Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

GRTJFFYDI) LLEWELYN: (

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GRTJFFYDI) LLEWELYN: ( NO," EL. llHAGARWEINIAD. T mae plwyf Llanfabon yn enwog er's i cesau am yr enwogion a gawsant eu geni ynddo. Nid ydyt:t yn lluosog mewn rhifedi, y mae yn wir-rhywun bob dwv neu dair canrif; ond yr oedd gwir fawredd yn per- thyn i bob un ohonynt. Nid yw yn blwyf mawr, ond hytrwch yn fychan o faintioli, a gellsr canfod milldiroedd o wlad ffrwyth- lawn oddiar ei fynyddau dyrchafedig. Y mae yn setyll ar derfynau dwyreiniol sir Forganwg, ac yn ffioio a gwlad y Saeson. Saif rhyw un filldir ar bymtheg i'r gogledd o Gaerdaf, neu fel ei gelwir hi fwyaf cyff- xedin Caerdydd, prif dref y sir; y mae y brif ffordd o Gaerdydd i Ferthyr Tydfil yn rhedeg trwy ei ganol. Y mae Eglwys y Plwyf yn sefyll ar fryn bychan ar derfynau deheuol y plwyf. Yn y fan, ychydig islaw iddi, y mae nant fechan o'r enw Cydidwg, yr hon sydd yn rhanu rhyngddo a phlwyf Eglwys Elen, ond a elwir yn awr Eglwys Elian. Mewn rhos yn gyfagos i'r Llan, y mae nant frchan yn tarddu yr hon a elwir uant Mabon, yr hon a red i'r goriwaered -am ryw filltir, lie mae yn aberu i nant, yr hon a elwir naut Mafan. Yn y man lie y mae y nentydd hyn yn eydgyfarfod y saif palasdy ardderchog, g,da'i binaclau dyrchafedig. Wrtb syllu ar ei furiau llwydion, cludir ni yn ol ar aden dychymyg i'r gorphenol. Llawer traddodiad sydd ar lafar gwlad am y dygwyddiadau a gymer- asant le yn ac o amgylch yr hen balasdy ardderchog, y rhai ni fyddai o un dyben i ni fyned i'w olrhain yn awr, gan na fydd- ant o tin budd i neb tuallan i'r plwyf; ond er hyny, dygwyddodd un amgvlchiad yno ag sydd rhaid i ni ei gofnodi yma, gan mai yn yr hen balasdy y mae ein nofel yn cychwyn, fel y cewch weled yn y benod ddilynol. PENOD I. Yr oedd yr Yswain Williams, o Aber- nant, yn cadw llawer o feibion a merched yn ei wasanaeth. Yr oeddynt braidd oil yn ffodus am "gael gwyr, unwaith y deuent i'w wasanaeth. Gan nad pa mor ddibris a disylw y byddai llanciau y gymydogaeth o ambell eneth, unwaith yr elai i aros i balas Abernant, byddai mor sicr o gael gwr cyn pen blwyddyn a bod deuddeg ceiniog yn swllt. Yr oedd wedi myned yn ddiareb drwy y wlad am ryw dy gwair oedd ger- llaw y palas, ac mor gynted ag y canfydd- ent un o'r morwynion a'i chariadfab yn yn myned iddo, dywedent y buasai yn sicr o gaei ei rhwydo "yn rhwyd y ty gwair." Modd bynag, tua'r flwyddyn 18—, daeth yno eneth >euano, genedigol o Bont-y-gwr-1 drwg, sir Aberteifi, i wasanaethu. Yr oedd hon yn feddi ,nol ar brydferthwch annghyff- redin; dawnsm iechyd ar ei gruddiau porphoraidd; o dan bar o amrantau duon y pel drau dau lygad angvlaidd; pan yn cerdded hynodid pob cam o'i heiddo gyda bywiogrwydd ac hoenusrwydd. Nid rhy- fed. i i'r son ymledu trwy yr holl fro am y fath deg-tch annghyffredin, ac nid rhyfedd fod lluaws o ymgeiswyr am ei llaw. Yn mhlith yr amrywiol ymgeiswyr yr oedd un o'r enw Gwilym, pa un a ystyrid yn dipyn o fardd; ac yn wir, yr oedd hithau yn talu mwy o sylw iddo ef na neb arall o'r ymgeiswyr Nid oedd diwedd ar ganiadau serch y gwr hwn. Yr oedd yn ei gosod hi all an ymerodres ar deyrnas prydfertbwcb, weithiau; bryd arall byddai yn rhagori yn mhell ar lili y meusydd, o ran ei thegwch. Brithai y geiriau "angylfs fy nghalon," a "fy anwylyd" ei gyfansoddiadau. Nid rhyfedd i'r ymgeiswyr ereill i wangaloni wrth glywed son am lwyddiant y bardd, a gadael y maes iddo ei hun gyda'i anwyl Elizabeth. • Ond yn boeth y b'o aur y felldith. Yn faan ymddangosai fel pe wedi cael llwyr ^idigon ar ei gwmni a'i ganiadaa gwag-ffol, ni theimlai yr un cynesrwydd ato a chynt; y gwir am dani, yr oedd wedi myned yn well ganddi gwmni pawb na'i gwmni ef. Ac yn y eyfwng hwn anturiodd un arall ilrimaes, a elwid William Robert Llewelyn, yr hwn oedd yn byw mewn lie o'r enw Y Felin Facb, ac am hyny gelwid ef yn iaith glasicalaidd yr ardalwyr "Wil o'r Felin Fach," a thafiodc1 y bardd o orsedd calon yr eneth yn gyfangwbl. Y mddaflgos- ent yn ymhyfrydu yn nghwmni y naill y Hall, rhodient allan fraich yn mraich yn hwyr y dydd ar hyd y meusydd gwyrddion, weithiau eisteddent ar ael y bryn bychan o dan gysgod derwen dewfrigog gan ym- bleseru wrth wrando ar furmur y gornant fechan pan yn cusanu godreu y bryn ar ei thaith yn eyflymu, tua'r eigion. Yn awr ac y man elywent hum aneglur y gwenyn pan yn dychwelyd adref ar ol llafur a lludded y dydd. Un noson pan yn eistedd fel hyn yn nghanol swynion hwyrddydd haf, dywedai Wil wrth Elizabeth:- 0 mor ddedwydd yr wyf yn teimlo .fy hun pan yn nghwmni yr un ag wyf yn garu fwyaf ar wyneb yr holl greadigaeth." "Gobeithiaf," atebai hithau, "eich bod yn ddidwyll." Elizabeth," atebai yntau, "byddwn [oddlon i rdddi fy einioes i lawr drosoch llnrhyw awr, pe byddai angen am y fath beth." Rhai hynod am eu twyll yw y meib- ion, yn gyffredin, nid bob amser y maent yn siarad yr hyn maent yn feddwl," atebai hithau. "Gallwn feddwl nad allwn fyw am fynud pe bawn yn colli fy angyles; a phe gallwn fyw, ni fyddai fy einioes o un cysur, oherwydd ynoch chwi yr wyf yn meddwl gosod sylfaea- fy nedwyddwch. Na, ni fyddai y byd ddim ond anialwch gwag ac erchyll i mi pe y collwn chwi." Rhaid i ni beidio a dilyn eu helyntion carwriaethol yn mhellach, gan na fyddai o un dyddordeb i ni. Digon yw dweyd fod eu cariad yn ymgryfhau at eu gilydd ar ol pob cyfarfyddiad, a theimlent ymadael yn fwy anhawdd bob tro. -? » ■» 0{(- Yn mhen ychydig fisoedd wedi y nos- waith uchod, ar foreu hyfryd a heulog yn mis Medi, o fewn i Hen Eglwys y Plwyf, gellid gweled dau yn gwynebu o flaen allor Hymen, ac yno gerbron Duw a dynion yn tyngu bythol lw o flVddlondeb i'w gilydd. Will ac Elizabeth oeddynt, a gellir cy- mh\tyso geiriau y bardd gyda phriodoldeb atynt I Erioed ni unwyd dan yr iau Ddau gydmar mor gytun. Nid oedd dim ond dyfodol dysglaer yn ym- ddangos o'u blaft, a haul llwyddiant yn gwasgaru ei belydrau ar bobpeth. Ychydig feddyliodd William, y boreu hwnw, y buasai iddo lethu y fron hono & gofid, a gwneyd ei bywyd yn ddigysur, ac i fod yn achos iddi ddisgyn i feddroi anamserol. Pe buasai rhywun ond dweyd hyny wrtho, ni chredai ef foment. Na; ni feddyliodd erioed am y fath beth; ond fel y dywed yr hen ddiareb, Ni wyr dyn ei dynged." Ond dyna y seremoni briodasol drosodd, fel yr ymddengys wrth fod. Cloch y llan yn seinio, Gan ddatgan dros y byd Fod Hymen wedi c'lymu Y ddau ddyn glan yn nghyd. Dychwelasant i balasdy Abernant i gael boreufwyd, a threuliwyd y dydd mewn gorfoledd a llawenydd. Yn yr hwyr, aethant i Wyl Mabsant ag oedd yn dechreu y noswaith hono yn Nhafarn yr Eglwys Nid yw yn hysbys i mi pa beth oedd achos dechreuol y gwyliau hyn, nac hefyd i ba ddyben y sefydlwyd hwy ar y cyntaf; ond yr oeddynt mewn bri mawr er's pedwar ugain a chan mlynedd yn ol. Yr oeddynt yn parhau am l'yw wythnos o ameer, ddydd a nos, canys nid oedd son am y fath air a "stQP tap y pryd hwnw hyd nes y byddai y cwmpeini yn barnu yn angenrheidiol eu hunain. Mawr oedd y bwriad am weled yr wyl yn dyfod a'i thro oddiamgyleh gan fich a m.1wr, gwreng a boneddig Gwyddom am un hen batriarch ag ydoedd yn rhoddi deunaw ceiniog yr wythnos heibio bob wythnos trwy y flwyddyn go- gyfer a'r wyl, er mwyn cael ysbri; a dygwyddodd i'r hen frawd hwn farw o fewn i wythnos i adeg cynaliad yr wyl; a phan aethpwyd i chwilio ei flwch, cafwyd ynddo ddigon o arian i dalu holl draul ei gladdedigaeth. Pan ddelai y flwyddyn a'i thro oddiamgylch, gellid eu gweled yn tynu tuag yno yn lluoedd; ac yma yn mhlith ereill y eyfeiriodd Will ae Elizabeth eu camrau, i dreulio nos gyntaf eu priodas Ar ea gwaith yn dyfod i mewn, derbyn- iwyd hwy gyda bloeddiadau byddarol o longyfarchiadau gan y cwmpeini ag oedd wedi ymgynull yno; ao am beth amser, nid oedd braidd air idd ei glywed ond "Llawenydd ac hawddfyd o'ch priodas." Yn fuan, symudasaht o'r ystafell hou tua chymydogaeth ystafell y dawns, i gael ychydig o ymarferiad corfforol trwy olwyn- iau eu cyrff o flaen y delyn. Cyn hir, dechreuodd y boneddigesau .flino, a barn- wyd mai gwell oedd cael ychydig seibiant, er mwyn iddynt gael bwrw ychydig ar eu blino; a thra yr oeddynt hwy yn ym- orphwys, er eadw yr wyl i fyny, ac hefyd er mwyn cael ychydig amrywiaeth, dech- reuodd rhai alw am gan, a dyma glamp o frawd, pa un ag oedd natur wedi bod yn hynod wastraffus ar y clai yn nghyfarisodd- iad ei dabernacl, yn cynyg ar fod iddynt gael can Gwilym y bardd. Yn mhen enyd, dyna Gwilym. ar ei draed ae wedi carthu cryn dipyn ar ei geg, hysbysodd ei fod yn myned idd eu hanrhegu a chan newydd ei chyfansoddi. Testyn y gan oedd Priodas Will Robert trwyn hir, a Betty y snuff." Nid oes eisieu ond cul agor un llygad er mwyn gweled pwy oedd gwrthddrychau ei gan. Mae yn debyg mai ar nos Sul Pastai y Ddraenen (tafarn o'r enw ag sydd yn y plwyf) y trechodd Will Gwilym gydag Elizabeth; ac wrth fod Gwilym ddim yn foddlon ei cholli, tarawodd Will hi rhyw- fodd yn ochr ei phea. Rhoddwn un penill er engraifft — A'i enw Will Robert ddiobaitli, (Didoraeth, ysywaitli, r' wy'n s6n), Pe y gwelwn i y llugyn un llygad, Mi ymaflwn mewn crymaid o'i grOn, Am iddo, nos Sul Pastai'r Ddraenen, Ymaflyd mor gymen am Gwen. Dangosodd ddrwg falais, fel filain, Trwy phwnian hi'n ochr ei phen. Wrth son am ei briodas, dywedai:— Er mwyn i'n gael neithior difyrus, Cysurus, o fewn idd ei bwth, Caiff chwareu'n eu priodas wr enwog, John Arthur fawr greithiog a'i grwth. Nid oedd cyfansoddi y gan ar y dechreuad, a'i jchanu ar y noswaith hon, yn ddim ond ymddial ar Will am ddwyn Elizabeth oddi- arno, ac arni hithau am ddewis Will o'i flaen ef; ond o dan ddylanwadau "merch Syr John a'i gweniadau," pasiodd y cwbl yn rhagorol, a gellid meddwl, ar ei waith yn gorphen canu, ei fod yn eu bendithio a rhywbeth y tuhwnt i'r cyffredin, gan y bloeddiadau a'r euro dwylaw a'r organmol- iaeth a gafodd y gan a'r cantwr. Treul- iwyd y gweddill o'r nos yn y dull adeiladol (?) a enwasom, sef trwy yfed cwrw, ys- mocio, a dawnsio hyd y boreu. Oideutu dau o'r gloch y boreu, barnodd Will a'i gydmares mai doeth fuasai iddynt i gychwyn tua'i gartref ef; a chyrhaeddasant yno yn ddiogel. Rhaid addef nad ydoedd Will yn "feddw mawr," fel y dywedir; ond eto, yr oedd ei ysgogiadau yn profi fod y cwrw wedi effeithio, i raddau, ar gymydogaeth ei benglog, canys er fod yr heol yn un lydan, yr oedd ar y noson hono yn lied gul i William, ac yr oedd ei ddillad yn profi ei fod wedi bod yn cusanu y terra firma yn lied fynych; ond pasiodd y cwbl fel ychydig o lawenydd a difyrwch ar nos gyntaf wedi'r briodas. Ha! pe y gallai Will ond codi y lien er cael cipolwg ar ddyfodol ei fywyd, nid ydym yn meddwl y buasai yn gallu cysgu yn dawel iawn y noswaith hono, oherwydd yr oedd y noswaith hono yn ddechreuad llechres o ddygwyddiadau iddo ef a'i wraig ieuanc. Lluaws o ieuenctyd sydd wedi dechreu fel hyn ar nos eu priodas yn y dafarn, ac yna yn cael bias arno a'i gwmpeini a'i ddifyrwch, nes myned i gyrchu yno yn ami. Nid cymaint er mwyn y cwrw, ond er ychydig o lawenydd a difyrweh; ac wrth fod hir gyrchu y mae bias at y ddiod yn dyfod, teimlant nad all- ant yn un wedd fyw hebddo, ac wrth roddi yr awenau idd eu blys, yn myned yn feddwon; a chyn pen fawr o amser, yn colli eu gwaith a'u cymeriad, nes y maent yn myned yn hollol ddibris ohonynt eu hunain, ac nid ydynt yn prisio pa beth a wnant er mwyn cael arian i gael cwrw— troant yn lladron, ac feallai yn llofruddion, ac o'r diwedd y maent yn llanw beddau y meddwon a'r llofruddion. Y mae y ddiod yn felus am ychydig, ond yn y diwedd y mae yn troi yn sarff i frathu y fynwes a'u cofleidia. Y mae dyn, ar ol unwaith ym- werthu el hun yn gaetkwas i Bacchus, yn gostwng ei hun fwy na thriugain a deg ar raddfa dynoliaeth. Dylai yr areithfa, yr argraffwasg, &c., ymosod ar y gelyn hwn, a pheidio rhoddi i fyny nes ei weled wedi ei alltudio allan o'n gwlad. (I'w barhau).

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

YR ARSYLLFA.

[No title]