Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Masnach yr Haiarn a'r Glo. ABWTDDWYD y cadoediad. Croesaw-wyd y newydd gan Ewrop law-weithyddol a masnachol. Y llesiant deilliedig i lofeydd Prydain Fawr fydd allforiad dioed o agerlo i Odessa, oblegyd mae arwyddo y cadoed- iad yn golygu symud ymaith y gwarchae oedd ar borthladdoedd y Mor Du. Mae Odessa yn hollol brin am lo. Nid oes gan y preswylwyr ddim mwy er's amser, bell- ach; ac nis gall sgerlo yn unig gael ei anfon yno yn ddioed. Gwybyddwn, drwy yr hanesion a ddarllenasom, fod y trigolion hefyd yn dyoddef o eisieu tanwydd, ac nad oes gan y Llywodraeth yr un ystor ar law i'w cynorthwyo, oblegyd ei fod yntau yn brin arno. Gan hyny, bydd glo at wasan- aeth tai a glo llaw-weithfaol gael ei anfon yno yn ddioed. Da genym feddwl fod meistri glo y deyrnas, ac yn enwedig Deheudir Cymru, yn ymawyddu am anfon tanwydd yn fuan i Odessa yn gyfaddas i wasanaeth teuluol, Ilaw-weithyddol, a mor- ol. Derbyniwyd y newyddion gwifrfyneg- ol hyn yn eu swyddfeydd:—"Cadoediad wedi ei arwyddo. Mordwyaeth yn agored hur longau am lwythiad dioed yn 40s. Yr arwyddion yn rhagorol dda." Y mae yn hawdd deall fod y fath newyddion wedi achosi cryn fywiogrwydd yn y gwahanol borthladdoedd. Gofidia y Saeson y gwna y sefyll allan yn Northumberland daflu llawer o'r fasnacb i Ddeheudir Cymru. Y rhyfel difaol! ie, gwir ddifaol. Pa un bynag ai rhyfel rhwng gwahanol deyrn- asoedd neu rhwng cyfalaf a llafur. dinystr- iol vw. Rhaid i mi fod yn fyr gyda rhag- draeth, a gosod y sefyllfa fasnachol o flaen eich darllenwyr. Mae masnach yr haiarn yn NGOGLEDD LLOEGR yn farwaidd. Nid yw gwneuthurwyr haiarn yn ymollwng yn y pris, ac y mae prynwyr yn cadw draw, ond yn unig yn brin prynu yr hyn sydd arnynt eisieu. Mae rhyw ychydig o welliant yn y cais am lo at was- anaeth tai yn rhanbarth ogleddol SIR GAERWERYDD; ond y mae masnach yn gyffredinol, drwy y rhanbarth, yn dra marwaidd, a'r farchnad wedi ei gorlwytho a phob math o danwydd. Yn masnach leol yr haiarn, mae y cynyrch- -wyr yn dal at y prisoedd a ofynant; ond nid ydynt heb fod yn cael eu hamddifadu dan eu trwynau y tuallan iddynt, ac y mae llawer o'u masnach, yn bresenol, yn cael ei chymeryd ymaith i fasnachdai siroedd Derby a Lincoln. Yn NGHASNEWYDD-AB-WYSG, mae y cyfleusderau a roddir gan Dock Alexandra yn effeithio i gael yma gynydd yn nyfodiad llongau mawrion, mwy nag a welwyd erioed o'r blaen. Bu y Nankin o Lundain yma yn llwytho tair mil o dunelli o lo i'w gludo i Malta. Llwythwyd yma, yr wythnos ddiweddaf, 15,522 o dunelli o lo, a 2,588 o dunelli o haiarn a dur. O'r nwyddau olaf, aeth 1,033 o dunelli i Aspinwall, canolbarth America, 925 o dunelli i Valencia, a 600 o dunelli i San- tander. Rhaid cyfaddef fod masnach yr haiarn yn hynod farwaidd, ae nid oes gobaith iddi ddyfod yn well nes y llwyr benderfynir yr ymrafael Dwyreiniol: pryd hyny y gobeithir am welliant. Mae ychydig o gais yn awr am reiliau haiarn; ond y prif nwydd yw y dur ag y mae y cais am dano yn bresenol. Mae masnach yr alcan yn parhau i ddangos ychydig mwy o fywiogrwydd. Mae llwytho glo wedi cynyddu yn ystod yr wythnos, ond nid oes yr un cyfnewidiad yn y prisoedd. Nid yn eithaf rheolaidd y mae y pyllau glo yn gweithio. Mae yn ddywenydd genyf hysbysu eich darllenwyr sydd yn rhan- feddianwyr mewn llongau, fod huriau y llongau yma ychydig yn well. Yn RHYMNI a'r cylcboedd, nid oes genyf hanesion er gwell i'w hadrodd. Mae tipyn o annghyd- welediad ac anesmwythder wedi bod tua 'Pengam yn mherthynas i'r gostyngiad di- weddar yn y cyflogau. Yn uwch i fyny, yn mhwll y Dytfryn, New Tredegar, a'r lie y mae y nifer fwyaf o weithwyr yn gweithio yn nosbarth yr agerlo, nid oes yma ddim gwaith wedi cael ei wneyd er's wythnos, lie yr oedd dros 500 yn gweithio yn rheolaidd; mae hyn wedi cymeryd lie oherwydd yr annghydwelediad rhwng y gweithwyr a'r perchenogion, yr hyn, er gofid, a derfypodd yn atdaliad haner y gwaith i weithio. Cafodd dirprwyaeth o'r gweithwyr eu penodi i fyned at Mr. G. Wilkinson, Cwmpennar, a Syr G. Elliott, un o'r cyfarwyddwyr, i ymddyddan ar y pwnc, y rhai a dderbyniwyd yn roesawgar yn y swyddfa, ac hysbyswyd hwynt gan fod gweithio yn y pwll yn hollol ddielw, fod y cwmni wedi penderfynu cau un haner o'r gwaith, fel ag i gvfarfod a'r marweidd- dra masnachol presenol, ac y buasai gor- chymyn yn cael ei roddi i'r gweithwyr i gymeryd allan eu hofferynau gwaith, a pha ochr bynag o'r gwaith y buasid yn dewis ei weithio y buasai y meistri yn dethol nifer o'r gweithwyr yn y gwaith. Der- byniwyd y newydd gan y gweithwyr oddi- -wrth y cenadon gyda phryder difrifol, ac wedi cryn siarad, penderfynwyd i dderbyn y peth, ac adymaflyd yn y gwaith wrth ewyllys, dydoliad, a thelerau y meistri; bydd yma o 200 i 250 yn cael eu troi ymaith. Am gylchoedd Rymni, y mae sefyllfa pethau yn myned yn fwy tywyll yn barhaus, ac yn arswydus i'w hadrodd, yn gymaint a bod eto un ffwrnes flast wedi ei chwythu allan, ac i'w hatal yn hollol, a dwy ffwrnes bydlo wedi eu diffodd, fel nad oedd dim llai na 400 o weithwyr yn ystod yr wythnos ddiweddaf wedi eu taflu allan o waith, at y nifer fawr sydd yn barod yn yr un sefyllfa. Mae arddrych y dyfodol yma yn ddu dros ben. Yn nghylchoedd HERTHYR A DOWLAIS nid yw yn gymhwys fel yn Rhymni. Tor- odd rhaff un o brif byllau y Gyfarthfa yr wythnos ddiweddaf, a bydd am ryw amser cyn y gellir ei hadnewyddu. Mae hyn yn anffawd blin, gan fod amryw ddiwrnodau wedi eu colli eisoes. Mae gwell cais am lo yn y Gyfarthfa, Plymouth, a Dowlais yn ddiweddar, a symiau anferthol wedi eu gyru i ffwrdd. Mae y Gyfarthfa yn anfon stoc fawr i Lundain o'r glo goreu; ac y mae goruchwylwyr o Ogledd Lloegr a Gog- ledd Cymru yn llafurio yn galed i gael gan dorwyr glo galluog i symud yno yn y ddwy wythnos ddiweddaf. Yr hyn a gynygir yw cyflogau da, a thai cysurus i fyw yn- ddynt. Mae gweithfeydd Dowlais yn gweith- io yn fywiog, ond y gwaith dur yw y goreu. Mae yma ryw sibrwd, a gobeithiwn ei fod yn wirionedd, mewn perthynas i'r pender- fyniad hir-ddysgwvliedig am weithfeydd glo a haiarn Plymouth, Abernant, a Llwyd- coed, eu bod yn fuan i'w gosod mewn gwaith 1 rheolaidd, a'r argraff yw nad yw hyny yn awr yn nepell. Deallais yn MOUNTAIN ASH, y dydd arall, fod mwy na dwsin o deulu- oedd wedi myned oddiyno i Bagillt, sir Fflint, er myned i weithio yn Nglofa Bettis- field yn y lie uchod. Yr oedd holl dreuliau yn symud y teuluoedd a'u dodrefn yn cael eu dwyn gan Arglwyddes Aberdar, yr hon, yn nghyd ag Arglwydd Aberdar, ac ereill, oeddent yn personoli eu hunain yn yr orsaf pan yr oeddynt yn cychwyn i'w taith. Deallwyf fod caredigrwydd teulu y Dyffryn yn ddiareb yn y lie. Yn rhanbarth CAEBDYDB y mae masnach yn fwy bywiog, gan fod mwy o longau yn cael eu llwytho yn wyth- nosol, yn enwedig yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd Iarll Grey yn ddiweddar yn ysgrif- enu i newyddiadur, ae yn nodi allan y gallesid cael glo yn is o tua Is. 60. y dunell yma nag ar y Tyne, a bod deg tunell o lo Deheudir Cymru yn gyfartal mewn gwerth ag un dunell ar ddeg ar y Tyge. Dyma brawf arall o werthfawrogrwydd y glo Cymreig. Nid yw y prisoedd yn dal eu tir yn dda, ond y mae eyflogau llongau hytrach yn well. Allforiwyd oddiyma yr wythnos ddiweddaf 82,914 o dunelli o lo; 4,175 o dunelli o haiarn, a 1,500 o patent fuel. Mae gweithfeydd alean y rhanbarth yn arddangos mwy o fywiogrwydd, ac arwyddion gobeithiol am y dyfodol. ABERTA.WE. Mae yn hyfrydwch adrodd fod arwyddion mwy iachus (er iseled yw pethau), ac ad- fywiad graddol yn y rhanbarth hwn. Mae y gweithfeydd alcan yn helaethu eu gweith- rediadau i helaethder mawr, nid yn unig yn nghymydogaeth Abertawe, ond mewn rhanau ereill o Ddeheudir Cymru, a dywedir y daw Abertawe yn brif ganolfan gweithio y nwydd pwysig hwn. Allforiwyd oddi- yma yr wythnos ddiweddaf 11,487 o dunelli o lo, a 3,480 o dunelli o patent fuel. Rhaid tewi eto am yr wythnos hon, a chyn y caf gyfleusdra i ysgrifenu nemawr eto, gobeithio y bydd pob peth du yn ei gysylltiad a'r ymdrafodaeth Ddwyreiniol wedi ei symud, a neddwch, ac nid y cledd yn tteyrnasu. MASNACHDEITHIWR.

LLWYDCOED.

Advertising

LLYTHYR LLUNDAIN.I

Amrywion Americanaidd. l

Marwolaeth y Pab. I