Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

(JODIDA JVGRJVYDD RHYFEDDOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(JODIDA JVGRJVYDD RHYFEDDOL YN Y FFURFAFEN. MR. GOL.Nos Fawrth, wythnos i'r di- weddaf, y gwelais i y ffurfafen yn ei hysplan- der penaf yn fy mywyd. Bu'm yn siarad a bechgyn ydynt ddegau o flynyddau yn hen- ach na mi, a'u tystiolaeth hwy ydoedd na welsant ddim cyffelyb erioed. Yr oedd y panorama godidog hwn i'w weled yn y ffurf- afen orllewinol, ar y nos grybwylledig, o haner awr wedi wyth i naw o'r gloch, pan oedd tad y dydd, ys dywed Teilo, yn myn'd i'w wely rldens aur. Diolch i Teilo am ei gan ddoniol ar "Goedy BenlanFawr," ac am ei ddesgrifiadau o'r dullweddau ffurfafenol ag y bu efe yn llygad-dyst ohonynt; ond yn ei holl grwydriadau hamddenol trwy Bare i Dinefwr, credwn na welodd efe na neb arall, erioed, olygfa mwy ysplenydd nag a welais i ac ereill yn Aberdar nos Fawrth crybwyll- edig pan yn syllu i'r nef yn nghyfeiriad machlud haul. Wrth edrych ar y gogoniant hwn, nis gallem lai na meddwl am ddesgrfiad loan o'r ddinas nefol: "A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu a phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen jaspis yr ail, saphir; y trydydd, calcedon y pedwerydd, smaragdus; y pumed, sar- donyx; y chweched, sardius; y seithfed, ehrysolithus"; yr wythfed, beryl; y nawfed, topazion y degfed, chrysoprasus; yr unfed- ar-ddeg, hyacinthus; a'r deuddegfed, ame- thystus. Ar derfyn gorllewinol y nefoedd weledig, y noson hono, rhifais i o wyth i ddwsin o liwiau (shades) mwyaf ysplenydd, oil megys yn cyd-ymgystadlu i harddwychu y darlun. Braidd na feddyliem fod teulu o sereiph wedi disgyn o fryniau'r goleuni, ac fel pe am anrhegu trigolion daear a golwg ar rai o eur-liwiau dinas gwawl. Pob parch i gelfyddyd, ac yr ydym yn credu i ni ei gweled yn ei man goreu mewn darluniau yn y National Gallery, y Crystal Palace, a man- au ereill ond druan ohoni, nid oedd ei cheinion godidocaf a welsom ond epiiaidd yn ymyl ardderchog ganfas y ffurfafen ar y 18fed o'r mis hwn ac yr oedd y darlun yn newid bron bob mynud, a'r shades llachar yn amrywio; ac yntau, brenin y dydd, yn ym- ddangos fel yn myned i'w wely o aur na fu Oriental splendour y Shah o Bersia, na thywysogion India, erioed ond megys chwareu plant yn ei ymyl. Os darfu i rai o ohebwyr y GWLADGARWR weled y gogoniant rhyfeddol hwn, ar y noson grybwylledig, mewn rhanau ereill o'r wlad, bydded iddynt anfon gair.- Yr eiddoch, BRYTHONFRYN.

AT AELODA U BWRDD IEGHYD ABERDAR.

" Y DDAU DYWYSOG."

YR ARSYLLFA.

Bwrdeisdrefi Caerfyrddin.

Yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig.

Masnach Haiarn a GIo. - Cyfarfod…

Family Notices

Advertising

LLINELL Y "WHITE STAR" 0

To America.

Advertising

Y WLADFA GYMREIG.