Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
G0HEBIA2TH 0 L'EEPWL. 1
G0HEBIA2TH 0 L'EEPWL. 1 AGORIAD Y SENEDD. Gwnaeth presenoldeb y Freniues yn St. Stephan dipyn o adfywiad yn y gwersyll, er nad oedd dim un newydd-deb yn yr araeth y | tro yma mwy na throion blaenorol. Cynhyrf- wyd y dyfroedd gan Dr. Kenealy a nifer o'i edmygwyr. yn cael eu blaenori gan Seindorf 33res a nifer o fanori yn chwifio yn yr awelon, lac arnynt lawer byd o arwyddeiriau, megys Y Senedd dair blwyddol," "Rhyddad Tich- borne," Y Gorfreintlen," ac amryw hynod- ion ereill cysylltiedig a'r athrawiaeth a goleddir gan Kenealy a'i ganlynwyr. Mae llawer o'r egwyddorion a bregethir gan y cynddadleuydd yn dda, a byddai yn fenditlx i'r wlad pe caent eu mabwysiadn. Cynildeb gwleidyddol a llawer o ddiwygiadau gwiadol ereill a ddy- lai gael sylw arbenig ein gwladweinwyrpe cyflawnent eu dyledswyddau fel cynrychiol- "wyr y bobl. Peiriant costfawr ydyw brenin- iaetli Prydain, a sicr ydyw y dylid cwtogi ar gyflogau meibion a merched yr hen wraig, gan ddangos iddynt nad oes btwl- gan hyd yii nod teulu'r goron. i fyw mewn gloddest a gwastraff. Nid wyf yn meddwl y byddai yn Uesad newid ffurf ein llywodraetli i weriniaeth, ond mae lie i wneyd diwygiadau mawrion a dwyn pethau i well trefn, gan fod gallu yn nwylawein Seneddwyr i wrthod y ceisiadciu -nw- mynych a osodir o flaen y Senedd am arian i hwn a'r llall. Nid teyrngarwch ac ymlyniad ydyw o-oddef gwastraff, a phe cwtogid amynt gan ein deddfwneuthurwyr, byddai yn hawdd- ach trin y teulu o lawer; ond fel y saif pethau yn bresenol, maent yn tybio mai nhw sydd ben, ac nad oes hawl gan y wlad i ofyn gan- ddynt am arfer cynildeb. Oferedd a ifolineb mawr ydyw meddwl am ddiddymu yr orsedd, oblegyd fe fyddai hyny yn arwyddocau dinystr y wlad ar unwaith; ond trwy arfer cynildeb ac atal gwastraff arianol, ni byddai hyny yn niweidiol i neb, ond byddai- yn fendith o r mwyaf iddeiliaidgorthrymedig Prydain Fawr. Athrawiaeth ddwl ydyw yr hon a gefnogir yn y Werddon, a syniadaeth llawn mor ynfyd ydyw y cyfryw sydd am rafiu y byd yn gyfar- tal, oblegyd pe dygid y cynliun i weithrediad, nid yw yn debyg y daliai yn dda am chwech mis, am fod yn rhaid wrth wahanol ddosbartli- iadau a graddau mewn cymdeithas er cadw pethau mewn trefn. Mae cymaint o wahanol farnau ar bynciau cyhoeddus, fel y mae yn orchwyl caled i gael unoliaeth. meddwl a gweithred yn y werin bobl er cyrhaedd am- canion teilwng a dyrchafedig. Dyledswydd ein deddfwneuthurwyr ydyw gwneyd pobpeth a<* sydd yn bosibl i sefyll dros hawliau y wercn gan estyn iddynt y breintiau a deilyngant fel deiliaicl o'r cyfansoddiad Prydeinig. Diystyr- wch ffroenuchel ein dynion mawr sydd yn achosi y gwrthuni, y diflasdod, a'r aflwydd mawr yn ein gwlad, pryd y dylai pethau fod yn gwbl wahanol. Pe cyflawnid haner yr addewidion yn amser etholiad wedi yr elont i'r Senedd, caem well trefn ar bobpeth, yn gymdeithasol a masnachol, ond fel arall y mae, a thyna yr achos dechreuol o'r annhrefn. Addewid yn cael ei thori nid yw yn werth dim, a buasai yn well hebddi o lawer, er mwyn peidio codi disgwyliadau i obeithio am rywbeth da i ddilyn, ond er disgwyl, nid oes dim yn dyfod. Mae traha gorniesol ein pen- defigion yn cyrhaedd i bwynt eithafol yn ami, fel na byddai yn syndod mawr pe codai y werin mewn gwrthryfel yn erbyn gormes a thraws-arglwyddiaeth. Mae ei le i bobpeth, a phobpeth i fod yn ei Ie, y naill i gydnabod y llall yn ol ei safle a'i deilyngdod fel dinesydd o'r byd. Mae chwys a llafur y gweithiwr yn ooystal i'r byd masnachol ag ydyw aur ac 11 y arian y gwr mawr. Gwell i mi ymatal, rhag myned yn rhy eithafol, am fy mod braidd yn dueddol i daro yr ordd fawr i lawr ar ben y gorthrymwr. AMRYWION. Nid dyddorol iawn ydyw y newyddion cyffredinol, a braidd nad gwgus ydyw yr awyrgylch yn Lloegr a Chymru. Gwneir parotoadau mawrion yn yr Amerig erbyn dathliad yr Wyl Gan'-mlwyddol, a theimla llawer yn siomedig nad oes gobaith iddynt am weled na chlywed Caradog ag adran o'r Cor Mawr yn diaspedain muriau yr adeilad yn Philadelphia. Nid af i fanylu dim ar y newyddion ereill sydd yn dyfod i law o wahanol barthau y tudraw i linell y cyhyd- edd. Am y tro, gorphwysaf.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
CYNGHERDDAU Y NADOLICI YN…
CYNGHERDDAU Y NADOLICI YN ABERDAR, AO ALA IF DDU FEL CRITIC. MR. GOI,Mae fy ngwrthwynebwr wedi gosod rheolau i lawr i mi fyw wrthynt yn y ddadl hon, ac os na chadwaf atynt ni wna un sylw o'm llythyrau. Pe buasai yn gosod y rheolau hyn ar ddechreu ei lythyr diweddaf, byddai wedi eu tori yn deilchion;, ac yn ddiweclclar iawn y mae fy nghyfaill wedi dysgu y rheol hon, sef rhaid bod yn fonedd- igaidd. Ond, at y pwnc. Barn fy ngwrth- wynebwr yw, fod y basses hytrach yn wan; ond, yn ei lith gyntaf, lied wan oeddynt. Yn awr, gofynaf i fy nghyfaill, Pa faint o bob un o'r offerynau hyn, sef, violins, violas, a basses a ff'urfia gydbwysiad I ac yna cewch chwithau wybocl pa faint o'r offerynau uchod oedd gyda ni yma. Felly, caiff y darllenydd farnu faint oeddem o'n lie mewn cydbwysiad. Dywecl fy nghyfaill mae'r impression adawyd ar ei feddwl ef oedd, fod braidd ofn yr F a'r C sharp arnom. Syndod pawb Ofn y nodau rhwydd uchod ar ddynion ag oedd newydd fod gyda'r byd-enwog Caradog yn myned trwy yr Oratorio fawreddog ac afrwydd y Creation! Ofn y nodau rhwydd uchod ar ddynion ag aethant drwy y Twelfth Mass flwyddyn yn ol! .A beth am y gwaith pwysig oedd o u blaen y pryd hwn. Dyna Fall'n is the Foe er engraifft, beth am y darn afrwydd hwn, os oedd ofn y nodau rhwydd uchod arnom ? Na, gyfaill, lol i gyd yw y peth a ddywedwch mewn cysylltiad a'r nodau dan sylw. Dywed yn mhellacli fod amryw nodau gwallus gan y basses (yn ol fel wyf fi yn deall) lieblaw y nodau mae wedi enwi, a dywed yn ei lith gyntaf fod y fint a'r second violins a'r violas yn chwareu yn gampus, a'u bod wedi cael agoriad sefydlog a boddhaol ar y cyfan i'r gwaith. Yn'awr, ddarllenydd, pa fodd y gall fod yn agoriad sefydlog a boddhaol i'r gwaith, pan oedd y ground v:ork mor ddrwg? Gair bach am chwareuwyr y violas. Dywed- wch iddynt chwareu'n gampus; gwir i gyd; ond pa fodd y gallasech chwi ddweyd hyny, pan nad oedd copi o'u part o'ch blaen o gwbl; Gallasent chwareu mewn ton swynol, ac eto heb chwareu'n gywir, ac nis gallasech chwi farnu eu cywireb wrth y score. "Look before you leap" yn y dyfodol. Eto, dywedwch fod ein profiad fel chwareuwyr wedi dysgu i ni fod yn bosibl i nodau cylymedig, oddieithr iddynt gael eu dal allan yn sefydlog a didor, fod yn sigledig. Credaf, fy nghyfaill, mai barnu cor yr ydych, ac nid string band. Mae yn bosibl i leisiau wneyd y gwall hwn, ond nid yw'n bosibl i string band wneyd hyny, os byddant yn cleall eu gwaith fel y rhai hyn; a plirofaf hyny i chwi hefyd os bydd eisieu. Y mae pob chwareuwr cyfarwydd yn deall y secret. Terfynaf yn awr, gan obeithio y cymer Alaw Ddu at ryw oratorio deilwng yn Llanelli, pan y bydd yn llawen gan fechgyn y string band a llawer o'r cor ddyfod i'w gwrando. -Yr eiddoch, yn y gan, YIOLINCELLOIST. O.Y.-Gan nad wyf yn meddwl cadw y ddadl hon yn mlaen, nid yn gweled y priodol- deb o roddi fy enw priodol iddo. Mae ei lythyr olaf wedi profi i ni, fel chwareuwyr, nas gall roddi un addysg i ni, gan hyny, gwell terfynu y ddadl yn y fan hon.- V.
FFEITHIA U A DEILYNGANT SYL…
FFEITHIA U A DEILYNGANT SYL fV. IVht. GOL. ,-Gan eich bod yn caniatau lie i ffeithiau yn eich colofnau, dymunaf gael ychydig ofod er dwyn y canlynol i sylw y cyhoedd. Swyddog Annibynol yn feirniad, a dau weinidog a myfyriwr o'r un enwad yn cael y gwobrau am bob testyn yn y gystadleuaeth, pan yr oedd lluaws o feirdd a llenorion galluog yn yr ymdrechfa. Northman yn feirniad yn un o eisteddfodau y South, a'r prif wobrau yn myned i'r North. Archddiacones Annibynol yn anrhegu eglwys a basin i daenellu, ac yn cael mawr gyrnera- dwyaeth, ond yn mhen blynyddau yn galw y rhodd yn ei hoi, am mae'n debygol ei bod Y. am fyned i'r afon. Gweinidog mae'n amlwg yri cwyno yn y GWLADGARWK am ymddygiad cantorion yn Merthyr, dydd Nadolig, pan ar yr un pryd yn gwneyd ei oreu er atal ereill i wneyd daioni, gan na fyddai dim clod yn deilliaw iddo ef oddiwrth y daioni hwnw, ac y mae'n amlwg i'r medclylgar na fuasai fawr o son am hyn oni buasai i'r wobr gael ei chipio gan un o Aberdar a'i gor galluog, oblegyd y mae'n ffaith ddarfod i gor Merthyr enill dro yn ol, ac yr oedd yn rhaid iddynt ollwng colomen er myned a'r newydd ar ei hadenydd yn ol, gan gymaint yr awydd oedd arnynt i ryAvrai wybod y ffaith yn mhen ychydig fynudau. Gweinidog yn ffonio gyda chor ei gapel, am na chawsant enill mewn cystadleuaeth gartref ar Nadolig. Yr oedd yn eu harwain fel llu banerog i gystadlu mewn lie arall, gan obeithio i'r eisteddfod gartref droi yn flat shot, ac ar yr un pryd mewn llawn hyder am eu llwyddiant eu hunain, ond yn dyfod gartref er hyny yn anfuddugol; a'r gystadleuaeth gartref wedi troi yn grand success, gan fod yno bump o gorau galluog yn tynu am y dorch, a'r adeilad yn orlawn. CERDDOR.
Mr. Spurgeon ar bregethwyr…
Mr. Spurgeon ar bregethwyr hynod. Dyma destyn darlith o eiddo Mr. Spurgeon yn ddiweddar yn ei gapel ei hun. Eccentric Preachers yw y testyn yn Saesonaeg. Troi- som i'r geiriadur i edrych beth oedd y Gymraeg am eccentric," a chawn "afreol- aidd-gwyrog, felly dewisasom y gair "hynod" fel yn trosglwyddo y meddwl a'r syniad yn well. Dywedai fod bron yn ddrwg ganddo i siarad ar y testyn, gan fod rhywrai wedi bod yn ddigon anfoesaidd i sylwi ei fod yn rhyfeddu os gwnai efe (Mr. Spurgeon) ystyr- iecl ei hun yn bregethwr hynod. Wrth gwrs, nid ydoedd yn ystyried ei hun felly. Yr oedd wedi hyw yn y rhan hono o ddeheubarth Llundain yn awr am un neu ddwy flynedd ar ugain, ac nid oedd yn ystyried fod dim yn hynod (eccentric) o'i gylch ef, pa beth bynag oedd flynyddaw. yn ol. Yn mhob cenedlaeth, bu gwrthwynebiadau i'r gweinidogion. Daeth loan Fedyddiwr, a dywedasant "Y mae cythraul ganddo." Daeth Iesu Grist gan fwyta ac yfed, a dywedent ei fod yn yfwr gwin, a chyfaill publicanod a phechaduriaid. Nid oedd y naill na'r Hall yn hollol wrth eu bodd hwy. Yn y dyddiau hyn, y cyhudd- iad cyffredin yn erbyn gweinidogion a fuont yn llwyddianus yw eu bod yn hynod (eccentric). Os dywedent unrhyw beth oedd yn ergydio ac yn glynu, yr oedd y dynion oeddynt yn ceisio dianc rhag yr ergydion yn dweyd eu bod yn eccentric. Ac yr oedd pechod mawr hynodrwydd yn fynych yn cael ei wasgaru gan gelwyddau. Dywedid pethau am ddynion oeddynt yn awr yn fyw, y rhai a ddygwyddasant 100 mlynedd yn ol, a chy- huddid hwynt o wneyd a dweyd pethau ag oeddynt yn groes i'w natur. Beth oedd bod yn eccentric Os edrychant i'r geiriadur, caent weled nad ydoedd i gael yr un canol- bwnc a'r peth y cydmarid ef iddo. Dichon y gallai efe gael ei gymeryd yn eccentric gan ryw bobl. Caniataai hyny ond yr oeddynt hwy yn eccentric iddo ef. (Chwerthin). Galwodd dyn ef yn Annghydffurfiwr y dydd arall, end nid oedd efe yn ei gydnabod o gwbl. Yr oedd y dyü hwnw yn perthyn i'r Eglwys sefydledig, ac yn annghyclffurflair-yr oedd yn ymneillduo oddiwrtho ef. Yr oedd gancldo ef gymaint o hawl i fod yn safon ag oedd gan y dyn hwnw. Dywedodd y dyn wrtho ef, Yr ydych chwi yn Annghydffurf- iwr," ond dywedodd yntau, "Na, chwi sydd yn peidio cydymffurfio a ni." (Chwerthin.) Ac onid oedd hyn felly ? canys pwy oedd i osod i lawr yr hyn oeddynt i gydymffarfio ag |' ef ? (Cymeradwyaeth.) Pwy oedd i bender- fynu ar y canolbwynt ? 0" dywedai rhyw un, ceir ef yn y festri." Os agorent y drws caent weled pa beth ydoedd ai golclidy >— ] (chwerthin) — gwnau gnyynion, duon, a gwyrddion, ac albes, birettas, a—ond nid oedd efe yn hyddysg yn nherfyniadaeth dilltcl- waith Eglwysig. Peidiwch cyffwrdd a'r soth- ach bratiog, dim hyd y nod y rhecsyn gwyn sydd o gylch eu gyddfau, yr hyn ymddangosai fel yn weddillion olaf Pabyddiaeth ffiaidd. Ond os dodent i lawr ganolbwnc byddai raid ei newid yn fuan. Yr hyn oedd yn eccentric ar un amser nid ydoedd yn eccentric amser arall. Rhyw ganrif yn ol, neu ychwaneg, safodd John V\ esley ar fedd ei dad i bregethu yn mynwent Epworth; dywedai pobl ei fod yn beth eccentric i bregethu yn yr awyr agored ond yr oedd lesu Grist a'i apostolion yn pregethu yn yr awyr agored. Yn ein dyddiau ni rhaid i Annghydffurfwyr beidio sefyll ar gareg bedd na gorwedd dani. Gwa- herddid hwy. Elai y pryfed sanctaidcl a ym- borthent ar gyrff yr Eglwyswyr yn glaf os ymborthent a'r gyrff Ymneillduwyr. Y gwir ydoedd, fel yr oedd amser yn dirwyn yn mlaen yr hyn oedd hynod mewn un oes nid oedd felly yn y llall. Un o'r cyhuddiadau o hynodrwydd a ddygid yn erbyn Whitfield a Wesley oedd eu bod yn gvvisgo eu gwallt eu hunain yn lie wigs. A allasai dim fod yn fwy gwrthun 'I Darfu i berson sanctaidd o Holland ysgrifenu ato ef ei fod wedi darllen yr oil o'i bregethau gyda plileser, ond nas gallai wneyd hyny yn hwy, gan y dywedid wrtho ei fod ef (Mr. Spurgeon) wedi myned yn ddyn cnawdol a bydol, ac yn gwisgo moustache. (Chwerthin mawr.) Dywedai John Owen unwaith y rhoddai ei holl ddysg a'i wybodaeth i fod yn alluog i bre- gethu fel y tincer, John Bunyan ond dy- wedai ef fod hyny yn beth annoeth oblegyd yr oedd ei bregethau yn taro rhai pobl yn well na dull damegol John Bunyan o bre- gethu yr efengyl. Yr oedd yn well i Owen fod yn Owen, a Bunyan fod yn Bunyan. Yr oedd rhai dynion a ymdrechent dynu sylw trwy ryw ddyeithr-bethau, a'r rhai hyny heb fod yn eiddo iddynt eu hunain. Nid oedd ganddo air i ddweyd dros y fath ddynion, ond rhoddai hwynt drosodd fel ceffylau meirwon i gwn beirniadaeth. Clywsai am ddyn, yr hwn a ymdrechai gael cynulleidfa trwy ddweyd, os deuent, y byddai iddo ddangos iddynt y ffordd i wneyd par o esgid- iau a phan ddaethant cyflawnodd ei addewid trwy gymeryd par o fotasau, a thori y rhan uchaf ymaith. Yr oedd hyny yn fath o eccentricity nad oedd efe yn cynghori neb i'w efelychu. Yr oedd rhai pobl a wisgant ddillad hynod. Nid oedd efe yn eu ham- ddiffyn. Paham. nas gallai dyn wisgo fel boneddwr ac nid fel menyw ? (Chwerthin). Credai cf fod yr amser i ddyfod pan y byddai yr holl bethau hyn i gael eu dodi mewn am- gueddfa a phan y dywedid wrth ein hwyr- ion fod pregethwyr yn gwisgo y mathau hyny o ddillad, ni chredent hyny. Yr oedd yr hen John Berridge yn hynod yn ei ddydd. Nis gallai fyw heb fod yn ddigrif ac allan o'r cyffredin. Gofynodd dyn iddo unwaith, pan gydag ef yn ei ystafell, beth oedd y tri phictiwr oedd gydag ef yno. O," ebe fe, -Lin yw Luther, y llall yw Calfin, a'r llall yw y diafol." Aeth y dyn i fyny at y pictiwr olaf; a beth ydoedd ond drych (looking glass), ac ynddo gwelai ei hun. (Chwerthin). Pan yr oedd efe yn pregethu, yr oedd dwy res o bobl yn mhob eisteddle yn yr eglwys, ac ysgolion yn cael eu gosod yn erbyn y ffenestri er mwyn ei glywed. Yr oedd darlith Mr. Spurgeon yn dra dyddorol drwyddi.
Advertising
"MOr yw Cymru i gyd." Sion, Bryntawod, Llangyfelach. CYNELIK EISTEDDFOD FAWREDDOG NJ yn y lie uchod dydd LLUN, Mai 8fed, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Barddoniaeth, Rhyddiaeth, a Cherddoriaeth. Llywydd,-Evan Thomas, Ysw., M.A., Heolddu. Arweinydd,—Simon Evans, Ysw., D.D. Beirnictid,NV. Scully (Eos Wilach); y gwobr- gwd, Mrs. Anne Thomas, Heolddu. RHYDDIAETH. Am y Traethawd goreu ar yr "Oes Bresenol gwobr, Ip Is. BARDDONIAETH. Am y Farwnad oreu i Mr. John Glasbrook, Pen- pant; gwobr, lp. Am y gan o glod oreu i Mrs. Anne Thomas, Heolddu; lp. Am y ddau Englyn goreu i Mr. Wm. Thomas, gamekeeper, Orosslan; gwobr, 10s. 6c. CERDDORIAETH. I'r C6r, heb fod dan 60 mewn nifer a gano yn oreu "Y Gauaf," gan Eos Wilach; gwobr, 8p. 8s. i. tenor violin i'r arweinydd. I'r Cor heb fod dan 40 mewn nifer a gano yn oreu "Mendelssohn," o Lyfr Stephen a Jones; gwobr, 3p 3s. Bydd Cyngherdd yn yr hwyr, pr7d y gwasan- aethir gan rai o brif gantorion y lie; Llangyfelach String Bandj dan arweiniad Mr. T. Glasbrook, a Mr. W. Scully, ar y crwth; Accompanist, Mr. J. Griffiths, Heolddu. Am fanylion pellach, gwel y proyramme, yr hwn sydd i'w gaer gan yr Ysgrifenydd am y pris arferol. WILLIAM THOMAS, Heolddu, 1267 Llangyfelach, near Swansea. CODWYD yn Llandybie, tua 12 mis yn ol, I GADWTN AUR AC OKIAWR; gall y perchenog eu cael trwy roddi desgrifiad a thalu treuliau gan- I JOHN THOMAS, London House, 11268 Llandybie, R.S.O. < AT YMFUDWYR. TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australimi Sailing Ships and Steamers. N M. JONES (Cn-mo GWYLLT), Passengei Broker, 28, Union-street. Liverpool, Gor wyliwr i'r Llinellau canlynol :—Inman Line, Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, Statf Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a'i Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cyfarwyddiadau gofynol drwy anfon llythyr i'! cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofa; iddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REES. brodor o Merthyr Tydfil. Dymunol gan y Cymro alltr, hysbysu y Cyhoedd, fod ganddo y TY CYMREIG eangaf a mwyaf cyfleus i Deitlvwyr ac Ymfudivyr yn L'erpicl, a'r agosaf i'r Landing Stage. Cofier y Cyfeiriid, N. M. JONES (CYMRO GWYLLT), 28, Union-street, Liverpool. D.S.—Gellir ymholi yn Aberdar a John Jame& Crown Hotel. LLINELL Y "NATIONAL" I NEW YORK. YMae y Cwmni hwn yn cymeryd arnynt eu -L hunain y cyfrifoldeb o msurio pob un o'r llestri i'r swrn o £100,009, ac felly, yn rhoddi j sicrwydd goreu i'r ymfudwyw am eu dyogelwch; ac S maent hefyd bob amser wedi mabwysiadu y wybr deheuol er mwyn osgoi y rhew a phen- oedd. YR AGERLONGAU MWYAF 0 Liverpool i New York bob dydd Mercher, » phob yn ail ddydd Gwener i Boston a New York. SP 4IN Mercher, Chwef. 16 EGYPT Mercher, Chwef. 23 ITALY Mercher, Mawrth 1 Yn gadael Queenstown y dyddiau canlynol. Rhedant o Llundain i New York fel hyn DENMARK Mercher, Chwef. 23 HOLLAND Mercher, Mawrth 1 FRANCE Mercher, Mawrth 8 Y mae cyfleusderau saloons yr Agerlongau hyn yr dra rhagorol, trwy fod y state-rooms yn eang an arferol, ac yn agoryd i'r saloons, pa rai sydd yn y poop ar y deck. Pris y cludiad, 10, 12, 15, a 17 gini, yn ol cyt- leusderauy state-room. Pawb yn cael yr un hWlliI yn il saloon. Pris y cludiad yn y Steerage yw .£5. Return Tickets—24 Guineas. Y mae eangder, goleuni, ac awyr y steerage, YL anghydmarol, ac y mae digonedd o ymberth fresh yn cael ei barotoi gan Stewardiaid y Cwmpeini; at ni cheir cludiad rhatrach gydag unrhyw linell Gall ymfudwyr hookio drwodd i bob parth < Ganada a'r Talaethau Unedig am brisoedd isel Am fanylion pellach, ymofyner a'r NATIONAL STEAM SHIP CO., 23, Water-street, Liverpool neu at SMITH, SUNDIUS, & Co., Agents, 33, Grace. church-street, London. Neu at JOHN THOMAS, 1, Prospect Place George Town, Tredegar; GEORGE OWEN, Upper High-street, Rhymny; HENRY A. LEWIS, Newtown, Ebbw Vale; D. THOMAS, Clydach and Brynmawr; HERBERT, T. REES. Pentre Ystrad, Rhondda Valley; neu at F. W CAUNT, 4, Whitcombe-street, Aberdare. L.369 "k-K T N M AN ROYAL MAI I 1 STEAMERS, LIVERPOOL t* NEW YORK Dyddiau Mawrth a Iau. SALOON, 12, 15, 18 a 21 Gini; Steerage am bris & SALOON, 12, 15, 18 a 21 Gini; Steerage am bris & llawer is nag arferol, gyda digonedd o ym borth wedi ei goginio yn dda, a lleoedd cyfleua Trosglydir Teithwyr y Steerage i Boston s Philadelphia heb dal ychwanegol. Bookir teitb wyr i unrhyw ran o'r Taleithiau o Canada an brisiau neillduoL Rhoddir tocynau a phob cyfarwyddyd gM WILLIAM INMAN, 22, Water-street. Liverpool, neu rywrai o oruchwylwyr yr Inman LUte. L.153 LLINELL Y "WHITE STAR" 0 -iUNITED STATES MAIL STEAMERS. 4bs5O Liverpool i ac o New York RHYBUDD.—Cymer Agerlongau y LUndl han y Lane Berates wrth fyned a dychwelyd, y rhai a gymeradwyir (fan yr Is-gadben Maury. REPUBLIC Bydd lau, Chwef. 17 GERMANIC Dydd lau, Chwef. 24 CELTIC Dydd lau, Mawrth 2 ADRIATIC.. Dydd lau, Mawrth 9 BALTIC Dydd lau, Mawrth 16 0 NEW YORK. GERMANIC.Dydd Sadwrn, Chwef. 5 CELTIC.Dydd Sadwrn, Chwef. 12 Gan alw yn Queenstown, i dderbyn teithwyr, at ddydd Gwener. Y mae yn yr agerlongau hyn gyfleusderau neillduol i gaban-deithwyr; y Mae saloon, state-room, ystafell smocio yn midships, y mae meddyg a goruchwylwyr ar bob llong. SALOON,—15 gini a 18 gini. Return tickets an 35 gini. Steerage, at reduced rates. Am hysbysleni a manylion pellach, ymofyner s ISMAY, IMRIE, & Co, East India-avenue, London, a 10, Water-stneet Liverpool. L.369 For Sale. rilEN per cent per Annum. A NEW SUB- 1 STANTIALLY-BUILT SEVEN ROOMED DWELLING HOUSE, replete with every convenience, situate in one of the healthiest parts of Treherbert, and with an annual rental re- turning the above percentage on selling: price— three-fourths of which can remain upon Mortgage if required. 99 Years Lease.-Apply to Geo. M. Rees, Public Accountant, Treherbert. 1262 Arian! Arian!! Arian! OS ydych am Arian, o Ddeg Punt i fyny, ar unrhyw fath o security, ymofyDweh a Mr. GEO. M. REES, Public Accountant, Treherbert. D. S.—Pob llythyr i gynwys dau stamp ceinio-r am atebiad. 1261 DARGANFYDDIAD RHYFEDD. Gwellhad rhag y Dropsy: Mawr yw y dyoddef oddiwrth y Clefyd peryglur > hwn, a mawr yw y siomiant sydd yn feunyddiol oddiwrth gyffyriau meddygol; ond yn awr, trwy y darganfyddiad hynod hwn, fe ellir cael gwellhad uniongyrchol oddiwrth Boe-n yn y Cefn, Diffyg JJwfr, ,'U: Chwydcl yn y Chmiau, Chwydd yn yr Ymysgaroedd a'r Traedy Dijfyg Anadl, Gwynt yn y Cylla a'r Perfedd, Owiad y Galon, Gwendid, Gravel, &c., (yr hyn sydd arwyddion o'r Dropsy,) trwy gymeryd HUGHES'S VS, PATENT DROPSY PILLS. Un blwch a brawf eu rhyfedd effeithioldeb. Gellir eu cael trwy unrhyw Fferyllydd yn y Deyrnas am Is lie., 2s. 9c., a 4s. 6c. WHOLESALE—Llanelly: JACOB HUGHES, Chemist and Dentist, Apothecaries' Hall. London Messrs. Herron, Squire, and Francis; Barclay and Sons, Sutton. Bristol: Pearce and Co. These valuable Pills arc Registered at Stationers' Hall, London. Any infringemenl will be prosecuted. Un neu ddau, allan o lawer, o Dystiolaethau yn fy meddiant sydd fel y canlyn:— [A COPY] Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddyg- iniaetli effeithiol, o'r enw PATENT DROPSY PILLS y maent wedi fy llwyr iachau o'r Diffyg Anadl, Poen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau a'r Traed, ac yr wyf yn gobeithio y caiff pawb wybod am danynt, fel y gallont gael iachad. Llanelli, Tach. 10, 1875. D. DAVIES. [A COPY] Trwy gymeryd eich moddion effeithiol chwi cefais fy iachau o'r Dropsy, Chwydd maw dros yr holl gorff, Diffyg Dwfr, Peswch a Diffyg mawr ar yr Anadl, a Churiad y Galon. Yr oeddwn yn bur mmhebygol o wella; er cymeryd llawer o foddion, eto dim daioni. Yn fuan wedi cymeryd eich moddion rhagorol chwi at y "Dropsy, y Gwynt, a'r Graf el," cefais ryddhad. G-wneweh y defnydd a fynoch o hwn.—Yr eiddoch, Llandybie. R, THOMAS. 1212 Eisteddfod Gadeiriol Treherbert. CYNELIR yr Wyl Flviiyddol uchod yn y PUBLIC HALL, DYDD GWEXEII Y GROGLITH,. 1876. PRIF I) DARN ATT. Gerddoriaeth—I'r cor, heb fod dan 60 o rif, a gano yn oreu Y Glowr (Gwilym Gwent), buddugol yn Eisteddfod Tonypandy, 1874. I'w chael gan y cylioeddwr, I. Jones, Treherbert. Gwobr, 20p, a, medal aur i'r arweinydd. I'r Cdr o'r un gynulleidfa, heb fod dan 5Q- mewn rhif, a gano'n oreu "Fy Ngwlad" (J. Thomas, Llanwrtyd). Gwobr, lOp. I'r Parti a gano'n oreu Dewch i'r Gàd" (Gwilym Gwent). Y gerddoriaeth i'w gael gan I. Jones, Treherbert. Gwobr, 2p. I'r hou a gano'n oreu Gyda'r W avrr" (J. Thomas). Gwobr, 10s. 6c. I'r hwn a gano'n oreu Y Bacho-en DevsT" (J. Parry). Gwobr, 10s. 6c. ° Barddoniaeth—Am y Bryddest oreu ar Gor- esgyniad Palestina o dan Joshua." Gwobr, 5p. a chadair hardd, Rhyddiaeth — Am y Traethawd goreu ar Glanweithdra personol a thouluaidd." Gwo br, 2p. 2s., rhoddedig gan Dr. Rhys. Am y Traethawd goreu ar "Gynydd Masnach Cwm Rhondda." Gwobr, lp., rhoddedig gan, Mr. W. Evans, Dunraven Arms. Am y Casgliad goreu o Ffraethebau Cymreig. Gwobr, 3p. Bydd y programme yn barod ar y laf o lonawr, ac i'w gael am y pris arferol gan yr Y sgrifellyddion. Am y Ddau Englyn Unodl-union i'r Gath." Gwobr, 5s. BBIRNIAID. Y Gerddoriaeth—PHNOEEDD AMERICA ac Eos RHONDDA. Y Farddonweth, <L-e. —MTNYDDOG. Cynelir CYNGHERDD mawreddog yn yr hwyr. Yr elw i fyned at Brifysgol Cymru. D. P. LEWIS, Dumfries-street, ) v G. M. REES, Station-street, j s^n* 1169 CASTELLNEDD. CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie uchotl, DTDD LLUN PASG, EBrill yr 17eg,1876. Caniadaeth. 1. I'r cdr, heb fod dan 100 mewn rhif, a gano oreu "Thanks be to God," o'r Elijah. Gwobr, E25. 2. I'r heb fod din 60 mewn rhif, a gano oreu, Mendelssehn's Hunting Song." Gwobr, jBlO. 3. I'r pedwar a ganont oreu Hold the Fort." Gwobr, 4s. 4. I'r sawl a gano oreu "Wyres Fach Ned Puw." Gwobr, 2s. 6ch. 5. I'r sawl a gano oreu "Y Ferch o'r Seer," Gwobr, 2s. 6ch. 6. I'r sawl a gano oreu "Bedd Llewelyn." Gwobr, 2s. 6ch. 7. I'r sawl a gano oreu "Maid of Cefn Ydfa," mewn gwisg Gymreig. Gwobr. 5s. 6c. Off cry vol. 8. I'r Brass Band, heb fod dan 15 mewn rhif, ehwareuo yn oreu "The Heavens are Telling." Gwobr. £10. 9. I'r Drum .{o Fife Band a chwareuo yn oreu Selections of Welsh Airs." Gwobr, 3p. 10. I'r sawl a ehwareuo oreu, ar yr Harmonium "Men of Harlech." Gwobr, 3s. Adroddiadau. 11. I'r sawl a adroddo oreu Y Dymhestl Olaf." Gwobr, 2s. 6ch. 12. I'r sawl a. adroddo oreu "Y Llollg ar Dan." Gwobr, 2s. 6ch. Enwau yr holl ymgeiswyr i fod mewn llaw erby* dydd Llun, Ebrill 3ydd, 1876, yn nghyd a nifer y eaatomn yn y Corau a'r chwareuwyr yn y Bands, 1244 J. JONES, Ysgrifenydd, ;r- *■ f. 9 "1'- ..r J.