Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
RWRDD Y GOLYGYDD.
RWRDD Y GOLYGYDD. INDEX.—Mae yr oil o'ch llythyrau wedi tyrhaedd yn ddiogel. MABONWYSON.—Nis gallwn roddi lie i ch'fj drin person am y tybiwch mae efe ydyw awdwr llythyrau Index," pan y gwyddom nad oes ganddo law ynddynt o gwbl. Mae y llythyr O'r Bwth Barddol" wedi ei dderbyn. DERBYNIWYD. — Cochfarf, Mabonwyson, Un o'r Pant, L. M. N., J. D. (Ystalyfera), Cerddor o Lan Teifi, Tinman, L. M. E. (gwel- wch y nodyn at ein gohebwyr). PWY.—Dylasech anfon drwy law ein dos- barthwr. Yna buasai yn bleser genym gy- hoeddi eich gohebiaeth. J. LEWIS, (Maesteg).—Yr un rheswm sydd genym dros beidio cyhoeddi yr eiddo chwi. ATKBWR (Abertawe).-Danfonodd y cyfaill hwn y penillion Seisnig yr holai Cochfarf yn eu cyich. Yr oedd Allegro o'i flaen ryw enyd. Yn ein nesaf—Hwfa Mon, Tafonwy, Coch- farf, Parvo, Joseph y Trampwr, Cenydd. AT EIN GOHEBWYR. DYAIUXWN hybysu unwaith yn ychwaneg nas gallwn mewn un modd gyhoeddi cofaodion genedigaethau, priodasau, na marwolaethau, oddigerth i ni eu derbyn drwy ddwylaw ein dosbarthwyr. DERBYKIED y rhai ydynt wedi danfon i ni lianesion o'r natur uchod yr eglurhad hwn paham nad ydynt wedi eu cyhoeddi.
PARHAD Y PRYDER.
PARHAD Y PRYDER. Y MAE ansicrwydd yn parhau o hyd yn niherthynas i'r cwesthyn," Pa un sydd i fod, heddwch ynte rliyfel ?" Dyma y cwestiwn a glywir yn mhob pentref a dinas, pob newidfa a thrairi. Er nad yw yr ergvd gweithredol cyntaf wedi ei daro, eto y mae ofn y drwg bron cyn- ddrwg a'r drwg ei hunan: y mae ofn rhyfel a'r parhaus ddwfn bryder bron cynddrwg a rliyfel ei hunan, oblegyd y mae yn dinystrio pob masnach ond y fasnaeh mewn arfau dinystr, a pylor, a Ilongau rhyfel, ae yn cloi capital i fyny yn hollol rhag cylchredeg er lleshad pob dosbarth. yn neillduol y dosbarthiadau gweithiol. Y mae apwyntiad Arglwydd NAPIER yn Ben-Gadfi'idog y Fyddin Brydeinig, a Syr GARNET WoLSEiiEY yn nesaf dano, yn trymhau y sawyr pylor oedd yn yr awyr yn flaenorol. Fe ddywedir fod yr olaf wedi dyweyd mewn ertliygl yn ddiwedd- ar y gallai Lloegr ddodi pedwar can' mil o wyr ar y maes. 0 ba le y maent i ddyfod? O'r India mae'n debyg; ond bydd yn ddiwrnod tywyll ar Erydain pan y bydd rhaid iddi fyned i ryfel Ewrop- laidd mawr a'i phwys ar Indiaid Caw- som brawf o tfyddlondeb yr Indiaid yn y gwrtliryfel diweddaf, ac nid oes dim b wedi dygwydd wedi hyny i gryfhau ein z, y y ffydd ynddynt. Fe ddywed rhai, gan mai Mahometan- iaid fyddai yr Indiaid hyny y gallem ymddiried ynddynt i ymladd gyda ni o Maid T wrei: eu bod yn edryeh i fyny at SULTAN .Oaercystenyn fel prif gy- Brychiolydd eu crefydd liwy, ac yr ym- laddent fel llewod a theijrod o blaid y fiYdd." Ond mae hyn yn amheus. Crefydd at amser o lwyddiant yw Mahometaniaeth, ac nid at amser o adfyd ac aflwyddiant. Y mae defnyddiau ynddi i wroli a chalonogi y ffyddloniaid pan fyddo buddugoliaeth yn gwenu ar eu baner, ond dim pan y byddo buddug- oliaeth yn hollol gefnu. Llwfrdra di- obaith yw nodwedd y Mahometaniaid niewn amser o gyfyngder, pa un bynag fyddo ai eyfyngder personol ynte cenedl-' aethol. Y mae efe yn credu fod tynged yn ei erbyn, ac ni wiw ymladd a hono. mae Allah yn ei erbyn, ac nid oes dim Wneyd ond ymostwng a chwbl ildio. Y\s gwneir dim o ddyn sy'n credu'n ddiysg-og fod y Nefoedd yn ei erbyn uherwydd ei bechodau. Fyth oddiar gwymp Plevna y mae y Tyrciaid wedi aberthu pob gobaith—nid yw'r oil a fu ^vedi hyny ond un ffoedigaeth fawr i lawr lyd at G-aercystenyn ei hun. Pa le y mae Baner y Proffwyd yn awr, a chy- loetli aneirif ei feddrod ef? Yr oedd. agoriad^ a chyfodiad y Faner liono, fe ddywedid chwe' mis yn ol, yn myned i gydgocli yr holl fyd Mahometanaidd "lew,i arfau, ac i ysgubo Rwsia ymaith fel bran ddu o flaen corwynt. Nis gall pren marw fwrw cangau gwyrddion, na c-hrefydd farw ffordclio adfywiad. Y mae yn anmhosibl i ni wneyd fawr rf g'ymhortli o leiaf Awstria. nd colli bron o hyd y mae Awstria a Pne deuai hi allan, odid fawr na ddeuai jjermani allan o ochr Rwsia, a byddai yn derfyniad efallai ar fodolaeth Austria fel prif Allu. Y mae BISMABCK wedi tori ymaith slice fawr o'r dorth Awstriaidd eisoes, ac y mae ei gyllell finiog yn barod at ragor. Gallai ein llynges mae'n wir gloi'r Dardanelles i fyny, a rhoi terfyn helaeth ar fasnach Rwsia. Ond gallai hyn arwain i ganlyniadau enbydus, oblegyd wrth gloi y Mor Du byddem yn cloi y Danube hefyd-hyny yw, byddem yn rhoi terfyn ar fasnaeh. Awstria a Germani, I heb son am Roumania, Servia, &c. Er galluoced ydym, rhaid i nibeidio gwneyd go-rmod o elynion gyda'u gilydd. Nos Lun, hysbyswyd gan Arglwydd DERBY, yn Nhy yr Arglwyddi, fod amodau heddwch wedi eu llawnodi. Nid yw yr amodau hyn mor dxymion ag yr ofnid yr wythnos o'r blaen. Nid yw yn wir fod Rwsia yn hawlio Llynges Twrci: nid yw yn wir ei bod hi am wnoyd cyfnewidiad pwysig gyda golwg ar fynediad llongau rhyfel trwy y, Straits, dim ond eu gadael yn agored nos a dydd i longau masnachol yr holl fyd ac nid yw ychwaith yn wirionedd ei bod hi yn hawlio teyrnged yr Aifft fel iawn am y rhyfel. Os eywiv y pethau hyn -ac y mae datganiad swyddogol Arglwydd DERBY yn brawf eu bod yn gywir-y mtte yr argoelion am heddwch yn fwy ffafriol nag yn ddiweddar. Ond ni wyddis beth a ddygwydd pan ystyriom fod teimladau Rwsia a Lloegr wedi eu liailgynhyrfu, a bod genym ni Weinydd- iaeth nad yw yn cynrychioli pwyll a doethineb goreu y gonedl. I
Beth. ddaw o'r Gweithwyr ?.
Beth. ddaw o'r Gweithwyr ? Yn ol yr addewid wrth ddiweddu fy epistol diweddaf, oeisiaf y tro hwn ddangos rnagor- o, iaeth fawr galwedigaeth yr amaethwr ar y gweithiwr tanddaearol. Nid wyf yn teimlo fy hun yn rhyw alluog iawn i ymdrafod y pwnc, yn mhellach na'r rhan ymarferol ohono, gan i mi dreulio boreu fy oes ardin o ffermydd sir Gaerfyrddin, ond yn awr, er's tuag wyth mlynedd, yn nghymydogaeth y gweithfeydd glo. Anturiaf, oddiar brofiad, i ddweyd fod ffarmio yn un o'r galwedigaeth- au mwyaf iaclius a plileserus-ie, hynaf ac anrhydeddusaf yn y byd. Nid oes dim yn fwy cydnaws a dyn na thrin a chwrteithio y ddaear magu a meithrin anifeiliaid codi a chynyrchu pob math o ydau a flfrwythau, yn nghyd a blodau amryliw a phersawrus. Eto, y mae yn syndod meddwl mor lleied sydd yn teimlo dyddordeb yn yr alwedigaeth iachus a phleserus hon. Gwell genym dyru ar draws ein gilydd i'r gweithfeydd glo a haiarn yma, nes gorlenwi y gweithfeydd fel nad oes modd syflyd, braidd, o dan y baich mawr o dlodi sydd ar ein gwarthaf. Ymfoddlonwn ar gael ein gorthrymu a'n gwasgu yn ddidru- garedd gan feistriaid creulawn ar chas lawer ohonynt, nes ydym yn haner newynu ein hunain, ac ereill, trwy weithio am y peth nesaf i ddim. Yma yr ydym yn gweithio yn ddyfal o foreu hyd hwyr yn swn olwynion y trams a'r mandrel, gan droi yr ysbwriel, er cael y glo, nes ydym yn rhy wan erbyn yr hwyr i gerdded adref braidd. Yn y modd hwn y treuliwn ein liarnser i geisio enill tamaid i gadw carff ac enaid yn nghyd yn agos i haner y flwyddyn yn nghrombil y ddaear, wrth oleu y lusern, ac yn cael ein' hamgylchu bob dydd a llu o beryglon oddi- wrth y nwy, y nen, y trams, y peirianau, a llu o bethau ereill. Llawer wythnos yn y gl),paf yn myned heibio heb i ni weled goleuni dydd, ond ar y Saboth. Ond nid oes rhaid i'r amaethwr wrth y lusern, y mae yr haul yn tywynu ei belydrau llachar dros ei holl waith ef; ac nid yw peryglon y nwy na'r nen yn ei flino byth. Os edrychwn ar y bwyd, y dwfr, a'r awyr y mae yr amaethwr a'r glowr yn ei gael, y mae rhagoriaeth y blaenaf yn liawer ar yr olaf. -Gellir dweyd yn ddibetrus mai amaethwyr-ein gwlad yw y dynion mwy- af annibynol a hunangynaliol o bawb yn y byd presenol. Y maerit o dan y manteision goreu i gael y bwyd. y dwfr, yr awyr, y dillad, a phobpeth angenrheidiol goreu tuag at eu cynaliaeth; ac yn goron ar yr oil, y mae iddynt oleuni yr haul ar eu holl weith- rediadau. Gwir nad yw yr amaethwr yn rhydd oddiwrth beryglon, ac nad yw pob ftermwr yn hollol annibynol arno ei hun heb iddo achos hidio am neb" arall; na, nid ydym am ddweyd hyn, ond y maent yn fwy an- nibynol arnynt eu hunain nag unrhyw weith- wyr ereill. Os edrychwn ar y sefyllfa isel, ansefydlog, ac ansicr y mae gweithfeydd ein gwlad ynddi yn bresenol, y fath fel nad oes ond gobaith gwan y bydd iddynt wella dim am rai blynyddoedd beth bynag, yn nghyd a'r llawnder mawr o weithwyr sydd ynddynt, ni a welwn yn eglur fod yr amaethwr yn llawer rhagorach na ni o ran sefyllfa. Yn -ein plith ni, y mae sefyll allan am bris byth a hefyd yn cymeryd lie, oherwydd y gwasg- feuon sydd yn dyfod ar ein traws yn fynych gan ein meistriaid, ac y mae cynhyrfiadau o'r natur hyn bob amser yn gwneyd pethau yn waeth ac yn dywyllach o'n tu ni fel gweithwyr. Nid yw pethau fel hyn yn wybyddus i'r ffermwr, ond y maent i ni yn ddigon hysbys, a hyny oddiar brofiad o'i chwerwder, ac yr' ydym yn sicr o gael profi oddiwrtho eto, os na wnawn ryw gynllun i waredu ein haner o'r gweithfeydd at y ffermydd sydd yn ein haros yn ngwahanol barthau or byd. Gan fod cynifer yn ein plith yn ffermwyr profiadol, ac yn barod i anturio ond cael y cynorthwy angenrheidiol tuag at hyny, nid oes genyf ond dymuno ar rai o garedigion ein cenedl a'n hiaith i ddyfod allan i geisio ymwared buan, trwy ryw I gynllun, iddynt allu myned allan i amaethu a thrin y ddaear. Dylai pob Cymro feddwl, cynllunio, a darparu ar gyfer hyn, oblegyd y mae yn llawn bryd dechreu ac er cyrhaedd yr amcan, rhaid cychwyn cymdeithas ymfud- ol i'r perwyl hwn. Felly, ymgaonogwn at y gwaith, y mae prisoedd da am anifeiliaid, am wenith, ymenyn, caws, cigoedd, corn, py- tatws, gwlan, ffrwythau, &c., adigonoalwad am danynt. Am hyny, gydweit hwyr anwyl dyffrynoedd y Dar a'r Rhondda a gawn ni gychwyn efo'r gwaith ? Ati o ddifrif ynte, "Ac o hyny y daw i ni ddaioni."—Lhmjd- lane.
\LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. TRA nad ow un genedl ar wyneb y ddaear yn fwy gwladgarol a chenedlgarol na'r Cymry, nac yn fwy, os mor aiddgar dros ei hiaith eto nid oes un genedl arall o unrhyw gyfrif, hyd ag y gwyddom, mor hollol ddifater parth cadwraeth ei gwyliau cenedlaethol a hi. Y mae y gwyliau Cymreig, o un i un, wedi dijyn yr un dynged a lluaw8 o hen arferion a defodau clodwiw y genedl, ac wedi myned yn hollol allan o arfer- iad. O'r holl wyliau Cymreig nid oes gymaint ag un wedi aros. Y maent i gyd, er ys talwm, yn mhlith y pethan a fu, ac nid oes ond cyfran yn unig o'r genedl yn gwybod i'r fath wyliau erited fod mewn bodolaeth ac arferiad. Mawr yw'r cvfnewid yn awr sydd yn Nghymrn Er yr amser gynt, pan oedd Bess yn teyrnasu." Y mae yr Albanwyr yn parhan o hyd i gadw gwyl Sant Andrew gyda rhwysg, ac y mae St. Patrick's Day in the Morning mor bobl- ogaidd yn awr gan y Gwyddel ag y bu erioed ond am Wyl Dewi Sant a fu unwaitli mewn oymaint bri yn Nghymrn, ac a gedwid gyda'r fath rwysgfawredd gan ein cyndeidiau, y mae wedi myned yn anarferedig. Ni fydd neb Cymry yn awr yn breuddwyflio am gadw Gwyl Dewi. Bydd y cyntaf o Fawrth yn dyfod a myned heb fod neb, hyd y nod llonorion Cym- reig, yn gwneyd mwy o'r dydd rhagor ryw ddiwrnod arall. Bydd rhyw ychydig bach o ffwdan-dim gwerth son am dano-yn eymery(I lie yma yn Llundain yn flynyddol ar Ddydd Gwyl Dewi, ond Saeson ac nid Cymry fydd yn gwneyd hyny a pheth arall, nid parch i'r Wyl Gymreig, eithr elw personol fydd yn eu cymhell i wneyd sylw o'r dydd, feily nid oes achos diolch iddynt. Bu mwy o ffwdan eleni yn Llundain ar Ddydd Owyl Dewi nag arferol— cymeryd dau ddiwrnod at y gwaith. Prydnawn Dydd Gwyl Dewi bu cyngherdd Cymreig yn y Palas Gwydr, o dan arweiniad Pencerdd Gwalia. Ni fuom yno, ond elywsom fod yno gynuliiad pur dda, ond mai cyffredin oodd y cyngherdd. Tlawd iawn, mae'n debyg, oedd datganiad y C6r Undebol Cymreig yoo. Yn yr hwyr cymerodd ciniaw flynyddol Cym- deithas yr Hen Frythoniaid le yn y Willis's Rooms, St: James's, o dan lywyddiaeth Syr George Elliott, Barwnig, A.S., er budd yr Ysgol Gymreig. Casglwyd ar yr achlysur fil o bunau, dan cant e ba rai a gyfranwyd gan Syr George Elliott. Pe byddai i'r mil punau a danysgrifiwyd yno gael eu defnyddio tuag at liniaru dyoddef- iadau ein cydwladwyr yn Neheudir Cymru, yn lie eu rhoddi at gyual ysgol nad yw o un budd yn y byd i'r Cymry, nac yn Gymrcig ond mewn enw yn unig neu pe rhoddid yr arian i Drysorfa Prifysgol Cymru, byddai ymddygiad y Gym- deithas yn fwy gwladgarol, a'i haelioni yn fwy canmoladwy o lawer. Y mae genym y parch mwyaf i'r Cymry gwladgarol hyny a sefydlodd yr Ysgol Gymreig yn Llundain 163 o llynydd- oedd yn ol. Bu yr Ysgol, yn ddiau, o les an- nrhaethol i Gymry tlodioa y Brifddinas flynydd- oedd lawer yn 01, yr oedd iddi amcan gwlad- garol a ohaamoladwy iawn, ond nid yw weithian o gryn bellder yn ateb dyben ei sefydliad. Y mae yr Ysgol yn awr yn fwy b sefydliad Seis- nig na Chymreig. Saeson gan fwyaf sydd mewn cysylltiad fi hi, ac yn ei Ilywodraethu a Saeson, o'r hyn lleiaf Cymry sydd wedi troi yn Saeson yn hollol, heblaw mewn gwaedoliaeth, sydd yn derbyn budd oddiwrthi, Fe all Cymry gwirioneddol y Brifdd'nas wadu perthynas â. hi pryd yn y byd. Pe buasai gofod yn caniatau carasem wneyd sylwadau pellaeh mewn perth- ynas i'r Ysgol hon, ond nyni a adawn y mater yn y fan hon, gan addaw galw sylw at y pwne ar ryw adeg ddyfodol. Tra yr oedd y wledd flynyddol yn myned yn mlaen yn Willis's Rooms, yr oedd gwledd o fath arall yn cael ei chynal yn y Royal Albert Hall, South Kensington. Ddarllenydd, os na fuaist erioed yn yr Albert Hall, pan ddeui i Lundain paid arun cvfrif e3geuluso cytie i fyned 1 gyngherdd yno_ Bydd cael golwg ar y neuadd eangfawr y tufewn, yn enwedig os bydd yn weddol lawn o bobl, yn olygfa a fydd yn werth- i ti ei gweled. Os ydyw Bwrdd Ysgol Llangiwc yn anfeidrol bwysicacli nag eiddo Llundain, nid ydym yn credu fod yno yn y lie enwog hwnw, er pwysiced ydyw, neuadd a ddeil gydmariaeth zt r Albert Hall. Medr y neuadd yma ddal deng mil o bobl yn rhwydd. Cyngherdd cenedlaethol, yn gynwysedig o alawon Cymreig, Seisnig, Gwyddelig, ac Ysgotaidd—ond Cym- reig yn benaf—oedd yn myned yn mlaen. yno nos Wyl Dewi, o dan arweiniad y cerddor enwog, Mr. Wm. Carter. Gallwn yn ddibetrus ddweyd mai dyma'r cyngherdd amrywiol goreu y buom ynddo erioed yn ein byw. Cynrychiolid y Cymry yno gan Madame Edith Wynne, Pencerdd Gwalia, Eos Morlais, ae Ap Herbert; ac y mae yn clda genym allu dweyd iddynt wneyd hyny yn effeithiol ac i foddlonrwydd. Bernid fod y neuadd ar yr achlysur yn cynwys tua chwe' mil o bobl. os nad ychwaneg. Yr oedd y gynulleidfa yn un dra anrhydeddus. Yr oedd rhai o'r Teulu Breninol i'w gweled yn y Royal Box, ond methasom a gwneyd allan pwy oeddent. Fel y. canlyn oed(I y Y RHAN GYNTAF. Detholion o Alawon Seisnig, Ysgotaidd, a Gwyddelig gan seindorf y Grenadier Guards, o dan arweiniad Dan Godfrey. Harlech gan gor Mr. Carter. Y Gadlys gan Ap Herbert. "Terence's Farewell to Kathleen" gan Miss Mary Cummings. "Eos Lais" gan Madame Edith Wynne, a Phencerdd Gwalia yn ei chyfeillio ar y delyn. "Mentra Gwen" gan Eos Morlais. "The Last Rose of Summer" gan gor Mr. Carter, "The Missing Boat" gan Madame Patey. "The Anchor's "Weighed" gan Mr. W. Shakespeare. She Wore a Wreath of Roses" gan Mdlle. Roselli. The Campbells are Coming gan1 gov Mr. Carter. What will you do, love," can Wyddelig, gan Madame Edith Wynne. "Dafydd y Gareg Wen" a "Harlech" gan Pencerdd Gwalia. Y Ferch o'r Seer" gan Mr. Hollins. Ye Banks and Braes gan Madame Patey. Flpw gently, Deva," deuawd, Eos Morlais ac Ap Herbert. "Cambria," unawd ar y perdoneg, gan Miss Agabeg—chwaer-yn-nghyfraith Eos Cymru. Rule Britannia gan gOr Mr. Carter, yr organ, a seindorf y Grenadier Guards. RHAN YR AIL. The Royal Welsh Lancers' Quadrille (ar Alawon Cymreig), gan seindorf y Grenadier Guards. "The Harp that once through Tara's Halls" gan g6r Mr. Carter. Over the Sea gan Miss Mary Cummings. Y Gad Lef" gan Eos Morlais. Yn iach i ti, Gymru gan Madame Edith Wynne. "Codiad yr Haul" gan Ap Herbert. "The Bluo Bells of Scotland" gan g6r Mr. Carter. "The Minstrel Boy" gan -Madame Patey. "Bugeilio'r Gwenith Gwyn a Chlychau Aberdyfi ar y delyn gan Pen- cerdd. The Death of Nelson gan Mr. W. Shakespeare. "Come back to Erin" gan Madlle. Roselli. "Love and War," deuawd, gan Mr. Shakespeare ac Ap Herbert. "Old Towler" gan Mr. Hollins. Yr Anthem Genedl- aethol gan g6r Mr. Carter, yr organ, a seindorf y'Grenadier Guards. Yr oedd y programme, fel y gwelir, yn un go faith, yn rhy faith o lawer. Er myned drwy y gwaith yn hynod hwylus, yr oedd wedi un-ar- ddeg o'r gloch cyn dibenn. Ulywsom Madame Edith Wynne yn fwy hwylus lawer gwaitli, ond yr oedd, efallai, yn llawn cystal ag y gallesid. dysgwyl iddi fod yn y cyflwr dyddorol y mae ynddo. Cafodd Eos Morlais ac Ap Herbert gymeradwyaeth uchel bob tro y datganasant, a thynodd eu datganiad o Flow gently Deva" y ty i lawr yn deilchioli. Yr oedd yn wir ragorol, a gyda'r eithriad o'r Minstrel Boy," ..1 gan Madame Patey, y peth goreu a gymerodd yn y cyngherdd. Bu rhaid iddynt ei ail-ganu. Chwareuodd Pencerdd Gwalia fel arfer yn feistr- olgar ar y delyn, a derbyniodd gymeradwyaeth. taranlly'd bob tro. Gan mai math o Eisteddfod gyd-genedlaethol (nis gwyddom a wnaiff y gair hyna y tro am international ai peidio) ootid y cyngherdd dan sylw, y mae yn dda genym hya- bysu i'n pobl ni ddyfod allan o'r ymdl eohfa yn dra nrddasol, a buasent wedi myned a'r dorch o ddigon onibai Madame Patoy—hi anafodd y cawl i ni. Datganodd hon yn fendigedig, ac am y "Minstrel Boy" cafodd ovation perffaith, a gorfa iddi ei ail-ganu. Onid yw yn ddichon- adwy, rywsut, i wneyd y Madame Patey yma allan yn Gymraee ? Nid oes dwy waith am dani, hi yw y contralto goreu yn Llundain o ddigon. Y mae Mr. Shakespeare yn tenor gwych iawn. Go deneu yw ei lais, ond y mae yn artiste rhagorol. Datganodd Miss Cummings yn swynol iawn, a Mr. Hollins yn weddol dda. Nid oea genym lawer i'w ddweyd am Mdlle. Roselli. Yn Mhorthcawl neu yn Meliu-lfan Ddu, hwyrach y byddai ganddi ryw gymaint o obaith i ddys- gleirio tipyn, ond yn yr Albert Hall, yr oedd yn good night ami. Am Seindorf y Grenadier Guards a'r cerddor Mr. Dan Godfrey, nid oes angen dweyd dim, y mae eu medrusrwydd yn ddigon hysbys i'r byd. Y mae y darlleuydd, hefyd, yn gwybod hwyrach mai cor Mr. Carter yw un o'r tri chOr goreu yn Llundain. Treat perffaith oedd ei glywed. Datganodd "The Campbells are coming yn odidog dros ben, ac y mae ei swn ar ein clustiau byth oddiar hyny. Yr hwyr canlynol rhoddodd pobl yr Alexandra Palace gyngherdd Cymreig mewn ffordd o deyrn- ged o barch i Fabsant Cymru. Cymerwyd rhan yn y.cyngherdd gan Misses Mary Davies (Mair Mynorydd), Marian Williams, Martha Harries (Olwen Elli), ac Ap Herbert. Nis gwyddom pwy sydd yn gyfrifol am nrdtlo y chwiorydd uchod, ond dyna'r ffugenwau oedd iddynt ar programme y Palas. Aetliant un ac oil drwy eu gwaith yn gaumoladwy. Datganodd cor y Palas hefyd amryw Alawon Cymreig yn weddol dda ar y cyfau. Yr oedd yno gydgor o delynau, ond nid oedd o fawr eyfrif--nicl oedd y Pencerdd yno. Yr oedd yno gynulliad lied dda o bobl, a hawdd oedd gwybod fod lluaws o Gymry yno yn eu plith. Mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Fetter Lane nos Lun diweddaf, ac yn mha un yr oedd Mri. Hugh Owen a Stephen Evans yn bresenol, pen- derfynwyd fod y cantawd, Arch y CyfamotI, i gael ei pherfformio yu St. James's Hall, nos lau, yr ail o fis Mai nesaf.
Family Notices
G ENED IGA E Til. Cliwefror 23ain priod Mr. John Davies, Collier, Parcmatho Glyn Abbey. Kidwelly, ar fab a Parcmatho Glyn Abbey. Kidwelly, ar fab a gelwir ei enw yn William. 0 William bach wyt yn ddinam, Yn ddarlun tlws o'th dad a'th fam, Hir oes a mwyniant faban mad, It ddod yn gerddor fel dy dad.-loan G:oJT. MA 11WOL A E TIIA U. Dydd Llun, Mawrth 4ydd, Mrs. Rachel Rowland, Mount Pleasant, Trecynon, Aberdar, (mam Mr. Morgan Rowland, arweinydd cor y plant, yn Ebenezer, Trecynon), yn 80 mlwydd oed. Cleddir hi prydnawn dydd Mercher (y 6fed), am dri o'r gloch, a'r angladd i fyned i gapel Ebenezer. Yn ddiweddar, Wm. Williams, Ysw., Rhym- ney Villa, High-street, Rhymni. Gadawodd wraig a thri o btant i alaru ei ol; ond gadawodd hwynt mewn amgylchiadau cysurus iawn. Yr I:ly oedd yn gyfoethog mewn ystyr fydol. Yr oedd. yn ol ewyllys ei dad JU, yu werth tua phunt y dydd. Yr oedd ei income dros 300p. y fiwydtlyn, heblaw yr hyn oedd yn dyfod iddo ar ol ei d.d. Bn farw yn nghanol ei fywyd, nid oedd oud 29 mlwydd oed. Claddwyd ef yr wythnos ddi- weddaf, yn meddrod ei dadau, sef yn cemetery Pant, Dowlais. Yr oedd yr adnod hono yn dyfod yn gryf i'm meddwl dydd yr angladd— Llawddog.
Eisteddfod Mynyddislwyn.I
Eisteddfod Mynyddislwyn. BYDDED hysbys y cynelir TUVDEOD GYLCH- WYL FLYNYDDOL yr Eisteddfod uchod yn y lie arferol dydd IAU, Mehetin 27ain, 1878. pryd y rhoddir gwobrau teilwng- i'r ymgeiawyr llwydd ianus mewn liliyddiaeth, Barddoniaeth, a Chan- iadaeth, &c. Prif Ddarn. I'r cor. heb fod dan 50 mewn nifer, a gano yn oreu y Requiem ar ol y diWeddar Ieuan Gwyllt, gan Dr. Parry gwobr, lOp. Llywydd y Bydd.J. JEREMIAH, Ysw., Wood- .1 field Villa. Llywydd y Pwylbjor.— E. EMTOSDS, YSW., Pantglas, Trysorydd.—Mr. J. HUGHES, Church Farm. Bydd y programme, yn cynwys pob manylion, yn barod erbyn Mawrth 20fed, am y pris arferol, gan yr Ysgrifenydd, Mr. D. WILLIAMS, Builder, &c. 1839 Pontllanfraith, Nr. Newport, Mon,
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch…
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch I yr hyn sydd Wir. GWILYN EVANS! QUININE BITTERS, I. NEU VEGETABLE TONIC. Y Feddyginiaeth oreu a ddychyrnygwyd ac a ddyfeisiwyd er cryfhau y cyfansoddiaA a p/mro y gwaed. Y MAE y Bitters hyn yn hollol lysientri. ac yn cynwys chwerw-Iysiau a melus- lysiau wedi eu haddas gymysgu, sef Ouinma. Sarsaparilla, Saffron, Lavender, Burdock, Liver- wort, Gentian Root, &c. Mewn gair, y mae brom bob llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn y feddyginiaeth ryfeddol hon, ac y maent wedS cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreu er eu perffeithio i fod yn weUhad difethiant at y doluriau cantynol (1). Gwendidau o bob math yn ymddang08 fel un neu ragor o'r anhwyldei-au canlynol-iselder ysbryd, nervousness, curiad y galon, teimlad blinedig s. ehysglyd, y gwaed yn rhutKro yn ddisymwth i'r gwyneb, llewygon, teimlad o bwysau ar y chest, poen ai- y chest, poen rhwnc yr ysgwyddau, diffyg anadl, ph'egrn, y gwaedya tori, peswch, a thueddiad at y darfodciligaetb. ( decline). ° (2). Diffyg treuliad a'i ganlyniadau, sef gwaet. der cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwyd, diffyg archwaeth at fwyd, yr ystumog ya chwyddo trwy wynt, yr anacU yn clrwm. genau yn sych ac yn boeth, brathiadau disym wth yn yr ochr, y pleurisy, yr afu yn afiach, thrwy hyny yn achosi y clefyd melyn, pocn groes i'r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparilla a'r Burdbe ar gylchrediad y gwaed, y maent yn bynod effeithiol at y blast neu'r awelon, gwynegtm ystyfldra y cymalau, y croen yn bigog ae anes mwyth, a phob math o ddistemper yn y gwaed. Y mae tystiolaethuu pwysig yn cael eu derbyus yn barhaus. Cyhoeddir pump yn unig o'r lluaws. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. Os bydd rhywan yn amheu gwirionedd y can- ynol, dymunir arno ysgrifenu at yr enwan a. roddir yma. „ December 14th, 1S7&. J-/HAB OIR,- I nave been suffering severely for tt J time with indigestion and nervous debility and their attendant inconveniences. After trying numerous remedies (to no purpose) I tried yonr Quinine Bitters, and the result is I am now. healthy man. Had I tried it sooner, I believe I should have escaped many restless rights and many pounds in money. Publish this for the benefit of others.—Address—THOMAS REZS, DE- corator and Valuer, Forester's Aims Hotel. Llao- elly, late of Fishguard. Old Globe, New Dock, Llanclly, May 24th, 1876.. ANWYL SYR,— Dymunaf hysbysu i chwi fy mod wedi cael fy j lwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Bitters. Yr oeddwn wedi myned bronyft rhy v/an i gerdded, ac yr oedd y clwyf ar fy mnudt yn myned yn waeth bob dydd. Yr oedd meddyg- on lilauelli a'r ardaloedd am dori fy mraich ymaitb U'. acliub fy mywyd ond trwy gymeryd y Qninma Bitters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac ya gweithio bob dydd. Rhoddaf fy enw yn llaWB- fel y gallo ereill gael manylion jjella<^h oddiwrthyff os mynant.—Yr eiddoch, yn barclius, GINFFITII WILLIAMS, Dylaswn ddweyd fy mod wedi bod dair blynedd heb weithio oud ycliydig. 7 Cambiian-ftreet, LlantsCU, bYR,—Mewn seiriau hyr, dymunaf ddweyd fy mod wedi cael lletad PAKHAUS trwy gymeryd eicfa Quinine Bitters." lihyfedd yw eu beffaith- Blinwyd fi beunydd gan boen anfertho] yn fy mhen, weithiau uwchben y llygaid, w ithiau yn vsr oshrau, a phryd arall yn curo fel morthwyl, felag, yr ociJtl ofn arnaf ddilyn fy ngalweiligfieth at bent y ty. Poen yn fy hips a rhwiig fy ys^Tvyddau, a gwendid inawr. Dim aWYllJ ny, bias, at fwyd, ond. ar brydiau auamserol. V')' diwedd cyiKerais eich- Quinine Bitters, ac yr yowyf wedi fy llwy? wellilu. Cyfrifir eich '• B tters "■yn ddnal, otwi galiat. yn awr ddweyd yn ddiofn. mai dyiia y moddion rhataf a'r gnreti a gefais erioed. Gal?i neb y n gydv/ynodol ddj'oddof jx>en heb clreio hwi>. —ROBEKT GUY, Builder. The Grand Hotel, Brighton, July ?Sth, 187G. DEAH SIK,—I feel it is my duty to the pubKc aid yourself to inform you that .J: have deiTreA immense benefit from your Quinine Bitter Vegetable Tonic. I have been for some months victim to headaches, pain in the back, and I bene. a general derangement of the liver. I am,liappy to say I now fLoel wed, but take a dese QÍ yowr "Bitters" occasionaUy when my £ RIILS — Yours faithfully, ROBERT FOST £ B! Ruthin, Awst 15frd,1È76.. • wv,er^ derbyn lies mawr oddiwrtfe eich Quinine Bitters. IhÙn yn cael a^> nesgritiadwy n fy mhen a'm danedd, yn cael ei achosi (meddai'r Doctor) gan fy ystumog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fel yr oedd arnaf ofa bwyta dim. Yr oedd y gwynt yn fy n^oSdioi, bias cas yn fy ngenau, yn enwedig yn y boreu, fel bwystl. Yr oeddwn yu hala haner fy a-iBser ym y gwel) trwy wendid, ac feallai ychydig iselae* Tsbi\yd. Cymerais ddwy botelfiid o'ch ac yr ydwyf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen.- Yr eiddoc h Mr. Gwilym Evans. JANE S. THcwAis. BYDDED HYSBYS I BAWB. (A.) Nid ydyw yn bosibl dodi'rholl sydd yn y feddyginiaeth hyn mewn PILLS. (B.) Y mae y pris mor isel ag y gaJl fod, (If) cynieyir i ystyriaetli brinder y Quinxae a'r Sar- saparilla. (C.) Gellir gwcithio beunydd fel arfer vm annghyfleusdra, ac nid oes yeryg,. anwyd, ond y» hytrach y mae yn atal anwyd. (D.) Y mae y Bitters yn cryfhau y r11..R DEmYr. aelod o'r corff sydd yn wanach, ac folly yn fwy agorecl i heintiau ac afiechyd uac arferol, a cofio fod bron bob math o BILLS yn gwanBsii cyfansoddiad acyn aflouyddu y cylla. (E.) Nid Quinine Wine, na Tincture of Quinmer nac unrhyw gymysgedd arall o eiddo y Druggist ei hun, ond "Evans' Quinine Bitters" mewn potelau 2s. 9c. a 4s. 6c., a'r enw "Gwilyns Evans, Ph. C., M. R P. S., wedi ei ysgyifena,. Stamp y Llywodraeth heb hyn, twvll a ffùg. iad ydynt. Ar werth yn mhob tret, neu yn direct bob man-o'r wiad oddiwrth y perchcllog- MR. GWILYM EVANS, Pharmaceutist, Llanelly. D.S.-Os nil. ellir cael y "Bitters" heb <b&» fferth, ysgrifener at y Perchenog, lGSv