru (hauling) yn tori dwy dunell ry dydd iddynt, ac yn y diwedd "ni ddanfonent i fyny ond oddestu wyth dunell rhyngddynt. Cofier mai nid nodiadau yn cyfodi oddiar deimlad ydyw y rhai yna, ond cefais hwynt oddiar awdurdod dda, a chan ddynion y gallwn yn hawdd eu credu. Beth bynag, cytunwyd i z;1 'Y ddilyn i Bwrdd Cymodol, fel mewn gweith- feydd ereill, a chael y brawd a glowyd :allan hefyd i weithio gyda ni. Felly, barned y darllenydd, pa un a ydyw yn deg ein cyhuddo o fod yn sefyll allan yn fwriadol, ac heb un achos, yn ngwyneb y fath gynvgiadau gormesol? a gallaf eich sicrhau nad oes ond ychydig iawn o lywodraethwyr "wedi cefnu ar y Broadoak o achos y gweith- wyr, ac ni waeth genym pe deuai Negro i'n llywodraethu, ond iddo ymddwyn yn deg ac yn gyfiawn tuag atom. LLWCHWHIAK.