Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

FICER VV/AKEFIELD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FICER VV/AKEFIELD. ■GAS OLIVER GOLDSMITH. [Cyfieithiad neMduol i'r GWLADGARWR.] PENOD XXVIII. Dedwyddwch neu adfyd hytrach yn ganlyniad callineb na rhinwedd yn y bywyd hwn.— Drygau neu wynfydau tymhorol yn gyfrifedig gan y nefoedd fel pethaau ynddynt eu hunain yn ddibwys, ac yn annheilwng o'i gofal yn eu gwasgariad. YR oeddwn yn awr wedi fy ngharcharu am fwy na phythefaos, ond nid oedd fy anwyl Olivia wedi talu ymwc-liad a mi eto, ac yr oeddwn yn mawr hiraethu am ei gweled. Wedi hysoysu fy nymuniadau i'm gwraigr, daeth fy merch, druan, boreu dranoeth i'm hystafell, gan bwyso ar fraich ei chwaer. Tarawyd fi gan y cyfcewidiad welswn yn ei gwyneb y ceiniol annifeiriol a drigent yno unwaith, oeddynt yn awr wedi Gianc, ac yr oedd Haw angeu fel pe byddai wedi llunio pob ffurf i'm dychrynu. Yr oedd ei harleisiau yn suddedig, ei thal- ten yn dyn, ac eisteddai rhyw welwlesni marwol ar ei grudd. Yr wyf yn falch i dy weled, fy an- wylyd," meddwn i, "ond beth yw yr iselder hwn, Livy? Yr wyf yn gobeithio, fy nghariad, fod genych fwy o barch tuag ataf fi nag i ganiatau siomedigaeth fel hyn i gloddio dan fywyd wyf yn brisio fel yr eiddo fy hun. Byddwch siriol, blentyn, a gallwn weled dyddiau dedwyddach eto." "Yr ydych erioed, syr," ebe hi, wedi W yn garedig i mi, ac y mae yn ychwan- egu at ty mhoen na chaf byth o'r cyfleusdra i gyfranogi o'r dedwyddwch ydych yn -addaw. Yr wyf yn ofni nad yw dedwydd- weh mwyach yn nghadw i mi yma, ac yr wyf yn hiraethu am adael yr oror He na -chefais ond adfyd. Yn wir, syr, mi ddy- munwn i chwi ymostyngiad priodol i Mr. Thoruhili; gall hyny ei duedda i ryw feaur i dosturio wrthych, a rhydd i minau ym- wared wrth farw." Dim byth, blentyn," meddwn i; "dim "byth y dygir fi i gydnabod fy merch yn butain canys er y dichon y byd edrych ar eieh trosedd gydag ysgorn, gadawer i mi gael ei ystyried fel arwydd o hygoeledd, ac nid o euogrwydd. Fy anwylyd, nid wyf fi mewn un modd yn druenus yn y lie hwn, pa mor resymol bynag jrr ymddengys; a gellwch fod yn sicr, tra^- parhewch chwi i'm bendithio trwy fyw, ni chaiff ef byth o'm cydsyniad i'ch gwneyd chwi yn fwy truenus trwy briodi un arall." Ar ol ei hymadawiad, darfa i'm cyd- garcharor, yr hwn a wrandawai yr ym- ddyddan, yn ddigon synwyrol ymresymu a mi am fy ystyfnigrwydd yn gwrthod ym- ostwng, yr hyn a addawai i mi fy rhyddid. Syr," meddwn i, yr ydych yn anad- aabyddus a'r dyn sydd yn ein gorthrymu. Yr wyf yn dra ystyriol na wnai un ymos- tyngiad a allaf fi wneyd ddwyn fy rhyddid i mi hyd yn nod am awr. Dywedwyd wrthyf ddarfod i ddyledwr iddo, hyd yn nod yn yr ystafell hon, farw o eisieu, a hyny heb fod yn ddiweddarach na'r flwyddyn ddiweddaf. Ond er y gallai fy ymostyngiad a'm cymeradwyaeth fy nhros- glwyddo oddiyma i'r ystafell fwyaf ysblen- ydd a fedd, eto ni roddwn y naill na'r llall, gan fod rhywbeth yn sibrwd wrthyf y bydd hyny yn rhoddi cydsyniad i odineb. Tra bydd byw fy merch, ni chaiff un briodas arall fod byth yn gyfreithlon yn fy ngolwg i. Pe symudid hi, yn wir byddwn y gwaelaf o ddynion, oddiwrth unrhyw ddig- ofaint o'r eiddof fi, i gynyg tori i lawr y rhai a ddymunant uno a'u gilydd. Na, filain fel ag ydyw, dymunwn iddo wed'yn triodi, er atal ei anfoesol dyfodol. Ond yn awr ai ni fyddwn y creulonaf o dadau i arwyddo papyr a fyddai yn rhwym o yru fy mhlentyn i'r bedd, er yggoi carchar fy hun. Cydnabyddai gyfiawnder fy atebiad, a chynghorodd fi i ddanfon llythyr at ei ewythr, i'w hysbysu am y driniaeth a .ga wswn gan ei nai. Diolchais iddo am yr awgrym, ac ysgrifenais ar unwaith. Am y tri diwrnod nesaf, yr oeddwn mewn cyflwr o bryder, er gwybod pa ryw dderbyniad a gawsai fy llythyr; ond, yn y eyfamser, erfynid arnaf yn ami gan fy Ugwraig i ymostwng i unrhyw delerau yn hytrach nag aros yma, a phob awr derbyn- iai hanes fod iechyd fy merch yn gwaelu. Daeth y trydydd a'r pedwerydd dydd, ond dim ateb i fy llythyr: nid oedd achwyn- iadau dyeithryn yn erbyn nai ag oedd mewn Hafr yn debyg o lwyddo, fel y difianodd y -gobeithion hyny yn fuan fel fy holl rai blaenorol. ir oedd fy meddwl o hyd, fodd bynag, yn cynal ei hun, er fod caethiwed ac awyr ddrwg yn effeithio cyfnewidiad gweledig yn fy iechyd. Yr oedd fy mhlant, beth bynag, yn eistedd yn fy ymyl, a minau yn gorwedd ar wely gwellt, a hwythau yn darllen i mi bob yn ail, neu gwrandawent a wylent wrth fy hyffordd- iadau. Or-d yr oedd iechyd fy merch yn gwaelu yn gyflymaeh na'r eiddof fi; pob cenadwn oddiwrfchi a weinyddai i chwyddo fy ofnau a'm poen. Y puaaed boreu wedi i mi ypgritenu at Syr "VTilliam Thornhill, dychrynwyd fi pan glywais nas gallai siarad. Yn awr daeth caethiwed yn wir boenus i mi. Yr oedd fy enaid ar ym- rwygo o'i garchar er bod yn agos i obenydd fy mhlentyn i'w chysuro a'i nerthu, ac i dderbyn ei dymuniadau olaf, a dysgu i'w henaid y fFordd i'r nefoedd Hanes arall a ddaeth; yr oedd ar drengu, a gomed^id i minau y cysur bychan o wylo wrth ei hochr. Fy nghyd-garcharor, yn mhen ychydig amser wed'yn, a ddaeth a'r hanes olaf: archodd fi i fod yn amyneddgar—yr oedd wedi marw Y boreu nesaf dycbwel- odd, a chafodd fi gyda'm dau fychain, yn awr fy unig gwmpeini, y rhai a ddefnydd- ient eu holl ymdrechion diuiwed i'm cysuro. Deisyfent am gael darllen i mi, a dymunent arnaf beidio wylo-fy mod yn rhy hen i wylo. Ac ai nid yw ein chwaer yn angel yn awr, nhad ? ebe yr hyaaf, A phaham yr ydych yute yn gofidio am dani? Mi ddymunwn inau fod yn angel allan o'r lie dychrynllyd yma, pe b'ai fy nhad gyda mi." "Ydyw," ebe fy anwylyd ieuengaf, "y mae y nefoedd, lie mae fy chwaer, yn wychach lie nag yw hwn, ac nid oes neb ond pobl dda yno, ac y mae y bobl yma yn ddrygionus iawn." Rhwystrwyd hwy i siarad rhagor gan Mr Jenkinson, trwy sylwi, gan nad oedd fy merch mwyach, y dylwn yn ddifrifol feddwl am y gweddill o'm teulu, a chynyg achub fy mywyd fy hun, yr hwn oedd bob dydd yn gwanychu o eisieu angenrheidiau ac awyr iachus. Dywedai ei bod yn ddyledswydd arnaf yn awr i aberthu pob bulchder neu ddigofaint a feddwn er lies y rhai oeddynt yn dibynu arnaf am eu cynal- iaeth, a'm bod yn awr, yn ol rheswm a chyfiawnder, yn rhwym o ymdrechu ym- heddychu a'm tir-feistr. "Moliaoer y nefoedd meddwn i, "nid oes dim balchder wedi ei adael ynwyf yn awr. Efieiddiwn fy nghalon fy hun, os gwelwn un ai balchder neu ddigofaint yn llechu yno. I'r gwrthwyneb, gan i'm gor- thrymydd unwaith fod yn un o'm plwyfol- ion, yr wyf yn gobeithio un dydd ei gyf- lwyno i fyny yn ddihalog yn y farn dragwyddol. Na, syr, nid oes genyf ddim digofaint yn awr; ac er iddo gymeryd oddiwrthyf yr hyn oedd yn fwy anwyl genyf na'i holl dryeorau—er ei fod wedi llethu fy nghalon, canys yr wyf yn glaf Qœn a llewygu, fy nghydgarcharor-eto ni elrai hyny byth fy nghyffroi i ddial. Yr wyf yn awr yn foddlou cymeradwyo ei briodas; ac os gall yr ymostyngiad hwn weini un pleser iddo, gadewch iddo wybod, os darfu i mi wneyd un niwed iddo, fod yn ddrwg genyf am hyny." Ysgrifenodd Mr. Jenkinson y llythyr, ac arwyddais inau ef, a danfonwyd fy mab ag ef i Mr. Thornhill, yr hwn oedd ar y pryd yn ei balas yn y wlad. Aeth) ac yn mhen chwech awr daeth yn ol ag ateb geiriol. Cafodd gryn drafferth i gael d'od o hyd iddo, gan fod y gwasanaeth-ddynion yn sarug iddo. Yr oedd yno barotoadau ar gyfer y briodas, yr hon oedd i gymeryd lie yn mhen tri diwrnod. Cymerodd Mr. Thornhill y llythyr, ac wedi ei ddarllen, dywedodd fod pob ymostyngiad yn awr yn rhy ddiweddar ac yn ddiangen-ei fod wedi clywed am ein hapeliad at ei ewythr, yr hwn a gyfarfu a'r dirmyg a deilyngai; a chyda golwg ar y gweddill, fod pob apel yn y dyfodol i gael ei gjfeirio at ei gyfreithiwr, ac nid ato ef. Sylwodd, fodd bynag, gan fod ganddo opiniwn uchel iawn am gallireb y ddwy foneddiges ieuanc, mai hwynt-hwy allasai fod y eyfryngwyr mwyaf dymunol. Wel, syr," meddwn wrth fy nghyd- garcharor, yr ydych yn awr yn gweled y fath dymher sydd gan y dyn a'm gorthryma. Gall ar unwaith fjd yn ddigrif a chreulon ond bydded idio ymddwyn tuag ataf fel y myno, byddaf yn fuan yn rhydd, er ei holl fyllt i'm hatal. Yr wyf yn awr yn tynu tua chartref sydd yn edrych yn ddysgleir- iach fel y dynes wyf ato. Y mae y dis- gwyliad hwn yn sirioli fy adfydau; ac er fy mod yn gadael teulu digymhorth o am- ddifaid ar fy ol, eto ni adewir hwynt yn hollol; dichon y ceir gafael ar ryw gyfaill i'w cynorthwyo er mwyn eu tad, druan; a gall y rhydd rhywrai ymwared elusenol iddynt or mwyn eu Tad nefol." fPw iarhau.J

[No title]

Arlywyddiaeth yr Unol Dalaethau.

Ffrwgwd Angeuol yn Llantwit…

YR ARSYLLFA.

Advertising

Byoddefladau erchyll morwyr…

Helyntion y Cwmbach.

ABERAFON.