Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

I CSofnodion o'm Dydd-lyfr…

Y WLADFA GYMliEIG.

NODIADAU AR GYFARFODYDD LLENYDDOL…

LLAWLYFR Y GLOWR.

" BLÃCKJVELL" A FFYNON TAF.

OGOF ORLANDO.

- MR. WILLIAM ABRAHAM (MABON)…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. WILLIAM ABRAHAM (MABON) A'R SLIDING SCALE. MR. GOL. Facts are stubborn things," felly y gwirionedd mewn cysylltiad a'r pwnc uchod. Addawodd Mabon ar g'oedd gwlad trwy gyfrwng newyddiadur, er's ychydig amser yn ol, y buasai yn ateb unrhyw gwest- iynaua ewyllysiwneugofyn iddo, os yn ei allu, ar yr amod fy mod yn rhoddi iddo fy nghyf- eiriad yn llawn. Cydsyriais a'r amod heb y nacad lleiaf; ond pan anfonais ato lythyr yr ail waith yn cynwys dim ond tri gofyniad a chais cyfreithlon, gwrthododd eu hateb. Ai dyma beth yw cyflawni adduned I Fe gaiff y darllenydd farnu. Ond eto, Mr. Mabon, ni ddarfu i chwi foddloni ar wrthod ateb yn unig, eithr darfu i chwi daflu iminu- ations annheilwng o ddyn o'ch safle chwi ar fy mherson, am feiddio amddiffyn yr hyn ag wyf wedi eich herio i'w wrthbrofi Dichon mai nid anmhriodol yn y fan hon fyddai gosod o flaen y darllenydd y cwestiynau crybwylledig, yn Dghyd a'i ateb yntau, fel ag i roddi chwareuteg i'r pwnc ar fwrdd y cyhoedd. Dyma i chwi y du a'r gwyn :— 1. Ai nid yr un egwyddor oedd i reoleiddio y gostyngiad yn Group No. 2 a'r ddau Group arall, sef gostwng yn ol y safon ? 2. A chaniatau y buasech wedi ein gostwng yn ol y safon, fel ag oedd y dyfarniad wedi ei barotoi, ac fel y cafodd y ddau Group arall, I pa faint fuasai y general rate o ostyngiad yn Group No. 2 ? 3. Ai nid yn ngoleuni y dyfarniad dydd- iedig Rhagfyr 12fed, 1875. yr oedd y docu- ment dyddiedig Chwefror 12fed, 1376, i gael ei gyfansoddi, sef i nodi allan y gweitlifeydd yn mhob Group, a'r gostyngiad oedd i'r gwahanol Groups hyn yn ol safon y dyfarn- iad ] Dyna i chwi y cwestiynau, a dyma i chwi beth gefais mewn atebiad :— '• Syr,—Wedi i mi ddweyd wrthych o'r blaen na.d oeduwn yn bresenol ar y Bwrdd y dydd y gwnaed yr hyn yr achwynW-ch chwi arno, yr wyf yn ystyried eich bod yn 1flyned yn rhy bell wrth ofyn fy ntarn bersonol i arno. v Mae y defnydd a wnaethoch o'm liat- ebion blaenorol yn profi ar unwaith mai ym- ladd a. r Bwrdd yw eich amcan felly, teg yw i chwi ffeindio eieh ammunition eich hun." Yn awr, ddarllenydd, a ces rhywbeth yn insrdtmg yn fy gofyniadau i, yn cyfiawnhaa yr atebiad swrth ac anfoneddigaidd uchodl Neu a ydwyf wedi gwneyd unrhyw gam ag ef wrth ymdrin a'r pwnc mewn llythyrau blaen- orol I Os do, paharn na wna amddiffyn ei hun ? Gwn y cydnebydd pob dyn o berchen synwyr cyffredin fy mod oddiar y dechrett wedi mabwysiadu llwybr cymedrol, ac nid wyf wedi dweycl dim heb ei brofi felly, yr wyf yu tafiu y Hysnafedd hwn yn ol iddo gyda'r dirmyg mwyaf. Ond, yn gyntaf, gad- ewch i ni ddadansoddi yr atebiad, fel y cawn weled ei gynwysiad yn ei liw a'i lun priodoL Cwyna fy mod yn gofyn ei farn bersonol ef, gan nad oedd ef ar y Bwrdd y diwrnod y gwnaed yr hyn yr achwynaf arno. Yn awr, nid oes a fyno yr uchod o gwbl 4'r cwestiyn- au perthynol i'r pwnc. Nid wyf wedi ceiaia am eich barn bersonol ar ddim atebion a "Ië," neu "Nage," fuasai yn boddloni fy nghais. Eto, Mabon, beth sydd a fyno eich absenoldeb o'r Bwrdd y diwrnod hwnw a'r cwestiynau uchod ? A oeddech yn credu fy mod yn ddigon dall i adael hyn i fyn'd heibio yn ddisylw i Ond a chaniatau fod a fyno hyny a'r cwestiwn, oni ddarfu i chwi gyd- synio a'r hyn a wnaethpwyd ac oni ddywed- asoch nad oeddech, er eich absenoldeb ajit ysgoi dim o'r cyfrifoldeb ? U," meddai Mabon, yr ydych yn myned yn rhy bell." Ydwyf, mae yn bur debyg, i'ch boddhau chwi. Os nad oedd y crys yn lan, gwell fuasai i chwi beidio bod mor barol i dynu ymaith y got. Rhy bell, yn wir! os yw eich achos yn ddyogel, a chwithau yr ochr dde i'r berth, pa achos i chwi ofni i mi fyned yn rhy beil ? Mae gwirionedd o'm tu i, ac nid oes arnaf ofn eich cyfarfod wyneb yn wyneb pryd y mynoch i amddiffyn fy achos fy hun a'm cydweithwyr. Eto, yr ydych yn fy nghyhuddo mai fy amcan yw "ymladd a'r Bwrdd. Pa le yr ydych wedi cael sail i'ch cyhuddiad, Mabon ? Dywedwch mai y defnydd wnaethum o'ch llythyr blaenorol oedd yn profi hyny. Wei yn awr, ynte, ni wnes ddim ond ei gyhoeddi ac os oedd cyhoeddi y llythyr hwnw yn ymladd a'r Bwrdd," yna mae y gwirionedd, sef eich geiriau chwi eich hun, yn troi yn arch-elyn i'r Bwrdd drwy ymladd ag ef. Nid wyf yn ystyried, gan mai y gwirionedd sydd genyf yn gyfrwng i ymladd a'ch gweithred- oedd ar y Bwrdd, fod eich cyhuddiad yn un sarhad arnaf, eithr yn hytrach anrhydedd. Teimlaf yn falch ac yn galonog i wrthwynebu sathriiid deddfau cyfiawnder a gwirionedd. Fe fyn cyfiawder a gwirionedd wthio eu hun- ain yn mlaen gydag amser er pob gwrthwyn- ebiad. Nid a'r Bwrdd fel sefydlLd y mae » fynwyf o gwbl, eithr a gweithrediadau pwyll- gor y cyfryw Fwrdd, pa rai, fel y gwyddoch 1 yn eithaf da eich hun, sydd wedi gwneyd cam dirfawr a ni mewn amryw betluiu. Y mae y Bwrdd, fel sefydliad, yn un ag y gwnaf bob amser ei bleidio. Nid ary Bwrdd y mae y baj, eithr ar y sawl sydd yn eiatedd arno. Eto, un gair cyn terfynu. Dywedwch mai teg y w i mi ffeindio fy ammunition fy hun. Onid wyf wedi talu fy rhan am yr ammuni- tion sydd yn eich meddiant chwi ? Gan liyny, onid oes genyf hawl gyfreithlon i ofyn i chwi am dauo ? Oes a'ch anfoneddio-eidd- rwydd chwi yw gwrthod ei roddi i mi. ° Y ni yw r erchenogion yr hyn sydd yn eich medd- iant, ac y mae rheswm yn dweyd fod hawl genym i gael gwybod yr holl gyfrinach. Ai ein gweision ni, neu ynte ein meistri ni ydych chwi yn ystyried eich hunain, Mabon'r Pan fyddo yr achos yn dda, syr, ni raid ofni ategu y cyfryw yn gyhoeddus a gwyneb- agored, ond pan fyddo yr achos yn bwdr rhaid gwneuthur pob ymdrech i ysgoi cy- hoeddusrvvydd. Dim rhagor o siarad. A ydych chwi yn barod ac yn foddlon, Mabon i gyfarfod pwyllgor gweithiol o'r gwahanol weithfeydd amgylchedig i ymdrin a'r pwnc ? Yii awr am dani. Byddwch gystal ag ateb, hwn hyd hyny, gorphwysaf yr eiddoch, Derri. JOHN LEWIS. [Rhwystrwyd ni gan brinder gofod i gyhoeddi y llythyr hwn yn gynt.-GOL.]

DEWCH I'R WYL.