Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

gjlydd dros fy n«wyneb. Gofynais i'r banks- man a oedd cytundeb rhwng y meistr a'r gweithwyr o barthed i'r ymddygiad gwrthun > Atebodd, gyda ysgydwad pen, nad oedd." Pan sefydlwyd y Billy," meddai, darfu i'r meistr a'r gweithwyr foddloni i'r telerau a ganlyn :—' Os dygwyddasai i ddram fod yn gant a chwarter, am ei chyfrif yn gant a haner (cofiwch mai glo man, sef croppings a feddyliwyf) neu os yn brin o gjvarter, mai cant oedd i gyfrif,' &c. Ond darfu i'r rheol- au yna anadlu gyda'r flwyddyn bythgofiadwy 72, a phob tram fyddo 4 chwe' pwys yn brin o gwarter cant a gyfrifir yn haner cant. Nid oes ond un neu ddwy ohonynt yn pwyso, dros saith cant yr un, a lluaws ohonynt yn chwe' cant a haner, ac yn cael eu cyfrif i'r gweith- wyr yn wyth cant y tram." Braidd na roddaf flas y fflaaeell i'r gweithwyr yn y bwlch hwn hefyd, am eu bod yn dyoddef eu cribddeilio i'r fath raddau. Ond trueni lladd ar Ilawr, pan fyddo tlodi wedi dwyn eu harfau a'u cymeryd yn gaeth. Tosturiwyf wrthynt pe na fyddai mwy na'r olwg druenus arnynt yn esgyn o'r dyfnderoedd fel llong ryfel yn dychwelyd o frwydr, yn frith gan glwyfau, ac yn anweddu megys dwfr berw- edig, a'r chwys yn cymeryd eu ffyrdd i wahanol gyfeiriadau drostynt; ac yn dych- welyd i'w bythynod yn y cyflwr hyny, heb ddigon o angenrheidiau ar eu cyfer. 0! byramid urddasol yn gorfod dyoddef eisieu Mynydd, o ba nn y tardda afonydd cysur y dynoliaeth Craig, lie y mae trysorau y cyfoethogion ynddi Gwenynen yn casglu, ac ereill yn dy ysbeilio o'th fel! Y ti yn gorfod dyoddef eisieu? Pe gorfyddai i bendefigion, breninoedd, llywiawdwyr, a emprwrod y byd i farw o newyn, dylech chwi gael digonedd Pe dygwyddai i'r ddaear baliu cyflawnder ei bendithion, ac i'r Holl- alluog Dduw hulio bwrdd mewn man neill- duol, credwyf mai ti fyddai yn cael dy wahodd gyntaf at y bwrdd Ond nid felly maey dyddiau presenol. Gweithwyr caled yn newynu yn ngharcharau gormes, a segurwyr yn gloddesta yn nhemlau rhyddid. 0 na chlywem ni ddwrn rhyddid yn cnocio yn awdurdodol wrth ddorau ein carcharau, nes byddai ei furiau yn diaspedain, a'n cadwynau yn ayrthio i'r llawr gan gywilydd, fel y gallem ddyfod allan i fwynhau ein rhyddid fel cynt. Y TRAMPWK.

Mr. Gladstone yn rhoddi fyny…

tjynadledd y Glowyr yn Birmingham.

Yr " Elijah " yn Aftertaws.

ORIOEL, Y BEIRDD

LLYTHYR LLUNDAIN.

[No title]

Advertising