Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

ABERDAR. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERDAR. i EBENBZER.—Cynaliwyd cyfarfod trimisol yr ysgol uchod,* nos Lun, Rhagfyr ISfed. Awd yn mken a'r cyfarfod yn y drefn ] craiilyriolTon gan y cor, "Y gwerthfawr i waed adroddiad gan Rachel Rees a Lienor ] Evaits ton gan y c6r, Mae d'eisieu di bob ( awr adroddiad gan Amy Richards a Margaret Thomas; ton gan y cor, Halle- i luiah fe'i gwnaed; adroddiad gan Margaret Howells a James Parsons; ton gan y parti, dan arweiniad Daniel J. Lewis: adroddiad gan John L. Davies a ft wen Williams; deuawd a chydgan, Mair Magdalen; adroddiad gan Amy Evans; ton gan y cor, "Wrth y Groes mae lie adroddiad gan James R. Pritchard; ton gan y cor, "Dis- srlaer wlad yr hedd;" adroddiad gan Mary Howells;" ton gan y cor, "Rhai anwyl aeth o'r blaen;" adroddiad gan Sarah Richards;" ton gan y cor, Rlio heibio r cwpan;" adroddiad gan James John; ton gan y parti eto; adroddiad gan Hugh Thomas; dadl, "Rhann'r deisien," gan Daniel Evans a'i gyfeillesau; ton gan y cor, "Tyn am y lan." Llywyddid y cyfarfod gan y parchus weinidog, ac arweiniwyd y Gobe'thlu gan Morgan Rowlands. Yr oedd y cyfarfod ar y cyfan yn un dyddorol a theimladol iawn. Cynygiwyd diolchgarwch i'r cor a pliawb oedd yn gwasanaethu. Ter- fynwyd y cyfarfod wedi boddloni pawb, gyda dyumaiad am gael un arall yn fuan.- Gohebydd. MAWOLAETH,-Boreu dydd Gwener, yr 22ain, cyiisol, yn 69 mlwydd oed, bu farw Mr. Morris Saunders, tad y Parch. D. Saunders, Abertawe. Cafodd gystudd trwm am ddeg diwrnod, a dyoddefodd y cwbl yn amynedd- gar. Er ei fod yn ymwybodol fod y diwedd wedi dyfod, yr oedd yn berffaith dawel, a thystiolaethai fod ei enaid yn gorphwys ar "Yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd Efe." Oladdwyd ef y dydd Mercher canlynol yn meddrod y tenlu, yn y cemetery, Aberdar. Yr oedd yn adnabyddus iawn trwy y dref a'r gymydogaeth, ac yn un a berchid yn fawr ean bawb a'i hadwaenai. Disymwth y daw siomiant! Ddoe'n y porth, heddyw'n y pant Ddoe yn fyw, heddyw'n ei fedd I Gwr anwyl, mewn gwirionedd. Trwy wybr deg tre' A-berdar,—traidd syndod 'Roedd Saunders mor hawddgar,— Neb mwy lTyddlawn, gyiiawn gar,—nag yntau, Ni rodiai, diau, ar hyd ei daiar. Yn y bedd y gorwedda,—hyd fore Adferiad plant Adda,— Cwyd yn llanc ieuanc, a Diludded i wiw wledda. I'r cyfiawn, da gwneir cofio,-—wedi bedd, Gyda'u bod yn huno, Daw enyd y dihuno, I wynfyd o gryd y gr6. Bore'r codi, BwreaiCv Ceidwad, egyr Ei dyogel gauad,— Iesu mwyn ga'i dlysau mad, Yn hwylus ar ei alwad. Ein 16a cyfiawn wna'n cofio,-yn y bedd Ni byddwn yn anngho';— Gwnaeth Iw i'n cadw mewn co' Yn y dyffryn—a'n deffro. WILLIAM.

YSGOLDY SILOH, GLANDWR.

Advertising

YMADAWIAD GWEINIDOG Y GROES-…

NAVIGATION.

TRELALES.

PONARDULAIS.

[No title]

Advertising

O'R GORLLEWIN.

MAR WOLAMTUA IT.

[No title]

Advertising

Trychineb ar y Mor.

Yr ymgais at lofruddiaetli…

[No title]