Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMREIG. MYFYR MORGANWG, D.C.L., A GOR- SEDD Y BEIRDD. Dydd Gwyl Alban Arthan cynaliwyd o fewn swyn gylch llys Ceridwen, yn y deml Dderw- yddol, ar Gomin Pontypridd, wledd o orfol- eddT yn ol hen arferiad, am ataliad byrhau y dyddiau, a buddugoliaeth Hu, sef yr haul, ar Afagddu, sef gallu y tywyllwch, a gwawriad blwyddyn newydd. Ar achlysuron cyffelyb, clywid ein tadau Derwyddoi, gwynion eu gwallt a'u barf, ddwy fil o flynyddau yn ol yn canu gyda'u telynau rywbeth fel hyn Gwawried dydd yr Alban Artban, Prin yw gwawl a gwen yr Huan, Dyfnder gauaf ddaeth,—ond ynddo Awen Cymru sy'n blaguro. Oer yw'r eira ar y mynydd, Noeth yw'r coed, a llwm yw'r gweunydd, Pan mae Anian gwedi gwiwo Awen Cymru sy'n blodcuo. Pan mewn galar-wisg mae'r Ddaear, Pan mae'n ddystaw gerddi'r adar, Awen Cymru gyda'i thelyn Sy'n dadseinio'n Nhrwn y gwynfryn. Mae'n Iachawdwr Hu yn Arthan, 'Nawr ar gael ei eni'n faban Coda'n u wcll, n weh, gan ddysgleirio- Ni gawn flwyddyn newydd eto. Brysiwch genllysg, 6d, ac eira, Brysiwch stormydd geirwon gaua' Brysiwch heibio, er cael dedwydd Wel'd arwyddion blwyddyn newydd Yr oeddent, cofiwn, yn addoli, ,ond nid yr haul. Gwrthddrych eu haddoliad oedd Awd- wr mawr yr haul, ac nid oedd yr haul yn ddim yn eu golwg ond yr amiyglad penaf o'r Celi yn y greadigaeth. Trwy yr haul y deall ent ei fod yn creu ac yn cynal pob peth. life oedd rliHgiaw mawr y Duwdod. Yr oedd yr Aifltiaid, fel y mae eu hyrnnau yu proti, yn gclygu fod Duvv yn preswylio yn yr haul; a digon tebyg fod y Derwyddon Prydeinig yn mabwysiadti golygiad pur debyg. Yn eu barddoniaeth yr oeddenc yn personoli yr haul ac yn ei alw yn gyntafanedig y Celi ond ni fu'r Cymry erioed yn eilunaddolwyr. Ni welwyd erioed eilunod yn eu plith,-yr oedd- ynt yn rhy bur a dyrehafedig en chwaeth i hyny. Yr oedd eu temlau, sef y cylchau a'r cromlechau, bob amser ar fryniau uchel. Nid oedd to i'w lie addoli-y wybren las wedi ei haddurno a ser oedd to hen demlau ein tadau. Yr oedd eu meddylddrych am Awdwr mawr y greadigaeth mor aruchel fel yr oeddynt (a dysgodd y Persiaid ganddynt) yn eyfrif gwneyd ty i Dduw fel ty i ddyn yn ddirmyg ar ei urddas. Gwelwn, felly, y fath gamwri yw galw ein tadau yn baganiaid eilunaddol- gar. Na, yr oeddynt yn anianyddwyr o'r radd uwchaf a welodd y byd erioed, a phrofa y trioedd, a gweddillion ereill yn cynwys eu golygiadau crefyddol, eu bod yn deall athron- iaeth naturiol (natural philosophy) yn mhell fol y mae Tyndall a Darwin yn ei deall yn bresenol-yr oeddynt yn gwybod am yr atoms y mae Tyndall yn son am danynt. Trwy ddeddfau'r greadigaeth yr oeddynt yn addoli Awdwr pob peth, a phortread o'r prif ddeddf- au yw yr orsedd farddol. Y gwaith mawr y mae Myfyr wedi ei wneyd yw rhoddi allan o gadair beirdd Morganwg yr hen gyfrinach grefyddol ag oedd bob amser cyn ei amser ef wedi ei chadw o olwg y werin gyffredin a thystiaf o flaen fy nghydgenedl, gyda sobr- wydd dyn gonest, ac yn teimlo pwysigrwydd mawr pethan crefyddol, fod y cyfrinion hyn yn eu cysylitiad a, chrefyddau hynafol y byd gyda'r pethau mwaf hynod yn yr holl fyd. Yr wyf wedi talu llawer o sylw i chwedlon- ddysg Rhufain, Groeg, Persia, Assyria, yr Aifft, India; &c., a thystiaf mai yn y Farddas Gymreig y mae yr allwedcl i'w deall o'r bron. Un o'r pethau mwyaf hynod o'r cwbl yw fod yr Arch a'r Shechinah gan ein tadau pan oedd plant Israel, yn ddigon tebyg, yn mhlith y priddfeini. Yr un meddylddrych i'r dim yw y gromlech a'r llygad goleuni a'r Arch a'r Shechinah Gocheled, gan hyny, yr ysgrif- enydd a wawdiodd Myfyr yn y Darian am yr wythnos cyn y diweddaf rhag ei fod, wrth wawdio y patriarch Myfyr, yn gwawdio un o broffwydi y Goruchaf, ac wrth wawdio gor- sedd y beirdd yn dirmygu portread y peth byw roddwyd i'n tadau oesau diwybod yn ol. Gwir mai yn ol yr hyn eilw llawer yn heresi yr addola Myfyr Dduw ei dadau, ond pa sicrwydd sydd gan y "llawer" mai hwy sydd yn eu lie a Myfyr o'i Ie ? Yr oedd y lluaws yn bloeddio mawr yw Diana yr Ephesiaid," ond, yn ol y farn gyffredin, y dyn bychan unig, Paul, oedd yn ei le wedi y cwbl 11 Y farn gyffredin hyd yn ddiweddar, trwy y byd crefyddol oedd, nad oedd y Tad nefol erioed wedi amlygu ei gynghor i neb ond i'r Israel, a phan y buaaai dyn yn gwneyd def- nydd o'i synwyr cyffredin, ac yn cyfeirio at yr haul uwchben, gan honi fod y ffaith fod hwnw wedi arfer tywynu ar y Groegwr yn gystal ag ar yr Iuddew yn tueddu i brofi fod y Tad mawr cyffredinol yn edrych ar yr holl hil ddynol fel eu gilydd, yr oeddynt yn dyfod yn mlaen a'r adnod Nid fy rneddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid fy ffyrdd i yw eich ffyrdd chwi." Yn raddol y mae y byd yn dyfod i ddeall fod y Cenedloedd hefyd yn addoli y gwir Dduw; bod y groes ganddynt yn arwyddlun cysegredig oesau cyn cred, pan nad oedd. In o gwbl yn nghyfundrefn yr Iuddewon. ^Hawdd yw profi bod yr Arch a'r Shechinah nid yn unig gan v Oymry a'r Iuddewon, ond gan yr Aiflciai hefyd, yn nhemlau ardderchog Isis Yr ot-id yr Arch yno, fel y profa Syr G. Wilkinson, yn union yr un fath ag Arch yr Iuddewon yn cael ei chysgodi gan y cerubiaid. Ar y drugarjddfa yr oedd llun yr haul pelydrog (Chemosh) yn gorphwys rhwng y cerubiaid. Gwelais yr un portread o Chemosh ar yr eireh (coffins) Aifftaidd, pa rai sydd 3000 o flynyddoead o oed, yn y British Museum. Dyna ryw gipolwg ar yr hyn a ddysga Myfyr Morganwg yn ol barddas y meini. Erbyn yr Alban yr oedd Prif Athrofa Pennsylvania wedi danfon i mi, i'w gyflwyno iddo, diploma yn ei ethol yn Doctor of Civil Laws, fel tystiolaeth o edmygedd yr holl athrofa o'i athrylith a'i ddysgeidiaeth, ac fel arwydd o'r gwerth mawr a osodent ar y dar- ganfyddiadau y mae wedi eu gwneyd yn nghyfrinddysg grefyddol yr hen genedl Fryt- anaidd. Yr oedd y diploma yn Lladin ar groen mewn frame ardderchog. Yr oedd fy nghalon yn llamu o lawenydd wrth gael y fraint o fod yn gyfrwng i anrhydeddu dysg- awdwr penaf fy nghenedl ar ran yr American- iaid dysgedig.-MoRIEN.

CAP COCH.

CYMMER.

TONYREFAIL.

PONTYPRIDD.

TREFORIS.,

CROSS INN.

ABERDAR.

YMWELIAD A'R CEFN ON.

YSTRADGYNLAIS.

Advertising