Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
NEWYDDION CYMREIG.
NEWYDDION CYMREIG. MYFYR MORGANWG, D.C.L., A GOR- SEDD Y BEIRDD. Dydd Gwyl Alban Arthan cynaliwyd o fewn swyn gylch llys Ceridwen, yn y deml Dderw- yddol, ar Gomin Pontypridd, wledd o orfol- eddT yn ol hen arferiad, am ataliad byrhau y dyddiau, a buddugoliaeth Hu, sef yr haul, ar Afagddu, sef gallu y tywyllwch, a gwawriad blwyddyn newydd. Ar achlysuron cyffelyb, clywid ein tadau Derwyddoi, gwynion eu gwallt a'u barf, ddwy fil o flynyddau yn ol yn canu gyda'u telynau rywbeth fel hyn Gwawried dydd yr Alban Artban, Prin yw gwawl a gwen yr Huan, Dyfnder gauaf ddaeth,—ond ynddo Awen Cymru sy'n blaguro. Oer yw'r eira ar y mynydd, Noeth yw'r coed, a llwm yw'r gweunydd, Pan mae Anian gwedi gwiwo Awen Cymru sy'n blodcuo. Pan mewn galar-wisg mae'r Ddaear, Pan mae'n ddystaw gerddi'r adar, Awen Cymru gyda'i thelyn Sy'n dadseinio'n Nhrwn y gwynfryn. Mae'n Iachawdwr Hu yn Arthan, 'Nawr ar gael ei eni'n faban Coda'n u wcll, n weh, gan ddysgleirio- Ni gawn flwyddyn newydd eto. Brysiwch genllysg, 6d, ac eira, Brysiwch stormydd geirwon gaua' Brysiwch heibio, er cael dedwydd Wel'd arwyddion blwyddyn newydd Yr oeddent, cofiwn, yn addoli, ,ond nid yr haul. Gwrthddrych eu haddoliad oedd Awd- wr mawr yr haul, ac nid oedd yr haul yn ddim yn eu golwg ond yr amiyglad penaf o'r Celi yn y greadigaeth. Trwy yr haul y deall ent ei fod yn creu ac yn cynal pob peth. life oedd rliHgiaw mawr y Duwdod. Yr oedd yr Aifltiaid, fel y mae eu hyrnnau yu proti, yn gclygu fod Duvv yn preswylio yn yr haul; a digon tebyg fod y Derwyddon Prydeinig yn mabwysiadti golygiad pur debyg. Yn eu barddoniaeth yr oeddenc yn personoli yr haul ac yn ei alw yn gyntafanedig y Celi ond ni fu'r Cymry erioed yn eilunaddolwyr. Ni welwyd erioed eilunod yn eu plith,-yr oedd- ynt yn rhy bur a dyrehafedig en chwaeth i hyny. Yr oedd eu temlau, sef y cylchau a'r cromlechau, bob amser ar fryniau uchel. Nid oedd to i'w lie addoli-y wybren las wedi ei haddurno a ser oedd to hen demlau ein tadau. Yr oedd eu meddylddrych am Awdwr mawr y greadigaeth mor aruchel fel yr oeddynt (a dysgodd y Persiaid ganddynt) yn eyfrif gwneyd ty i Dduw fel ty i ddyn yn ddirmyg ar ei urddas. Gwelwn, felly, y fath gamwri yw galw ein tadau yn baganiaid eilunaddol- gar. Na, yr oeddynt yn anianyddwyr o'r radd uwchaf a welodd y byd erioed, a phrofa y trioedd, a gweddillion ereill yn cynwys eu golygiadau crefyddol, eu bod yn deall athron- iaeth naturiol (natural philosophy) yn mhell fol y mae Tyndall a Darwin yn ei deall yn bresenol-yr oeddynt yn gwybod am yr atoms y mae Tyndall yn son am danynt. Trwy ddeddfau'r greadigaeth yr oeddynt yn addoli Awdwr pob peth, a phortread o'r prif ddeddf- au yw yr orsedd farddol. Y gwaith mawr y mae Myfyr wedi ei wneyd yw rhoddi allan o gadair beirdd Morganwg yr hen gyfrinach grefyddol ag oedd bob amser cyn ei amser ef wedi ei chadw o olwg y werin gyffredin a thystiaf o flaen fy nghydgenedl, gyda sobr- wydd dyn gonest, ac yn teimlo pwysigrwydd mawr pethan crefyddol, fod y cyfrinion hyn yn eu cysylitiad a, chrefyddau hynafol y byd gyda'r pethau mwaf hynod yn yr holl fyd. Yr wyf wedi talu llawer o sylw i chwedlon- ddysg Rhufain, Groeg, Persia, Assyria, yr Aifft, India; &c., a thystiaf mai yn y Farddas Gymreig y mae yr allwedcl i'w deall o'r bron. Un o'r pethau mwyaf hynod o'r cwbl yw fod yr Arch a'r Shechinah gan ein tadau pan oedd plant Israel, yn ddigon tebyg, yn mhlith y priddfeini. Yr un meddylddrych i'r dim yw y gromlech a'r llygad goleuni a'r Arch a'r Shechinah Gocheled, gan hyny, yr ysgrif- enydd a wawdiodd Myfyr yn y Darian am yr wythnos cyn y diweddaf rhag ei fod, wrth wawdio y patriarch Myfyr, yn gwawdio un o broffwydi y Goruchaf, ac wrth wawdio gor- sedd y beirdd yn dirmygu portread y peth byw roddwyd i'n tadau oesau diwybod yn ol. Gwir mai yn ol yr hyn eilw llawer yn heresi yr addola Myfyr Dduw ei dadau, ond pa sicrwydd sydd gan y "llawer" mai hwy sydd yn eu lie a Myfyr o'i Ie ? Yr oedd y lluaws yn bloeddio mawr yw Diana yr Ephesiaid," ond, yn ol y farn gyffredin, y dyn bychan unig, Paul, oedd yn ei le wedi y cwbl 11 Y farn gyffredin hyd yn ddiweddar, trwy y byd crefyddol oedd, nad oedd y Tad nefol erioed wedi amlygu ei gynghor i neb ond i'r Israel, a phan y buaaai dyn yn gwneyd def- nydd o'i synwyr cyffredin, ac yn cyfeirio at yr haul uwchben, gan honi fod y ffaith fod hwnw wedi arfer tywynu ar y Groegwr yn gystal ag ar yr Iuddew yn tueddu i brofi fod y Tad mawr cyffredinol yn edrych ar yr holl hil ddynol fel eu gilydd, yr oeddynt yn dyfod yn mlaen a'r adnod Nid fy rneddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid fy ffyrdd i yw eich ffyrdd chwi." Yn raddol y mae y byd yn dyfod i ddeall fod y Cenedloedd hefyd yn addoli y gwir Dduw; bod y groes ganddynt yn arwyddlun cysegredig oesau cyn cred, pan nad oedd. In o gwbl yn nghyfundrefn yr Iuddewon. ^Hawdd yw profi bod yr Arch a'r Shechinah nid yn unig gan v Oymry a'r Iuddewon, ond gan yr Aiflciai hefyd, yn nhemlau ardderchog Isis Yr ot-id yr Arch yno, fel y profa Syr G. Wilkinson, yn union yr un fath ag Arch yr Iuddewon yn cael ei chysgodi gan y cerubiaid. Ar y drugarjddfa yr oedd llun yr haul pelydrog (Chemosh) yn gorphwys rhwng y cerubiaid. Gwelais yr un portread o Chemosh ar yr eireh (coffins) Aifftaidd, pa rai sydd 3000 o flynyddoead o oed, yn y British Museum. Dyna ryw gipolwg ar yr hyn a ddysga Myfyr Morganwg yn ol barddas y meini. Erbyn yr Alban yr oedd Prif Athrofa Pennsylvania wedi danfon i mi, i'w gyflwyno iddo, diploma yn ei ethol yn Doctor of Civil Laws, fel tystiolaeth o edmygedd yr holl athrofa o'i athrylith a'i ddysgeidiaeth, ac fel arwydd o'r gwerth mawr a osodent ar y dar- ganfyddiadau y mae wedi eu gwneyd yn nghyfrinddysg grefyddol yr hen genedl Fryt- anaidd. Yr oedd y diploma yn Lladin ar groen mewn frame ardderchog. Yr oedd fy nghalon yn llamu o lawenydd wrth gael y fraint o fod yn gyfrwng i anrhydeddu dysg- awdwr penaf fy nghenedl ar ran yr American- iaid dysgedig.-MoRIEN.
CAP COCH.
CAP COCH. Nid yw y lie hwn ond bychan i'w gydmaru 0 ran poblogaeth a'r lleoedd cylchynol, megys Mountain Ash, Aberaman, a Chwmbach, ond eto, nid yw y lie hwn mor ddinod fel nad oes amryw bethau dyddorol a da yn cymeryd lie yma, ac y byddai yn dda gan lawer o ddar- llenwyr y GWLADGARWR gael tipyn o'u hanes. Prif bwnc amryw o'n dynion galluocaf mewn ystyr lenyddol, gerddorol, a chrefyddol yw cynal cyfarfodydd yn y gwahand gapeli sydd yn y lie er meithrin talentau dynion ieuainc, ac i'w dysgu mewn gwahanol ganghenau o wybodaeth fuddiol. Cynaliwyd cyfarfod di- fyrus mewn adrodd a chanu yn ddiweddar yn nghapel yr Annibynwyr, dan lywyddiaeth Mr. M. Rowlands, Arolygydd Glofa Aber- zly cwmboy, pryd y daeth torf luosog yn nghyd, a phawb yn ymddangos wrth eu bodd. Cafwyd araeth bwrpasol iawn gan Mr. Evan Jones ar Ddadblygiad Talent." Nos Sadwrn, Rhagfyr 22ain, cynaliodd y Bedyddwyr gyfarfod llenyddol ar raddfa eang yn nghapel Bethesda. Yn absenoldeb Mr. Evan Rees, mechanic, Middle Dyffryn, cymerwyd y gadair gan Mr. Thos. Thomas (Gwron Dar), a chafwyd yehydig sylwadau pwrpasol ganddo, fel arfer, i agor y cyfarfod. Beirniad y canu oedd Mr. J. Price, Aber- aman yr adroddiadau a'r areithio, y Parch. Mr. Davies, gweinidog y lie. Cafwyd can agoriadol gan Dewi Samlet; a gwnaeth Eos Bryncerdyn ei ran yn rhagorol. Enillodd parti Betheida, dan arweiniad Mr. Wm. Daniel, amryw wobrwyon. Canodd Dewi Samlet eto Wyt ti'n coflo'r lloer yn codi," yn soniarus iawn. Wedi talu diolchgarwch i'r beirniaid a'r cadeirydd, aeth pawb adref wedi cael gwledd dda i'r meddwl. Y mae yn dda genyf allu dweyd, yn ol tystiolaeth y meddyg sydd yn gwasanaethu ar gleifion y He, fod y dolur dinystriol sydd wedi bod yn ymosod ar blant y lie mor gyff- redinol, sef y frech goch, yn lleihau. Y mae tua chant a haner wedi cael eu blino ganddo, ac y mae amryw wedi meirw yn ystod y misoedd diweddaf.—Br odor o Gap Coch.
CYMMER.
CYMMER. Nos Fercher, Rhag 19eg, cynaliwyd cyng'- herdd yn Hen Gapel yr Annibynwyr, er cy- northwyo trysorfa y Porth Fife and Drum Band. Llywydd y cyngherdd oedd y dolriol Barch. M. Lewis, Cymmer. Gwasanaeth- wyd gan y personau canlynol:—Misses S. A. Williams, Pontypridd; Miss M. Phillips, Hafod Mri. ldris Thomas, Ferndale; W. a J. Morgan, Cymer; Tom Williams, Ponty- pridd; yn nghyd a'r Cymmer Church Glee Party, dan arweiniad Mr. W. Morgan a Seindorf Pres y Porth, dan arweiniad Mr. Cook. Cyfeilliwyd gan Mrs. M. Lewis. Er fod yr amserau ar hyn o bryd yn lied wael, yr oedd yr adeilad yn bur lawn, a chafwyd cyngherdd hwylus. Yr oedd Mr. Idris Thomas yn ei hwyliau goreu, ac yn wir, lleisiwr da ydyw. Y mae Miss Phillips, Hafod, hefyd, yn gantores dda, er eibodyn ieuanc, adyfod- 01 gobeithiol o'i blaen; pob llwydd iddi. Cyn terfynu rhoddwyd diolchgarwch i Mr. a Mrs. Lewis am eu caredigrwydd a'u parodrwydd tuag at gynorthwyo y mudiad hwn.—Ab I. P.
TONYREFAIL.
TONYREFAIL. CHRISTMAS TREE.—Yn Ysgold^'rBwrdd, nos Wener cyn y diweddaf, yr oedd pob peth yn ei ogoniant, a'r lie wedi ei addurno yn dlws dros ben. Prif wrthddrych ein sylw oedd y Christmas Tree a phob peth yn dangos nad oedd Mr. Arthur, yr ysgolfeistr, wedi arbed traul na thraffdrth i wneyd y lie yn hudol- aidd. Yn nghyda chydwyno y gwobrwyon, cafwyd amryw o ganeuon gan Miss Evans, a Mri. Thomas a Leah, Llantrisant a John Richards. Chwareuwyd ar y perdoneg gan Mrs. Jones. Chwareuodd Seindorf Tonyr- efail, a Fife and Drum Band y Porth, yn gan- moladwy. Amcan y mudiad oedd cael trysorfa i roddi gwobrwyon i blant yr ysgol. Yr oedd y lie yn llawn, a galw taer am y nick-nacks oedd ar y Christmas Tree.—Ymwelydd.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. CYFARFOD LLENYDDOL.—Cynaliwyd cyfar- fod llenyddol yn Vsgol y Graig, nos Wener, Rhagfyr lleg, dan lywyddiaeth J. E. Price, Ysw., pryd y cymerodd y cyfeiilion canlynol ran yn y cyfarfod :—Misses M. A. Williams a J. Lewis, Mri. E. Hughes, H. S. Davies, W. H. Mills, Eddy, Lloyd, a Gimblett. Cafwyd cyfarfod difyrus iawn Mr. Price yn cyflawni ei swydd yn rhagorol.-Oenin.
TREFORIS.,
TREFORIS. Dydd Nadolig, cynaliwyd cyfarfodydd yn nghapel Trefnyddol Philadelphia trwy y dydd, fel oedd yn arferol trwy y blynyddau a aethanh heibio. Yn y boreu, holwyd yr Ysgol gan y Parch. Thos. Richards, Llan- Famlet, yn y 14eg o'r Ilyfforddivr, a chafwyd cyfarfod buddiol iawn. Am ddau o'r gloch, cyfarfu yr sgol yn nghyd, a phedair o'i changhenau, aholwyd hwynt yn y lihodd Mam a'r Holiedydd Bach, ac aethant trwy eu gwaith yn rhagorol. Canwyd amryw donau gan yr holl blant yn nghyd, a chanwyd ac adrodd- wyd amryw ddarnau ganddynt yn unigol. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod buddiol eto, yr hwn ddygid yn mlaen, gan fwyaf, gan rai mewn oed. Canwyd, adroddwyd, cystadleu- j wyd, ac areithiwyd am tua dwy awr a haner ac ar ddiwedd y cyfarfod, gwobrwywyd pawb o'r plant fu yn adrodd a chanu a Ilyfr. Y mae llawer o drafferth yn cael ei gymeryd yma gan gyfeillion gweithgar i addysgu y plant ac y mae yn dda genym weled y ffrwyth sydd yn dilyn eu Ilafur. Y mae hyn yn galondid mawr iddynt i barhau yn eu hymdrechion.
CROSS INN.
CROSS INN. Yn y pentref hwn cynaliwyd eisteddfod Dydd Nadolig o dan nawdd y cyfeillion Wesleyaidd. Llywydd y dydd J. Lloyd, Ysw. Beirniaid y canu: Mri. Jones (U. C. W), T. Jones (Cross Inn), a E. Jones (Pontar- dulais). Cymerodd y tri boneddwr hyn le J. Thomas, Ysw., Penclawdd, yr hwn fethodd ddyfod. Clorianwyd yr adroddwyr a'r areith- wyr gan y Parchn. Rice Owen, Llandilo, a R. Roberts, Ystalyfera. Beirniad y farddon- iaeth y Parch. E. Dulais Lloyd, Rhymni y traethawd y Parch. T. F. Williams, Cross Inn. Arweinydd y dydd: y doniol a'r digrif Barch. R. Evans, Cross Inn. Sylwodd y bardd fu yn anerch y cyfarfod mai Mr. Evans oedd ail Mynyddog. Awd yn mlaen yn y drefn a ganlyn :—Adrodd, y Psalm gyntaf goreu, Miss Thomas, Llandilo. Araeth ddi- I fyfyr, testyn, Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun pump yn cystadlu, goreu, Evan Morgan, Llaudybie. Beirniadaeth Mrs. Williams, a Miss James, Telegraph Inn, ar yr antimacassars; deuddeg yn y gystadleu- aeth, goreu, Miss J. Davies, Maesyffynon. Beirniadaeth y penillion i Waith Olew Pontaman goreu, William Hicks, Cross Inn. Canu, "Can mewn gofid;" goreu, Miss Jane Thomas, Cross Inn. Darllen ar y pryd; goreu, John Jones, Cross Inn. Canu, "Dim ond cludydd arfau goreu, John Jones etc. Adrodd, "Y wyddoreg Gymreig;" goreu, Racliel Morgan, Llandybie. Canu, Yr hen, hen hanes;" goreu, parti Gelli- manwydd. Adrodd, yr ail benod o Matthew; goreu, Ann Lloyd, Llandybie. Darllen ton ar y pryd; goreu, John Jones, Cross Inn. Canu, Y mae bywyd trwy edrych;" goreu, i Cor Plant Wesleyaidd, Llandybie. Araeth ar Y glo;" goreu, Job Phillips, Cwmaman. Canu, Ybwthyn ar y traeth;" goreu, J. Jones, Llwynycwn. Adrodd, yr 20 adnod ayntaf o'r ail benod o Luc goreu, Jonathan Evans, Cross Inn. Beirniadaeth Mrs. Williams a Miss James, ar y prize bags; pedwar yn y gystadleuaeth, goreu, Miss Christina Goodrop, Fortnight House, Bath. Adrodd, Mathew 25ain goreu, Daniel Jones, Cross Inn. Beirniadaeth y traethawd ar Yr Apostol Pedr goreu, John Jones, Pontaman. Beirniadaeth Mrs. Willams a Miss James ar y Hosanau goreu, Miss Elizabeth Arthur, Cross Inn. Canu, Beti Wyn fy nghariad goreu, Mri. Jenkins a Jones, Cross Inn. Canu y prif ddarn corawl, Jerusalem fy nghartref gwiw rhanwyd y wobr thwng oor Cross Inn a chur y Bettws. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd pryd y gwasanaethwyd gan Misses E. Jones, J. Thomas, L. Williams (Llinos Mai), a Mri. T. Jones, H. Morris, H. Jenkins, J. Jones, T. Rces, J. Lloyd, a W. Thomas. Canodd yr olaf" Brad wriaeth y don," er cof am ein hanwyl William Hopkin. Cyfeilliwyd yn hynod o fedrus gan Miss Lloyd, Cross Inn. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r cyfeillion Wesleyaidd am barotoi ychydig o fwyd llen- yddol i ni yma, er treulio ein Nadolig gartref yn hytrach na myned hwnt ac yma i dreulio ein gwyliau. Gwnaeth Misses James, Tele- graph Inn Williams, Cross Inn Hotel; Jones, Lloyd, Williams, Arthur, a Owens, Cwmllwchwr, eu rhan yn ganmoladwy er addurno yr ysgoldy lie y cynaliwyd yr eis- teddfod. Hei lwc am gael gwledd Yma yn fuan eto medd, —Eich Gohebydd.
ABERDAR.
ABERDAR. EISTEDDFOD CWMBACH. — Cynaliwyd hon dydd Nadolig, yn Bryn Sion, dan lywydd- iaeth y Parch. Jonah Morgan. Beirniaid— Mr. E. Itees (Islyn) a Mr. John Price, Aber- aman. Mr. I). B. Evans aeth a'r wobr (4s.) am ganu Arm, arm, ye brave." Rhoddwyd y wobr am ganu "Tros y gareg" i Mrs. Davies. Miss Lewis adroddodd yu oreu yr Eneth amddifad." Dadl ddifyfyr, "Arian- garwch a balchder," goreu, Mri. J. Davies a Gomer Griffiths. Parti Aberaman enillodd y wobr am ganu "loan" (o lyfr Stephens a Jones). Adrodd "Bugeiliaid Aberdyti," Mr. D. Harries. Mr. Jenkin Davies enillodd am ganu "Dewrder y milwr." Daeth tri o draethodau imewn ar "Ganiadaeth y cysegr," a'r goreu oedd eiddo Mr. D. R. Thomas, Cap Coch. I'r hwn, dros 40 oed, gano yn oreu unryw don, gorau Mr. John Bevan, Aber- aman. Mrs. Evans, Cwmbach, enillodd am adrodd Daw meddyliau am y nefoedd." I'r cor o blant gano yn oreu 0 anfeidrol ryfedd fraint," buddugol Cor Bryn Sion. Parti Aberaman, dan arweiniad Mr. Davies, enill- odd am ganu Nant y mynydd." Cynaliwyd cyngherdd rhagorol yn yr hwyr, pryd y gwas- anaethwyd gan brif gantorion y lie. Cyfeill- iwyd gan Mr. J. Perkins. —Gohebydd. BWLLFA, CWMDAR.—Nos Lun, Rhagfyr 24ain, rhoddodd R. Llewellyn, Ysw., Trefn- edydd Gweitliiau Glo Bwllfa a Merthyr Dare, wiedd ragorol mewn ffordd o garedigrwydd i'r is-swyddogion sydd ganddo trwy hyn yr oedd yn dangos ei barch iddynt, yn gystal a rhoddi cyfleusdra i'r rhai a lywodraethir ganddo ei fawrhau yntau, a glynu wrthoyny dyfodol. Yr oedd pobpeth yn cael ei gario yn mlaen yn y modd goreu a mwyaf bonedd- igaidd. Yr oedd yno ddigon o wahanol ddanteithion, wedi eu parotoi gan Mr. John Giles, a digon o groesaw i bawb gyfranogi ohonynt. Wedi symud y llieiniau, anercliodd y gwyddfodolion Mr. Llewellyn mewngwahan- ol ftyrdd-rhai trwy ganu, ereill trwy ddat- ganu, a llawer trwy areithio yr oedd pob un yn barod i daflu ei hadling i'r bwrdd yn ol y dawn oedd ganddo, a phawb ar eu goreu yn dangos eu teimladau da i'r boneddwr ieuanc oedd wedi eu galw at eu gilydd yr hwn, hefyd, sydd wedi ymgymeryd a llawn ei freichiau o waith mewn cysylltiad a, gweithfeydd tanddaearol. Y mae yn dda iawn genyf ddeall ei fod yn deilwng o'r ymddiried- aeth bwysig a roddwyd iddo. Cafodd Mr. Llewelyn, yn ystod y cyfarfod, lawer o awgrymiadau mewn cysylltiad a newid ei sefyllfa ac ymdrechwyd cael ganddo ddeall mai gwell dau nac un. Gobeithiaf y bydd iddo dalu sylw priodol i'r pethau hyn yn fuan, ac y torir y ddadl ar unwaith. Yr wyf yn barod i roddi fy ngair dros y cyfeillion oedd yn bresenol y bydd iddynt ddyfod eto, gyda'r awgrym lleiaf, i groesawi Mrs. Llewelyn, pryd bynag y bydd hyny yn cymeryd lie.—Tysilio. p
YMWELIAD A'R CEFN ON.
YMWELIAD A'R CEFN ON. (Parhad.) Symudais oddiar y mynydd yn araf fel yn methu gadael y golygfeydd i ddiflanu. Pan yn nesu ychydig tua'r dwyrain gwelwn y gerbydres yn myned o'r golwg i grombil y ddaear, ac mewn dwy fynud yr oedd allan yn ymsaethu ar ei ffordd o Gaerdydd tua Chaer- ffili. Syr, y mae proffwydoliaeth Esaiah yn gywir mewn ystyr naturiol-" Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gwyr a wneir yn uniawn, a'r anwastad yn wastadedd." Felly y mae yn union o Gaerffili i Gaerdydd—y pant a gyfodwyd a'r bryn a ostyngwyd. Fe gostiodd y tunnel hwn arian lawer a bywydau Y mae pump o sudd-dyllau iddo, ac y mae tua milltir a chwarter o hyd. Symudais ocldiyma gan edael y lleoedd hynafiaethul, Cefncarnau, Blaenofydd, a'r Wernddu. Dyrna y llwybr yr aeth Cromwell o'r Van tua Chaerdydd. Aethuin yn mlaen at amaethdy, a gwelais gwr y tý yno. Gelwir y lie gan y Saeson yn Cold Harbour," ac y mae yr enw yn ddigon priodol. Canodd rhyw hen brydydd fel hyn Tri lie oera'n Nghymru Yw mynydd bach y Rhydri, Twyn y Garth, a Chefn On, Lie buo'i bron a sythu Nis gwn pwy yw yr awdwr. A wyr Mr. Williams am dano, wys 1 Yn mlaen a mi heibio i'r Pant Glas hen amaethdy ydyw hwn, ac yn ei ymyl y mae heol gul wedi ei phalmantu â cherig fel yr hen ddull Rhuf- einig. Efallai na wyr Lewis, Pant Glas, fod cymaint o henafiaeth yn ymyl ei gastell. Ar y graig yn ymyl y lie hwn y cyfarfyddais a'r enwog Cynddelw gyntaf. Hoi, machgen i, a fedrwch chwi ddeud y ffordd i Lysfaen wrth ddyn sydd wedi ei cholli ? Atebais, Yr ydych yn iawn, syr." Yr oedd ei olwg i mi yn hynodol, am nad oeddwn yn adwaen y teulu barddol yr amser hwnw. Yr oedd diddosben ganddo yu debyg i dorth siwgr, a'i farf yn hir, ac yn ymddangos yn wylltach nag arferol. Myned i bregethu i df Edward Edwards, tacl y diweddar anwyl Dewi Isan, oedd Cynddelw. Fe gofiodd am danaf yn mhen blynyddoedd, a rhoddodd wers englyn- ol i mi gyda'r post. Sylwn oddiyma ar ynys fechan yn yr Hafren a elwir y Blaidd," gwel ddarlunlen (map) o Forganwg. Y mae chwedl fod blaidd yn dyfod o Wlad yr Haf yn y nos yn groes i'r Hafren er lladd defaid ar Graig Llysfaen, ac yn dychwelyd yn ol cyn y bore' i'w loches, ond methodd fyned yn mhellach na'r fan y saif y lie a elwir "Wolves" yn y mor rhwng Penarth a'r Flat Holmes. Cofied gwyr Llysfaen mai chwedl ydyw hou a glywais. Pawb ag aydd ddim yn ei hoffi gosoded hi dan ei droed. Ffwrdd a mi dros lwybr cadno yn mlaen nes oeddwn uwch amaethdy bychan. Gwelwn ar y graig, ger y ty, ddyn ieuane hoenua a'i fugeilgi. Sefais yn y llwyn i weled symud- tD iadttu y llanc a'i gi. Cefais ddifyrwch wrth glywed y llanc yn siarad ac yn dysgu y ci i lywyddu y defaid. Yr oedd y ci yn ieuanc a'r meistr yn ieuanc, ac felly yr oedd yn dipyn o helbul arnynt i ddeall eu gilydd. Yr oedd "Moss" yn methu deall ei feistr, ond amyneddgar oeddynt drwy y cyfan. Buasai yn werth i lawer bachgen weled a chlywed y y rhai hyn mor addfwyn yn ceisio deall ac adnabod eu gilydd heb gablu. Fe welodd y bugail fi draw yn y llwyn, a gwalioddod fi i'w dy. Wedi myned i mewn meddyliais mai teulu bach Bethania oedd yma wrth glywed y brawd yn galw ei chwaer, Mair. Ond, yn sicr, yr oedd dwy chwaer yno a brawd fel teulu Bethania gynt. Yr oedd yr hen wraig fel bienhines y teulu yn llywyddu yn garedig, a'i hen ffrynd yn cynorthwyo i'm gwneyd yn gartrefol. Cefais dipyn o ddi- fyrwch, fel crwydryn, yn y "bwthyn yn nghanol y wlad." Dwy ddynes ieuanc hawddgar y gwelais hwynt, a'r hen bobl yn caru eu gilydd fel Abraham a Sarah gynt. Boed hir oes iddynt a llwyddiant. Aethum oddiyma i chwilio am frawd pur ddoniol, Thomas Stradling. Dyma un o olatiaid y Normaniaid a ddaethant i'r wlad hon yn amser Robert, Due Normandy. En henwau cynhenid oedd De Esterlings, Castell Llan- dunawd (St. Donatts). Y mae yr enw wedi myned yn Stradling. Nid yw y brawd hwn yn chwenycli bodynNorman, gweli ganddo fod yn Gymro ac, yn wir, y mae yr un doriad a'i ymddygiad a Chymro. Ac yn mhellach, Cymru ywei gartref anwyl. Wedi canu yn iach iddo yntau aethum tua Eglwys Rhydri. ac wedi cyrhaedd yno yr oeddwn mewn hwyl am fwyd a diod. Lie rhagorol am dano. Home brewed, yn fara a chaws, yn fir a chig, a gwraig fach dwt, fywiog, serchog, a char- edig. Y mae rhywun yn dweyd fel hyn :— Rhydri dlawd, heb fara na blawd, Heb gawl na chig Nadolig Buasai yn well genyf ganu fel arall: Rhydri gyfoethog, a'i merched serchog, Y rhai fu'n garedig i mi; Dyma. ddymuniad y bardd yn wastad, Boed heddwch a llwyddiant i chwi Byw yn eich rhinwedd yn nghanol mawredd, Cariad fyddo mewn bri; Deued llawenydd i'ch cartref beunydd, A Duw fyddo noddfa i ni. Gadewais y Rhydri am y Maenllwyd. Y mae gwesty yma yn cael ei alw wrth yr enw uchod, a gwr a gwraig ieuanc yn cadw y ty. Lie cysurus a gedwir yma i ymwelwyr. Fe gynelir ffair yma unwaith yn y flwyddyn. Y mae Mr. Price, o'r shop, yn amaethwr cyfrif- ol, ac yn bregethwr parchus gyda'r Wesley- aid. Nid oes ond dau dy yma. Ychydig yn 18 yn y Cwm y mae'r cerddor ieuanc diwyd, W. Cross (Alaw Rhydri). Y mae yn gorfod talu treth drom i afiechyd corfforol yn ei oes. Na ddigaloned, yn, y pair y mae yma, daw allan wedi'i buro yn y diwedd. Symudaia eto ar fy siwrnai heibio i'r Gwaith Mwn Plwm tua'r Ffald Geryg." Yna gwelais ddyn tua chanol oed yn llawn bywyd teiliwr. Anwiredd yw mai bod cyfansawdd yw teiliwr o naw o'i gydryw. Profais William Rees yn gyflawn wrtho ei hun. Dilledydd heb dwyll ydyw, Ac i mi'r un a'r Cymro yw. Ymadewais ag yntau, ysbryd myn'd oedd ynof yn y blaen, i weled y brawd cerddgar, John Jenkins, Mount Pleasant. Un o'm hen gyfeillion cerddorol er's blynyddau ydyw ef ond y mae, fel yr Israeliaid gynt, wedi hong- ian ei delyn ar yr helyg. Efallai fod digon o reswm am hyn ganddo. Cenwch i ni un o ganiadau Sion," meddai y Babiloniaid wrth yr hen genedl. "Pa fodd y canwn mewn gwlad ddieithr ? oedd yr ateb. Ai felly y mae arno yntau ? Un o ardal Pontypridd yw ef, ac un o ddysgyblion yr enwog leuan Ddu gynt. Yr oeddwn yn meddwl fod un rheswm bychan arall :— Swn y byd sy' yn ei ben, Yn gwywo'i fywiog awen. Ond y mae calon wladgar yn ei fron yn curo'n wresog at wlad ei dadau. Ymadael eto oddi- yma-dim dinas barhaus." Troi eilwaith at Trialaw Gyda lief i ysgwyd Raw, A siarad geiriau siriol, Awen a geir yn ei gol. Gadewais ef gan dynu yn y blaen tua Eglwys Llysfaen heibio i gapel y Bedyddwyr. Dyma. eglwys sydd wedi codi cewri i'r areitlifa Gymreig. Dyna un ohonynt, y Parch. W. Williams, Mountain Ash. Ereill sydd wedi eu claddu, ond eu gweithredoedd sy'n eu dilyn. Yn ymyl eglwys y plwyf daethum 'i adnabyddiaeth a'r ffraethbert Rhys ap Harri. Yr oedd rhywun wedi dweyd mai "bugeilio'r praidd liw nos oedd gwaith y brawd. An- wiredd oedd hyn. Gwr cybyddlyd ar ei dalent yw efe y mae hyn yn golled iddo ef ac i ninau. Gosod dy ganwyll ar y canwyll- bren, Rhys, ac nidjdan lestr, o hyn y daw i ti ddaioni. Y mae efe yn ddyn difyrus yn ei gyfeillach, M yn llawn o fywyd. Aethum i fynwent y plwyf, ac 0 fel y teimlwn barch i ddinas y meirwon. Prudd-der a ddaeth arnaf, a theimlad o hiraeth a lanwodd fy nghalon. Fel hyn y teimlwn Beneath those rugged elms, that yew-tree'a shade Where heaves the turf in many a mould'ring heap, I Each in his narrow cell for ever laid, The rude forefathers of the hamlet sleep. GRAY. Mor fyw y deuai adgofion am gyfeillion i'r meddwl. Gwnai hiraeth dynu wrth linynau serch nes tynu'r teimlad allan a'r firwd o ddagrau gloewon. Yn y teimlad hwn aethum tua'r orsaf yn Llanisan-hen gartref Meurig Dafydd, ac yno newidiwyd ychydig ar am- gylchiadau fy nhaith. Fe ddaeth y tren, a Shadrach, y guard, yn gwaeddi yn llawn bywyd fel arfer. Un o berthynasau y bardd enwog, Dewi Wyn o Essyllt, yw Shad. ac y mae yn 11awen o awen Gymreig. Ffwrdxi a mi trwy y tunnel, ac mewn dwy neu dair mynud dyma fi yn Nghaerffili, dipyn yn flinderus, ond yn bur foddlongar i'r wibdaith, a ohanwn y gan Home, sweet home yn hwylus ger y tan.—Crivydryn.
YSTRADGYNLAIS.
YSTRADGYNLAIS. CAPEL CWMGIEDD.—Cynaliwyd cyfarfod- ydd pregethu yn y capel uchod nos Lun a. thrwy Ddydd Nadolig, a chafwyd pregethau rhagorol o dda ac effeithiol gan y Parchn. D. Pritchard, Aberdulais; L. Jones, Ty'nycoed; a T. James, Llanelli. Yr oedd y cynuliiadau. yn lluosog iawn. CAPEL YR YNYS.—Prydnawn y Nadolig periformiwyd Cantatct Joseph yn neillduol dda, yn y lie uchod, gan Gor y Plant, dan arweiniad Mr. D. Edwards. Llywyddwyd ar yr achlysur yn fedrus iawn gan Mr. L. Roberts. Cafwyd anerchiadau buddiol a phwrpasol dros ben hefyd gan amryw o'r brodyr. Buasai yn ddymunol iawn weled gwell cefnogaeth yn cael ei roddi i'r plant drwy fod ychwaneg o'r rhai sydd yn dal cysylltiad a'r capel yn rlioi eu presenoldeb, oblegyd mae oerfelgarwch a difaterwch y cvfryw tuag atynt yn effeithio yn ddwys ar feddyliau y plant; ac yn ol llnosogrwydd yr henafgwyr hefyd a ddelont i'w gwrandaw, ychydig y maent hwy yn brisio a gwerth- fawogi cyfarfodydd o'r fath. Gobeithio y y gwneir diwygiad yn y cyfeiriad yma yn y dyfodol, fel pan y cawn gyfarfod eto y bydd yr adeilad bychan yn llawn. Llwyddiant i'r c6r ieuanc i fyned yn ei flaen, fel y cawn gyffelyb fwynhad yn fuan eto, yw gwir ddy- muniad llawer lieblaw-Uib oedd yno. 'R
Advertising
RHYBUDD.— Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau g'as gwael yn cael eu gwneyd yn fddiau, peleni, phow- dwr; ond eto. y maent yn gorfod rhybuddio y cyhocdd yn erbyn mathau gwael o liw glas sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. Gofaler, gan hyny, am gael y Paris Blue pedair- onglog, yn dwyn enwau 1. REGKITT A'I FEIB- ION yn nghyd a'r arwyddion masnachol. 1775.