Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
O'r Gorllewin!
O'r Gorllewin! (Allan o'r Wa-y, am Chwefror 9fed). Y FASNACH HAIARN. Bydd i felin haiarn Wellsville gychwyn mewn Ilawn hwyliau yn mhen ychydig ddyddiau. Dywed newyddiaduron Sharon nad oes gobaith am waith y gauaf hwn yn melin Middlesex. Mae gweithiau dur newyddion Joseph H. Brown, yn Chicago, agos yn barod i ddechreu gweithio. Yn ngwaith hoelion yr Etna, New Castle, Pennsylvania, gwnaed 102,000 kegs o hoelion y flwyddyn diweddaf. Mae mwyafrif melinau Pittsburgh yn rhedeg yn hynod gyson, er fod rhai ohonynt dipyn yn arafaidd. Wrth gymharu y fasnach haiarn mewn gwahanol fanau yn y wlad, cawn fod y ddinas hon yn derbyn rhan dda o'r archebion sydd yn cael eu cyflenwi. Mae'n wir nad ydym yn cael digon i gadw olwynion pob melin i redeg twrn dwbl, ond dylem ymfoddloni ar ein sefyllfa, gan fod cynifer o fanau yn methu cael dim i'w wneyd. Mae pob melin yn orlawn o weithwyr. Y FASNACH LO. Coshocton, Ohio.-Mae y gwaith yn y lie hwn yn rhedeg yn araf iawn ar hyn o bryd, oherwydd llawnder y farchnad lo ac y mae amryw o'r mwnwyr yn ymadael—rhai tua Church Hill, ac ereill ni wyddis i ba Ie. Irwin Station, Pennsylwnia.Mae cant o lowyr wedi cael eu suspendio yma gan gwmni y Penn Gas, ac wedi hyny ataliwyd Shaft No. 2. Warrior Run, P ennsyl ran ia.. A I' fer a i rhai canoedd o bobl gael gwaith yma, ond yn awr y maent yn cae: dyoddef yn drwm oher- wydd arafwch masnach y glo. Nid ydym yn cael gweithio ond haner amser, a dywedir fod rhai teuluoedd yn dyoddef cisieu bwyd. (O'r Drych Americanaidd). FEUG-DEITLAU.—Ymddangosodd y llythyr canlynol oddiwrth T. D. Jones, Brazil, Indiana, yn y Drych am Ionawr Slain :— Gwelwn oddiwrth y Drych a newyddiaduron Cymreig yr Hen Wlad, fod cyfeillion Myfyr Morganwg wedi cyflwyno iddo yn ddiweddar diploma o Brifysgol Philadelphia, gyda'r teitl o D. C. L., (Doctor of Civil Laws). Yn awr, a fedr rhai o ddarllenwyr y Drych ein hys- bysu yn mha le yn Philadelphia y mae'r Brif- ysgol hon, a phwy yw ei llywydd 1 Gwyddis fod lluawr o deitlau wedi cael ei gwerthu yn Philadelphia, á'u prynu gan ffyliaid uchel- geisiol yn Mhrydain. Drosodd a throsodd drachefn, mae gwasg y ddwy wlad wedi rhoi pobl ar eu gwyliadwriaeth yn erbyn y budr- waith hwn. Mae haid o ladron yn Philadel- phia yn gwneyd masnach er ys blynyddau mewn teitlau athrofaol o bob math. Weith- iau galwant yr urddysgol ar yr enw yma, dro arall ar yr enw acw—ond yr un giwaid sydd wrth wraidd yr holl dwyll. Ofnwn mai twyll o'r duaf yw y teitl a gyflwynwyd i Myfyr Morganwg, ac nad yw yn werth y memrwn ar ba un yr ysgrifenwyd ef. Byddai tipyn o oleuni drwy y Drych ar y drafodaeth yna yn hynod werthfawr. MAR WOLAETHA U. Rhagfyr 13eg, yu nhy ei hanwyl ferch, Mrs. W; Steel, Rhif 2019, Oxford-st., Philadelphia, Mrs. O. J. Griffiths, yn71 mlwydd oed, gweddw y Parch. Thomas Griffiths. Daeth y tenlu dros. odd o Alltyplaca, sir Aberteifi, yn 1841. Bu iddynt wyth o blant, chwech o feibion a dwy o ferched. Bu Griffith a Nugent farw pan yn ieuainc yma. Ganwyd y rhan fwyaf ohonynt yn yr Hen wlad. Tua phum mlynedd yn ol bu Mr. Griffiths farw yno hefyd. Arosodd hi yma gyda'r plant, a buont yn ofalus iawn ohoni. Daeth y bechgyn i anrhydedd—Thomas J. sydd yn feddyg yr U. S. Marine Hospital, Louisville, Kentucky; George W. yn Major, U. S. Vol., yn awr yn yr un lie John J. oedd Taliedydd (Paymaster) y Llynges Americanaidd yn ystod y rhyfel, yn awr yn amaethwr cyfrifol yn Towanda, Bradford Co., Pennsylvania. llhagfyr lOfed, 1877, yn Danville, Pennsyl- vania, °yn 58 mlwydd oed, ar ol puin mis o gystydd dan y dropsy Mrs. Ann Thomas, priod Mr. Thomas Thomas, Rough & Ready. Merch ydoedd i William Williams, o'r Drain, Pont- morlais, Merthyr Tydfil. Gadawodd briod a thri o blant i alaru eu colled ar ei ol. lonawr lOfed, 1878, yn Tresckow, ger Jeans- ville, Pennsylvania, yn agos i 60 mlwydd oed. John B. Jenkins. Yr achos o'i farwolaeth oedd iddo gael niwed yn y gwaith glo—syrthiodd careg fawr arno, ac anafwyd ef mor dost fel na fu fyw ond ychydig o oriau. Ganwyd yr ymad- awedig mewn lie o'r enw Llechryd, yn swydd Fryeheiniog. Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon o New Tredegar, swydd Fynwy, yn 1S69, ac ymsefydlasant yn Minersville. Ionawr lleg, yn Wiconisco, Pennsylvania, Mrs. Leah George, yn 68 mlwydd oed, gweddw i'r diweddar Heary George. Mae un ferch iddi yn Nghymru yn Bentwrmawr, ger Crumlin, Mynwy, priod David Richard, diacon yn eglwys Fedyddiedig Beulah. Ganwyd hi yn Pontypool, Chwefror 4ydd, 1810, ac enwau ei rhieni oeddynt Daniel a Mary Morgan. Priododd a Henry George yn Panteg.
[No title]
Y mae W. Gale, y ceridwr yn awr yn Hull, ac wedi ymgymeryd" â cherdded 4,000 chwar- ter milltir mewn 4,000 deng mynyd yn olynol.
Advertising
PELENI HOLLOWAY.—YR YSGYFAINT A'R CY], I., Y mae tywydd twym a borer au a phrydnawnau oerion bob amser yn creu anhwylderau yn rhanau treuliol y corff, y rhai ddylai gael gofal prydlawn. Nid oes dim yn debyg i Beleni Halloway amwella y treuliad. Maent yn cael eu cydnabod yn gar- trefol a thramor fel y feddyginiaeth sicraf ac effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diffvg treuliad, gwynt, chwyddiad, gwrthwyneb- eddj pob math o ryddni. clefyd y gwaed, sychdery croen, a. bol-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn amddiifyn y cyfansoddiad rhag y niweidiau am. rywiol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y^ tywydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwyddyn. Nid ydynt yn y»yraeth dim waith na phleaw
LLANGENNECH.
LLANGENNECH. Nos Sadwrn, Chwef. 16eg, cynaliwyd cy- ngherdd ardderchog yn y lie uchod er budd Mr. likan Williams, arweinydd coryr Eglwys. Llywyddwyd gan John Parsons, Ysw., Plas- isaf. Y datganwyr oeddynt Mrs. Magor Evans (gynt o Aberdar), Miss Morris, Llan- elli Mri. Stanford, Llangennech Pritchard, Dafen G. a A. Edmunds, Grovesend; H. Edmunds, Brynaman a glee party Maescan- ner. Aeth pawb ohonynt drwy eu gwaith yn ganmoladwy, ac yna cafwyd cyngherdd o'r natur oreu. Yr oedd yn wir yn llwydd- iant yn mhob ystyr. MASNACH.—Nid da genym nodi fod mas- nach tra yn marweiddio yn y lie hwn y dydd- iau hyn, ac nid oes genym ond dymuno na fydd i barhau felly, ac y bydd eto yn fuan yn debyg i'r hyn ydyw wedi bod.—Xerxes.
GOGLEDD LLOEGR.
GOGLEDD LLOEGR. Ychydig o hanes o'r lie hwn sydd i'w gan- fod yn y GWLADGARWR, sef organ y gweith- iwr. Y mae yn dda genym ddeall ei fod wedi cyrhaedd ei ugain oed mewn perffaith iechyd, heb un argoel o'r darfodedigaeth arno. Y peth sydd wedi creu awydd ynom i anfon llith i'r GWLADGARWR ydyw ein sefyll fa ni,-fel gweithwyr, ar adeg helbulus fel y bresenol. Wrth ddarllen yn y gwahanol new- yddiatluron am y tlodi mawr sydd yn ffynu yn ein Hen Wlad lien ganwyd a'n magwyd, teimlwn yn ddwys am y dyoddefwyr, ac yn ofidus, braidd, am nad allem anfon cynorthwy iddynt. Tlawd ydyw mewn Ilawer o fanau yma—ein gweithfeydd mawrion a'u holwyn- ion wedi eu hatal er's tro, heb un gobaith am ail gychwyniad. Yn ychwanegol at hyn y mae rhybuddion wedi eu gosod i fyny i 03twng ein cyflogau. Y mae yma lawer iawn allan o waith, ac yn ymddibynu argaredig- rwydd ac ewyllysgarwch ereill. Gwelsom adeg digon helbulus ar ein gweithfeydd o'r blaen, ond dim cyhyd a'r adeg bresenol, a'r gofyniad gan bawb ydyw "Beth ddaw ohonom fel gweithwyr?" Pa beth ydyw ateb ein cyfaill o L'erpwl ? A oes gwlad i ni i ymfudo iddi 1 A oes gwlad heb ormes a-thrais o fewn ei chyffiniau 1 Ofnwyf nad oes. Y mae glo- wyr Northumberland wedi cychwyn i ail weithio ar y 12t y cant o ostyngiad, ar ol bod allan am dymor. Pa le mae cyflafaredd- iad y meistri yn awr ? O nid oes angen am dano, meddent, pan ar adegau ereill yr oedd- ent yn foddlawn i gyflafareddiad fod y mae pethau wedi cyfnewid yn awr, y gwanaf i ymostwng dan iau y gormeswyr. Y mae yn dda genym feddwl fod ein Bwrdd ni, sef Bwrdd Cyflafareddol Gweithwyr Tan Gogledd Lloegr, yn para yn ei berffeithrwydd, ac yn debyg o wneyd hyny, gan fod y fath deimlad hapus yn bodoli rhwng y meistri a'r gweith- wyr. Gydweithwyr, gofalwch am y dynion mwyaf cymhwys at eich cynrychioli, rhai ag y gellwch hyderu yn eu gonestrwydd pan yn eich cynrychioli. Gwyddom ein sefyllfa fel gweithwyr, rhai allan o waith, a lluaws mewn angen bara. Gwawried yr adeg na welir neb a fyddo yn dewis gweithio mewn eisieu bara.-Dewi Glan Tees.
ABERDAR.
ABERDAR. DA.RLITH.-Nos Iau, y 21ain cynfisol, tra- ddodwyd darlith gan y Parch. J. Roberts, Glynnedd (ddiweddar ficer Llangeler), yn nghapel y Gadlys, ar "Safle a Chenadwri Menyw." Cymerwyd y gadair gan Mr. D. Davies, Canon-street, Aberdar. Cafwyd darlith ragorol, a gobeithio y gwnaiff y gwyr a'r merched ieuainc ddefnydd o'r cy- nghorion a gawsant, a gobeithio y gwnaiff y gwragedd ddal eu sefyllfa a'u cenadwri. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo Mr. John Watkins, yr hwn sydd yn glaf er ys dwy flynedd.-J. E. J. BETHEL.—Y mae yn destyn llawenyad i bawb syddyn teimlo yn rhwyddrediad gweith- rediadau'r Efengyl, i weled yr agwedd lew- yrchus a llwyddianus sydd ar achos yr Ar- glwydd Iesu yn yr eglwys hon yn bresenol. Mae y capel eang ar dori gan y gynulleidfa sydd yn ymgynull ynddo ar y Sabothau yr ly Ysgol Sabothol yn lluosog a blodeuog iawn y canu yn gyflawn a swynol, a'r ddwy gym- deithas demlyddol a berthynant i'r capel yn eu llawn egni yn ymestyn tuag at ddyrchafu rhinwedd. Mae y cydweithrediad mwyaf dymunol rhwng holl aelodau yr eglwys a'i gweinidog newydd, y Parch. R. Morgan, di- weddar n Aberafon. Ychwanegwyd pymtheg i gymundeb yr eglwys y Saboth cyn y diwedd- af, ac y mae amryw eto yn ymgeiswyr newydd am aelodaeth. Pe byddai i'r gweithfeydd adfywio ychydig, deuai llawer o'r hen aelodau gwasgaredig yn ol i'w cartrefi, a byddai y capel yn rhy fychan i gynwys i gynulleidfa.— Heman.
CWMBACH.
CWMBACH. Mae tua wyth o lowyr wedi dechreu gweithio yn Hen Bwll Williams, eiddo y P.D's, yr hwn sydd wedi bod yn segur am lawer o amser. Mae amryw wageni wedi eu llanw, dau arolygiaeth y manager, Mr. J. Griffiths. Gobeithio yr aiff yn y blaen yn llwyddianus. Fe ddywedir mai oherwydd y treuliau mawrion a achosir yn ami gan an- wybodaeth swyddogion y mae Ilawer o weith- feydd yn methu. Fiynyddau yn ol daeth i'r ardal hon ddyn, yr hwn oedd yn grydd wrth ei alwedigaeth, i gymeryd ag arolygiaeth glofa, a chan nad pa faint wyddai am y gorchwyl oedd ganddo, fe ddaeth yn mlaen yn y byd, ac adeiladodd lawer o dai. Pan elai Cymro ato i ymofyn gwaith ei ateb oedd fynychaf, Gad awa' from the bank, Welsh nanny-goats." Ond dyna, y mae erbyn hyn yn huno gyda'r tadau. Y mae y soup kitchen yn parhau i borthi yr angenus yma y mae canoedd yn cyfran- ogi o'r soup yn ddyddiol, ac y mae nifer fawr hefyd yn cael eu dilladu.-O.
TAIBACH, MORGANWG.
TAIBACH, MORGANWG. Addewais, dro yn ol, wrth gyfeillion y GWLADGARWR, i anfon gair neu ddau yn fuan wedi hyny yn nghylch yr hyn oedd genyf mewn Haw y pryd hwnw ond aeth fy ym- weliad a'r Gogledd, Manaeinion, a Llundain â'm hamser, fel y methais gyflawni fy addewid mor fuan ag y dymunwn. Yn wir, fechgyn, nid hawdd yw ysgrifenu llawer wrth garlamu ar gefn y ceffyl tan o'r naill fan i'r llall, a hwnw fel hen asyn Jack y Gof—bron colli ei anadl, ac yn gwaeddi Pwff, pwff" bob cam. Modd bynag, er wedi bod am rai wythnosau fel yna i ffwrdd, cyrhaeddais adref yn ddiogel wythnos yn ol, a chefais bawb yn weddol iach bwyd yn y ty a the ar y pentan yn fy nysgwyl, i'm hadfywio ar ol y daith. Teimlwn fel y Sais-" There's no place like home;" ond eto, er fy mod oddicartref yn nhrefydd mawrion Lloegr, nid oeddwn heb gael hanes bechgyn y Deheu gan y GWLAD- GARWR ffyddlon bob wythnos. Cynwysai hanesyn byr lied ddifrifol am un o fechgyn y ly Gogledd, hefyd, un wythnos. 0 dan benawd Priodasau yr oedd. Dyfalweh chwi beth oedd—sef ei fod wedi priodi yn Manceinion dyna'r si oedd am dano yno, ac nid oedd un dyben gwadu'r ffaith-ffaith ogoneddus, mi a hyderwn. Dyna'r son sydd yn Llundain a Llanrwst. Nis. gallwn beidio chwerthin pan nodai gwraig o Uymraes yn Llundain fod yr hanes yn hollol wir, gan fod y tri rhifyn ildaeth i'm Haw o'r GWLADGARWR am yr un wythnos yn dweyd yr un peth. Un o ryfeddodau penaf Llundain y dydd- iau hyn i edrych arno yw y Cleopatra's Needle, yr hon a welais a'm llygaid tra yr oedd yn yr East India Docks. Ni chaniateid ond chwech neu saith i fyned i mewn i'r Ilestr i'w gweled. Ar y deck, yr oedd yn rhaid i bob un dynu ymaith ei got a'i het, er mwyn bod yn fwy eyfleus i fyned i lawr i gorff (hull) y llong at y gareg. Wedi myned i lawr ychydig, rhoddai dyn ganwyll i bob un yn ei law yna, byddai pob un yn gwneyd ei oreu i ddal y goleu ag un llaw, a gweithio ei ffordd yn mlaen trwy y lie cyfyng a'r llaw arall, ac ar hyd ysgol-gortyn (rope-ladder) oedd yno. Disgynodd un arall a minau i lawr .Y hyd ochr y gareg enwog, ac aethom i lawr odditani, er cael gweled yr hieroglyphics, yr arwydd-luniau, a'r llythyrenau sydd wedi eu cerfio arni, ac et gweled a sylwi ar ddull hynod a chywrain gwneuthuriad y llestr, yn nghyd a'r modd yr oedd y gareg anferth wedi ei gosod ynddi. Diau i'r rhan fwyaf o ddar- llenwyr y GWLADGARWR ddarllen y manylion am ei hanes, ei mesuriad, ei phwysau, a'i ffurf, ac iddynt weled darlun o'r gareg a'r Hong yn yr Illustrated London News. Pan geir lie dymunol i'w gosod, credwyf y byddai yn werth i mi, a phawb o ran hyny, fyned o Gymru i'r Brifddinas i'w gweled. Credwyf fod \>obl Llundain bron yn ei haddoli, beth bynag gwnant lu o bethau ar lun y Needle. Ond syndod, i ba le yr aethom yn awr wrth ymgomio ? Canodd yr awel ni yn mhell oddicartref, ac oddiwrth y pwnc mwyaf mewn golwg yn y llith hwn. Taibach sydd deilyngaf o sylw yn awr. Crybwyllasom fod yma gyfeillion wedi cymeryd i'w gofal y gwaith o wrfeyd enter- ta-inment ardderchog, i'n cynorthwyo gyda'r golled gawsom fel teulu Smyrna ar ein capel. Anfonasom o'r blaen restrau hirfaith o'r tanysgrifwyr haelionus, ac y mae ereill mewn llaw—personau ereill, cofiwch, nid lists ereill, rhag i neb feddwl fod arian yn tyfu yn Nhaibach. Na; dim perygl, er eu bod cystal yma ag un lie yn Nghymru, a diolch am hyny pan y mae peiriant trafnid- aeth bron yn sefyll. Mae yn dda genym hysbysu y cyhoedd, fel y gwelir ar y tocynau, fod y "grand entertainment" crybwylledig i fod.nos Iau, yr 28ain cyfisol, yn y Workmen's Hall, Taibach, pryd y bydd Mr. James Singleton i arwain y canu, Miss Olive Griffith i chwareu ar y perdoneg, a'r Parch. O. Waldo James, Aberafon, i gymeryd y gadair. Glee party y Dyffryn a fydd yn cymeryd y gwaith yn yr oil ohono gyda'r canu, o dan nawdd ei arweinydd. Gwelir fod genym ragolygon gobeithiol i lwyddo mewn cael cyfarfod da, ac elw mawr, hyder- wyf. Gallwn fod yn sicr y bydd y cyfarfod yn treat i'r ardal; ac fe ddymunir ar i'n cymydogion o Aberafon a Chwmafon, a'r oil o Daibach, fod yn bresenol. Cewch air eto i ddweyd sut y bydd pethau wedi pasio yn y cyfarfod.—Gunlym Tudno.
CWMAFON.
CWMAFON. MASNACH.—Tlawd iawn y mae pethau yn parhau yma—mor dlaw.d, fel ag y mae llawer yn dyoddef eisieu ymborth priodol er cynal bywyd yn eu cyrff. Clywsom fod rhai o'r glowyr yn gorfod myned i'r gwaith â'u blych- jlU yn weigion,- ac yn dychwelyd gartref yn yr hwyr bron llewygu ar ol diwrnod caled o waith, a thrachefn dim i'w gael. Y mae hyn yn annyoddefadwy, a goreu po gyntaf y gwneir trefniadau er diwallu y trueiniaid hyn. A oes neb o'n masnachwyr a gymer arnynt i wneyd ymchwiliad i'r achosion hyn Rhaid agor ein llygaid, onide bydd ein cyd- ddynion yn newynu yn ein hymyl. Ond er mor dlawd, y mae cyfalaf am wneyd y tlawd yn dlotach. Mewn cyfarfod a gynaliwyd nos Wener, pan anerchwyd y glowyr gan Mr. Shaw, yr oedd am iddynt gymeryd gostyng- iad eto o ddau swllt y bunt. Beth a wna y gweithwyr, nis gwyddom ond gobeithiwn y tyr y wawr, ac y bydd i bethau ddyfod i derfyniad gwell nas gallwn weled yn awr. Y mae y rhanau ereill o'r gwaith yn cerdded yn weddol gyson.IIen Weithivjr. UNDEB CERDDOROL ANNIBYNWYR Dos- BARTH CWMAFON.—Dydd Llun, y 18fed o Chwefror, cynaliodd yr undeb uchod ei wyl gerddorol, pan yr oedd tua 600 o gantorion yn cymeryd rhan, o dan arweiniad y Parch. E. Stephens, Tanymarian. Cyfarfyddodd sorau Seion a Bethania, Cwmafon Wern a rabernacl, Aberafon; Giboon, Taibach; Rock, a Sardis, Efailfach, am ddau o'r gloch ar y diwrnod uchod, yn Seion, Cwmafon, pryd y cawsom y pleser o wrando canu bendigedig. Yn y cyfarfod dau, canwyd y tonau "Bendithiad," "Carmel," "Glan-yr- afon," "Litchfield," "Trefor," "Nashville," "Bethel," "Dyffryn Baca," (o Lyfr Tonau Cynulleidfaol Stephens a Jones), Psalm 23, a Molwch yr Arglwydd," Dr. Parry. Am chwech o'r gloch, yr oedd y capel eang yn orlawn cyn dechreu y cyfarfod bernir fod dros 2,000 o bobl yn bresenol. Canwyd, yn y cyfarfod hwn, "Ramah," "Moscow," "Heidelberg," "Noddfa," "St. Nicholas," "Catherine," "Moriah," (o Lyfr Tonau Cynulleidfaol Stephens a Jones), cxxi Psalm, ac Anthem goffawdwriaethol Ieuan Gwyllt," J. H. Roberts, Caernarfon. Yr oedd yr oil o'r canu yn hwylus iawn rhai o'r tonau yn cael eu adganu amryw weithiau. Da genyf, hefyd, allu eich hysbysu fod yr arweinydd parchus wedi ei lwyr foddloni; cafodd y cantorion gymeriad anrhydeddus ganddo. Gobeithio y bydd i'r undeb barhau yn ei rym, ac y bydd iddo wneyd llawer o ddaioni. "VARIOUS SORTS OF TALKERS."—Ar yr un noson, traddododd Jas. Shaw, Ysw., ddarlith ardderchog ar y testyn uchod, o dan nawdd Cymdeithas Grefyddol y Dynion Ieuaine. Yr oedd yr ysgoldy eang, yn mha un y cynaliwyd y ddarlith, wedi ei lanw yn dda iawn. Gobeithio y cawn ychwaneg o'r fath yn fuan eto.—Cynidleidfaolwr. Nos Fawrch, Chwefror 19eg, traddodwyd darlith ardderchog ar Gerddoriaeth," yn nghapel Bethania (A), Cwmafon, gan y Parch. E. Stephen (Tanymarian), Bethesda, Arfon. Yr oedd y parchedig Mr. Stephen yn ei hwyliau goreu, yn traddodi gyda nerth a dylanwad mawr, nes gwefreiddio y gynull- eidfa. Wylai rhai, gwenai ereill, a gwelais hwy yn tyru o amgylch un oedd wedi syrthio i lewyg. Nid oedd Tanymarian wedi ysgrif- enu gair erioed o'i ddarlith, ond aeth trwy ei waith yn ogoneddus. Profai ei fod wedi llafwrio ar hyd ei oes, a'i fod yn awr yn feistr ar ei bwnc. Canodd amryw ddarnau lion a lleddf ei hunan, dadleuai ryfeddodau synfawr a gwahanol elfenau y gelfyddyd ardderchog hon. Defnyddiai yr harmonium i egluro gwahanol osodiadau, a dangos effeitliiau canu, a phrofai fel yr oedd cerddoriaeth yn glyw- adwy a gweladwy i'r cerddor yn mhob rhan o'r greadigaeth ac yn glywadwy iddo hefyd yn y lleisiad lleiaf o eiddo dyn ac anifail, ac yn y swn mwyaf aflafar, a'r tyrf mwyaf disain. Mawr ddiolch iddo am ei ddarlith alluog, a'i draddodiad hyawdl a meistrolgar ohoni, meddai pawb, mi gredaf, wrth dd'od allan. Cymerwyd y gadair gan y Parch. Mr. Roberts, Seion. Da oedd genym weled y darlithydd enwog yn edrych mor dda, cododd hiraeth arnaf am y Gogledd wrth ei weled, ac wrth feddwl ei fod yn dyfod o'r very spot -lie y cefais inau fy nwyn i fyny, sef Bethesda, Arfon.* Hyderwn y gwna y ddar- lith lea i ganu pobl Cwmafon. Er fod eich canu yn dda; fechgyn, eto mae yna lei wella. Sticwch uhwi, a daw rhywbeth ohonoch. Bendith Duw ddilyno'r darlithydd, medd— Gwilym Twf,no.
DAFEN.
DAFEN. Er fod amryw weithfeydd glo o gwmpaa y pentref hwn, prif gynorthwy-ydd y lie ydyw y gwaith alcan, ar yr hwn yr ymddibyna y rhan fwyaf o'r trigolion am eu cynaliaeth. Mae y gwaith yn gweithio yn lied gyson, ac ystyried sefyllfa masnach yn bresenol, a thrwy hyny nid ydym yn dyoddef angen a newyn fel y mae Iluaws yn y Deheudir. Y mae yma ddau le o addoliad, sef capel y Bedyddwyr a'r Eglwys Sefydledig, yr hon sydd yn un o'r rhai harddaf yn Nghymru ond y mae ei deiliaid yn hynod o seremoniol a defodol. Ymgrymant i arluniau o'r Ùwar- edwr, a Mair; troa'r offeiriad, ei gefn ar y bobl, a'i wyneb tua'r dwyrain a gwisga y cantorion wisgoedd gwynion. Y mae pethau fel hyn yn dangos fod Eglwys Loegr yn myned yn debycach i'w mham oRufain o hyd ac y mae y ffaith ei bod felly yn galw yn uchel ar athrawon, rhieni, a gweinidogion, i ymdrechu i gadw yr ieuenctyd yn rhydd oddiwrth arferiadau coelgrefyddol o'r fath. Gwelais yn ddiweddar, er mawr syndod i mi, rai o aelodau cyfundeb parchus y Methodist- iaid Calfinaidd, ac yn proffesu eu hunain yn selog drosto, mor benfeddal a gwrando ar wahoddiadau taerion, ac addewidion teg y defodwyr hyn, fel y maent erbyn heddyw yn nghanol seremoniau Uchel Eglwysig. Chwef. 9fed, traddodwyd darlith ar Deml- yddiaeth Dda, gan y Parch. Morris Morgan, T. U. B. D., HwlSbrdd. Cafwyd cynulliad llu- osog, a darlith aruchel.—Llanc o'r lie.
MERTHYR.
MERTHYR. GWYLDEWI SANT.—Bwriedir enwogi dydd gwyl sant gwarcheidiol Cymru yn y lie hwn eleni drwy gael ciniaw ardderchog yn y Cow- bridge Arms, dydd Gwener, y laf o Fawrth. Y mae prif feirdd, llenorion, a chantorion y cylchoedd wedi arwyddo eu bwriad i fod yn bresenol ar yr achlysur. Dysgwylir beirdd y Dont o bob gradd, o'r Gwyn o Essyllt a'r Haran i lawr, i fod yma. Bydd Tom Wil- liams a'i gyfaill hefyd yma yn cynrych- ioli y byd datganiadol. Dechreua y giniaw am 1.1.30 yn y prydnawn, pryd y cymerir y gadair gan T. J. Dyke, Ysw., high constable, Merthyr. Oddiwrth y programme sydd wedi ei ddarparn, yn nghyd a'r personau sydd wedi amlygu eu bwriad i fod yn bresenolj gellir dysgwyl cael gwledd na ragorwyd arni gan un a gynaliwyd yn Merthyr yn flaenorol. Bydd yr hen frawd, Nathan Dyfed, hefyd yn bresenol yn ei hwyliau goreu, yn- Rhoi'r ffon ar feibion y fall, A blingo hud pobl amighall."—(<.
GLANTWRCH.
GLANTWRCH. BETHEL. —Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y capel uchod, nos Sadwrn, Chwef. 23ain. Llywydd, y Parch W. Trefor Davies, gwein- idog y lie beirniadwyd y farddoniaeth a'r adroddiadau gan Alaw Llynfell; y canu gan Mr. D. Francis, Treforis a'r gwobr-gydau gan Mrs. Jane Powell Enillwyd ar ganu Cymry" gan D. Samuel, Ystradgynlais am adrodd y Niagara" (Mynyddog) rhanwyd y wobr rhwng W. Jeffreys a D. Owen. Beirn- iadaeth ar yr englyn i Ffynon Cwmtwrch, Ap Ionawr a Dewi Glantwrch yn gyd-fuddugol. Unawd, Curo, 0 pwy yw goreu D. Owen. Adrodd, Boxer, y ceffyl blaen goreu W. Jeffreys. Canu Y meddyg mawr," un yn cynyg, ac yn deilwng, sef M. Harris. Can i'r gwanwyn, Gwilym Wyn a Ieuan Twrch yn gyd-fuddugol. Triawd, Bedd y dyn tlawd," goreu Joseph Williams a'i gyfeillion. Ys- grifenu adnod ar y pryd, goreu D. Owen rhoddwyd ail wobr i W. Morgans gan y llyw- ydd. Beirniadaeth y gwobr-gydau, goreu Elizabeth Thomas rhoddwyd ail wobr i H. D. Owen. Canu Y seren unig," goreu Glee Party Bethel, dan arweiniad J. Dyfrig Owen. Unawd, "Merch Jeptha," goreu Ann Mark. Traethawd Y fantais i gymdeithas o gau y tafarndai ar y Saboth," goreu David Davies, Cwmgiedd. Canu y Marseillaise," dau gor yn cystadlu, goreu Cor y Rhiwfawr, dan arweiniad J. D. Williams, yr hwn hefyd a gafodd ddarlun hardd o'r enwog S.R. Ter- fynwyd gyda'r seremoniau arferol, ac aeth pawb adref wedi eu llwyr foddloni.— Un oedd yno.
NEILLDU OLION.
NEILLDU OLION. Yr wyf, o bryd i gilydd, yn dyfod ar draws newyddion, a phethau ereill neillduol, nad oes ond ychydig yn gwybod am danynt ond fy hun. Nid wyf yn ddoethach nac mor wybod- us a llawer, ond fod fy nghysylltiadau, &c., yn fy ngosod mewn sefyllfa tra annghyffredin a manteisiol i weled a chlywed llawer o bethau sydd yn ddyddorol i'w hail-adrodd. Felly, os byddwch chwi, Mr. Gol., yn cyd- farnu a mi, anfonaf benod o neillduolion i'w chyhoeddi yn awr ac eilwaith yn y GWLAD- GARWR. Dyma Wyl St. Valentine wedi dyfod un- waith eto ac heb fyned i'r drafferth o roddi hanes St. Valentine, nac arferion yr wyl, dymunwyf wneyd gwrthdystiad distadl yn erbyn yr arferion d wI sydd yn cael ffafr yn mhlith fy nghydieuenctyd ar yr wyl yma. Yr wyf yn methu deall pa hawl sydd gan neb i enllibo cymeriad ei gymydog drwy ofi'eryn- oliaeth rhyw hyll-ddarlun celwyddog, neu lythyr maleisddrwg, yn fwy na'i gyhuddo yn gyhoeddus o bethau na ddychymygodd erioed. Y mae yn drosedd uniongyrchoL o'r gorchymyn "Na ddwg gamdystiolaeth, &c. pa farn bynag a ddygwydd neb ddal i'r gwrthwyneb. Y mae, hefyd, yn creu teimiadau annymunol ac annheilwng rhwng cymydogion a chyfeillion na ddylai, ar am cyfrif, fodoli. Dywed Wheatley fod Valen- tine yn enwog am ei gariad a'i elusengarwch, ac fod yr arferiad wedi cychwyn oddiar y ffaith hon. Os felly, gwawd eithafol ar y Sant yw halogi ei wyl yn y modd hwn, a a chaniatâll, fod cadw gimjliau o gwbl yn ■gan- moladwy. Y mae fy opiniwn Ronyf ar gadw yr wyl W yn «nyrcdlg o gwbl, ond apeliai at bawb am adael y nndwedd hon o'r wyl allan, er mwyn cymydogaeth dda a synwyr cyfljedib) Nid wyf wedi gweled un sylw yn cael ei wneyd o nodiad a wnaed gan Ddewi Wyn yn y IVeekly Mail, er's talm bellach, am Redyu- og. Cyhoeddodd yn y Mail bryddest oedd yn ei feddiant oddiar eisteddfod Treflalys, gan fynegu mai y rheswm na wobrwyodd awdwr y bryddest hon y pryd hwnw oedd nad oedd ar destyn y pwyllgor, ond fod ei rhagoriaeth fel cyfansoddiad yn gyfryw ag i'w gymhell i'w chyhoeddi er anrhydedd i'r awdwr ac heblaw yr anrhydedd a'r ganmol- iaeth a roddai iddi, y cawsai y Weekly Mail am flwyddyn yn rhad, ond dadguddio eihun. Trodd allan mai Rhedynog yw yr awdwr a barn wyf mai teg yw hysbysu hyny. Nid wyf yn fardd, ond fel darllenydd helaeth o fardd- oniaeth, credwyf ei bod yn neillduol ddarllen- adwy a dyddorol; ac am ei barddoniaetb, diau fod tystiolaeth Dewi Wyn yn ddigonol. Os rhywbeth, gellid brashau testyn fel Bro Morganwg" a mwy o hynafiaeth a hanes- iaeth ond feallai fy mod yn troedio oddiar y llwybr yn y fan hon. Dymunwyf lon- gyfarch Rhedynog wrth wneyd hit fel bardd, a chofied beidio gadael i ryw wyleidd-dra beius ei atal i roddi i ni brofion pellach o'i ragoriaeth fel bardd. Wrth chwilio hen lyfrgell yn ddiweddar, cefais gopi drylliedig o'r "Haul" (Medi, 1852), yn cynwys y penill cyntaf yn unic (y gweddill wedi rhwygo) o "Ymweliacl y bardd," gan loan Tegid, yr hwn sydd yn dechreu I dref y Bala'r'aeth y Bardd," &c.; ac wrth ragnodiad gan y Gol., deallwyf oddi- wrth y canlynol fod cyfieithiad ohono wedi ei gyhoeddi o eiddo rhyw foneddiges "Nis gwyddom pa un sydd yn teilyngu ein cymer- adwyaeth fwyaf—y teimladau galarus a ddar- lunir mor ardderchog gan y bardd yn hen iaith Gwalia, neu y tlysion a geir yn ngwaith godidog y cyfieithydd talentog, yr hon," Sic. A oes rhai o'ch darllenwyr a all gael y cyf- ieithiad ac enw y cyfieithydd i mi 1—Cochfarf.
Advertising
PELENI HOLLOWAY. Mae y cyfnewidiad amI, yn yr hin yn y wlad hon yn bsryglus iawn i rRi egwan eu hysgyfaint, ac ir rhai nervous. Uvlai pawb ydynt yn cael eu blino yn y ffyrdd hyn ddefnyddio y feddyginiaeth ragorol hem mor gynted ag y teimlant anesrawythder corfforol, neu y "fceimlad afionydd sydd y meddianu y cyfansodd- iad, ac yn dynodi fed peirianau y treuliad allan o i .ymerer un o Beleni Holloway tua chanol IJI' a ^ner h°no gyda dogn digon mawr i ryddhau y coluddion, pan mai y dyoddefydd yn neillduo i orphwys, a cheir y bydd iddynt yn ddioed wellhau yr anhwyldeb, ac adferu trefn drwy yr holl gyfansoddiad. Dylid gwneyd prawf ar unwaith o feddyginiaeth mor syml, dyogel, a llwyddianus yn ei lieffeithiau, pan fyddo afiechyd, drwv anwyd neu rhyw achos arall, yn by^wth vm- »Bod ar y corff.