Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
GAIR 0 L'ERPWL.
GAIR 0 L'ERPWL. Y CALEDI YN Y DE. —Bwriedir cynal cyng- herdd nos Fawrth nesaf, sef y 19eg cyfisol, at yr achos uchod, yn yr Albert Hall, Scotland Road. Cadeirydd, Mr. Wm. Simpson. Nodd- wyr, Edward Whitley, Ysw., Y. H., a nifer luosog o foneddigion y dref. Cewch y manyl- ion yr wythnos nesaf, gydag enwau y cantorion a swm yr arian a ddaw i mewn. Mae llawer yn haeru yn L'erpwl na fyn y Deheuwyr weithio pan fydd cyfie, ac er mwyn argylioeddi y cyhoedd fe ddylai Morien. ysgrifenu llythyr er symud ymaith y dyb ddrygionws a fodola ar feddyliau yr xtpper ten yn mhentref y llongau. Mae digon o ragfarn yn bodoli yn barod, heb gynyrchu ychwaneg trwy ddylanwad anwiredd, a thrwy hyny droi ffrwd y cydymdeimlad yn erbyn y werin ac o blaid y sawl a hoffant ormesu a thra awdurdodi yn ormodol ar y gwan. Hoffwn weled y dydd yn dyfod pan bydd y werin weith- gar yn Nghymru yn teimlo yr urddas a berthyn iddynt, a'u bod yn rhywbeth amgen na gwag- nodau yn y byd masnachol a chymcleithasol. Trwy fod yn wasaidd y disgynasom i lawr, o .Y ganlyniad, rhaid wrth benderfyniad a gwroldeb i adenill yn ol yr hyn a gollasom, neu a gollodd ein rhagtiaenwyr yn yr oes o'r blaen. Mae gan y bobl gyffredin fwy o wybodaeth ymarferol a dysgeidiaeth ysgolion nad oedd yn med(liant ein tadau, fel y mae yn ddigon rhesymol i edrych ,} am rywbeth mwy yn awr nad ellid ddysgwyl gael yn y dyddiau gynt. Mae y cyfleusdeiau yn ymyl, dim ond cael cydweithrediad a chael y werin i, deimlo fod yn rhaid codi y tlawd o'r llwch, a'r angenus o bwll y domen. Dylid dysgu y wers fod caredigrwydd yn dechreu gartref, yr hyn sydd yn cadarnhau fod yn ofyn- 01 ar i bob dyn lanhau o flaen ei ddrws ei hun yn gyntaf cyn gwaeddi ar neb arall. Er cymaint rhif ein symudiadau dyngarol a ffurfiau ereill yn ein gwlad, nid oes hyd eto yr un gymdeithas sefydlog tuag at ddyrchafu safle y gweithwyr. Beth bynag ddaw o bethau yn y dyfodol, mae yn ddigon sicr fod yn rhaid cael rhywfath o gyfnndeb cydweithredol i gyrhaedd amcanion sydd heb eu cyrhaedd hyd yma, a lied debyg na ddeuir o hyd gafael i'r cyfryw heb gael ohwyldroad cyffredinol, er cael ymwared oddi- wrth y ffurfiftu presenol sydd mewn hndolaetli. Gall y daw rhyw dro wedi cyrhaeddo pethau y pwynt mwyaf eithafol mewn dyryswch. Y COR MA WE.—Deallwyf fod sibrwd tuag Aberdar am godi dau gOr erbyn cystadlenaeth Eisteddfod Birkenhead. Byddai ffurfio dau g6r yn un o'r camsyniadau mwyaf aIJwch wneyd, am y byddech, drwy hyny, yn tori rhwyg yn y gwersyll a gwanychu nerth eich byddin. Yn y He cyntaf rhaid cyineryd i ystyriaeth y treuliau mawr i deithio, pa mor rad bynag y gellir trefnu ymdaith y cor. Bydd wythnos yn cael ei cholli, oblegyd fe fydd yr eisteddfod i barhau am .Y bedwar diwrnod, o leiaf. Mae yma amrywiaeth o destynau o fewn cyrhaedd y cor heblaw y prif ddarn am y wobr o 150p. a thlws aur i'r arwein- ydd. Yn 'ail daw "Teyrnasoedd y ddaear," gan J. A. Lloyd; "Pa fodd y cwympodd y cedyrn," gan D. Emlyn Evans, a 0 great is the depth," allan o St. Paul, gan Mendelssohn gwobr, 60p. a thlws aur i'r arweinydd rlxif y heb fod dan 60. I gor o ddynion, heb fod dan 40 na thros GO mewn rhif, a ganont yn oreu y darnau canlynal; Father of Heroes," gan Dr. Calcott; Ymdaith y Mwnc," gan Dr. Parry a "Difyrwch Gwyr Harlech," yn Seis- nig, o drefniant newydd Mr. J. Skeaf, L'erpwl gwobr, ugain gini a thlws i'r arweinydd. Am- ryw o destynau a gwobrwyon da, lie gall aelod- au unigol o'r cor gystadlu, ac wrth hyny enill buddugoliaeth ac enwogrwydd. Hoffwn argraffu ar feddyliau fynghyfeilliona'mbrodyryrHwntws nad chwareu plant fydd dyfod mor bell oddi- cartref heb enill y gamp, a byddai colli nid yn unig yn goUed arianol, ond yn waradwydd bythol ar ganu corawl y Deheudir. Y chwi flaenoriaid yn y gwahanol ardaloedd, etholwch y tebycaf i Caradog dhonoch, a phenderfynwch ddysgu yn dda, er bod yn barod i dderbyn plant Eryri, ac hwyrach rhai o deulu Hengist, wedi dyfod ohonoch mor bell o'r Deheu hyd at drothwy Lloegr. Rhaid i mi ddweyd fy nheimlad, na fynwn, er dim, eich gweled yn dyfod i'r gystadl- enaeth a cholli, am y byddai wedi hyny yn an. mhosibl gosod taw ar geg llawer lolyn. Os i'r frwydr y dewch, cofiwch am gynghor Cromwell i'w filwyr, sef cofio cadw y pylor yn sych. Gall y bydd fy nodiadau. yn dderbyniol gan y frawd- oliaeth gerddorol, ac os na fyddant, mi obeithiaf na fydd i neb ohonynt ffromi am i mi ymgymer- yd i wneyd yr hyn a wnaethum. Nid oes dim cefnogol yn y cyleh masnachol yn werth i'w gyhoeddi, hyny yw, dim un math oadfywiad fel ag i ddwyn bywyd newydd i'r byd. Hwyrach pe gellid terfynu y cythrwfl yn y Dwyrain, y daw yn rhywbeth gwell. CYMRO GWYLLT.
[No title]
Tybir y bydd y doll ar y te i gael ei godi yn uwch cyn bo hir, a hyny, feddylir, am fod rhagolwg am ryfel.
ORIEL Y BEIRDD.
ORIEL Y BEIRDD. DARLUN RIIIF XX. Gwp canol oed, o daldra cyffredin, ae oym- ddangosiad aristocrataidd. Ei wallt sydd o liw gwineu, a'i farf yn gochlyd. Medda wyneb llawn a gwridgoch, talcen uchel, llygaid treiddgar, a thrwyn Rhufeinig. Cerdda yn fywiog, ac mor syth a phost telegraph. Gwisg-a frock coat ddu, cadach. gwddf o'r un lliw a baner lieddwch, ag het Jim Crow, gyda tassel arni. Pan ar ei bererindod y mae ganddo ffon felen yn ei law; a rhwng pobpeth y mae arno agwedd glerigol ddigon. Y mae yn gymdeithaswr difyrus, ac nid oes dim rliodres yn perthyn iddo. Y mae yn siaradwr llithrig ac hyawdl, a plian yn anerch ei gydgenedl y mae yn llawn o dan Cymroaidd. Nid oes un bardd yn Nghymru yn fwy selog nag efe dros yr hen ddefodau Cym- reig. Fflangolla y pwyllgorau hyny sydd yn rhoddi eadair yr eisteddfod i'r cerddor; a mwy na hyn, fflangella y pwyllgorau sydd yn cynyg cadair am bryddest. Y mae am gadw yr eisteddfod yn ei hurddas cynhenid, ac mae i'w gan- mol am hyn, a mawr dda pe bae ganddo ragor o ddysgyblion. Bu y bardd hwn yn cymeryd rhan flaenllaw iawn yn am- gylchiadau llenyddol y De flynyddau yn ol; a bu yn un o'r prif gynhyrfwyr ar faes y GWLADGARWH unwaith. Ond y mae er's blynyddau bellach wedi cilio i ymneillduedd, a'r son ddiweddafgafwyd am dano oedd ei fod yn troedio llwybrau Carnhuanawg mewn rhyw gwr an- nghysbell o wlad Brychan. Fel bardd, saif yn y dosbarth canol o feirdd y Deheudir. Nid oes dim yn feiddgar ac aruchel yn ei farddas. Yn y dosbarth telynegol y gellir ei restru oreu. Mae yn canu yn syml a dealladwy iawn, ac yn y cyffredin yn dyner ac effeithiol; ac mewn caneuon gwladgarol y mae fel yn neidio uwchlaw ei level gyffredin. Mae wedi canu rhai darnau a thipyn o hyd ynddynt, ond byrdra ydyw prif nod- wedd ei weithiau. Pan yn canu yn faith y mae ei- awen yn sychu, ac o ganlyniad esgyrn sychion sydd i'w ddysgwyl. Mae y bardd hwn wedi cystadlu llawer yn nosbarth y marwnadau a'r caneuon clod, ac wedi enill llawer gwobr yn y maes toreithiog hwn. Clywsom un o brif feirdd y Deheudir yn rhestru can o glod o eiddo y bardd hwn yn brif fawlgan y ganrif hon. Ond rhaid yw cael dogn lied dda o fel gjda'i' haoritul hwn cyn y gellir llyneu yr athrawiaeth. Mae y bardd hwn yn selog iawn dros y mesurau caethion, ac ni fyn wyro dim oddiwrth eu caethder. Er yn gynghaneddwr o broffes, nis gellir dweyd ei fod ef yn ganwr llithrig iawn yn y caeth fesurau. Nid yw y gynghan- edd i'w gweled yn cymeryd ei lie yn naturiol ganddo, y mae gormod o olion ymdrech ar ei gynghaneelclion-torfynglu a scriwio geiriau a meddylddrychau i foddio y gynghanedd. Ond wedi y cwbl, a chymeryd y bardd hwn .yn y caeth a'r rhydd fesurau, y mae yn dal safle uchel yn mhlith yr urdd fel canwr gwastad a chyflawn. Er ei fod yn gefnogydd gwresog i eisteddfodau ae ymdrechion llenyddol, barna fod gwell cyfansoddiad- au wedi eu cynyrchu yn annibynol ar gystadleuaeth. Gall ei fod yn iawn, ond nid yw pawb yn barod i dderbyn yr athrawiaeth hon fel un iachus. Mae gweithiau y bardd hwn yn lied adna- byddns yn y De. Cyhoeddodcl egin ei awen flynyddau yn ol, a bu yn golygu egin a grawn rhai o'i gydfeirdd ar ol hyny. Heblaw hyn, y mae llawer o'i ganiadau, wedi ymddangos yn y gwahanol ZD newyddiaduron. Fel beirniad, y mae wedi gwasanaethu mewn llawer o eisteddfodau y Deheudir. Y prif fai ynddo fel beirniacl ydyw ei fod yn llygadu mwy ar y wisg nag ar y corff—celfyddyd yn neidio i'w glorian o flaen natur; a thrwy hyn y mae perygl i'r "esgyrn sychion" orbwyso "ysbryd y peth byw." Ond ar y cyfan mae iddo gymeriad da fel beirniad, a phawb a chyflajvn ymddiried ynddo fel un a wna gyfiawnder can belled ag y caniata ei ddeall a'i gydwybod. Huw MORIS.
[No title]
AGOR CYFRINFA NswYDD.—Dymunir hys- bysu y byddir yn agor cyfrinfa newydd yn y Mount Pleasant Inn, Cwmaman, o Urdd yr Alffrediaid, prydnawn dydd.Sadwrn, y 23ain cyfisol, i ddechreu am 3 o'r gloch.-Snmuel Davies, Ysg.
Advertising
PELENIHOLLOWAY—Iechyd a Hoenusrwydd.— Mae yr afu mwyaf iach ar lsrydiau yn ddarostyng- edig i afreoleiddiad y peiriant treuliol, ond gellir ar unwaith ddychwelyd trefn trwy gymeryd y Pelenau byd-enwog hyn, y rhai nis gellir eu can- mol yn rhy uchel. Byddai dogn yn awr ac eil- waith yn llesiol i bawb, ond dylai dyn claf gymeryd cwrs o honynt yn rheolaidd. Mae yn rhyfeddol canfod fel y cryfheir yr archwaith a'r treuliad gan y Pelenau hyn; a'r gallu a feddianant i ddwyn y trefniant corfforol i weithrediad iachus. Ychwan- egant at gryfder gewynol a nerth meddyliol y rhai a'u defnyddiant. Mae Pelenau Holloway yn ami yn gwellhau clefydau y peiriant treuliol ar ol i bobjmoddion arall fethu, ac y maent yn neillduol wasanaethgar mewn achosion o anhwylderau yr afu a'r arenau. 366
Y SENEDD.I
Y SENEDD. I TY YR ARGLWYDDI.—Dydd Gwener. Cyfarfu eu harglwyddi am bump o'r gloch. Y CADOEDIAD. Rhoddodd Arglwydd Stratheden a Camp- bell rybudd y byddai telerau ei gynyg dydd Llun fel y canlyn Yn mam y Ty hwn, fod amodau y cadoediad rhwng Rwsia a'r Porte, yn gyfryw fel ag i gyfiawnhau Llyw- odraeth ei Mawrhydi i gymeryd pob rhag- ocheliad i annghefnogi drylliad cytundebau 1856 a 1871." TY Y CYFFREDIN.—Dydd Gicener. DIENYDMAD Y PWYLIAID GAN Y RWSIAID. Mr. Bourke, mewn atebiad i Mr. Owen Lewis, a ddywedodd fod y Llywodraeth wedi derbyn adroddiadau o Gaereystenyn fod Pwy- liaid wedi syrthio i ddwylaw y byddinoedd Rwsiaidd, ac wedi eu crogi, ond yr oeddynt o'r farn na chyfiawnheid hwy i osod yr ad- roddiadau hyn o flaen y Ty hyd nes y der- bynient hysbysrwydd pellach am yr hyn a ofynasent. Clywsent hefyd fod deiseb wedi ei chyflwyno i lysgenadydd ei Mawrhydi yn Nghaercystenyn yn gofyn am nawdd i ryw Bwyliaid, y rhai oeddent yn bryderus am fyned i le o ddyogelwch pe gwnai y fyddin Rwsiaidd feddianu Caercystenyn. Dywedasid wrth y llysgenadydd na fyddai yn briodol iddo roddi nawdd Prydeinig i dramorwyr, ond ar yr un pryd hyfforddasid ef i roi pob gwasanaeth rhesymol mewn amgylchiad o gyfyngder i'r cyfryw oeddynt yn awyddus i adael Caercystenyn mewn trefn i gyrhaedd llefydd lie y gallent dilyn eu galwedigaethau. Mr. Bright a ystyriai na ddylai y stori fyned allan os nad oedd seiliau iddi. Os oedd gan y Llywodraeth ryw wybodaeth, dylai gael ei hysbysu i'r Ty. AWSTRIA A RWSIA. Mr. Gladstone a ofynodd pa un a allai Canghellydd y Trysorlys roddi unrhyw wybodaeth ar hanes a ddaeth yma yn ddiweddar o St. Petersburg, ac a gyhoedd- wyd yn y wlad hon, mewn effaith i'r Llywodraeth Awstriaidd, ar neu tua y 30ain o lonawr, hysbysu y Tywysog Gortschakoff mai y materion a berthynent yn arbenig i fuddianau Awstria oedd cyflwr Bosnia a Herzegovina, yn nghyd ag ychwanegiad tirol i Servia a Montenegro, a meddianiad tymorol Bulgaria gan gatrodau Rwsiaidd ? Canghellydd y Trysorlys: Na, syr, nid ydym wedi cael un hysbysiaeth ar y mater a meddyliwyf mai braidd y dysgwylir i ni fod yn alluog i roi hysbysiaeth am ohebiaethau rhwng Llywodraethau tramorawl. Y DARDANELLES. Canghellydd y Trysorlys, mewn atebiad i Mr. Gourley, a ddywedodd fod gohebiaeth wedi eu danfou i'r holl brif Alluoeckl, yn ou gwahodd i anfoil llongau i Gaercystenyn ond ofnai nas gallai fyned i mewn i'r manyl- ion o barthed i'r atebion dderbynasid. Yr oedd Awstria wedi apelio am firman. Mr. Gladstone Y mae y boneddwr an- rhydeddus yn cyfeirio at ohebiaeth rhwng dwy Lywoclraeth dramorawl. Canghellydd y Trysorlys a ddywedai fod y Llywodraeth yn neillduol wedi ei hysbysu, mewn atebiad i'w cais, pa gwrs a gymerasid. Apeliodd .Llywodraeth Awstria am firman, ond nid hysbysasid Llywodraeth ei Mawrhydi pa un a ganiatawyd ef ai peidio. Darfu i'r Llywodraethau Ffrengig ac Italaidd roddi hyfforddiadau i'w llysgenadwyr apelio am firman, os byddai angen ond hyd yn hyn nid oeidynt wedi gwneyd felly, a thybiai na fwriadent bellach apelio. Derbyniasid goheb- iaeth oddiwrth Lywodraeth Germani, yn mynegu na fwriadent hwy apelio am firman yn bresenol.
Y Mesiir Claddu yn y Senedd.
Y Mesiir Claddu yn y Senedd. Yn unol a rhybudd roddodd, cododd Mr. Osborne Morgan, yn Nhy y Cyffredin, nos Wener diweddaf, i gynyg:—"Yn niai^fi y Ty hwn, fod yr amser wedi dyfod pan y dylai y ddadl faith gyda golwg ar gladdiadau mewn mynwentydd plwytol gael ei therfynu, trwy ganiatau y fath gladdiadau, naill a'i heb un- rhyw wasanaeth claddedigol, neu gyda y gwas- anaeth a ddewisa perthynasau neu gyfeillion y trengedig, ac yn cael ei gario yn mlaen gan bersonau a ddewisir ganddynt." Siaradodd Mr. Morgan yn gryf dros ei gynygiad a gwasgai ar y Llywodraeth i derfynu y ddacll heb oediad pell- ach. Yr oedd Rwsia, Awstria, a Thwrci wedi caniatau hyn er ys amser hir yn ol. Eiliwyd gan Mr. Knatchbull Hugessen, fel Eglwyswr, a hyny mewn araeth alluog. Yna cododd Mr. Hubbard i wrthwynebu y mesur, ac nis gallai ddirnad am ddim yn fwy poenus i feddwl y rhai hyny oedd ganddynt berthynasau wedi eu claddu, na bod y mynweat- au cysegredig yn cael eu hagor i bawb. Mr. H. Richard a siaradodd yn nesaf yn bleidiol i'r mesur mewn araeth rymus, a dilyn- wyd ef yn yr un cyfeiriad gan Mr. A. M'Arthur. Syr J. Kennaway hefyd a ddilynodd yn yr un cyfeiriad, yn nghyd a Mr. Walter, Cynygiwyd gwelliant gan Mr. Balfour yn wrthwynebol i'r mesur a phleidid ef gan Mr. B. Hope. Siaradodd Mr. Bright yn gryf a goleu dros y mesur, a chafwyd areithiau gan amryw qreill dros ac yn erbyn. Wedi rhanu cafwyd fod y pleidleisiau fel y canlyn Dros gynyg Mr. O. Morgan 222 Yn erbyn 240 Mwyafrif yn erbyn 15
[No title]
GLOFA PENTRE YSTRAD.—Diameu y bydd yn dda gan luaws wybod fod gweithwyr glofa y Pentre wedi dyfod i ddealltwriaeth a'umeistri, ac wedi ail-ddechreu gweithio ar ol bod allan amundiwrnod. Dywedir eu bod wedi cael yr hyn oedd yr annealltwriaeth yn ei gylch. Caf- wyd terfyniad anrhydeddus ary cyfan.—D, B.
Etholiad Bwrdd Ysgol Llangiwc.
Etholiad Bwrdd Ysgol Llangiwc. Dydd Gwener diweddaf, cymerodd ail etholiad tair-blwyddol y Bwrdd Ysgol (o ffraeol enwogrwydd) uchod Ie. Yr oedd cy- nifer a 15 o ymgeiswyr ar y maes. Pleidleis- iwyd drostynt fel y canlyn :— Dr. Howell Rees.1246 Mr. J. Hay 1181 J. Morgan.1119 Parch. D. Jones (E.).1060 Mr. J. Beynon. 920 11 D. H. Lewis. 874 Dr. Dd. Thomas. 644 Mr. James Williams. 642 Parch. John Jones (A.). 585 Mr. DI. Morgan. 383 Dl. Jenkins. 334 • T. R. White, Ysw. 259 Mr. William Griffiths 190 Evan Jones. 147 „ William Evans. 28 Gan mai saith aelod sydd yn gwneuthur i fyny y Bwrdd hwn, gwelir fod yr wyth di- weddaf allan y tro h wn. -Gohebydd.
Yr ymosodiad llofruddiog yn…
Yr ymosodiad llofruddiog yn Myn- ydd Cynffig. Y mae y tri dyn a ymosodasant mor farbar- aidd ar hen wr o'r enw Morgan Evans, yr hwn fu farw mewn canlyniad, oil mewn dalfa. Daliwyd Thomas Morris yn Mhenybont, boreu Sadwrn, ac yn y prydnawn Lewis Thomas a David Evans. 'Y mae yr olaf yn ddyn priod, ac oil yn perthyn i Maesteg, ac yn amrywio o 24 i 26 oed. Dysgwylid y dygid hwy o flaen yr ymadon Dydd Llun.
Gwrthdarawiad ar y Mor.
Gwrthdarawiad ar y Mor. Cymerodd gwrthdarawiad le am ddeg o'r gloch foreu Stil diweddaf yehydig filltiroedd o Harwich rhwng yr agerlong C. M. Palmer a'r agerlong Ludworth. Suddodd v blaenaf yn mhen deng mynud. Achubwyd 43 o berson- au gan y cychod, ond adroddir fod 14 wedi eu colli. Rhoddodd y Ludworth bob cynorthwy yn ei gallu. GIaniwyd y gwaredigion yn Harwich am haner awr wedideuddeg. Gwar- edwyd Cadben Cay o'r hwylbren gyda bod y Ilong yn suddo. Yr oedd niwl tew ar y pryd.
Y Caledi yn y Deheudir.:
Y Caledi yn y Deheudir. BRYNTROEDGAM, GER CWMAFON. Saif y lie hwn tua chanol y ffordd rhwng Cwmafon a Maesteg. Pentref bychan ydyw, yn cynwys tua 90 o dai, a thua 390 o drigol- ion. Ymddibyna y cyfryw drigolion am eu bywioliaeth ar y lofa sydd yma gan yr English Copper Company, ac y mae y gwaith hwn wedi sefyll er's saith mis bellach, a rhai o'r gweithwyr yn segur drwy yr holl amser, ereill yn gweithio yma a thraw ar hyd a lied y wlad yn mhob in an, ac yn gorfod symud eu gwaith yn fynych fel y byddis dan amgyleh- iadau o'r fath. Teuluoedd lluosog gan y rhan fwyaf ohonynt, dydd blin wedi eu dal, ac yn methu a chael digon o-fararl j'lubui tlil arno. Nos Fercher, y 13eg cyfisol, cynaliwyd cyfarfod cyffredinol, er ymdrin a sefyllfa y lie. Llywyddwyd gan y Parch. W. Jones (M. C.). Siaradodd amryw bersonau ar y mater, a thystiwyd fod gwir dlodi yn bodoli, a gwir angen am gynorthwy. Creodd hyny deimladau dwys a difrifol iawn. Derbyniwyd. ar ddiwedd y cyfarfod, gan wahanol fonedd- igion, y swm o 2p. 5s., a phasiwyd yn un- frydol fod cais i gael ei anfon i wahannl newyddiaduron, i daer erfyn ar foneddigion ac ereill ein sir i estyn llaw o gymhorth dan yr amgylchiadau presenol, y rhai a gydna- byddir ar dvidalenau y cyfryw newyddiaduron. Derbynir y rhodd. leiaf gyda'r diolchgarwch mwyaf gan Mr. Evan Maddock, Farteg Fawr Farm, Trysorydd new Mr. George Heycock, Bryn, near Cwmafon, Ysgrifenycld. O.Y.—Yr ydym ni, sydd A'n henwau isod, yn tystio gwirionedd yr uchod :—\V. Jones, M.C. R. Williams (A), Bryn.
Family Notices
GENEDIGAETH. Yn ddiweddar, priod Mr. Harrison, cashier, Bwllfa, Cwmdar, ar fab gelwir ef yn James Victor. Victor bach, y mae iach wedd,-naf anwyl, I'th nef wenau santedd Telyn aur y teulu hedd, A rodio mewn anrhydedd.—Cyfad'l. MARWOLAETHAU. Chwefror 5f6d, yn 26 mlwydd oed, Mrs. Ruth Harris, anwyl briod Mr. Jacob Harris, saer forge, Machen. Dydd Sadwrn canlynol daeth lluaws o gyfeillion yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w rhan farwol. Darllenwyd, gweddiwyd, a phregethwyd yn nghapel y Rhydri gan y Parch. T. L. Jones ac yna aethpwyd oddiyno i'r Eglwys, lie y rhoddwyd ei chorff i orwedd yn y fynwent. Ruth, o'r byd a ro'w'd i'r bedd,—yn dawel Gan yr angeu, i orwedd; Dy enaid a ehedodd i hedd, I aros ger yr orsedd.—Eryr. Chwefror 2il, ar ddiwrnod o gystudd, yn dair blwydd ac wyth mis oed, Gynea Davies, anwyl blentyn Mr. Phillip Davies a'i briod, contractor, Clydach Vale Colliery, gerTonypandy. Cladd- wyd hi y dydd Mercher canlynol, yn cemetery Aberdar, pryd y gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. J. R. Jones, Llwynypia, gweinidog yr eglwys yn mha un y mae y rhieni galarus yn aelodau. Chwefror lleg, yn 11 mlwydd oed, Jane, merch Mr. a Mrs. Edwards, Penybont, ger Llanbedr, ar ol byr gystudd. Claddwyd hi y dydd Iau canlynol, yn mynwent Llanbedr. Chwefror 12fed, yn 29 mlwydd oed, Eliza Jones, Plasybryn, ger Llanbedr. Claddwyd hi y dydd Gwener canlynol, yn mynwent Llanbedr. Chwefror 14eg, yn 28 mlwydd oed, Daniel Davies, T'yrcapel, Llanbedr. Claddwyd ef y dydd LInn canlynol, yn mynwent Llanbedr.
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch…
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch yr hyn sydd Wir. GWILYINI EVANS' QUININE BITTERS, NEU VEGETABLE TONIa. Y Feclclyginiaeth oreu a dclycJiyinygwyd ac a ddyfeisiwycl er cryfhau y cyfansoddiad a phuro y gwaed. Y MAE y Bitters hyn yn hollol lysieuol, ac yn cynwys chwerw-lysiau a melua- lysiau wedi eu haddas gymysgu, sef Quinine, Sarsaparilla, Saffron, Lavender, Burdock, Liver- wort, Gentian Root, &c. Mewn gair, y mae bron bob llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn v feddygmiaeth ryfeddol lion, ac y maent wedi cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreu er eu perffeithio i fod yn wellhad difethiant at y doluriau canlynol: (1). Gwendidau o bob mathyn ymddangos fel un neu ragor or anhwylderau canlynol—iselde* ysbryd nervousness, curiad y galou, chwysu, teimlad bhnedig a chysglyd, y gwaed yn rhuthro yn ddisymwth 1 r gwyneb, llewygon, teimlad o bwysau ar y c.iest, poen ar y chest, poen rhwne yrysgwyddau, diftyg anadl, ygwaedya (de'clmej & acl at y darfodedigaeth (2). Diffyg treuliad a'i ganlyniadau, sef gwael- der cyn bwyd, trymder anarferol arolbwyd, diffyg archwaeth at fwyd, yr ystumog V chwyddo trwy wynt, yr anadl yn drwfn, genau yn sycn ac yn boeth, brathiadau disym wth yn yr ochr, y pleurisy, yr afu yn afiach, thrwy hyny yn achosi y clefyd meiyn, poen groes 1 r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparilla a'r Burdoc ar gylchrediad y gwaed, y maent yn hynod effeithiol at y blast ncu'r awelon, gwynegon, ystyffdra y cymalau, y croen yn bigog ac anes. mwyth, a phob math o ddisteinper yn y gwaed. Y mae tystiolaethuli pwysig yil cael eu clerbyn, yn barhaus. Cyhoeddir pump yn unig o'r lluaws. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgnfenu at y perchenog. Os bydd rhywun yn amheu gwirionedd y can. ynol, dymunir arno ysgrifenu at yr enwau a- roddir yma. DEAR Sin,—I have been suffering seferely^r a Z' 1 m^ll,"e-stion and nervous debility and their attendant inconveniences. After trvinsr numerous remedies (to no purpose) I tried your Quinine Bitters and the result is I am now a,- healthy man. Had I tried it sooner, I believe I should have escaped many restless rights and many pounds in money. Publish this for the- benefit of others.—Address-THoMAS REES, De- corator and Valuer, Forester's Aims Hotel, Llan- elly, late of Fishguard. Old Globe, New Dock, Llanclly, May 24th, 1876. ANWYL SIR,—Dymunaf hysbysu i chwi fy mod wedi cael fy JIwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Litters Yr oeddwn wedi uiyned bronyn rhy wan 1 gerdded, ac yr oedd y clwyf ar f v mraich yn myned yn waeth bob dydd. Yr oeddm^ddyg on Ljanelh a r ardaloedd am clorify mraich ymaith ei aclmb fy mywj-d ond trwyq-vrnfi'i"! 3- Quinine* Litters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac yn gweithio bob dydd. Rhoddaf fy emv yn llawn, fel y gallo ereill gael mnnylian pellach oddiwrthyf os inynant.—Yr eiddo«wVTrt>archus, J, GRIFFITH WILLIAMS. Dylaswn ddweyd fy mod wedi bod dair blynedd heb weithio ond ychydig. c ,r 7 Camb>ian-strec £ Llanelli. BYR,—Mewn getnau byr, dymunaf ddweyd fy mod wedi cael lle&M PAHHAUS trwy "ymeryd eich- "Quinine Bitters." Kliyfedd yw eu herffaith. Blinwyd fi beunydd gan boen anferthol yn fy mhen, weithiau uwchben y llygaid, w ithiau yn yr ochrau, a phryd arall yn curo fel morthwyl, fel ag- yr oedd ofn arnaf ddilyn fy ngalwedigaetharben yty. Poen yn fy hips a rhwug fy ysgwyddau, a- gwendid mawr. Dim awydd na bias at fwyd, ond ar brydiau anamserol. O'r diwedd cymerais eich '1 Jtters'" ac yr yd^'yf wedi fy llwyr Welhra. Cyfnfir eich Bitters yn ddrud, ond gallaf yn awr ddweyd yn ddiofn mai dyna y moddion rhataf a'r goreu a gefais erioed. Gall neb yn gydwybodol ddyoddefpoen heb dreio hwn. —HOBEKT GUY, Builder. The Grand Hotel, Brighton, July 28th, 18/16. DEAR Srn,-I feel it is my duty to the public atd yourself to inform you that I have derived' immense benefit from your Quinine Bitters Vegetable tonic. I have been for some months victim to headaches, pain in the back, and I believe a general derangement of the liver. I am happy to say I now feel well, but take a dose of your "Bitters" occasionally when my appetite fails.- Yours faithfully, IIOBERT FOSTER. „ lluthin, Awst 15fed, 1876. • SYR,-Yr wyf wedi derbyn Iles mam- oddiwrth eich Quinine Bitters. Bu'm yn cael poenau an- nesgrifaadwy > n fy mhen a'm danedd, yn cael ei- achosi (meddai r Doctor) gan fy ystumog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fel yr oedd arnaf ofn bwyta dim. Yr oedd y gwynt yn fy ngofidio, bias cas yn fy ngenau, yn enwedig yn y boreu. fel bwystl. Yr oeddwn yn hala haner fy amser yn y gwely trwy wendid, ac feallai ychydig iselder ysbryd. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion, ac yr ydwyf 3 u awr yn teimlo yn gryf a diboen.- Yr eiddoch, Mr. Gwilym Evans. JANE S. THOMAS. BYDDED HYSBYS I BAWB. (A.) Nid ydyw yn bosibl dodi'r holl gyffeiriau s)\dd yn y feddyginiaeth hyn mewn PILLS. (B.) Y mae y pris mor isel ag y gall fod, os eymerlr i ystyriaeth brie der y Quinine a'r Sar. saparilla. (C.) Gellir gweithio beunydd fel arfer heb un annghyileusdra, ac nid oes perygi anwyd, ond yn hytrach y mae yn atal anwyd. (D.) Y mae y Bitters yn cryfhau y rhan neu'r aelod or corff sydd yn wanach, ac felly yn fwy agored i heintiau ac afiechyd nac arferol, a dylid cofio fod bron bob math o BILLS yn gwanhau y cyfansoddiad acyn aflonyddu y cylla. (E.) Nid Quinine Wine, na Tincture of Quinine, nac unrhyw gymysgedd arall o eiddo y Druggist ei hun, ond "Evans' Quinine Bitters" mewn. potelau 2s. 9c. a 4s. 6c., a'r enw "Gwilym/ Evans, Ph.C., M.B.P.S., wedi ei ysgrifenu 1 Stamp y Llywodraeth heb hyn, twyll a ffug. iad ydynt. Ar werth yn mhob tref, neu yn direct i bob man o'r wlad oddiwrth y perchenog- MR. GWILYM EVANS, Pharmaceutist, Llanelly. D.S.—Os na ellir cael y "Bitters" heb dra. fferttl, ysgrifener at y Perchenog. 163L
Yr hyn a Welais ac a -Glywais…
,cyndclaredd y bobl megys dylif anferthol hysgubo ymaith oddiar chwareu- fwrdd amser. Rhaid i mi dynu at y terfyn yn bresenol heb adrodd yr haner o'r hyn a welais ac a glywais yn America, gan addaw cyfarch y darllenwyr yn fuan eto o dan benawd arall.