Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DYMCINA I Mr; T. D. Williams (Eos Dyffryn), I Royal Academy <>f Music, Llundain. HYSBYSIT ei foci yn agored i dder^yn engage- ments fel Beirniad mewn Eisteddfodau, neu fel Tenor mewn Gyngherddau. Am delerau, dyddiad, &c.. cyfeirer T. D WILLIAMS, R.A.M.. 23, Rheidiol Terrace, Packington Street, 1450 Islington, N. MR. & MRS. J. W. PARSON PIt ICE (OF AMERICA), | For Concerts, Eisteddfodau, (be.—Address, I GWLADGARWR Office, Aberdare. 1448 TEMPEEAN CE HAL L; Aberdar. I D A N N A W D D I YTpihvmg Anrhydeddus ARDALYDD BUTE, M.Y.; r AHGLWYDD ABERDAR; ARGLWYDD TREDEGAR; H. Jg Vivian, Ysw., A.S.; H. Richard, Ysw., A.S.; R. Fothergill, Ysw., A.S.; T. Cordes, Ysw., A.S.; Gwilym Williams, Ysw., D. Davis, Ysw., J. Lewis, Ysw., &c., &c. Dydd Nadolig, a Mawrth, Rhagfyr 2Gain, Rlioddir TBI PERFEORMIAD cyflawn o'r Oratorio "SAMSON" ¡ Gyda Cherddorfa nerthol, pryd gweinyddir gan Miss Mary Davies, ( O Gyngherddau fr Albert Hall a St. James's Hall, I Miss Martha Harries, I O'r Covent Garden Promenade Concerts Mr James Sauvage, I 0 Gyngherddau St. James's a Covent Garden; Mr. T. Brandon, Y Basso enwog, o gyngherddau Exeter Hall; Mr. Thomas Howells, Mr. T. S. Thomas, a Mr. Wm. Thomas. A Chor Undebol Aberdar. Cyfeilwyr—Mri. D. BOWEN a J. PERKINS; ORCHESTRA. GLOUCESTER STRING BAND, CHELTENHAM PROMENADE BAND, (Yn cael eu cynorthwyo gan offerynwyr o'r lie,) Dan arweiniad Mr. E. G. WOODWARD. Arweinydd—Mr. Rees Evans. Jpynelir Cyngherdd Amrywiog Nos Nadolig. Dydd Nadolig.— Cyngherdd cyntaf (Samson) am 3, yr ail gyngherdd (Amrywiog) am 8. Dydd- Mawrth, Ehag. 26. —Cyngherdd cyntaf (Sam- son) am 2 yr ail gyngherdd (Samson) am 7. Tocynau, 3s., 2s. Gc., 2s., Is. 6c., Is., i'w cael yn toll westai a masnachdai Aberdar, a chan aelodau y Cor. Manylion ar y ■programnies a'r hysbysleni, meu drwy ymofyn a'r Ysgrifenydd— 1458 D. HHYS, Glo'ster-street, Aberdar. BWRDD Y GOLYGYDD. Dymuna H Ymofynydd". wybod gan rai o'n dar- llenwjT pa bryd y dechreuwyd eilunaddoliaeth av ol y diluw. \V. BASSET.—Nid oes eisieu anog y^beirdd I liaelionusrwydd yn yr achos y cyfeiriwcli ato, oblegyd y maent eisoes yn gweithio yn egniol. CIGYDD (Maesteg).—Prinder gofod a'n rhwystr- odd i gyhoeddi eich llythyr yn gynt. lEUAN GLAN TAWE.—Gan na fyddai dim ynan- amserol yn nghyhoedcliad eich llythyr mewn ychydig wytbnosau, bydd i ni ei gadw wrth law. L. SALMON'.—Heb un cyfeiriad. j D. THOMAS (Maesteg).—Yn un o'n rhifynau nesaf. BJBYCHAN TAWE —Mae yn flin genym nas gallwn gael He i'ch llythyr oherwydd ei feithder. Hefyd, credwn nad yw ysbrydegaeth yn bwnc sydd yn teilyngu cymaint o'ch sylw, ar ol y datguddiadan sydd wedi eu gwneyd yn ddi- tfeddar yn y llysoedd barn. I' BEKBYKIWYD—Dafydd Shon, Llwyno, J. Richards, leuan Ddu (yn ein nesaf), Berdaitli Mabonwyson (yn ein nesaf), 'Rheu Ddyrnwr. Yjs EIN NESAF—Marwolaeth a chladdedigaeth y Parch. J. James, Middlesborough. m wnawn sylw o unrhyw ohebiaethan, (be., fwriedlr i'w cyhoedAi, os na chyfeirir hwynt fet y caulyn 1 To the Ed/dor, I Gidadgarwr" Office, Aberdare. Aberdare. Pob arch,bwn, taliadau, a llythyrau masnachol ilw danfon i ¡. Walter Lloyd, » u Gwladgarwr" Office, Aberdare.
---TRYCHINEB ALAETHUS.
TRYCHINEB ALAETHUS. Y MAK y newydd alaethus wedi ein cyr- taedd am lwyr-losgiad chwareudy Brook- lyn, a difrod dychrynllyd ar fywydau-un o'r trychinebau mwyaf ofnadwy a ddyg- wyddodd erioed i gynulleidfa o ddynion. Nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf, yr oedd Ibyw, naw cant o bobl yn nghyd yn yr adeilad, ac yn ystod yr act ddiweddaf tor- odd y tan allan. Yr oedd pedwar cant a phump ar ugain o oersonau yn yr oriel, ac Did oedd ond un risfa gul yn arwain allan: mewn tarawiad amrant, rhuthrodd y rhai hyn bendramwnwgl i'r staircase cyfyng; a chan eu pwysau, rhoddodd y ganllaw (ibalustrade) ffordd, a syrthiasant dros yr ymyl enbyd i'r dyfnder odditanodd, lie eu Uosgwyd ac eu mygwyd wrth y canoedd! Yn wir, y mae yr hanes bron yn ormod i r I gwrolaf ei galon ei darllen, ac nid ydym hvd yn hyn ond wedi derbyn telegram byr. Y mae dau cant a phedwar ugain a deu- ddeg o gyrff eisioes wedi eu tynu o'r adfail losgedig, ac ofnir fod llawer eto ar ol. Golygfa druenus oedd yr olygfa a ddilynodd —gwyr, gwragedd, a phlant, rhai o bob oedran, yn Ilenwi ystafelloedi y meirw, ac yn plygu uwchben y gweddillion llosgedig yn y gobaith o ddyfod o hyd i berthynas neu gyfaill. Dywedir fod lawn haner y rhif wedi eu deifio i'r fath raddau fel y mae yn hollol anmhosibl i'w perthynasau agosaf eu hadwaen fyth ac y mite person- au gwahanol, yn eu hansicrwydd dybryd, yn hawlio yr un eorff! Mewn un amgylch- iad, y mae teuiu cyfan, rieni a phlant yn nghyd, wedi eu colli, gan adael eu cartref yn hollol a thragwyddol wag! Mewn am- gvlchiad arail, y mae gwr wedi ei golii, ac wedi gadael teulu o wyth mewn nifer yn hollol ddiymgeledd ar ei ol. Yn y pentwr truenus, canfu wyd nurse a dau blentyn bychan rhwng ei breichiau, v tri wedi eu llosgi yn cinder Fod chwareudai yn fwy agored i ddinystr trwy dan nag unrhyw adeiladau cyhoeddus ereill, sydd amlwg oddiwrth y trychinebau mynych sydd wedi dygwydd iddynt. Def- nyddir y fath gyflawnder o nwy i'w goleuo, a'r fath helaethrwydd o ddefnydiiau hylosg yn y golygfiioedd, a chedwir hwynt yn agored mor hwyr, fel y mae eu peryglon yn llawer mwy na ehyffredin. Y mae amryw o brif theatrau Llundain wedi eu llosgi hyd lawr ddwy waith, ac un dair gwaith. Ailadeiladwyd y rhai hyn ar egwyddor hollol newydd yn rhoi myned- feydd hwylus ac amlrif allan i'r ystrydoedd. Y mae yn amlwg fod yr adeilad yn Brooklyn yn un henffasiynol, pe amgen nis gallasai y drydedd ran o'r gwyddfcdolion gael eu haberthu mewn dull mor dor- calonus. Ar yr un pryd Thaid ystyried fod llawer a fyno brawychdoU (panic) a'r anffawd bresenol fel ag agos bob anffawd gyffelyb arall. Brawychdod, diffyg hunan feddianiad, ydyw gelyn penaf pob cynull- eidfa fawr. Pe y gwnai dynion ystyried yr oferedd o ruthro beadramwnwgl tua'r drws—pe y ceisiai pob dyn feddianu ei hun-fe osgoid y rhan amlaf o'r damwein- iau enbyd hyn. Nis anngofiwn fyth yr olygfa arswydol yn y babell fawr yn Eis- teddfod Genedlaethol Abertawe ryw dair mlynedd ar ddeg yn ol. Os cofi wn yn gywir, nos Iau ydoedd-y gyngherdd di- weddaf ond un. Ar un waith, bu cyffro- ysgydwad-alarm-ac mewn moment aeth Z) y dorf o fod yn llyn harddlyfa i fod yn Niagara aruthr-ferwedig. Rush am y drysau! saith mil ar unwaith:-y drysau yn rhy gul, dryllio paneli allan, a rhuthro allan rywfod a phobmodd! Nid oedd perygl o bwys yn bod, ond yr oedd panic- y perygl mwyaf o bob perygl-yn cymeryd meddiant o'r bobl. Yr oeddym yn eistedd ar yr esgynlawr ac yn gallu gweled y cyfan heb un lien na chyfrwng. Llefodd y Maer ar y dorf "no danger"—canodd Edith Wynne ei goreu-a chafodd y dorf rywfodd ras i ystyried, ac aeth pawb allan yn ddiberygl. Oni fuasai hyawdledd y Maer, a chanu y bengantores, gallasai fod yno cyn pen pum' mynul ganoedd o ladd- edigon. Dylem gymeryd gwers oddiwrth y dygwyddiadau hyn. Y mae arnom weithiau yn yr areithfa ddychryn i feddwl pa beth a ddygwyddai pe y deuai braw tan ar y bobl!—capel yn cynwys mil neu fil a haner o bobl, heb ddim ond un drws! Buom mewn tair eisteddfod bob un yn cael ei chynal mewn Town Hall, yn bryderus ein teimlad, oblegyd yr oedd y cyfleusder- au i ollwng y dorf allan yn druenus o annigonol-a bu yno gyffro mwy nag un- waith! Y mae llawn eisieu diwygiad yn hyn o beth yn ein neuaddau cvhoeddus, a'n haddoldai yr un modd. Cymerold Mr. Spurgeon wers oddiwrth y trychineb a a oddiweddodd ei gynulleidfa un tro oher- wydd dynion anfad ddrygionus: cymerodd y pregethwr mawr wers effeithiol, ac er mai ei Dabernacl ef yw y capel mwyaf yn y byd, eto efe yw y capel hawddaf ei waghau.
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. LLUNDAIN, NOS FAWRTH. 0 bob cyfarfod mawr, cyhoeddus, a gynal- iwyd yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod y flwyddyn hon, ac y mae amryw o honynt wedi eu cynal yn y Brifddinas ac yn y Taleithiau, y cyfarfod a gyfenwir yn "Gynadledd Gen- edlaethol a gynaliwyd dydd Gwener diwecldaf yn Neuadd Iago Sant, Piccadilly, oedd yr un pwysicaf o lawer iawn; nid yn unig o herwydd cymeriad cynrychedigol y cyfarfod, ac urddas a dylanwad y bobl a gymer&sant ran ynddo, eithr hefyd o herwydd y cyfrifoldeb mawr a gymerodd y bobl hyny arnynt wrth alw yn nghyd y cyfryw gyfarfod ar yr adeg bwysig ac adfydus bresenol. Yn y rhestr faith o enwau y bobl a farnusant yn ddoeth i alw yn nghyd y gynadledd dan sylw, ceir enwau lluaws o'r dynion mwyaf urddasol mewn cymdeithas, y dynion mwyaf adnabyddus yn y byd masnachol, llenyddol, gwyddonol, a chelfyddydol; a'r dynion mwyaf galluog. profiadol, a dylanwadol yn yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Y mae cymeriad uchel a phur y dynion cyhoeddus hyn yn ein gorfodi i ganiatai eu bod wedi gweithredu yn y mater yn gydwybodol ac oddiar ystyriaethau teilwng ac anhunanol. Eithr ar y llaw arall ceir plaid arall o bobl yn y deyrnas sydd o ran rhif, urddas, gallu, profiad, dylanwad, cymeriad, a phob peth arall pa bynag, yn llawn inor bwysig a theilwng o vstyriaeth a'r uctiod, yn barnu nas gallasai dim fod yn fwy annoeth, mwy annheg tuag at y Weinyddiaeth, na mwy drygionus yn ei dueddiad yA y cyfvvng pre- senol na'r gynadledd dydd Gwener diweddaf. Pa un o'r pleidiau hyn sydd ar yr iawn nis gwyddom, a hwyrach mai gormod gorchwyl fyddai i unrhyw berson ar hyn o bryd i geisio penderfynu. Ni alwyd erioed o'r blaen ar unrhyw Weinyddiaeth yn y deyrnas hon i ymdrin a phwnc mwy dyrus, nac un a gy- nwysai ganlyniadau mwy pwysig ac arutlirol na'r un sydd y fynud hon yn llanw Ewrop o ben bwy gilydd a phryder. Os ydoedd y bobl a alwodd yn nghyd y gynadledd dydd Gwener diweddaf yn llwyr argyhoeddedig fod ein Llywodraeth yn dilyn policy annghyfiawn, ac un niweidiol i lesiant ein teyrnas, ac yr eedd y siaradwyr yn y gynadledd, un ac oil, yn awgrymu hyny yn beudant. hwy a ddy- lasent. debygem ni, fod wedi galw y gynadl- edd yn nghyd yn nghynt o lawer, ac fod wedi cynal cyfarfodydd cyhoeddus drtvy hyd a lied y deyrnas er galw yn groew ac awdurdodol ar ein Gweinidogion i roddi i fyny awenau y Llywodraeth yn ddiymaros. O'r hyn lleiaf, dylasent fod wedi cynal y gynadledd mewn pryd i ddylanwadu ar ein Gweinidogion pan oeddynt yn trefnu y cwrs oedd Ardalydd Salisbury i'w gymeryd yn Nghynadledd Oaercystenyn; ond gadawsant i'r adeg fyned heibio, ac nid yw yn debygol yn awr y bydd i'r areithiau adraddodwyd, a'r penderfyniadau a basiwyd dydd Gwener diweddaf, gyfnewid dim ar y cwrs hwnw. Yr hyn a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd. Ar y llaw arall eto, priodol yw i ni gofio fod larll Beaconsfield, Arglwvdd 11 Derby, ac Ardalydd Salisbury, y tri wyr sydd, efallai, yn fwyaf uniongyrchol yn gyfrifol am .Y policy Lloegr mewn perthynas i'r Pwnc Dwy- reiniol, yn rhai o'r gwleidyddwyr galluocaf a mwyaf profiadol yn y deyrnas. Anhawdd, efallai, fyddai dewis tri gwleidyddwr rhagor- ach na hwynthwy. Y mae yn. anhawdd genym gredu fod y dynion enwog ac anrhydeddus hyn yn llai gwladgarol, ac yn fwy difater parth tynged ein gwlad na'r bobl oedd yn Neuadd Iago Sant dydd Gwener diweddaf. Os y dygir i'r amlwg yn y diwedd fod y cwrs sydd wedi ei gymeryd gan ein gweinid- ogion ar yr adeg bresenol yn un doeth a chyf- iawn* yn un sydd yn gyson a llesiant ac anrhydedd ein teyrnas, ac yn un a gymerad- wyir gan farn gyffredinol y wlad ac os, fel y tybia llawer, mai er mwyn aflonyddu ein gweinidogion ar yr adeg bwysig bresenol, ac er mwyn dymchwelyd eu gweinyddiaeth, y cynaliwyd y Gynadledd dydd Gwener di- weddaf, y mae y sawl sydd yn gyfrifol am alw y cyfarfod hwnw yn nghyd yn euog o ymddygiad drygionus i'r eithaf. Ni wnawn anturio barn ar y naill ochr na'r Hall. Daw adeg, a hyny heb fod yn hir, pan y gellir gwneyd hyny gyda mwy o gywirdeb nag yn bresenol. Nid oes genym ond gobeithio y bydd i'r Gynadledd sydd yn awr yn eistedd yn Nghaercystenyn lwyddo i ddyfod i gytun- deb ar y materion pwysig a dyrus sydd o dan eu hystyriaeth, a thrwy hyny sicrhau hedd- wch parhaus yn Ewrop. Daeth Arddangosfa yr Anifeiliaid, yn y Neuadd Amaethyddol i ben nos Wener di- weddaf. Dyna'r rhagoraf eto a gynaliwyd o ddigon, y mae yn debyg. Ymwelwyd a'r neuadd yn ystod yr wythnos gan ddim llai na 130,000 o bobl. Treuliasom ychydig oriau yno prydnawn dydd Mercher, ac er na ddarfu i ni erioed deimlo llawer o ddyddordeb mewn anifeiliaid, eto, cawsom ein 11 wyr foddloni. O'r braidd y credasem ei bod yn bosibl tewhau creaduriaid i'r fath berffeithrwydd. Yr oedd yno rai ychain gymaint ag elephantiaid, yn pwyso tua thunell a chwarter yr un, a'u cefnau yn ddigon llydan a llyfn i chwareu billiards arnynt. Yn ein llythyr diweddaf gwnaethum gamsynied wrth ddweyd mai ých o eiddo Mr. Stratton, o Marlborough, aeth a'r brif wobr; yr ail wobr a gafodd, a bustach o eiddo Mr. Kidner, o Wlad yr Haf, a gipiodd y wobr flaenaf. Ni walsom ryfeddach cread- uriaid yn ein byw na'r ddau anifail hyn. Yr oedd yn syndod eu gweled. Yr oedd yn ddywenydd mawr genym i weled enw Llyfnwy yn y GWLADGARWR di- weddaf. Yr oeddem' wedi colli golwg ar ein cyfaill er's blynyddoedd, a synasom gael ar ddeallei fod wedi sefydlu yii iigwlad y Gor- llewin. Ni a obeithiwn fod Rhagluniaeth yn gwenu ar y llenor clodwiw, ac y bydd iddo yn awr ac eilwaith draethu tipyn ar ei len yn ngholofnau y GWLADGARWR.
Damweiniau ar y Rheilffordd
Damweiniau ar y Rheilffordd Dydd LJun cymerodd damwain druenus le ar linell y Taif, ger Bargoed, drwy i un o'r guards, o'r enw William Bartiett, syrthio oddiar un o'r wageni. Aed ag ef i Infirmary Caerdydd, a gorfuwyd tori ei ddwy goes, ac nid oes ond gobaith gwan am ei adferiad. Dydd Llun, gyda'r wawr, ger Resolven, can- fyddwyd dyn o'r enw Richard Giles yn gorwedd ar y G.W.R., ger Melincwrt. Yr oedd wedi ei daro i'r llawr, a'r peiriant wedi rhedeg drosto yn ystod y nos. Yr oedd ei fraich dde wedi eu tliori oddiwrth ei gorff'. Ymddengys iddo fod yn yfed y nos flaenorol. Y mae yn awr mewn sefyllfa beryglus iawn.
[No title]
LLWYDCOED.-Nos Fercher, Rhagfyr 6ed, traddodvvyd araeth ar Demlyddiaeth Dda yn y lie uchod gan y Parch. D. Young, Aberdar; Mr. Davies, Horeb, yn y gadair. Cawsom araeth rhagorol, yn llawn o'r rhesymau cryfaf dros roddi y pethau meddwol o'r neilldu, yn enwedig y rhyw fenywaidd. Hefyd, cawsom ychydig eiriau ar ddirwest gan Mr. Roger Rogers, yn ei ffordd ddifyr. Gobeithio y meddylia pawb am y mater drostynt eu hunain, ac ar lies eu hunain.—Brodor.
|TON YSTRAD.
TON YSTRAD. i CYNGHERDD.—Nos Iau, Rhagfyr 7fed, cy- naliwyd cyngherdd yn nghapel Hebron, pryd y cymerwyd rhan gan Mr. Parson Price, Eos Aman, (yn lie Miss M. A. James), Eos Cyn- lais a'i barti, ac Eos Glan Rhondda (cyfeil- ydd). Cymerwyd y gadair gan Mr. Thomas, Resolven. Cauwyd ''Cydgan y Morwyr," Co iiiractes- in Arms," a dani arall gan barti Eos Cynlais yn dda iawn. Cafodd Mr. Price ei encorio am ganu "Bedd Gelert," a "Clod- forwn Gymru Lan," a mawr gymeradwywyd ei "Bonnie sweet Bessie." Mae clod yn ddyledus i Mri. John, Lloyd, Davies, a Jones am eu datganiad chwaethus o "Mae Brenin- iaeth;" act Eos Aman am ei dadganiad o'r "Aderyn Pur." Cyfeiliwyd yn bur dda gan Eos ,\}Ü1n Rhondda; bydd rhagor o brofiad yn sier o ychwanegu at ei inedrusrwydd. Buom bron annghofio rhoddi eu rhan o gymer- adwyaeth i Mri. John, Jones, a Eos Glan Teiii am ddatganiad rhagorol o'r triawd "All the bravo birds." Rhwng pobpeth cafwyd cyngherdd pleserus iawn.
PENTRE YSTRAD.
PENTRE YSTRAD. Nos Lun, y 4ydd cyfisol, cynaliwyd cyfar- fod adloniadol yn Ysgoldy Brytanaidd v gweithwyr y lie uchod, ac yr oedd yn un o'r cyfarfodydd adloniadol goreu at) effeithiolaf ag y bum ynddo erioed. Llywydd, Mr. W. James, Pentre, colliery manager. Yr ydym bellach yn bur gyfarwydd ag ef fel llywydd y mae uwchlaw ein canmoliaeth, a dymunwn hir oes iddo ef a'i gydmar newydd i wasan- aethu eu gwlad a'u cenedl. Y mae y Method- istiaid a ymgynullant i addoli yn yr ysgoldy uchod wedi penderfynu cadw ieuenctyd eu Hysgol Sabotho] mewn llawn waith trwy gynal cyfarfodydd llenyddol trimisol, er eu symbylu i ddiwyllio eu meddyliau yn moreu eu hoes, a'u harferyd i ganu, adrodd, ac areithio o flaen cynulleidfaoedd. Byddai yn ddywenydd genym pe gwnai yr eglwysi nad ydynt yn gwneuthur felly eisoes eu goreu i dynu rhyw gynllun pwrpasol ac effeithiol er cadw y do ieuanc rhag syrthio i ddifaterwch a diogi; canys heb ddiwylliant, anmhosibl i'w cael nemawr gynyrch mewn dim. Yr oedd trefn y cyfarfod fel y canlyn :-Glee, D'wr y ffynon fechan," gan y cor can, "Y baban diwrnod oed glee, Where art thou, beam of light ?" gan Gor yr Aelwyd adroddiad, Brodyr y'm ni," gan Joseph Jenkins canu Hail to the crystal spring," gan E. Jeffreys a'i barti: deuawd, f Mae'n hiaith yn fyw," gan Milis a Jeakins can gan J. Jenkins canu "Cydgan y morwyr." gan barti D. Jones, o dan arweiniad T. Mills; adroddiad, "Ewyllys Adda," gan Wm. Morgan; can a chydgan, Let the dead and the beautiful rest," gan Gor yr Aelwyd glee, The crystal fountain," gan E. Jeffreys a'i barti; can, "Gyda'r wawr," gan Mrs. Mills; canu "Call John," gan barti D. Jones, dan arweiniad E. Jeffreys adroddiad, Saul o Tarsus," gan Miss Bennett; can a chydgan, Hattie Bell," gan Goryr Aelwyd; can a chydgan, D'wed a gawn ni gwrdd yn y nef gan E. Jeffreys I solo, "Curwch yr haiarn tra byddo yn boeth," gan Thomas Mills canu "Dacw gwch," gan y cor; can, "The dying child," gan Mrs. Mills; can a chydgan, "Beth fydd y cyn- hauaf draw?" glee, "The Village Belis," gan Gor yr Aelwyd. Lluddiwyd arweinydd y cor, sef D. Jones, i fod yn bresenol gan afiechyd, a chymerwyd ei le gan E. Jeffreys, yr hwn a wnaeth ei ran yn drachanmoladwy. Y mae i bob peth ei ragoriaeth, a rhagoriaeth y cyfarfod hwn oedd Cor yr Aelwyd, sef Mr. a Mrs. Thos. Williams, a chwech o'u plant, a chynorthwywyd hwynt gan Mri. Wm. Jenkins a J. Jenkins. Ni chlywsom erioed y fath ganu, ac er fod yr adeilad yn crynu gan yr adsain o encore, ni chaniatai amser iddvnt ganu yr ail waith, oddigerthyrolaf, sef "The village bells." Elid i mewn trwy dalu tair ceiniog i rai mewn oed, a cheiniog i blant. Yr elw yn myned at gael gwobrwyon i'w rhoddi yn y cyfarfodydd hyn. Wedi talu diolchgarwch i'r personau a gymerodd ran yn y cyfarfod, ac i'r llywydd, diweddwyd trwy i Mr. J. Jeakins ganu Hen wlad fy nhadau.—Llanc o'r lle.
[No title]
COED. DUON.—Ysgrifena gohebydd atom o'r lie uchod i ddweyd i Miss Jones, Myrtle Grove (merch y Parch R. Jones), roddi swper ardderchog, y nos o'r blaen, i gantor- ion Penmaen. Pwdin, cig eidion, a thatws, oedd yfa)-e, medd ein gohebydd, a digonedd ohono. Ar ol canmol y pwdin ar gan yn Gymraeg. terfyna yr hanes gyda'r llinellau Seisnig cl vsurol a ganlyn :— We feel extremely thankful To lady Jones, the young, For giving we a supper, And share a rarely fun Three cheers to the maiden, The qu#en of Myrtle Grove, May she forever prosper, And live right wrth ei bodd."
Family Notices
GENEDIGAETHA U. Rhagfyr 3ydd, priod Mr. Thomas Jones, 4, Brynymor-road, Abertawe, ar fab. Rhagfyr lOfed, priod Mr. Jenkin Phillips, saer coed, 105, Lower Oxford-street, Abertawe, ar fab, a gelwir ei enw ef David John.—W.S.M. PRIODAS. Tachwedd 25aiD, yn Eglwys LIandyfeisant, Llandrlo, gan y Parch. Williams, Llwynhslyg, a'r cofrestrydd, Mr. Richard Richards, pa tern- maker, Traforis, a Miss Elizabeth Walters, merch Mr. David Walters, Llandilo. O'r diwedd, dau bur dawel-gylymwyl Mewn cwlwm dyogel; Y ddawnus Lizzy wna ddwyn sel, O'i dewrgam jn y dirgel. Pur heddwch i'r par addabj—a iechyd 'Fo'n uchel o'u c vmpas: Byw yn bur tiwy boenau bras, Paradwys fer r So las. -Elell T "/Qr,
Advertising
Eisteddfod y Gobeithlu. CYNELIR yr EISTEDDFOD uchod Ionawi V-" laf, 1877, yn yr YSGOLDY Bit CENTRE, pryd y gwo .rwy.r y buddugwyr mewn caniadaetii, rhyddiaeth, &c. Btimiaii: MB. M. O JONES, Treberbert, a'r PARCH. J. GWRYD J.EVVI3 Cwi ux>arc. Y Pi; lb1 BEST YN All. 1. I'r Gobeithlu heb fod dios 15eg oed na than 40 mewn rhif (8 mewn oed) a ^ano yn oveu I ti 0 Arglwydd," (J. Curwen), Anternall. Cynvalleidfaol; gwobr. 5p 2. I r Gobeithlu heb fod dros 15eg oed na than 40 mewn rhif (8 mewn oed) a gano yn oreu • ■ Rwy'n earu dweyd yr hanes," (Sankey); gwobr, 2p. 10s. on • Ij'^obeith u heb fod dios I5eg oed i;a than ,jU 0 nt (<» mewn oed) a gano yu oreu ''Safe iu the arms of Jesris, (SI.INK.ey); gwobr, 2p. Y cyfansoddiadau a'r ffugenwau i fod mewn Haw erbyn Rha-fyr yr 20fed. Programmes yn cynwys yr oil o'r testynau am y pris arferol oddiwrth JACOB REES, Hill Side Cottages, 1440 Pentre, near Pontypridd. Purwch eich Gwaed a Chryfliewch eich Cyfansoddiad! TRWY GYMERYD E VANS' QUININE BITTERS, NEU VEGETABLE TONIC. Y MAE y Bitters hyn yn hollol lysieuol, .„ a,c yn cyn wys y canlyn Quinine, Sars- parilla, baflrou, Lavender, Burdock, Liverwort Gentian Root, &c. Mown gair, y mae bron pob llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn y feddyg- lmaeth ryfeddol hon, ac y maent wedi cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreu er eu perffeithio i fod yn wellhad difeth- iant at y doluriau canlynol (1). Gwendidau o bob math yn ymddangos fel un neu ragor o'r auhu-yklerau canlynol—iselder ysbryd, nervousness, curiad y galon, y gwaed yn rhuthro yn ddisymwth i'r'gwyneb, llewygon, teimlad o bwysau ar y chest, poen ar y chest, poen rhwng yr ysgwyddau, diffyg anadl, peswch a tiiueddiad at y darfodedigaeth (decline). s (2). treuliad a i ganlyniadau, sefgwael- der cyu bv\ yd, trymder anarferol ar ol bwyd, ditfyg arctiwaeth at fwyd, yr ystumog yn cliwyddo trwy wynt, yr afu yn afiach, a thrwy hyny yn achosi y clefyd melyn, poen yn groes i'r liygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). TrwyeiliÜth y Sarsaparella a'r Burdock ar gylchrediad y gwaed, y maent yn hynod o eileithiol at y blast neu'r awelon, gwynegon, ystyffdra y cymalau, a phob math o ddistemper yn y gwacd. Y mae tystiolaethuu pwysig yn cael eu derbyn yn barhaus. Cyhoeddir tri yn unig o r lluaws. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. i Old Globe, New Dock, LlaneUy, May 24th, 1876. ANWYL O it, Dymunaf hysbysu i chwi fy mod wed! cael fy llwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Litters. Y r oeddwn wedi myned bron yn rhy wan l gerdded, ac yr oedd y clwyf ar fy mraich yn myned yn waeth bob dydd. Yr oedd meddyg- on Llanelli a r ardaloedd am dori fy mraich ymaith er achub fy mywyd ond tnvy gynleryd y Quinine Litters, yr yawj-t yn awr wedi gwella, ac yn gweithio boo dydd. Rhoddaf fy enw vn llawn, fel y gallo ereill gael manylion pellach oddiwrthyf os mynant.—Yr eiddoch, yn barchus, GKIFFITH WILLIAMS. Dylaswn ddw.-yd fy mod wedi bod dair biynedd heb weithio ond ychydig. The Grand Hotel, Brighton, July 2Sth, 1S76. DEAK SIR —I feel it is my duty to the publie aDd yourself to inform you that I have derived immense beiicrft from your Quinine Bitters or Vegetable ionic. I have beer. for some months a victim to headaches, pain in the back, and I believe a geneial derangement of the liver. I am happy to say I now feel well, but take a dose of your "Bittex-s" occasionally when my appetite fails. Yours faithfully, ROBERT FOSTEB. Ruthin, Awst 15fed, 1876. SYR,-Yr wyf wedi derbyn lies mawr oddiwrth eich Quinine Bitters. Bu'm yn cael poenau an- iiesgriiiadwy n fy mhen a'm danedd, yn cael ei ach. si (mciddai'r Doctor) gan fy ystnmog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fel yr oedd arnaf ofn bwyta, dim. Yr oedd y gwynt yn fy nghofidio, bIas cas yn fy nghenau, yn enwedig yn y boreu. fel bwystl. Yr oeddwn yn hala haner fy amser yn y gweh trwy wendid, ac feallai ychydig iselder ysbryd. (-ymerais ddwy botelaid o'ch moddion ac yi; ydwyf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen.— Yr eiadorh. Mr. Gwilym Evans. JANE S. THOMAS. D.S.-Os bydd y corff yn wan, y mae yn agored i bob math o anhwylderau, a dylid cofio bod bron pob math o beleni yn gwanhau y cyf- ansoddiad. RHYBUDD.—Gofalwch fynu gweled "Gwilym Evans, Ph. C., M.R.P.S. wedi ei ysgrifenu ar stamp y llywodraeth; heb hyn, twyll ydynt. Ar werth gan bob Chemist cyfrifol mewn botel. au 2s. 9c. yn unig, neu gan Mr. GWILYM EVANS, Pharmaceutical Chemist, Stepney-street, Phar- macy, Llanelly: Llundain, Barclay & Sons, &c. 1401. AT YMFUDWYR. TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australian Sailing Ships and Steamers. N M. JONES (CTMRO GWYLLT), Passenget Broker, 28, Union-street, Liverpool, Gor. wyliwr i'r Llinellau canlynol :—Inman Line Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, State Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a', Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael v cyfarwyddiadau gofynol drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofal ddo y sylw manyiaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. "R.TCTBS' brodor o Merthyr Tydfil, Dymunol gan y Cymro allu hysbysu u Cyhoedd fod ganddo y TY CYMREIQ eangaf a mwyaf cyfleus i Deithwyr cut Ymfudwyr yn L'erpwl, a'r agosaf i'r Landing Stage. Cofier y Cyfeiriad,— N. M. JONES (CYMRO GWYLLT), 28, Union-street, Liverpool. D.S,—Gellir ymholi yn Aberdar a John Jamtt! Crown Hotel.