Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y BARDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BARDD. LUTH XXV. Ein hamcan yn ein llythyrau diweddaf, fel y mae yn nghof y darllenydd, oedd profi y bardd Cymreig yn ffug-fardd ffag natur. Ys gogwyd ni i hyny gan ein sylwadau ar yr arfer o ffugenwi yn mhlith ein beirdd. Gan fod yr arfer hono yn ymddangos i ni yn eithafol blentynaidd a chwerthinus, ni a sylwasom arni mewn gwythïen ddifyrus a chymwawdus. Diau fod meddvliau barddol yn teimlo dir- wasg yr angenrheidrwydd o gyfenwi felly oddiar reswm a ddygwyd yn mlaen gan oheb- ydd ychydig amser yn ol. Ei resymiad ef oedd Pan y dygwydd (neu pan y mae, gan fod y ffaith yn rhy gyffredmol i ganiatau y syniad sydd mewn "dygwydd,") deg neu ychwaneg o feirdd, o herwydd aHsylwgarwch mamau Cymreig, yn dwyn yr unrhyw enw, pa fodd i ddeall pwy yw pwy 1 A phan y cyhoeddo un ohonynt awdl neu bryddest benigamp, pa fodd yr adnabyddirCain heb ei nod ? Y mae yr awydd i ymfawrygu mor angerddol, fel y mae y dybiaeth fod cyffred- inedd ei enw yn rhwystr i'w bersonoliaeth ddyfod yn ddiymyraeth amlwg gerbron y cy- hoedd yn achosi annghysur, ac felly dan eisieu parhaus i unionicamddeaildwriaetiiau o berth- ynas i'r gwirionedd. hanfodol—i'w deimlad ef ei hun—mai efe yw efe Y mae fi'0?enw yn symud yr anhawsder a'r blinder hwn, ac yn codi y bardd o blith ei gyd-enw i dwmpath cysurus uwchafiaeth, i fwynhau y gogoniant ei hun ag oedd cyn hyn yn hofran uwch cyni- fer cyfenwog, heb wybod ar baun i ddisgyn I Felly, y mae y fPogenw, sydd mor effeithiol i gad w cyfanrwvdd y bri, a'i dywallt ar y cop a. dedwydd a theilwng, yn wrthdclrych anwyl- deb mawr. Boed felly. Arweiniodd hyny ni i edrych ansawdd hen farddoniaeth Gymreig. i chwilio am brofion fod ein beirdd, yn eu hanes a'u hymddygiad, yn wrthnaturiol a mympwyol. Faint bynag y canmolir cynyich- ioa yr oesau a aethant heibio, a hyny gan bersonau na ddarllenasant ugain Hinell ohon- ynt erioed, a chan rai sydd yn gwneyd hyny. nid oddiar ymdeimlad o deilyngdod y cyfryw, ond oddiar genedlgarwch eithafol, rhaid fydd cyfaddef mai isel yw naturiaeth eu meddyl- iaeth, beth bynag a ddywedir am beirianwaith y brawddegau. Yr ydym yn teimlo yn ddigon anmhleidgar i gvdnabod fod y bardd Cymreig yn uchel ragori ar holl genedloedd y ddaear am droi a dirboeni geiriau Y mae rheolau ei saerniaeth yn gadarn a disyfl Faint bynag f^ddo <*air yn achwyn am ei annghymhwysder iV le, "rhaid iddo aros Faint bynag fydd Natur yn brotestio yn erbyn ffurfiad ym- adroddion, nis gellir en cyfnewid Dechreu- odd awdurdod y drefniadaeth oerllyd hon yn foren, ac y mae drwy'r oesau wedi ei barhau yn brif nodwedd, yn ogystal a phrif wendid, y farddoniaeth Gymreig. Yr ydym wedi dwyn gerbron ein darllenydd ami ddiffygion ei chynyrch, ac wedi sylwi ar y gwirionedd amlwg mai nid Natur yn ei hymwybyddiaeth- au a'i hymdeimladau trylwyr oedd yn ei hys- brydoli, ond y dybenion gwaseiddiaf. Pan y mae cenedloedd ereill wedi ymfoddloni ar osod iaith i iswasanaethu meddwl, y mae y Cymro wedi ei darostwng yn chwareubeth i'w throi a'i phlygn i gyrhaedd amcanion seinydd- In iaeth, a hyd a ffurf, gan adael meddwl i ym- ddangos cyn hardded ag y gallo o dan yr an- fanteTaion; y canlyniad yw, digon (neu ormod) o ddawn i drin geiriau ac annghynefindra a Natur. Mewn gwirionedd, ystyrir y cyfnod a fu dan sylw genym yn foel ac amddifad, heb feddyliaeth, heb athroniaeth, ac heb deimlad- aeth o nemawr gwerth. Pe buasai haner y meddwl a<* sydd wedi ei wastraffu ar eiriadaeth wedi ei iawnddefnyddio i efrydu Natur a'i llafar, buasai genym gynyrchion gwerth i'w meddu a hyfryd i'w darllen, a buasai eu teilyngdod yn rhywbeth heblaw yr hanes- Bwriadwn adael hen feirdd, a chyfeirio ein beirniadaeth i'r amser presenol, gan arwain i fewn brawf olaf ein cyhuddiad—nad yw y bardd Cymreig ond mab annatur. Bydd ein sylwadau yn gyfyngedig i'r penawdau a gan- I. Ansawdd ac yrnddygiad meddwl y bardd presenol. II. Ei ddull annatnriol o sylwi ar bethau, a gorgelfydd i lefaru ei feddyliau. III. Ei gymhwysder beirniadol, gydag engreifftiau o'i feirniadaethau. IV Barddolrwydd yn rhwystr i wareiddiad a dadblvgiad meddyliaeth yn Nghymru. Tebyg fod ein beirdd yn antoddion cydna- bod fod" hawl o gwbl genym i gyhoeddi ein beimiadaeth. Yr anfoddlonrwydd hwnw yw prawf ein cvmhwvsder. Nid ydym yn bwr- fadu ei gamarwain drwy ei ganmol a gwen- ieithio iddo. eithr ei ddifympwyeiadio drwy lefaru sylwedd a gwir wrtho. Ymdrechwn ddangos iddo ei fod yn llai lie y mae efe yn ymdrechu bod vn fwy na dyn fod y bardd A ond dyn llawn angerdd, Did llawn mympwy ac ysmaldod yn eithafol deimladwy, eithr nid ffyrnig a chwerylgar yn fawrfrydig, „id «»wallgof; yn blentyn, nid bastardd Natur ac yn llefaru fel y myn natunaeth, nid defodaeth. Felly y dywedir fod genym elyniaeth at y bardd Cymreig. Nid gwir; ond y mae genvm opiniwn go isel am dano fel, lienor. Caiff ymddangos yn ei gyfanrwydd, n .1.l, Yt. n. 'tY\ r1110 'Y1 r\. ond byddwn otaius na auy wuuir uim um uciuu nas gellir ei ategu. Y mae y Wasg yn faes di«onol i'vv" weied vn chwareu ei gampau dir- mycedig, a mvnych y .ceir <! ein prif-feirdd mewn attitudes tra fantastic Yr ydym yn fynych yn amheu a ellir dysgwyl dim safadwy oddiwrth epil mor groen-deneu, mor fyfiol, mol' anol'chfygaclwy awydclus am fod yn gy- boeddus, heb ofaiu am fod yn weddus Chwydu allan ddwy golofn neu ychwaneg o geudod ystymos glaf ei bersonoldeb yn hollol ddichwaeth, o ddim lles i lenyddiaeth ac i ddangos ei benderfyniad i ymhyfrydu mewn dflnedneisrwydd, yn gosod ei en w wrth y pynyrch feI i dd wcyd- Y chwyclfa hon myfi a'i pia Yr ydym yn adnabod c\l1 a fuasent yn ei chuddio Fel enghreifftiau, cymerer. ymrysonau barddol lie bynag y byddont, a phryd bynag. Y mae hyn, a lluaws o ffael- eddau ereill, yn ymgodi yn naturiol oddiar ystad meddwl y bardd, a'i ffyddlondeb i'w draddodiadau." Gadawn hyn o lith ar hynyna, gan ym- helaethu yn ein nesaf. CATO.

| Ymgom rhyngv/yf a Modryb…

Y DULL Y TREULIWYD Y NADOLIG…

DYDD NADOLIG, 1879, YN LLANOVER.

WORKINGTON, GOGLEDD LLOEGR.

RHYMNI.

LLANDEBIE.