Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Masnach yr Haiarn a'r Glo.,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Masnach yr Haiarn a'r Glo. "Er ys wythnos bellaeh yr wyfwedi treulio rhyw gymaint o'm hamser yn CWM IMOXDDA., lie y cefais allan, wrth ymholi a'r masnach- wyr yn gystal* a siarad a'r gweitharyr a goruchwylwyr y gweithfeydd, er fod llawer o'r perlyn tan duyn cael ei goii yn y Civm hwn, nad oedd yr ehv i'r meistri yn werth galw elw arno, a chan luosogrwydd y gweithvyr, nad oedd eu henillion ond ychydig, a'r masnach wyr hwythau yn grnddfan dan system yr hen gownt. Galw- ais hefyd yn FERNDADE. Mae hwtl yn lie gobeithiol—tua chwech o byllan gIn, a braidd oil yn newydd, o Bont- ygwaifch hyd bwll y Mardy, eiddo Mordecai Jones, Ysw. Lie y eodid glo, mae y gweith- wyr yn orlawn—llawer o buglers, hyd yn nod o Ystalfera, yn gweithio yno, a da gan- ddynt gael rhywbeth i wneuthur er cadw corff ac enaid yn nghyd. Yn y lleoedd uchod mae y glo yn iselbris, a thrwy hyny y eyflogau yn hynod o isel. Am unwaith, daethum dros y mynydd i MOUNTAIN ASH. Wrta. ddyfod yma, daethum heibio i hen addoldy plwyfol diaddurn;, ac wedi ym- holi, cefais allan mai Llanwonno y gelwid y lie. Lie yw hwn yn nghil y mynydd, a gallaswn feddwl, fel dyn. dyeithr, fod yma fwy o ysgyfarnogod nac o drigolion. Nid oedd i'w weled drwy yr holl gwm islaw, ond tua haner dwsin o hen ffermdai, hebfawr o brofion fod yno yr un math o ofal amaethyddol Wedi cyrhaedd y Mount nid oedd fawr calondid i mi i ddweyd fy neges. Yr oedd y gweithwyr ar hyd gongl- au yr heolydd, heb ond ychydig o ddyddiau yn .yr wythnos yn ddyddiau iddynt weithio, a deallais yma mai yr un modd yr oedd yn Cwmaman, Aberaman, Cwmbach, ac hefyd gyda chwithau yna yn Aberdar. Wedi cyrhaedd oddiyma i 7• X '<' ff, ABERTAWE, cefais allan ei fod yn ddealladwy drwy weithfeydd haiarn y rhanbarth hon fod gostyn giad o leiaf o 10 Y cant yn y eyflogau i gael eiofyn, yn neiilduol yn y prif weith- feydd haiarn yn nechreu y flwyddyn newydd. Cytumr o bob tu mai hyn yw yr unig foddion er cael diwygiad yn mas- nach yr haiarn. Mae rhyw ystrywiau wedi llwyddo i yru y rhan fwyaf o'r archebion goreu ymaith o Ddeheudir Cymru, a'r inarchnadoedd ag oedd gyda llawenydd yn derbyn y barau haiarn Cymreig yn awr wedi eucau yn ein herbyn. Nid oes dim adfywiad i'w nodi hyd yn hyn yn y rhan- barth hwn yn masnach yr haiarn. Ychydig « fasnach sydd yn cael ei gwneyd yn llgweithfeydd dur Glandwr, ond y mae ychydig mwy o fywiogrwydd yn y gweith- feydd tin a'r patent fuel. Mae masnach y glo ryw gymaint yn fwy sefydlog a bywiog, a mwy o lo wedi ei allforio yn y mis di- weddaf na'r misoedd cyn hyny. Yn rhan- barth CAEUDYDD, nid oes nemawr o ddim newydd i'w adrodd. Mae yn wir fod yma lawer mwy o lo wedi ei allforio yn y mis diweidaf nag a allfor- iwyd yn yr un cyfnod yn 1875. Ond er fod hyn yn ffaith, yn gymaint a bod pyllau newyddion yn cael eu hagor yn barhaus, mae y cyflenwad yn fwy na'r galwad, a thrwy hyny nid oes modd codi y prisiau, ac nid oes ychwaith yr un arwydd o hyny, -er fodhuriau y llongau ychydig yn well. Hid oes yr un bywiogrwydd yn masnach y glo at wasanaeth tai, ac ystyried yr amser o'r flwyddyn. Ithaid bwrw ymaith yn llwyr yr hunlle sydd wedi bod yn niweidiol i fasnach, a goreu pa gyntaf yr helir y llwynog hwnw allan a'i ladd. Feistri a gweithwyr, codwch ati fel un Haw i wneyd hyny. Hwyliodd oddiyma yr wythnos ddiweddaf 39 o agerlongau, a 74 o hwyl- longau, yn llwythog o b9,854 o dunelli o 10, 2,708 o dunelli o haiaru, a 2,237 o dunelli o patent fuel. Yn RyilNi mae y lleihad mawr yn y swm o lo a ddefn- yddid yn y gweithfeydd haiarn, drwy fod *cynifer o ffwrnesi tawdd wedi eu hatal, a melinau haiarn parod wedi gosod pethau zar eu cythlwng. Mae mwy o fywiogrwydd mag a fu yn bodoli yn masnach y glo tai yn y rhan isaf o'r Cwm. Mae pyllau y glo Ager ar y Haw arall yn fwy marwaidd, ac .er cystal glo ydyw, rhaid dyoddef feI ereill -danfarweidd-dramasnach Mae ymweliad Mr. W. Abraham a'r lie wedi'troi yn erthyl, sner bell a phenderfynu yr annghydwelediad -sydd yn bodoli, ac y mae pethau yn sefyll yn yr un fath. Mae glofeydd ereill yn .mwynhau y lies o adgyflenwi y glo y gelwid am dano, ac y mae unrhyw swm yn hawdd .ei gael. Nid oes yr un cyfnewidiad neill- duol wedi cymeryd lie yn masnach yr haiarn. Modd bynag, y mae yn gysurus meddwl pan fyddo unrhyw archeb yn y farchnad, mai Deheudir Cymru, yn y cyffredin, sydd yn llwyddo i'w chael. Yn ol fel y deallais, yn y CASNEWTBD, mae yn amlwg fod rhai o'r gweithfeydd yn y rhanbarth hon yn cael ychydig mwy o waith, ac ychydig o welliant yn y prisoedd. Dichonnad yw hyn ond am dymhor, ond i;obeithir gyda- deehreu y flwyddyn newydd — E y bydd i bethau ddyfod yn fwy llewyrchus. Mae y ehwedl yn cael ei thaenu fod gweithfa ddur newydd i gael ei hadeiladu yn fuan yn y rhanbarth hon. Ychydig a allforiwyd o haiarn yn ystod yr wythnos. Nid oes yr un eyfnewidiad yn masnach y glo, a'r prisoedd yn aros yr un. Yn NANTYGLO A'B BLAENA, cefais ar ddeall fod y Cwmni hyny wedi gwerthu rhan o'u meddianau mwnawl i'r Mri. Morgan a Lewis, boneddwyr antur- iaethus o'r lie, y rhai sydd yn hollol gyfar- wydd a glo-weithiad. Yn MERTHYR TYDFIL, mae masnach y glo a'r haiarn yn arddangos graddau o farweidd dra; ac er fod Gweith- feydd Dowlais mewn gweithrediad sefydlog, eto, mae y eyflogau mor isel, fel nad oes fawr o gysur yn deilliaw i'r meistri na'r gweithwyr. Mae y troad a ddisgwylid yn y llanw heb ddyfod hyd yn hyn. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, nid oedd fawr fyw- iogrwydd yn y pyllau glo. Rhaid rhoddi ataliad, medd y gweithwyr, ar yr under- current sydd er's blynyddoedd yn drygu masnach, cyn y gellir cael pethau i drefn ac i weithredu fel cynt. Nid oes un cyf- newidiad o bwys yn masnach haiarn Gogledd Lloegr. Yn Rhagfyr 19. MASN ACHDEITHIWR.

CLAFDY NEWYDD

Advertising