Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

LLWYDCOED.

Advertising

LLYTHYR LLUNDAIN.I

Amrywion Americanaidd. l

Marwolaeth y Pab. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marwolaeth y Pab. I Dyma Pio Nono o'r diwedd wedi huno yn yr angeu. Hen Bab gwydn fu efe, a chadw- odd ei sedd yn hwy na neb fu o'i flaen. Bu farw 47 mynyd i chwech dydd Iau, Chwefror 7fed. Digwyddiadau pur ryfedd oeddynt fod y Pab a Victor Emmanuel yn marw mor agos i'w gilydd. Bu y Pab farw yn y Vatican wedi hir a graddol ddadfeiliad. Gwaethygodd yn ddi- ysymwth dydd Mercher, a boreu dydd Iau galwyd ato ei holl feddygon, a gwysiwyd y Cardinaliaid tramor i Rufain trwy gyfrwng y pellebyr. O bob Pabau, efe fu yr hvfyaf yn j eistedd ar y sedd babyddol. Bu farw yn 86 mlwydd oed. Etholwyd ef yn Bab i ddilyn Gregory yr XVI, yn 1846. Ei enw priodol oedd Mastai Ferretti; ganwydefynSinigaglia, ger Ancona, ar y 13eg o Fai, 1792 ac yr oedd yn fab i deulu urddasol, ac arweiniodd. fywyd ellir alw yn foesol a dichlynaidd. Yr oedd yn ddarostyngedig i lewygon o'i fabandod. Yr oedd ganddo dueddiadau er yn foreu at yr offeiriadaeth. Yr oedd yn bresenol yn y Mass cyntaf y Pasc, 1819. Daeth ar unwaith yn un o'r offeiriaid mwyaf difrifol ac ymrodd- awl a feddai yr Eglwys Babaidd. Yn 1823 anfonwyd ef ar genhadaeth i Chili; yn 1825 ar ei ddychweliad i Rufain, gosodwyd ef gan y Pab i ofalu am ysbyty St. Michael, ac yn mhen ychydig gwnaed ef yn Archesgob Spoleto. Yn 1836 anfonwyd ef fel Apostol i Naples, ac, enillodd enwogrwydd mawr yno trwy ym- weled a'r cleifion yn ystod y cholera. Ar y 14eg o Ragfyr, 1840, gwnaed ef yn gardinal. Yn nechreu Mehefin 1846 bu farw Gregory XVI. Cyrhaeddodd Cardinal Ferretti i Rufain ar y 12fed o Fehefin, ac yn mhen pedwar diwrnod ar ol hyny etholwyd ef yn Bab, gan gynadledd a barhaodd 48 awr. Dywedir pan wybyddodd iddo gael yr an- rhydedd hwnw iddo lewygu. Dyna Pio Nono wedi myned i dderbyn el wobr.