Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Masnach yr Haiam a'r Glo.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Masnach yr Haiam a'r Glo. LLUNDAIN. Mae masnach y glo yma wedi bod yn iiynod o ddifywyd yn ystod yr wythnos ■oddiweddaf, a'r pris yn gostwng yn raddol yn ogystal yn y glo a ddygid yma o'r wlad •a'r hyn a ddygid dros y mor. Ychydig mewn cydmariaeth o fasnach. a wnaed hyd "y nod ar y gostyngiad, ac y mae traffic Owmniau y liheilffyrdd yn dangos lleihad mawr yn nifer y tunelli a gludwyd yn ystod yr wythnos. Gostyngwyd y prisau gymaiut ■» swllt y dunell dsdd Llun, aeyn yr hyn a gludwyd dros y mor gostyngodd y pris Is. 6c y dunell. Mae masnach y glo yn NGOGLEDD LLOEGR i ryw radd wedi adfywio. Mae y golosglo yn eithaf marwaidd. Yn rhanbarth New- castle, dywedir fod masnach yr haiarn bwrw yn bywiogi, ond yn mhob rhan arall o'r igweithfeydd haiarn, y mae yn eithaf marw- aidd. Mae y rhagolygon hytrach yn fwy .calonogol yn masnach yr haiarn yn rhan- Ifoarth Gogleddol Sir GAERWERYDD A CUMBERLAND. Mae y stoc yn lleihau, a'r pris yn fwy .sefydlog. Nid yw masnach y dur yn fywiog, ma masnach y glo yn dangos yr un gwedd tiewydd. Mae llawer llai o fywiogrwydd Taag a fu yn marchnad y glo yn MANCEINION, ond nid oes yr un cyfnewidiad yn y prisoedd. Yn masnach yr haiarn, mae y prisoedd <idiweddar yn sefydlog. Yn Ngogleddbarth SIR STAFFORD mid oes ond ychydig neu ddim cyfnewidiad i'w nodi yn masnach y glo. Mae y galwad am lo yn dda, a'r pris yn sefydlog. Er nad oes ffrwat fawr, eto, mae masnach yr haiarn bwrw yn purh-m yn weddol fywiog. Mae masnach yr haiarn gweithiedig at wasan- aeth cartrefol yn cadw y rhan fwyaf o r melinau ar waith yn weddol reolaxdd 0DC* y mae masnach y cylchau a'r plates yn llesg sa marwaidd. Yn rhanbarthau SIR LEICESTER mae masnach y glo yn farwaidd i'r eithaf- arid yw y pyllau, ar gyfartaledd, yn gweithio mwy na thri neu bedwar diwrnod yr wyth- mos, ac y mae wmbredd o'r hyn a godir yn •cael ei storio. Yn Siroedd CAERLOEW A GWLAD-YR HAF mae masnach yn parhau yn yr un sefyllfa. Y mathau goreu o lo, yn y cyffredin, a galw gweddol am dano, ond glo yr ail <ddosbarth yn wasgedig i'r eithaf. Yn SIR AMWITHIG a Gogledd Cymru nid yw y galwad am lo vt wasanaeth tai a nwy yn llacio y gradd lleiaf, ac nid oes yr un cyfnewidiad yn y prisoedd. Ni fu yr agerlo mor ddialw am dano ag yw yn awr, ac y mae y stoc yn eynyddu yn fawr. Mae masnach yr haiarn yn parhau yn yr un sefyllfa farwaidd a di- waith. Wedi cyrhaedd CASNEWYDD, nid oes genvf ond yr un chwedl undonaidd yn mherthynas a tnasuach yr haiarn. Itae blwyddyn o farweidd-drano. fu ei chyffelyb bron a dyfod i derfyniad, ac eto nid oes cymaint a gwreichionen oleu i'w gweled yn awyrgylch masnach y rhanbarth yma o r -wlad-rhybuddion o ostyngiad yn parhau i -gael eu rhoddi, yr hyn nid yw y meistri yn hoff o hono; ond rhaid ei wneyd gan eu ;bod yn gorfod cystadlu cymaint yn eu mas jaach a gwledydd estronol. Yr unig beth y gellir dweyd fod dim yn cael ei wneyd o iiono yw yr haiarn bwrw, a dywedir fod y .stoc ar law yn lleihaa yn raddol. Nid oes gwelliant yn mhris un math o lo. Lied ddi- "fywyd ydyw yr holl lofeydd a'r haiarn- weithydd sydd yn arllwys eu cynwys i long- orsaf y lie hwn. Yn HYMNI mae y gwelliantau a wnaed yn Nglofa y y Murdy wedi eu gorphen; ond drwg genyf hysbysu fod yuo- ychydig o anneall- -dwriaeth yn bodoli. Ymddengys fod y wythien sydd yn awr yn cael ei gweithio, -er nad oes rhyw lawer o amser er pan ei hagorwyd, yn lied ddiolwg ar y cyntaf, fel y gwnaed- allowance yn y pris tori; ond trodd allan yn well, ac yn awr nid oes modd codi i fyoy yr hyn a dynwyd i lawr Mae y gweithwyr yn gwrthod caniatau i fcethau aros felly, a dywedant y dylasai y 'mater gael ei osod o flien y Bwrdd Cylat- •oxeddol. Y mae yma hefyd ryw annghyd- -welediad rhwng y meistri a'r mwnwyr a dorant y mwn haiarn yn mherthynas i'w -cyflogau, a'u gostyngiad gyda phris y gweithwyr haiarn, ac nid fel y tybient ae fel eu cyfarwyddwyd gan eu harweinwyr, i gael eu llywodraethu gan y Sliding Scale. Tra fyddo yr ymdrafodaeth hyn yn cael ei cdwyn yn mlaen, y maent yn peaderfynu gweithio, er y dywedir eu bod wedi cael eu camarwain a bod eu hachos yn anobeithiol. Ychydig o ddaioni yr wythnos hon sydd i'w adrodd am fasnach y glo yn MER rHYR TYDFIL. Nid yw yr eirchion mewn un modd yn Uaosog, ac y mae yr ystormydd a'r gwlaw- ogydd yn yr wythnos ddiweddaf wedi ymyryd i raddau mawr a'r gweithfeydd. Mae pris y glo yn awr yn is nag y bu yn nghof neb sydd yn fyw. Mae esamplau da rhagorol yn cael ei werthu wrth y truck am 6s. y dunell, a'r glo goreu am 7s be, tra y mae y man werthiadau yn y rhanbarth hwn wedi dyfod dan 9s. 6e. y dunell. Y mae cwmni glo Pendarren yn cynyg eu lower four feet coal am 6s. yn y truck. Da genyf hysdysu fod y rhai a losgwyd yn un o byllau Dowlais yn gwella. Rhagfyr 12. MASNACHDEITHIWR.

Advertising