Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR LLUNDAIN. Y mae llofruddiaeth a phob math o greulon- deb yn myned ar gynydd yn y wlad. Nid oes diwrnod, braidd, yn myned heibio na chlywir am ryw weithred ysgeler wedi ei chyflawni yn rhyw barth neu gilydd o'r deyrnas. Gan nad pa faint o farweidd-dra sydd vn ffynu mewn galwedigaeth ereill yn ein gwlad, nid oes gan Marwood le i achwyn, oblegyd y mae efe wedi bod yn dra phrysur drwy gydol y flwyddyn, ac y mae ei rag- olygon am y dyfodol yn edrych yn llewyrchus iawn. Ychydig ddyddiau yn ol, synasom yr holl fyd gwareiddiedig gan ein bloeddiadau digofus am greulonderau y Twrc yn Bulgaria. Ond gyda'r priodoldeb mwyaf, galiasai y Twrc ddweyd wrthym am edrych yn nes gartref. Y mae cyn bened Bashi-Bazouks i'w cael yn y deyrnas hon a anadlodd erioed, a chyflawnwyd ynddi, yn ystod y flwyddyn hon, luaws o greulonderau a ddalient gyd- mariaeth mewn ysgelerder a'r gwaethaf a gyflawnwyd yn Bulgaria. Y mae Cymru erioed wedi bod yn dra rhydd oddiwrth lofruddiaethau a throseddau mawrion, a byddwn fel cenedl yn dra hoff o ymffrostio yn hyny ond y mae hithau, ysywaith, wedi diwyno ei chymeriacl yn resynus y flwyddyn hon. Rhaid iddi droi dalen newydd, onite rhaid i ni fod yn fwy cymedrol o hyn allan yn ein hymffrost parth ei phurdeb cymdeith- asol. Ymddengys fod "Nosweithiau gyda Mabonwyson" yn dyfod yn boblogaidd iawn gyda chwi yn Neheudir Oymrn. Y mae yn dda genym weled fod. gobaith y cedwir y bardd yn 'ein plith eto am dymor maith, beth bynag. Pa bryd y bwriada anrhydeddu y brif-ddinas a "noswaith?" Bydd yma bawb, o Dywysog Cymru hyd at y shoe-black, yn falch i'w weled, ac yn barod i'w roesawi. Y MAE y flwyddyn 1876 yn agos a dirwyn i ben, tra y mae y Pwnc Dwyreiniol eto yn aros heb ei benderfynu. Cyn pen llawer o oriau eto, bydd y flwyddyn ddwys ganlyniad- ol hon wedi tynu ei hanadl olaf, ac wedi ym- lithio i dragwyddoldeb gan adael penderfyn- iad y pwnc pwysig a dyrys hwn yn gyrnun- rodd i'w holynydd. Y Gynadledd sydd yn awr yn eistedd yn Nghaercystenyn, yn nghyd .a'r canlyniad a ddeillia ohoni fyddant ond -odid, yn ffurfio rhai o'r, os nad yr helyntion pwysicaf yn hanes Ewrop yn y flwyddyn 1877. Ond y pwnc mawr yw, "beth fydd ,canlyniad y Gynadledd-pa un ai heddwch ynte rhyfel ? Y mae y newyddion a ddaw i ni o ddydd i ddydd o'r Cyfandir i ryw radd- au yn obeithiol, a cheir gwleidyddwyr o safle a phrofiad yn datgan nad oes i ni eto achos i •ofni na phenderfynir y pwnc yn heddychol; ond gan ei bod o fewn cylch galledigaeth y dichon rhywbeth eto ddygwydd a wna'r -Gynadledd yn ofer, y mae y pwnc o hyd yn parhau i gadw tyrnasoedd Ewrop yn llawn pryder, a'r byd masnachol yn ansefydlog. Barnwn y buasai yn well o lawer pe buasai JVrglwydd Beaconsfield heb draddodi yr ar- eithiau hyny yn Aylesbury, ac yn y Quild- ihall a chredwn hefyd na chyrhaeddwyd un daioni, eithr yn hytrach y gwrthwyneb, drwy y Gynadledd ddiweddar yn Neuadd iago Sant. Nid yw areithiau nac ysgrifen- iadau y naill blaid mwy na'r Hall wedi cyfranu dim tuag at gynorthwyo y Cynrychiolwyr i ddyfod i benderfyniad baddhaol ar y pynciau dyrys sydd o dan eu hystyriaeth, eithr yn hytrach y maent yn sicr o fod wedi ychwanegu yr anhawsderau sydd ar eu ffordd i gyrhaedd yr amcan hyny. Yn y cyfwng pwysig hwn y mae rhyw gymaint o foddlonrwydd i wybod fod y deyrnas hon yn cael ei chynrychioli gan wleidyddwr sydd yn deilwng o ymddiried y genedl. Y mae cyfrifoldeb Ardalydd Salis ;J. 1_1 bury yn aruthrol o fawr, ond nid oes achos ofni na fydd iddo gynawni' ei ddyledswyddau pwysig er anrhydedd iddo ei hun, ac i'w wlad. Gwelwn fod ein cyfaill hoff o'r Arsyllfa yn camsynied tipyn ar y sylwadau a. wnaeth- om yn ein ilythyr cyn y diweddaf mewn perthynas i'r Gynadledd ddiweddar yn Neuadd Iago Sant. Yn y llythyr hwnw awgrymasom y dylasai y Gynadledd fod wedi ei chynal yn gynt, ac y dyhsai fod cyfarfod- ydd wedi cael eu cynal drwy hyd a lied y deyrnas er galw yn groew ac awdurdodol ar ein gweinidogion i roddi i fyny awenau y Llywodraeth yn ddiymaros, os oeddynt yn dilyn policy annghyfiawn ac un niweidiol i lesiant ein teyrnas. Y mae ein eyfaill yn gofyn beth oeddynt y cyfarfodydd cyhoeddus a gynaliwyd yn y deyrnas hon yn Awst, Medi, a Hydref ? Wel, cyfarfodydd oeddynt er dangos digllonedd y wlad hon yn herwydd y creulonderau a gyflawnwyd gan y Tyrciaid mileinig yn Bulgaria, ac hefyd er condemnio ein Gweinyddiaeth am y tybid fod eu policy yn groes i hynyna. Yr ydym ninau yn dal, gan yr amcenid i benderfyniadau ac areithiau y Gynadledd yn Neuadd Iago Sant ddylan- wadu ar ein Gweinyddiaeth mewn perthynas i'r policy oeddynt i'w ddilyn yn y Gynadledd yn Nghaercystenyn, y dylasai y Gynadledd hono fod wedi ei chynal yn nghynt, oblegyd yr oedd ein Gweinyddiaeth wedi trefnu eu policy mewn perthynas i'r Gynadledd yn Nghaercystenyn, wedi rhoddi eu cyfarwydd- iadau i Ardalydd Salisbury, ac yntau wedi ymadael, a gwneyd y cyfarwyddiadau hyny yn hysbys i'r Galluoedd Mawrion ar y Cyfan- dir, yn hir cyn bod son am gynal y cyfarfod yn Neuadd Iago Sant. Ni a obeithiwn y bydd yr eglurhad uchod yn foddhaol i'n cyfaill. Y mae efe yn gwybod beth yw ein golygiadau gwleidyddol er's blynyddoedd. Gallwn ei sicrhau ein bod wrth wneyd y sylwadau ar bynciau gwleidyddol yn ceisio sangu mor ofalus byth ag y gallom. Os y bydd i ni gymaint a rhyfygu gosod hyd y nod blaen ein troed ar y tir gwaharddedig, byddwn yn ddiolchgar iddo am ein galw i gyfrif, ac i ddweyd tipyn ar ein profiad. Blwyddyn newydd dda iddo ef, ac i bawb o ddarllenwyr y GWLADGARWR.

Y STRIKE YN LLANELLI.

GOHEBYDD YB "EXPRESS" YN Gwimo.

TYMHER DDRWG.

"GILBERT" AR VOLUNTARY SYSTEM…

LLITIf YR HEN BYDLER.

CYMRY AMERICA.

Cyfarfod Llenyddol Ysgol Sabothol…