Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
nofiadwy, mae yn ofynol i'r Llywodraeth ofalu am amddiftyn y cyfryw rhag difrod gelynion. Gall y darllenydd godi dadl nad yw yn deg a chyfiawn i'r wlad dalu treuliau o'r fath am fod y cyfoeth nofiadwy yn perthyn i bersonau neill- duol ? Wel, onid yw y personau hyn, gan nad pa mor neillduol ydynt, yn talu treth cyfatebol i'w cyfoeth o ganlyniad mae ganddynt hawl arbenig i wneyd apel am amddiffyniad. Yn y goleu yna gwelaf y dyn sydd yn berchen ty bychan yn y wlad, yn liollol ar yr un safle a'r gwr mawr sydd yn perchenogi cant o ager- longau; mae pryder a gofal y naill fel y llall, ac os dim mae gofal yr hwn sydd a'i gyfoeth yn nofio yn llawer mwy na perchenog y ty yn y -wlad. Gobeithiaffod y Llywodraeth Brydeinig yn ddigon penderfynol i ddweyd wrth yr Arth- hyd yma, yr hen .frawd, a dim yn mhellach. Nid wyf yn credu yn y cri rhyfelawg a godwyd gan y Rwsiaid ar y dechreu yn ddim amgen na rhagrith, a ffug yn unig, er mwyn dallu gwlad- weinwyr Prydain a gwledydd ereill i gredu fod yr Arth yn greadur hollol wahanol i'r hyn ydyw yn wirioneddol, ac os na atelir ei rhwysg trwy nerth gorfodol, fe geir gweled, a hyny yn fuan, nad teimlad dros Gristionogiffln gorthrymedig gwlad y Twrc oedd yn llywodraethu meddwl a cbalon yr Arth pan gynhyrfodd. Tebycfich ydyw fod llywodraethiad y mor a'r llwybr i China a'r India yn fvy ar ei feddwl na dim arall--dyna fy marn fechan i, ac os dewisa rhywun farnu yn wahanol, boed felly.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
BWBDD YSGOL LLANGIWG.
BWBDD YSGOL LLANGIWG. LLYTHYR IX. MR. GOL.,—Bydded hysbys i'w fawrhydi esgobol ac arglwyddaidd o Gwmygors, ac i bawb y perthyn iddynt wybod, ein bod wedi rhoddi y gwaith o helaethu ac adgywekio .Y ysgoldy Gwauncaegurwen i'r personau oedd yn gofyn agosaf at brisiad y cynllunydd o werth y gwaith oedd i'w wneyd mewn cysyllt- iad a'r ysgoldy, yr hyn oedd yn 791p., sef 4p. yn fwy nag yr ydym yn roddi. Felly, chwi welwch, Mr. Gol., ac nis gall pob meddwl diragfarn arall lai na gweled fod genyf sail gadarn i gredu ein bod wedi gweith- redu yn hollol deg a chyfiawn rhwng y treth- dalwyr a'r contractors. A phe gelwid yfory nesaf i roi gwaith allan i'w adeiladu, ni phetruswn am eiliad pa un ai barn y Parch. John Jones, Carmel, neu farn y Parch. Henry Thomas gymerwn ni yn safon i weithredu wrthi. Tybiwyf nad oes angen i mi ddweyd wrth fy enllibwr, na phwyllgor ysgoldy Gwauncaegurwen, am fedrusrwydd y Parch. Henry Thomas i weithio allan werth adeilad na, oblegyd cawsant brawf o hyny yn y pris- iad wnaeth ef o werth yr hen ysgoldy. Gwyr ef a hwythau, cystal a minau, pa un ai pris- iad Mr. Thomas neu y cynyg a roadodd Mr. White, a'r lleill o'r Bwrdd, i'r pwyllgor am dano oedd agosaf i'w Ie, fel y cawsant hwy a ninau brawf yn y prisiad wnaed drachefn ohono gan Mri. Smith, Alltwen, a Humphreys, Treforis-y blaenaf dros y Bwrdd, a'r olaf dros y pwyllgor. Nid newyddian yn.y gwaith o dynu cynlluniau, a phrisio, a mesur adeil- adau yw Mr. Thomas o na, y mae ef, yn y deunaw mlynedd diweddaf, wedi cynllunio amryw ysgoldai a chapeli, a rhai ohonynt yn werth miloedd o bunau, ac yn eu plith rai o'r capeli mwyaf prydferth, cadarn, a gwasan- aethgar yn Nghymru; ac nid ydwyf wedi clywed fod un eglwys weii cael achos i dybied ei bod yn cael ei harwain ganddo i roddi gormod o bris i'r contractors am wneyd y gwaith, ond mi wn am adeiladwyr yn cwyno .ei fod yn tan-brisio y gwaith. Yn awr, fy ngwybodaeth am ei allu i weithio allan werth adeilad barodd i mi, mewn undeb ac ereill, gymeryd prisiad ein cynllunydd o werth .y gwaith oedd i'w wneyd wrth ysgoldy Gwaun- caegurwen yn safon i weithredu fel y gwnes. Dyna i chwi, Mr. Gol.. fy rhesymau dros uno i roddi y gwaith i Howells a Jones, ac nid i'r cynygwyr iselaf. Bellach, ystyriwyf fy mod wedi rhoddi cyfrif manwl, gonest, a diymgadw i'm cydblwyfolion o'm gorchwyl- iaeth, fel un a ddewiswvd ganddynt i fod yn aelod o'r Bwrdd presenol; a gallaf sicrhau nad wyf wedi ysgrifenu dim ond ffeithiau, ac yr wyf yn foddlou cymeryd fy marnu wrth- ynt gan bob meddwl diragfarn. Y mae tymor y Bwrdd Ysgol presenol bron dirwyn i ben, a dywed y Parch. John Jones, Carmel, yn ei yagrif yn y Tyst a'r Dydd Yr ydys yn dechreu ymholi y dyddiau hyn a ydyw y Bwrdd presenol yn dysgwyl cael ei anrhydeddu ag ail etholiad ? A ydynt, fel goruchwylwyr da, wrth roddi eu goruchwyl- iaeth i fyny, yn awyddus i aros yn eu swyddi ? A oes ysbrycl teyrnasu ynddynt am dair bly- nedd etc? A oes ynddynt awydd am lyw- odraethu yn hwy o dan deyrnged i'w caeth- feistri? A ydynt yn tybied eu bod wedi gweithio mor dda yn y tair blynedd diweddaf i allu meddwl yn obeithiol am barhau mewn awdurdod am y tair blynedd nesaf ?" Dyna i chwi, Mr. Gol., res o ofyniadau mawredd- og, a phob un ohonynt yn olynol yn cynwys y fath wmbredd o syniadau a meddylddrych- au gorwych, newyddion, acamrywiol! Dywed Luc, yr hanesydd ysbrydoledig, yn Actau yr Apostolion, fod yr Ephesiaid, yn yr olwg ar ddylanwad gweinidogaeth Paul, er troi amryw o'r dinasyddion i'r ffydd Gristionogol, yn dolefain "gan ddywedyd, mawr yw Dianah yr Ephesiaid." Pwy, mewn difrif, wedidar- lien y gofyniadau uchod o eiddo ein hesgy- munwr o Gwmygors, na wna uno a mi i ddolefain, mewn iaith synedig, gan ddywed- yd :-Mawr a rhyfedd yw gallu athrylithgar a dysgeidiaeth ddwfn (?) y Parch. John Jones, Carmel, cyn y medrai efe dywallt allan o'i ysgrifell y fath restr o gwestiynau i ddim dvben ond i gael cyfle i ddangos y N'i fawr, oblegyd sylwch ar ei eiriau cyntaf ar ol eu gofyn:—"Yr ydym wedi clywed," o ïû, y lleng yr ydym wedi clywed awgrymiadau fod y rhai gwaethaf ohonynt yn meddwl parhau, a'r rhai goreu yn meddwl ref-iro; pedwar yn aros a thri yn rhoddi fyny." Nis gwn, Mr. Gol., pa un a fuoch chwi, pan yn hogyn, yn hoff o neidio hec, a cham, a naid ai naddo, ond mi debygwn eich bod, os aa, eich bod wedi sylwi ar hogiau yn gwneyd hyny, a'i bod yn arferiad ganddynt yn ami i fyned yn ol i gael rhedegfa dda, er medru gwneyd hyny yn enwog. Felly y gwnaeth y gwr esgobol ac arglwyddaidd o Gwmygors, aeth yn ol bump neu chwech o gamrau breis- ion, er bod yn alluog i arddangos ei dalent esgymunol. Nid wyf yn meddwl fod un o Babau Rhufain erioed wedi honi mwy o an- ffaeledigrwydd yn eu barn, nac wedi anfon un bidl allan yn fwy llawn o regfeydd mell- dithiol, ac yn amlygu mwy o hunan-fawredd a thrahausder na bull esgymunol ei fawr- hydi Carmelaidd. "Yr ydym wedi clywed awgrymiadau fod y rhai gwaethaf," &c., "fod pedwar yn aros a thri yn rhoddi fyny." Mi garwn gael gwybod gan ei barchedigaeth Pionaidd pwy glywodd efe ynawgrymufod pedwar yn aros, a'r pedwar gwaethaf hefyd, yn ol ei ensyniadau ef ? Mewn difrif, Mr. Jones, a ydych chwi mewn cynghrair a thad y celwydd ? Rhaid fod eich mawrhydi mewn cyngrhair a rhyw ysbrydion celwyddog cyn y gallech ysgrifenu y fath anwiredd, oblegyd fe wyr un o'ch brodyr Annibynol yn y weini- dogaeth fy mod wedi dweyd wrtho ef er's mwy na chwech mis yn ol (ac felly yr oedd- wn wedi gwneyd hyny cyn gweled eich llith enllibgar chwi), na wnawn ar un cyfrif sefyll am fod yn aelod o'r Bwrdd y tro nesaf, a gwn inau pwy oedd y gweinidog arall wnelai aelocl da yn fy lie; enwodd ef, ond nid chwy- chwi, Mr. Jones, oedd yr un hwnw. Y BRAWD TROCHYDDOL.
Y Ddegfed Adsain.
Y Ddegfed Adsain. Mae braidd yn beryglus i ddweyd gair, nac ysgrifenu cymaint a brawddeg, pan y byddo y cewri wedi tanio eu magnelau trwmlwythog. Dyna yr hen gymrawd hoffus, Mabonwyson, wedi agor rhyfel yn erbyn brawdoliaeth y Bont', fel nad oes gwybodaeth pa bryd nac yn mha le y terfyna. Fflangella nhw yn iawn, fardd; maent yn haeddu eu cernodio am weithredoedd y gorphenol. Wedi y gor- phenot eu pastynu, mi gymerwn gynghor yr Iago Fwyaf pe bawn i fel ti, ac awn i Aws- tralia neu ryw wlad arall, lie y perchir talent a dawn, a synwn i ddim na chaem glywed fod dy ysgolheigdod wedi dy godi i ben un o'r pinaclau uchaf a fedd y byd gwareidd- iedig. A fyno glod, bid farw ydyw trefn y wlad hon ond mewn gwledydd ereill y gwyddom am danynt, talent a gwreiddioldeb sydd yn flaenaf. Os gwna dymuniad am lwyddiant les i'r bardd o'r Poet's Cottage, derbynied a ganlyn fel iaith calon, ac edrych- ed ar blant y Bont' islaw sylw Athronydd a Bardd, heb erioed gael ei gydnabod gan ei genedl yn deilwng. Llyma y dymuniad- Hwylusdod ar y lasdon—o'm henaid Ddymunaf i'n gwron. Gwened Duw, a gwnaed y don-ei goreu Na b'o un eisieu ar Mabonwyson. Na fydded iddo orphwys cyn cael ei gydnabod gan ryw wlad neu gilydd yn Second (Jromivell, neu ryw arwr byd-glodus arall. Gwelais Nathan Dyfed ar hynt Ogleddol yn un o bapyrau Arfon fawr yn Ngwynedd yn ddiweddar, a dengys yr hen fardd hy- bwyll yn parhau yn ei ddoniolwch fel yn y dyddiau gynt. Nid hoflusach cyfeillach ellid fwynhau na chyda doniolwyr fel Nathan Dyfed, Dewi Haran, Gwilym Ilid (parch anwyl i'w goffawdwriaetli), Oilfynydd, a'r Hen Gwmgwys arabus a chyrhaeddbell. Y tri olaf, er's.blynyddoedd, dan gloion y glyn, o gyrhaeddy byw yn nghwr y bedd. Ych- y 11 ydig sydd yn aros o'r hen frawdoliaeth, a gallwn edrych ar yr ychydig sydd wedi ei gadael fel dolen gydiol rhwng dau gyfnod. Bu rhyw Arthur y Ford Gron yn ymlffamychu yn y Dydd (papyr o Dolgellau), gan wneyd sylwadau ar weithiau Dewi Wyn o Essyilt. Dylasai y gwr gofio mai yn un o eisteddfodau y Carw Coch y cadeiriwyd Dewi am yr awdl ar Ddyn." Camsyniodd hefyd trwy ddweyd mai awdl oedd y cyfansoddiad arobryn yn Nhreforis ar Y meddwl dynol." Pryddest ac nid awdl ydyw y campwaith gorchestol hwnw. Mae amryw gamsyniadau ereill yn llith Arthur ag sydd yn dueddol i gamarwain y cyhoedd mewn hanesiaeth eisteddfodol, fel y dylai dynion o ddawn fel efe fod yn fwy gofalus beth a ysgrifenant. Dywed Arthur fod gan Essyllt awdl benigawp ar Raglun- iaeth" (testyn cadeiriol Birkenhead), achlyw- ais ddweyd fod gan Tafolog gyfansoddiad arobryn ar y testyn os felly, dyna ddwy awdl yn barod, yr hyn sydd yn myned yn yn lied bell i brofi anwybodaeth detholwyr y testynau. At yr uchod, wele Hir a Thoddaid ar "Ragluniaeth," i bronnadywyndestyn newydd :— Ei heurog leni Duw a'i rhagluniodd, A hynod urddas ohono darddodd. Anfeidrol lor pwy a'i cynghorodd Neu a wellasai yr hyn ewyllysiodd ? Ei anian fawr a'i hunan fodd—sy'n parhau, Ar hyd yr oesau, i ferwi drosodd. Derbynied Arthur y pedair llinell ganlynol fel anrlieg Yn y Dydd cyn y diweddaf,—Arthur Oedd wyrthiol i'r eithaf Iawnwych iaith y gwir ni cha Yn ei lith. Ni helaethaf. Clywais ychydig siarad yn ddiweddar ar gynwysiad y GWLADGARWR, a mawr y can- molid yr Oriel gan Huw Moris, er fod ambell un yn teimlo dipyn yn groen-denau o dan y weinidogaeth. Sylwai un fod awdwr yr erthyglau ar feirdd a barddoniaeth yn alluog a medrus ond beth fydd y llyfr pan daw allan, gan fod yr Index mor dda, meddai y brawd. Boddus genyf ddeall fod fy hen gyfaill, Ieuan Ddu, o'r Alltwen, yn mwynhau ei hunyn aihellafoedd y Gorllewin, lie y ceir digon o bobpeth daearol ar gyfer dyn ac anifail, mewn gwlad lie mae rhyddid yn ym- doni fel gwyneb y dyfnder mawr. Gyred i ni ychydig o hanes y wlad yn amaethyddol, a gair ar y manteision sydd yno i amaethwyr i ymsefydlu a sylw hefyd ar gyfieusderau masnach y wlad, nodion ar gyfoeth mwnawl y dyffrynoedd, a beth ydyw y meteloedd mwyaf gwerthfawr a geir dan wadnau y mynyddoedd. Mae helynt y Bwrdd Iechyd yn Mountain Ash yn debyg o ddyfod yn destyn sylw ar- benig, yn gymaint a bod aelodau y Bwrdd yn croes dyhu yn erbyn eu gilydd. Ceir ych- waneg o'r manylion yn fy nesaf, ac yn y cyfamser, edryched y Coch o siop y gweithwyr ato ei hun, rhag iddo ddyfod o dan yr ordd. Gan fod fy llith yn myned yn faith, tynaf at y diweddglo gyda beddargraff y cribddeil- iwr:— Dynyn bu son am dano,—a syrthiodd Yn swrth i dir anngho' Cribddeiliwr, bradwr ein bro, Och adyn byth na chodo. — Yr eiddoch, JOHN JONES. O.Y.—Gan fod yr Adsain yn y swyddfa cyn gweled ohonwyf ymfflamychiad olaf Mabonwyson, boed hysbys iddo nad oes i mi na rhan na chyfran yn helyntion brawdol- iaeth y Bont ond pe byddai gorfod arnaf i ddewis cyfeillion, awn heibio Mynwent y Crynwyr yn ddiofn am Bontypridd. Hedd- wch, gyfaill, heb ddim lol, oblegyd Gwell o'r bron i weinion wyr Bobpeth xa rhyiel bapyr.
Cerddorol.
Cerddorol. Dathlir dydd gwyl Dewi yn Llundain eleni trwy gynal cyngherdd Cymreig yn yr Albert Hall. Cymerir rhan ynddo gan Madam Edith Wynne, Madam Patey, Eas Morlais, A p Herbert, Mri. Wadmore a Shakespeare, Pencerdd Gwalia; Cor Mr. Carter, a Seindorf y Grenadier Guards. Y MAE yn debyg fod cerddorion Aberdar yn benderfynol o dynu am y dorch yn erbyn corau y Gogledd yn Birkenhead. Nos Lun a nos Fawrth wythnos i'r diweddaf ymgynullodd torf fawr yn Siloa Hall, Aberdar, i fyned o dan ar- holiad cyn ymuno a'r cor. Methwyd cael amser i arholi yr oil o'r ymgeiswyr. Ymddengys fod adran arall yn Mountain Ash, ac un arall yn Blaenllechau ac yn y lie olaf yn neillduol yr oedd rhif yr ymgeiswyr yn mhell uwchlaw y dysgwyliad. Bydd y cor hwn o dan arweiniad Mr. Rees Evans. Mae cantorion Aberaman hefyd wedi cychwyn gyda'r un bwriad, a chlyw- som fod yno section ardderchog eisoes. Bydd y c6r hwn o dan arweiniad Gwilym Cynon. Y MAE Cor Undebol Aberdar (ar wahan oddi- wrth y cor cystadleuol y soniwyd am dano eisoes) yn parhau i fyned yn mlaen gyda'r gorch- wyl o efrydu a dysgu oratorios. Gan y bydd lluaws o aelodau y cor hwn yn debyg o ymuno a chor Birkenhead, y mae yn debyg mai y llyfr nesaf yr ymgymerir a'i ddysgu fydd Jeptha .Y (Handel), oherwydd y mae un o'r darnau cystadleuol yn yr oratorio hon, sef Lord, how dark are thy decrees." Darfu i ni yn y GWLADGARWR, dro yn ol, feiddio dweyd fod rhagolygon am ddyfodol gwych i Miss Mary Davies, yn y byd cerddorol. Erbyn hyn fe wyr ein darllenwyr fod rhan fawr o'r broffwydoliaeth hono wedi ei gwiro. Nos Fercher, Chwef. 13eg, bydd Miss Davies yn cymeryd rhan mewn cyngherdd o hen ganeuon Seisnig yn St. James's Hall. Y lleiswyr ereill ydynt Madam Antoinette Sterling, Mri. Sims Reeves, Edward Lloyd, Thurley Beale, Maybrick, a'r London Vocal Union. Y MAE ein cyfeillion cerddorol, y Swansea Choral Union, yn addaw treat ardderchog i'r cyhoedd ar y seithfed o'r mis nesaf. Hwyr y dydd hwnw rhoddir perffromiad o Elijah (Mendelssohn), yn y Music Hall, Abertawe, gan y Choral Union, o dan arweiniad Mr. Silas Evans. Cymerir rhan yn y gwaith gan ddwy o'r Welsh singers o Lundain, Mr. W. A. Howells, R. A.M., a Mr. Santley, y baritone bydenwog. Fe ddywedir—ac nid oes ynom amheuaeth nad yw y dywediad yn iawn—nad oes yn fyw neb tebyg i Mr. Santley fel cynrychiolydd y proff- wyd. Yn nesaf ato saif Signor Foli—canwr Gwyddelig wedi ei wisgo mewn enw Italaidd. Dyma y tro cyntaf, ydym yn tybio, i Mr. Santley i gymeryd rhan mewn oratorio yn Nghymru ac nis gallwn lai na theimlo yn hapus wrth feddwl mai llanc o ftymro—un o fechgyn yr ardaloedd mynyddig "-fydd yn arwain ar yr achlysur. Bydd deugain o ofieryn- wyr yn ffurfio cerddorfa, o dan arweiniad Mr. E. G. Woodward, yr hwn sydd erbyn hyn yn adnabydclus i luaws o gerddorion Morganwg. Gobeithio y bydd y perfformiad yn llwyddiant yn mhob ystyr. Sier yw y mae yn teilyngu pob cefnogaeth. Y mae 500 o docynau reserved seats wedi eu gwerthu yn barod.
jMr. Stanley.
Mr. Stanley. Cynaliwyd cyfarfod yn St. James's Hall, ar yr achlysur o draddodiad darlith gan Mr. H. M. Stanley ar ei ymchwiliadau a'i ddar- ganfyddiadau diweddar yn nghanolbarth Affrica. Yr oedd yn bresenol Tywysog Cymru, Dug Sutherland, Tywysog Coron Awstria, Gweinidog China, Midhat Pasha, Arglwydd Houghton, Arglwydd Reay, Syr T. F. Buxton, Syr H. C. Rawlinson, Syr Samuel Baker, Syr Harry Verney, Syr George Nares, a'r Llywydd Cameron, ac ereill. Wrth agor ei araeth, dywedodd Mr. Stanley, mewn trefn i wneyd anrhydedd priodol i'r Gymdeithas Freiniol Ddaearyddol, y carai dreulio canrif i ddesgrifio yr hyn a welodd er mwyn iddynt gael syniad goleu a rhesymol am y cyfandir mawr hwnw. Nid oedd ganddo amser i ateb y filfed ran o'r llythyrau a dderbyniasai ar y mater, ac yr oedd wedi bod mor ddiwyd o foreu hyd hwyr, fel yr oedd weithiau yn ocheneidio am fod yn ol yn ASrica—(chwerthin)—mewn trefn iddo gael ei ryddhau oddiwrth yr angenrheidrwydd o ysgrifenu llythyrau. Carai wybod am yr ymchwilydd a fedrai drin brodorion Affrica fel boneddwyr. Dichon gallai fod yn bresenol rai nad oeddynt yn cymeradwyo ei ymddygiad tuag at yr Aftricaniaid. Mewn canlyniad i'w enwogrwydd blaenorol wrth chwilio am Livingstone, cafodd yn Zanzibar ryw haner cant neu 60 o wyr i uno ag ef. Yna adrodd- odd Mr. Stanley ymddyddan a'r rhai oedd yn gyfiogi; gofynodd hen negro iddo fel y can- lyn Are you the man who went after that old white man, who was said to be lost in the far interior 1" Yes I am." "And what man are you after now 1" "I am not after any man this time." Oh then what are you after now?" Yr ateb oedd :—"I am after rivers and lakes, and mountains, trees, and forests, and after tribes and nations. I am come to cleave this continent." Cytun- odd a 150 o ddynion am dri doler y mis. Yn mhen ychydig ddyddiau hawlient 5 doler y mis. Cynygiwyd diolchgarwch iddo gan Dywys- og Cymru, ac eiliwyd gan Syr H. Rawlinson. Cafwyd cyfarfod gwir ddyddorol.
ORIEL Y BEIRDD
ORIEL Y BEIRDD DARLUN RHIF XIX. MAE y bardd hwn yn teithio ar yr ail ran o filltir einioes. 0 ran taldra, y mae o'r hyd cyffredin; ac o ran amgylchedd, islaw y canolog. Ei wallt sydd o liw gwineu, a'i farf sydd yn deneu, ac o'r un Iliw. Medda wyneb hytrach yn llwyd a phica, ac o'r braidd y gellir credu nad yw yn dechreu crychu. Edrycha braidd yn bruddglwyfus, a cherdda yn araf, ac fel pe bae yn dyoddef oddiwrth yr asthma. Mae yn hynod o wylaidd a di- ymhongar ei ymddangosiad, ond gellir barnu ei fod yn meddwl tipyn am dano ei hun. Nid llawer y mae yn ymgymysgu a'r pech- aduriaid barddol nid am ei fod yn teimlo ei hun yn fod rhy bwysig i droi yn eu plith, ond am y dewisa fod dipyn yn feudwyaidd yn ei gysylltiad a'r byd barddol. Pan mewn eymdeithas nid yw ei lais i'w glywed ond yn anaml, ond y mae yn llyncu y cwbl a fydd o dan sylw ac nicl yw y diareb, Yr hweh fud a fwyty y soeg i gyd yn cael ei gwir- eddu cystal mewn un bardd ag ydyw yn ei chysylltiad a'r bardd hwn. Mae efe ar y maes barddol er's blynyddau lawer, ond yn y ddwy flynedd ddiweddaf y mao wedi d'od i dori ffigwr yn mhlith ei gyd- feirdd. Mae yn feistr ar iaith a chelfyddyd, yn y caeth a'r rhyddfesurau. Nodweddir ei weithiau gan dlysni a thynerwch, a llifa swyn trwy bob cyfansoddiad o'i eiddo. Nid yw yn gyfansoddwr hiranadlog gyda darnau byrion y mae fwyaf cartrefol, er fod ganddo ambell gyfansoddiad a thipyn o hyd ynddo, a ddeil ei gydmaru ag eiddo ei gydfeirdd mewn nerth a gorphenedd. Mae yn ganwr defosiynol iawn hefyd, a thuedd uniongyrchol ei awen at wneyd daioni yn mhlith ei gyd- ddynion. Dwfr ydyw diod ei awen, ac felly nid ydyw yn rhyfedd fod tine hono yn lied iaml yn nghyfeiriad y ffynon. Un o ddysgybl- .Y on Syr Wilfrid Lawson ydyw, ac nid yw ei awen yn fradwres i egwyddor fyth a hefyd y digrifddyn penderfynol hwnw. Mae un peth yn perthyn i gyfansoddiadau y bardd hwn nad yw yn nodweddu gweithiau nemawr wn. Wrth eu darllen y tro cyntaf teimlir fod y meddwl i raddau yn gymylog, ond darllenir hwy yr ail a'r drydedd waith y maent yn dyfod yn eglurach ac yn well bob tro. Mae hyn yn ddirgelwch sydd yn perthyn iddo ef, ac mae hon yn nodwedd ganmoladwy iawn yn wrthgyferbyniol i hyn y mae gyda llawer- yr olwg gyntaf ydyw y goreu yn ami. Nid ydyw efe wedi enwogi ei hun fel beirniad eto dichon y daw i droi yn y cyleh hwn, y mae ynddo bob cymhwysder sydd yn ofynol i lanw y swydd yn deilwng. Cyhoeddodd gyfrol fechan o'i weithiau yn ddiweddar—yn rhyddiaethol a barddol, ac mae tuedd y llyfryn bychan hwn at lesoli cymdeithas, yn ogystal a phrofi gallu yr awdwr ar y maes barddol. Huw MORIS.
Darganfyddiad Ofnadwy.
Darganfyddiad Ofnadwy. Ychydig ddyddiau yn ol cafwyd cyrff naw o blant, y rhan fwyaf ohonynt mewn blychau sebon, yn Mynwent Bensham, Newcastle-on- Tyne. Yr oedd y cyrff wedi mallu, a'r uchaf ohonynt ddwy fodfedd o dan y pridd. Y mae pedair o fenywod wedi eu cymeryd i'r ddalfa.
Mr. Halliday a'r Arweinwyr…
Mr. Halliday a'r Arweinwyr Rhyddfrydol. Nos Lun diweddaf bu Mr. Thomas Halliday yn anerch Cymdeithas Ddiwygiadol y Gweith- wyr yn Bryste. Datganodd ei ofid fod rhai o arweinwyr y blaid Ryddfrydol wedi cilio allan o Dy y Cyffredin, yn hytrach na phleidleisio yn erbyn y chwech miliwn punau. Ond os oedd Hartington, Forster, a Lowe wedi cilio, fe safodd un oedd wedi bod drwy ei oes yn gyfaill i'r gweithwyr, ac at yr hwn yr oedd yn rhaid iddynt edrych am help yn y dyfodol —Mr. Gladstone. Yr oedd liefyd yn dda ganddo gael Mri. Macdonald a Burt ar yr ochr iawn ar yr achlysur hwn. Nid oedd efe erioed wedi teimlo yn fwy blin nag wrth weled arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn cefnn ar eu plaid yn nydd y frwydr.
[No title]
Y mae Mr. Crawshay Bailey wedi danfon 50p. i Drysorfa Gynorthwyol Cwm Rhondda a Mr. John Cory, Caerdydd, lOp.
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwcb…
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwcb yr hyn sydd Wir. GWILYM EVANS' QUININE BITTERS, NEU VEGETABLE TONIC. Y Feddyginiaeth oreu a ddychymygwyd ac a ddyfeisiwyd er cryfhau y cyfansoddiad a phuro y gwaed. Y MAE y Bitters hyn yn hollol lysieuol, ac yn cynwys chwerw-lysiau a melus^ lysiau wedi eu haddas gymysgu, sef Quinine, Sarsaparilla, Saffron, Lavender, Burdock, Liver. wort, Gentian Root, &c. Mewn gair, y mae bron bob llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn y feddyginiaeth ryfeddol hon, ac y maent wadi cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreu er eu perffeithio i fod yn wellhad difethiant at y doluriau canlynol: (1).. Gwendidau o bob math yn ymddangos fel un neu r agor o'r anhwylderau canlynol-iseldel" ysbryd, nervousness, curiad y galon, chwysn teimlad blinedig a chysglyd, y gwaed yn rhuthro yn ddisymwth i'r gwyneb, llewygon, teimlad 0 bwysau ar y chest, poen ar y chest, poen rhwna yr ysgwyddau, diffyg anadl, phlegm, y gwaed yos tori, pesweb, a thueddiad at y darfodedigaeth (decline). (2). Diffyg treuliad a'í ganlyniadau, sef gwael. der cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwyd diffyg archwaeth at fwyd, yr ystumog yi. chwyddo trwy wynt, yr anadl yn drwm, genau yn sych ac yn boeth, brathiadau disym wth yn yr ochr, y p-leurisy, yr afu yn afiach, thrwy hyny yn achosi y clefyd melyn, poen groes i'r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparilla a'r Burdoo ar gylchrediad y gwaed, y maent yn hynod effeithiol at y blast neu'r awelon, gwynegon, ystyffdra y cymalau, y croen yn bigog ac anes. mwyth, a phob math o ddistemper yn y gwaed. Y mae tystiolaethuu pwysig yn cael eu derbyn yn barliaus. Cyhoeddir pump yn unig o'r lluaws, Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. Os bydd rhywun yn ,amheu gwirionedd y can* ynol, dymunir arno ysgrifenu at .yr enwau a. roddir yma. „ a T, December 14th, 1876. .DEAR OIR,^ A have bsen suffering severely for A long time with indigestion and nervous debility and then- attendant inconveniences. After trying numerous remedies (to no purpose) I tried yoius Quinine Bitters, and the result is I am now a healthy man. Had I tried it sooner, I believe I should have escaped many restless Lights and many pounds in money. Publish this for the benefit of others.—Address—THOMAS REES, De- corator and Valuer, Forester's Aims Hotel, Llan. elJy, late of Fishguard. Old Globe, New Dock, Llanelly, May 24th, 1876. ANWYL SYR,-Dymunaf hysbysu i chwi fy mod wedi cael fy Ilwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Bitters. Yr oeddwn wedi myned bronyn, rhy wan i gerdded, ac yr oedd y clwyf ar fy mraich yn myned yn waeth bob dydd. Yr oedd meddyg- on Llanelli a'r ardaloedd am dori fy mraich ymaith er achub fy mywyd; opd trwy gymeryd y Quinine Bitters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac yn gweithio bob dydd. Rhoddaf fy enw yn llawn, fel y gallo ereill gael manylien pellaoh oddiwrthyf os,mynant. \r eiddoch, yn barchus, GRIFFITH WILLIAMS. .Dylaswn ddweyd fy mod wedi bod dair blynedd heb weithio ond ychydig. „ 7 Cambrian-street, Llanelli. SYR,-Mewn geiriau byr, dymunaf ddweyd fy mod wedi cael llebad PARHADS trwy gymeryd eich Quinine Bitters." Rhyfedd yvfr eu heffaith. Blinwyd fi beunydd gan boen anferthol yn fy mhen, weithiau uwchben y llygaid, w- ithiau yn yr ochrau, a phryd arall yn curo fel morthwyl, fel ag yr oedd ofn arnaf ddilyn fy ngalwedigaeth ar ben y ty. Po en yn fy hips a rhwng fy ysgwyddau, & gwendid mawr. Dim awydd na bias at fwyd, ond ar brydiau anamserol. O'r diwedd cymerais eich Quinine Bitters," ac yr ydwyf wedi fy 11 wyr wellau. Cyfrifir eich Bitters yn ddrud, ond gallaf yn awr ddweyd yn ddiofn mai dyna y moddion rhataf a'r goreu a gefais erioed. Gall neb yn gydwybodol ddyoddef poen heb dreio hwn. —ROBERT GUY, Builder. The Grand Hotel, Brighton, July 28th, 1876. DEAR SIR —I feel it is my duty to the public and yourself to inform you 'that I have derived immense benefit from your Quinine Bitters Vegetable Tonic. I have been for some months victim to headaches, pain in the back, and I believe a general derangement of the liver. I am happy to say I now feel well, but take a dose of your "Bitters" occasionally when my appetite fails.- Yours faithfully, ROBERT FOSTER. Ruthin, Awst ISfed, 1876. SYR,—Yr wyf wedi derbyn lies MAW oddiwrth eich Quinine Bitters. Bu'm yn cael poenau an- nesgritiadwy 1 n fy mhen a'm danedd, yn cael ei achosi (meddai'r Doctor) gan fy ystumog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fel yr oedd arnaf ofn bwyta dim. Yr oedd y gwynt yn fy ngofidio, bias cas yn fy ngenau, yn enwedig yn y boreu. fel bwystl. x r oeddwn yn hala haner fy amser y gwely trwy wendid, ac feallai ychydig iselder ysbryd. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion. ac yr ydwyf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen.— Yr eiddoch Mr. Gwilym Evans. JANE S. THOMAS. BYDDED HYSBYS I BAWB. (A.) Nid ydyw yn bosibl dodi'r holl gyffeiriau. sydd yn y feddyginiaeth hyn mewn PILLS. (B.) Y mae y pris mor isel ag y gall fod, oa- cymerir i ystyriaeth brinder y Quinine a'r Sar- saparilla. (C.) Gellir gweithio beunydd fel arfer heb un. annghyfleusdra, ac nid oes perygi anwyd, ond yn. hytrach y mae yn atal anwyd. (D.) Y mae y Bitters yn cryfhau y rhan neu'r aelod o'r corff sydd yn wanach, ac felly yn fwy agored i heintiau ac afiechyd nac arferol, a dylid cofio fod bron bob math o BILLS yn gwannau y cyfansoddiad ac yn afionyddu y cylla. (E.) Nid Quinine Wine, na Tincture of Quinine nac unrhyw gymysgedd arall o eiddo y Druggist ei hun, ond "Evans' Quinine Bitters" mewn potelau 2s. 9c. a 4s. 6c., a'r enw "Gwilym Evans, Ph. C., M. R. P. S., wedi ei ysgrifenu i Stamp y Llywodraeth heb hyn, twyll a ffue- iad ydynt. Ar werth yn mhob tref, neu yn direct i bob man o'r wlad oddiwrth y T)erchenog- MR. GWILYM EvANS, Pharmaceutist, Llanelly. D.S,-Os na ellir cael y "Bitters" heb dra- fferth, ysgrifener at y Perchenog. 163L