Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Y BARDD.
Y BARDD. LLITH XXVI. Y MAE barddoniaeth yn beth yr ymgeisir yn fynych ei ddarnodi, ond yn aflwyddianus. Cydnabyddir gan lawer mai nid odl yw, na chynghanedd, na mesur, oblegyd ceir y tri ,:Iy yn cydfyned a'u gilydd pan nad oes barddon- iaeth ynddynt. Y mae barddoniaeth wedi ymarfer ymwisgo imewn ffurfiau megya a enwyd, ac felly, gan yr ansylwgar, credir mai y ffurfiau yw barddoniaeth. Y mae hanes barddoni yn dangos y ffaith bwysig fod bardd- oniaeth wedi ychwaneguat ei hun ffurfiau, nid yn ogymaint i lwyddo mewn traethiant, ond i guddio ei gwendidau. Nid oedd odl yn hysbys i'r henafiaid yr oedd eu hathrylith yn gwrthod yr arwynebrwydd sydd ynddi, ac yr oedd eu hastudiaeth o natur, yn ei holl amrywiol ymwybiaethau, mor gynefin a manwl, fel y gwrthodent unrhyw ymgais at addurniadau ieithyddol afleaol. Yr oeddym- ddygiad y meddwl a'r teirnlad yn brif nod eu myfyrdod, a'u traethu yn y modd mwyaf effeithiol oedd eu hunig ymdrech. Dywed Aristeteles yn ei De Poeticd y defnyddid mydr gyda'r amcan o lyfnhau cetddediad ym- adroddiad, fel na thynai un clogyrnogrwydd y meddwl wrth sylwi ar bethau yr ysbryd. Felly, yr oodd y ffurf hona ar iaith barddon- iaeth yn gyfrwng i wneyd yr ysbrydol yn fwy amlwg. Yr oedd y Groegwr yn angerddol feddyliol yr oedd yr ysbrydol mor deim- ladwy ganddo ag yw ffurfiau .meini i saer maen. Yr oedd byd y meddwl yn rhyfeddol weledig, a chyn daered oedd bob amser i roi ymadrodd ar ei eithaf i lefaru, ac nid i ddi- fyrn, fel y cyhuddir ef o ebargofi yr allanol yn ormodol. Fel yr oedd y cerfluniwr yn ymboeni i gael o hyd i dro dirgelaidd ac awgrym gwyrthiol ar ffurf y marmor i geisio ei fywhau Yr oedd ffurf berffaiih y fraich neu y glun yn aflwyddianua heblaw i egni eu hymddangosiad i effeithiol awgrymu eu bod yn aelodau drwyddynt Yr oedd yn ddi- orphwys yn chwilio am yr expressions hyny sydd yn werth mil o ffurfiau. Cyhuddir ef o aflyfnder ffurf, ond nid byth o amddifad- rwydd awgrym. Y mae un llinell gynil mewn desgrifiad, fel sain arweiniol mewn cydgord cerddorol, nid yn unig ynddi ei hun yn nodweddiado!, eithr yn newid nodwedd- ion ereill. Tarawer y seiniau ereill, a thar- awer hon eto yn eu cwmni—fel yr anaoddir hwy drwy ei chyd-darawiad Y mae y seiniau, er yn parhau yr un, yn meddu ar ddawn i foddhau o'r newydd. Yr un modd am ddesgrifiad y mae un awgrym nodwedd- iadol, arwyddocaol, coffhaol, yn werth myrdd o ffurfiau amddifaid. Collodd y Rhufeiniwr lawer o feddylgarwch y Groegwr yn y cel- fyddydau oddigerth barddoniaeth. Y mae yr un manyl-graffder yn y bardd Rhufeinig ag oedd yn y Groegwr. Ceir ei holl iaith- briodolder yn Catullus, holl angerddolder ei deimlad yn Propertius a Tibullus, a'i awydd- fryd a'i hyfrydwch eithafol mewn hel am expressions dirgeledig yn y campus fardd Ovidius Naso. Am gynefindra a holl olud meddwl a theimlad, y mae yr olaf, yn ddiau, yn ddigymhar. Y mae delicacy ei feddyl- ddrychau yn gyffredin mor ordyner, a'r cyf- lawnder ohonynt mor gyfoethog adihysbydd, fel ag i symbylu a boddhau y chwilfrydedd mwyaf craffus. Nid rhyfedd yr ystyrid ef yn athraw y serchiadau. Pa beth bynag a ddes- grmr ganctclo-paias yr naul, neu gongi gysg- odol Ilwyn urddasol ymddygiad a rhwysg brenin neu dduw, neu wladeidd-dra ac an- niwylliant yr isel-dardd; llid-ddigofaint cy- myag a serch angerddol Medea clafychder hiraethus Penelope, neu dor-teimlad a phry- der Phyllis; ymbil Vertumnus, neu ddi- deimladrwydd Pomona, neu ddrwgdybiaeth Cephalus poen meddwl Niobe, neu drueni y geri marwol—y mae yr un ddawn odidog a meistrolgar, drwy ychydig awgrymiadau, yn goleuo y meddwl, a chyffroi holl gynghanedd ac annghynghanedd y teimlad, fel pe byddai holl ermigau gwynion a duon ymwybyddiaeth y galon o dan ei guriadau deheuig. Ceir engraiift o hynyma yn Cephalus a Procris, a'r hwn nid oes yn y Gymraeg gyfansoddiad o fath yn y byd i'w gymharu. Wedi i Aurora ei haner-argyhoeddi fod anffyddlondeb serch- iadol yn llechu yn mynwes gwawr ei enaid," ac iddo yntau wneyd penderfyniad i'w phrofi, mor naturiol y cyfyd pob meddwl drwgdybus. Serch y galon fel wedi ei ranu yn mhlaid ac yn erbyn ei gymhares lândeg-i feddwl yn dda a drwg gyda chyflymder ymwybiaeth gyffrous, i gredu ac annghredu ar gyfnewid yr lianer-flafriol yn arddangos gymaint ohoni hi oedd yn ei enaid, mewn man cyfieua i ddadleu Fèl y mae ei ddychymyg bywiog yn chwilio am aeiliau i ymdrallodi. Mor boenus yw amheu. Eto, ar lithrigfa amheu- aeth, yn brysio i'w wae meddyliol !—yn dyfod i'w chartref gan ffugio bod yn rhywun dyeithr, ac yn mhresenoldeb gwrthddrych ymryson ei deimladau, Fe drodd ei wedd a theimlodd hyny; oblegyd y mae llifiad eithafol wrid, yn ogystal ag ol-lifiad gwelwedd, yn deimladwy. Yr argraff boenus a gaffai arno Llinellau peni- gamp ydynt y rhai lIe y deagrifir mor chwithig y teimlai Cephalus ymgadw rhagddi wrth gario allan ei gynllun. Y mae yn dirgrynu fel nodwydd pany mae y tynfaen yn dyfod i gyffiniau dylanwadu. 0, fel y mae y temt- iwr yn cael ei demtio Fel y mae y profwr o dan brofiad Fel yr ymchwydda yr awydd- fryd nerthol.am ddirwasgu y temtiedig at ei galon—dinaa ei llywodraeth Y mae yn teimlo yn awr ysmaldod a lledchwithdod y cynllun a'i cadwai rhag mwynhad angerdd serch. Y mae hi yn llon'd ei galon a thu allan. Felly, rhwng y ddwy, y mae yn druenus arno-yn gyfyng arno o'r ddau du Y mae chwant cyffesu ynfaich ar ei dafod— yn barod iruthro allan ar yr awgrym lleiaf. Y mae ei enaid yn croni i'w wefusau am esmwythad prif ddatganiad anwyldeb, ae y mae ei freichiau mewn hwyl rhyfeddol," ys dywed y bardd Ffrancaidd, "am ei chylch- ynu Y mae perthynas annaturiol y ddau hoff o'u gilydd yn gyfle i ddawn y gwir fardd, ac y mae y driniaeth a geir ganddo yn odidog lwyddianus. Y mae yn engraifft nodedig o arluniaeth K\h cynefin 4 holl deimladau y galon ddynol. Hynyna, yn ddiau, yw bardd- oniaeth, sef defnyddiad cyfrwng ymadrodd i gynyrchu yn y meddwl-dysglaer yn ei gan- fyddiaeth ond ei ddeheuig gyffroi o'i ddi- faterwch—ymwybiaethau a golygfeydd clir a gorphenedig. Medr y gwir fardd Iwyddo yn hyn pan y mae ei feddwl ef ei hun dan hwyl farddonol, pan y mae ei ymdeimladau ef yn angerddol ac amlwg iddo ei hun, a phan y mae ei feddylddrychau, aflafaradwy i ereill, yn naturiol awgrymu eu priodol ymadradd- ion. Felly, dechreua barddoniaeth yn y meddwl, dadblygir yr holl adnoddau deallol a theimladol, try yr ysbrydolodig yn realities ag y mae yr enaid yn gwbl gynefin a, hwy, ac yna y cyfyd yr awyddfryd anorchfygadwy i lefarn, a'r ymdrech barhaus i ddatgan a gen- fydd ac a deimla yn yr iaith fwyaf egniol. Waeth faint fyddo'r cyfarwydd-der a grania- deg a geiriadur, faint bynag fyddo y ddawn i grugio geiriau a chatrodi ymadroddion swn- fawr, y mae'r oil yn ofer a digyfeiriad. Y mae y frawddeg hono sydd wedi ei chenadu gan yr hyfrydwch meddwl uchod yn fwy gwerthfawr na myrddiwn o linellau hirion a phryddestol. Pwy nag sydd yn teimlo rhag- oriaeth ymadrodd tawel a diymhoniaeth ar ymffrost ac ymchwydd geiriau peirianol ? Ni ddaeth iaith i'w gwasanaethu, ond i wasan- aethu. Dylai y meddwl lwyr ddwyn ymad- rodd i'w wasanaeth ei hun, ae, fel y llygad- ddrych yn gyfrwng gweledigaeth, ei hun allan o'r golwg. Mor flin ydyw llygad-spectol pan y mae brychau arni Diffyg iaith yw pan y daw ei haddurniadau hi yn weladwy, ac felly i dynu sylw y meddwl oddiwrth yr ysbrydol, unig ogoniant llenyddiaeth, at farwoldeb ym- adrodd. Y mae y gwir fardd yn ymhyfrydu yn y meddyliol yn unig, ac yn ddisvlw o bwysfawredd ffurfiau mympwyol, a'i ddibaid ymgais yw rhoddi i ni, ys dywed Eben Fardd, farddoniaeth 0 radd uwch oil na rhydd na eliaeth." CATO. IJIIMN HWWIIIIJIHHBIII U
[No title]
EFFBITHIAU YFED CWRW.—Dywedir mai yn mysg gyrwyr wageni y mae y damweiniau gwaethaf a gesglir i ysbytdai Llundain. Er y gellid meddwl fod y dosbarth yma yn gynllun- iau o nerth ac iechyd, eto os derbynia un olwnynt niwed peryglus, bydd yn rhaid, braidd yn wastad, dori y cymal, neu yraelod ymaith, er rnwyn arbed y bywyd. Priodolir hyn i'r ffaith eu bod yn yfed llawer o gwrw agos bob dydd o'u hoes. Galwyd Syr Astley Cooper unwaith at yrwr, yr hwn oedd yn ddyn cryf corfforol, ac iach yr olwg, wedi cael niwed i'w fya trwy i ddarn o ysglodyn cael fyned i mewn iddo. Parodd hyn i'w fys gasglu. Agorodd y meddyg enwog y fagwraeth gyda'i fflaim {lancet). Aeth wedi hyny allan, ond ar y ffordd, cofiodd iddo adael y fflaim ar ol, ac aeth i'w chyrchu, ac er ei syndod cafodd y dyn ar farw, a bu farw yn mhen ychydig o amser. Dywed Dr. Gordon-" Y foment yr ymosodir ar yfwyr cwrw gan ddoluriau llymdost, nis gallant ddal waghad (depletion), a byddant farw." Dywed Dr. Edwards am danynt-" Y mae eu doluriau yn wastad o natur beryglus." Fel hyn y dywed Dr. Buchanan am danynt hefyd- Y mae yfwyr diodydd wneir o frag yn gwneyd y gwaed yn gludiog, ac anaddas i gylchredeg trwy y cyfansoddiad. Y mae ysbytai New York hefyd yn dwyn prawfion i'r niwed o yfed cwrw, a diodydd syfrdanol ereill, syn ddyddiol ac i ormodedd. fERLLYS (Celery).—Dywedir fod perllys yn beth da rhagorol i'w gymeryd rhag cryndod yn y dwylaw a'r breichiau. Adroddir am rai y byddai eu dwylaw a'u breichiau yn crynu wrth ymestyn allan, yn enwedig os gelwid am wneyd yn sydyn, ond wedi dal i fwyta ychydig berllys ar ol pryd neu ddau bob dycld a ddaethant yn hollol ddigryn. Dylai pawb sydd yn dyoddef oddiwrth guriad y galon, a chryndod y nerves, ofalu am gymeryd perllys pan y byddant yn eu tymhor, a wynwyn pan na byddant. Y GWENYN A'R CLOFER.—Y mae y gwenyn a elwir "humble bees," wedi cael eu hanfon o Loegr, yn ddiweddar, i New Zealand, er meithrin had clofer. Yr oedd'yno fel- wenyn (honey bees) o'r blaen, end dywed Darwin fod gan y rhai a anfonir yno yn awr dduryn (proboscis) hwy a chryfach, i dreiddio ddigon dwfn i'r blodau i gaaglu y rhuddion teg (pollen). Teimlir cryn ddyddordeb yn mysg y gwyddonwyr beth fydd canlyniad hyn. Rhoed un John Hall i edrych ar ol y gwenyn ac yr oedd cryn swm o ia wedi ei ddiogelu yn y llong, i'w cadw yn oer pan yn croesi v cyhudedd. cyhudedd. ARWYDDION MORWROL,2 Y mae M. Treve wedi cynyg i sylw yr Academi Ffrengig gynllun newydd i osod i fyny arwyddion er atal gwrthdarawiadau ar y mor. Yn ol y cynllun hwn, gall y swyddogion hyny a fyddant ary wylfa, wrth weled llestr arall yn nesu atynt, wneyd yn hysbys i'r rhai a fyddant yn hwylio hono, y liwybr a fwriedir gymeryd i'w phasio, a hyny ar amrantiad. Y cynllun yw defnyddio dali fath o da,n,' gwyrdd a choch, i gael eu goleuo yn union gan drydan. Os 11 wy dda hyn, gall fod yn foddion'i arbed miloedd o fywydau.
[No title]
Trodd gwallt geneth fechan yn berffaith wyn, yn Olean, New York, mewn ychydig amser, fel canlyniad i ddychryn wrth iddi weled dau neu dri o feddwon ar yr heol. Y mae tfef o'r enw Brodie, yu California, America, yn meddu ar hynMirwydd, fod wyth mil a bobl yn trigfanu ynddi, a dim na chapel nac Eglwys o fewn ei therfynau •.
BIB EBIONl 0 L'EBPWL. j,¡,
BIB EBIONl 0 L'EBPWL. j, ¡, MOR-DEITHIAU Y WERYDD. Mae perthynasau a chyfeillion ymfudwyr am yr wythnosau diweddaf wedi bod yn pry- deru am ddiogelwch y cyfryw, gan fod cy- maint o son im longddryiliadau a cholledion ar y mor ac o gylch y glanau, felly goddefwch i mi ychydig ofod i wneyd sylw neu ddau yn y cyfeiriad hwn. Yri Sbdus, nid oes un ddam- wain nac anffawd wedi dygwydd i un agerlono- sydd yn mordwyo rhwng y porthladd hwn ac Efrog Newydd yn ngwasanaeth y cwmniau ymfudol. Mae y rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn hirach o ddyddiau lawer ar y daith nag arferol, a phriodolir hyny gan y cyfar- wydd i r ystormydd geirwon a'r croeswyut- oedd ysgythrog. Bu un o agerlongau enwog llinell Inman o ddydd Nadolig hyd chwech o'r gloch boreu dydd Sadwrn, y lOfed o'r mis hwn, cyn cyrhaedd yr hafan orllewinol. Pap bydd agerlong ag sydd yn arferol o gyfiawni y daith mewn naw neu ddeg diwrnod yn cael ei dal ar y daith am o gylch pymtheg diwrbod neu ychwaneg, y mae yn achosi pryder yma Ile mae pobl mor gyfarwydd ag helyntion y mor, a sicr yw fod y pryder yn llawei* mwy yn y wlad. Mae llawer o hwyl-longau wedi eu colli, ac agerlongau ar ol yr amser ond nid oes gwybodaeth am un agerlong yn cludo ymfudwyj wedi ei cholli, -gydag eithrio y Bornpta, perthynol i linell agerawl y Domin- y cl ion, a fordwyant ar adegau i'r tiriogaethau Prydeihig ac Orleans Newydd. Suddodd y Bornpia yn nyfroedd America, a phigwyd i' fyny rai o'r dwylaw a'r teithwyr wedi bod am ddyddiau lawer yn y cychod yn dyoddef newyn, syched, ac oerni nas gellir yn hawdd ei ddesgrifio ar bapyr. Nid oes neb all gael un ddirnadaeth am galedi y morwyr ond v profiadol, a rhywun sydd yn gwybod ychydig am fordeithiau y Werydd..Bydd llawer yn pryderu ac yn ofni y daith dros y Werydd ond unwaith y bydd dyn wedi cynefino 4'r mor, ni fydd yn meddwl mwy am ei groesi na phobl y dyddiau gynt am groesi y mor o Gaerdydd neu Abertawe i Gaerodor. Gwneir gwelliantau parhaus er cysur a diogelwch mordeithwyr ac er fod y gwahanol gwmniau mewn undeb am unffurfiaeth prisoedd y clud- iad, mae cystadleuaeth yn bodoli rliyngddynt mewn aarparu ar gyter cysur y teithwyr, a'r rhaiaffafriant ymfudwyr y trydydd dosbarth fwyaf a dderbyniant y gefnogaeth helaethaf. Mae gan deithwyr yn gyifredin wahanol farn- au parthed rhagoroldeb y naill,linell agerawl ar y Hall, a gellir dweyd nad y cyflyinaf bob amser ydyw y mwyaf dymunol a chysurus j'r ymfudwr. Mae genyf inau fy marn beraonol, gydag ychydig bach o brofiad, ani y gwahanol agerlongau ond ni wna, y tro i mi ddadblygu y cyfryw yn y fan yma fel gohebyddy GWLAD- GARWR, ond byddaf yn gwneyd hyny ar lawer adeg yn gyfrinachol. Nid oes ond ychydig wahaniaeth yn y trefniadau i'r dosbarthiadau oiaenai o roraeithwyr, end pan ddelom at y trydydd dosbarth, sef y steerage passengers, mae y gwahaniaeth yn ddirfawr yn y drin- iaeth a dderbynia yr ymfudwr, a'r bwydydd a ddygir iddo. Mae y dull o goginio a thrin yr ymborth yn afler, a phe gwnelid hyny yn fwy trefnus, byddai yr ymborth yn fwy chwaeth- us, a'r gwastraff yn llawer llai. Gallaf ddweyd fy mod yn llygad-dyst o welliantau mawrion, a gallaf ddweyd fod lie i welliantau mawrion eto, yr hyn a fyddai yn elw mawr i, Ir perchen- ogion, ac yn llesiant annhraethol i'r ymfudwr. Bydd dysteinwyr (stewards) y trydydd dos- barth yn hogiau torsyth ac ystyfnig yn ami; ond y mae yn ddigon hawdd gwneyd trefn a dosbarth ar y cyfryw, trwy wneyd cwyn yn y lie priodol, am nad ydynt yn ddim ond gweis- ion cyflogedig y cwmpeini, yn cael eu llogi at wasanaeth yr ymfudwr. Derbynia llawer cwmpeini air drwg yn amiheb wybod dirri am y rheswm ohono, am nad yw y difaterwch, y sarhad, a'r esgeulusdod yn cael eu gwneyd yn hysbys yn y lie priodol. Pe gwnelai y mil- oedd a ymfudant adroddiadau cywir am helyntion y mordeithiau, byddai llawer tor- dyn hunanol yn cael ei alw i gyfrif yn ami, a chael y "cwd," fel y dywedir, beth bynag fyddai natur ei swydd. Mae yn bosibl creu gwelliantau mawrion yn nghyfreithiau ym- .1 L 1 'I luuiacm it iiongwriaetn yn gyttredin ond nid yw ein Ilywiawdwyr a'n deddf-wneuthur- wyr yn gweled yr angenrheidrwydd am hyny yn awr, gydag eithrio yr hyn a wnawd gan gyfaill y morwrMr. Piimsoll. Mae digon o faes i rai mwy galluog na mi i ymdrin a'r pwnc hwn, ond fe gymer y darllenydd yr awgrym fy mod yn gwneyd yr hyn a allaf er gwyntylltu pynciau cyhoeddus o fiaen y byd, yngymdeithasol a masnachol, er mwynhad i mi fy hun, a llesiant y darllenydd syddyn hoffi darllen ebion o'r fath. Aethum yn mhellach na'm bwriad ary dechreu, abellach rhaid symud yn mlaen at ragolygon ydyfodol. RHA'GOIiYGON MASNAOHOL. Wrth, gychwyn rhaid taro ar yr hen dant, sef fod y marweidd-dra.masnachol wedi dech- reu yn yr Amerig flynyddoedd yn o], ac fod yn rha.id i'r adfywiad ddeohreu eto yn y cwr gorllewinol o'r byd. Priodolir y marweidd- 'dra, i'r naill beth a'r Hall ond rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn cydolygu a llawer o'r frawdoliaeth ar y pen hwn. Beia rin dos- barthy Ceidwadwyr, tra bydd y nesaf yn gosod ydrwg i gyd ar ysgwyddau y Rhydd- frydwyr, a rhaid i mi gydnabod yn onest nad wyf yn credu y naill blaid yn fwy na'r Hall. Mae gan amgylchiadau a dygwyddiadau lawer iawn i'w wneyd a masnacli y byd, fel nas gellir bwrw y bai yn gyfangwbl ar un person neiiiduol. Dechreuodd yr aflwydd yn yr Amerig, fel y cydnebydd pob dyn meddylgar syddyndarlien era y %d masnachol. Achoswyd hyn, yn besaf, gan y cynghrair uieflfg o fewn cylch y Tammany, a phrif hyr- wyd.dwyr y ti-efniaht Satanaidd hwnw oedd- ynt Bill Tweed a Jay. Cook, Dyma suddwyr y pydew; drygionus — dyryswch a malldod maerjach y bydy of or i for, ac o'r afon hyd derfynau y ddaear..Wei, medd, y darllen- J ydd, beth oedd a wnelo hyny a ni yn ydd, beth oedd a wnelo hyny a ni yn Nghymru a Lloegr 1 Dim ond i ti, aros ychydig, a gadael i mi gael tipyn o amser, ymdrechaf egluro y mater mor fanwl ag y medraf, yn ol y dybiaeth,a goleddaf am yr achoe a'r effaith a ddilynodd y trybini mawr, nid yn unig yn ein gwlad ni, ond hefyd y tu- draw i'r Werydd. Cynhyrfwyd marchnad yr arian yn yr Amerig drwy fod gan y cylch Tammanaidd gymaint gafael ar gyfalaf cylch- redol y wlad, fel ycrëwyd pangfa gyffrediuol [ dros yr holl gyfandir, parlyswyd masnach, a gyrwyd miloedd i waeth sefyllfa na bod heb ddim. Dyrysvvyd ma,snachaeth, a gwnawd dynion yn ddiymddiried, fel nad oedd nemawr yn teimlo awydd i anturio ar Un math o rhagolygiad masnachol, am fod marchnad yr arian yn anaefydlog. Dyoddefodd y wlad yn erwin oblegyd fel yr ataliwyd y llaw- weithfeydd, gangreu arswyd ar y bobl. Yn yr adeg yma yr oedd masnach mewn llawn os go gyda ni, a, chynhyrfwyr y bobl, mewn afiaeth, yn cyhoeddi fod y juwbili wedi dechreu, a mil blynyddoedd dedwyddwch y gweithiwr wedi gwawrio ar y wlad, fel nad oedd dim mwyach i fod ond hedd, llwydd- iant, a llawnder, i bawb, o?r afon hyd y mynydd, ac o'r mynydd hydy mor. Nid hir. y parhaodd cyn i'r cymylau gorddu ordoi awyrgylch ein gwlad, a ehylchoedd masnach yn Mhrydain i deimlo nerth a dylanwad yswatiad y lleiqr "gynffondrwst Americanaidd t,n yn parlysu y wlad mewn ystyr fasnachol, a'r werin yn gvyelwi o flaen gwyneb hagr prinder a newyn. Amlinelliad a gofir yn hir gan y meddylgar ydyw y cyfnod hynod hwnw, o 181/0 hyd ddiwedd 1874, pryd y tarawyd; yr ergyd angeuol, ac y,tyllwyd y llong. fasnachol yn Nghymru, gan ddynion o'r un argrafiiad a Jay Cook a Bill Tweed, yn ol y gallu a'r dylanwad a feddent ar y dosbarth gweithiol yr adeg hono, y rhai sydd erbyn heddyw yn dechren gwcled trordd glir trwy, y tywyllwch Caddugawl. Hauwyd hadau1 annghydfod. cenfigen, a malldod, yr adeg hono, gan ffug- garedigion y bobl, a'r ffordd i brofi hyny ydyw galw sylw at symudiadau y gorphenol, i weled fod pob cynllun wedi methu, y caredig- ion ffugiol wedi yrnfeashau, a'r tlawd wedi ei wneyd yn saith tlotach trwy iddo gael ei lusgo i ryfel yn ddiachos. Dylasai y gwyl- wyr tod yn gwybod gwell; ond ni fynasant, a'r canlyniad oedd creii Colledion yn y wlad, yn gymdeithasol a masnachol. Mae rhyfel yn felldith ar bob gwlad, bydded o'r natur a fyno, yn iflwrol neu yn fasnachol. Nid oes daioni byth wrth y gwraidd, am fod y ffyn- onell yn afiaeh a drwg. Os na fydd y tardd- iant yn y ffynon yn glir, pfer dysgwyl am ddwfr grisialaidd yn y gornant. I brofi fod yn rhaid i ni, wrth ddechreuad gwelliantau masnachol, edrych i'r Amerig, nid oes achos myned yn mhellach na gwneyd dyfyniadän 0 gylchlythyr gan iin o'r masnachdai mwyaf ar y Cyfandir Americanaidd, ar ragolygon mas- nach am y flwyddyn 1880, yr hwn a gyhoedd- wyd yr wythnos olaf yn Rhagfyr, 1879. Mae yn eithaf amlwg fod y darpariadau am y dyfodol ar gylch eang a mawreddog, ac er fod masnach yr haiarn a'r dur wedi,dyoddef yn erchyll yr amser aeth heibio, ymddengys fod cyfnod gwell i wawrio trwy holl gylchoedd llaw-weithfaol yr Amerig. Mae yr archebion am gledrau dur a haiarn mewn Haw i adeil- adu naw mil o filldiroedd o reilffyrdd o fewn corff y flwyddyn bresenol, heblaw yr archeb- ion gofynol er cadw mewn trefn a gwaith bedwar ugairi mil o filldiroedd o reilffyrdd, sydd yn rhedeg yno yn barod. Pan mae galwadati,mewnol y wlad yn cymeryd dwy ran o dair o'r haiarn a'r dur a wneir yn bresenol, fe 'all y darllenydd dynu rhyw fath o^ gasgliad am y dyfodol. Mae yr adfywiad a'r cynydd hwn yn eymeryd lie mor gyflytn _1 ag syua Dosioi y meunau a tuo-nt am flyn. yddau yn rhydlyd ac yn segur erbyn heddyw mewn llawn waith, Wrthhynmae gobeith- ion, am ddyfodol llewyrchus a dymunol i bawb, a sicr y daw tro ar bethau yma yn fuan. Os nad o'r Amerig, fe ddaw o wledydd ereill, am nas gall yr Americaniaid gyflawni Ily archebion marchnadol gwledydd ereill pan fydd y galwadau cartrefol yn llewyrchus a bywiog. Wedi dal sylwneillduol ar gylch- lythyrau y masnachdy mawr hwn yn Efrog Newydd, fel nad oes genyf yr amheuaeth lleiaf yn nghywirdeb yr adrpddiad. Gwnaed y neb a fyno yr hyn a ddewiso o hyn, teim- lwyf yn sicr y sylweddolir pob gair a ddywedir, os gellir ymgadw rliag aflwydd a drygioni sefyll-allan, a threfnu pob peth yn deg a di- ddig trwy siarad. Gwyntyllu pob pdth ar y bwrdd o flaen llygaid y wlad,-gan adael heibio y cudd-gynghorau melldithiol ag sydd wedi difetha nerth a gallu y gweithiwr i sefyll ar ei wadnau i ddadleu am gyfiawnder a chyflog. deilwng am yr hyn a wna efe fel llafurwi° bydded o'r natur y byddo. Y CYFYNGDER YLF YB IWBRUDON. [; Mae yr adroddiadau diweddaf o'r Werdd Ynys yn dangos fod y werin mewn sefyllfa isel, a newyn yn rhytliu i wynebau y miloedd. Mae yn syri meddwl fed ynys mor ffrwythlon ;mewn sefyllfa mor ;dlawd, a'r trigolion ar idrothwy newyn. Tybia llawer fod rhyw faw yn y caws heblaw newyn a dim gwaith, oble- gyd fe gyrhaeddodd casgliad "ceiÙiogau Pedr am y flwyddyn 1879 y swm taclus o ddeg mil ar tigain d bunau, y rhai a dros- glwyddwyd i'r Pab. Os felly, mae yn rhaid fod y frawdoliaeth yn gyfoethog, a dylent fod; yii mheli o gyrhaedd newya ac os ydyw haner yr hyn a ddywedir yn wirionedd am y cyfyngder, mae 11awer iawn o gyfrifoldeb ar offeiriaid yr Eglwys, gan nad oes neb alt fod yn gwybod am sefyllfa y praidd yn well na'r u bugeiliaid. Mae Mr. Sfrnpson, o'r dref hon, yn cymeryd dyddordeb neiiiduol yn y mater, i r dyben o enill dylanwad y Gwyddeloder cael ei ddychwelyd i'r Senedd yn yr etholiad nesaf. Ond ofnir mai gwan iawn fydd ei gyf- leusdra, er cymaint y gallu a feddantyny. iwrdeisdrefi:—Yr eiddoch, • i ..i CYMRO GWYLL-T.
..-lrlith-0 Hyd« ?ark, Ameriea.—
lrlith-0 Hyd« ?ark, Ameriea.— 7- YN ddiamheuol y byddai yn dda iawn gaa amryw glywed gair o helynt y lie hwn, oherwydd nid oes nemawr gymydogaeth yrt Nghymru heb fod yn teimlo dyddordeb yn helynt Hyde Park, a hyny ar gvfrif y ffaith fod yma bersonau o bob llauerch trwy der- fynau yr Hen-Wlad. Dylifa dyeithriaid yn bresenol o bob parth o Gyrnru, ac, mewn rhai achosion, troant yn ol, oherwydd yr hanesa. geir yn y GWLADGARWR a newyddiaduron ereill am yr adfywiad sydd. wedi cymeryd lie yn y fasnach yn Nghvmru. Ys-jrifena un i'r Faner yr wythnos hon, yn gwadu fod Gwaith Oyfarthfa mewn ffordd i gyflogi gweithwyr nadoes yuo le i ragor nag ychydig iawn o weithwyr, ac nad oes rhagor na.ihrf turn yr wythnos yn cael en gweithio; ar gyfartaledd trwy Gwm Rhondda. Cymyiog iawn yw helynt Cvmi-ii, yi-i ol ei farn ef, ac nid yw ei rhagolygon yn galonogol mewn un modd wrth edrych arnynt yn ngoleu ei iythyr. Purion peth fyddai i fwnwyr yr Hen Wlad i gofio pan yn dyfod i'r gymydogaeth hon, mai labro sydd yn eu haros. 'Does wahaniaeth beth yw eu profiad am waith tan ddaear. Rhaid ymgymodi a'r rhan ytna, a hyny am dymor go hir yn y rhan amlaf o achosion. Daw lluaws i'r lIehwn gan feddwl nad oes dim i'w wneyd ond gofyn i'r gaffer am dalcen, ac yna panu ar y glo. Dyma gamsyniad dybryd. Y mae yma bersonau yn bresenol yn aros am leoedd er's blynyddau, ac etc heb eu cael. Y mae y siomedigaeth hon wedi tori calon llawer un wedi dyfod yma, ac oherwydd hyn. tarana ei anathema ar ben y wlad yn ogystal a'r personau a roddasant awgrymiadau calonogol iddo pan yn cychwyn o gartrei. Fy marn yw fod y gymydogaeth. hon yn an ffafriol iawn i ddynion dros 50000, oherwydd byddant wedi myned yn rhy hen i ddal o dan oruchwyliaeth y rhaw, tra y medr dyn ieuanc gwrol ymladd. a hi yn o lew. Un. o brif nodweddion y greenhorns yw eu. tuedd i dalu; ymweliad a'r saloons (y tafarn- dai), ac i ganu ambell gan, serch ynq" megys Pen.WJad fy Nhadan," Ci Mab wyf fi sy'n byw mewn peayd/' &c. Yn awr, fechgyn, nid dyna y ffordd i gychwyn bywyd yn y wlad hon. Cymerer yr avvgrym. Edrycha masnach y wlad hon tuag i fyny ond y mae y tyinor hwn o'r flwyddyn fel rheol yn farwaidd; oherwydd atelir y gweith- feydd i raddau er mwyn gwaghau y farchnad. Mewn rhai manau y mae y glofeydd yn segur j7n awr am dymor byr, ac mewn manau ereill gweithir ychydig yn llai nag haner amser. Y mae y don yn flafriol o blaid dechreu y flwyddyn ac mor fuan ag yr ymestyna y dydd, ceir gweled cyffroad yn y gweithfeydd. Yr ydys wedi derbyn codiad o 10 per cent eisoes gan rai o'r prif Gwmniau, a diau na ddilyuir ef gan godiad arallyn fuan eto. Y mae^ yn amlwg fod brwydr galed rhwng y wlad hon a Lloegr ar y maes masnachol. YM- drecha y naill ei goreu i ladrata march ar y llall; ond peidier a gwylltio, nid yw masnach Prydain Fawr yn myned i farw eto. x mae llenyddiaeth yn uchel iawn yn y lie hwn. Ceir yiiia lyfrgell beautiful at wasan- aeth y lie, yn cynwys tua, 4,000 o gyfrolan o weithiau yr awditron mwyaf clasurol. Y mae yma gymdeithas athronyddol hefyd, a der- bynia nawdd prif ddynion yr ardal. Daw y managers penaf yn mlaen mor ostyngedig a'r door-boy i gymeryd rhan yn y gwaith, a, gwnant eu goreu i wneyd y gymdeithas yn gyfrwng dyddorol ac adeiladol i'w gweithwyr. Yr wyf yn wir hoff o'r ysbryd hwn a ddengys ein prif swyddogion yma. Ni ddygwyddais erioed gyfarfod a'r fath nythle o fechgyn da yn gantorion, beirdd, llenorion, a phob gras arall aydd ofynol i wneyd cymdeithas yn adeiladol a dyddorol. Y n ystod y gwyliauhyn, gyneiir amryw o Eisteddfodau ar raddfa uchel. Dichon mai yr hynotaf yw eiddo Columbus, Ohio—nid ar gyfrif ei llwyddiant, ond ar gyfrif ei haf- lwyddiant. Na, nid yw hyny yn iawn ychwaith, oherwydd ni fu yn llwyddianus nac aflwyddianus eto. Eisteddfod yn yr abstract ydyw. Y maehelynt llenorion y wlad hon yn cw> sio ar ol Eisteddfod Columbus, Ohio yn debyg i hanes Gito'r Crydd yn hel y lleuad Wedi dringo i beny gorwel draw, gal) feddwl yn sier fod y lleuad yno yn ei aros, yn ol yr arwyddion a gafodd o bell, cafodd ei siomi yn arw pan welodd fod y lleuad wedi cymeryd ei safle ar gaut gorwel' arall oeddynt lawn can belled. Rho"ddodd Gito yjob i fyny for bad Inch, bid siwr. Rhy w- beth tebyg yw helynt y pwyllgor uchod a'u- Heisteddfod. Cwhwfir y banerau, gwahoddir y beirdd, ac anogir y cantorion i barotoi i'r ornest; ac wedi i.luaws ohonynt drwsio eu hunain, gwisgo eu sandalau, gwregysu eu lwynau,: cocio eu clustiau, a gosod eu trwynau yn harod erbyn dydd y pra'wf, wele' yr Eisteddfod Wedi ei gohit-io hyd amser anmheiiodol. Dywedrhaio lenorion y lie hwnjnai dyma y bedwaredd dro i'r Eistedd- ?>u n 1 fel cysgod, ac ni saif., Rhag eich blino y tro hwn a meithder, terfynaf fy llith, gan addaw anfon helyntion y cymydogaethau cylchynol i'r GWLADGARWR yn awr ac eilwaith.—Yr eiddoch, JOAK.
[No title]
Gofyriwyd i sirydd, neu ei geisbwl, unwaith- wasanaethu gwarant yn erbyn Crynwr (^iuiker). Wedi myned at y t^, gwelodd yuaker, yr hwn mewn atebiad i'r gofyniad a oedd ei gwr gartref, a ddywedodd ei fod, ac, "i1 ceisiodd ganddo i eistedd, gan e— ei gwr ef yn fuan. Aros- o,dd y airydd am gryn amser yn dra amynedd- gar; a ph an ddaeth y Gwaceres deg i'r ystaf- ;0lJ; adgofiodd Jii o'i haddewid, y byddai iddo ef weled ei gftr. Na, gyfaill," ebai hi,; addewais y byddai iddo ef dy weled di; ac. y mae wedi dy weled. Nid oedd vn hoffidy. 'olwg gan hyrty ymgadawodd rhagot, ac ,aeth ? ty rd Y"Y ym'y o r ffordd arall. t