Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
EISTEDDFOD LLANELLI.I
EISTEDDFOD LLANELLI. Y FKIRNIADAETH. Galarel) i Jenkin Williams. -Daeth deg galar- eb i law ar y testyn teilwng hwn, ac yn eu plith rai cyfansoddiadau gwir dda. Wrth gyfansoddi Galareb dyiai y bardd gadw neillduolion y gwrthddrych o tlaen ci feddwl. Y mae rhai o'r Galarebau y fath fel y cyfatebeut i unrliyw Gristion, mewn unrhyw oes, ond cyfiiewid yr enw y mae yn y gystadleuaeth hon rai Galar- ebau teilwng o unrhyw Eisteddfod, ac yn anrhydedd i arwr y gystadleuaeth. Yr ydym wedi rhanu y 10 Galareb i dri dosbarth, gweddol, (/well, a da iaion. Yn y qweddol y mae genym dair Galareb, sef eiddo Premier, Flavius, a loan Bro Hiraeth. Cawn yn gyntaf sylwi ar eiddo- 1. Premier.—Cyfansoddiad gwael yw hwn. Dylai pob llinell fod yn gytlawn ynddi ei hUll heb ei gyru am air neu ddau i gwblhau ei synwyr i'r llinell ganlynol. Cymerwn y degfed penill fel engraitft- Trigolion yr ardal lie gynt y preswyliai Sy'n teimlo unigedd diail ar ei ol, Rhyw lu o gyfeillion y sydd a'u mynwesau Yn orlawn o dristwch—diangodd i gol Ei Geidwad er dagrau ei anwyl gyfeillion Anwylaf a feddai at wyneb y llawr, Mae heddyw mewn ardal sydd ganmil rhagorach. Yn c'anu, &c. Mae gyru y bedwaredd linell i'r burned i gwblhau y synwyr yn anfaddeuol mewn Galareb fel hou. Y mae y bai hwn bron yn mhob penill o'r Alareb. Svniadau cySredin—hen arddull. Flavius. —Cyfansoddiad cyffredin. Rhai syn- iadau da, ac am bell ddrychfeddwl barddonol. Lluaws o linellau gweinion. Gormodiaeth mewn llawer o'r penillion. Y mae amrywiol feirdd yn y gystadlellaeth hon yn syrthio i'r bai liwn. loan Bra Hiraeth.—Gormodiaeth anfaddeuol. Penill engraifft- Dros anian oil rhyw bruddaidd len 0 dristwcli yn daenedig sy' 'N grogedig mae ar furiau'r nen Ddarluniau o fy ngofid I." Geilw hefyd ar yr adar i "ymguddio mewn mudanrwydd prudd." Y mae ganddo ambeil benill tiws, ond y mae yn mhell ar ol yn y gystadleuaeth hon. Yn y dosbarth gwell saf Hen Ddiacon, Calon drom, Canor mewn cyni, Pruddglwyfus, ac Un mewn galar. 1. Hen Ddiacon. — Yr hyn sydd yn hynodi y cyfansoddiad hwn yw anystwythder. Mae ynddo ami dor-mesur, megys yn y 6fed linell o'r tlldalen- olaf. Y mae ynddo hefyd amryw ym. adroddion sydd yn ymylu ar fod yn ddisynwyr, megys y gwynt ysgythrog, pangog ffol," "oeclfa wlithog ddrud," &c. Nid yw y bardd yn gywir yn y llinell ganlyn- ol :— Cyflawni'r dyledswyddau (diacon) wnaeth am einioes faith." Ni fu am flynyddau lawer yn ddiacon, dim ond rhyw chwech neu saith mlynedd. Nis gwyddom beth feddylia y bardd yn y ddwy linell ganlynol:— Swydd ddiacon oedd, ond uch a llawer gwell, Nag un allasai'r byd ei rhoi yn mhell. Calon drom.-Galareb dyner a theimladwy yw hon ond y mae ol brys ar yr holl gyfansodd- iad, ac y mae hon yn ferach nag un o'r Galareb- au ereill. Ychydig iawn. o neillduolion Jenkin Williams a nodii gan y bardd hwn. Nis gallasai efe gael adnabyddiaeth helaeth o'r cyfaill J-enkin. Geilw yr ymadawedig yn "Gomed yn wybren eglwys Dduw," a dywed fod ei fedd yn Emflwch i'r Duw Anfeidrol." Canor mewn cyni.—Galafcb dlos a barddonol, ond ni nodir y nesaf i ddim o neilldnolion y gwrthddrych y cenir iddo. Gallasai wneyd y tro ar ol unrbyw ddyn da arall ond cyfnewid yr enw. Pruddglwyfus.—Y mae hon yn Alareb weddol iawn ar y cyfan, er fod yr awdwr yn defnyddio rhai geiriau llanw, megys syw. Dylai fod gwaith gan bob gair yn mhob llinell o farddoniaeth. Y mae defnyddio gair er mwyn yr odl yn anurddo y cyfansoddiad goreu. Defnyddia yr awdwr y ddwy linell ganlynol yn yr un tudalen o fewn i naw llinell i'w gilydd :— Mae deigryn hiraeth ar bob gwedd." Mae deigryn hiraeth ar fy ngwedd." Rhy debyg. Y mae Pruddglwyfus hefyd yn euog o ormodiaeth. Un mewn galar.-Dyma Alareb dda eto, yn cynwys cryn lawer o farddoniaeth. Y mae Un mewn galar yn cynyg yn ddewr am y dosbarth da iawn. Yn y dosbarth blaenaf, sef y da iawn, y mae dwy Alareb, sef eiddo Blaclcwell a Hen Gyd- nabod cyduddiol. Dyma ddwy Alareb i Jenkin Williams, ac nid i neb arall. Y mae y ddau awdwr yn nodi neillduolion y gwrthddrych, ac yn cyffwrdd a phrif linellau ei fywyd. Y maent yn farddonol ac yn ddesgrifiadol iawn, ac yn rhydd oddiwrth ormodiaeth. Gwelir darlun o Jenkin Williams ynddynt. Er cymharu, pwyso, ac ail bwyso, yr wyf yn meth npender- fynu pa un sydd oreu gan hyny rhaner y wobr rhwnc Blaclcwell a Hen Gydnabod cystuddiol; a chan °fod cyfaill i wrthddrych yr Alareb wedi cynyg ail wobr rhoclder hono i Un mewn galar. DEHEUKARDD.
MARWOLAETH IORWERTH GLAN N…
MARWOLAETH IORWERTH GLAN N ELYRCH. Do bu.farw Iorwerth Glan Elyrch. Mab ydoedd i un James Davies, crydd, Pengam, sir Fvnwv, a cliefnder i'r diweddar fardd loan Emlyn, banwyd ef yn y Trelyn, yn y flwyddyn 1S45. Ni wenodd fFawd erioed arnynt, a thrwy hyny ni chafodd ond ychydig fanteision addysg, er hyny, trwy ei yindrech ditiino daeth i wybod- aeth eang. Yr oedd, fel ei gefnder (Emlyn), wedi ei freintio a'r awen wir. Gwir nad oedd yn adnabyddus i ond ychydig o feirdd ein gwlad, ond nid yw hyny yn ddigon i bmti nad oedd yn fardd. Gellir ei restru yn un ,r llu barcldol medrai y caethfesurau yn ogy^tal a'r rhydd. Yr oedd yn delynegwr tlws iawu, ac yn duchan- wr rhagorol. Ni ysgrifenodd ond ychydig i'r Wasg, a phan y gwnai hyny y GWLADGARWR oedd'ei faes. Y mae wedi ysgrifenu llawer, yn draethodau a barddoniaeth, ar wahanol destyn- ai a gobeithiwn eu bod ar gael. Nid yn fynych y gwelid ef mewn eisteddfod—annghymeradwy- au i'r eithaf y cracheisteddfodau sydd yn ein gwlad, a'r tfordd a gymerai i'w liannghymer- adwyo oedd peidio cystadlu, ac nid oedd am- gylchiadau nag amser yn caniatau iddo ymgyuyg yn yr eisteddfodau teilwng o'r enw. Efe oedd y trydydd, mae'n debyg, yn y gystadleuaeth < fawr hono yn y Weekly Mail am yr englyn goreu i'r Graig," ar ba un y buddugoliaethodd Carn- elian. Enillodd amryw wobrwyon mewn cyfar- fodydd llenyddol yn y cylch. Gweithiodd yn ddystaw, eto yn gynyddol, a diameu genym pe buasai yn cael byw, a chael ieehyd, a thipyn o chwareu teg, y buasai yn dyfod i sylw ac enw- ogrwydd. Yr oedd yn gyfaill cywir, ac yn gymdeithaswr dymunol iawn, ac yr oedd yr el fen ddigrifol yn gryf ynddo. Efe oedd ffynon- ell cysur y cymdeithasau dyngarol yma, yn enwedig "Tywysog Llewelyn" a Caradog," sef cymdeltbasau. Iforaidd yn Trelyn a Phengam. Pan ddelai Iorwerth i mewn yr oedd pawb a'i olwg arno, a sisialai y naill wrth y llall dyma Iorwerth yn d'od," a gallasech benderfynu am gyfarfod dyddorol. Caiff, caiff "Tywysog Llew- elyn" golled dirfawr ar ei ol, a gwelir ei eisieu am amser hir. Fel hyn y canai Edwin Edmunds yn y gyfrinfa, nos Sadwrn, Chwef. 2il, am dano Ai gwir ydyw'r frawddeg a dyr ar cin hedd Fod Iorwerth Glan Elyrch yn huno mewn bedd? A ddarfu i angeu ddwyn yniaith ein brawd, A thrwy hyny gipio prif wrthddrych ein fFawd 1 O! "Dywysog Llewelyn," 'r hon ydwyt mor hardd, Pa le mae dy filwr, dy lenor, dy fardd ? Pa le mae y gwron a'tli garai mor fawr ? Pa le mae y gwron a'tli garai mor fawr ? Pa le mae'th awenwr, pit Ie mae dy gawr ? Ystormiodd deimladau'th aelodau un dydd, Ond heddyw mae'n ddystaw, a'i olwg yn brudd Gwywodd y gwelltyn, dychwelodd i'r pridd, Syrtliiodd blodeuyn yn nghanol ei ddydd. 0 wyled y cymoedd, pob bryn a phob dol, A boed coffawdwriaeth byth, byth ar ei ol; A chofied pob enaid, a hyny'n ddigoll, Fod dydd ymddatodiad o'n blaen un ac oil. Trueni na chawsai un mor ddiniwed, a diymhon- gar, fwy o barch gan y rhai ddylasent ei barchu. Ond Iorwerth nid yw mwy, gorwedda yn isel ei ben yn mynwent henafol Henaoed. Bu farw boreu dydd Mercher, Ionawr 30ain, a chladd- wyd ei weddillion marwol dydd Sadwrn, Chwef. 2il. Yr oedd y dorf a ddaeth i'w angladd yn brawf o'i boblogrwydd yn y cylch yr oedd yno oddeutu 40) o bersonau. Coiled "Tywysog Llewelyn am fan fechan ei fedd," na adawed i'r glaswellt dyfu a'i orchuddio, ond boed yno faen i nodi'r fan.—M. G. Elyrch.
ABERDAR.
ABERDAR. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Gwener, yr 8fed cyfisol, cyfarfyddodd bacligenyn o'r enw Morris Evans, dryswr, 13 oed, Tai'r Wern, ger y Gadlys, a'i ddiwedd trwy syrthio o dan y trams yn Hen Bwll y Gadlys. CYNGHERDD.—Nos Iau, Chwefror 7fed, cynaliwyd cyngherdd yn nghapel Bethel, Trecynon, elw yr hwn fydd yn cael ei roddi i Mr. Thomas Morgan, arweinydd cor y lie, fel eydnabyddiaeth fechan iddo am ei lafur diflino gyda'r canu yn y lie yn wir, y mae yn hynod ddiwyd ac amyneddgar gyda chor y plant. Llywyddwyd gan Mr. LI. Jones (Tisilio), Cwmdar, yn absenoldeb Rhydderch ab Morgan, gweinidog y lie, yr hwn, y mae'n debyg, oedd mewn cyfarfod ymadawol iddo yn Aberafon. Cymerwyd rhan yn y cyng- herdd gan Misses L. Morris, E. Howells, M. Richards, H. Harris, a S. J. Thomas Mri. T. S. Thomas (Telor Dar), Hywel Cynon, B. James, a R. Davies glee party dan arweiniad Mr. W. Theophilus, a chor y lie, dan ar- weiniad Mr. T. Morgan. Cyfeilliwyd yn wir fedrus gan y cyfaill ieuanc, Mr. R. Howells, ¡ Maesgwyn. Cafwyd cyngherdd da iawn ar y cyfan.
LLANTRISANT.
LLANTRISANT. Mae yn dda genyf eich hysbysu fod calon- au y mawrion yn cael eu dylanwadu a theiml- adau mor ddyngarol tuag at y werin dlawd. Nid oes dim yn profi dyn yn wir deilwng yn fwy na'i fod yn dyfod allan i gynorthwyo ei gyd-ddyn mewn adeg o gyfyngder. Trwy yr wythnos ddiweddaf bu Mr. Gwilym Williams, a'i briod, yn myned o dy i dy yn nhref Llan- trisant, ac yn y modd mwyaf trugarog yn ymchwilio i amgylchiadau yr iselradd a chyf- ranu iddynt yn ol eu hangen mewn bwydydd, gwisgoedd, dillad gwelyau, ac arian. Rhy- fedd y fath deimladau diolchgar oedd yn mynwesau y rhai oedd yn derbyn—dosbarth o fobl wedi eu darostwng i dlodi, a hyny yn gwbl oherwydd diffyg gwaith. Gwyddom am deuluoedd mai cyrnaint ag oedd bosibl iddynt ydoedd cael digon at eu cynaliaeth pan oedd- ynt yn gweithio bob dydd yn Hawn ond yn bresenol y mae llawer o honynt yn gweithio haner eu hamser, ac ereill heb weithio dim er ys misoedd. Hefyd, y mae y boneddwr uchod yn rhoddi gwaith i ddegau o ddynion oeddynt yn haner newynu-.hwy a'u teulu- oedd—a'r dir Miskin, ac o gylch y Palas rhai yn y chwareli calch, ac ereill ar yr heol- ydd, am yr hyn y telir iddynt 2s. 6c. y dydd, a chiniaw ragorol bob dydd, mewn lie addas a chlyd sydd wedi ei ddarparu iddynt. Mae tynerwch y teulu uchod yn wir ganmoladwy, ac yn deilwng o sylw cyhoeddus gobeithio y dilynir ei esiampl gan ereill. Nos Sadwrn, Chwefror 2il, bu farw Mr. Joseph Lewis, o'r lie uchod, yn 90 mlwydd oed. Tad ydoedd iJ. Lewis, Ysw., Ty'n-y- eymer Hall, Cwm Rhondda. Gadawodd weddw fethedig a dall a saith o blant i ofidio ar ei ol. Bu yn aelod ffyddlon gyda'r Trefn- yddion Calfinaidd dros 50 o flynyddau, ac yr oedd yn neillduol o selog dros yr achos. Claddwyd ef yn mynwent y Llan, o fewn tua ugain llath i'r fan y bu efe byw agos trwy ei oes. Yr oedd yn ddyn cadhin, nerthol, a gwrol, a pharhaodd felly yn hynod hyd ei ddiwedd.—Gviihjm Llwyd.
Advertising
RHYBUDD.—Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Patris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau glas gwael yn cael eu gwneyd yn fodiau, peleni, phow dwr; ond eto, y maent yn gorfod rhybuddio y eyhoedd yn erbyn mathau gwael o liw gifts sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. Gofaler, gan hyny, am gael y Paris Blue pedair- onglog, yn dwyn enwau I. RKCKITT A'I FEIB- ION yn nghyd a'r aiwyddion maeaachol. 1775.
SARON, CER LLANDYBIE.
SARON, CER LLANDYBIE. AGOR CYFEINFA IFJRAIDD —Nos Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, cawsom y pleser o fod yn bresenol mewn agoriad cyfrinfa newydd Iforaidd, yn nhy Mr. Samual Adams, ad- nabyddus wrth yr enw Prince of Wales, ger y lie hwn. Enw y gyfrinfa newydd yw Tywysoges y Blaenau a barnu wrth yr agwedd bresenol ar bethau, gellid dweyd yn ddibetrus fod golwg lewyrchus arni. Hen fudd gymdeithas ydoedd y foneddiges hon ar y cyntaf; ond yn ei henaint, dewisodd ym- briodi a, Iforiaeth yu hytrach nag ymlwybro yn weddw ar hyd ei hoes. Mae rhif yr aelodau yn 66, a gwerth y drysorfa yn 205p. Oed yr aelodau ar gyfartaledd yn 36, yn nghyd 4 3p. Is. 2c. o arian ar gyfer pob aelod. Go dda, onite ? Hefyd, teg yw hysbysu i swyddogion yr adran gyflawni eu dyledswyddau yn fedrus a deheuig fel arfer. —Ifor ab Ifor.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Y symudiadau pwysicaf yn y dref, ar hyn o bryd, ydyw y drum and fife bands. Ceir un gan y Wesleyaid, un gan yr Annibynwyr, ac un Eglwysig ueu drefol. Fe sonir am ffurfio un neu ddau o'r newydd gyda'r Trefn- yddion Caltinaidd. Yn mhob cwr o'r dref, braidd, nid oes yma ddim ond swn flutes a chwibanu i'w glywed. Dyna ydyw difyrweh plant by chain y dref wrth deithio yn tintei- oedd trwy y dref. Adeiledir yma gapel Seisnig hardd gan yr Annibynwyr yn lled agos at y llall. Cymerodd etholiad le yn y capel Seisnig gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, pan y dewis- wyd pedwar yn fiaenoriaid. Yr oil yn Gymry glan gloew,-Hanesydd,
MERTHYR.
MERTHYR. Cynaliodd Undeb Canu Cynulleidfaol Merthyr a Dowlais, perthynol i'r Trefnydd- ion Calfinaidd, ei ail gyfarfod cyhoeddus eleni yn Penuel, Twynyrodyn, nos Lun, Chwefror y 4ydd.. Agorwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan Mr. J. Owen, Dow- lais; yna, neillduwyd Mr. J. Francis yn gadeirydd. Canwyd y tonau yn y drefn ganlynol :-Alma, Lousanne, "Rhai anwyl aeth o'r blaen," Psalmdon 6, St. Bride, Carmel, Yr Eden sydd fry," Gorphwysgan (Alaw Ddu), Ardudwy, ac Amsterdam. Ar- weiniwyd y tonau cynulleidfaol a'r Psalmdon gan Mr. T. Rees y ddwy don o Swn y Jiwbili gan Mr. J. Roberts a'r Orphwysgan gan Mr. W, Powell. Heb sylwi ar y tonau yn unigol, gwasanaethed dweyd fod y canu trwyddo yn deilwng o'r dosbarth ac y mae hyny yn lawer pan ystyriom y lie enillwyd yn meddwl beirniad cerddorol o safle y di- weddar Ieuan Gwyllt. Edrychai ef ar y cwm hwn fel yn ffurfio canolbwynt ar lecyn o'n byd ag ydoedd mor llawn o alluoedd cor- awl, fel na phetrusai ddweyd y dalient eu cydmaru ag unrhyw ran o'r belen ddaearol. Pan ddeuai i gymanfa ganu Merthyr, dys- gwyliai gael canu da, ac ond yn bur anaml, meddai, y siomid ef. Felly y cyfarfod hwn, yr oedd y tuhwnt i'r dysgwyliadau goreu- yr hinsawdd yn ffafriol, llu o gantorion, adeilad cyfleus, a thystiolaeth barn a theimlad ydoedd fod y canu yn rhagorol. Cafwyd anerchiadau pwrpasol gan amryw, ac yn neillduol gan y Parch. J. Hughes, M.A., Hermon, yr hwn hefyd a ddibenodd y cyfar- fod trwy weddi.—Vaynorfab.
FFORESTFACH.
FFORESTFACH. DAM Vv A IN ANGEUOX,.—Dydd Mawrth, Chwefror 5fed, cynaliwyd trengholiad yn y Marquis Arms, Raven Hill, gan Mr. Strick, erwner y sir, ar gorff Thomas Davies, neu Thomas Dafydd, fel ei gelwid yn gyffredin, glowr, yn Mhwll Weigfach. Yn ol y tystiol- aethau a ddygwyd yn mlaen, ymddengys fod y trancedig yn myned at ei orchwyl y nos flaen- orol, oddeutu deg o'r gloch. Cerddai lawr y slant, a phan o fewn ychydig lathenau i'r level y gweithiai ynddi, daliwyd ef gan fy trams gweigion, pa rai oedd yn dyfod i lawr yn eu eyflymdra arferol. Cafodd ei niweidio yn gymaint fel y bu farw cyn ei ddwyn i fyny. Y rheithwyr, yn cael eu blaenori gan Mr. Williams, Penll wyniddan, a ddygasant rheith- farn o Farwolaeth ddamweiniol." Trwy y ddamwain syml hon collodd y gymydogaeth gymydog dystaw ac heddychol, collodd yr eglwys aelod ffyddlon a gonest, a chollodd ei wraig a saith o blant briod serchog a thad ymgeleddgar. Dydd Mercher, Chwefror 6fed, bu farw, yn ddisymwth, yr hen wraig barchus, Margaret Jenkins, Efailwen, yn 62 mlwydd oed, o enyniad yr ysgyfaint. Yr oedd yn aelod ffyddlon, gyda'r Bedyddwyr yn Calfaria. Claddwyd hi y Sadwrn canlynol, wrth eglwys Gorseinion, lie y blaenodd ei chydmar lii.— Gohebydd.
COFFORIAETH MERTHYR.
COFFORIAETH MERTHYR. Y mae llawer o siarad ac ysgrifenu wedi bod ar y mater uchod, ac anfonwyd deiseb i fyny i'r Llywodraeth er mwyn cyrhaedd yr amcan; ond daeth llythyr at Mr. Simons a Plews yr wythnos ddiweddaf nad oedd ei Mawrhydi yn bresenol, trwy gynghor yr arglwyddi, yn alluog i gauiatau yr hyn a ofynid.
Advertising
JOHN HEATH'S EXTRA STRONG STEEL PENS, with oblique, turned up, and rounded points, Golden Coated, bronzed and carbonized. Suit all hands, all styles, all ages, aud all kinds of work. Over 200 patterns. Sold by Stationers everywhere, in 6d., Is., and gross boxes. The public are respectfully requested to BEWARE OF WORTHLESS IMITATIONS, and to see that they really get John Heath's Pens. Should any difficulty arise, an assorted sample box will be sent per post on receipt of 7 or 13 stamps. Address: John Heath, 70, George Street, Birmingham. 1775.
LLANELLI.
LLANELLI. CAPEL NEWYDD.—Nos Sadwrn wythnos i'r diweddaf mwynhaodd yr aelodau perthynol i Ddosbarth Areithyddol Dynion leuainc Llanelli wledd odidog o amrywiol fathau o ddanteithion ar yr achlysur o ymadawiad Mr. John B. Hughes, un o aelodau ffyddlonaf y gymdeithas uchod, i Goleg Borough Road, Llundain. Wedi gwneuthur cyfiawnder a'r danteithion., cliriwyd y byrddau, a chynal- iwyd math o gyfarfod adloniadol. Etholwyd Mr. J. E. Samuel (Ap Elli) yn llywydd, a Mr. W. Hughes, Builder, yn is-lywydd. Aed trwy y programme canlynol :—Can, Nos Calan," Mr. D. Thomas; pedwarawd, "Latin Verse," Mr. D. Griffiths Ap Calfin) a'i gyf.; darlleniad, Mr. E. Edwards (Caswallon) deuawd, Beti Wyrf," Mri. J. Thomas (Eos Alaw) a William Thomas can a chydgan, Tylwyth y Gwaed," Ap Elli a'r cor Anerchiad gan Ap Calfin can, The slave sale," Mr. Joseph Davies; adroddiad, Mr. J. B. Hughes; deuawd, "A.B.C. Ap Elli a Mrs. Thomas can a chydgan, "Myfanwy y Glyn," M. D. Roberts a'r cor darlleniad, Ap Cainn triawd, The pedlar's trio," Mr. D. Thomas a'i gyfeillion can, "Paham mae Dai mor hir cyn d'od," Mr. D. Morgan (Ceinalaw); anerchiad, Mr. J. B. Hughes deuawd, All's Well," Eos Alaw a'i gyfaill. Darllenwyd y llinellau canlynol gan ApElli:— loan Hugh, y cyfaill Uawen, Am dy anerch mae yr awen Cyn i't fyn'd o vValía geinwen I Gaerludd i fyw Blin, yn ddiau, yw dy golli 0 wiw enwog dref Llanelli, Ond yn llawen y'm, er hyny, Am dy lwyddiant gwiw. Anwyl wyt, a gwiwlon, Yn mhob mynwes dirion Pawb yn N ghapel Newycld gu Sydd yn dy garu'n ffyddlon. Nid yw'r wledd fwyna,som 'r awrhon Ond rhyw arddangosiad hy Ion 0 deimladau pur pob calon Atat, loan syw. Chwythed per awelon cariad, Heb ystormydd geirwon mawrfrad, Arnat beunydd yw dymuniad Pur yr awen gu. Llwyddiant i ti ddringo'n odiaeth Fryniau banog pur ddysgeidiaeth Boed it' gael mynediad helaeth Mewn i fwnglawdd bri. Gwened ffawd yn serchus Arnat, gyfaill hoffus. Draw yn Ngholeg Borough Road, A boed it' glodydd hapus. Os cei rwystrau, bydd yn wrol, D' arwyddair fyth fo "Excelsior;" Yna deui yn anfarwol, Beiddiaf ddweyd yn hy'. Yr ydym dan rwymau arbenig i ddiolch i'r boneddigesau siriol fuont yn gweini am y dull deheuig y dygasant eu gwaith oddiam- gylch. Yr ydym yn dymuno llwydd Mr. Hughes yn fawr yn ngwiad y Sais, a gobeithio y ca iechyd a llwyddiant i ddringo grisiau dysgeidiaeth yn hen ddinas enwog Caerludd. -Gohebyclcl,
SOUTH STOCKTON.
SOUTH STOCKTON. Yr wythnos cyn y diweddaf cyflwynwyd tysteb o marble timepiece ardderchog gan weithwyr y Clarence Iron Works, Middles- borough, i Mr. John Owen, goruchwyliwr y ffwrneisi, mab Mr. John Owen, calchwr, Brynberian, ar ei ymadawiad a'r lie uchod i weithiau haiarn Mri. Bolckow a Vaughan, fel arwydd o'u parch tuag ato. Llanwodd Mr. Owen y swydd o oruchwyliwr am bedair blynedd. Y mae yn dda genyf ddweyd mai Cymry ydyw yr arolygwyr a'r swyddogion o'r mwyaf hyd y lleiaf, heb ond ychydig o eithriadau, yn y gweithfeydd yma, -Gùh,
YSTALYFERA.
YSTALYFERA. Yr oeddwn i yn ol fy adclewid wedi meddwl dangos i chwi a'ch darllenwyr lluosog ychydig o weithrediadau Llwynog y Darian yn Ystalyfera a'r cylchoedd y wythnos yma ond gan fod pethau ereill sydd o fwy pwys na Mr. Madyn yn galw am fy sylw yn bre- senol, goddefwch i mi eu gohiro yn awr— addawaf y cewch hwy eto. Yr hyn sydd yn galw am fy sylw yn fwyaf neillduol y tro yma ydyw "Etholiad Bwrdd Ysgol Llan- giwc." Dyma gwestiwn o bwys i'r ardal a'r plwyf yn gyffredinol, pwy gaiff ein cynrych- ioli ni ar y Bwrdd? Mi obeithiaf y bydd i bethau gymeryd gwell cwrs y tro yma nag a waethant yn yr etholiad o'r blaen. Taflwyd yr holl blwyf i'r penbleth mwyaf y tro hwnw bu rhai yn ymladd am swydd y pryd hwnw, ac yn ymladd y maent byth oddiar hyny, ac o'r diwedd wedi taflu y swydd i fyny i gael amser i ymladd o ddifrif. Y mae yn drueni meddwl fod Mr. Charles Williams a Mr. Jones yn iselhau eu hunain i'r fath raddau drwy ymladd a'u gilydd a gwneyd Ileisiau ca.s ar faes dau newyddiadur o wyth- nos i wythnos. Os nad wyf yn camsynied, nid yw pethau felly yn gyd weddol a'r efengyl. Bellach, frodyr, byddweh heddychol, onide bydd yn rhaid eich anfon eich dau i goleg Risca i ddysgu manners. Mi ddywedais wrthych fod y lie wedi ei dallu i benbleth pwy fu yn achosi y fath beth ? Neb Ilai na phregethwyr Ystalyfera a'r cylchoedd. Ond caniatewch i mi ryddhau un ohonynt, sef Mr. Jones, Pantteg, o fod a, 11aw yn y mater o gwbl mor belled a chreu terfysg. Fe ddarfu i'r bechgyn gredu fod pob awdurdod wedi ei 11 y roddi iddynt hwy i gario yr etholiad allan; curwyd y cloddiau o un pen i'r dre' i'r llall er mwyn cael vote i'w haelodau hwy dirmygwyd a galwyd yr aelodau ereill wrth bob enw aC aeth bechgyn y pwlpud ati o ddifrif ac areith- iwyd nes oedd seiliau y mynyddoedd yn crynu a'r bryniau yn ymsymud, a dylifodd afonydd o lava drewedig allan o'u genau ar benau gaffers, agents, a chaethweision Ystal- yfera, fel eu galwyd dadgysylltwyd yr Eglwys ganddynt; pasiwyd Bill Claddu Mr. Osborne Morgan, a lluaws mawr o bethau ereill. O'r fath drueni na fuasai dynion o stamp y rhai hyn ar loriau St. Stephan. Fe Iwyddodd y bechgyn i gael dau o'u haelodau i eistedd ar y bwrdd, ond erbyn heddyw, pa le y maent ? Y mae y ddau wedi troi eu cefnau ar y bwrdd, ac wedi achosi ein harian i gael eu gwastraffu yn ddiachos, am wn i. Yr oedd yn rhaid i Mr. White gael plans newydd i ysgoldy Ystalyfera, y rhai a gost- iodd 150p. yn fwy na'r rhai cyntaf, a dywedir fod rhai hyny cystal a'r diweddaf. A chan i Mr. White wneyd y fath beth, yr oedd yn rhaid i Mr. Charles Williams votio lOOp. arall i contractors am adeiladu ysgoldy arall er mwyn iddo yntau gael bodyn ddyn enwog. Nid wyf yn dweyd nad yw yr aelodau ereill wedi bod yn euog o'r un troseddau. Yr unif wahaniaeth sydd rhyngddynt hwy a'r rhai blaenorol yw na ddarfu iddynt hwy addaw a pheidio eyflawni. Naddo siwr. Mi hyderaf y bydd i'r bechgyn a'r eadachau gwynion y tro yma wneyd eu dyledswyddau gyda mater- ion y deyrnas nad yw o'r byd hwn, ac y caiff y plwyfolion chwareu teg i osod y personau a gnont i edrych ar ol materion y Bwrdd Ysgol- Yr wyf yn gobeithio na bydd eisieu etholiad o gwbl, ond y dewisir personau cy- mhwys heb fyned i gost o etholiad. Fy nghydgaethweision, pwy sydd deilwng o gael eu hail ddewis ? Credaf fod un mewn cysylltiad a'r gwaith yn deilwng, sef Mr. David Lewis. Y mae hwn yn fachgen ar- dderchog iawn, er iddo gael ei daenellu a'i alw yn yn freethinker, a'i drochi a'i alw yn infidel, y mae yr aelod goreu, yn ddiamheu, sydd ar y Bwrdd.— Tinman.
GLYN EBWY.
GLYN EBWY. Dydd Sul, Chwefror 3ydd, dechreuodd y Parch. J. Morris, gynt o Langollen, ar ei weinidogaeth yn Libanus, Pontygof. Hyder- wn y bydd ei ddyfodiad i'r eglwys yn fendith iddi hi a'r gymydogaeth yn gyffredinol. Drwg genym hysbysu i'r eglwys gladdu un o i diaconiad, sef Mr. Watkin Walters ddi- wrnod eyn ei ddyfodiad Ïr lIe. Gwr flyddlou a duwiol oedd yr ymadawedig, ac yn un a fawr berchid gan bawb. Yr oedd yn di- hoeni er ys rhai blynyddau gan yr asthma. Yr oedd yn bryderus am gael gweled sefydl- iady gweinidog newydd, "ond ewyllys yr Arglwydd a wnelir," meddai, felly cafodd fyned oddiwrth ei waith at ei wobr.— Puntan
ABERAMAN.
ABERAMAN. Y mae y lie hwn fel pob lIe arall, a'i gy- meryd yn gyffredinol, yn cael teimlo, i radd- au helaeth, y canlyniadau ofnadwy sydd yn deilliaw oddiwrth farweidd-dra masnach. Ie, md gormod fyddai dweyd fod yma u«ein- lau os nad canoedd yn gwybod beth ydyw bod mewn angen bara. Ddarllenydd, meddwl am fynud am denlu yn cynwys chwech neu saith o blant a dim ond un yn enill ar eu cyfer, a gweled hwnw yn gadael ei fwthyn ar foreu oer tua'i waith heb damaid ° y,mbor,th y" y ty i dori angen y rhai bach ond yr hyn fuasent yn gardota yn ystod y dydd Dyna i ti ddarlun o ugeiniau o deuluoedd yn yr ardal boblogaidd hon. Dichon y bydd rhywun yn barod i ofyn paham na fuasent yn darbod mewn llwydd- iant ar gyfer aflwyddiant. I hyn gellir ateb fod y teuluoedd mwyaf darbodus a'r gweith- wyr mwyaf diwyd, yn herwydd marweidd-dra masnach am gynifer o flynyddau yn olynel wedi eu llwyr lethu gan yr amgylchiadau cyfyng presenol i ddyfn dlodi ac aAgen. Eta nid ydym am ddweyd nad oesyma deuluoedd nad ydynt yn gofalu am y dyfodol mewn adeg o lwyddiant, ond yn dala llygoden a'i YJ y dywedir. Eto dyma y dosbarth sydd yn ei gwneyd hi oreu o ddigon yn y dyddiau marwaidd yma, oblegyd pan y mae llawer gwraig ddarbodus a gweithgar bron suddo i'r bedd o dan bwys tlodi, eto y mae yn rhy wylaidd i ymofyn cymhorth. Ceir gweled y dosbarth uchod yn marchog ar gefn eu haerllugrwydd i bob man lie mae cynorth- wy yn cael ei roddi, nes, mewn gwirionedd, y mae yn well arnynt yn awr nag yn yr amser dda; ie, yn well nag erioed, oblegyd caiff y gwr ddigon o ffrwyth y brag, y plant eu gwala o ymborth, a hwythau yn cadw o ddyled. Y mae yma ddosbarth arall eto yn rhedeg i ymofyn cynorthwy, sef y rhai sydd uwchlaw angen; ond rhag eich blino a meithder caiff y rhai hyn lonydd y tro hwn. —Amaawy,
RHYMNI.
RHYMNI. TABERNACL.—Cynaliwyd cyfarfod llenydd- ol yn vestry y capel uchod nos Sadwrn, Chwefror 2il, dau lywyddiaeth y bardd cadeir- lol, loan Gwent. Cymerwyd rhan yn y cyf- arfod gan amryw o fechgyn a merched Twyn- carno, ond y mae yn rhaid enwi y rhai can- lynol fel wedi cymeryd rhan neillduol: Mr. J. Griffiths, yr hwn a ganodd ddwy waith, ac a adroddodd ddwy waith hefyd yn dda iawn. Mr. D. Abraham, yr hwa a ganodd "Yniach i ti Gymru a "Hen Wlad fy NIla1da"- 4"n Lewis, yr hon a ad- roddodd Cyfnewidiad," y tu hwynt i ddim a glywsom erioed. Dadl, Y 11 wynog, y golomen, a'r fran," gan L. Lewis, Ellen Morgan, a Mary Thomas. Enillodd Ellen Morgan hefyd lyfr swllt o'r enw Forty popular Scotch tongs, am ganu yn oreu Gwroniaid gwlad y gan." Rhanwyd v wobr am y tri phenill goreu i waith dur Rhymni, rhwng Mri. Thomas Morris a E J Evans. Y beirniad oedd y Parch. E Dulaia Lloyd. Cafwyd cyfarfod da iavva. Bydd y nesaf nos Sadwrn, Chwefror lOe-A DAELITH. Traddodwyd dadith yn nghapel B^nhyfryd nos Fawrth, Chwefror 5ed, gan Mr. S. Roberts, ar "Celtiaid Prydain." Llywyddwyd gan y Parch. T. T. Jones, -T (_ O. CYNHERDD.— NOS Iau, Chwefror 7fed, cynaliwyd cyngherdd yn yr Ysgoldy Cenedl- aethol er budd Mr. D. B. Evans. Llywydd- wyd gan Heman Gwent— the right man in the right place, os mai cerddor medrife ddylai lywyddu cyngherdd. Chwareuwyd ar