Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GWEN O'R FELIN, Neu " Y Golledig…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWEN O'R FELIN, Neu Y Golledig wedi ei chael." JiOFEL FUDDUGOL EISTEDDFOD CENEDLAETHOL DEHEUDIB CYMRU, 1879. PENOD YII. Pan ddywedodd Trefor wrth Sam am dwyll Mari, mynai Sam ruthro i'w hys- tafell, a'i chrogi wrth bost y gwely yn y fan; ond darbwyllodd ei dad ef beidio, er mwyn iddynt gael cyfle i gyrhaedd eu hamcan gyda'r briodas, ac wed'yn cosbi pechaduriaid. Dywedodi y tad wrth ei fab am gynllun yr Offeiriad Jones sut i weithredu, a dywedodd hefyd fod yr offeiriad hwnw wedi ei ddiswyddo gan yr esgob. "Pan alwaf fi Mari a Gwen i'r gegin wedi i'r offeiriad dd'od yma, gafaela di yn llaw Gwen, a gwna iddi sefyll yn yr ystafell tra fyddo yr offeiriad yn myned trwy y seremoni. Os cynygia Mari an- ufuddhau, gwae fydd iddi." Wedi swper, eisteddai Mari a Trefor -wrthynt eu hunain yn y gegin. -cl Wel, wel! dyna ein cynllun ni wedi myned yn hollol ofer," ebai Trefor. Y mae yr hen Jerome wedi-gwneyd rhyw ddrwg, fel y mae wedi cael ei ddiswyddo gan yr esgob." Am beth, tybed ?" gofynai Mari. Yr wyf yn barnu mai hen gi drwg ydyw wedi arfer bpd yn ddrwg er's cryn amser, a bod yr esgob wedi penderfynu, o'r diwedd, ei ddiswyddo. Ni ddywedodd y cwbl wrthyf, ond deallais ei fod yn ofni er's amser maith mai i hyn y daethai arno yn y diwedd. Y mae Sam bron tori ei galon; ond rhaid iddo aros yn amyneddgar eto am ryw gymaint 0 amser, a daw yn gryfach ac iachach wrth oedi ychydig wythnosau; ae feallai y daw Gwen, cyn hir, yn fwy boddlon." Nid oedd Mari a Trefor yn gwneyd dim braidd yn awr ond gwylio agwedd a llygad y llall. O'r diwedd, aeth y ddwy fenyw i fyny y grisiau tra yr eisteddai y tad a'r mab wrth y tan. Tua deuddeg o'r gloch, dyna guro ysgafa ar y drws. Aeth Trefor i'r drws a ehanwyll yn ei law. Yno yr oedd dyn mewn clospen glin rib, ac hosanau du'r ddafad, a chot folscin, a'r rhan arall o'r wisg YD cyfateb, a chwd llawn ar ei gefn. Pa ysbryd drwg sydd yma yn d'od ag td yma ar y Sul!" ebai Trefor mewn llais y gallai Gwen a Mari ei glywed o'r llofft. Dewch i fewn," ebai yn isel. A ddarfu i chwi gerdded bob cam 11 Naddo; gadewais y ceffyl mewn lie diogel," Gadewch i mi gymeryd eich cwd." Na, diolch i chwi; nid yw cynwysiad y cwd hwn yn ateb i'ch melin chwi. Fy nillad swyddogol sydd yn hwn. Dangos- ych fi i ystafell lie y gallaf newid dillad." Yehydig fynudau a basiodd, a throdd y ffarmwr yn offeiriad glandeg a chanonaidd. "Pa fwyd a gymer eich Parchedig- aeth ?" gofynai Trefor. Dim un, math 0 fwyd. Yr wyf mewn brys mawr. At y gwaith mor gynted ag y byddoch yn barod I Y mae yn rhaid i mi fyned yn union. Yr wyf yn gwybod y cwbl sydd i'w wneyd—fe ddywedodd Jerome wrthyf bob peth." Byddwch barod, os gwelwch yn dda, i fyned trwy y gwaith mor gynted ag y byddo y par o'ch blaen, oherwydd feallai y bydd hi yn anfoddlon aros." Yr wyf yn berffaith barod; ac yr ydych chwi, Trefor Williams, yn gwybod y pris sydd am y gorchwyl. Beth pe talech yn awr ?" "Eithaf da. Dyna hwy. A ydynt yn iawn ?" ,¡ lawn. Diolch. Gadewch i ni fyned trwy y gwaith ynte; mi a'i rhwymaf na thyn dim na neb hwy yn rhydd ond angeu ei hun." Dywedodd Trefor wrth Sam am sefyll wrth odreu y grisi j.u yn barod i gydio yn Haw Gwen gyda y buasai i lawr wedi iddo ef alw arni. Aeth Trefor i fyny y grisiau, ac yr oedd Gwen a Mari yn eistedd yn ystafell wely yr olaf heb dynu oddi am danynt. Gan eich bod heb fyned i'r gwely, dewch i lawr am fynud i fy helpu i. Y mae ua 0 glwyfau Sam wedi agor-y clwyf m'iwr sidil ar ei foch. Gallweh chwi, Gwen, ddal y ganwyll, ac yna meddyliaf y gallaf fi a chwithau, Mari, ei gau heb help yr un medcyg. 'Does dim perygl yn y byd-peidiwch a dychrynu. Fe fu allan yn y coed hyna wedi yfed ar y mwyaf o'r botel, ar ol ei gynhyrfu gan fethiant y seremoni, ac y mae yn gwrthod dweyd beth a ddygwyddodd iddo; ond meddwl yr ydwyf mai syrthio a wnaeth. A oes darn 0 liain genych chwi, Mari ?" Oes," ebai Mari, yn ddifeddwl drwg hollol. "Mi wn i am liain llyfn a theg," ebai Gwen, mor ddifeddwl drwg a hyny. Ni chlywodd y ddwy ddynes ddim o'r eiarad a fu ar y llawr yn flaenorol i hyn. Pasiodd Mari Sam heb ei weled, am ei fod yn y cysgod; ond gyda bod Gwen i lawr, rhuthrodd Sam ati, a chrafangodd am ei llaw. Sam y chwi! ebai Gwen. "Ie, Gwen; rhaid i chwi fod yn wraig i mi," ebai mab Trefor, gan lusgo yr eneth i'r gegin 0 flaen yr offeiriad. Oh! na, na, na! Allai i ddim byth ebai hi, gan ymdrechu ymryddhau 0 grafangau y mileinddyn dideimlad. Oh trugaredd trugaredd er mwyn pob peth, cymerwch drugaredd arnaf!" "Y chwi sydd i drugarhau wrthyf fi," ebai Sam yn wawdiol, gan ei llusgo yn mlaen. ODd buasai yr eneth ddychrynedig wedi ymryddhau a ffoi o'i afael, oni buasai i'w dad dd'od i'w helpu i'w dal. Byddwch yn dawel, fy mhlentyn i," ebai Trefor, gan wasgu ac ysgriwio ei braich, a'i chodi braidd oddiwrth y llawr. Rhaid i chwi briodi yn awr ac yr wyf yn galw Duw yn dyst fy mod yn gwneyd y peth goreu a allaf i chwi er eich lies. Byddwch yn dawel! Y mae yr offeiriad yn aros." Llusgodd Trefor a Sam hi yn mlaen i'r lie priodol o flaen yr offeiriad. Dechreu- odd yr offeiriad Yr ydych chwi, Trefor "Williams 0 Felin Nantlle, fel gwarcheidwad cyfreith- lawn y fenyw hon, yn ei rhoddi yn wraig i'r dyn hwn ?" Ydwyf," ebai Trefor. Ond ar hyn, dyna swn arall gwahanol i swn rhai yn priodi—swn traed meirch yn dynesu at y ty, a swn tincian arfau, ac yna llais awdurdodol yn gorchymyn aros a disgyn. Brysiwch yn mlaen, ddyn," ebai Trefor wrth yr offeiriad. Gwelid Trefor yn chwys, a'i gluniau yn curo yn erbyn eu gilydd. 0, llais Owen anwyl ydyw I" gwaeddai Gwen allan. Gyda nerth braidd uwchnaturiol, hi neidiodd yn rhydd o afael Trefor a'i fab, ac a aeth at y drws. Owen Owen anwyl!" ebai gyda mynwes ddrylliog 0 lawenydd; a'r foment nesaf, yr oedd yn gorphwys ei phen ar fynwes ei chariad. (Pw barhau). mmm

Eisteddfod Treforis, Nadolig,…

[No title]

Beirniadaeth Eisteddfod Seion,…

Masnach yr Haiarn a'r Glo.