Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

HYNODION Y LLAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYNODION Y LLAN. Pe byddai rhyw ymwelydd dveithr yn dyfod am dro i'r Llan dydd Mawrth diwedd&t, ac yn myned am walk tua chyfeiriad Pare y bobl, eawsai ei synu yn ddirfawr wrth ganfod tyrfaoedd o amryw filoedd o bobl, yn mwyn- hau ei hunain wrth syliu ar ryw dri neu bed war o ianciau yn tuchan fel agerbeiriant, •wrth geisio chwyrneiiu yn mlaen am y cyntaf tua'r nod, er gweled pwy fyddai bicycle champ- ion siroedd Morganwg a Chaerfyrddin; dyna y iturf newydd ar gystadlu sydd mewn bri yn y Llan y dyddiau hyn. Er na ddywedem ddim yn erbyn ymarferiad&u corfforol o'r natur hyn, ond yn hytrach cefnogem hwynt ond ei iawn arfer; eto, pan eir i'r fath eithaf- ion gyda hwvnt, credwn fod v drwg a ddeillia oddiwrthynt yn gorbwyso y da. Yn sicr, fechgyn, nid ydyw yr eisteddfod fiasiwn newydd yma fawr gweith, y mae gormod lawer o arogl y Derby Races ami. Beth yw y challenges a ymddangoseut bob wythnos yn ein papyrau lleol, yn nghyd a'r lOp. bet yna ond rhyw ail argraffiad o gampiau drygionus ein tadau, pan y teyrnasai tywyllwch dros ein gwlad. cyn i oleuni llachar yr Ysgol Sul dywynu yn ei belydrau ysblenydd drwy ororau Cymru fad. Dywenydd genym hys- bysu ein bod wedi cael gwledd nos Fawrth i'r dyn oddifewn gan y PARCH. DR. REES, Abertawe. Diau fod darllenwyr y GWLAD- GARWR yn gwybod fod yr hen batriarch duw- iol a doniol wedi bod yn ymweled ag America, a ehawsom ddarlith ragorol ganddo ar yr byn a welodd ac a glywodd yno. Nid oes achos i ni ddweyd dim mewn ffordd o ganmoliaeth am y ddarlith hon, y mae fod enw ein cyfaill wedi ei chyplysu wrthi yn ddigon o guarantee ei bod yn dda. Cawsorn ddarlun campus o'n cefnder Jonathan ganddo. Nos Lun a nos Fawrth diweddaf bu yr arodydd enwog HENRY VINCENT yn gwefreiddio cynulleidfaoedd mawrion a'i hyawdledd yn nghapel Annibynol y Pare. Sais yw ein cyfaill, ond y mae yn llawn o'r hen dan Cymreig. Y mae ei watwareg lem yn fflangell drom ar y rhai hyny nad ydynt c;1 y cyflawni eu dyledswyddau. Ei destyn nos Lun oedd "The Eastern Struggle," a nos Fawrth "The English speaking race." Yn y flaenaf condemniai y Weinyddiaeth bresenol yn ddiarbed; buasai yn dda genym pe buasai holl gefnogwyr Iarll Beaconsfield yn cael y L'- fraint o'i chlywed. Am y Hall yr oedd yn ddifyrus ac adeiladol. Dydd Gwener y 15fed cyfisol, cynaliwyd ail ARDDARGOSIAD AMAETHYDDOL flynyddol Llanelli. Yr oedd ynddi gyflawn- der o dda corniog, cA-n, ceffylau, &c. Gan fod y gvmydogaeth ocldiamgylch y dref yn wledig, ni allesid cael lie mwy pwrpasol a manteisiol i'w chynal na'r Llan. Da genym fod holl amaethwyr y cymydogaethau yn cymeryd cymaint o ddyddordeb ynddi. Trodd allan yn ilwyddiant perffaith. Parhau o hyd y mae STRIKE Y GLOWYR, beb ddim gobaith am iddi ddyfod i derfyniad. Yn ein llith diweddaf, gwnaethom dipyn o gamsynied drwy ddweyd fod Mr. Nevill wedi cynyg rhanu y gwahaniaeth. G an na chawsem fod yn y cyfarfod ein hunain, nid oedd genym ond derbyn tystiolaeth dynion ag y tybiem eu bod yn eirwir. Blim genym gael ar ddeall nad ydyw Mr. Nevill yn. foddlawn symud cam o'r fan lie mae. Y mae y Nadolig yn yr ymyl, a dvmunem wyliau llaweAi i a darllen- wyr y GWLADGARWK un ac oil.—Ap Elli. Drwg iawn genyf orfod dweyd mai marw- aidd a digyffro ydyw masnach yn parhau yn y llehwn a'r cylchoedd er's amryw fisoedd bellach, ac nid oes rhith goleuni yn ym- ddangos yn mhelydrau y ffurfafen gan ddweyd fod Ilwyddiant yn agosau ond er yr holl anhebygolrwydd, gobeithiwn y try y fantol cyn hir, ac y dychwel y fasnach i'n gwlad eto yn fwy brysg a bywiog nag y bu erioed. Nos Fercher, y 13eg cyfisol, cawsom y pleser mawr o glywed yr areithiwr medrus, y bardd gwych, a'r pregethwr galluog, J. Ossian Davies, yn areithio ar "Ddirwest a Sobrwydd," mewn ysgoldy perthynol i Capel Als. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog, ond dymunem weled ychwaneg, a gallaf ddywedyd yn hyawdl wrth y rhai oedd yn absenol eu bod WEAE cael coiled annhraethol, oherwydd cawsom araeth foddhaol ac egwyddorol ganddo. Rhwydd hynt i Mr. Davies i fyned rhagddo yn y dyfodol gyda yr achos dir- westol, a beiddiaf ddweyd pe byddai ychwaneg o fath y gwr hyawdl hwn yn myned oddi- amgylch y wlad, y byddai lies mawr yn deill- iaw trwy hyny. Cadeiriwyd yn fedrus gan yr hen ddirwestwr selog, Mr. John Jones. Dymunwn hysbysu miloedd darllenwyr y GWLADGARWR y bydd yma wleddoedd o'r iawn ryw Dydd Nadolig a'r dydd canlynol, trwy fod eisteddfodau mawreddog i fod yma. Gair eto, os yn dderbyniol, yn olynol iddynt. Llanellicm.

PONTYPRIDD.

MIDDLESBRO'-ON-TEES.

CLWYD-Y-FAGWYR.

I PENCOED.I

LLANHIDDEL, MYNWY.

RHIWFAWR.

FERNDALE.

PENYGRAIG. II

HIRWAIN.

EISTEDDFOD TABERNACL, MAESTEG,…

PLASMARL.

BRYNAMAN.

LLANDILO.

!CWMAFON.

YSTRAD RHONDDA. f