Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD DDY.…
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD DDY- FODOL FERNDALE. yoNEDDMMN.—Fel un sydd yn teimlo yn llwyddiant eich heisteddfod, carwn draethu rgair o'm meddwl. Meddyliwyf eich bod yn hynod anffodus yn newisiad yr adeg i'w -chynal, yn gymaint a bod eisteddfodau o nod o gylch yr un adeg. Eisteddfod fawr- .eddog yn Nghaerdydd y Groglitb, pa un sydd yn teilyngu sylw corau y cymydogaeth- au, ac eisteddfodau blynyddol y Gyfeillon a'r Pentre yr un amser a gresyn o beth fod cynifer o eisteddfodau yn dyfod i wrthdaraw- iad. I gynorthwyo eu nifer, dyma chwitha.u etc yn anturio i'r maes. Credwyf fod doeth- ineb yn galw arnoch i ohirio eich eistedd- fod am fis yn mhellach. Mae tlodi yr amser- oedd yn sicr o efteithio ar y naill a'r llall o'r eisteddfodau. Mae y Gyfeillon a'r Pentre yn eisteddfodau blynyddol, ac ystyriwyf fod unrhyw bwyllgor a ddaw i wrthdarawiad a hwy yn gyfeiliornus o'r llwybr i gael eistedd- fodau llwyddianus. Gwn am gorau sydd wedi dysgu Requiem Parry, ac yn parotoi ar gyfer yr eisteddfodau a nodwyd; ac yr wyf yn dra hyderus y caffech eu cefnogaeth pe yr ail ystyrid eich sefyllfa, a cliyfnewid adeg ei chynaliad. Gair oddiwrthych a fyddai yn dderbyniol iawn gan lawer heblaw DEWI DYFODWG.
AT MR. J. DAVIES, YSTALYFERA.
AT MR. J. DAVIES, YSTALYFERA. Mr. GOL.Hyderaf y caniatewch i mi ofod fechan i roddi gair o eglurhad i Mr. Davies ar yr hyn a grybwyllir ganddo yn y GWLADGARWR diweddaf. Gwir mai Morgan Evans oedd fab ieuengaf yr hen delynwr, Thomas Evans, Drefnewydd, Morganwg. Ond nid cywir mai efe oedd yr olaf yn fyw o blant yr hen delynwr, oblegyd mae fy anwyl dad yn fyw yn bresenol, ac yn byw yn Troedyrhiw, Cwm Ijthondda, • a'i enw ydyw .James Evans, sef y mab nesaf i'r ieuengaf ac yr wyf finau yn wyr i'r hen delynwr, gan fy mod yn fab i'r James Evans uchod. Os oes rhywun o ddarllenwyr y GWLADGARWR yn alluog i roddi ychydig o hanes ups-and- doums teulu fy nhadcu, teimlaf yn wir ddiolchgar, oblegyd y mae iddynt eu hynod- ion fel pob teulu arall. Bydd genyf air eto i'w ddweyd gan bwy mae hawl i'r hen gan fyd-enwog, Y Ferch o'r Seer," a hyny heb fod yn hir, oblegyd eiddo Ceesar i Csesar sydd gyfiawn, onide ?— Ydwyf, syr, yr eiddoch, Dinas. DAVID EvANS^Persis).
.-,..---QANTORION Y DEHEU…
QANTORION Y DEHEU AC EISTEDD- FOD BIRKENHEAD. MR. GOL. ,-Fel un ag sydd yn teimlo gryn dipyn o ddyddordeb yn urddas cerddorol bobl y Deheudir—a Morganwg yn neillduol- -caniatewch i mi wneyd sylw ar gynwysiad y penawd uchod. Yr oeddym wedi clywed fod yn mwriad Mr. Rees Evans i gymeryd cor i gystadlu yn Eisteddfod Birkenhead a chan ein bod ni yn y Cwm yma yn teimlo mai cynrychioli ,canu y South fuasai cor felly, ni ddywedasom air am gychwyn cor arall i fyned "i'r un lie, er ein bod ni yma a digon o hyder yn ein dyn ein hunain, Eos Cynlais, i sefyll brwydr a gwyr Aberdar ond teimlem y buasai myned i Birkenhead, fel y dywedais, i frwydro yn erbyn cymydogion yn beth annoeth. A chredwn mai dyna yr olwg gymerai ein harweinydd, Cynlais, ar y pwnc hefyd. Ond tra yr oeddym ni yma yn parchu ac edmygu ymddygiad Mr. Rees Evans a'i gor, wele hysbysiad yn y GWLADGARWR fod Gwilym Cynon yn myned i sefydlu cor i fyned i'r Eisteddfod Genedlaethol. Yn awr os gellir -ac os yw ynobriodol-codi dau gor yn Aber- dar, y mae yn deg i ninau gael un o Gwm Rhondda ac yn wir, y mae yr hanes am Gwilym wedi enyn teimlad yma nes y mae yn rhwydd cael cor o unrhyw nifer i fyned i Birkenhead. Ein anhawsder penaf fydd dethol, am fod y nifer mor gyfyngedig. Ystyriwyf y gall Eos Cynlais yn awr, heb droseddu dim ar unrhyw delicacy ymgymeryd ag arweinyddiaeth cor oddiyma. Byddai yn deg dethol y goreu o Bontypridd i FIaen- ycwm a chan mai y GWLADGARWR yw papyr eisteddfodwyr y Deheu, yr wyf yn crefu am le i hyn o linellau yn ei golofnau. Feallai y cawn farn Mri. M. 0. Jones, Felix, David Thomas (Ystrad), Eos Hafod, a'r frawdoliaeth gerddorol, ar y mudiad yn y GWLADGARWR nesaf. Mae ilythyr Ystrad- wyson i'r cyfeiriad iawn. Diolch, frawd.—Yr eiddoch, SCHUBERT. Treorci. SYR,—Bydded hysbys i Ystrad wyson, a phawb ereill drwy Gwm Rhondda, ein bod ni fer pwyllgor wedi penderfynu yn ddi-droi yn ol i fyned i Eisteddfod Birkenhead, a chofied Ystradwyson, a phawb cerddorion o Flaen Rhondda i Bontypridd i fod yn barod pan ddaw yr alwad am danynt. Cofiwch -chwithau, wyr Blaenllechau, ein bod am i ohwi ymuno &'r gad un ac oil. Yn awr ynte, fechgyn y Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr, ati o ddifrif, fel y bydd i ni ddychwelyd a'r pres gyda ni.—Yr eiddoch, Treorci. J. T.
Advertising
PELENI -HOLLOWAY a ddyogelant iechyd i bob cenedl, yn mha hinsawdd bynag. Rhoddasant .obaith, ymwared a chysur i filiynau. Mewn cy- nhyifiad a gwendid a ddygir yn mlaen gan eithafon o unrhyw fath, neu wendid cyffredinol y corff, y mae eu heifaith yn gyflym lhiiarol, adfywiol ac adferol Gyrant o'r cyfansoddiad achos y drwg, ac adnewyddant yn y corff ei fywiogrwydd, ei yni, a'i iechyd cynhenid. Cynyddant yr ystumog yn ddirfawr, a rhoddant don newydd lr cylta, cy- northwyant dreuliad, a chyfranant hydwythedd i'r ysbrydoedd gweithia eu hanfod 1 r cylphdreul iad ac wedi eu cario trwy eu cwrs effeithia eu galiu glanhaol ar bob rhan o r cortt. Yn yr vsgryfaint gwnant gyfnewidiadau rhyfeddol, gan lwyr buro y gwaed, nes y mae yr holl gyfansodd- iad yn cael ei gryfhau.
'GAIR 0 AMDDIFFYNI4-D.
'GAIR 0 AMDDIFFYNI4-D. Mr. GOL.Yr wyf wedi bod yn ddystaw trwy yr holl ymdrafodaeth sydd wedi bod rhwng Ap Lien, Parvo, ac Afonydd, o'r dechreu hyd yn awr, er fod cyfeiriadau cas ac anwireddus wedi eu wneyd tuag ataf gan Afonydd—un ohonynt yw i mi gael fy ngwrthod gan yr Eglwys Seisnig.' Yr wyf yn galw arno, fel dyn gonest a chydwybodol, i dynu yr haeriad ymayn ol, neu brofi ei wir- ionedd ? Pe y. tynasem yr anwireddau i gyd ó lithiau Afonydd buasent yn eiddilaidd o fach ac insignificant. B'le mae eu testynau yn yr un ohonynt ? Am beth y maent yn ysgrifenu, heblaw trin personau, trin eglwysi, a thrin eu gilydd? Yn awr gofynwn yn ddifrifol pa les sydd mewn cyhoeddi rhes o ffaeleddau y naill a'r Hall ? A golygu fod Afonydd yn dweyd y gwir, pa amcan y mae yn ei gyrhaedd. Yn awr, Mr. Gol., gan fod y person hwn wedi ceisio pardduo tipyn ar fy nghymeriad i, yr wyf yn teimlo rhwymau arnaf i roddi tipyn o fy hanes yn y ffrwgwd bresenol, gan mai fi sydd wrth wraidd y drwg i gyd. Pan y cefais fy ngosod yn ar- weinydd canu gan yr eglwys y perthynwn iddi, a hyny gyda llais unfrydol yr eglwys, ni feddyliais y prydhwnw fod gan arweinydd gynifer o rwystrau o'i flaen, heblaw yr un adnabyddus hwnw, sef Cythraul y canu ond y mae yno lu ereill gwaeth nag ef ei hun i'w cyfarfod a'u hymladd. Tua thair blynedd yn ol, cododd un o'r llu uchod ei saeth wen- wynig yn erbyn yr hen flaenor canu, yr hwn fu yn gweini yn y swydd am 14 mlynedd, ac wedi llanw ei le yn anrhydeddus yr oedd yn fedrus iawn fel cerddor, fel o'r braidd y ca,wsech debyg iddo yn y cylch hwn i lanw ei le cystal. Y canlyniad fu, yn hytrach na gwneyd terfysg, cododd ei bac ac aeth i edrych am gorlan heb flaidd i'w flino mewn eglwys arall o'r un enwad, pa eglwys sydd mewn perffaith gydgordiad a'i mam eglwys, notwith- standing Afonydd's assertions to the contrary! Llwyddiant iddynt i fyned yn eu bladn, ac i estyn eu preswylfeydd. I lanw y bwlch hwn goreu y gallasid, daeth aelod arall yn mlaen, ar gais un neu ddau o'r diaconiaid parodd yn ffyddlawn -am ychydig, nes iddo fyned yn anifeilaidd ei ymddygiad, a chafodd y drws. Yn y cyfwng yma dyma arwr y drama rhyfedd hon yn cael ei alw i fodolaeth, i chwareu ei ran yn y scenery cyfnewidiol hwn. Daeth y gweinidog, y diaconiaid, ac amryw frodyr ereill ataf i daer geisio arnaf gymeryd at arweiniaeth y canu a gosodasant y peth i lais yr eglwys, yr hon fu yn unfrydol ar y pwnc. Wedi Ilawer iawn o bryderu ac ofni, a'u taerineb gymaint, a'u haddewidion mor deg i ddal fy mreichiau fyny dan bob ystorm, cydsyniais i wneyd fy ngoreu (bydd y cyd- syniad yna yn ofid i mi tra byddwyf byw). Cymerais at y canu, gweithiais yn galed, ac ymdrechais hyd eithaf fy ngallu. Codais Tonic Sol-fa Class, yr hwn ddaeth yn y blaen yn dda iawn am dymor, nes i un o'r diacon- iaid ddyfod i'n gwrandaw. Barnodd hwnw fod yno un nodyn nad oedd yn hollol yn ei Ie, a taenodd y si ar led fod yr arweinydd ieuanc un nodyn allan o le (er nad oedd hwnw yn gwybod mwy am gerddoriaeth na thwrch daear am yr haul). Da iawn, medd- wn inau, fy mod yn iawn hyd at un nodyn ar faes mor eang a'r maes cerddorol. Er hyny aeth pobpeth yn mlaen yn llwyddianus iawn; canu da, cor lluosog, a heddwch yn teyrnasu yn yr eglwys. Ond nid yw'r gelyn yn caru peth felly anesmwythodd wrth hyn, ac aeth ati drachefn. Cododd barti y tro hwn o'r cor, a chafodd afael ar glamp mawr o gerddor yn arweinydd, ac yr oedd y newydd-ddyfod- iad hwn, fel pobpeth newydd arall, yn myn'd yn iawn am dro. Mae hwn eto, yn ol ei arfer ef, wedi cefnu arnynt, ac wedi ffoi o'r lie. Adnabyddid eu harweinydd newydd wrth yr enw Eos Ddu, ac mae cyd darawiad da iawn rhwng ran olaf ei enw a'i ymddyg- iadau yn y lie. Ystyrid hwn yn frenin ar y man gerddorion, a dychryn oedd bodoli yn agos iddo. Wel, cafwyd parti i gychwyn y split, a fuont ar hyd anedd-dai nos ar ol nos yn cael practice ac yn casglu nerth. O'r diwedd daethant yn ddigon gwrol i ddyfod i'r capel, ac yno buom fel dwy fyddin yn anelu at ein gilydd, ac yn peri gofid i'r arweinydd ieuanc oedd wedi ei osod yn y swydd wrth lais yr eglwys, ac yn llawn gobeithion am ddyfodol llwyddianus, yn gorfod edrych ar y foreigner hwn yn cael ei ddal i fyny gan haid o rwygwyr crefyddol, a'r rhai oedd wedi addaw mor deg i'r arwein- ydd ieuanc, yn awr yn troi eu cefnau. Dyma'r ffrwgwd, Mr. Gol., sydd wedi ym- ddangos o wythnos i wythnos ar faes eich newyddiadur, y ddau barti yn representio y ddwy blaid yna. Yn y rhialtwch yna darfu i mi gymeryd cwrs nad wyf yn ei gyfiawnhau yn y mesur lleiaf, er fy mod yn y dyryswch beth a wnai y tri, gan fod rheswm wedi methu. Dyna'r pleser gefais i wrth arwain caniadaeth y cysegr oedd dwy flynedd mwyaf digysur yn fy mywyd. Terfynaf y tro hwn hyd nes clywaf oddi- wrth Afonydd. DAVID GRIFFITHS.
[No title]
PRYNU LLYFRAU WRTH Y LLATH.-Dywedir fod un o ddynion cyfoethog Liverpool yn ddiweddar yn gosod ty newydd i fyny iddo ei hun, ac anfon at y llyfrwerthwr i erchi hyn a hyn o latheni o lyfrau. Dyma yr unig dro y clywsom am brynu llyfrau wrth y llath.
JOHN HEATH'S EXTRA STRONG…
JOHN HEATH'S EXTRA STRONG STEEL PENS, with oblique, turned ttp, and rounded points, Golden Coated, bronzed and carbonized. Suit all hands, all styles, all ages, and all kinds of work. Over 200 patterns. Sold by Stationers everywhere, in 6d., Is., and gross boxes. The public aie respectfully requested to BEWARE oF WORTHLESS IMITATIONS, and to see that they really get John Heath's Pens. Should any difficulty arise, an assorted sample box will be sent per post on receipt of 7 or 13 stamps. Address: John Heath, 70, George Street, Birmingham. 1775..
HELYNTION (JYBOEDDUS MOUNT.…
HELYNTION (JYBOEDDUS MOUNT. AIN ASH. MR. GOL. ,-Os caniatewch, y mae genyf i sylwi y waith hon ar lythyr fy anffodus ac anwylaf frawd D. Thomas, Primrose Hill, yn y GWLADGARWR am Mawrth 15fed. Cred- wyf, syr, fod genyf gystal amcan a dyben wrth wneyd hyn ag oedd ganddo yntau k wneyd yr hyn a wnaeth, a'i bod yn llawn mor bwysig i drethdalwyr y lie hwn i ddarllen y GWLADGARWR am Mawrth 22ain ag oedd iddynt ei ddarllen am Mawrth 15fed. Mae yn wir ddrwg genym ni a'n teulu lluosog fod ein conceited little brother yn teimlo cymaint yn ei dywydd garw, ac yr ydym yn gobeithio y gwna ein sylw arno arafu ei gamrau trwsgl, a'i wneyd yn fwy meddylgar a chyson ei ym- ddygiad rhagllaw, oblegyd y perygl y w iddo golli ei synwyrau gyda cholli ei swydd. Ymyrgar frawd, gadewch i ni eich cysuro yn awr-nid y chwi yw yr unig un sydd wedi annghofio y graig y'ch naddwyd ohoni yn ystod y naw mlynedd diweddaf, ac nid y chwi yw yr olaf ychwaith i annghofio pob da y mae ereill wedi ei wneyd drosoch; felly, pa ddyben yw eich dwrdio yn awr ar ol i chwi roddi fyny eich swydd? Yn nghadw, y swydd yr oedd y mel, dyna lie yr oedd y gamp. A ellwch chwi fforddio, yr amser tlawd yma, fod wrth lai o gyfeillion ? Nid wyf yn tybied. 0 gamsyniol frawd, os gwnaethoch ar gam, eich dyledswydd oedd cymhwyso y cam hwnw fel dyn. Ai tybed eich bod heb adnabod Bwrdd Iechyd hyd yn ddiweddar ? Tebygol iawn, siomedig frawd, na feddyl. iasoch erioed y byddai y Bwrdd yn derbyn eich resignation mor ddiseremoni. Cafodd y Bwrdd fantais dda i gael gwared ohonoch, a gwnaethant hyny yn eu ffordd eu hunain, a chawsoch chwithau wers bwysig yn annys- gwyliadwy. Y brawd bach, "derbyniwch hi am yr hyn y mae o werth, fe wna les mawr i chwi, yr oedd ei hangen arnoch er's talm daeth yn ei phryd, a diau y teimlwch mai gwaith caled i hurtyn ddysgu, ac mai gwaith anhawdd yw plygu pren pwdwr. Er eich cysuro, ofidus frawd, meddyliwch, ystyriwch, a chymharwch eich hunan adfydus a'ch hen frawd Job gynt, am yr hwn y dywedir (yn ol correspondent yr Uz News), ei fod wedi byw gryn dymor mewn lie a elwir gan rai y Dunghill," heb fod yno na gwraig, na phlentyn, na gwas, na morwyn, nac un Sanitary Inspector yn gweini iddo yr un cysur. Mor wahanol y mae ar wr mawr y Primrose Hill, yr hwn sydd a'i wraig yn gweini arno bob amser er ei gysur a'i dded- wyddwch ei blant oil yn iach oddiamgylch iddo Sanitary Inspector wrth law, ac hefyd enw y mab hynaf wedi ei argraffu mewn llythyrenau breision, eglur, a digamsyniol ar receipts y Bwrdd Iechyd yn guarantee o'i fawredd digyffelyb, o'i ddoethineb mawr, ac o'i ymgais ryfeddol i outshino pawb mewn cleverness; hyd y nod y Bwrdd Iechyd, for- sooth. Nid yw yn rhyfeddod fod ystranciau o'r fath yn dyfod yn naturiol i fewn yn helyntion cyhoeddus Mountain Ash, a bod y pethau hyn yn destynau dyddorol a blasus iawn gan drethdalwyr Mountain Ash y dydd- iau hyn, ac nid heb ddigon o reswm hefyd y gwneir hyn, onide barned y cyhoedd hyn yn ngoleuni gweithredoedd cyhoeddus Zaccheus diweddar y Bwrdd Iechyd yn Mountain Ash. My dear and sensitive brother, a ydych chwi ddim yn meddwl mai spree ofnatsan yw hi gan laweroedd i gael y cyfle o weled corach r, yn dangos ei science; ond dichon eich bod wedi eich dallu neu eich mesmeriso, ac yna, eich bod allan o'ch synwyrau ar hyn o bryd, fel nas gellwch ddeall mai Y neb a gloddio bwll a syrth iddo; a'r neb a dreiglo gareg, ato y dychwel." Onid fel y gwnaethoch i ereill y gwneir i chwithau yn awr, a'r Bwrdd Iechyd yn dyst, tit for tat" esbonia yr oil; felly, paham yr ymosodwch ac y dwrdiwch yr hybarch Griffiths, y mae yn sicr o fod yn gystal dyn a chwi yn mhob peth-mae ei barch cystal, ei gymeriad cystal, ac yn ei gylch y mae yn llawn mor ddefnyddiol i gymdeithas a chwithau unrhyw ddydd a phaham y ceisiwch gan y cyhoedd i gredu eich bod wedi gwneyd Ilawer o wasanaeth i'r Bwrdd am dal bychan ? Sylwch yma, cael tal o 22p. 10s. am wneyd ychydig waith wrth eich pleser, ac heb yr un geiniog o draul, a bachgenyn 13eg oed yn medru gwneyd y gwaith yn rhwydd yn mhen pythefnos. Dwy dreth yn y flwyddyn, dau bythefnos o waith i'r bachgen, a dwy bunt ar ugain a chweigen am y job. Nid ffol o dal yw hyn nid ffol o dal medd gweithwyr Mri. Nixon eu hunain; nid ffol o dal medd gweithwyr Syr George hefyd nid ffol o dal medd treth- dalwyr Mountain Ash, llawer o'r rhai sydd a'u tai yn weigion nid ffol o dal medd y masnachwyr nid ffol o dal medd ein gweini- dogion, ac nid ffol o dal medd Mr. John Griffiths a holl aelodau y Bwrdd. 0 na, Nid ffol o dal os ffwl y dyn a roddodd ei swydd i fyny, ac yna troi i drin a thrafod personau sydd wedi gwneyd yn dda iddo am wyth mlynedd. Ystyriwch, frawd anniolchgar, nid rob crotyn sydd wedi cael y fantais i enill 167p. 13s., gyda chadw at ei ddiwrnod gwaith, yii yr wyth mlynedd sydd wedi myned heibio, ac nid pob crotyn gaiff y fantais o wneyd hyny yn yr wyth mlynedd nesaf, os ymddygiad fel yr eiddo chwi sydd weddus i'n dynion cyhoeddus. Dylech gywil- yddio am eich hanniolchgarwch, a dylai y Bwrdd beri i chwi dynu eich geiriau bom- bastaidd, gwyntog, a chableddus yn ol yn ddioedi. Meddyliwch fod o'ch hamgylch, yn eich beio a'ch tybio, lawer o'n dynion da, y rhai, oherwydd y wasgfa galed bresenol, sydd yn gorfod ymostwng a gofyn am gardod ac elusen, a chwithau, yn eich llawnder a'ch rhyfyg ffol, yn ymosod yn Uidus ar y sawl sydd wedi eich helpi i ystorio arian. 0 ymddygiad gwael; 0 ymddygiad brwnt; O! y Jath esiampl dlawd o ddynoliaeth y mae Arglwydd Primrose Hill yn ddangos wedi iddo gael ei ddihatru o'i shams, a'i bresentio o'n blaenau "yn ngwyneb haul a llygad goleuni" yn y maintioli, y lliw, a'r llun y mae natur wedi osod arno, ac yn y modd y mae ereill yn ei adwaen hefyd. Y druan tlawd ohono, ei les sydd genyf mewn golwg wrth sylwi fel hyn ar ei epistol ffol; a gobeithio y caiff fyw adeg ddigon hir i'w ar- gyhoeddi o'i haerllugrwydd, ffolineb, a'i hun- anoldeb annghydmarol, ac i ddweyd gyda'r bardd 0 wad some pow'r the giftie gie us To see ourselves as others see us It wad frae monie a blunder free us And foolish notion; What airs in dress and gait wad lea'e us, And ev'n devotion. LLAIS Y CYHOEDD.
EIN DIWYGWYR BARDDOL.
EIN DIWYGWYR BARDDOL. MR. GOL.,—Mae y gyfundraeth farddol i'w throi wyneb i waered, a beirdd yr oes sydd yn codi i ddilyn esiamplau diwygwyr-y dyddiau hyn a gellir dweyd yn fuan Yr hen bethau a aethant heibio, ac welegwnaeth- pwyd pob peth o'r newydd." Mae Index yn ei lythyrau gorchestol yn agor llygaid y wlad i weled beth yw barddon- iaeth. Cyfeiliornad dybryd yw dweyd mai barddoniaeth yw llinellau odlog, bydded gaeth neu rhydd. Ac yn wir, y mae Index yn esbonio hyn i berffeithrwydd. Dengys hefyd fod y beirdd yn gwneyd gormod o ddefnydd o'r poetical license yn ami a difyna weithiau y prif-feirdd yn ogystal ag eiddo y cocosyddion i brofi yr hyn a draetha. Hefyd y mae Index yn decach na llawer ar y pen hwn nid yw yn collfarnu y wisg gynghan- eddol yn fwy na'r un foel a rliydd. Aed rhag ei flaen, mae ei lafur yn cael ei werthfawrogi. Mae yr hwyl ddiwygiadol wedi cyrhaedd yr Wydd Grug hefyd. Ond nid yw yr athraw- iaeth a ddaw o'r cyfeiriad hwnw mor iachus ag eiddo Index. Mae Glanffrwd yn llawn ysbryd rhagfarn, yn gollwng ar y cynghan- eddion yn ddibardwn, ac fel pe yn barod i gnoi a thraflyncu pawb a feiddia ymwneyd dim a hwy. Nid oes yr un ysgolhaig yn y n mhlith y beirdd cynghaneddol A oes rhag- 0 or nag un yn mhlith y rhyddfydrwyr ? Tipyn yn chwithig yw gweled un bardd yn collfarnu • peth na wyr y peth nesaf i ddim yn ei gylch. Pe buasai Glanffrwd yn feistr ar y gynghan- edd, buasai rhyw bwys yn ei farn am dani. "Na farned y cobler yn uwch na'r esgid." Pwy yw awdwr y "llyfr llipa y sonia am dano ? Ai efe ei hun ? Os felly, mae yn amlwg beth oedd yn ei gynhyrfu. Mae gwaith Glanffrwd yn collfarnu y cynghan- eddion yn debyg iawn i'r llwynog a'r grawn- R win yn y ddameg. "Grawn surion ydynt ebai Madyn wedi iddo fethu a'u cyrhaedd Mae Glanffrwd wedi dangos rhywbeth heblaw gwybodaeth wrth ddifynu llinell Eben Fardd- H Alltudio y pedwar-ar-hugain," "Rhwygo y pedwar-ar-hugain," meddai'r gynghanedd. Hefyd gellir meddwl wrth sylw Glanffrwd fod y diweddar Eben Fardd yn elyn i'r caethfesurau. Os felly ni fu erioed fwy o gyfeiliornad. Beth sydd gan Eben Fardd yn deilwng i'w cydmaru a'i weithiau caethfydrol? Awdwr Dinystr Jerusalem," "Cystudiau ac amynedd Job," a "Brwydr Bosworth" yn collfarnu y gynghanedd Na, ni wnaeth yr Wydd Grug erioed sylw mwy chwithig. Darllener gweithiau rhyddfydrol Eben Eardd, a cheir gweled llinellau cynghaneddol yn dryfrith drwyddynt, yn fwy felly nag yn ngweithiau rhyddfydrol yr un cynghaneddwr sydd yn fyw yn bresenol. Rhaid i Glanffrwd, er ei "fanteision" a'i ddysgeidiaeth, gadw yn agos i'w Ie, onite rhaid ei alw i gyfrif. Peth rhyfedd ei fod wedi darostwng ei hun i faruu awdl yn Eisteddfod Llantrisaiit. A pheth rhyfeddach fyth na fuasai y pwyllgor llygad- graff yn apwyntio Ymerawdwr Japan i feirn- iadu yr awdl !-Yr eiddoch, NID CEILIOG Y GWYNT.
CYFANSODDIADA U BUDDUGOL EISTEDDFOD…
CYFANSODDIADA U BUDDUGOL EIS- TEDDFOD CARMEL, TREHERBERT. MR. GOL.Dymunwyf gael congl fechan o'ch newyddiadur i hysbysu y nifer lluosog cyfeillion a anfonasant i ymofyn yr awdl ar Y Nefoedd," a'r traethawd ar Briodas," nad ydynt wedi eu cwbl orphen gan yr ar- graffydd. Yr un modd, hefyd, eiriau y Cantata. Yr ydym dan addewid i gael y cwbl yn barod yn gynar y mis nesaf; hyd hyny, byddweh ymarhous*. Mewn atebiad i'r Ilyfrwerthwyr a'r dos- barthwyr hyny, rhoddir yr elw arferol iddynt. Y seithfed yn rhydd i bob dosbarthwr, dyna ein telerau.-Mewn gobaith y gwna hyn y tro rhag eich ateb bob yn un, gorphwysaf, eich cyfaill, REES T. WILLIAMS, Ysg. Mawrth y 18fed, 1878. O.Y.—Y chwi sydd heb anfon pris y clud- iad (dimsi), peidiweh synu os cewch dalu ceiniog wrth ei dderbyn. Gormod o'r triciau hyn nid ydynt dda.-R. T. W. s
[No title]
Dywed gohebydd Llundain i bapyr Ysgot- aidd i Mr. Gladstone fynegu ha wna efe eto sefyll dros unrhyw le mawr.
Advertising
ENAINT A PHELENI HOLLO WAY.—Anlacjildera/a peryylus y Cylla.-Braidd y mae cyfriliad yr anhwylderau hyn yn angenrheidiol, gan yn anffod- us, er eu traul, y mae y rhan fwyaf o'n cydwlad- wyr yn gwybod am danynt. Peswch, anwyd cyffredin, influenza, bronchitis, diffyg anadl, eisglw'yf, enyniad yr ysgyfaint, ac hyd yn nod y j darfodedigaeth yn ei risiau dechreuol, a drinir oreu trwy rwbio Enaint Holloway ar y fron, ac ar y cefn rhwng yr ysgwyddau. Treiddia yn fewnol, atalia oer-gryniadau, gwareda ysgyfeiniau gor lwythog, symuda yn raddol ddirwasgiad y cylla, ac adfera a- adl cyfyngedid fu yn flaenorol mor boenus a pheryglus. Wrth drin y dosbarth hwn o anhwylderau, dylai Peleni Holloway gael eu cymeryd bob amser tra y defnyddia yr enaint. Purant y gwaed, rhwyddant chwysiad, a llaesant gynhyrfiadau peryglus.
EISTEDDFOD GADEIRIOL FERNDALE.
EISTEDDFOD GADEIRIOL FERN- DALE. MR. GOL.Caniatewch i mi gongl fechan o'ch newyddiadur, i hysbysu y rhai a fwriad- ant gystadlu ar y testyn rhif yr 8fed o'n rhaglen, mai geiriadur Dr. Wm. Owen Pugh, a fwriada y beirniad i gymeryd fel safon. Y mae pob rhagolygon y cawn eisteddfod lewyrchus iawn yma eleni yr ydym wedi clywed am amryw gorau a fwriadant gystadlu am yr wyth punt a'r gadair (sef gwobr y prif ddarn), ac ar O Gymru Anwylaf." Y mae lluaws mawr o tenors yn debyg o ddyfod i ymgeisio am y medal arian, ac yr wyf wedi derbyn amryw o ffugenwau eisoes arni. Yn awr, fechgyn pwy aiff a'r wobr /—Dros y Pwyllgor J H. Lewis, (Asaph Llechau). Glyn View House, Ferndale.
cLLITH BAROUD GOEDP ARC.
c LLITH BAROUD GOEDP ARC. MR. GOL. Byddaf yn dra diolchgar i ell wi am Ie i mi wneyd ychydig nodiadau ar Llith y Barcud," yr hwn ymddangosodd yn y Danan am y laf cyfisol. Blin oedd genyf wrth ei ddarllen fod un o'm hilioQaeth mor ttoled a dyfod allan yn erbyn y rhai hyny oedd a u holl nerth o blaid y gweithiwr ac yn amddiffyn iawnderau a heddwch cyffred- mo1 y lie. Dichon fod y Barcut yn tybio ei fod yn ddigon call i dvvyllo hen aderyn a £ j us, ond nid felly y mae hen adervn vn *rt waen ystranciau y Barcut, ac yn gwybod am ei ddichellion. Fe ddywed y Barcut ei hun yn ei hth ei fod wedi cael cyflawnder o yga- T J'™5'11 y dyddiau aeth heibio, ac fod Lord Mansel, a'i anwyl frodyr, yn garedig iawn iddo, ac yn penderfynu ei ddiwallu hyd ddiwedd ei oes a gwleddoedd breision a mel- usion yn unol a'i archwaeth. Yr wyf finau yn credu fod gan Lord Mansel a'i frodyr ymborth iachus, ac os yw y Barcut a'i gyf- eillion am ddyfod yn gryf, ac yn gymeradwy gan hihogaeth y goedwig, arosent wrth fwrdd Lord Mansel, ac ymborthent yn helaeth. Nid gwehilion geir yno, megys geir ar fwrdd Lord Gimlet a'i gyfeillion. Nid rhyfedd fod y Barcut yn falch o'i ysglyfaeth-y mae pawb yn chwenych yr ymborth goreu. Hefyd dywed ei fod yn gorphwys yn dawel ar sim- neu y Walnut Inn, pan y clywodd y crier yn cyhoeddi fod cyfarfod yn y Public Hall am wyth or gloch. Mae y rhan olaf hyn yn wirionedd, ond amheus genyf ai ar simneu y Walnut ydoedd, eithr mwy na thebyg mai yn un o ystafelloedd y Castle Hotel ydoedd. Pan oedd y Barcut ar ei ffordd tua'r cyfar- fod cyfarfu a rhyw greadur yn dyfod ato, ac yn dywedyd wrtho nad oedd ganddo hawl i y?,me,wn' gan mai creadur yn byw vn mhwll disylw oedd efe Nid wyf yn rhyfeddu dim, oblegyd yr oedd llawer ogreaduriaid Lord Gimlet yn ymdrechu eu goreu i fyned i mewn i'r cyfarfod y noson hono ac yn unol a thystiolaeth y Barcut ei hun, yr oedd yn awyddus i fyned i mewn ac fe gyfarfyddodd a Mr. Post Telegraph, ac i mewn yr aethant gan orphwys yn ymyl y platform, mewn man cyfleus i ysgrifenu hanes y cyfarfod. Pa beth ddywed y Barcut am y cyfarfod ? Fe ddywed fod Lord Mansel yn llywyddu yn y cyfarfod, ac fod golwg freninol arno yn ei gadair, mewn gwisg dywysogaidd, a menv gwynion am ei ddwylaw a bod y fath hwvs- au o synwyr cyffredin yn y gadair lywyddol. fel y bu yn agos a myned yn yfflon- Ond gallaf fi ddweyd gyda sicrwydd fod y cadeir- ydd yn un o r dynion goreu fedd Aberafon y mae wedi bod yn gadeirydd i bob math a gyfarfodydd teilwng, ac yn barod bob amser i osod ei law yn ei logell i gynorthwyo achos- lon daionus; ac fel areithiwr y mae yn tra rha,gon ar neb o 1 wrthwynebwyr. Etodvma. y dosbarth y mae y Barcut hwn yn eeisio sarhau. Ond nid yw yn un rhyfeddod-mae wedi myned yn nos ar y Barcut, a'r rhai sydd yn ei osod ar waith y mae y frwydr wedi ei cholli, ac er mwyn cyfiawnhau eu hunain i ryw raddau y maent wedi cymeryd at bar- dduo cymeriadau arweinwyr plaid y gweith- wyr. Ond y mae yn rhy ddiweddar y mae y wasg Gymreig a Seisnig wedi rhoddi hys- bysrwydd cyflawn o holl weithrediadau y ddwy blaid. Oofyna y Barcud pa le y mae dysgyblaeth eglwysig, oblegyd fod dynion vn pieidio y gweithiwr, ac yn amddiffyn it, hawliau Yn ol theory glogyrnaidd y Barcud nid oes hawl gan bobl grefyddol i siarad dros- tynt eu hunain na thros gyfiawnder v gweimdogion Aberafon yn dys^blu mn fyddo angen ond nid am siarad mewn cyf- arfod eyhoeddus, nac am gyflawni dyled- swyddau gwleidyddol. Peidied y Barcud ieuanc hwn dangos ei anallu eto, a chofied nmy rhai fu yn deisebu sydd yn teilyngu dysgyblaeth eglwysig, ac nid yr amddiffyn- wyr.—Yr eiddoch, J BARCUD COEDPARC.
" JOHN JONES" A BWRDD YSGOr…
JOHN JONES" A BWRDD YSGOr MOUNTAIN ASH. MR. GOL -Cymerafyrhyfdraynbresenol i adolygu ychydig ar yr hyn sydd wedi bod dan sylw gan John Jones yn Adsain XI vn y GWLADGARWR am Mawrth 8fed Gallaf dybio wrth y gair cyntaf yn ei Adsain am Mountain Ash eu bod yn gwmni wrth v gorchwyl, gan ei fod yn defnyddio y rhif luosog yn y dechreu, sef <■ awn amydro Mountain Ash;' yn wir, buasai yn dda i John Jones pe byddai wedi astudio ei fater yn well. Y mae yn amlwg i bob dyn sydd yn gwybod rhywbeth am amgylchiadau yr helynt hwn, nad ydyw John Jones yn gwybod dim am y mater o gwbl, ond yn unig fodlrna awydd dangos ychydig arno ei hun, fel ag v cawn brofi wrth fyned yn mlaen. Dywed fod y ddau ddyn wedi eu danfon i gynfych ioli teimladau y trethdalwyr ,;gofynwn yn awr a ydyw aelodau Byrddau Y sgoliOll yn ymrwymo bob amser i gynrychioli teimladau eu hetholwyr, a hyny yn unig ? Dywedwn yn gadarnhaol nad ydynt, ac ni ddysgwylir iddynt wneyd hyny, ychwaith, ond yn unig gan y dynion hyny sydd bob amser yn ystyr-