Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
iModiadau Cyifredinol.
iModiadau Cyifredinol. Bydd f yn cael y mwynhad o weled y Dryeh Americanaidd ar ambell dro, ac am wn i, nad efe ydyw papyr y genedl Gymreig yn y wlad hono. Rhyddid barn a llafar ydyw avwyddair y Drwh, er y myn rhywvai ei alw yn oracl Anffyddol, ond erys hyny heb ei broil hyd yma. Yn un o'r rhifynau di- weddaf gwelaf fod fy hen gyfaill y crydd, gynt o' Waencaegurwen, adnabyddus yn America wrth yr enw barddol Dafydd y Gareg Wen, ei fod wedi troi i addoli y mesurdiodl, neu fel y dywedai y uiweddar a'r anfarwol Cynddelw am dano-y rhigwm pen bawd. Gresyn fod meibion Cymru, er myned ohonynt i bellder- au y gorllewin, yn ymollwng i gefnogi estron- iaeth o fath y mesur diodl. Bydded i ni, fel Cymry, He bynag y byddom, dual ein gafael yn yr lioi oell a'r glee, ir liyn sydd yn gwneyd ein barddoniaeth yn bur a dihalog. Pcrthyna y pethau estronol, ys dywed Goronwy, i Young Wales, ac nid i Gymry Cymreig gwlad y cenin. Gall fy mod i yn feius yn y peth hwn, ond yn fy myw nis gallaf weled yn wahanol. Y cywydd, yr englyn, a'r gan odbadol ydynt y pethau a bertliyn i'n cenedl ni, a phob mesurau ereill nid ydynt yn am- gen na thrauioriaid yn y wlad hon, a gellir ystyried y saw] a'u mabwysiadant yn ddim llai na bod yn ddilynwyr Die Siion Dafydd, o ba rai y ceir nifer mawr yn Nghymru heddyw. Nid oes dim a berthyn i ddsfodau ac arferion y genedl yn gwarafun neb i ddysgu ieithoedd ereill, ond dylai fod cymaint a hyny o genedlgarwch yn nghalon pob Cymro a wna iddo gadw y Gymraeg yn ystafell fewn- 01 y galon i fod yno fel brenhines y lie. Saif cymeriad moesol a chymdeithasol y Cymry yn ogyfuwch a'r un genedl ar wyneb y byd, 11 y o ganlyniad, paham y rhaid i neb wrido a chywilyddio ei fod yon Gymro Cymreig:— Pe meddwn ar dafodau fyrdd I siarad ieithoedd gwledydd byd, A'u trosi mewn amryfal ffyrdd, Yn mlaeimf bydd Cymraeg o hyd, Hen iaith hynaiol mam a nhad, # A iaith goreugwyr dewr fy ngwlad. Cydnabyddwyf gyda dyledus barch fod y Saesonaeg yn iaith. fasnachol y byd, a chyf- rwng bara cliaws i filoecld, eto mae yn ddyledswydd neillduol ar bob dyn i gadw mewn urddas iaith y wlad y perthyna iddi er profi nad Qes arno gywilydd o'r genedl a'r wlad a'i magodd. Mae balchder a choegni yn arwain llawer i feddwl fod siarad Saeson- aeg yn rhywbeth mwy urddasol na siarad Cymraeg qnd fe ellir priodoli y diffyg hwn i wendid yr ymenvdd, a phrinder gallu ilyw- odraetlm y cyneddfau deallol, a thrwy hyny wneyd eu hunain yn wawd cenedloedd y byd. Gadawer i bob Sais-addohvr i gael ei ffordd, a bydded i bob Cymro Cymreig edrych ar v cyfryw gyda dirmyg liaeddianol. v Bum agos annghofio fy addewid o wneyd sylw ar y lleng hysbysiadau a ymddengys y naill wythnos ar ol y Hall. Maent yn am- rywio yn eu teilyngdod yn ol gradd a dos- barth. Daw y money lenders yn mlaen ar ben y rhestr, a gellid eu cyfrif yr hymbyg- iaeth penaf a ymddangosodd o dan dywyniad haul y nefoedd. Yn ail, daw y crachfeddyg i sylw fel un pwysig ar esgynlawr bodolaeth, a braidd na fyn haeru ei fod yn agos a bod yn anffaeledig, a'r cyffeiriau a gynygir ganddo yn gynwysedig o rinweddau i wella pawb, bydded y dolur beth bynag y byddo ni fydd t hyny o un gwahviiaetli, am na fydd byth yn methu, os ydym i gredu brol gwacyddol y crach-ymhonwyr hunan-ganmoledig a gyf- arfyddwn mewn nair a marchnad. Anaml y cyfarfyddwn ag un Cymro yn dilyn Cwac- yddiaeth, er fod yn ein plith ambell un tebyg i hwnw y bu Telynog a'r Cymro Gwyllt yn ymgipris ag ef flynyddoedd yn ol yn March- nad Aberdar. Taera cyfaill wrthyf nad Cymro oedd hwnw chwaeth, ond ei fod yn hawlio ei fod yn Gymro o ryw fath neu gil- ydd. Gan nas gallaf wneyd iawnder a'r testyn ar hyn o bryd, rhaid ei adael, gan addaw i mi fy hun amser ar chyfle i wneyd sylw helaethach o'r testyn eangfawr. Ceisiaf godi hwyl i wneyd rhigwm odlog ar y testyn, gan gymeryd golwg gyffredin ar bob math— o stop y dillad parod hyd i fasnachdy y coffiniwr rhad, ac i lawr i hysbysiad darllaw- ydd y cwrw grot. Rhyfeddol ydyw cynydd a llwyddiant canu cora.wl yn Aberdar er pan oedd Twmi Hywel Morgan yn dechreu canu yn Ebenezer, ar Heolyfelin Abraham James a William Mor- gan y Bardd yn Carmel, ar y Comin y nhw oedd yr athrawon y dyddiau hyny, ond heddyw fe allwn rifo eiii canwyr wrth y cant a'r gelfyddyd wedi gloewi llawer ond nid wyf yn meddwl fod gwell dylanwad yn dilyn yn awr nag oedd yr amser hwnw. Cantor- esau pwysig y dyddiau hyny yn Ty Cwrdd Pen yr Hewl oedd mam Gwilym Cynon, Sian Gruffydd, a gwraig William y Bardd yn nghyd a nifer ereill nad wyf yn cofio eu henwau ar hyn o bryd. Melus adgof y gorphenol, Melus c6f y dyddiau gynt. Ond rhaid gadael y cyfan, a symud yn mlaen gyda'r oes. Mintai bwysig o gerddorion yn ^Aberdar ydyw y Cor Undebol dan arweiniad y cyfaill Rhys Ifans, y dilledydd ac ysgrif- enydd difai, yn ddiau, ydyw eich Trefnydd I yn y Swyddfa yna. Pe cawsai y Gogleddwyr yma glywed y cor am ychydig o droion gallai fod yn wers iddynt er ymgyrhaedd at ragor o berffeithrwydd cerddorol. Rhag trethu gormod ar eich colofn :,u caiff hyn fod yn ddiweddglo am yr wythnos hon. NAI 'RHEN DDYRNWR.
[No title]
EHYBTJDD.—Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau glas gwael yn cael eu gweyd yn fodiau, peleni, a phow- dwr; ond eto, y maent yn gorfod rhybuddio y cyhoedd yn erbyn.mathau gwael o liw glas sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr kwn a werthir oherwydd yr elw jchwanegol a geir trwy hyny Gofnler, gan hyny, am gael y Paris Blue pedair- onglog. yn dwyn enwau I. EECKITT A'I JEIB- ION yn nghyda'r arwycklnod masnactol. H77.
Manion Hanesyddol.
Manion Hanesyddol. Mae y newyddion o gymydogaeth y pegwn deheuol yn rhyfed, onid ydynt] Un yn dweyd fod yno ddigon o laid a llau, a'r nesaf yn cwyno am brinder dwfr. Buasai bod yn bwyllog yn well i lawer heddyw, a pheidio cymeryd eu llygaid-dynu gan frol hunanol a chelwyddog dynion anwybodus. Beth a ddywed Mynyw a'r Pedwar BOIlwr urddasol am y miri y maent wedi arwain y bobl iddo, a'r truenusrwydd sydd yn debyg o oddiwedd- yd y minteioedd mewn amser i ddyfod. Mae yr awdurdodau Prydeinig yn gwahardd i neb ymfudo i'r Chupat mwy nag i Brazil, ac nid yw yn debyg y bydd i fygythiadau y Pen- ciwdawd o'r Bala etfeithio dim ar John Bull. Y mae yr afon heb godi, meddan' nhw, felly rhaid cael camlas, ac os na chyfyd yr afon, pa les fydd y camlas Ddarllenydd, cyn wired a bod tatws yn tyfu yn Mon, mae yn sicr bod baw yn y caws. Cynideithion an- hylaw i Gymry ydyw Ilau ac os gwir y llythyrau a ddaw yn ol oddiyno, rhowch i mi eto hen Gymru anwyl, er cymaint trais a gormes ein pobl fawr. Mae y Ni Wladfaol wedi myned i'r pared, yn ol pob tebyg, a beth nesaf fydd gan yr esgobion, oblegyd rhaid cael rhywbeth er codi y gwynt ar y gyfnewidfa, er bod i fyny ag arwyddair y :ly y swyddogaeth a ddaliant, sef llygad y geiniog. Arnser ydyw yr esboniwr ar bob symudiad, a chawn weled yn y dyfodol beth a ddaw o'r Wladfa. Rhaid gobeithio y goreu am y presenol, a dyogel hyderu na fydd ein cyd- wladwyr yn y dyfodol mor orphwyllog a gwrando ar bob chwedlau gwrachaidd a daenir gan anwybodusion na fynant i neb farnu yn groes iddynt. Mae y bygythion amser yn ol yn dyfod i'r cof, ac yn gwirio yr hen ddiareb, "Nid gwaeth y gwir o'i chwilio," ac nad oes neb ond smugglers yn anfoddlon myned o dan ymchwiliad. Gwell bod yn dawel er gweled beth fydd y newyddion swyddogol oddiwrth ddynion o ymddiried. Mae yr ymfflamychwyr wedi ymdawclu yn rhyfedd, a gall y bydd yn rhaid iddynt fod yn dawelach eto.-Yr eiddoch, SOLON.
CYNGHERDD GYMREli YN L'ERPWL.
CYNGHERDD GYMREli YN L'ERPWL. Nid yn ami y ceir y fendith o gyngherdd 1 Ily Gymreig yn nhrefydd Lloegr; ond nos Fawrth, y laf cyfisol, cafwyd un o'r cyfryw nodwedd, perthynol i Eglwys Sant Dewi. Gwasanaethwyd gan y Corawd Cymreig, o dan arweiniad y bydenwog Wm. Parry, y rhai a ganasant yn gampus fel arfer. Canwyd amryw ganiadau gan bersonau unigol, ac aelodau perthynol i'r cor Y prif ganwr oedd Mr. T. J. Hughes, yr hwn sydd bob amser yn dderbyniol ar y llwyfan yn L'erpwl; ac nid oes rhaid iddo wrth ganmoliaeth y cyffredin, am ei fod yn medru dal y feirniad- aeth fwyaf manwl. Cafwyd sylwadau grym- us gan Mr. Davies (yr offeiriad) ar y cam- syniadau a wneir gan y Cymry yn Lloegr o wadu yr Omeraeg heb fod un achos yn galw am hyny, ac nad yw yn debyg y daw un achos i alw am hyny tra bydd y lloer yn arianu'r lli'. Os deil yr ysgolor i fyned yn mlaen yn y cyfeiriad uchod, mae yn sier o enill cefnog- aeth pob Cymro gwir Gymreig yn y dref ac am y Die Shon Dafyddiaid, nid yw o gymaint pwys am danynt hwy. Aeth pob peth dros- odd yn wir foddhaol, a chafwyd cynulliad dymunol ac ystyried nad oedd hysbysiad ohono wedi wneyd ond rhyw ddau ddiwrnod yn flaenorol. Mae llwyddiant y canu yn yr Eglwys Gymreig yn gorphwys ar ffyddlondeb cyfaill o'r De, yr liwn sydd yn frodor o Frych- einiog, o'r enw Roger Powell. Bachgen glew fel pob Hwntw arall, gydag eithrio ambell un a adwaenom yn y parthau yma. Soniodd y llywydd (Mr. Davies) fod miloedd o Gymry yn L'erpwl, ond nad oedd yma yr un gymdeithas lenyddol Gymreig o fewn ein magwyrydd. Llwyddiant iddo i godi bywyd newydd yn y Cymry a breswyliant yn L'erpwl. Mae efe yn Ddeheuwr o'r argraff- iad goreu, yn ol a wn i am y Deheuwyr. Maddeuwch fy hyfdra yn eich colofnau.—Yr eiddoch, GOHEBYDD ARALL.
IBRYCHEINIOG.
I BRYCHEINIOG. BRULAH. -Nos lau, y lOfed cyfisol, cynal- iwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie uchod. Llywyddvtyd a beirniadwyd yr adroddiadau, mewn rhan, gan y Parch. D. A. Griffiths, gweinidog y lie. Beirniadwyd y canu, a rhan o'r adrodd a'r areithio, gan Mr. J. Thomas, Llanwrtyd(Blaenanerch); a'r traeth- odau a'r farddoniaeth gan Mr. D. Buallt Jones. Yr oedd y gystadleuaeth, gan mwyaf, yn gyfyngedig i Ysgol Sabothol y lie, a rhai pethau yn agored i Ysgolion Troedrhiwdalar, Capel y Rhos, a'r Olewydd. Cafwyd cynull- iad tra lluosog, a chystadlu bywiog iawn. Enill wyd y prif wobrwyongan Mri. J. Jones, R. Powell, a'u partion a'r gwobrwyon am unawdau gan Misses Esther Powell, a Mary Williams Mri. Isaac Thomas, R. Powell, a Thos. Pugh. Gwobrwywyd Mri. James Davies a Thomas Davies am draethodau a phenillion. Rhanwyd hefyd luaws o fan wobrwyon mewn llyfrau i blant am ganu ar yr olwg gyntaf, ac am adrodd. Cymerodd Mr. Thomas drafferth fawr gyda beirniadu'r canu, ac ymddengys iddo roddi buddlon- ,Dy rwydd mawr. Canodd cor y plant a chor y lie amryw ddarnau yn rhagorol yn ystod y cyfarfod dan arweiniad Buallt. Cynyrchodd y gystadleuaeth fywiogrwydd mawr yn y gy- mydogaeth.—Cammarch.
LLANEGWAD.
LLANEGWAD. Fel lluaws o blwyfi ereill, derbyniodd phvyfi unedig Brechfa a Llanegwad archeb oddiwrth y Bwrdd Addysg yn Llundain ar sefydlu ohonynt Fwrdd Ysgol yn eu mysg, i'r dyben o helaethu rhai o'u hysgoldai, ac j adeiladu un newydd yn nghymydogaeth Felingwm. Caniatawyd naw o aelodau i fod ar y Bwrdd. Cyhoeddwyd vestry i'r dyben o'u henwi ar y 3ydd o'r mis hwn, a bu y plwyfogion y dyddiau blaenorol yn dra phrysur yn mesur a phwyso teilyngdod gwahanol bersonau y cymydogaethal1 er ceisio dyfod o hyd i "náw wyr da. eu gair, T TT ^awn 0 addysg;" a phrydnawn ctydd Iau, yr wythnos ddiweddaf, breint- lvvyd hwy a'r vestry uchod er nodi allan y rhai a farnent yn wir gymhwys i gymeryd rhan o "weinidogaeth gwybodaeth" yn unol a deddf addysg ein gwlad. Ni bu cynghor erioed yn fwy tawel ac anmhieidgar yn Llanegwad. Eneiniwyd y naw a ganlvn i'r swydd Mri. James, Ffynongollen Davies, Cefn; WiUiams, Tirbach Davies, Llwyn- gwyn; Evans, Brechfa Simpson, CWlll; Kirby, Pantglas Arms Roes, Llwyniiortun a r Parch. T. B. Nicholl—yr oil yn Annghyd- ffurfwyr ond y ddau olaf, y rhai sydd Eglwys- wyr. Ofnid y byddai ymryson am y swydd rhwng y naill blaid a'r llall, ond gwiriwyd yr hen benill anwyl ganddynt "Darfydded son am bob ymryson mwy, Partiol farn a rhagfarn, lawr a hwy; Doed yabryd hedd, tangnefedd yn eu lie, A. chariad pur o'r cariad sy'n y ne' Nawr, fechgyn « Gwyliwch arnoch eich hun, ac ar eich hathrawiaeth. ^wnewch.bob dim heb rwgnach ac ymddadleu, a Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi."— Yr Ehedydd.
GIANT'S GRAVE.
GIANT'S GRAVE. Anfynych iawn y ceir gair yn eich colofnau gwerthfawr o'r lie bach hwn, a thebyg nad ydyw haner poblogaeth Deheudir Cymru yn gwybod fod y fath Ie mewn bod; ond i gael. dangos iddynt bod yma ardal fechan a llwyddianus iawn wedi bod yr amserau gynt, wele fi yn cymeryd y pin i ysgrifenu rhyw ychydig o'i hanes, gan obeithio y byddwch chwi cystal a rhoi lie iddo yn eich newydd- iadur. Gorwedd y lie uchod rhyw dri chwarter milltir o Briton Ferry, wrth lan afon Nedd, yr hon sydd yn arllwys i'r mor mawr yn y fan hon. Trwy'r lie rhed Gamlas y Vale of Neath, pa un sydd wedi bod yn gyfleusdra neillduol i ddyfod a'r stone coal and culm i lawr o weithfeydd Aberpergwm, Maesymarchog, a Phwllfaron. Mae yma ddynion lawer yn cael eu bara beunyddiol trwy weithio ar y wharfs ac yn Ngweithiau Alcan Briton Ferry, pa un sydd yn ymyl. Mae masnach y glo wedi bod yn llwyddianus annghyffredin yn yr ardal hon; glo careg yn cael ei gludo ymaith gan y gwahanol lestri wrth y miloedd o dynelli. Y goruchwylwyr ydynt Mri. Morgan Lewis, Aberpergwm; Thomas Allen, Maesymarchog; a William 0 Saph, Pwllfaron. Gellir dweyd am y bonedd- igion hyn eu bod yn ddynion gonest a chywir, wedi gwneyd eu goreu yr un cystal i'r meistr a'r gweithiwr. Eisieu dynion o'r natur yma sydd yn y gwahanol weithfeydd, yna y bydd heddweh yn teyrnasu ac nid ymrafaei beun- ydd. Cymaint a liyna mewn perthynas i fasnach. Edrych wn yn awr pa fodd y mae pethau crefyddol ac adaysgiadol yn myned yn mlaen. Y mae yma un o'r capeli liarddaf yn y Deheu- dir, wedi ei adeiladu gan y brodyr parchus y Methodistiaid, pa un sydd yn glod i Mr. Richard Hill, yr hwn sydd wedi bod yn mlaenllaw gyda sefydlu yr achos yn y fan hon. Y gweinidog ydyw y Parch. Thomas Davies, yr hwn yn nghyel a'r eglwys sydd yn weithgar iawn. Bydd yma gangen gref o Fethodistiaeth mewn ychydig flynyddau eto. Oddeutu blwyddyn yn ol agorodd Bwrdd Ysgol Briton Ferry ysgoldy prydferth yma tuag at addysgu plant y gymydogaeth dan I:ly ofal Mr. Evan Hopkins, o goleg Caerfyrddin, yr hwn ag sydd wedi dangos oryn fedrus- rwydd fel ysgolfeistr da a chymeradwy. Fe ellir dweyd am y gwr ieuanc gobeithiol hwn, ei fod yn Gymro glan gloew, ac yn un o'r dynion mwyaf talentog a fedd ein hardal.— Un o'r lie.
YSTALYFERA.
YSTALYFERA. PWNC Y COFFINAU.-Bron yn mhob ardal y mae cyfnewidiad wedi cymeryd lie yn mhrisoedd coffinau, ond yn Ystalyfera, gor- fodir ni i dalu uchel brisoedd; mewn gwir- ionedd, mae yn gywilydd dweyd y swm. Er cael gwelliant, dymunir liysbysu pob cym- deithas ddyngarol yn Ystalyfera, Cwmtwrch, Y stradgynlais a'r cylchoedd, y cynelir cyfar- fod cyhoeddus yn y Smiths' Arms, Ystalyfera," nos Lun, Mawrth 6ed, er cael allan gynllun i gael ein coffinau yn rhatach. Dysgwylir ar bawb fyddo yn gyfleus i fod yn bresenol. Anwyl gydweithwyr, gadewch i ni fod yno wrth y canoedd.—Llygadog.
CWMTWRCH.
CWMTWRCH. YR UNDEB.—Yr ydym yn deall fod rhai o frodyr y lie uchod wedi cyhoeddi cyfarfod er adnewyddu yr Undeb. Nid ydym am ddweyd dim yn eu herbyn yn hyn, am ein bod yn cydolygu a hwynt fod angen rhywbeth er cadw y gelyn draw. Yr ydym am iddynt fod yn bwyllog er mwyn y rhai sydd ar wasgar, fel y gallom ddyfod gyda'n gilydd yn gryno, a bydd hyny yn arbed cymhell yn ol llaw. "Cadarna-ch yr edef yn gyfrodedd nag yn uirgor.
ABERDAR.
ABERDAR. ANRHEG DYWYSOGAIDD.-Y mae yn dda genym allu hysbysu fod y boned dwr gwlad- I y 11 garol, twymngalon, a haelfrydig, Gwilym Williams, Ysw., wedi rhoddi harmonium ardderchog, gwerth tua 30p., yn anrheg i'r Methodistiad Seisnig yn Aberdar, y rhai ydynt yn awr yn addoli yn Festri Bethania. Os yw Mr. Williams wedi ymadael ag Aber- dar, nid yw wedi annghofio ei hen gyfeillion. Y mae yn teilyngu clod mawr am ei garedig- rwydd. ,I.
Cyfarfod Llenyddol Gwawr,…
Cyfarfod Llenyddol Gwawr, Aber- aman. Y mae yn flin genyf.fy mod wedi cadw y cys- tadleuwyr ar y prif destyn traethodol yn y cyf- arfod ucliod cyhyd i ddysgwyl wrthyf am ddy- farniad y wobr. Yn awr, wedi manwl ddarllen y 14eg traethawd, yr wyf yn cydwybodol ddy- farllU v wobr i un a eilwei hun "Awr Hamdden- o1- bydded y cyfryw gystal ag anfon ei enw priodol 1 r Ysgnfenydd, a mwy na thebyg y bydd iddo dderbyn y wobr addawedig gyda tliroad y p•ost.—\ r eiddoch yn gywir, IIYWEL CYNON.
MANION O'R MAN HYN.
MANION O'R MAN HYN. GAN HWNTW. Mlt. GoL.—Dichon nad annerbyniol genych fydclai gair yn awr ac yn y man o'r Man Hyn. Yn gyntaf, dywedwn air neu ddau am fas- nach a rhagolygon v Man Hyn. Marwaidd iawn yw masnach y dyddiau yma, fel pob man arall, yn yr ardal lion a'r cyffiniau; ond nid oes dim i'w wneyd, yn amgen na byw i fvny ag ysbryd ymadrodd y gwr profedig hWIlW, pryd y gwaeddodd, "A dderbyniwn ni yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg." Ond, nid ydym yn tybio fod eisieu i drigolion y Man Hyn ddigaloni, oblegyd y mae ein rhagolygon am ddigon o waith, beth bynag, yn obeithiol iawn.. Ar y naill law, wele Cwmgarw, o ran hyny, in full ivorking order; ar y llaw arall, wele Bryncethin, lie yr ymddengys i ni fod y Barrow-in-Furnace Company yn meddwl ychwanegu at ei gyfoeth enfawr, yn ogystal ag at ddedwyddwch can- lly o oedd lawer o deuluoedd. Ac am y Tondu, afraid dweyd dim am dano, canys y mae clod y Brogdeniaid yn hysbys, bellach, drwy'r gwledydd. Rhwng y cwbl, tybiwn fod rhag- olygon masnachol y Man Hyn yn obeithiol fr eithaf. Dywedwn air eto am grefydd a'i nodwedd- ion yn y Man Hyn. Nid ydym yn tybio fod crefyddwyr a thrigolion y Man Hyn yn ol 11 mewn ymdrech a gweithgarwch i unrhyw fan yn Nghymru. I ba le bynag y trown ein golwg yn y cyffiniau, nid oes- ond capeli ac eglwysi i'w gweled. Y mae yn y Tondu yn unig ddau gapel, y naill gan ein brodyr y Bedyddwyr, a'r Hall yn perthyn i'r enwad parchus a adwaenir wrth yr enw Wesleyaid. Anaml y gwelir adeilad harddach nar olaf mewn unrhyw fan yn Nghymru, a llawn mor anaml y gwelir adeilad wedi ei godi mewn man mor anfanteisiol a'r blaenaf—yr unig fantais a berthyn iddo, yn syniad yr ysgrif- enydd, yw, fod digonedd o ddwfr yn rhedeg heibio iddo. Y mae rhywbeth yn well 11a dim." Yn Abercenffig yn unig cawn bedwar o gapeli ac un eglwys; un yn perthyn i'r Bedyddwyr Seisnig (Caeth), un i'r Annibyn- wyr, un i'r Methodistiaid Calfinaidd, un i'r Wesleyaid, ac un Eglwys. Yn sicr, dylai yr uchod fod yn cldigon i gadw y blys o Aber- cenffig; ond, waeth cyfaddef na meddwl 'dyw hyn ddim haner digon i gadw'r gelyn ffwrdd. Am Bryncethin, prin y gellir dweyd ei fod yn meddu ar, na chynal, na chapel nac eglwys, oddieithr yr hen Blwyfoges o Lan- santtfraid ond dyiem grybwyll fod yr An- nibynwyr wrth y gwa,ith o adeiladu yno yn awr, ac fod y Methodistiaid yn bygwth or ysmeityn. Rhwydd hynt iddynt hwy a phawb crefyddwyr ereill, medd yr ysgrifenydd, canys y mae Bryncethin yn rhwym o gynyddu. Nid oes yn Cwmgarw drachefn, hyd yma, ond un capel, yr hwn a berthyn i'r Bedyddwyr. Yn fuan, bydd raid i'r enwadau ereill ddarpar ar gyfer lle sydd yn cynyddu mor gytiym a Chwmgarw. Rhwng y Man Hwn a Maesteg, y mae lie a elwir Bettws, yr yr hwn y mae dau le add- oliad; y naill yn perthyn i'r Bedyddwyr, a'r llall yn Eglwys. Nid oes ond gronyn bach o amser er pan yr ymadawodd y Parch. E. T Davies, B. A., curad, a'r eglwys hon. Gresyn, onide, colli dyn a gerid mor fawr, gan braidd yr oil o'r phvyfolion; ond cafodd faes ean^ach i weithio, a diamheu genym y ca Mr. Davies ei barchu ar gyfer ei dalent a'i weithgarweh Ond ni chafodd Mr. Davies ymadael cyn i'w gyfeillion a'i blwyfolion ddangos mewn modd effeithiol eu serch mawr tuag ato. Nos Fawrth cyn ei ymadawiad, cynaliwyd cyfarfod i'w dystebu, pryd y derbyniodd oriawr aur yn anrheg, yn ogystal a phwrs yn cynwys swm hardd o aur melyn. Cymerwyd y o-adair ar yr aclilysur gan Mr. Harries, goruch wyliwr Bettws. Siaradwyd hefyd yn uchel cran am' ryw o'r phvyfolion am Mr. Davies fel dvn cymydog, a Christion. Cymerwyd rhan hefyd yn y cyfarfod gan y Parch. T. H. Williams curad, Maesteg, a Mr. Morris, gweinidog Annibynol Brynmenyn. Dymuna yr vso-rif3 enydd Dduw'n rhwydd i Mr. Davies yn ei faes newydd. Cymaint a hyna y tro hwn cewch ragor eto, syr, os dymunol.
[No title]
Hysfcysir fod Cardinal Manning ar waith yn awr yn ceisio ffurfio cynllun er uno uchel Ddefodwyr Lloegr a'r Eglwys Babaidd. Anerchwyd cyfarfod lluosog yn Bath yr wythnos ddiweddaf gan Mr. Piimsoll ar or- Iwythiad llongau. Nododd engreifftiau truenus iawn o longau wedi colli trwy gael eu gorlwytho.. Bu farw y Paroh. Jabez Burns, dydd Llun wythnos i'r diweddaf, yn 70 mlwydd oed DIWYGIO YR HEN DESTAMENT. Y mae v cwmni a apwyntiwyd i ddiwygio yr Hen Destament wedi gorphen eu 3G beisteddiad yn y Jerusalem Chamber. Y maent wedi wedi myned yn mlaen mor belled a Jeremiah xxxi. 1.
[No title]
BREAKFAST EPPS'S COCOA. GRATEFUL ANI) COMFORTING. By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of di"e« tion and nutrition, and by a careful application of the fine properties of well-selected cocoa, Mr Enrs has provided our breakfast tables with a deli- cately flavoured beverage which may save us mnny heavy doctors' bills. "—Civil Service Gazette. Made simply with boiling water or milk. Each packet is labelled— James Epps and Co., Homoeopathic Chemists, London. L332
., AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. BYDDED in cyfeiUion y Beirdd, o hyn allan £ TT feirío eu, hf.>U Gynyrchíon Barddonol yn y modd a t'r canlYllol REv. W THOMAS (ISLWYN), j ilyn> ■P#ntHanfraith, ( Gwladgarwr.) Newport, Mon.
TELYNEGION Y GWYLIAU j
Safed y beirdd o'r neilldu y tro hwn, i edryc a gwrandaw ar hen fardd enwog o'r oes a fu X mae enw Eiddil Gwent yn ci/cario "1 0H am seroedd nad oes nemawr neb yn ein plith y* coho dim ain danynt, oddigerth Nathan Dyfed, 1 Haixin, ac ychydig ereill. FeL y cily^ yr ysgiifena yr hen fardd atom, "yn bedwar ugain a dwy fiwydd oed io 11 Hynaws gwelwch fod ypeiiill- o le vn yil r g ° cyayd a'ch bys ddwywaitb 0 le yn y GWLADGARWR, i mewn a hwy os amgen, c eddweh hwynt yn mro dystawrwy'di Chwi welwch fod y dydd wedi rhedeg yn mhell arnaf-y cof yn wan, y meddwl yn wibio^ a'? ddweyd mal— ™ « 7 ddwey(I mai- Bwrdd enaid yw Barclrloniaeth A mor i gyd, er mor gaeth. Ond, Er gwaeddu yn dragw-yddol ■Ni ddaw neb a ddoe yn ol. behS^irnfS (ll'tUgain mlyiledd yn nghyfrinacb 1010, cof da am dano-do, Bu'n dda^ gan fy nghalon gynt gwrdd a phryd- ^Aauupeninioa rai ffrwythlon a ffri; Ar ean in 1S,W^bren' fel 'deryn naill aden, Ar gangen, a'r A wen ar rewi. -Yr eiddoch yn rhwymyn cenedlgai-woh, Tredegar, Chwefror la(> 187^,?wl Wele y penillion :— TELYNEGION Y GWYLIAU Cyflwyne,lig Wjr Am-hydeddus Arglwydde" Llanover, Gwenynen Gwent,) Ehagf^ & 187 o, gan Eiddil Gwent, B.B.D. vn bed war- ugain-a-dwy llwydd oed! Ton:—" Y Derlln Pur." Boed biwyddyn newydd ddedwydd dda I lonaf fwynaf Fanon— I rodio'r ddaear lwysgar Iaith, Ac eilwaith iechyd calon: 1' el aderyn ar y brigyn, 3', dailI sy'n chwarau'i delyn Heb ohdiau n rhydd fel yntau, Byth bo r Fanon wiwlon olau Na wlyched dagrau briwiau bron lo 1 lieirddion ruddion ruddiau. Hi ga'dd'heb Iocs, do, einioes hir- Mae n wir, ar dir i dario, Ein gweddi yw, i'n Duw ei dal Nddiatalflwyddieto; ISi chymer Cymru mo'r byd am golli 1. un ga d< ar ei bronau'i mhafu, Mewn anrhydedd, parch, a mawredd T 1 UiU °1r blaeilaf benaf bonedd, r?n 'oed mwynder brasder bri w lloni fel y llynedd. WAc aedv-'mr^ 7 TANAU AC aea y gan 0 gwmpas, tTSrTr, VJ dyu newydd hon Horl hyloii mewn i'w phalas; Baed bendithion ar fendithion Yll dyIifa feI yr afon 'i' I fonwes dyner y Fanon wiwber A chodwn Gymry fyny faner, Ac arm mewn llyth'renau braf, Llaw Naf f'o ar Llanover. Penillion ctv bvioclcts i i & °™m'iPDechreJ 'yZVh' newydd-deb. "Tra'r ochr hyn i'r làn." SSd? yn y pa !»»' ''GlS ;'fnn ™ewn *ylw min-ddale^1' "ian aton angau. Gvxn Uiw'r eira.—"Penillion" y gelwir vnetba11 hyn, ond y maent ar ffurf eL^o/hebf^ ?n !ng yiU<J" ychTaifch- Gormod 0 gellwai* yn enwedig yn y "penill" olaf. fZ ° lyuad.— Da, ond^l cystail y pedwerydd englyn. Saer pyrth dieisior y pen 'CnS:^ ond "Yw gwledd ei arogl addien." Ymddengys detlioliad. Mae yr Awengen}^ Maethferch ynf!JW 0 hyd.—Tlws. Yrndden^3' dyfodol. ddanfon eich enw priodol Ilir a Thodda'ul i Caradoq.—Pur dda iawn y llinell:— 1 a. j "Yn rhoi tro ar yr hen Oratorion." Gwell fel hyn —. ■ Difyr y 'tery'r hen Oratol'ion.. Ymddengys. Difyr y tery'r hen Oratorion. Ymddengys. Fr lun erunn,— Tra gwallus o gynffhanedd i r Crydd. —Dechreu Un diwyd rliith o gynghanedd. ( Public Pare Treeynon.— Onid ydym wedi ° r blaen ar y llinellau hyn? Nid yw y cy^: soddiad yn ddigon gramadegoh Efryd^ Jxamadeg Tegai a'r Gomerydd. Englyn ir Gwlitlt. Y mddengys. Englynion i Alaw Cynon.— Da. CymeradwV- T Daran.—Nid cystal a'r lleill. I'r Diogyn.—Ymddengys. Thlodeuyn. —Dechreu "Pan eeddwn DiM 10I mewn gramadeg a sillebiaeth. Efrvd^ Tegai a'r Gomerydd.
Y TWYLLWYR.
Y TWYLLWYR. Y twyllwyr dan ddu fantelli-y gwylI Hoffant gael cysgodi; Twyllwyr y'nt fradwyr di fri I A geljaiion goleuni. I
I'RANNUW.
I'RANNUW. Annuwiol wr i'th gael o laid,—hagrweb1 I Dy hyll lygredd afraid; Bygythion yr Iôn a raid Drydanu rhandir d'enaid. Caerdydd. ABEEAtA^'