Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Nodiadau Cerddorol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Cerddorol. Yr oedd Mr. James Sauvage yn cael ei hysbysu i garni mewn cyngherdd yn Neuadd St. Jaines, Llundain, dydd Sadwrn diweddaf. Dydd hu bu Cor Mr. Carter yn perfformio yr Elijah" yn y Royal Albert Hall. Dydd Sadwrn diweddaf bu y Brighton Philharmonic Society yn perfformio "St. Paul." Madam Sherrington, Madam An- toinette Stirling, a Mri. Rigby, Foli, a Ainsworth oeddynt y prif leiswyr. Rhydd y papyrau Seisuig air da o ganmol- iaeth i Miss Marie Duval a Miss Marian Williams am y modd y darfu iddynt ganu yn nghyngherdd y Royal Academy dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf. Hwyrach mai ychydig o'n darllenwyr wyddant fod Miss Duval wedi dewis gwr oddiar mis Awst diweddaf. Ysgrifena gohebydd atom fel hyn:—"Ni welais air yn y Gwladgarwr am y cyngherdd- au gynaliwyd yn Nowlais ar adeg agoriad y Neuadd Gyhoeddus yno y dydd o'r blaen. Yr oeddynt yn llawn gwerth cofnodiad. Yr oedd y canu yno yn fendigedig, Miss Martha Harries a Mr. Brandon, yn enwedig, yu cario y cyfan o'u blaen, gan mor dda yr oeddynt yn canu." Nis gallwn roddi un uglurhadam yr amryfusedd hwn, yn rhagor nag i'n goheb- ydd o DdowlaiB esgeuluso danfon yr hanes i ni. Mae dau gyfansoddwr ieuanc Seisnig yn cyflym esgyn i sylw yn y brifddinas, eef Mri. A. H. Jackson a Eaton Faning. Mae Mr. Jackson newydd gwblhau cyfansoddiad elwir The Bride of Abydos," a dywed critics cerddorol ei fod o aeilyngdod uchel. Mae Mr. Eaton Faning.hefyd wedi eyfansoddi am- ryw ganeuon poblogaidd, ac yn eu mysg "My heart is heavy," yr hon genir yn rhagorol gan Miss Mary Da vies. Mae y ddau foneddwr yn efrydu yn y Royal Academy. CYNGHERDDAU ABERDAR.— "SAMSON." Er nad yw yr oratorio hon yn mhlith y mwyaf adnabyddus o weithiau Handel, y mae gyfuwch ei theilyngdod a'r goreu ohonynt, ac yn tra rhagori ar y rhan fwyaf. Mae copi gwreiddiol y draethgan hon, yn llawysgrif Handel ei hun, yn awr yn meddiant ei Mawrhydi, yr hon a'u hetifeddodd-yn nghyd a'r rhan fwyaf o weithiau Handel—oddiwrth Sior III. Oddiwrth y copi gwreiddiol hwn y cafwyd argraftiad Novello o'r gwaith. Nid oes hanes fod yr oratorio hon erioed wedi ei pherfformio yn ei hyd, gan gymaint ei meith- der ac yn wir, ni fwriadodd yr awdwr i'r oil ohoni gael ei chanu, oblegyd cawn ranau wedi eu gadael allan yn Walsh's Score, yr hwn a arolygwyd gan Handel ei hun. Felly, gellir cymeryd yn ganiataol fod argraffiad Walsli yn z, 11 unol a dymuniadau Handel. Hwn yw yr argraffiad ddilynir yn Nghyngherddau y Nadolig yn Aberdar. Mae libretto y gwaith yn cynwys y farddoniaeth aruchelaf; ac i ategu hyn o osodiaa, nis gallwn well na chrybwyll mai ar Samson Agonis&s Milton y seiliwyd geiriau y gwaith. Ar ddiwedd yr ail ran o'r gwaith, yn y gwreiddiol, mae y dyddiad "Hyd. llcg, 1741," ac mewn man arall, "gorphenwyd Hyd. 12, 1742." Yn 1743, am y tro cYlltaf, perftbrmiwyd "Sam- son" yn Covent Garden, Llundain, a derbyn- iwyd hi gyda brwdfrydedd. Yr oedd Handel yn vstyried yr oratorio hon yn un o'i gyf- ansoddiadau goreu a dywedir na wyddai pa un ai i "Samson" ynte i'r "Messiah" y dylicl rhoddi y fiaenoriaeth. Dywed Dr. Burney fod Handel, wedi ei oddiweddu gan ddallineb, yn wylo y dagrau yn hidl pan glywai gauu "Total eclipse." Cynwysa yr oratorio uwchlaw ugain o gorawdau o wahan- ol fathau; naw-ar-hugain o unawdau a deimaw-ar-hugain o recits. Y prif gymeriad au ydvnt Samson (Mr. Sauvage); Micah (Miss Harries); Harapha (Mr. Brandon); Dn/il!:L (Miss Davies.; 3fanoah (rtIr. Howells); Offeiriad Dagon (Mr. W. Thomas); ac Neges- ydd Israelaidd (Mr. T. S. Thomas). Hefyd, cynrvcuiolir y Pi'i- listuvid a'r Israeliaid gaii Gor Undebol Aberdar. Mae y gwaith wedi ei ddosbarthu yn dair rhan. Yn y rhan gyntaf, cawn Samson yn ddall ac yn gaeth gan y Philistiaid ac yn cael ei ryddhau am ddiwrnod oddiwrth ei galedwaith i ddathlu gwyl Dagon, un oddelw- au v Pliilistiaid. Y mae y cawr yn galon- ddryliiedig yn galaru oherwydd ei dynged, ac eto yn cydnabod cyfiawnder ei gosb. Daw ei gylaiil Micah, a Manoah, ei dad, i ymwel- ed iig ef a chydymunant yn eu pruddgan- iadau. Yn nghanol ei ofid, amlyga Samson ei ffydd yn ngallu y gwir Dduw i drechu y Philistiaid eto ond syrthia yn ol drachefn i anobaith, gan dystio fod ei yrfa ar derfynu, ac y byddai yn fuan yn gorphwys oddiwrth ei ludded. Yn y cyfwng hwn, cysurir ef gan ei gyfmillion, y rhai ddesgrifiant iddo wych- der a hapusrwydd y bywyd arall, yn y geir- iau Then round about the starry throne Of Him who ever rules alone, Your heavenly guided soul shall climb, Of all this earthly giossness quit." Yn yr ail ran, cawn Dalila yn dynesu at Samson, a chan ffugio edifeirwoh, yn ymbil arno i ddychwelyd gartref gyda hi. Gwrthoda Samson ei ehymhelliad gyda dirmyg. Wedi ymadawiad Dalila, daw Harapha, y cawr Philistiaidd, yn mlaen, ac ymffrostia pa mor dda y buasai ganddo gyfarfod a Samson yn anterth ei nerth a'i ryddid. Er ei holl an- fanteision, heria Samson ddall ef i brofi ei nerth yn awr, ond gwrthoda Harapha, gan ddweyd na ddeilliai yr un clod o drechu gwrthwynebydd dall a methedig. Y mae yr olygfarhwng y ddau gawr, yn y fan hon, yn eael «i phc/rtreadu yn ardderchog yn y ddeu- awd "Go, baffled coward, go." Y n nes yn mlaen, cawny Philistiaid yn galw ar yr eilun- dduw Dagon a'r Israeliaid, o'u tu hwythau, yn gwneyd yr un modd, yr hyn a osodir allan yn y corawd dyblig, "Fix'd in his everlast- ing seat." Yn y rhan olaf, cawn y Philistiaid yn gwysio Samson ger eu bron, er eu difyru a phrofion o'i nerth. Ar y cyntaf, gwrthoda y cawr ufuddhau, gan ddadlu y byddai ym- ddifyru ei gaeth-feistri a'i nerth yn bechod yn erbyn Duw. Ond rhag cyítro eu llid, a chael ei lusgo yno, y mae yn ymostwng i fyned, gan weddio yn daer am i'r Hwn rodd- odd iddo nerth ei noddi a'i ddal i fyny. Yn filan ar ol hyn, hysbysir ni mewn symphony ddychrynllyd fod Samson wedi tynu yr adeilad i lawr yn garnedd, ac yn y fan clywn waeddiadau y Philistiaid yn galw ar Dagon am help yn eu cyfyngder. Syrth yr ysgreoh- feydd ar glustiau Micah a Manoah rhedant tua'r fan, a chant fod Samson wedi ei ladd a'r Philistiaid—rhai yn glwyfedig a rhai yn feirw-o dan weddillion y deml. Mae yr Israeliaid yn rhoddi tafod i'w galar am golli Samson yn y geiriau:- "Weep, Israel, weep a louder strain, Samson, your strength, your hero is slain." Cludir gweddillion y cawr—chwareuir y dead march gan yr orchestra—cenir molawdau i Samson gan wyryfon yr Israeliaid a therfyna yr oratorio gyda'r chorus mawreddog, "Let their celestial concerts all unite." Dyna, ynte, amlinelliad brâs o'r gwaith burfformir gaa Góv Undebol Aberdar y Nadolig. Oynghwem bawh allaat Trneyd hyny ya gyflcua fod yn teeeeaol yu up, o leiaf, o'r oyagkoradas sanys byU Glywed S^ndyrf GUmcecter a Ghol%eHha»ni yn «kvaa<««i1 yr overture, j stfliphony, dead marm, ya unig yn mior o fod yn wetftia taith i Abesdap.

H.ANEBI.

BARGOED.

FELINDRE.

FFYNON TAF.

TONGWYNLAS.

ABERAFON.

TONYREFAIL.

MIDDLESBRO'-ON-TEES.

Yr Eisteddfoddau.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]