Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

: EEl"f LEWIS.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EEl"f LEWIS. I SYLFAENEDIGc AR FFEITHA fT. i SAN TOM WEDROS EVANS, AWDWR "GOMER JONES." DDARLLESTDD hawddgar, rhag i mi drethu dy amyneid i ormodedd, gwnaf fy ngoreu i ddwyn yr "hanes" hwn i derfyniad buan. Rhoddaf i ti yehydig o hanes ein bywyd vn y cloddfeydd. Yr wyf wedi darlnnio ein doll o gloddio yn flaenorol, ond gullaf ychjranegu yehydig eto Y mae y twll fydd yn capl ei dori yn y claim, yn gvffredin, o ran ei ffurf yn oval tua thair neu bedair troedfedd o hyd, ac yn Eghvlch haner hyny o led. Ar ol myned i lawr ddyfnder penodol (y mae yn amrywio yn fawr, mewn rhai manau 100 o droed- feddi neu ychwaneg, ac mewn lleoedd ereill tua haner neu chwarter y dyfnder) y mae yr tiu,, i'w gael yn y gravel fydd yn gor- chuddio y graig. Yna y mae y tunnelling yn canlyn. Cloddir tunnels i gyfeiriad terfynau y claim; felly y mae yu debyg i'r modd cyffredin o weithio yn y pyllau glo. Gwneir tunnels hefyd hyd yn nod os meth- iant fydd yr ymdrech i gael yr aur ar waelod y twll cyntaf, fel y byddo i'r clodd- wyr gael gwybodneth foddhüol pa. un a fydd au* neu beidio yn rhywle yn y claim, cyn ei Toddi i fyny. Yn y Quartz Beef y mae y moid o gloddio yn debyg, gyda'r eithriad fod yr aur yn gorfod myned drwy y grinding tit puddling machine, er ei ryddhau oddiwrth y darnau creigiawl, lie y bydd yn ymguddio. Gall- aswn ychwanegu eto drwy gofnodi lluaws o allanolion ereill, ond ni fyddai i hyny ateb unrhyw bwrpas, canys, ddarllenydd hawddgar, gwn na fyddai traethawd sych- lyd ar ein dull o gloddio yn ucol iawn a'r 1 archwaeth. Y mae eisoes ddigon (os nad gormod) wedi ei gofnodi. Yn bnr fuan ar ol cyrhaedd y gloddfa, darfu i ni, chwech mewn nifer, ffurfio yn gwmniau-dau yn perthyn i bob cwmni. Darfu i Wilcox ac Elias ymuno, ffurfiodd Walter a Billy y cwmni arall, felly yr oedd y trydydd yn gynwysedig o Tom a minau. Bywyd hynod ramantus a doniol yn mhob ystyr ydyw bywyd y cloidiwr aur Nid oedd holl household furniture pabell fechan Tom a minau yn cynwys ond yehydig o gelfi ty." Kid oedd genym yr un ffwrn i bobi y bara, ond yr oedd y modd Australaidd o bobi yn gwneyd i fyny yn ardderchog am y diffyg hwn. Ar ol prynu y fflwr mewn store gyfagos, a'i wneyd yn does drwy ei wlychu yn y tin-can, ffurfid y dorth, yr bon a roddid yn nghanol y mar- wor coed ar yr aelwyd; yna teflid lludw brwd drosti nes ei llwyr orchuddio, ac yn mhen yehydig fynydau byddai genym dorth mor raenus ac iachus a phe buasai wedi ei phobi yn Nghymru. Dyna y modd cyffredin o grasu bara yn y cloddfeydd. Gan nad oeddym yn cael y fraint o weled 'tatws ond anaml (anfynych y gwerthid hwynt yn y gloddfa), te a choffi gan mwyaf oodd yn cyfansoddi ein prydiau bwyd. Uan nad oedd Tom a minau, yr un o honom, wedi ein bendithio a. haner oreu," yr oeddym wrth gwrs yn gorfod golchi a smwddio ein hunain. Smwddi#, yn wir! na, yr oeddym yn cael Ilawn digon o waith i dynu ein crysau drwy y dwfr, heb feddwl gwneyd yr un gymwynas arall iddynt. Ond, serch hyny, gwelais Tom rai troion yn smwddio ei grysau drwy hwylio y coffee-pot, yn llawn o ddwfr poeth, yn araf a doniol drostynt. Ond yn awr cofnodaf ychydig mewn cysylltiad â'm cyd-gloddwyr. Nid oedd, ysywaeth, ddim manteision crefyddol yn y gloddfa eto, felly, fel y gallesid dysgwyl, yr oedd yno ormod o anfoesoldeb yn ffynu. Yr oedd dydd yr Arglwydd yn cael ei dreulio heb yr ymgais leiaf i'w "sanct- eiddio ef." Ffurfiai y cloddwyr yn gwm- nioedd, a chyrchent i'r store8 gerllaw, ac yno y treulient y dydd i yfed a meddwi. Treuliai Tom a minau ein Sabathau gan mwyaf i ddarllen ac esbonio yr Ysgrythyr; ac er ein bod yn anfedrus iawn wrth y gwaith, eto gwnaem ein goreu. Er mor ddireidus ydoedd Tom, arweiniodd fywyd dichlynaidd iawn yn y gloddfa. Yn mhen chwe' mis anfonais lythyr i'm rbieni-y llythyr cyntaf er pan y ffarwel. iais a hwynt. Derbyniais lythyr yn ol yn llawn o gynghorion wedi eu tymheru a dagrau a chariad, fel yr oedd yn bawdd gweled wrth eu darllen, a chawsant eu prisio yn fawr genyf, a gadawsant eu har- graff briodol ar fy meddwi. Ar ol treulio deuddeng mis yn Anderson's Creek, daeth llythyr i mi un boreu, ac ar yr amlen y gair immediateOw! pan ddarllenais ef aethum 11 fel un marw PEN. YII. Llythyr ydoedd o Undergrove. Yr yd- oedd fel y canlyn:— Undergrove. ANWYL GYFAILL,-Y mae Angelina yn glaf iawn. Y mae am eich gweled. Dymunaf amoch ddyfod i lawr yn union.—Yr eiddoch JPU gywir,—EDWARD WHITE. I Angelina yn glaf! Ow syniai annyodd- efol. Ffarweliais yn fuan a'm gwaith, ac ar ol hysbysu Tom y rheswm am hyny, cefais fy hun yn mhen dwy awr yn nesu at Undergrove. Yr oeddwn yn bwriadu myned nos dra- noeth i'w gweled. Yr oeddwn yn talu ymweliad a hi unwaith yn wythnosol am y deuddeg mis blaenorol. 0 fel y curai fy Dghalon erbyn hyn— yr oedd ar lesmeirio yn ei thristwjeh ofn- adw! Angelina yn glaf iawn Anwylyd fy nghalon yn rhwym o dan ddwylaw oer- ion afiechyd. Ow! efallai ei bod mor glaf fel mae gobaith gwan sydd am ei had- feriad. Ow! Ow! efallai na fydd iddi wella o'i hafiechyd; efallai mai cyn pen wythnosybydd Angelina yn ei bedd!" Dyna yr ofnau a drywanent fy nghalon fel y cledd, ac.a orlifent fy enaid a thristweh. Tynais y nodyn bychan o'm llogell. a dar- llenais ef eilwaith i gael gweled a oedd modd casglu rhyw wybodaeth foddhaol am ansawcld ei hafiechyd. "Y mae Angelina yn glaf iawn;" ie, yr ydoedd yn glaf iawn. Ow yr oedd hyn yn creu drwg- dybiaeth ddofn. Yn fuan, deuais i olwg ei chartrefle. Yr oeddwn ar lewygu erbyn hyn, a dechreuai y dagrau ddianc rhwng fy emrynt yn lli'! Ow meddyliwn ynof fy hun, Efallai yn wir ei bod wedi marw Angelina wedi marw! 0, fy Nuw, ai gwir hyn? Ar ol sychu y dagrau am cadach, edrychais a oedd y llieiniau wedi eu tynu dros y ffenestri: Na, nid oedd yr un i'w weled, felly, meddyliwn, "Rhaid ei bod yn fyw diolch i'r nefoedd am hyn Ni fum yn hir cyn cael fy hun ar y trothwy. Cyfarfyddais a'i thad yn y passage, ac hysbysodd fi fod Angelina yn glaf iawn-ei bod yn dyoddef oddiwrth enynfa'r ysgyfaint. Yn fuan yr oedd y meddyg yn dyfod i lawr y grisiau o'r llofft. Gofynais idde pa fodd yr ydoedd Angelina ? ae atebodd yn bruddaidd iawn, Claf iawn." Rhoddodd orchymyn i mi i beidio myned i'w hystafell wely-ei bod yn rhy wael i siarad a mi. Ow! yr oeddwn yn awr ar wallgofi! Nis gall iaith ddarlunio ingoedd fy enaid. 0, brydnawn tywyll i mi! Anwylyd fy ngbalon yn prysur "ildio" yn ngrym "y dw'r!"—ei henaid, yn ol pob ymddangosiad, yn trwsio ei edyn i ffoi. Daeth Mrs. White i waered o'r llofft a'r dagrau yn golchi ei gruddiau, a'i hocheneid^ iau yn ddigon i rwygo unrhyw galon yn ddarnau Mewn llais bloesg, hysbysodd fi fod Angelina yn wael iawn er's chwe' diwrnod. Cymerwyd hi yn glaf dranoeth i'r diwrnod y bum yn talu ymweliad ddi- weddaf a bi. Yn fuan daeth Mr. White yn ol o heb- rwng y meddyg. Aeth i'r llofft yn frysiog, ac yn fuan dychwelodd gan ddolefain yn chwerw, "0, my dear child! my dear Angelina she is sinking fast! 0 eiriau ofnadwy! yr oedd cnul marwolaeth yn tincian yn mhob sill. Angelina yn marw Rhuthrais o'm cadair fel gwallgofddyn, cyflymais i fyny y'grisiau, ac i mewn yr aethum i ystafell wely y claf. Wrth yr erchwyn eisteddai y forwyn. Yno, a'r chwys oer ar ei harleisiau y gorweddai y gwrthddrych anwylaf i mi ar wyneb daear. Llefais allan, 'Angelina 0, Angelina!" Ond ni wnaeth gymaint ag edrych arnaf. Ymddangosai fel pe yn suddo i gwsg, a hwnw yn gwsg y bedd. •» Anwyl ddarllenydd, y mae tri diwrnod wedi pasio. Pa fodd y mae Angelina? Ow yr hyn a fawr ofnais a ddaetb arnaf. Y MAE ANGELINA WEDI MARW 0, frawddeg ofnadwy! Marw! 0, air rhyfedd! alltudier ef o bob geirlyfr; na pharabler ef byth ond hyny: hen air prudd a mourning tragwyddol yn ei ordoi Y MAE ANGELINA WEDI MARW! 0, frawddeg dorealonus! y mae fy llaw fel pe wedi ei pharlysu wrth ei hysgrifenu. Anwylyd fy nghalon wedi dianc drwy niwloedd y glyn i ganol gwlad yr hedd Yr hon oedd mor anwyl i mi a bywyd ei hun-y corfforiad byw o hawddgarweh a chariad, yn mha un yr oeddwn wedi canolbwyntio fy mhrif obeithion daearol—wedi canu yn iach i mi am byth. Glyn eysgod angeu yn foundary bythol rhwng ei hanwyl Ben a hi. Ond i gael tynu y llen dros y darlun pruddaidd hwn, rhoddaf y manylion can- lynol. Suddo yn ddyfnach, ddyfnach, wnaeth Angelina, a tranoeth i'r diwrnod yr aethum yno bu farw. Y prydnawn hwnw-ychydig amser cyn i'w henaid gael ei ddwyn gan yr angelion i "fynwes Abraham"—nesaodd ei rhieni a minau at erchwyn ei gwely. Yr oedd yn brydnawn hyfryd-yr haul yn ei ogoniant yn araf suddo yn y gorwel, gan anfon ei belydrau olaf i mewn drwy y ffenestr fechan i'r ystafell wely i chwareu yn nwyfus ar y silf uwchben Angelina, fel pe i ddangos i ni ei bod yn goleuo rhyngddi a fry'! Ah yr oedd machludiad gogon- eddus yr haul yn rhyw ddarlun i mi o fachludiad heulwen bywyd fy anwyl Angelina y prydnawn hwnw,-heulwen ei bywyd anwyl yn machludo yn ngorwel marwolaeth, i ail-ymgodi yn oes oesoeud yn ffurfafen glir a digwmwl aniarwoldeo Wrth yr erchwyn y safem, heb ddim i dori ar ddystawrwydd pruddglwyfus yr .ystafell ond ambell ochenaid o eigion y fynwes dromlwythog. Ond yr oedd gweled eu hanwyl blentyn yn marw yn ormod i deiml- adau tad a mam; ciliasant yn ol i wylo, gan fy ngadael i yno fy hunan yn nghwmni yr engyl oedd wedi dyfod i'w chludo adref. Crymais uwch ei phen, a chan ymaflyd yn ei Ilaw llefais allan, 0, my dear ADgelina! Agorodd ei Uygaid yn araf y waith olaf am byth, ac nafewn llais yr hwn a lwyr foddid bron gan swn tonau afon marwolaeth, a gwen nefolaidd ar ei grudd- iau, sibrydodd, Dear Ben, do not weep, we shall meet in heaven! Yna cauodd ei llygaid, ac yn mhen yehydig fynydau yr oedd yr enaid wedi ffoi Y mae bywyd i raddau helaeih wedi colli ei holl swynion i mi er yr adeg y bu farw fy anwylyd. 0, y wylo chwerw dydd ei hangladd! Claddwyd hi yn mynwent eglwys fechan gerllaw Melbourne. Yr oedd yr angladd yn gynwysedig o yohydig gyfeillion. Cludid y corff drwy y ffordd fechan gul a arweiniai drwy y coedydd. Angelina yn ei harch Dyna y corff mFyaf anwyl welwyd ar ysgwyddau erioed. 0, mor bruddaidd y symudai y cwmni bychan—pob un a deigryn ar ei rudd! Yr oedd y coedydd, hefyd, fel pe wedi trysori yr yehydig ddefnynau gwlaw ddisgynodd yn y boreu i'w gollwng yn ddagrau gloewon ienei-nio arch fy anwyl Angelina, tra y cludid hi yn araf odditanynt. Yr oedd y dagrau hyn yn syrthio mor bruddaidd fel pe mewn cydymdeimlad dwys a'm dagrau inau! Treuliwyd cyfran o'r ffordd i ganu emynau. Canwyd un o hoff emynau fy anwylyd,— Just as I am without one plea, &c. Cyrhaeddwyd y fynwent Ow bum bron llewygu pan y cyrhaeddwyd yno. 0, orchwyl caled ydoedd edrych ar y BEDD! BEDD ANGELINA! 0, ddau air rhyfedd! Ni ddarfu i mi eu eysylltu erioed a'u gilydd o'r blaen. Na, cadwn yn mhell o diriog- aethau y bedd. OARTREFLE ANGELINA. Bu y ddau air yna yn gysur a hedd i mi ugeiniau o weithiau yn Anderson's Creek. Yr oedd Undergrove yn ysmotyn enwog a promi-nent iawn ar ddarlunlen (map) fy nghariad, a phob modfedd oddiamgylch yn gysegredig gan fy nghalon. PKIODAS ANGELINA. 0, ddau air bendige'lig! Ah! yr hafddydd y bu pwyntel euraidd dychym- yg yn ei dynu ar len y dyfodol. Yr ydoedd i'n cludo mewn bedd a serch i fywyd o ddedwyddwch pur! Ond y mae cartefle a phriodas Angelina out of date i mi yn awr. BEDD ANGELINA sydd yn llenwi fy meddwl o hyd. Aeth hi o Undergrove i balas aur ei thad—i'r "Sweet Home" fry-wedi ymbriodi am byth a'r Brawd hynaf! (l'w barhau).

Beirniadaeth Cyfansoddiadau…

TREFORIS.

MAESTEG.

PENCLAWDD.

Advertising