Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GRUFFYDD LLEWELYN:

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GRUFFYDD LLEWELYN: N OF EL. PENOD IY. Boreu draneeth, cyfododd y teulu fel arferol, ond wrth weled nad oedd Gruffydd yn codi awd i ddysgwyl i'w ystafell am dano, pryd, er eu syndod, nid oedd neb yno. Nid oedd yr un arwydd ei fod wedi bod yn y gwely y noson hono. Ni wyddent yn iawn pa beth oedd i'w wneyd. Meddyl- iasant feallai ei fod yn nhy Modryb Nani o'r Eglwys, ac aethant tuag yno, ond nid oedd neb yno yn gwybod dim am dano. Anfonwyd eilwaith tua'r Ty Draw, ond i ddim pwrpas, oblegyd nid oedd neb yno yn gwybod dim am dano. Ymledodd y son am golliad disymwth Gruffydd, a mawr oedd y son gynyrchodd hyny am ymddyg- iad creulon ei feistr tuag ato. Gan nad oedd cymeriad ei feistr yn uchel yn ngolwg trigolion y plwyf yn barod, aeth lawer yn is yn awr. Hwyrach," meddai Dai o'r Llechwen, mai taro ei ymenydd a wnaeth lanto ei feistr, a'i gladdu yn ddirgelaidd." Synwn ni ddim, y mae Ianto yn ddigon rhydd ae yn ddigon diymenydd," meddai un arall. "Wel," ebai Twmi o'r Aber, "yr oedd- wn i yn dygwydd bod yn y siop ar ryw ddiwrnod, a gwnaeth Gruffydd rywbeth allan o Ie, aeth Ifan i nwydau ofnadwy, a gollyngodd y morthwyl at ei ben, ac yr wyf yn sicr pe buasai yn llwyddo i'w daro y buasai yn ei ladd yn y fan." Tr oedd y ddrwgdybiaeth yn cynyddu am Ifan o hyd. Ni chlywyd dim son am Gruffydd y diwrnod hwnw, a dranoeth aethpwyd i chwilio llyn y felin, ond ni ddaeth dim i'r golwg. Chwiliodd y cwn- stabl holl dy Ifan, ei feistr, ond i ddim pwrpas, ond rhoddwyd ei feistr yn y ddalfa, ac awd ag ef o flaen yr ynaflon i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o fod wedi lladd Gruffydd Llewelyn. Wrth fod y prawf yn myned yn mlaen, datguddiwyd y dull y byddai ef yn trafod Gruffydd, a dywedodd yr ynad fod ei ymddygiad creulon at y bachgen amddifad yn warth oesol ar ei gymeriad. Gorchymynodd cadeirydd yr yr ynadon i Ifan i gael ei gadw yn rhwym, ac i'r ymchwiliad fyned yn mlaen am wyth- nos arall. Pen yr wythnos a ddaeth, ond dim newydd am Gruffydd. Penderfynodd Edward, o'r Ty Draw, fod Ifan wedi cael digon o'i gosbi, ac fod Gruffydd wedi cael digon o amser i fyned oddiar y ffordd, a dywedodd pa le yr oedd wedi myned. Gollyngwyd Ifan, ar hyn, yn rhydd, a'i gymeriad wedi ei glirio oddiwrth lofrudd- iaeth Gruffydd, eto, bach iawn oedd yr olwg arno gan drigolion y lie wedi hyny. PENOD V. Rbaid i ni droi yn ol yn awr at ein harwr. Gadawsom ef ddiweddaf wedi cy- <chwyn i'w daith. Ni chychwynodd neb i'w daith yn fwy isel ei amgylchiadau na'n harwr. Nid oedd ganddo ond ychydig yn ei boced, ac heb un cyfaill na pherthynas i gydymdeimlo ag ef yn ei adfyd. Yr oedd serch'mamol ato wedi ei oeri gan angeu, a'i fam yn tawel huno, ac heb fod yn gwybod dim am adfyd ei mab. Yr oedd ei dad yn llanw bedd y llofrudd o fewn i furiau car- chardy y sir yn Nghaerdaf. Ond ni wyr dyn ei dynged," meddai y ddiareb. Cy- chwynodd i'w daith heb ond ei gyfaill Edward yn gwybod. Ni ofalodd neb ychwaith am fyned i un o drefydd mawr- ion Lloegr i geisio cael rhywbeth iddo i'w wneyd, ond ni feddyliodd erioed y buasai o dan yr angenrheidrwydd o fyned mor ieuanc. Wel, wedi iddo gychwyn, aeth i fyny i'r allt, lie yr oedd wedi cludo ei lyfrau, ac wedi eu erynhoi a gosod pob peth ya daclus cychwynodd. Yr oedd cysgod- fon tywyll y nos yn fentais fawr iddo, fel nas gallai neb ei weled. Yn mlaen yr aeth heibio i YstJad y Maeaarch, ac yr oedd wedi oyrhaedd i Mynydd Islwyn erbyn ei bod yn gwawiio. Eisteddodd yn yrnyl y ffordd, lie yr oedd ffynon o ddwfr grisial- aidd yn rhedeg, a bwytaodd ychydig o fara a chaws ag oedd ganddo. Wedi gorphwys ychydig, ail gyehwynodd i'w ffordd tua chyfeiriad PontyptoL Yr oedd yn ddiwr- nod hyfryd, tywynai yr haul yn hyfryd a gwresog, perseiniai yr adar yn hyfryd, a dychymygai ef eu bod yn dweyd wrtho am beidio ymollwng i anobaith, ond gobeithio, a theimlai ei hun yn ddiolchgar iddynt am y cysur a weinyddent iddo, ac yn mlaen yr elai dros riwiau geirwon, ar hyd ochrau y mynyddoedd, ac .yn groes i bontydd mawr- ion ac afonydd ymchwyddedig. Ni wyddai fewr am y ffordd, gan nad allasai dynu un cynllun ohoni, ond yn unig cadw ei wyneb tua chyfeiriad y dwyrain. Erbyn y nos yr qedd wedi cyrhaedd i Bontypool, ac yn union aeth i edrych am lety, pa un a gafodd yn rhwydd. Boreu dranoeth, cychwynodd i'w daith, wedi "adnewyddu ei nerth fel yr eryr." Cyn ei fod yn mhell o'r dref, goddiweddwyd ef gan ddau wr ieuanc, pa Tai a rydd-siaradent a'u gilydd yn llawen. Wedi iddynt ddal Gruffydd, gofynasant 0 ba le yr oedd yn dyfod ac i ba le yr oedd ya myned, i'r hyn yr atebodd Gruffydd mai [ o Lanfabon yr oedd yn dyfod, ali foi yn myned i Loegr i rywle. Gan eu bod yn hofli.ei olwg a'i ddull, cedgerddasant ag ef, ac wrth eu bod yn siarad adroddodd Gru- ffydd yr achos o'i ymadawiad o Lanfabon, a pha beth oedd yn ei ddysgwyl gael ar ol myned i Loegr. Erbyn hyn, yr oeddynt wedi dyfod i goedwig uchel a ehysgodfawr mewn llanerch unig. Pan ddaethant at groesffordd yn nghanol yr allt, ymadawodd y ddau wr dyeithr a Gruffydd. Nid oedd- ynt wedi myned yn mbell iawn cyn clyw- odd ein harwr ysgrechiadau yn rhwygo yr awyr, ac yn dyfod o'r cyfeitiad yr aeth ei gyd-deithwyr. Trodd yn ei ol ar ei sawdl, a chafodd ei ddau gyfaill yn cael eu maeddu yn druenus gan dri 0 ladron penffordd. Pan ganfyddodd y lladron Gruffydd yn dyfod tuag atynt, rhedasant ffwrdd mor gynted ag oedd eu traed yn caniatau iddynt. Nid oedd ei ddau gydymaith wedi derbyn ond yehydig o niwed oddiar ddwylaw eu hymosodwyr, ond oni buasai dyfodiad am- serol ein harwr, buasent wedi cael llawer iawn rhagor. Fel gwobr iddo am ddyfod idd eu cynorthwyo, rhoddasant iddo haner penadur. Bu yn hir yn gwrthod, ond mor benderfynol oeddynt fel y gwnaethant iddo ei gymeryd. Erbyn ei fod wedi cyrhaedd allan o'r allt, yr oedd yr haul ar fachludo, a theimlai yntau ei hun yn newynog a lluddedig, a chafodd le i orphwys dros y nos mewn bwthyn byehan gwledig yn ymyl y ffordd. # Ni fyddai ond gwastraff ynom i olrhain hanes taith Gruffydd yn orfanol. Yr ydym wedi croniclo pob peth ag sydd o bwys yn hanes ei daith yn barod. Ni chafodd yr un gwrthwynebiad wed'yn, ond pob peth o'i du. Yr oedd oddeutu haner dydd arno pan y cyrhaeddodd dref boblogaidd Birmingham. Meddyliodd, fel llawer o'i flaen, nad oedd angen ond cyrhaedd yno fod gwaith idd ei gael heb braidd ofyn am dano, ond cafodd weled ei fod yn camsynied yn fawr. Yr oedd wedi ceisio lie mewn amryw o fas- nachdai, ond yn aflwyddianus, ac yr oedd ar ymollwng i ddigalondid. O'r diwedd, daeth at fasnachdy mawr, a'r olwg arno yn ardderchog, ac yn argraffedig uwchben y drws Jacob Fox. Trodd i mewn, a thraeth- odd ei neges. Gofynodd Fox iddo beth a allasai wneyd, ac atebodd ef mai utfrhyw beth ag a fuasai angen. "Gall" ebai un o'r cyfrifwyr, "gario beichiau dirfawr, golwg pa rai a fuasai yn ddigon i arswydo Samson, y cryfaf o ddyn- ■ >» ion." 11 Gwna waith haner dwsin 0 ni yn y man lleiaf," atebai un arall. Dyna ddigon o gellwair," ebai Fox, a chan droi at ein harwr dywedodd "wel, yn wir, y mae yn wir ddrwg genyf nad oes eisieu un hogyn arnom yn awr, onite eawset le yn union." Trodd i fyned allan gyda gwyneb isel a digalon, ond wrth ei fod yn myned allan syrthiodd Uyfr allan o'i gwd. Edrychodd Fox arno, a gofynodd iddo pa lyfr oedd hwnw, i'r hwn yr atebodd mai y Beibl ydoedd. A fyddi di yn arfer darllen y Beibl fy machgen ?" gofynai Fox. "Byddaf, Syr, yn darllen rhyw gyfran ohono bob dydd." A ydyw dy dad a dy fam yn fyw ?'' Ar waith y gofyniad diweddaf yn cael ei ofyn byrlymodd y dagrau allan o'i lygaid, a chyda llais bloesg atebodd "Nacydynt, syr." Erbyn hyn, yr oedd llygaid Fox, gan ei fod yn wr calon dyner, a'r dagran yn eu llenwi, a dywedodd wrtho :—" Wel, fy machgen, er nad oes arnom eisieu hogyn yn bresenol, eto, cei di waith, gan fod genyf bob ymddiried mewn bechgyn ag sydd yn gyfeillion i'w Beiblau. Bydd yma am saith o'r gloch borea 'fory." Ar yr awr benodedig yr oedd Gruffydd yno, a dechreuodd ar ei waith, sef rhedeg ar negeseuon a glanhau y masnachdy, a phob peth arall a fyddai yn angenrheidiol. Trwy ei ddiwydrwydd, ei ffyddlondeb, a'i gywirdeb, ni fu yn hir cyn iddo enill serch a llwyr ymddiried ei feistr a'i gydwasan- aethddynion. Daeth i'w glustiau, ryw- fodd, fod ysgol nos yn cael ei chynal heb fod yn mhell oddiwrth ei lety, a phender- fynodd fyned iddi bob hwyr ar ol iddo adael, yn mha un yr ychwanegodd ei wybodaeth yn fawr iawn, a threuliai y Sabothau mewn capel Annibynol ag oedd gerllaw. Mor wahanol oedd ei ymddygiad ef i'r rhan fwyaf 0 bobl ieuaine ag sydd yn myned i aros i'r trefydd mawrion, pa rai a ymollyng- ant i ddilyn annuwioldeb a llygredigaeth y trefydd, nes o'r diwedd yn myned yn an- ffyddwyr perffaith. Rhai a fydd wedi cael eu magu ar aelwyd grefyddol, yn awn gweddiau tad tyner a mam dduwiol, ae feallai eu bod hwy wedi eymeryd arnynt yr euw rhagorol, ond ysywaeth ar ol myned i aros i'r trefydd "mawrion yn colli pob bias ar addoli yr unig wir Dduw, ac wrth bechu y maent yn myned yn ctdigon haer- llug a rhyfygus i wadu ei fodolaeth. Dir- mygant bob rhinwedd a daioni, ac ym- 1 ollyngant yn gyfangwbl gyda chwantau eu [ calonau llygredig eu hunain; ac er mwyn ] sao eu cydwybodau i gysgu, er mwyn cael llonydd ganadynt i ddilyn eu pechodau, y maent rn nryned i geisio credu nad ydyw dyn yn fo 1 cyfrifol, ac nad oes dim ar ol marw, fod pob peth yn darfod gyda'r dyn fel yr anifail a ddifethir. Ond nid felly y gwnaeth ein harwr; cyn hir yr ydvm yn ei gael yn ymgeisydd am aelod- aeth eglwysig, a chafodd dderbyniad gwres- og gan v frawdoliaeth i'w mysg. Fel yr ydym wedi dweyd yn barod ei fod drwy ei ymroad diflino a'i onestrwydd yn nghyf- lawniad ei orchwylion, wedi enill serch a ffafr ei feistr, ac yn -awr cafodd ei godi 0 fod yn negeseuwas i fod yn gyfrifwr, sef i gadw cyfrif o bob peth a ddeuai i mewn ac a elai allan o'r masnachdy. Yr oedd hon yn swydd bwysig, ao o ymddiried mawr iawn, ae yn gofvn y sylw manylaf. Ond cyn pen fawr ddyddiau yr oedd wedi dysgu pob peth cysylltiedig a'i swydd; eto, yr oedd un peth ynddo ag oedd yn peri mawr flinder i'w gydwasanaethwyr, a hyny oedd ei fod yn ddirwestwr trwyadl, ae oherwydd hyny ni chydymffurfiai i fwyn- hau ambell i swper o wvstrys a photelaid o borter gyda hwy. Mynych a thaer ydoedd eu eymhellion arno i ymuno, ond i ddim pwrpas. O'r diwedd, penderfynasant roddi prawf terfynol ar ei ddirwest, a'i ffyddlon- deb iddi. Gwyddent fod ganddo y parch mwyaf idd ei feistr, ae hefyd pa mor ufudd ydoedd i'w holl orchymynion. Yr oedd yn nos Nadolig, ac yr oedd holl wasknaeth- wyr Mr. Fox, gyda'r eithriad o Gruffydd, wedi ymgynull i'r Queen's Hotel i dreulio noswaith lawen gyda'u gilydd, pryd y pen- derfynasant anfon am Gruffydd, am fod arnynt ei eisieu ar neges bwysig. Ufudd- haodd i'w cais, ac ar ei waith yn cyrhaedd yr ystafell lie yr oeddynt wedi ymgynull, dyma ryw haner dwsin yn eyfodi ar eu traed gan estyn "yfed" iddo, ond i ddim pwrpas, gan iddo wrthod. Gofynodd iddynt' pa beth yr oeddynt yn ymofyn gydag ef; gyda hyn, dyma un ohonynt ar ei draed, ac yn estyn lien o bapyr iddo ag oeddynt, meddai ef, wedi ei gael oddiwrth ei meistr, sylwedd pa un oedd fel y canlyn :— At fy Ngwasanaethddynion, FONEDDIGION,-Gan fod y Nadolig wedi d'od a'i dro oddiamgylch unwaith yn rhagor, yr wyf yn dymuno eich hanrhegu a phob o botelaid o'r gwin goreu. Hefyd, dymunwn i chwi ar ddeall yr ystyriaf wrthodiad oddiwrth un ohonoch yn sarhad o'r mwyaf arnaf, gan mai o barch atoch yn unig yr wyf yn ei rhoddi. Gan ddymuno Nadolig llawen a Dlwyddyn newydd dda i chwi un ac oil, y gorphwys yr eiddoch, JACOB Fox. "Dyna," ebai yr un a estynodd y nodyn i Gruffydd, beth a ddywedweh yn awr." Wel," atebai Gruffydd, « mae yn wir ddrwg genyf orfod anufuddhau i fy meistr, ond gwell genyf anufuddhau iddo ef er tynu ei wg na thori fy adduned." Cofiwch y bydd i Mr. Fox edrych ar eich gwrthodiad fel sarhad arno, ac ystyr- iweh beth all y canlyniad 0 hyny fod," atebai un arall. 0 mynaf siarad y peth yn bersonol a Mr. Fox boreu yfory feallai, ac hefyd nid wyf yn gweled y llawysgrifen yn eyfateb i eiddo fy meistr," atebai Gruffydd, gan ar yr un pryd roddi y nodyn yn ei logell, a throi er myned i ffwrdd. Erbyn hyn, yr oedd y cwmpeini wedi cael eu taflu i ddyryswch, a theimlent eu bod wedi cael eu dal yn y fagl ag yr oedd- ynt wedi barotoi i ddenu Gruffydd oddiar dir sobrwydd, a dywedasant wrtho nad oodd gan Mr. Fox yr un Haw yn y peth, a'u bod yn gostyngedig ofyn am ei faddeu- ant, a chrefeqt arno am beidio dweyd yr un gair wrth Mr. Fox am y peth, ac ar yr un pryd ya sicrhau y byddai ganddyat fwy o olwg arno yn y dyfodol nag o'r blaen, gan ei fod, y noswaith hono, wedi profi ei hud yn ddyn trwyadl a diysgog. Can- iataodd hyny iddynt, ar yr amodau nad oeddynt i demtio rhagor arno ef, ae yna ymadawodd gan ddymuno nos da iddynt. (Tuo larhauj.

Tanchwa mewn Glofa.

Advertising

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

Eisteddfod Drill Hall, Sciwen,…