Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

COLEG Y GWEITHIWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Ap Corwynt.—Wei, gyfeillion tirion teg, dyma ni wedi cael y fraint o gyfarfod eto ar ol dydd angladd yr hen flwyddyn 1879. Gyda'ch caniatad, yr wyf yn bwriadu cymeryd i fyny holl amser y cyfarfod heno i ymdrin tipyn ar helyntion y flwyddyn sydd newydd ..el chladdu. Blwyddyn erchyll mewn amryw .agweddau fu hi. Biwyddya o ryfel—biwydd- yn o iselder masnachol-blwyddyn o humbug Seneddol, a blwyddyn o wlaw llifeiriolfwy nag a welsom er's pedwar ugain mlynedd oedd yr hen flwyddyn '79. Er mwyn gosod ar gof, a. chadw rhai o helyntion y flwyddyn ddiweddaf, efallai mai nid annyddorol fyddai i mi osod o'ch blaen fyr-grybwylliad am danynt. Wel, dechreuodd y flwyddyn, fel y gwyddoch, yn nghanol rhew ac eira gerwinol yn ddigon i rewi'r gwaed oedd yn cylchffryd- io yn iachus drwy ein gwythienau. Deuai hen Boreas i lawr o'r Gogledd a'i feginau di- yoncro gydag ef ac anadJai ar y llynoedd a'r afonydd, a throent yn balmant gwydrog i'r Ilithrellyddioii. Mis Ionawr, blaenawr y blaid fu yn fis agoriadol i gyfres o drychinebau a t, hir gofir yn nghroniclau'r ddaear. Yn y mis hwnw, os ydych yn cofio, y dygwyddodd ffrwydriad ar fwrdcl y Thunderer, an o longau rhyfel Prydain, pryd y syrthiodd deg o fywyd- au yn ebyrth iddo, ac yr anafwyd deuddeg- ar-ugain Ar y 13eg o'r un mis, fel y cofia rhai ohonoch, y bu tanchwa ofnadwy y Dinas, Cwm Rhondda, pan yr hyrddiwyd tri-ugain 0 eneidiau i fyd mawr yr ysbrydoedd, ac y mae eu cvrff yn gorwedd yn y tanddaearol fedd- hyd y dydd hwn Wedi hyny, dyna gyflafan ofnadwy Isandula, pan y lladdwyd '600 o'n milwvr dewrfrydig, a thros 600 arall o'r milwyr Affricanaidd a ymladdent drosom Bydd gwaed rheiny yn dorthau ar bea Ben Beaconsfield a Sam Salisbury a'u Cyf. ac y mae ganddynt lawer count a chyfrif arall i'w roddi, os na chant faddeuant llwyr a llawn -cyn croesi gwahanfor angeu. Ar y 12fed o fis Mawrth, dinystriwyd dinas Szgedin, yn Hungary, gan orlifiad digyffelyb, trwy yr hyn y collwyd canoedd o fywydau a phe gellid cael darlun o'r ddinas hono, dan yr ymweliad dychrynllyd, byddai yn un o'r rhai mwyaf torcalonus a chyffrous ag a baentiwyd erioed Yn yr un mis, llynciwyd yr agerlong Michel 1 waelodion neiflon, a thri-ugain o fywydau gyda hi; a'r Arrogante, llong ryfel berthynol i Ffrainc, gyda saith a deugain o fywydau Ac os yclych yn cofio, ar yr 31ain o'r un mis, boddodd nifer o'r 10th Huasars wrth groesi ,yr afon Cabul. Dyna gyfrifoldeb arall ar Ben Israel a'i blaid. Hysbysir ni fod mewn rhanbarth o'r Aifft ddeng mil o'n cyd-ddynion wedi marw o newyn Y mae hyny yn ofn- ;adwy i feddwl, pan yr oedd tomenau o aur yn y banciau, ac ystordai llawnion o ymborth yn ngwahanol ranau ereill y byd. Wel, am haf "79 cystal peidio galw hM arno, canys cafwyd lawer gwaith, yn nghanol gauaf, ddiwrnod tecach nag amryw ddyddiau a gaf- wyd yr haf diweddaf. Bu y gwlaw bron di- atal fa yn llifeirio dros y wlad yn foddion i foeri i'n cynhauaf fod y fath fel y bydd yn srhaid i ni gael miliynau ar filiynau o chwar- teri o wenith o'r America, a bendith fawr i'r byd yw fod yno gyflawnder ohono i'w gael. Wel, Gorphenaf 26ain, collwyd 26 o fywydau trwy danchwa yn nghlofa Blantyre ac yn anis Hydref, ysgubwyd ymaith dros fil o iywydau yn y gorlifiadau echrys yn Ysbaen. Y mae hyn yn beth tra hynod, canys yr oedd Ysbaen, trwy yr haf a'r cynhauaf diweddaf, wedi bod yn dyoddef cymaint oddiwrth sych- -der ag yr oeddem ni yn y wlad hon oddiwrth wlybaniaeth. Ond i goroni dygwyddiadau echryslon '79, yn y mis olaf ohoni, ac o fewn ychydig ddyddiau i'w therfyn, dyma ddam- wain ofnadwy Pont Tay yn Ysgotland, yr hon a daflodd bob damwain arall ar y rheilffyrdd yn y wlad hon i'r cysgodion. Bu damwain gyffelyb iddi yn America, dair blynedd yn ol, ar bont oedd yn croesi yr afon Hudson, os ydym yn iawn gofio, pan y darfu i'r bont hono dori, a'r gerbydres syrthio i'r afon, a rhai o'r cerbydau ar dan. Clywsom fod ein diweddar gyfaill Mynyddog yn y tren di- weddaf aeth dros y bont hona cyn iddi dori. Wel, rhyw ddamwain o'r fath fwyaf aruthr oedd damwain y Tay Bridge a phe chwiliem am yr ansoddeiriau mwyaf cyrhaeddfa.wr a desgrifiadol, byddai yn anmhosibl i ni gael 'dim a ddeuai o fewn i fili wnfed ran i roi meddylddrych i ni am erchyllder yr amgylch- iad ofnadwy. Mae iaith yn llwyr hesb a di- allu i roi i ni ddim dirnadaeth am y fath drychineb. Cerbydres o tua chant neu fwy o'n cyd-ddynion yn disgvn am tua 130 troed- fedd i'r mor, a hyny heb ond mynud neu ddwy o rybudd Nid oes amheuaeth nad oedd y disgyniad ofnadwy yn ddigon i daro y personau oeddynt yn y tren ag ergyd angeu cyn eu bod wedi disgyn i'r gwaolod ac os oedd rhai ohonynt yn fadfyw ar y pryd y cyr- haeddasant y dwfr, dyma yr elfen hono yn ymlifo i fewn, ac yn selio eu tynged yn y fan 0 y mae y newyddion calon-rwygol a'n cyr- haeddant yn ddigon i fferu ein gwaed. Rhai ar fin priodi, ereill yn ymweled a'u ffryndiau ar adeg y gwyliau, ac ereill ar deiihiau mas- nachol. a'r oil ohonynt yn llawn nwyf a rhagfeddwl am y dyfodol, fel pawb o blant Adda—f el y gellir dweyd yn ngeiriau y bardd :— A dynn. lechres o oboithion lieulog A gladdwyd yn nghilfachau'r mor afrywiog. 0 erch ystorm agoraist, do, archollion Na welir mwy yn iach nes croesi'r afon A waliaiire,la rhyngom a thiviogaeth Y Wynfa hoff, lie na thramwya alaeth. Fe wiychir llawer aelwyd a brwd-ddagrau Am yr anwyliaid lynewyd i'r dyfnclmau- Kwinedd gofid fydd yn dybryd naddu Mynwesau fyrdd nes bydd y wedd yn gwaelu Awch danedd liiraeth a lym gnoa,'r ddwyfron, Nes llwyr alltudio ymaith pob cysuron. Am waith Seneddol y flwyddyn ddiweddaf, nid oes fawr i'w ddywedyd. Y mae y Toriaid fel pe wedi ymdyngedu i beidio gwneyd fawr o ddim ar derfyn tymor eu swyddogaeth. Ond os nad wyf yn mawr gamsynied, o hyn i ben blwyddyn, neu lai, neu ychwaneg, bydd criw y Toriaid wedi eu taflu i ben yr heol, ac i fwynhau eu myfyrdodau adgoflol am felus- derau y swyddau a fwynhasant am y fath gyf- nod. Rhaid i ni addef fod diwedd y flwyddyn wedi rhoddi i ni amlygiadau fod masnach yn ymfywiocau, yr hyn sydd yn ragarwydd sicr a diymwad y daw pethau yn well o hyn i ganol 1880. Gwych y byddoch, fechgyn, a maddeuwch i mi am gymeryd amser y cwrdd heno ond caiff faint a fynoch ohonoch siarad wythnos i heuo. Blwyddyn ardderchog i chwi oil.

Llith y Postman.

Llith o'r Pobdy.

GURNOS A BRYTHONFRYN.

ARAETH GUBNOS YN NGHAERDYDD.

AWGRYM AT BTVYLLGOR EISTEDDFOD…