Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y GWLADGARWR YN UGAIN OED.

ADD YSG PLANT TLODION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADD YSG PLANT TLODION. MR. GOL. Y mae mwy o ymdrech yn cael ei wneyd y dyddiau hyn nag erioed er rhoddi addysg i'r do sydd yn codi, ond y mae mas- nach-am ei fod mor farwaidd er ys ysbaid- wedi effeithio yn fawr er rhwystro llawer o rieni ydynt yn teimlo dros les eu plant ond oherwydd amgylchiadau eyfyng y tad a'r fam y mae eu plant yn gorfod aros gartref, heb eu haddysgu.. 0 dan y Ddeddf Addysg rhaid i bob plentyn i fod yn yr ysgol, os yn iach os bydd y rhieni yn rhy dlawd, y mae y Ddeddf wedi gwneyd darpariaeth ar gyfer plant felly ac er mwyn rhoddi ychydig o gefnogaeth i'r cyfryw yw fy rheswm yn ys- -grifenu hyn, fel y gall y rhieni hyny ag ydynt yn rhy dlawd gael ysgol i'w plant. Y peth cyntaf sydd ganddynti'w wneyd ydyw siarad .A'r relieving officer, a chant ganddo ef wybod pa bryd y bydd y guardians yn cyfarfod er gwrando ar geisiadau oddiwrth rieni. Y mae ceisiadau felly o blwyfi Aberdar, Penderyn, a Rhigos i gael eu gwneyd mewn cyfarfod o'r guardians a gynelir ganddynt yn Aberdar a chynifer allant ddangos i'r guardians eu bod yn rhy dlawd i dalu am ysgol eu plant, cant hyny yn rhad ac am ddim a rhoddir cerdin argratfedig i bob plentyn i fyned i'r ysgol ag V byddo y rhieni yn ddewis.—Ydwyf, &c., CARWR ADDYSG.

NODION 0 LANAU'R OGWY.

DYFAIS C YFAN SO DDIV YR I…

AT GERDDORION LLANSAMLET.

BLAENAFON. —EIOH GOHEBYDD,…

---...........oy-",T"'Y""-"""".......".........-.......…

CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR - !…

GAIR 0 L'ERPWL.