Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. CYFARFOD Y BEIEDD.—Gwahoddir pob bardd i gyfarfod yn y Llanofer Arms, Ponty- pridd, dydd Mercher, Mawrth y 13eg. Dar- perir ciniaw i'r lioli frawdoliacth am bris rhesymol. Bydd y giniaw yn barod am un o'r gloch. Wedi hyn, ymdrinir a gwahanol bynciau perthynol i'r urdd. Cymerir yr uwchgadair gun Nathan Dyfed, a'r is-gadair gan Gwilym Elian. Yn mhlith y rhai a ddysgwylir i fod yn wyddfodol, y mae y rhai canlynol:—Dewi Haran, Essvllt, Carnelian, Dewi Alaw, leuan ;lvn Cothi, Ab Myfyr, leuan Wyn, Llwcharian, Dyfedfab, Cenydd, Homo Ddu, Alaw Bnallt, Nathan Wyn, Moesen, Merfyn, Gorswg, Trialaw, loan Dyfri, Rhydderch ap Rhydderch, Rheidiol, Cynfelyn, Carw Cynon, Gvvyddonfryn, Rhyst- yn, Tawenog, Dewi Araul, Honddu, Tom Williams, R. T. Williams, Daronwy, a holl feirdd y Gilfach Goch. Mewn gair, dymunir iir bawb a allont fod yn bresenol, gyda'r eithiiad o'r cocosyn esgymunedig. Bydd cadair Caerffili i ddyfod o dan sylw; mae y frawdoliaeth yno am gael galw liono yn tl Gad air Morganwg." Hefyd, daw pwnc y "gwant." a'r "rhagwant" i'r bwrdd. A chynygir fod y "gwant" i fod ar y burned neu'r chweched sill, yn ol dewisiad y cyfan- soddwr. Ac os gellir penderfynu hyn; bydd yn rheol yn mhlith beirniaid Morganwg. Gwahoddir D. Morganwg i gynyg y pender- fyniad. Hefyd, ymdrinir ar y priodoldeb o gael dyddiadur i'r beirdd, yn nghyda a'r nloddion rnwyaf llwyddianus i'w ddwyn allan. Erfyn wyf wrth ymarfer,— rhyglydda Arglwyddes Llanofer Wrth fyrddau llawn, ein dawn dor, Heb gamwedd i feib Gomer. Feallai dewch, gyfeillion, i siarad ilhyw fesurau cyson Awr fer o liedd lcna'r fron 0 degwch lWiyd a digon.—Z>. Haran. Blvsio yr ivyf am bleser—yn y Bont', Gyda beirdd awenber Yr hen bau mae'r awen ber Yn yfed yn Llanofer. Enwog lu, uid bon y gler,—yn ddiau, Ddeuant gyda pheser; Daw pob percheu talent der Yn utydd i Lanofer. Gan hyny, cofied pawb am ddydd Mercher, Mawrth 13eg. Dros yr urdd-Brynjikb.
.TREORCI.
TREORCI. LLENYDDI AETH. — Yr wythnos ddiweddaf, daeth i'n rhan i dalu ymweliad a Threorci ac er ein llawenydd, cawsom ar ddeall nad oedd sefyllfa; pethau yn gwaetliy-u yno, beth bynag, yn enwedig llenyddiaeih. Buom yn siarad ag amryw lowyr am sefyllfa y gweith- feydd, pa rai a dystiolaethent nad oedd ganddynt ryw lawer o le i achwyn, yn enw- edig pan yr ystyrient fod cymaint o galedi yn bodoli trwy y Deheudir. Ond y peth mwyaf yr ydym am osod o flaen eich darllenwyr yn bresenol ydyw y dyddordeb a deimlir gan fasnachwyr y He ac ereill yn yr ieuenctyd. Yr wythnos o'r blaen, gwelsom lythyr yn y GWLADGARWR gan Un sydd yn teimlo," yn galw sylw dynion at y priodoldeb o geisio dylanwadu ar ieuenctyd y lie ac ereill i gadw draw oddiwrth y flair sydd i'w chynal yno yn fuan. Y mae yn dda genym ddeall fod rhai wedi darparu ar gyfer y temtasiwn hwn, yn gystal a llawer o demtasiynau ereill, a hyny ydyw cychwyn darllenfa yn y lie, lie y gall dynion droi, os bydd ganddynt ychydig oriau o hamdden, i weled a barnu drostynt eu hunain beth sydd yn myned yn mlaen ar hyd a lied y wlad, yn lie eu bod yn gwastraffu eu hamser trwy ediych i mewn 1 ttehestri siopau, a llyo-adrythu ar hyd gorne'au ystrydoedd ar hwnVr llall yn pasio. Yn ddiddadl fod triaolion Treorci, fel llawer o leoedd ereill, wedi teimlo angen sefydliad o'r fath lawer gwaith, ond wele ef, o'r diwedd, wedi dyfod. Yn y fan hon, teimlwn mai ein dyledswydd ydyw gosod y telerau i lawr, mor bell ag y cawsom ar ddeall, wrth ba rai y mae y ddar- llenfa yn cael ei chario yn mlacn. Y mae y ddarllenfa yn cael ei hagor bob dydd, o ddeu- ddeo-yn y prvdnawn hyd ddeg yn yr hwyr 0° ddeuddeg hyd bump, y mae yn cael ei chyfyflgu i danysgrifwyr yn uuig ac o bump hyd ddeg, y mae yn cael ei gosod yn agored i'r sawl a fyno fyned yno. Felly, chwi wel- weh fod y cyhoedd yn cael cymaint o ehwareu- tec i ymweled a'r ddarllenfa a'r tanysgrifwyr «u hunain. Yr unig beth sydd yn angen- rheidiol yn awr, er gwneyd y sefydliad yn llwyddiant, ydyw i'r cyhoedd gymeryd man- tais o'r cyfleusdra y maent yn ei gael er diwyllio eu meddyliau. Pa beth all fod yn fwy calonogol i'r tanysgrifwyr na gweled fod y eyhoedd yn gworthfawrogi eu llafur yn cychwyn sefydliad ag y teimlent fod ei angen yn y lie « Gallaf feiddio dweyd na fydd dim. Ond iddynt gael deall hyn, byddant yn ym- hyfrydu yn v gwaith a ymgymerasant, a cheisiant ddyblu eu diwydrwydd er cael ychwaneg o danysgrifwyr, sefydlu Lyfrgell at y ddarllenfa, a gwneyd y lie yn glod nid yn unig i Dreorci, ond i Gwm Rhondda yn -yffredinol. Gan hyny, drigolion Treorci, cymerwch afael ar y cyfleusdra, canys 111 wyddoch yn y byd pa dalentau sydd yn fuddiedig yn eich mvsg, ac yn aros am gyfle idd eu dadblygu. Wrth derfyuu, dymunwn, o galon, lwyddiant i'r achos yn mliob ystyr a charwn pe danfonai y cyfaill, Dewi Araul, neu rywun arall, ychydig o hanes y sefydliad i'r GWLADGARWlt yn awr ac yn y man.-Ap ^Cynaliwyd cyngherdd yn Ysgoldy Cenedl- aethol y lie uchod noslau, Chwefror y 21ain. Yr oedd y lie yn orlawn o bobl. Yr elw at drysorfa yr ysgol yn y lie. Y rhai a gymer- asant ran yn y gwaith oeddynt Eos Tydfil, Merthyr Miss Richards, Tonypandy Mr. T. Felix, Treorci Mr. G. E. Lewis, Pentre Mr L. N. Williams, Treherbert; glee parties Eos Cynlais a Mr. Dan John; Mr. England ar y crwth, a Mrs. Evans, Maesyftrwd, Treorci, ar y perdoneg. Yn lie y pwffio parhaus sydd ar ein cantorion, goddefer i ni ddweyd ein barn yn onest, fel yr oeddem yn teimlo wrth wrando ar y canu. Nid oeddem wedi clywed Eos Tydfil er's pedair blynedd cyn y noson hono, a rhaid i ni gyfaddef nad ydyw yn canu ynagos eystal yn awr ag oedd y pryd hwnw er hyny, credwn, os y gwna ymroddi ati, y bydd cyn hir yn gystid ag erioed. Dyma y tro cyntal i ni glywed Miss Richards anefi'eithiol, i raddau, oedd pob- peth ganodd hi—o'r hyn lleiaf, dyna fel y teimlem ni. Ni ddylai Mr. T. Felix attempto o gwbl ddarnau fel y "White squall;" y maent yn llawer rhy drwm iddo oblegyd .Y wrth ei fod yn ymgyrhaedd mwy na'i allu ar ran canol y darn uchod, lie y mae yn gofyn nerth ac yni mawr, aeth allan o don, a chanai ef mewn un cyweirnod, a chwareuai y piano- forte mewn un arall am rai bariau gwyr y eyfarwydd pa beth oedd y canlyniad. Yr oedd yn well yn ei ail gan, Baner ein gwlad (Dr. Parry), er fod hono yn Ilawer rhy drwm i'w lais ysgafn. Amheus oedd chwaeth Mr. Lewis yn canu comic songs mewn lie o addoliad, oherwydd cynelir addol- I iad crefyddol yno ar y Saboth. Gwael iawn y canai Mr. Williams dylai, ar bob cyfrif, beidio canu yn gyhoeddus nes perffeithio llawer arno ei hun. Dylai M»*. D. John gofio fod yn llawn bryd, bellach, i'r hen Band of brothers" gael myned i bori. Un o'r pethau ganwyd yno oedd Y chwaon iach" (Dr. Parry), gan Eos Cynlais a'i barti. Darnau o'r fath yraa ddylai ein dynion .ieuainc ymarfer ynddynt, ac nid dysgu l'hyw- beth fyddant yn feddwl fydd debycaf o sicr- hau iddynt ail alwad. Yr oedd Llwyn On" ar y crwtli a'r perdoneg, gan Mr. England a Mrs. Evans, yn ardderchog. Trueni na fuasai pawb oedd yno yn gallu ei gwerthfawrogi. Yr oedd string baud Tre- herbert yno hefyd, a chwfireuasant "Gloria" (Mozart) yn rhagorol, ac ystyried mai gweith- wyr ydynt i gyd y mae yn syndod eu bod yn gallu gwneyd y fath beth. Yr ydym yn teimlo yn faIeh ohonynt; llwyddiant iddynt, medd—Musicus.
ABERDAR,—APEL AR RAN Y TEML,WYR…
ABERDAR,—APEL AR RAN Y TEML- WYR DA. Y mae y cyfyngder yn y Deheudir wedi eyrhaedd y fath raddau dirfawr, ac yn arddangos y fath ddrych erchyll o ddyoddef- aint—miloedd o bersonau, nid yn unig yn teimlo oddiwrth brinder bwyd a dillad, ond mewn perygl marwolaeth buan trwy newyn, 1:1 y ac yn eu plith y mae llawer o Demlwyr Da, er eu cynildeb a'u bywyd diwyd blaenorol, yn awr mewn angen a thrueni; a theimlwn yn ddyledswydd arnom, ie, yn wir, teimlwn orfodaeth foesol, gan deimladau dyngarol a brawdol, i wneyd apel taer a dioedi at y cyhoedd haelfrydig am gymliorth i'n brodyr a'n chwiorydd Temlyddol. Cristionogion dyngarol, cyfeillion Dirwest a Themlwyr Da, deuweh allan, y mae dychryn marwolaeth yn gorchuddio cartrefi eich cydwladwyr, bedded i chwi, o'ch cyflawnder, gynorthwyo i waredu eich cymydogion rhag newyn ac angeu. Y mae y boneddigion canlynol wedi eu penodi yn bwyllgor :—Parch. D. Young (cadeirydd); Mr. T. Hopkins, Whitcombe- street (trysorydd) E. B. Williams (ysgrif- enydd); D. E. Williams, Ysw., Hirwaun Mr. D. R. Jones, Cardiff-street, Parch. W. James, a Mr. William Jones, Oxford-street, Aberdar. Y cyfraniadau i'w hanfon i Mr. E. B. Williams, 14, Seymour-street, Aberdar, a rhenir y cyfryw, yn ol cyfarwyddyd y pwyllgor uchod, i'r dyoddefwyr, pan dder- bynir cais ar eu rhan, yn cynwys manylion am eu cyfyngder, wedi ei arwyddnodi gan D.D., T.B. D., a P.Ysg. yDemly perthynant iddi. Arwyddwyd-M. Morgan, U.D.B.D., Hwlffordd; H. J. Williams (Plenydd), U.D.G., Four Crosses, Pwllheli; D. E. Davies, A.C.T.P., Llithfaen, Pwllheli David Young, U.D.I.D., Aberdar; G. B.' Thomas, U.D.D., Caernarfon; E. B. Wil- liams, U.D.Ysg., Aberdar aelodau Pwyllgor Gweithiol Uwch Deml U.A.T.D. Cymru.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. CANTATA "CASTELL CAEBSAEFON" (J. Ambrose Hoyd).—Noa Wener, y laf cyiisol, rhoddwyd perfibrmiad o'r gwaith uchod yn Examination Hall y coleg, gan Dr. Parry a'i 11 y efrydwyr. Cynrychiolwyd y gwahanol gymer- iadau gan y boneddigesau a'r boneddigion canlynol:—Y Frenines, Miss Hannah Wil- liams y fammaeth Gymreig, Miss Jennie Williams Gryffyth Llwyd, Mr. D. Howells (Gwynalaw); cadfridogiou y De cCr Gogledd, Mri. W. Da.vies a D. Davies Brenin Ed- ward, Mr. C. Davies (Alaw Meudwy); y cydganau, &c., yr efrydwyr. Cyfeilliwyd gan Dr. Parry. Canwyd hefyd ddwy ganig o waith yr un awdwr yn dda iawn. Datganwyd y Ccmlcdct gyda gofal nelllduoI; yr unawdau a'r cydganau yn ddarluniadol ac effeithiol iawn. Diolch i Dr. Parry am ddwyn allan waith yr anfarwol J. Ambrose Lloyd. Motto Mosso.
[No title]
PONTLLAXFKAITH.—Cafwyd corff marw Charles Cobley rhwng y platforms, ynngorsaf Tredegar Junction, dydd Sad«rn, wedi ei ladd gan gerbydres.
Advertising
PELENTHOLLOWAY—Iechyd a Iliienusrwj-diL— Mae yr afu mwyaf iach ar brydiau yn ddai-ostyng- edig i afr^oleiddiacl y peiviant treuliol, ond gellir ar uuwaith ddychwelyd trefn trwy gjoneryd y Pelenau byd-enwog hyn, y rliai nis gellir eu enn- mol yn rhy uchel. Byddai dogn yn awr ac cil. waith yn llesiol i bawb, ond dylai dyn claf gymeryd cwrs o honynt yn rheolaidd. Mae yn rhyfeddol ca.nfod fel y cryfheir yr archwaith a'r treuliad gan y Pelenau hyn; a'r gallu a feddianant i ddwyn y trefniant corfforol i weithrediad iachus. Ychwau- egant at gx-yfder gewynol a nerth meddyliol y rhai a'U defnyddiant. Mae Pelenau Holloway jn ami yn gwellhau clefydau y pehiant treuliol ar ol i bob moddion arall fethu, ac y maent yn neillduol wasanaetligar mewn achosion o anliwylderau yr afu a'r arenau. :366
BLAENLLECHAU.
BLAENLLECHAU. NAZARETH.—Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y capel uchod nos Lun, Chwefror 25ain. Mr. G. Roberts oedd beirniad y farddon- iaeth, &c., a chlorianwyd y cantorion gan Mri. T. Jones a J. Powell. Enillwyd y wobr am y ddau englyn goreu i Salem Newydd gan Mr. J. Jones y goreu ar adrodd enlyn, a rhifo 30 yn G-ymraeg a Saesneg oedd Evan Jones. Cafodd D. Evans y wobr am gami Mentra Gwen;" a rhanwyd y wobr am ganu y solo bass o Teyrnasoedd y ddaear" rhwng Mri. Jones a R. Evans. Air. Howell Lewis a'i barti gafodd y wobr am ganu "Fair Flora decks. Cystadleuodd pump parti ar ganu "Dysglacr wlad yr hedd," y goreu oedd parti dan arweiniad Mr. H. Lewis. DIRWEST.—Deall wyf fod cyfeillion sobr- wydd y lie hwn yn bwriadu gwneyd ymdrech i gael gan dafarnwyr y lie i gau eu masnach- dai ar y Saboth, yn nghyd a darbwyllo y gwahanol gymdeithasau cyfeillgar i beidio cynal eu cyfarfodydd mewn tafarndai. Pro- gramme da, onide ? Feallai y bydd genyf air yn mhellach i'w ddweyd ar y mater uchod ryw dro eto, yn y cyfamser boed llwyddiant i'r cyfeillion liyn yn eu hymdrech o blaid sobrwyeld. AT COOHFARF.—SYR,—Ai at gyfieithiad Lady Charlotte Guest y cyfeiriwch I Wele i chwi y cyfieithiac! hwnw o "Ymweliad y Bardd," (Tegid) The Bard to Bala journeyed home, His aged sire to see Through houae through garden did he roam, Crying, Father, welcome me I cannot find my father dear, Oh is he in the grave ?'' His accents waked an echo near, It answered,—" In the grave 01-r where art thou, my sister, where Thy smile so bright, so free If thoa'rt alive, Gwenllian fair, I pray thee answer me ? I hear no voice to calm my fear, Art thou too in the grave ?" The echo's note was low, but clear, It answered,—"In the grave My mother thou my tender nurse In helpless childhood, say Why is thy seat unfilled, where first To heaven I learned to pray ? Oh mother mother best beloved Art thou too in the grave ?" His plaintive cry the echo moved, It answered,—" In the grave Dead are the flowers the garden bore, Dark is the house to me No father, mother, sister, more On earth hope I to see .For they are sleeping near the Lake, In bed of clay, all three Henceforth where'er my course I take, Cheerless my path will be." -Allegro.
LLANSAMLET.
LLANSAMLET. Cynaliwyd cyngherdd ardderchog yn y lie c!l uchod nos Sadwrn cyn y diweddaf, Chwef. y 23ain, dan nawdd rhai o brif foneddigion a boneddigesau y plwyf. Cymerwyd rhan yn y cyngherdd gan y boneddigion a'r boneddig- esau canlynol :-Miss Mathews, Castellnedd Mr. Lewis Arnold, Mr. Joseph Jones, Llan- samlet; Mr. W. G. Smith, Birchgrove House; Eos Morlais, Miss Arnold, Castell- nedd a Mr. D. W. Jenkins, Llwynbrwydr- I au. Gwasanaethwyd, hefyd, gan barton Llwynbrwydrau (dan arweiniad loan Alaw), Salem, Cwm (dan arweiniad Mr. William Williams); a Horeb, Sciwen (dan arweiniad Mr. Morgan Daloyd). Cadeiriwyd gan Albert Moore, Ysw., yn foneddigaidd iawn. Can- odd y gwasanaethwyr cerddorol eu gwahanol ddarnau yn chwaethus iawn, yn enwedig Eos Morlais, yr hwn oedd prif ganwr yr esgyn- lawr. Trodd y cyngherdd allan yn grand success. Budd-gyngherdd ydoodd hwn i Mr. John Thomas (loan Alaw), am ei ymdrech diflino gyda'r canu yn y lie. Diweddwyd y eyfarfod trwy roddi diolch i bawb am wasan- aethu, a hyny yn rhad. Yr oedd y neuadd wedi ei gorlenwi.-—Gohcbydd.
, FFYNON TAF.
FFYNON TAF. Nos Lun, Chwefror 25ain, yn Nghapel Annibynol Nantgarw, traddodwyd darlith ragorol ar y testyn "Diwygiadau Crefyddol 11 Cymrn," gan y Parch. T. Rees, D.D., Aber- tawe. Daeth torf luosog yri nghyd, a ehaw- sant llwyr foddlonrwydd yn y darlithydd. Llywydd y eyfarfod ydoedd y Parch. W. Rees, Glandwr Taf. Dyddiau Iau a Gwener, Chwefror 21ain a 22ain, cynaliodd y brodyr Methodistiaid Calfinaidd en cyfarfodydd misol, yn Tabor, yn y He uchod. Dechreuodd y cyfarfodydd neillduol am haner awr wedi naw boreu dydd Iau, yr ail am haner awr wedi un, a'r society am bedwar yn y prydnawn. Yn ystod y cyfarfod olaf siaradodd Mr. Roberts, Cenad- wr India, yn effeithiol iawn am dros awr o amser- ar y genadaeth, a chafodd y fath ddylanwad ar ei gwrandawyr fel yr oeddynt bron colli arnynt eu hnnain. Y fath aberth y mae pobl grefyddol yr India yn wneyd i gyrhaedd moddion gras. Dywedodd am un teulu yn cerdded 13 milltit, dros fynydd serth er mwyn eyrhaedd y society unwuith bob wythnos. Gwas. i amaeth wr ydoedd gwr y teulu uchod, ac yr oedd ganddo wraig a thri o blant. Pant y mis ydoedd ei gyflog, ac allan o hyny yr oedd yn rhoddi dau swllt y mis' at gynal achos y Gwaredwr. Dyna esiampl i broffeswyr Cymru, onide? Canodd Mr. Roberts ar ddiwedd v cyfarfod emyn yn iaith yr India, yr hwn yn ein hiaith ni ydoedd yr hen benill hwnw—" Wrth gofio'i ridd- fanau'n yr ardd," &c. Er mai yn iaith yr Indiaid yr oedd yn-canu yr oedd y dafganiad yn offeithiol iawn. Pregethwyd yn y cyfar- fodydd fel y canlyn Nos Ian, gan y Parchn. Mr. Roberts, Cenadwr a T. Rees, Merthyr. Boreu dydd Gwener, gaii y Parchn. Morris Morgan, Hwlffordd, gynt o Aberdar; a D. Jones, Abercarn. Yn y prydnawn gan y Parchn. R. Morgan, Llwyd- coed a John Hughes, Dowlais. Yn yr hwyr gan Parchn. T. Phillips, Mountain Ash a R. Jones, Treherbert. Cafwyd cyfarfodydd neillduol dda, ac yr oedd yn amlwg fod y gweision yn cael eu gwisgo (t nerth o'r uchelder. Gobeithio bydd yr oil o'r cyfarfodydd yn cyrhaedd eu hamcan.— Hen Galfin.
ELIM PARC.
ELIM PARC. Nos Fercher, Chwefror 20Fed, traddodwyd darlith yn y lie uchod, gan yr hyawdl a'r doniol Thalamus, ar Ryfel a Thylodi en Hachosion a'u Heffeithiau." Llywyddwyd, yii absenoldeb y Parch. B. Evans, gweinidog y lie, yr hwn a luddiwyd oherwydd afiechyd, gan y Parch. Mr. James.(T.C.),' Llanddarog. Llenwid y capel gan bobl y gwahanol enw- adau cymydogaethol. Dangosodd y darlith- ydd fod rhyfel a Christionogaeth yn an- nghyson a'u gilydd, ac fod ein tlodi cenedl- aethol yn warthrudd ar ein cymeriad moesol, yr hwn sydd yn cael ei achosi gan ormes, annoethineb, segurdod, a meddwdod. Yr oedd y darlithydd yn trin ei bwnc yn feistr- olgar, a thaflai oleuni ar ranau o'r Beibl ag a fyddai yn dal cysylltiad a'i bwnc, nes y byddem yn ami yn cael y fraint o sangu ar feusydd newyddion, a thremio ar y golyg- feydd prvdferthaf. Nodweddid y ddarlith gan ddifrifoldeb, fel y dywedai yn ei ragym- adrodd mai difrifoldeb oedd yn gwedda testyn mor bwysig, ac nad oedd yn tueddu at ydigrifol, ond yn hollol i'r gwrthwyneb, ac felly y teimlem ninau. Nid oedd y dagrau yn brin y noson hono, ac nid oedd y darlith- ydd ychwaith yn gwbl rydd oddiwrthynt yr oedd y gwrandawiad astud, y gruddiau z, gwlybion, a'r ocheneidiau ami fel cynifer o .bileri yn dal ei freichiau tra y byddai yn myned drwy ei ddarlith benigamp. Da genym ddeall fod y doniol Thalamus wedi ymuno a'r Gymdeithas Ddirwestol. Llwyddiant iddo i fyned rhag ei flaen, er enill lluaws i ymestru o dan faner dirwest a sobrwydd. —Jantes Griffiths.
-LLANEDI.
LLANEDI. Nid yn amJ. y gwelir gair o hanes y lie hwn ynymddangos ar dudaienau eich newyddiadur clodwiw, er fod yma lawer o ysgrifenwyr galluog yn byw yn y gymydogaeth. 11 Gallwn ddweyd mai marwaidd a difywyd yw pethau yn myned yn ill laen yma ar yr adeg bresenol. Llawer o deuluoedd a welwyd gynt mewn bri a mawredd yn ngolwg eu cyd- ddynion; ond erbyn heddyw mae yr olwyn fawr wedi troi, a thlodi yn gordoi y wlad yn gyffredinol, a llawer o deuluoedd wedi myned megys diddim. Y mae yn dda genym allu ddweyd fod llawer un a chyfoeth y byd yn helaeth, a chalon dda i gyfranu o'r cyfoeth hyny i'r tlodion ond y mae llawer o gyfocth gan rai a'r galon i roddi wedi ei serio i fyny, nad oes dim teimlad ganddynt tuag at eu cyd-ddynion yn eu tlodi. Yr ydym yn eu deimlo yn wir ddyledswydd arnom fel ardal- wyr yn gyffredinol i ddiolch i Mr. E., y cuncd, am ei ifyddlondeb a'i lafur diflino gyda chwilio ac edrych yn ddyfal i mewn i sefyllfa tenluoedd, cleifion, ac ereill. Y mae yn anrhydedd i'r gymydogaeth y mae yn byw ynddi, ac yn esiampl i lawer o weinidog- ion ein hoes. Hir oes iddo ar y ddaear, gyda dymuniad am i'r Brenin mawr fendithio ei ymdrechion a llwyddiant.—Magical. Cynaliwyd darllenfa geiniog yn ysgoldy Brynffenvs nos Sadwrn, y 23ain cynfisol. Yr oedd lluaws wedi ymgasglu yn nghyd, ar yr amser penodedig. Iddechreu, cynygiwyd Mr. David Harris i'r gadair ac fel y mae yn gyffredin, cawsom araeth bwrpasol iawn. Y llywydd oedd Mr. David Jones ac yn ol ei arfer, aeth y tro hwn hefyd trwy ei waith yn rhagorol. Teilynga y brodyr hyny a gymer- asant ran yn y cyfarfod ddiolchgarwch am ein cadw mor ddifyrus yn ystod y cyfarfod yr oeddynt yn canu, darllen, ac areithio yn rhagorol, ac yn enwedig y doniol a'r digrif Eos Myddfe. Gobeitliiwn y cawn gyfarfod- .Y ydd o'r natur hwn yn amlach. Cyn terfynu, cafwyd araeth ddifyfyr a'r cystadleuwyr oeddynt Eos Myddfe, J. Davies, a D. Bevan. Cafwyd dyddordeb mawr gan y tri hyn wrth eu gwaith yn areithio. Dywedodd Eos Myddte, ar derfyn ei araeth, nad oedd gyda fe- ddim ychwaneg i ddweyd yn y mesur lleiaf. Yna, cafwyd y feirniadaeth gan Mr. D. Jones y goreu oedd J. Davies. Bwriad- wn gael cyfarfod o'r un natur eto yn nhy Mr. S. Adams, Prince of Wales, nos Sadwrn, y. 9fed o Fa wrth. — Un oedd yno.
LLITH 0 LANAU R RHONDDA.
LLITH 0 LANAU R RHONDDA. Nid yw agwedd pethau yn edrych mor dywyll yn awr ag ychydig amser yn ol. Y mae agwedd y gweithwyr yn edrych yn fwy lion ond eto cymer amser maitli cyn yr ymddengys arwyddioll allanol fod am- gylchiadau yn gwella; ac y mae yn dda nad yw camrau y newyn yn cyflymu, ond hytrach yn lleddfu ac arafu wrth fel y bu yn yr wyth- nosau a basiodd, yn neillduol yma yn rlian- barth ganol y Cwm. Y mae Abergorki, Tylacoch, y Swamp, y Pentre, y Ton, a'Bod- ringallt yn gweithio lawer mwy cyson nag oeddent mewn gair, pe buasai pethau yn cadw eu cwrs o arafweh fel. oeddent, buasai llawer mwy yn dyoddef nag sydd ac a welwyd. Ond gyda llawenydd yr ydym yn gallu dwyn tystiolaeth fod amgylchiadan wedi cyfnewid er gwell i raddau pell. Gwir y cymer amser hir cyn y daw dynion i'w cynefmol sefyllfa, os deuant byth, o'r hyn leiaf yn eia hoes ni; ond y mae yn destyn llawenydd i weled yr olwyn wedi troi, a thine olwynion masnach yn cann en clych gyda mwy o sain nag oeddent .wythnosau yn ol. Gallem ddwyn engreifftiau calonrwyg- ol o lawer teulu sydd wedi dyoddef dyrnodiau llymdost yr archelyn. colynog, y newyn ond welwn ni ddiai y gallem enill wrth adrodd yr engreifftiau yr ydym yn dystion ohonynt ar lanau'r Rhonddayn yr wythnosau a. basiodd. Nid ydym wedi bod yn Mlaenycwm er's tro, ac nid ydym wedi clywed pa fodd y mae pethau yn ymlwybro yno ond deallwn nad yw pethau yn fawr gwell yn y Rhondda Merthyr, Bute, Fernhill, Blaenrhondda, a. Blaenycwm. Deallwn fod y gegin soup yn parhau i roddi allan ei amserol drugareddan i'r tlodion sydd megys esgyrn wedi ymbUio gan ddanedd newyn. Teimlwn ein calon yn Hawn o loesau wrth feddwl am y gwahaniaeth dirfawr sydd ar lanau'r Rhondda heddyw i'r hyn ydoedd bedair blynedd yn ol, pan yr oedd gwen ym- lonol ar wyneb bob teulu. Ond ni waeth i ni heb son am gyfnewidiadau mewn am- gylchiadau, oblegyd rhaid i amser e3gor ar wahanol gyfnewidiadau yn ol natur pethau, ac y mae yn dda fod pethau yn cyfnewid, onide ni chaem fantais i wybod gwerth y naill beth mwy na'r llall.—Slton o'r IVern.
LLITH 0 GWM NANTYGLO.
LLITH 0 GWM NANTYGLO. MASXACH.— Nid wyf* wedi ysgrifenu am wythnosau, gan feddwi y buaswn yn cael rhywbeth yn werth ei gofnodi ond, fel y mae gwaetha'r modd, parhau yn ddifywyd y mae masnach yn y lie hwn, gyda'r eithriad o waith Glyn, Nantyglo. Mae hwn yn gweithio yn gyson, ond yn hynod o lawn, nes y mae llawer o'r gweithwyr yn methu yn deg a chael dan pen y llinyn yn nghyd. Ond am weith- wyr y Biaenau nid ydynt yn cael gweithio dros haner eu hamser, a bychan yw yr enill pan fyddont yn gweithio, oherwydd fod y gwaith mor llawn ond hyderwn y claw yn well gan fod yr hen gwmni yn rhoddi i fyny, a chwmni newydd yn eymeryd meddiant ohono ar y 9fed o'r mis presenol. DAM WAIN" AKGEUOL.—Dydd Iau, yr 28ain cynfisol, pan yr' oedd dyn o'r enw Evan Phillips wrth ei alwedigaeth, ar yr heolydd, yn mhwll dwfa isaf y Biaenau, syrthiodd darn o'r nenfwd arno, gan ei daro i dragyw- yddoldeb mewn kmrantiad. Gellir dweyd am dano ei fod yn ddyu tawel, addfwyn, a chrefyddol. Brodor o'r Brynmawr oedd yr ymadawedig. CALEDI.—Bum yn siarad ag un o'r ar- ch wilwyr am yr achos hwn, ac yr oedd yn dorcalonus i glywed am sefyllfa llawer teulu yn y gymydogaeth. Dywedai ei fod wedi galw mewn ty un diwrnod, a chafodd yno wyth o deulu, a neb ond y gwr yn enill, ac yntau yn methu cael gwaith haner ei amser, a plian yn y gwaith yn methu cael haner digon i'w wneyd, gan mor lluosog yw y gweithwyr. Dywedodd y gwr nad oedd wedi profi tamaid o enllyn am dair wythnos, ac yr oedd am lawer diwrnod heb fara, i'w fwyta, hyd nes i aelodau y relief fund gael gafael yn yr achos. Un achos yw hwn o lawer o rai cyffelyb. Nis galla.f lai na diolch o galon am yr holl roddion sydd wedi eu derbyn, a gob- cithio fod llawer rhagor i ganlyn, fel y gellir digoni yr angen sydd yn bodoli yma. Dylem hysbysu fod rhywrai yn Rwsia yn teimlo dyddordeb yn yr achos, ac wedi danfon cheque am 50p. i'r Blaenau. Yn mlaen yr elont mewn daioni. Os bydd rliyw un yn gallu ac yn awyddua i gyfranu, gellir trosglwyddo y cyfryw i ofal y trysorydd, y Parch. J. Mor- gan, Ficer Nantyglo neu Mr. W. J. Allen, N antyglo. —Milfrauydd.
O'r Gorllewin!
O'r Gorllewin! (0 JVewyddiaduron America.) Cyflwynwyd deiseb i sylw Cynghorfa yr U nol. Dalaetliau yn gofyn am wneyd y 12fed oChwefrorynddyddgwyl genedlaethol, er coffadwriaeth am ddydd genedigaeth Abraham Lincoln. Meddylia miloedd yn y wlad hon fod y dydd hwnw yn llawn mor deilwng o nod a dydd genedigaeth Washington. Ym- ddengys mai y prif wrthwynebiad ydyw fod y ddau ddiwrnod yn dyfod mor agos i'w gil- ydd. Yr oedd y Philadelphia Press, pan yn gwneyd sylw o'r mater, yii dyweyd mai y dydd mwyaf priodol fyddai y 14eg o Ebrill, y dydd y bradlofruddiwyd yr Arlywydd. Hwyr yr 28ain o Ionawr-peii blwydd Proff. J. W. Parson Price (yr hwn sydd yn 39 oed)—vmgasglodd nifer o Gymry New York, a befyd Mr. a Mrs. Mohistick, i ys- tafell brydferth y cerddor, 1270, Broadway, i fwynhau ymgom difyrus a melua sain cerddoriaeth leisiol ac offerynol. Treuliwyd noson ddedwydd iawn. Yn mhlith y rhai a chwareuasant ar y piano, yr oedd Miss Nellie E. Roberts, o Utica. Can odd Miss Glays Price (dim ond lleg oed; ddwy gan yn swyn- 01 annghyffredin, a chanodd Miss Owen Tender and true," gyda llawer o e-cpression a theimlad. Da genym fod Mr. Price wedi Hwyddo i enill saile mor Iwyddianus yn ein dinaa. — C. Suddodd cwch o Bryste yr wythnos ddiweddaf, ond achubwyd y dwylaw. -21--
Advertising
HHYBUDD.—Y mae Mri. Ecckitfc a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Mac, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau glas gwael yn cael eu gwneyd yn fodiau, peleni. phow dwr; (owl eto. y maent yn gorfod rhybuddio v cyhoedd yn erbyn ma liau gwael o liw glas svdd yn cael eu gwneyd o'r un fi'iu-f, yr hwn a wertliir oherwydd yr elw ychwanogol a geir trwy hyny. Gofaler, gan hyny. am gael v Pans Blue pedair- onglog, yn dwyn eHWMl 1. RKCKITT A'l FEIH- tON yn nghyd a'r arwyddion masnachol. 1775. PELEM HOLLOWAY,-YR YSGYIWIXT A'B CYLLA Y mae tywydd twym a l>orei au a pLrydnawna'a oerion bob amser yn creu anhwvldorau yn rhanaa treuliol. y corff, y rhai ddylai gael gofal prydlawn. Nid oes dim yn debyg i Beleni ITolioway amwella y trculiad. Maent 34:1 cael eu cydnabod jm gar- trefol a thramor fel y feddyginiaeth sicraf ao effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diityg trculiad, gwynt, clnvyddiad, gwrthwyneh- edd. pob nmth o ryddni, clefyd ygwaed, sychder y cfoen, a bol-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn ainddiffyn y cyfansoddiad rhag y niweidiau am- ryvviwl sydd yu dilyn cyfnewidiadau y tywydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwvddyn. Nid ydynt yn yn«>Taeth dim waith na phleser