Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
RWRDD Y GOLYGYDD.
RWRDD Y GOLYGYDD. HEN LOWR.-Rhy ddiweddar i'r rhifyn hwn, Cewch lythyr cyfrinachol yn fuall. YR EUEDYDD. Dioleh am yrysgrif. Cylioeddir hi cyu hir. CocHFARF. —Ya ein nesaf. IÆANC O'R LLE.-Mae yn flin genym i ni fethu cael lie i'cli ysgrif yn ein rhifyn diweddaf. DERBYUIWYD—Wrtydyn, Felly (dwynhendy), Caerwyson, Sciwen, leuan Dyfed, Dewi Glan Tees, H. A.
YR AWYR YN CLIElo YCHYDIG.
YR AWYR YN CLIElo YCHYDIG. Y MAE yr awyrgylch fel pe byddai yn goleuo ychydig, a llai o sawyr pylor ynddo nag oedd er's ychydig ddyddiau vn ol. Fe cldywedid fod Arglwydd DERBY wedi rhoddi ei swydd i fyny, ae fe deimlid pryder anarferol o'r achos, gan fod y wlad yn meddu llawer mwy o ymddiried yn ei ddoethineb a'i bwyll ef nag yn eiddo y Prifweinidog. Os oedd DERBY wedi ymadael, yr oedd ysbryd Heddweh hefyd wedi ymadael, a gwaedgwn byllig rhyfel wedi eu gollwng yn rhydd. Ond nid yw hyn yn wirioncdd y mae efe yn aros yn ei swydd, ac y mae hyn yn wystl pwysig o gymodrolder doeth yn ein gwladlywiad tramor. Dywedid hefyd, yn ddiweddar iawn, fod y Tyrciaid wedi tanio ar ein liyn ges ni yn ei gwaith yn gwthio ei ffordd trwy y Dardanelles. Nid oedd hyn yn annhebygol, gan fod Llywodraeth Twrei wedi gwrthdystio yn bendant yn erbyn y peth, a'r SULTAN ei hun hyd yn oed wedi danfon teleyram at ei Mawrhydi y FRENINES yn deisyf ar fod iddi beidio danfon y llynges i fyny. Ond y mae hyn etowedi troi allan yn gyfeiliornus, oblegyd ni wnaeth y Tyrciaid ddim ond gwrth- dystio mown geiriau. Yr oedd y Rwsiaid hefyd yn benderfynol, meddid, o gymer- yd meddiant o Graercystenyii. os gwnai y Llynges Brydeinig wneyd ei hymddang- osiad o flaen y ddinas hono, a darfu iddynt fygwth gwneycl hyny mewn modd ffurfiol; ond er bygwth, nis gwnaethant. Y maent wedi ymgadw yn fanwl oddi- fewn y llinellan y penodwyd arnynt yn v cadoediad. Y mae trigolion Caercys- tenyn jn nxawr ganmol Rwsia, am ci chymedrolder yn peidio cymeryd cam mor enbyd i heddwch y byd a meddianau eu dinas, "ac yn condemnio dyfodiad y llynges fel peth diaugcnrhaid, difiidd, ac enynol (irritating)." Yr oedd SKOBELEFF o fown 36 o oriau i brifddinas y SULTAN, ac nid oedd un rhwystr o fath yn y byd ar ei ffordd, eto ni symudodd o gwbl. Yn ol y newyddion diweddaraf y mae y Llynges Brydeinig wedi symud yn mhellach oddiwrth (iaercystenyn, sof i Mundania, pump awr or brifddinns. Y mae hyn yn argoeli yn dda, ond nid yw hyn yn ddigon. Y mae presenoldeb y llynges yn nyfroedd y Bosphorus, yn z:, groes i ewyllys y SULTAN, yn doriad ar Gytnncleb Paris, ac yncyfansocldi enbyd- rwydd beunyddiol i achos heddwch. Hawdd dyweyd mai mesur hedclychol yn unig ydyw, dim ond er lllwj-n amddiffyn ein deiliaid ni yn Nghaercystenyn. Y mae deiliaid y teyi'nasoedd penaf ereill yno, ond nid ydynt hwy yn chwareu a rhyfel trwy ddanfon eu llyngesoedd yno. Fe ymddengys mai amcan ein Gwein- yddiaeth ni yw ffurfio cytundeb a chyd- weithrediad ag Awstria. Ond nid yw Awstria i ymddibynu ami. Ac y mae yn wybyddus fod Awstria yn anffafriol i'r Bulgariaid a'r bobloedd oreill hyny i gael mwynhau breintiau annibyniaeth a rhyddid, ie, o'i chalon yn groes i hyny. Gan hyny fe fyddai cynghrair rhyngom ni ag Awstria yn beth anmhoblogaidd yn y wlad, oblegyd cynghrair fyddai o blaid corthrwm ac yn erbyn rhyddid.
Cyfarfod o Gynrychiolwyr y…
Cyfarfod o Gynrychiolwyr y Glowyr Dydd LInn diweddaf cynaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr y glowyr yn Nglofeydd Mynwy a Deheii dir, Cymru yn y Bute Arms, Aberdar, i ysfcyried. cais y meistri am bump y cant o ostyngiacl yn y cyflogau ar ol y tri mis y cytun- wyd arnynt. Yr oedd nifer luosog o> gynrych- iolwyr wedi dyfod yn nghyd, ac yn eu plith Mr. Thomas Halliday a'r aelodau ereill o Bwyllgor y Gliding Scale. Bll dadleu brwd rhwng cynrych- iolwyr gweithwyr y glo tai a chynrychiolwyr gweithwyr y glo ager ar y pwnc a gohiriwyd y- cyfarfod hyd dydd Lluii nesaf heb ddyfod i un penderfyniad ar y mater.
At Weithwyr Tanddaearol Deheudir…
At Weithwyr Tanddaearol Deheu- dir Cymru a Sir Fynwy. ANWYL GYDWEITHWYR,—Yn ngwyneb yr agwedd ddifrifol ag y mae pethau yn wisgo heddyw mewn perthynas i bwnc y pump y cant, a'r dylanwad unochrog ac annheg y mae ychydig bersonau mewn awdurdod wedi barnu yn ddoeth i gymhwyso at y pwnc, yr addewida, wnaethant i'r meistri i ddefnyddio eu dylanwad igael gan weithwyr gorthrym- I edig Cymru i ymostwng i'w cais annheg a gorthrymus. Oddiar yr ystyriaeth hyn, penderfynasom eich, hancrch ar gais cyfeillion r y glo tai. Hysbys yw i chwi fod cyfarfod cytFredinol o gynrychiolwyr wedi cael ei benodi i'w gynal yn y Bute Arms, Aberdar, I dydd Llun diweddaf, i ddwyn i derfyniad, meddylid, cwestiwn ymestyniad neu wrthod- iad y pump y cant gostyngiad ond y mae I genym i'ch hysbysu fod penderfyniad y cyf- ryw wedi cael ei ohirio hyd ddydd LInn nesaf, y 25ain cyfisol. Yn y cyfamser, bydd- wch yn cael eich hanerch gan aelodau y Bwrdd trwy gyfrwng y wasg, a chewch oleuni ganddynt ar y pwnc, Xit, tybni, a'ch tywys i ddinystr mewn amgylchiadau teulu- aidd nas gellwch eu hadferyd, os cydymffllrf- iwch a'r cais afresymol a thrahaus. Nidgwiw celu y tFaith bwysig fod brwdfrydedd neill- duol yn llywodraethu y cyfarfod dan sylw; ac oddiar yr ystyriaeth ei fod yn deg i olygiadau y ddinjblaid gael yr un cyhoeddus- rwydd, gosodwn yr arguments -pro and ean— o'ch blaen, gan ddeisyfu arnoch gyfodi fel un gwr, a gweithredu fel dynion yn feddianol ar synwyr cyftredin a barn addfed. Yn y lie cyntaf, teg yw i chwi gael gwybod fod ein cynrychiolwyr wedi addunedu i'r meistri ddefnyddio en dylanwad i gael genym i ym- ostwng i'r iau-dyiilon yn cael eu tala genym ni, weithwyr tlawd, i bleidio ein interest ni, yn addunedu i bleidio gais y meistri. Dyna gysondeb, onide, viith a vengeance ? Y mae hefyd yn ffaith anwadadwy fod y Bwrdd wedi cytuno i ganiatau i'r meistri y pump y cant oddiar y gross earnings. Nid oedd pethau, debygem, yn ddigon drwg o'r blaen heb ganiatau gostyngiad ar bethau na chafwyd codiad arnynt erioed! Lied dda, onide ? 0 ddifrif, -gydweithwyr, ystyriwch y canlyn- iadau uniongyrchol ac anuniongyrchol fydd yn tarddu oddiar hyn. Yn awr, ym fyr, wele i chwi eu prif resym- au dros y cwrs y darfu iddynt gymeryd :— 1. Dywedir wrthym, gan y Bwrdd, fod y pump y cant ad-daliad yn gydwerth (equi- valent) i'r pump y cant a ofynir oddiarnom yn awr felly, ystyriant nad oes yma aberth yn cael ei ofyn. Ein argument ninau, o'r tu arall, yw nad oes rhith o debygolmvydd, chwaethach sicrwydd, y bydd i'r prisoedd, pan ddeuant i fyny i iiigyrau yr ad-daliad, sefyll yn y fan hono cyhyd ag y mae y pris- oedd presenol yn debyg o fodoli. Felly, yn ngwyneb amddifadrwydd darpariaeth en- derfyniad fturfiol y Bwrdd i gael medi yr ad-daliad am yr un ysbaid o amser ag y gweithir ar y pump y cant gostyngiad, yr ydym yn rhoddi ein barn unol ei fod ya aberthiad. Eto, yr ydym yn gofyn A chaniatau y gellid trefuu i'r ddau barhau am yr un faint o amser, yn mha le mae y guarantee y saif Oymdeithas Undebol y Meistri at y trefniadau ? A ddarfu iddynt lynu wrth safon y Bwrdd Cymodol 1 Chwi, anwyl gydweitliwyr, sydd i ateb y cwestiwn. 2. Dywedir wrthym fod y meistri a'r gweith- wyr, tuallan i'r iindeb, yn gwerthu eu glu a'u llafur o dan brisoedd y Bwrdd, a'i fod yn angenrheidiol i'r meistri gael y pump y cant hyn er eu galluogi i gystadlu a'r cyfryvv. Dywedwn nihau, o'r tu arall, fod protiad y gorphenol wedi ein dysgu y myn y meistri, y tuallan i gylch yr undeb-a dilyn eu harfer- iad—yr un ran eto yn y farchnad ag y maent yn ei gael yn bresenol. Er cyrhaedd hyny byddant yn sicr o ostvvng eto eu prisoedd hwy felly, fe fydd gan ein meistri yr un anhawsderau i frwydro a. hwynt eto ag sydd ganddynt yn bresenol. Felly, gwelwch y bydd dilyn yr argument hyn yn sicr o ddyfod a meistri a gweithwyr i'r un stagnation fyth, ond ar israddeg mewn prisoecld marchnadol a cUyflogol. Gofynwn ynte, yn ddifrifol, a ydych chwi, gydweithwyr, yn canfod priod- oldeb y cwrs hwn ? Nis gallwn ni yn ein byw. Hwyrach y cawn ein cyhuddo gan yr ivoidd-be Pio Nono's o fod yn elj^nion i heddwch, &c. ond, gyfoillion, y mae cyf- iawnder yn galw am y syhvadau sydd wedi eu gwneyd, or rhoddi perffaith chwareuteg i olygiadau y ddwy blaid. Yn awr, wrth der- fynu, cofier fod pob gwaith i anfon ei lais i'r cyfarfod dydd Llun nesaf. Y mae pob gwaith sydd yn rhifo dau cant ac uchod yn rhwym o anfon cynrychiolydd, neu byddant heb eu cynrychioli ond oddiwrth weithfeydd llai o rif, fe wna llythyr, wedi ei gyfeirio at lywydd y cyfarfod, Bute Arms, Aberdar, y tro. Gydweithwyr, deffrowch, y mae cleddyf gor- thrwm yn trywanu.—Yr eiddoch yn ffydd- lawn, ar gais y glo tai, Josy JENKINS, Llanfabon. D. E. DAVIES, Nelson. THOS. JONES, Gilfach Goch. JOHN LEWIS, Deri. DAVID DAVIES, Ynyshir. JOHN JOB, Cwm Clydacli.
Y Gwrthryfel yn Caffraria.
Y Gwrthryfel yn Caffraria. 0 Cape Town, Ionawr 22ain, ceir hanesion am ymgyrchoedd terfysglyd. Boreu y 15fed, "Y cafodd Cad. Brabant fod y Caffrariaid yn ceisio dianc yn groes i'r Kei, ac ymosododd arnynt yn uniongyrcho], gan beri colled fawr iddynt. Cymerodd 4,000 o ychain, a 5,000 o ddefaid. Dim ond un Prydeiniwr a glwyf- wyd yn yr ymgyrch hwn. Wedi hyny, cymer- odd y Blilwriad Lambert 1,100 o ychain, a naw cant o ddefaid. Ar yr un dydd, darfu i'r Llywydd Frost gymeryd 400 o ychain, a llawer o geffylau a defaid. Ar y 16eg, darfu i Cad. Brabant, gyda 100 o wyr, wylio llwybrau tu ol i Kongha, a chymerasant y prydnawn hwnw 60 o ychain,. ac ar y dydd canlynol 1,400 o ychain, a 4,000 o ddefaid. Credir fod y Caffrariaid wedi colli tua 10,000 o ychain, a 15,000 o ddefaid a geifr.
[No title]
Dywedir fod Mr. D. Davies, A. S., Llandu- nam, newydd bwrcasu nifer o ffermydd yn Ngogledd Cymru am 26;500p.
PKYDA1N A'R RHYFEL.
PKYDA1N A'R RHYFEL. Wedi ymddangosiad ein rhyfyn diweddaf, y mae dygwyddiadau pwysig wedi cymeryd lie, ac ni wyr neb beth a dygwydd mewn diwrnod yn yr amser cyhyrfus presenol. Y mae y llynges, er gwrthdystiad Twrci, wedi ei danfon i Gaercystenyn, gyda'r amcan honedig o amddiffyn a diogelu buddianau y deiliaid Prydeinig, ac y mae wedi angori ger Prince's Island, ger y brifddinas Dyrcaidd. Gan nad beth sydd i gymeryd lie yn y dyfodol, amlwg yw fod y darpariadau pwys- icaf yn cael eu gwneyd yn Lloegr ar gyfer rhyfel. Y mae y dockyards yn llawn bywyd; casgenau o rum a llwythau o bylor a phelau yn cael eu parotoi a'u hystorio gyda'r buan- dra mwyaf. Pan yn ysgrifenu byn, nid ydym wedi clywed fod Lloegr wedi tanio hyd yma, ond ni wyddis y foment y cymer hyn Ie. MEDDIANIdD CAERCYSTENTN. Pellebryn o'r .1dinas uchod, dydd Iau, a fynegai fod Mr. Layard wedi anfon at Iarll Derby fod y Sultan wedi derbyn bryslythyr oddiwrth y Czar, yn hysbysu y byddai i'w gatrodau feddianu cymydogaeth Caercystenyn mewn ysbryd cyfeillgar, a chyda yr un am can -sef diogeliad ei ddeiliaid, fel yr hyn y danfonasid y Llynges Brydeinig. Byddai i rai o'r milwrdai Tyrcaidd gaol eu parotoi i dderbyn catrodau Rwsiaidd. Nid oes gwir yn y sibrwd fod y Sultan wedi parotoi i adael Caercystenyn os meddianir y lie gan y Rwsiaid a dywedir ei fod yn golygu aros yn .1 y ddinas dan unrhyw amgylchiadau. LLYNGES PRYDAIN. Pellebryn o Gaercystenyn, dyddiedig dydd Gwener, a ddywed fod lluman-long yr Is- lyngesydd Hornby, yr Alexandra, a'r Ilongau haiarn Temeraire, Sultan, a'r Achilles wedi cyrhaedd ger Prince's Island y boreu hwnw, am wyth o'r gloch. Yr oedd yr Agincourt a'r Swiftsure yn aros yn Gallipoli, a'r Raleigh, yr Hotspur, a'r Ruby yn Besika Bay. Y CYFFRO YN ST. PETERSBURG. Mewn canlyniad i fynediad y llynges i Gaercystenyn, yr ydym yn deall fod y pryder mwyaf yn flynu yn mysg trigolion Brytan- 11 z;1 aidd St. Petersburg. Y mae teimlad cenedl- aethol Rwsia, hefyd, yn gynhyrfus iawn. PRYDEINWYR YN NGHAERCYS- TENYN. Wedi gwneyd ymchwiliad a chyfrifiad, cafwyd fod nifer y Prydeinwyr yn Nghaer- cystenyn tua 4,000, ac o'r rhai hyn nid yw eu haner yn Brydeinwyr gwirioneddol, ond yn Roegiaid, Levantiaid, Italiaid, a Thyrc- iaid, y rhai a honant genedlaetholdeb Pry- deinig. Dyma.ddyfyniad o. lytbyr Iarll Derby i Ai-glwyiid A. Luftun, HysgenadyrM Pryda-in yn Rwsia Y mae Llywodraeth ei Mawr- hydi yn dymuno i chwi fynegu i'r Tywysog Gortscliakofi ei boddlonrwydd yn yr ar- gyhoeddiad nad y* y Llywodraeth Rwsiaidd yn ystyried anfoniad adran o'r Llynges Bry- deiuig i Gaercystenyn fol yn weithred elynol, -ond nis gallant gydnabod fod yr amgylch- iadau mewn un ffordd yn gydredol—neu fod danfoniad llongau Prydain i'r perwyl a nod- wyd yn cvfiawnhau mynediad y Rwsiaid i Gaercystenyn. Y mae y gwahaniaeth rhwng y ddau symudiad mor nodedig, fel nad oes angen esboniad arno. Mewn un achos y mae llongau rhyfel Gallu cyfeillgar yn cael eu danfon i gymydogaeth dinas mewn trefn i noddi deiliaid Prydeinig, y rhai sydd gan- ddynt hawl i'r cyfryw noddiant. Yn y llall, y mae catrodau byddin elynol i gael eu dan- fon i'r dref yn groes i delerau y cadoediad, ac ar berygl o gyfiroi terfysg,.ac achosi perygl i'r looblogaeth Gristionsgol. Gellir dysgwyl felly, os na ddaw Rwsia i ryw delerau rhesymol, a hyny yn dra buan, y bydd rhai o fagnelau Lloegr wedi eu tanio. Y CYFRIN- GYNGHOR. Cyfarfu aelodau y Weinyddiaeth yn Nhy* Swyddogol y Piifweinidog prydnawn dydd Sadwrn, a buont mewn cynghor am dair awr. Yr oedd yr holl weinidogion yn bresenol. LLYNGES PRYDAIN YN Y BOS- PHORUS. Y mae hon yn awr yn angori yn Mudania Bay yn Mor Marpiora, tua 40 milldir i'r de o Gaercystenyn. Wele yn canlyn restr o'r llongau—eu henwau, a nifer eu gynau a'u gw^r Env:au Gynau. Owûr. Alexandra 12 680 Agincourt 17 700 Achilles 16 700 Temeraire 8 540 Swiftsure 14 540 Sultan 12 630 Rugby 12 240 Torch, Flamingo, Antelope, Cockatrice (gwn- fadan), y Salamis, gyda chyfanrif o 13 gwn, a 660 o wyr. Yn gwneyd, gyda'u gilydd, 4,300 o wyr. Y GYNADLEDD DDYFODOL. Yr ydym yn deall fod Baden, wedi ei phen- odi fel lie cyfarfyddiad y gynadledd, a bod yr holl Alluoedd Europaidd wedi cytuno i ddan- fon eu cynrychiolwyr yno. Ni nodir amser eu cyfarfyddiad. Ymddengys fod y Rwsiaid yn cilio yn ol o gadarnleoedd Samedie, a gorchymynwyd iddynt beidio meddianu Ilinellau y ffin a nodwyd gan y cadoediad. TYWYSOG CYMRU A'R GYNADLEDD. Pellebra gohebydd y Daily News o Berlin, I fod Tywysog Cymru wedi ymweled a Bismarck yn swyddogol, ac wedi cael hir ymddyddan ag ef, yn nghwrs pa un ni phasiwyd heibio y sefyllfa ddiplomyddol mewn dystawrwydd.'
ABERDAR.
ABERDAR. Nos Lun diwedddaf cynaliwyd rehearsal o gorau fForfiant Undeb Cerddorol Annibynol y dosbarth, yn Bethel, Trecynon. Yr oedd tyrfa fawr o gantorion wedi ymgynull yn nghyd, ac yr oedd yn eglur eu bod wedi coethi gryn dipyn oddiar y rehearsal flaen- orol. Mri. Rees Evans, (Aberdar), a Hywel Cynon, (Aberaman), ydyw arweinyddion yr Undeb Cerddorol hwn.—Gohebydd. CWMBACH.—Nos Lun diweddaf, rhoddwyd perfformiad o'r gantatagysegredig "Esther," yn Bryii Sion, gan gor y capel (dan arweiniad Mr. W. Lewis), yn cael ei gynorthwyo gan Misses M. Davies, J. Smith, a L. Davies Mri. J. Daniel, R. Rosser, G. Lloyd, W. Rosser, a J. Llewelyn. Cyfeiilydd, Mr. J. Perkins. Cymerwyd y gadair gun y Parch. Jonah Morgan, y gweinidog. Aeth y cor a'r artistes drwy eu rlian yn wir glodadwy a theilynga Miss M. Davies (y Frenhines), a W, ac R. Rosser sylw arbenig am y dull rhagorol y darfu iddynt gynrychioli y cymer- iadau ddaeth i'w rhan. Cafwyd perfformiad gwir ragorol.—loan Opwn. UNDEB CERDDOKOL CYNULLEIDFAOL Dos- BARTH ABERDAR.—Nos Ian diweddaf, y 14eg o Chwefror, yn Bethlehem (T. C.), Mountain Ash, cynaliwyd trydedd rehearsal gyhoeddus yr undeb uchod. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan Mr. John Jones, Bethania; ac etholwyd y Parch. T. C. Phillips i'r gadair. Wedi anerchiad byr a chynwysfawr ganddo, galwodd ar yr arwein- ydd at ei waith a chanwyd, yn ystod y cyfarfod, y tonau canlynol :—Mende!ssohn, Llanarmon, "I mi" (Sum y Jhvbili), Cul- ross, Psalmdon 12, Berlin, Goleu yn y glyn" (Swn y Jhvbili), Requitm Dr. Parry. Moab, Bethel, a Requiem Alaw Ddu. Caf- I wyd agoriad ardderchog i'r cyfarfod wrth ganu Mendelssohn yr oedd yn ogoneddus. Hefyd, cafwyd caniad lied dda ar I mi eisieu talu mwy o sylw i'r farddoniaeth sydd, ac hefyd i'r chorus ar ol bob penill. Hefyd, byddai yn ddymunol iawn i sylwi ar y pethau hyn wrth ganu "Goleri yn y "glyn eisieu taflu mwy o deimlad ac yni wrth ganu y chorus, gan fod y farddoniaeth yn rhoddi vent i'r teimlad, sef y mwynhad o gael goleu yx y giyn, yr hyn sydd yn rhoddi mwynhad i'r credadyn pan yn gwynebu yr angeu du. Carem yn fawr pe b'ai ein cantorion yn cymeryd y peth at eu hystyriaeth difrifolaf i ddarllen- a meddwl beth sydd ganddynt mewn llaw, ac hefyd i daiu sylw manylach i symudiadau yr arweinydd. Byddai hyny yn rhwyddipeb mawr iddo ef, a cheid gwell canu o lawer trwy hyny. Cafwyd anerchiad rhagorol gan y cadeirydd hefyd yn ystod y canu. Y mae yn dda genyf gael ar ddoali. fod y llafur yn dyfod yn mlaen yn lied dda, ond y mae eto le mawr i wella cyn adef>' v gymanfa gan hyny, bydded i ni ymdrechu'i wneyd ein goreu hyd hyny. Dibenwyd trwy weddi gan y cadeirydd.—Chulydd. wneyd ein goreu hyd hyny. Dibenwyd trwy weddi gan y cadeirydd.—Chulydd.
TON, YSTRAD.
TON, YSTRAD. YSGOLDY BETHESDA.—Cynaliwyd cyfarfod adlonol yn yr ysgoldy uchod Nos Ian, y 14eg cyfisol. Llywyddwyd yn fedrus gan y Parch. J. H. Jones, gweinidog. Adroddwyd amryw ddarnau a datganwvd amrywiol ganeuon gan luaws o bersonau, a'r cyfan o nodwedd gref- yddol. Canodd y cor, dan arweiniad Mr. James James, amryw glees yn gampus. Mae canmolia,eth uchel yn deilwng i'r brawd am ei ymdrechion dihafal o blaid cerddoriaeth yn y lis. Prif arwr y cyfarfod oodd Mr. Thomas Morgans (Ehedydd Glan Afan). Datganodd y "Golomen Wen" a'r "Fam a'i baban" gyda medrnsrvvydd neillduol. Gellir dweyd am y brawd hwn, ar ei ddyfod- iad i'r lie o Gwmafon, ei focl yii un o "arwyr y gyngherdd," ac ni rhaid iddo gywilyddio canu yn oclir bechgyn yr R.A.M. Dioich calon iddo am ein hanrhegu n fath ddatganiad cunmoladwy. Cafwyd cyfarfod rhagorol yn mhob ystyr, a diar*heu y ceir ei gyffelyb eto yn fuan, yr hyn fydd yn wir dderbyniol gan lawer heblaw- YSTRADYPD.
PONTARDAWE.
PONTARDAWE. Nos Fawrth, y 12fed cyfisol, cynaliwyd cyngherld er cynorthwy y drysorfa sydd yn cael ei chodi er budd y dyoddefwyr yn Ystradgynlais yn y ddarllenfa newydd. Y datgan wyr oeddynt y cerddor ieuane talentog, Eos Dvfed, Mr. H. Morgan, Castellnedd; Mr. R. Morgan (Asaph Glan Dulais), Russell Lloyd, Ysw., Cilybebyll; Mrs. H. Miers, Ynyspenllvvch Mrs. Morgans, Ysislyfera; Eos Meudwy, Mr. Price, Pontardawe, &c.; yn cael en cynoi thwyo gnn gor Cymreig St. Peter, dan arweimad Mr. Dl. Howells. Chwareuwyd unawd g-m Miss L. Lewis, Alltycham, a thriawd gan Misses Biss, White, a Thomas, Y stalyfera, ar y perdoneg; ac ar y cornet-a-pistou gan Mr. W. Dodd. Cyfeilliwyd ar yr organ a'r perdoneg yn ganmoladwy iawn gan Mr. LI. Struve. Yr oedd braidd yr oil o'r darnau yn aruchel, clasurol, a chwaethus; a'r datganiad ohonynt, ar y cyfan, yn hapus a dymunol, ac yn ad- lewyrchu clod i fedr a thalent y datganwyr. Ni chlywsom yn gywir pa faint oedd y cynyrch, ond gallwn ddweyd ei fod wedi troi allan yn wir lwyddianus, gan fod yr ystafell yn orlawn a bron yr oil o fawrion y cylchoedd yn bresenol.-Gohebydd.
[No title]
Y mae Mr. Thomas Halliday wedi ei benodi yn ddarlithydd, o dan y National Reform Union, yn Neheudir Cymru. Bydd yn dechreu ar ei waith yn Nghaerdydd yn fuan, gan dalu ymweliad wedi hyny a pbrif drefydd yn y Deheudir.
:jBRWYDR FAWR ABERAFON.
j BRWYDR FAWR ABERAFON. I MR. GOL.,—Y mae y Barcut yn clywed pethau newyddion yn barhaus. Otywais fod rhai o elynion Mr. Rees Thomas yn dweyd nad oes ganddynt ddim yn ei erbyn fel per- son, ond mai eu prif amcan yw puro yi ethol- iad, a rhoddi ergyd marwol i'r hwn sydd tu ol i'r llen ac eto y maent yn gosod 125p. wrth ei wddf, rai o honynt, er mwyn ei suddo i'r llawr, fel y byddo ei wraig a'i blant i gael syrthio i ddyfnder tlodi, heb feddu ar un werth ceiniog, onibai fod rhai yn teimlo, ac yn gweled mai digofaint sydd with wreiddyn y mudiad. Hefyd, carwn wybod beth yw y rheswm fod cymaint o ymdrech yn cael ei wneyd at burdeb etholiadol yn ei berthynas a, Mr. Rees Thomas, yn fwy na neb arall sydd wedi myned i mewn i'r Cynghor Trefol, a ydyw pob nn sydd wedi myned i mewn yn rbydd oddiwrth lwgrwobrwyaetn I Os ydynt y mae ganddynt ddwylaw glan. Neu, a yd- yw etholiad Mr. Rees Thomas wedi bod yn waeth nag etholiad neb arall, gan fod ei elyn- ion yn dal cymaint ar burdeb etholiadol ? Ond y mae pethau yn dangos i mi mai nid purdeb ethoLiadol sydd mewn golwg gan- ddynt, ond mat dyna yr esgus sydd ganddynt i geisio cilmarwain y cyhoedd. Dywedant eu bud am gael lie glan yn Aberafon, ac v maent am gyrhaedd yr arllcan hyny drwy geisio troi y gweithiwr allan o'r Cynghor Trefol—dyma y prif amcan. Gobeithio n does neb a'u calcnau yn ddigon drwg i ddweyd dim ond y gwirionedd, oblegyd y gwirionedd a saif, ac a geidw yn bur gyfraith y wlad ac cs gwelir y gweithiwr wedi ei droi allan o'r Cynghor Trefol bydd yn dda gan y Barcut glywed mai cyfiawnder fydd wedi ei droi ef allan, ac nad drwy annghyfiawnder y bydd cynrychiolydd y gweifchwvr wedi ei sathru o dan draed ei elynion. Nid oes dim yn y golwg yn bre- senol ond ymladd y frwydr y mae darpar- iadau mawrion yn cael eu gwneyd at hyny, ac os ymladd ymladder mewn cyfiawnder.- Yr eiddoch hyd y tro nesaf, BAR CUD COEDPARC.
[No title]
MR. GLADSTONE.—Y mae efe wedi addaw; ar gais arweinwyr y cymdeithasau crefftol, i anerch cyfarfod o weithwyr yn nwyreinbarth Llundain, ar y Cwestiwn Dwyreiniol. AFIECHYD MR. R. CRAAVSHAY.—Drwg iawn C, gfcnym ddeall fod yr haiarn-frenin enwog o Uyfarthfa yn beryglus o glaf yn Llundain. Y mae Mrs. Crawshay i fyny gydag ef, yn gys- tal a Mr. W. Crawshay, a Mr. W. Jones, manager gwaith Gyfarthfa. Aeth Mr. R. Crawshay hefyd, yr hwn sydd yn dra afiach ei hun, i fyny i weled ei dai. Pa.siodd noson boenus ac afiwyddianns iawn nos Wener. Nos Fawrth wythiios i'r diweddaf aeth coes un o'r guards ar Reilffordd y Dar, yn Aberdar, rhwng dwy wagen, a niweidiwyd hi yn druenus. Yn Llundaii), yr wytHnos d-Jiweidaf, ded- frydwyd un William Potter i ugain inlynedd o lafur pen; .ii)l am saethu ei briod, gyda y bwriad o'i L> iinddio, ac am danio ar Mary Beresford a J _>hn Robinson, y rhai ddaeth- ant i'w chynorthwyo. Y mae Tywysog Cymrn a Dug Connaught wedi gadael Llundain am Berlin, er bod yn bresenol yn :«hri»das xu y ddwy Dywysoges Germanaidd. DYDD Gwener, cIarlu i DYWYAOW Coron Awstria fed yn bresenol yn Aldei shot, pan arolygid y catrodau gan y Cad..Stede/ Yr oedd ar y maes tua 7;000 o wyr, a 2,000 o geffyliiu.
Advertising
PWYLLGOR CYNORTHWYOL ABSEDAE. "HYMUNA y Pwyllgor a ffarfiwyd yn L'erpwl er lleddfu y newyn yn Neheu- dir Cymru wneuthui- yn hysbys fod gwaith i'w gael i nifer o Lowyr ac ereill yn Lanca- shire a Gogledd Cymrn. Dylai y rhfii sydd heb waith ymofyn yn ddioed [1 rhai o'r pwyll- gorau lieol, neu adael eu henwau yn No. 2, Whitcombe Place, rhwng wytlx a naw o'r gloch y nos, cyu diwedd yr wythnos bresenol. Nac ymofyner gan neb ond y rliai svdd heb waith enon. TRWY ORCHYMYN. Chwof. 20fed, 1878. Goreu arf, arf dysg." Siloam, Gyfeillon. BYDDED hysbys y cynelir yr WVTHPED GYLCH WYL LENYODOL yn y lie uchod dydd GWENER Y GHOGLITH, 1878, pryd y g-wobrwyir yr yingeiswyr bucldugoJ mewn lihyddiaetli, Barddoniaetli, Can- iadaeth, Areithift, Adrodd, &c. Prif aii Tracthawd—" Gwyrthiau Crist, a'u nodwedd- ion gwobr, gini. Pryddest—" Gvvahaniad yr Iorddonen gwobr, gini. Caniadaeth-I'r C6r, heb fod dan 30 mewn nifer a gano yn oreu y Reqiueni ar ol y diweddar Ieuan Gwyllt. gan Proff. Parry, U.C.W. gwobr, 7p., a metronome i'r Arweinydd. gwerth lp. lOs. Llywydd,—Marchon, Pontypridd. Beirniady Ganiadaeth,—EosDyffr. n, Llundain Y Farddoniaeth, Watcyn Wyn. Pob manylion pellach, yn ughyda'r gweddill o'r testynau i'w cael ar y pro<iramrac (yn barod dde- chreu Ionawr), am y pris arferol, gan M. MORGAN, Ysg., 1793 Trehafod, Pontypridd. BIRMINGHAM Goods, Hardware, Jewellery, Watches, Harmoniums, Furniture. Agents Wanted. Wholesale Book, 300 Illustrations, post free. Apply-HENRY MAY, Birmingham. 1835 JOHN HEATH'S EXTRA STRONG STEEL PENS, with oblique, turned up, and rounded points, Golden Coated, bronzed and carbonized. Suit all hands, all styles, all ages, and all kinds of work. Over 200 patterns. Sold by Stationers everywhere, in 6d., Is., and gross boxes. The public aie respectfully requested to BEWARE OF WORTHLESS IMITATIONS, and to see that they really get John Heath's Pens. Should any difficulty arise, an assorted sample box will be s(nt per post on receipt of 7 or 13 stamps. Address John Heath, 70, George Street, Birmingham. 1775.