Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Y mae tonau Pedalist, Gwalch Ionawr, John Goss, Musico, Julius, a Bertini yn llawn o'r gwallau mwyaf cyffredin, megys pumau ac wythau dilynol, &c., er fod y rhan fwyaf ohonynt &g amean da am alaw, -yn enwedig Pedalist a J alius; ond nid ydynt wedi ymgyfarwyddo nemawr a rheol- au cynghanedd. Y mae tonau Pererin, Pianist, Cadwaladr, Cristion, Alawydd Glan Morlais, Hamilton, Wagner, Medad, Musico, R. W. T., Calcott, a Pratt yn fwy diwall; eu halawon yn fwy melodaidd, yn enwedig Alawydd Glan Morlais a Hamilton. Y mae eu cynghan- dediad hefyd yn well; ac y mae ganddynt fwy o amcan am gyflead priodol y cordiau, ac y maent wedi osgoi y gwallau cyff- redin a nodwyd uchod; er nad ydynt yn ihydd o lawer o feiau ereill. Y rhai sydd wedi cynyg oreu at gyfan- soddi yn rheolaidd ydynt y rhai canlynol: —Ap Llwyd, Cymro, Sol-faist, Wagner, Alawydd Glan Nedd, Sabastian, a Randall. Y mae y rhai hyn yn ymddangos yn rheol- aidd a threfnus, ac y maent yn brawf o wybodaeth ac adnabyddiaeth helaeth mewn cynghanedd a melodedd naturiol, ac nis gallwn yn gydwybodol beidio gosod y ddau olaf yn gydfuddugol, teilyngdod pa rai sydd yn ymddangos i ni yn gydradd.—Yr eiddoch, TAFONWY.
Beirniadaeth Eisteddfod Treherbert,…
Beirniadaeth Eisteddfod Treherbert, Nadolig 1877. GAN JIWFA MôN. Traethawd ar Briodas^ Derbyniwyd wyth o draethodau ar y testyn hwn,—sef, eiddo Llangc deunaw oed, loan Meredith, Cynfael, Athronydd, Dum spiro spero, Adda Jones, Philamon, a John Jones. Daeth eiddo Philamon i law yn rhy ddiweddar, ac felly y mae allan o'r gy- -stadleuaeth. Ond pe buasai i mewn yn ddigon buan, ni buasai iddo un gobaith am y wobr, oherwydd y mae traethodau rhagorach na'r eiddo ef yn y gystadleu- aeth. Llangc deunaw oed.Mae gan y Ilengcyn hwn lawysgrif eglur, ond or- graph ddiflPygiol. Medda olygiad Iled glir ar yr ystad briodasol; ond nid yw ei amgyffred yn ddigon eang, na'i allu yn ddigon addfed i ymgymeryd a'r gy- stadleuaeth bwysig hon. L loan Meredith.—Traethawd bychan, wedi. ei ysgrifenu yn ddestlus, yw eiddo loan ond nid yw yn dyfod yn agos i'r nod, canys ni chymerodd olwg digon trwyadl ar y testyn. Cynfael.-Y mae Cynfael, mor bell ag y cyrhaedda, yn ysgrifenu yn gryf. Ond ni chymerodd yntau olwg digon treiddiol a thrylwyr ar y testyn ac oblegyd hyny rhaid iddo yntau syrthio yn ol yn y gy- stadleuaeth. Athronydd.-Buasai yn well i Athron- ydd ddefnyddio rhyw ffugenw arall, • canys nid oes dim yn ei waith yn profi ei fod yn athronydd Rhedeg yn frysiog a gwibiog dros yr hanes ysgrythyrol o briodas y mae ef, yn lie trin y pwnc yn athronyddol. Heblaw hyny, nid yw Athronydd wedi dysgu ysgrifenu yr iaith ;n Gymraeg yn briodol. Mae ganddo Drilliau, yn lie Drylliau,—griawdwr yn lie Creawdwr, a lleng o bethau cyffelyb. Adda Jones.-Mae gan Adda draeth- ;awd doniol; ac y mae ynddo lawer o wersi addysgiadol. Ond y mae ynddo fwy o nerth dawn nag o nerth barn ac ymresymiad. Ond y mae yn draethawd difyr, a darllenadwy. Dum spiro spero.-Mae gan yr awdwr hwn draethawd galluog, a thrinia ei testyn yn dda iawn. Y mae ei nodiad- :au ar yr ystad briodasol yn werthfawr, ac addysgiadol. Wrth ddarllen y traeth- awd hwn teimlem ein bod yn mhresen- oldeb awdwr o feddwl cryf, ac o allu i -osod ei feddwl allan mewn dull tra argy- hoeddiadol. John Jones.—Dyma draethawd gwir werthfawr. Y mae yr iaith yn goeth, a'r -cynlhm yn dda ac eang. Y mae y nod- iadau yn athronyddol a safadwy. Y mae yr hanesiaeth yn oleu a'r nioes wersi yn cyrhaedd y pwynt. Mewn gair, y mae y traethawd hwn, yn ol ein barn ni, y peth oedd eisieu ar y testyn a diau y bydd ei gyhoeddiad yn ateb i bwrpas y pwyllgor. Eiddo John Jones yw y goreu, a theilynga y wobr. fBeiruiadaeth yr Awdlau ar Y Nefoedd yn ein nesaf. -GoL.]
Advertising
ENAINT HOLLO WAY.—Y Frech Goch a'r Scar- latina.Dyma y ddau ymosodydd peryglus sydd yn dyfod ar draws ein plant gyntaf ar ol eu geni. Mae y ddau glefyd yn heintus. ac yn galw am driniaeth ddoeth. Yn yr anhwylder blaenaf ceir fod y chest yn dyoddef; ac yn olaf dyoddefa y gwtidf. Bydd y fam, neu yr hon fyddo yn gweini, yn sicr o gael fod Enaint Holloway yn feddygin- iaeth anmhrisiadwy yn yr achosion peryglus hyn. Ond ei gymlnvyso at y gwddf, y ddwyfron, a'r cefn, rhydd esmwyth-had diffael; hyrwydda yr anadliant, lleddfa y peswch, dwg y lliw priodol yn ol i'r gwefusau, a chyll y gwynebpryd yr ym- "ddangosiad gwelw sydd yn rhagwyddo sefyllfa beryglus y cyfansoddiad. Nidyn unig y mae yr Enaint gwerthfawr hwn yn iachau yr defy d ei iiun, oad symuda yr achos o bob ol-effaith.
BLAENAFON.
BLAENAFON. Y mae Afonydd yn ei lythyr diweddaf wedi myned yn physiologist mawr. Yroeddwn yn gwybod o'r blaen fod digon o wynt yn y crombach ond ni ddarfu i mi feddwl erioed fod ynddo y gallu i ddadansoddi penau dyn- ion. Yn wir, ddarllenydd, yr wyf fi yn teimlo yn bur falch fod gyda ni y fath ddyn yn ein plith. Medr hwn ddadansoddi penau pobl heb eu gweled ac heb eu teimlo. Wn i ddim be' Andras sydd ar y bobl na allent weled mawredd y dyn. Ond dyna, dichon y bydd iddynt ddyfod i gredu ynddo ar ol ymddang- osiad ei ddadansoddiad o benglog Parvo. Bu yma ddyn ychydig amser yn ol, yr hwn a ofynai swllt am ddadansoddi pen dyn ac ni ryfeddwn i flewyn na ofynai haner coron am ddadansoddi pen Parvo, oherwydd y mae ganddo ben rhyfedd iawn. Mae ar ei ben wallt cooli, ac y mae blew ei gernau yn goch- ion. Gwarchod pawb, pe buasent yn dduon, buasai Parvo yn fachgen pert iawn Ond er mwyn tipyn o ddigrifwch goddefweh i mi gael edrych pa faint o frethyn sydd ganddo yn ei lythyr diweddaf. Cyhudda fi yn gynt- af o ymosod ar eglwys, yr hon nid oes genyf ddim yn y modd lleiaf i wneyd a hi. Very well, Afonydd. Ond a ydych chwi yn ystyr- ied, pan yn fy nghollfarnu o'r eglwys uchod, fod genyf hawl i ateb eich gofyniad plentyn- aidd am ffyrdd ac ymddygiad yr eglwys Seis- nig 1 Mae pob dyn ag sydd yn meddu ar loned gwniadur o synwyr cyfFredin yn y lie hwn, ac yn gwybod rhywbeth am y drafod- aeth, yn dweyd fod Parvo wedi rhoddi ateb- ion.yn eu lie iddo. Yn ei lythyr cyn y diweddaf yr oedd Parvo yn y cwteri ganddo ond yn y diweddaf y mae wedi dyfod i ger- dded yn syth, ac yn meddu ar gadwyn aur, ac yn awyddus ei dangos i bawb, medd efe, ac y mae hefyd wedi bod mor ddoniol a rhoddi hyd a lie 1, pwysau, ac ymddangosiad Parvo, fel y geill pawb ei adnabod, Campus; ond Afonydd anwyl, rhag ofn eich bod yn cam- synied y waith hon, ni a geisiwn eich cy- northwy i'w ddal. Rhoddwn y gwobrwyon canlynol i'r rhai a fydd mor llwyddianus a dyfod ag ef i Ginshop y "Morthwyl" erbyn naw o'r gloch nos Fawrth nesaf :—1. Llathen o frethyn llwyd wedi ei dreulio allan. 2. Hen bregeth out of date. 3. Hen lapstone wedi ei churo yn dwll. 4. Hen dalcen glo wedi ei weithio allan. 5. Mynawyd a'i flaen ef wedi tori. 6. Haner dwsin o hoelion berwedydd- ion. 7. Lloned berfa drol o lo man wedi ei olchi yn lan. Gobeithio y. bydd y gwobrwy- on uchod yn foddion i'ch symbylu, ac i beidio gorphwys hyd nes cael o hyd i'r aflonyddwr cas. Wrth derfynu dymunwn ddweyd gair yn fyr wrth Osman Pasha, hyny yw, Cofia di am Plevna !-Parvo.
NEILLDUOLION.
NEILLDUOLION. Er's ychydig amser yn ol, darganfyddwyd allwedd bres-liw mewn hollt hen garn a gudd- iai fedd yn mynwent Llangrallo, Penybont- ar-Ogwy, pan yr agorid ef gan y bedd-dorwr. Mae ei tfurf yn cyfateb i groes sefydlydd yr Eglwys (Crallo) sydd yn sefyll rhwng y porth a'r draws-ganghell ddeheuol, o fewn yehydig latheni i ba un y'i cafwyd. Tebyg na fwr- iadwyd hi erioed i'w defnyddio, ond fel addurn neu arwydd. Yn Eglwys Rhufain (ac un o'i holion ydyw hon) mae allwedd yn arwyddo awdurdod eglwysig, gallu y Pab, neu y gallu o esgymuno, neu faddeu (gwel Imperial Dic- tionary). Mae ei phen yn grib-warchodedig, tra y mae ei charn o groes cylch-ffurfiol, yn berffaith o'r un ffnrf a chyfartaledd a phen croes Crallo. Cyn i'r draws-ganghell ddeheuol gael ei hadgyweirio, yr oedd yn ochr y ffenestr ddeheu-ddwyreiniol werf-ddarluniau (frescos) o ddau wr eglwysig o radd uchel yn yr Eglwys. Ni ellid eu cadw, oherwydd dad- feilient os cyffyrddid & hwynt. Wrth dyst- iolaeth y rhai a'i gwelsant, ymddangosent fel yn cerdded mewn gorymdaith; dygent mitres (coronau esgobion), a gwisgent yn eu gwregys-rwymau allwedd yn hollol yr un faint a ffurf yr un dan sylw. Er's talm yn ol, syrthiodd twr yr Eglwys hon (ac y mae eto heb ei ail-adeiladu); ac oherwydd yr an- nibendod, aeth rhai o blant y pentref i chwilio o amgylch, a chawsant yr allwedd .Y hon; ond rhag ofn cosb neu ofergoeledd, dychwelasant hi yn ddiogel i'r man y cawsant hi. Bydd yn dda gan hynafieithwyr ac ereill glywed ei bod wedi dyfod i law Mr. Llew- elyn, offeiriad y lie, a hysbysa y bydd yn foddhaol ganddo roddi y cyfleusdra o'i gweled i bawb sydd a dyddordeb ynddi. Ar ei gais, y mae wedi ei hanfon i ysgrifenydd )ym 0 yr Archceologia Cambrensis, ac y mae wedi cymeryd portread ohoni i ymddangos, yn nghyd a pha wybodaeth a all gael yn rhifyn E brill o'r cyhoeddiad uchod. Pres neu bres- liw (bronze) yw ei defnydd, ac nid aur, fel y dywed un papyr dyddiol. Gellid ysgrifenu penod ddyddorol ar hanes yr allwedd fel arwydd, ond gohiriwn y gwaith yn bresenol, canys feallai y cawn benod ddysgedig a dyddorol yn y cyhoeddiad uchod, a gofalaf anfon braslun cylieithedig ohoni i'ch darllen- wyr gyda'ch caniatad, Mr. Gol. Gan fy mod yn ysgrifenu yn y cywair hynafieithol, dichon y darllen rhywrai ych- ydig nodiadau am berson o'r enw Gwilym Hir, saer, a fodolai yn amser y Frenines Elizabeth, ac yn cydoesi a Shakspeare, pe b'ai fater am hyny. Er na ellir oi restru yn mhlith y neglected geniuses, eto gwn y darllen- ir tipyn o'i hanes gyda dyddordeb gan bres- wylwyr ardal Glynogwr a Melin-Ifan-Ddu. Gan fod defnydd ysgrif arall o'i hanes a'i weithiau yn fy meddiant, tynaf i ben gyda thri o'i drioedd 1. Tri chasbeth Gwilym Hir:—Eferen Sul, dadleu, a marchnad. 2. Tri pheth arall sydd gas ganddo:- Tafarnau, cerddau, a chreiriau. 3. Tri pheth casach ganddo na'r cwbl:— Offeiriad, prydydd, a chlerwr. Cyffes negyddol hynod, onide ? Wel, efallai y teflir tipyn o oleum arno yn fy nesaf.— Vochfarf.
[ HEN GABIAD r « FEROH O'R…
HEN GABIAD r « FEROH O'R SOER." MR. GOL. Dywed Llyfnwy yn "The Cupid iddo gael hanes Thomas Evans, car- wr aflwyddianus y Ferch o'r Seer, gan ei fab, Morgan Evans. Mae yn debyg mai y Mor- gan Evans hwnw oedd y dyn a lofruddiwyd gan herwhelwyr ger Mynydd Cynffig yn ddi- weddar ac mai efe oedd yr olaf yn fyw o blant yr hen delynor. Dywedwyd wrthyf gan ddynes enedigol o'r Drefnewydd fod ups and downs Thomas Evans a'i blant yn ramantus a dyddorol dros ben. A oes neb o ddarHenwyr y GWLADCTARWK a wna ein anrhegu a braslun o'i hanes Ystalyfera. J. DAVIES.
--...-.-------HELYNTION GFHOEDDUS…
HELYNTION GFHOEDDUS MOUNT- AIN ASH. MR. GOL.,—Y mae cynawnder yn galw arnom i wneyd ychydig sylwadau ar helynt- ion cyhoeddus y lie uchod. Nid yw pawb o'r trethdalwyr yn gwybod fawr pa fodd y mae pethau yn myned,.yn mlaen yma; ond gallem feddwl yn ol yr hyn y mae Mr. John Griffiths yn siarad yn y Bwrdd Iechyd, fod ei galon fawr dyner yn fwy felly na'r eiddo y diweddar Mr. Peabody-yn llifo dros yr ymylon o dosturi dros ei drethdalwyr anwyl a mynwesol, ond nis gwyddom pa fodd y mae felly. Yr ydym wedi gwylied ei symudiadau er's blynyddau bellach, ac y mae wedi bod bob amser fel y dynion hyny gynt am ddangos i bawb beth nad ydynt mewn gwirionedd; sef eu bod yn well a doethach na neb arall ac yn wir, y mae yn hynod ofalus am olchi ei gawg tuallan, ond ychydig neu ddim o'i amser sydd yn myned i lanhau ei gawg tu- fewn. Mae yn hynod am enill ceiniog, ond ni wna sylw o golii swllt. Nid yw y dynion sydd yn cario llyfrau y gyfraith o fan i fan dan eu ceseiliau yn gosod dim mwy yn eu penau o na, yn y llyfr y ma e y cyfan, ac nid yn y pen. Efallai, hefyd, ei fod yn credu fod trigolion Mountain Ash dan yr argy- hoeddiad a'r grediniaeth mai eu gofal hwy sydd ganddo mewn golwg pan y sonia am wneyd y ddwy swydd yn un, a hyny am lai I o bris. Na, yn wir, Mr. Griffiths, onid yw yr etholiad yn ystod y mis hwn, a chwithau yn casglu nerth yn llechwraidd. Nid ydym yn credu fod nemawr un o drethdalwyr Mountain Ash yn gwybod beth sydd yn cael ei wneyd o'r arian, a pha huriau y mae y swyddogion yn ei dderbyn, ac er mantais iddynt gael gwybod rhoddwn y symiau yma Clerc, lOOp. y flwyddyn; Surveyor, lOOp. Casglwr Trethi, 22p. 10s. Arolygwr budr- eddi, 20p. Doctor, 20p.; Arolygwr llety-dai, 5p. Y swm a gasglwyd genyf yn yr wyth mlynedd diweddaf oedd 14,630p. 6s. lc. a gefais am eu casglu, 167p. 13s., sef lp. 2s. lie. y cant, neu2ftc. y bunt. Wel, ddarllenydd, ti weli pa faint y mae y boneddwr yn deimlo drosto ti a finau, fel trethdalwyr. Y mae gan Mr. Griffiths uwch peth ar ei feddwl na hynyna, sef meddwl am enw mawr iddo ei hun, a dweyd pethau er mwyn dallu ereill, pe byddai yn galla. Pe buasai yn meddwl cymaint am ereill ag am dano ei hun paham na fuasai am ostwng huriau y swyddogion ereill ? Diameu fod ganddo ddigon o resymau am hyn fel ag sydd ganddo bob amser, sef nad oes ganddo un cynffonwr arall wrth law i wneyd y swyddi hyn fel casglwr trethi am y dyfodol. Pe buasai Mr. John Griffiths mor garedig a dweyd gair pa swm oedd y casglwr trethi yn gael ni fuaswn yn gwneyd sylw o hynyma. Diameu fod y cyhoedd yn credu, erbyn hyn, fod y casglwr yn cael 2,556p. 3s. Oîc. Paham yr oedd yn baldorddi fel dyn ar wallgofi yn y brain fever, oblegyd mai yn ei ben yr oedd y dolur. Nid ydwyf yn meddwl y bydd trethdalwyr Mountain Ash yn wylo mwy ar ol y 167p. 13s. a dalwyd i'r casglwr am gasglu y 14,630p. 6s. lc. am yr wyth mlynedd oedd yn diweddu Chwef. 28ain, 1878, nag am yr arian trymion a dalwyd i'r swyddogion ereill yn yr un amser. Pe buasai Mr. J. Griffiths wedi edrych cymaint ar ol y 14,630p. 6s. lc. a gasglwyd ag ydyw ar ol y swm a delir i'r casglwr trethi, sicr ydyw y buasai llai wedi eu gwario a mwy nalOp. 15s. 4c. yn llaw y trysorydd yn bresenol. Yn Llun- dain, ychydig amser yn ol, aeth ystordy mawr ar dan, a llu mawr o ddynion a phlant yn gweithio yno, a phob gobaith am eu cadwed- igaeth wedi darfod ond yn y cyfwng hwn, dyma ddyn gwrol yr olwg arno yn rhuthro i mewn a gwaeddi "Where are you, my dear, I will do anything to save you." Dyna wr- oldeb, ond nis gwyddai y dyn ei fod yn gosod ei draed ar rai mor anwyl a'r hon yr oedd ef yn gwaeddi arni. Chwi welwch fod cariad tuag at y naill yn gwneyd dirmyg ac annghof- rwydd mawr o'r Hall; gwelwch hefyd fel y mae Mr. John Griffiths wedi ac yn parhau ysgyrnygu a dangos ei ddanedd ar yr hen ysgerbwd gwerth 22p. 10s., pan y mae o'i flaen, o fewn llathen iddo, ysglyfaeth gwerth lOOp. yn wir, bydd hwn yn werth iddo lyfu ,ei weflau arno. Beth, wys, y mae yn ei wneyd ? 0 cynffonloni, fel arfer, a llechu yn ei gysgod, gan feddwl fod amser ystormus ger- llaw, a bydd hyny yn dda iddo i gael Iloches, er mwyn cario yn y dyfodol rai o'i great Esquimaux performances. Mr. Gol., goddef- wch i mi, eto, ar ddiwedd y llythyr hwn, roddi i'r cyhoedd gopi o'r testimonial k gefais gan aelodau Bwrdd Iechyd Mountain Ash am yr amser y bum yn swyddog oddi- tanynt.—Yr eiddoch, fel arfer, Primrose Hill. DAVID THOMAS. Aberdare. South Wales. March 4th, 1878. DEAR Sm,- Your resignation was laid before the Board, which, upon accepting the same, desired me to express to you the perfect satisfac- tion which the Board felt at the way in which you have performed your duties to the Board for the past 8 years, and they regret exceedingly that you should have resigned your appointment. -Yours faithfully, H. P. LINTON, Clerk to the Board. Mr. David Thomas, Mountain Ash.
IANNEALLTWRIAETH YN NGLOFA…
I ANNEALLTWRIAETH YN NGLOFA FFOREST FACH. Mr. GOL.Blin genym orfod cofnodi fod camddealltwriaeth yn bodoli rhwng glowyr y lofa uchod a'r manager er's wyth diwrnod, a hyny am ei fod yn gorfodi arnynt i lanw y glo eu hunain, a hyny am ddim. Y dydd cyntaf o Chwefror diweddaf gosod- wyd rhybudd i fyny yn swyddfa y lofa uchod fod pawb yn rhydd ar ol iddynt gwblhau eu rhybudd, sef y mis diweddaf. Nid oedd neb yn deall na gwybod beth allasai fod eu ham- can wrth y rhybudd hwnw ond gweithiodd pawb eu hamser fel arferol. Dau ddiwrnod cyn diwedd y mis ymgomiodd y gorchwyliwr a rhai o'r glowyr mewn perthynas a'r cyf- newidiad. Dywedodd fod ei ddymuniad iddynt anfon dau neu dri o ddirprwywyr i dd'od i siarad ag ef a'r meistr y prydnawn hyny. Dewisiodd y glowyr dri o gynrychiolwyr fel y dymunai; ond wedi dechreu ymddyddan a hwynt, nid oedd yno ond cwpanaid mwyaf chwerw i'w yfed, sef fod yn rhaid iddynt newid y gyfundrefn o weithio os oeddynt yn meddwl gweithio o gwbl. Dywedodd y gweithwyr nad oeddynt wedi gweled y system o lanw glo eu hunain yn y gwythienau hyn, sef y South Crop (pitch veins), ac nad oedd- ynt yn meddwl y buasai neb yn gwneyd hyny ar un telerau, weithach ei lanw am ddim. Nid peth bychan yw cyfnewid y system o weithio yn y cymydogaethau hyny, a'r cyfryw wedi cael eu sefydlu gan ein hen deidiau e'ra mwy na chanrif o flynyddau. Wedi ymgynghori a'r gilydd yn fanol, penderfynodd pawb dd'od allan â'u hofleryn- au yn rheolaidd. Felly, mae y gwaith ar sefyll er's wyth diwrnod, heb un arwydd am derfyniad heddyw (dydd Sadwrn). Clywais fod amryw o'r gweithwyr wedi cael gwaith- yn y glofeydd cylchynol; ond bu y meistr a'r goruchwyliwr mor anngharedig a danfon llythyrau i'w hatal yn mhob man lie yr oedd eu dylanwad yn effeithio. Gweithredoedd destlus ydyw danfon llythyrau ar hyd y lie i atal dynion i gael gwaith, a hwythau wedi I gweithio eu rhybudd yn rheolaidd cyn ym- adael. Credwyf y dylai cyfraith Prydain J roi mwy o chwareuteg i'r gweithiwr nag ydyw yn gael yn y dyddiau presenol, onide mae yn hen bryd iddo ymysgwyd o'r llwch ac ymladd dros iawnderau a rhyddid ei wlad. Cynaliwyd amryw gyfarfodydd oddiar ydym ar y strike, ac nid oes neb wedi gweled gwell cynllun nag i bawb ymneillduo o'r lie i edrych am waith, oblegyd pe byddai glowyr Fforest Fach yn cymeryd y cyfryw, derbyniai pawb drwy y gymydogaethau yr un gyfun- drefn. Mewn cyfarfod a gynaliwyd genym yn y Marquis' Arms, Raven Hill, nos Lun, y 4ydd cyfisol, penderfynwyd fod cyfarfod i'w gynal dydd Sadwrn, Mawrth 23ain, am 11 o'r gloch yn y boreu, yn y Commercial Inn, Gower Road, er mwyn gwneyd penderfyniad i ail gymodi 4 Mabon i fod yn oruchwyliwr yn Nosbarth Llwchwr. Dymunir ar i bob gwaith anfon cynrychiolydd yno, fel byddom yn deall faint ellir danysgrifio yn fisol gogyfer a'i wasanaeth. Diau bydd o les nid bychan i'r glowyr yn mhob ystyr, gan ei fod yn ddyn cymhwys i'w swydd, ac hefyd allan o ad- noddau meistri trahaus a gormesol. Derbyn- ied glowyr Llanelli, Llwynhendy, Llangen- nech, Casllwchwr, Gwauncaegurwen, Waun- arlwydd, a Phenclawdd yr awgrym ar un- waith, a hyderwn y penodwch ddyn o bob lodge a phob gwaith i'r cyfarfod uchod. MELYNOG.
EISTEDDFOD CAERFFILI.—HANES…
EISTEDDFOD CAERFFILI.—HANES GWRTHDDRYCH Y BEDDARGRAFF. MR. GOL.Yn gymaint ag fod y beirdd yn ymholi am hanes y brawd William Llew- elyn, Caerffili, chwi ganiatewch i mi roddi ei hanes yn y GWLADGARWR, er mantais cyffredinol iddynt. Ganwyd y gwr uchod yn Mhenyderi, rhwng Bargoed a Dowlais. Symudodd ei rieni i fyw i Fed was, ger Caer- ffili, pan oedd William yn hogyn bychan. Cafodd ef addysg dda, a gwnaeth y goreu o'r manteision hyny, a daeth yn ysgolor gwych. Yr oedd iddo amryw o frodyr a chwiorydd, y rhai oeddent yn barchus yn ngolwg pawb a'u hadwaenent. Bu William yn amaethwr cyfrifol am flynyddau lawer yn Medwas. Yr oedd yn briod, ond ni chafodd blant. Yr oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr hyd ei fedd. Bedyddiwyd ef yn amser Christmas Evans, pan oedd ef yma yn weinidog. Yr oedd ei gartref, bob amser pan oedd yn amaethwr, yn agored i letya pregethwyr, a'i hoff berthynasau yr un modd. Bu yn gyf- arwyddwr doeth yn ystod ei oes i blwyfolion Bedwas. Yr oedd yn gofalu fod pethau yn cael eu cario yn mlaen yn drefnus yn nghyrdd- au y plwyfolion. Yr oedd fel pen-cynghorwr iddynt, yn fasnachol, cyfreithiol, a theuluol. Hefyd, yr oedd yn ysgrifenwr a chasglwr i'r plwyf am amser iriaith. Peth hynod ynddo oedd y gallu i gyfyngu rhwng perchenogion tiroedd a thai a'u deiliaid. Medrai brisio y tir yn fanwl, a gosod gwerth rhesymol ar bob peth perthynol i arglwyddi, a rhoddi iawn i'r deiliaid yn ogystal. Cyfiawnder oedd ei arwyddair bob amser. Profodd hyn lawer o droion pan yn cyfryngu rhwng y pleidiau uchod. Yr oedd yn ddyn o wybod- aeth gyffredinol eang, a synwyr cyffredin yn rheoli y cyfan er daioni i bawb a ddeuai i ymofyn cynghor ato. Symudodd i Gaerffili i fyw yn annibynol, amryw flynyddoedd yn ol, a bu farw ei anwyl wraig cyn pen hir amser ar ol dyfod yma. Yr oedd yn Gymro cenedlgarol, fel ei holl berthynasau, ac y mae un brawd iddo yn fyw yn awr yn Nghaer- ffili, sef ein meddyg parchus Dr. Llewelyn. Yr oedd ganddo 1yfrgell hardd, a hono yn frith o lyfrau Cymreig o nodweddion clasurol. Darllenwr mawr, dyn pwyllog, beirniad craff- us, cynghorwr pwrpasol oedd y gwr uchod. Bu farw fel Cristion, yn gweled gogoniant iachawdwriaeth ei Dduw, yn 78 mlwydd oed. Gwnaed pob bardd sydd yn meddwl cystadlu r Hir a Thoddaid wyth lline.ll, oblegyd dyna y mae Mr. Thomas, Boar's Head, yn geisio, ef nad yw'r programme yn dweyd hyny. Gofaled y beirdd am hyn.—Yr eiddoch, yn farddol, R. LLOYD (Cenydd).
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. Yr oedd yn dda genym weled hanes fod rhyw lygeidyn bach o wawr fasnachol yn tori ar ARDAL TREFORIS trwy fod gwaith alcan fu yn sefyll er's blyn- yddau i gael ei ail gychwyn. Y mae hon yrv seren bwysig yn y ffurfafen fasnachol, a byddai yn iechyd i galonau gweithwyr Cymra i weled ritagor ohonynt yn ymgodi uwchlaw y gorwel. Er hyny, barn y beirniaid goren yn y byd masnachol yw na cheir adfywiad gwirioneddol nes cael terfyn ar ryfel y Dwyrain. Gyda llaw, y mae gwyr Pontypridd yn ddiweddar wedi bod yn delio yn o law-drwm ar yr hen bererinfardd MABONWYSON. Fechgyn, gadewch lonydd i'r brawd fwynhau ei fyfyrdodau yn y Poet's Cottage, a bras- gamu dros feusydd uchelion y gan. Nid yw yr esgeirfardd hwn yn auicanu drwg i neb, ac ni ryfeddem ddeall eifodyn ddiniweidiach na llawer o'i ymosodwyr. Synasom ddarllen yn y GWLADGARWR yr wythnos o'r blaen ddyfyniad o bapyr Ameri- canaidd yn mynegu mai ffug-deitl gafodd MYFYR MORGANWG. Ar ol yr holl ysgrifenu wnaeth Morien am ogoniant teitl ei athraw Derwyddol, ai tybed fod hwnw wedi'r cyfan yn dybenu mewn mwg a lludw. Yr ydym wedi clywed o'r blaen fod teitlau gwellt a brwyn yn dod o'r America, a pliwy a wyr nad un o'r cyfryw ddanfoll wyd i lVIyfyr o Philadelphia l Y mae yn ddigon eglur i bob sylwedydd ystyriol fod YSBRYD RHYFELGAR ar gynydd yn y wlad hon. Y mae ysfa am ryfel yn ddiau yn meddianu mwyafrif mawr o drigolion Prydain, ac y mae Gladstone a'r blaid Ryddfrydol ar hyn o bryd yn dra an- mhoblogaidd. Y mae ceisiadau am swyddau yn y fyddin a'r llynges yn dylifo i mewn i'r Llywodraeth, a llu yn ymrestru fel milwyr cyffredin yn y fyddin. 0 bosibl fe ddaw rhyw- ben ar y fusnes tua diwedd yr wythnos hon, a mwy na thebyg y cawn ryw wybodaeth fuan pa fodd y try pethau allan, ac a oes rhyfel i fod neu beidio. Os rhyfel gymer le fe neidia y trethoedd i fyny. Yr oedd yr Income Tax yn amser rhyfel y Crimea yn Is. 4c. y bunt, a'r bara yn uchel iawn, a gellir dysgwyl codiadan cyffelyb eto os tyr y rhyfel allan.
Barn Americanwr am y Caledi…
Barn Americanwr am y Caledi yn y Deheudir. Yn y Cincinnati Commercial am yr 28ain o, fis Ionawr, ymddangosodd gohebiaeth o Lundain gan Moncure D. Conway, gweinidog South Place Chapel, Llundain, ar y caledi mawr yn Neheudir Cymru, yn nhyd a'r achos (meddai ef) o'r tlodi yn yr Hen Wlad. Yr achos o fwy na haner y tlodi yw cydseiniaw y iaith, yr hon sydd fel mur China, yn cau y bobl allan o gyrhaedd y byd gwareiddiedig, a bod y Cymry heddyw yn addoli yr haul fel yn y dyddiau a fu (!), felly yn ddarostyngedig i ofergoeledd dybryd, a'u bod yn myned un- waith yn y "pedwar aluser" i ben y mynydd- oedd yn ymyl Pontypridd, i dalu gwarogaeth i'r haul. Tynodd yr ymosodiad sarhaus sylw y Parch. G. Griffiths, ae ysgrifenodd lythyr amddiffynol, yr hwn a welir yn y Cincinnati Commercial, Chwefror lofed. Y mae y llythyr yn un o'r rhai galluocaf a allai un dyn ei ys- grifenu—yn profi fod ei awdwr yn wr cadarn —yn werth ei ddarllen pe bae dim ond coeth- der yr iaith a grym rhesymeg, heb son am yr amcan, sef gwrthwynebu haner (os nadllawn) anffyddwyr yn chwythu anwiredd yn ngwyneb cenedl a ddeil gydmariaeth ar gyfartaledd ag un genedl dan haul.
.Y Fasged Wiail
Y Fasged Wiail Ddarllenydd hynaws, yn ol fy addewid yr wyf yn gwneyd fy ymddangosiad y waitfc hon eto ar dudalenau y GWLADGARWR. A rhag ofn i'r lluaws feddwl mai malais a chenfigen a'm achosodd i allan a'r Fasged, er gwenwyno hwn a'r Ilall trwy dwyll a chel- wydd, yr wyf yn cario astell dan fy ngwddf, ac yn ysgrifenedig arni-" Ni ddygwyf gam- dystiolaeth yn erbyn fy nghymydog," "y gwir a dim ond y gwir." Felly, gallwn godi clawr y Fasged yn -eofn, heb ofni cymaint a- chysgod neb, a'r gwrthddrych sydd yn teil- yngu fwyaf o sylw yw y Billy-Box. Rhag i chwi feddwl mai diffyg deall, neu yn hytrach diffyg ar gyfiawnder eich Ewythr Joseph yw ei fod yn gwneyd golwg mor chwerw ar Billy, yr wyf, heb wyro barn, yn credn mai dyfais hollol gyfiawn yw rhwng meistr a gweithiwr, a phe na fyddai Billy mewn bodolaeth, byddai llawer un mor ddiegwyddor a llanw cynwys- iad ei dalcen allan yn ei ddram lo, fel y byddai palmant Ilyfn ei dalcen ddigon glån i daenu sidan arno am amryw latheni yn ol a blaen. Ond os Billy, Billy cyfiawnder ond nid felly mae gyda lluaws ohonynt. Fel yr oeddwn yn sefyll un diwrnod ar ben y lofa. hono lie bu Llwynog y Darian bron gorphen ei daith yn y byd hwn trwy agos a s'ipio rhwng y bariau a'i ddal yn y Billy-Box (ond pe dygwyddasai hyny iddo, gallesid ysgrifenu ar gareg ei fedd-" Efe a bwyswyd yn y clorianau, ac a gafwyd yn haner can' pwys trymach na gofynion cyfiawnder."), bum bron a thori allan i wylo wrth ganfod gweith- wyr tlodion yn cael eu treisio. Tram ar ot tram yn cael ei dadlwytho iddynt. Ac wrth weled haner can' pwys rhwng nodwydd y Billy a myned yn ol i'r meridian mark, troais yn syn, a'r dagrau gloywon yn dilyn eit •