Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
"Eisteddfod Pisgah Pil, Nadolig…
"Eisteddfod Pisgah Pil, Nadolig 1879 I TEIRNIADAETE "MAN CYNTFIG" AR Y CYF- t ANSODDIADAP BALIDDONOL. I Englyn Vr Llywydd, sef Mr. Gwilym David, underground manager, Bryndu. Daeth i law bymtheg cyfansoddiad yn dwyn y ffugenwau canlynol:—Ophar, Car iddo, Guto o Lasgatwg, Canwr gyll 18 ceiniog. Madawg, Brychan, Eben, Llen- garwr, Hen Brydydd, Virgil, Un o fin hyfryd Afon Hafrsn, Hogyn, Iolo Mor- gan wg, Ei Edmygvdd, a Barfog. t phar.-M¡,.e gan hwn Faladr da iawn. Dechreua fel hyn O'i law a'i galon hael yw Gwilym. Mae y llinell ganlynol yn wallus o ran eynghanedd:— Gwr hollol dreiddgar a llym. Mae y Toddttid sydd ganddo yn diweddu ei englyn yn anystwyth. Car iddo —Mae englyn hwn eto yn di- weddu gyda Thoddaid. Nid yw gwiw a heddyw yn cydodli. Mae y syniadaeth befyct yn dywyll. Guto o Langatwg.-Cywir o ran ey- nghanedd. Dechreua yn dda, ond diwedda yn llipa. Canwr gyll 18 ceiniog.-Mae gan Canwr Baladr gwych i'w englyn, ond Esgyll gwael. Madawg.—Mae Madawg yn alluog fel eynghaneidwr, ond mae ei syniadau yn wasgaredig. Y mae yr ansoddeiriau sydd ganddo yn anmhriodol mewn englyn i lyw- ydd Eisteddfod Er fngraifft:- Cawraidd lenydd cyhyrog. Mae ganddo air Seisnig yn diweddu ei englyn, yr hyn sydd wrthun, tra mae digon eiriau Cynureig wrth law. Brychan.—Mae y llinell ganlynol wedi anurddo darlun yr awdwr hwn :— Uno dalent diwaelod. Eben.—Yn dda, ond nid yn ddigon barddonol. Llengarwr.- Yn bur dda, ond y dryd- edd linell yn egwan. HeB Brydydd.—Llithrig. Cyffredin yw y llinell ganlynol:- I lenor a cherddor nid chwyn. Virgil-Tuedda i wibio oddiwrth y testvn. Un o fin hyfryd Afon Hafren.—Llithrig a thlws. Hogyn.—Crwydro oddiwrth y testyn. lolo Morganwg.—Eglur a naturiol. Ei Edmygydd.-Mae haner proest yn y llinell ganlynol:— Yn lluniaetli wrth fodd llenydd. Barfog.-Englyn gwir deilwng o wrth- ddrych y testyn. Barfog yw y goreu, ac yn wir deilwng o wobr. Tri Phenill i'r Wenynen." Daeth naw cyfansoddiad i mewn ar y testyn hwn. Y cyntaf yw Bardd Ieuanc.- Pcnillion lied gyffredin sydd gan y cyfaill hwn, heb yni barddonol. Pan welais hon feddyliais. Pan welais hon meliais ddylasai fod ? onite. Mae Mi welais, un diwrnod," Sydd ar y ddaear lawr," &c., yn hen ffurf faledaidd o gyfansoddi. Y blodau braf" Or gair Seisnig brave mae y gair braf" yn dyfod. CondemDiodd yr enwog Caledfryn lawer ar y gair hwn yn ei sylwadau at y beirdd yn y GWLAD- GARWR. Bachgen.-Mae'r bachgen yn cymeryd ffurf newydd o osod penawd ei destyn. Gesyd ef yn niwedd y cyfansoddiad yn lIe yn y dechreu. Tair penill i'r Wenynen." "Tri" sydd briodol. Mae ganddo "sydd yn lIe "swdd." Hefyd, mae y eysylltiad banodol a'i heb dalfyrnod (') rhwng yr a a'r i. Er hyny, mae ganddo rai llinellau tlysion yn ei gan. Joseph.-Mae Joseph eto yn syrthio i'r un gwallau. "Sydd" yn lie "sudd." Mae'r gair "braf" eto wedi dyfod i'r bwrdd. Ai yn 11e a/i. Anian laeth yn lie "anian laith." 'Roedd gusan bach eyn 'madael. Rhydd gusan bach cyn 'madael ddylasai fod. Neptune.—Llithrig a barddonol, ond gwallus mewn sillebiaeth. Gwilym.—Llithrig a naturiol. Nicholas Ridley.- Y mae penill cyntaf Nicholas wedi ei gyfansoddi i'r Wawr," a dau i'r "Wenynen." Tebyg iddo an- nghofio ei destyn. Mae ganddo benillion barddonol a desgrifiadol, Zoroaster.—Mae hwn yn gyfansoddwr medrus. Mae ei gan yn naturiol ac addysg- iadol. Robert Rainbow.—Dyma benillion yn llawn o dlysni barddonol. Cawsai y wobr oni b'ai fod Glyndwr ryngddo a'r dorch. Glyndwr.-Er cystal ydyw y cyfansodd- iadau blaenorol, llwyddodd Glyndwr i bletbu gwell cerdd i'r "Wenynen" na'r oil o'i gydymgeiswyr. Y mae yn gartrefol gyda chyfansoddi barddoniaeth. Y mae ganddo rai llinellau hynod swynol. Er j engraifft j Mae yn ei hanianawd weithgarwch di-ail. i Ei nef sy'n orielau y blodau a'r dail. Nid oes bod mwy diwyd yn symud is haul. Glyndwr yw y goreu.
Masnacli lo Heheudlr Cymru.
Masnacli lo Heheudlr Cymru. Y SLIDING SCALE WEDI EI MABWYS- IADU. —CODIAD 0 5 Y CANT. Dydd Mercher, y 14eg cyfisol, cynaliwyd cynadledd o'r meistri a ehynrychiolwyr y glowyr yn y Royal Hotel, Caerdydd. Ar ran y meistri, sef Mri. Cartwright, Hood, Nixon, a Yeo, llywyddai Mr. W. T Lewis, a Mr. W. Abraham yn is-lywydd. Y cyn- rycbiolwyr presenol ereill oeddynt Mri. Samuel Davies, Philip Joues, a David Mor- gan, ar ran torwyr glo ager; a Mri. J. Blacker, J. Jenkins, Isaac Evaus, a Thos. Phillips, yn cynrychioli torwyr glo tai. Mr. Alexander Dalziel yn ysgrifenydd y meistri, a Mr. John Thomas yn ysgrifenydd i gynrychiolwyr y glowyr. Treuliwyd dydd Mawrth i ymgynghori yn rhagarwein- iol gyda golwg ar y Scale. Barnai y meistri y byddai un Scale unffurf i'r glo mor a'r glo tai i ateb y dyben yn well na dwy Scale. Daethai cynrychiolwyr torwyr y glo tai i'r gynadledd wedi gwystlo eu hunain i gefnogi, a mynu, os yn bosibl, ddwy Scale. Cychwynasant ar y cyntaf gyda'r cynygiad fod dau fwrdd i fod. Rhoddasant i fyny i berswadiad y meistri mai un bwrdd oedd i gael ei sefydlu ond yr oeddynt yn ddi- ysgog yn eu bwriad i gael dwy Scale, a'r egwyddor fyddai yn rheoli graddfa cyflogau un i fod yn gwbl annibvnol ar y Hall. Yr oedd y siarad ar hyn yn dra bywiog. Yr oedd torwyr glo ager hytrach yn cetnogi y syniad y dylai fod dwy Scale; ae o'r di- wedd, gofynodd y meistri iddyrit, pa un a ddewisent un Scale, neu ddim Scale, ac yr oedd y dynion yn ffafr i beidio cael Scale, os nad allent gael dwy. Ar hyn, dechreu odd y meistri ildio i ddymuniadau y gwefth- wyr. Dydd Mercher, bu cynadledd rhwng y meistri a'u gilydd am tuag awr cyn i'r cynrychiolwyr gael eu derbvn i fewn. Yna, daeth y cwestiwn o ddosbarthu y glofeydd i'r perwyl i benderfynu safon; ae ar ol cryn siarad, glynwyd wrth yr hen drefn- iant. Pentwr rhif 1 i gyuwys yr boll byllau glo ager. Y glofeydd hyn ydynt y rhai mwyaf, ac a gynyrehant yn agos i dair rhan o bedair o'r holl lo a godir o'r ddaear. Cynwys-int Dowlais, Aberdar, Navigation, Powell's Dyffryn, Rhymni, yn nghyd a holl byllau glo ager Cymoedd Aberdar a Rhondda. Fodd bynag, y mae gwahan- iaetb dirfawr yn aasawdd glo tai y Rhon- dda a dosbarth Mynwy, gau fod yr olaf lawer yn rhagorach na'r blaenaf; ac y mae y glofeydd yn y dosbarthiadau hyn yn ffurfio pentyrau rhif 2 a 3. Yr oedd y gweithwyr wedi parotoi eu Scale, a'r meistri eu Scale h wythau, erbyn cyfarfod a'u gilydd. V_1-=-=-1 1 1-1-. -L x luuriuiw ju yn uuiixiiux ar UVU PWYUIJ wrth fyuei yn mlaen, ac o bryd i bryd ymneill iuai cynrychiolwyr y glowyr i ym- gynghori ar gwestiynau a gyfodent yn eu mysg eu hunain, ac yna, dychwelent i'r gynadledd i gyfarfod y meistri. Terfynodd y cwestiwn o ddosbarthu y glofeydd mewn ffurfiad un Sliding Scale, gyda safon wahan- ol i dorwyr glo ager, a glo tai; ac yn y wedd hon, sicrhawyd manteision dwy Scale, tra yn ymarferol ni fydd ond un. Er bod yn alluog i wneyd hyn, unwyd pentyrau rhif 2 a 3 yn un, fel y bydd graddfa y cyf- logau a delir i dorwyr glo tai yn Mynwy yr un a'r hyn a delir i'r unrhyw ddosbarth o weithwyr yn Nghwm Rhondda. Yn flaen- orol, nid felly yr oedd, a gwna byn osod torwyr glo tai yn y Rhondda mewn gwell sefyllfa nag a fuont o'r blaen. Pan orphen- wyd y rhagflaenolion hyn, daeth graddfa y cyflogau i'w hystyried yn nesaf, yr hyn fu yn destyn hir ymgynghoriid. Cyfarfydd- odd y meistri a golygiadau y gweithwyr gyda llawer o ryddfrydedd, a chynygiasant S.ale lawer yn fwy syml a hawdd ei gweith- io na Scale Ferndale, na'r Ocean. Yn y Scale newydd, yr ydym yn deall na cheir dim o'r cymhlethiadau ag a welir yn y ddwy Scale a nod w yd, ond fel yr hen Scale. Penderfynwyd ar safon, a safon ar ba un y dylai lleiaf-swm graddfa y cyflogau gael ei dalu. Sefydlwyd graddfa y lleiaf-swm ar bump y cant o godiad ar raddfa bresenol y cyflogau, pan fydd y glo ager yn 8s. y dunell. Dyma y lleiaf-swm, islaw pa un ni thybir y syrthia y glo ager. Sefydlwyd pris lleiaf glo tai yn 8s. y dunell. Dyma fantais arall i dorwyr glo tai. Dan yr hen Scale, yr oedd y gwahaniaeth yn ngraddfa y cyflogau yn sylfaenedig ar y gwahaniaeth yn mhris y glo ager a'r glo tai o Is. y dunell. Ni fydd y gwahaniaeth yn awr ond 6e. y dunell. Caniataodd y meistri godiad uniongyrchol o 5 y cant ar raddfa bresenol y cyflogau,^ ddechreu ar y laf o Chwefror nesaf; a chytunasant i wneyd hyn, gan nad beth fydd pris gwerthiadol y glo. Os bydd y glo ager yn gwerthu am 8s. 6e. y dunell, a'r glo tai am 8s. y dunell, yr amser hwnw, dechreua y gyfundraeth newydd. Yna, dechreua cyfundraeth o godiadau o 2l y cant am bob 4c. y dunell o godiad yn mhris y glo. Dan yr hen Scale, vi wnaed y codiadau ond fel y byddai pris y glo yn codi Is. y dunell; ond yn awr, y mae y codiad i ddechreu pan gwyd y glo 4c. y dunell. Mantais arall yw y bydd llyfrau y glofeydd yn cael eu harchwilio bob tri mis, ac nid bob chwe' mis. Galluoga hyn y glowyr i dderbyn codiad yn eu eyflogau bron yn uniongyrchol ar ol codiad yn mhris y glo. Yr oedd y pwyntiau hyn oil yn wir bwysig i'r gweithwyr, a diau y bydd hyn i wella llawer ar eu sefyllfa. Rhwymir y meistri a'r gweithwyr wrth y cytucdeb hwn am ddwy flynedd, ac addawodd Mr. Dalziel gyboedsli yr holl fanylion y Sadwrn canlynol.
Badigrenyn yn Cysgu g-yda…
Badigrenyn yn Cysgu g-yda Chi. Adrodda'r Cambrian News y dygwydd- iad hynod a ganlyn:— Yn nghyfarfod diweddaf Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Mhwllheli, daeth Mr. Hugh Jones, y gwarcheidwad dros Tydweiliog. ag hogyn cryf yr olwg, yr hwn a ddywedodd ei tod yn 15 oed, o flaen y bwrdd, a dywedodd ei fod yn ei wasanaeth ef, ac nad oedd ganddo ragor nag un par o ddillad, ac os rhoddai y bwrdd bar arall iddo, y gwnelai ef ei gadw. Sylwodd rhai o'r gwarcheidwaid, os oedd y bachgenyn yn werth rhywbeth, ei fod yn werth ei ddillad, ond dywedodd Mr Jones na fyddai iddo roddi dillad i'r crwt hyd nes y byddai wedi eu henill hwynt. Dy- wedodd fod y bachgenyn yn cysgu mewn cyndy (sef tY'r ci), ond pan yr ymresymid ag ef, dywedodd fod yn well gan yr hogyn y lie hwnw. Awgrymodd un gwarcheid- wad y dylai Mr. Jooes gloi y cyndy, er mwyn rhwystro y erwt i gysgu yno; ond Mr. Jones a ddywedodd fod cystal gwelv yn y cyndy ag a allai'r bachgenya gael gan y dynion. Gwarcheidwad: Ond y mae hyna gwn yn y cyndy. Mr. Jones: Dim ond un. Yr wyf wedi cysgu gyda ehwn fy hunan cyn hyn. Y Clerc: Y gwahaniaeth oedd fod y ci wedi cysgu gyda chwi, ond y mae'r hogyn yn cysgu gvda'r ci. Gan ei fod wedi cael ei ddweyd nad oedi y crwt yn eithaf call, dywedodd y cadeirydd mai y lie goreu iddo ef oedd y ty, a thalwyd ei draul i Dolgellau, i'r hwn undeb y perthyn-i.
Mam yn Llindag-u ei Baban.
Mam yn Llindag-u ei Baban. Tuag wythnos yn ol, cynaliwyd treng holiad yn Northampton ar gorff baban perthynol i grydd o'r enw James Bates yr hwn a lindagwyd gan ei fam, Sarah Bates, ar foreu dydd Iau. Dywedodd y gwr iddo fyned i'r gwely fel arfer gyda'i wraig y noson flaenorol, a boreu dydd Iau, iddo gael y plentyn yn farw wrth ochr ei fam, yr hon a ddywedodd iddi ei lindagu a'i bysedd. Y dydd Llun blaenorol, daeth y fenyw allan o'r gwely, a chynygiodd gyf- lawni hunanladdiad trwy gylymu rhaff yn dyn am ei gwddf. Y gwr a hysbyso id yr hyn a ddygwyddodd wrth y relieving officer, yr hwn a roddodd i'r dyn nodyn meddygol. Gwelodd y swyddog meddygol y fenyw, a dywedodd wrth y gwr i'w gwylio hi, ond ni ddywedodd ei bo-1 yn wallgofus, ae ni wnawd unrhyw foddion y pryd hwnw i'w symud i'r gwallgofdy. Gwnaeth y crwner riodiadau ar ymddyglad y relieving officer a'r dyn meddygol, a dywedodd y gallesid osgoi yr amgylchiad hwn, pe b'ai rhag- rybud iion priodol wedi cael eu defnyddio. Bvdd i ymddygkd y swyddogion hyn, wrth gwrs, gael ei olrhain gan Fwrdd y Gwarch- eidwaid. Dychwelodd v rheithwyr y rheithfarn o Lofruddiaeth wirfoddol."
Prinder a Hewyn yn yr IwerMon.
Prinder a Hewyn yn yr IwerMon. Newyddion torcalonus a'n cyrhaeddant o'r Chwaer am sefyllfa drueaus miloedd o amaethwyr bpchain, a llafurwyr, y rhai vdynt heb ddim i'w wneyd, na dim i'w fwyta. Y maent yn gorfod bwyta yr ycbydig datws oeddynt wedi osod o'r neilldu i fod yn datws had. Tystiant eu bod yn well ganddynt gael eu saethu na dyoddef newyn. Y mae yno amryw der- fysgoedd wedi cymeryd lie yn ddiweddar; a phan ddaw y milwyr neu yr heddgeidwaid yn mlaen dadorchuddia y terfysgwyr eu mynwesau i dderbyn y bidogau. Cesglir miloedd o bunau trwy y deyrnas er lliniaru eu dyoddefaint.
Dynes wedi ei Dita. ;ran Flaidd…
Dynes wedi ei Dita. ;ran Flaidd mewn Ysgubor. Ychydig ddyddiau yn ol, lladdwyd dynes ieuanc, yr hon oedd wedi ei chauad i fyny fel cosb am ryw fai yn ysgubor ei thad yn Baud (Morbiham), gan flaidd, yr hwn a aeth i mewn ati drwy y to wrth ddringo i fyny i dwmpath o ysbwriel. Bu y teulu wrth eu gwaith yn y caeau am ryw bell- der; ac ar waith y tad yn agor y drws i ryddhau y plentyn, neidiodd y blaidd allan a dianc, gan adael ar y llawr weddillion haner-llarpiedig ei ysglyfaeth.
[No title]
295 yw nifer y llestri sydd yn ffurfio y llynges Brydeinig yn awr.
Damweinlau ary Mlieilffyrda.
Damweinlau ary Mlieilffyrda. Boreu dydd Mercher diwedde,^ dygwydd- odd damwain ag a ach^odd gryn oediad mewn masnach ar Peilffordcl Manchester, Sheffield, a sir Lincoln, rhwng Ashton- under-Lyce a Staleybridgo. Oddeutu 6 o'r gloch, safai tren nwyddau a dau ager- beiriant ar yr tip line, lie y daeth tren nwyddau arall i fyny, a thori i mewn iddo o'i du ol. Niweidiwyd y ddau ager-beir- iant yn fawr, a darniwyd amryw gerbydau. Blociwyd y llinell, ac ni chliriwyd hi am amryw oriau. Niweidiwyd neb yn ddifrifol iawn. Dydd Mawrth, wythnos i'r diweddaf, dygwyddodd anffawd i dren teithwyr perthynol i Lancashire ae Yorkshire o Meltham i Bradford. Pan yn agos i Hud- dersfield, lie nad oedd y points wedi cael eu hagor yn briodol, trodd yr anger-beiriant i linell arall, a thaflwyd tender ac un o'r cerbydau goreu ar draws y rheiliau. Ys- gwydwyd tua dwsin o deithwyr yn dost, ac yr oedd y ffordd barhaus wedi ei thori i fyny am amryw latheidi. Pellebrwyd am dren arall i gludo y teithwyr yn mlaen i Bradford. Nos Fawrth diweddaf, cymerodd gwrth- darawiad dychrynllyd le yn Ngorsaf New- street, Birmingham. Rhuthrodd tren ag oedd wedi cyrhaedd yr orsaf o L'erpwl heibio yr esgynlawr, a thori i mewn i ager-beiriant ag oedd yn aros ychydig nes yn mlaen i ddwyn y tren i Lundain, gan ei wthio gyda nerth ofnadwy yn erbyn brake van a rhai cerbydau ag oeddynt yn sefyll wrth y shunting-points gerllaw. Yr oedd y brake van wedi ei ddistrywio, a'r ddau ager-beiriant wedi eu niweidio yn fawr. Ysgwydwyd y teithwyr ag oeddynt yn rhan flaenaf i dren L'erpwl, a lladdwyd tri o bersonau, a niweidiwyd tuag ugain. Mae y rhai a niweidiwyd mewn sefyllfa ddifrifol.
j>ychrynfeydd filiyfel yn…
j>ychrynfeydd filiyfel yn Peitu. Ysgrifena gohebydd o Pisagua fel y canlyn :—Y mae boneddigesau Cbiliaidd yn Peru wedi derbyn y driniaeth fwyaf gwaradwyddus. Pan wybyddwyd yn Lima a Oallas fod y fyddin Chil'faidd wedi cymeryd Pisagu&, cymerwyd amryw fenywod i'r ysgwar gyhoeddus, diosgwyd hwy yn noethion; ac wedi eu treisio, gorfyddwyd hwy i ganu anthem genedl- aethol Peru. Cymerwyd y gwnfad Pil- comayo perthynol i Peru.
Gweitlifa naiarn y Gadlys,
Gweitlifa naiarn y Gadlys, Yr ydym yn deall nad oes un cytundeb terfynol wedi ei wneyd gyda golwg ar drosglwyddiad y gweithfeydd hyn i ddwy- law newydd. Y mae ymgais wedi bod at hyny er's cryn amser, a mynegir pa un a fydd i'r weithfa newid dwylaw neu beidio, ei bod yn lied debyg y cychwynant yn fuan. Hyderwn fod y daroganiad hwn yn wir. Rhoddai hyny fywyd newydd yn Aberdar.
Masnach yr Haiarn a'r Glo.
Masnach yr Haiarn a'r Glo. MAE y don yn yr hon y mae yr adfywiad masnachol yn cael ei ymdrin mewn eysyllt- iad a chynadleddaa a thrafodiaethau mas- nachol drwy y deyrnas, gan ddynion sydd yn gymhwys i lefaru gydag awdurdod, yn un a ddylasai brofi i'r graddau uchaf wir natur a pharhad y eyfryw adfywiad, yn enwedig i'r rhai hyny sydd ynhwyrdrwm i gredu fod parhad yn perthyn iddo. Darfu i Iarll Derby lefaru yn ddifloesgni y dydd o'r blaen wrth anerch yr Huddersfield Chamber, pan yn rhoddi ei reswm am y gobaith oedd ynddo drwy holl ystod y marweidd dra. Oddiar y flwyddyn 1873 i waered," meddai, nid ydym, fel cenedll o fasnachwyr, wedi bod mor ddrwg a mell- dithio sylwedyddion, y rhai a feiddient ddarogan yn nghylch y caledfyd oedd wedi dyfod arnom. Ni ddaeth ein cyfalafwyr a'n gweithwyr erioed allan mor ddianaf o gyfyngder masnachol hirfaith ag y maent wedi dyfod yn bresenol, ac nid yw marw- eidd-dra masnachol mor hir-barhaol erioed wedi rhoddi ffordd mor ddiymod i fywiog- rwydd cynyddol." Dangosodd Mr. King, cadeirydd y Glasgow Chamber of Com- merce, yn nghyfarfod blynyddol y sefydliad hwnw, yr wythnos ddiweddaf, fod "pób sail i ddysgwyl dychweliad graddol o lwyddiant cyffredinol ar fasnach drwy Brydain, a gwledydd masnachol y byd yn gyffredinol." Dywedai hefyd fod y cy- nydd yn ngwerth pethau yn ystod y tri mis diweddaf yn agos i ugain punt y cant, ac yr oedd pris gwerthu haiarn-bwrw Alban- aidd wedi myned i fyny i'r fath helaethder, yr hyn, os gwnai ddal yn mlaen am ysbnid y flwyddyn hon, a wnai roddi dognau enilJfawr i berchenogion llof-weithfeydd. Credwn y gwna y llwyddiant masnachol sydd wedi gwawrio arnom fyned rhag ei flaen, oblegyd y mae ychydig wybodaeth am y ceisiadau sydd ar law yn rhoddi sail i'r cyfryw a ddarllenant arwyddion yr amserau ein bod i fwynhau llwyddiant masnachol cyffredinol. Dichon y bydd darllenwyr gweithgar y GWLADGABWK yn cael eu synu pan ddywedwn fod, cyn y cyfarfod chwarterol diweddaf, archebion ar gyfrif Americanaidd wedi eu gosod yn 5 meddiant cwmniau Prydeinig am ddim llai na miliwn o dunelli o fariau haiarn, i'w trosglwyddo drosodd yn ystod y flwyddyn. hon ac yn y cyfarfod chwarterol diweddaf, yr oedd y cais yn parhau yn mlaen, yr hyn sydd yn gysur i feistri a gweithwyr glo a. haiarn ein gwlad. Y cais am alcan-lafnau^ yn nghyfarfod Birmingham, yn filoedd lawer o flychau. Y farn gyffrediaol YI1: Middlesbro', Wolverhampton, a Birming- ham, oedd fod prisoedd gwell i ddyfod yn,, mlaen yn rheolaidd, ac nid oedd neb yn gosod archebion ar eu llyfrau ond yr hyn a ellesid gwblhau yn y chwarter hwn. Yr ydym am i weithwyr ein gwlad wybod. hyn. Yn fuan, a bydd y meistri yn fwy galluog i roddi codiad cyflogau nag y maent yn bresenol. Mae fod yr haiarn a'r dur yn codi yn eu prisoedd yn arwydd sier y cyfyd y glo hefyd. Wrth daflu golwg dros wa- hanol ranau y Dywysogaeth, yr wythnos- ddiweddaf, yr ydym yn gweled fod mas- nach yn MORGANWG yn parhau i gynyddu mewn llwyddiant. Yn y Gyfarthfa a Dowlais, mae gwaith yn myned yn mlaen yn fywiog nos a dydd. Haiarn-bwrw, bariau haiarn pydledig, rheiliau haiarn a dur, tin bars, a steel bloomsf. ydynt yr umrywiaethau a wneir yn Now- lais, ac yn y Gyfarthfa gwneir bariaik pydledig, haiarn b,)vrw, a rheiliau haiarn. I Efrog N ewydd a'r India yranfoniryrhan fwyaf ohonynt. Tua'r Plymouth, mae y siarad fod Mr. J. C. Brown, inanaging, partner yn nghydfasoachaeth y Meistri Burnyeat, Brown, a'u Cwmni, perchenog- ion glofeydd, wedi cwblhau ei oruchwyl- iaeth er prynu Gweithfeydd Haiarn y Ply- mouth, ac, os gwir hyn, dyma eto ddrws gobaith wedi agor i ganoedd o weithwyr pan yr adgychwynir hwynt. Tuag Aber- tawe, mae masnach yr alcan, yr haiarn, a'r' dur, yn myned yn mlaen yn fywiog, yn ogystal a'r glo a'r patent fuel. Yr oedd yr allforiadau oddiyma yr wythnos ddiweddaf yn 11,104 o dunelli o lo, 4,850 o dunelli o batent fuel, a 1,404 o dunelli o haiarn, dur,, ac alcan. Y gweithfeydd alcan, dur, B- haiarn, yn gweithio yn dra rheolaidd, a, gobeithion cryfion am ddyfodol da ynddynt, yn ogystal ag yn y glofeydd a'r gweith- feydd copr. Yma, yn Nghaerdydd, mae y dydd yn goleuo. Mae y meistri a'r gweith- wyr wedi dyfod i gytundeb ar y Sliding Scale, fel v gwelir mewn colofn arall. Mae y gweithio yn dyfod yn fwy rheolaidd drwy y gweithfeydd glo, a'r allforittdau yn cynyddu. Allforiwyd yr wythnos ddi- weddaf 105,782 o dunelli o lo, 5,807 o dunelli o haiarn a dur, a 1,869 o dunelli o batent fuel, heblaw rhai canoedd o flychau. o alean. Huriau llongau yn parhau yma yn lied isel, yr hyn nid yw yn gysurus i'r perchenogion nag i'r morwyr ychwaith. 0 C, y Y mae yr adfywiad masnachol ar g/nydd trwy yr holl sir, a gobeithi wn cyn y daw Sul y Blodau a'r Pasg y bydd gardd mas- nach ya hardd gan flodau a pheraroglau. llwyddiaut Mae helyntiou masnachol OIXV X lil 11 X yn cynyddu mewn llwyddiant o ddydd bwy gilydd. Tua Rhymni, mae masnach yn parhau mewn cynydd graddol. Mae trefn- iadau wedi cael eu gorphen er adgychwyn Gweithfeydd Blaenafon, ac yn Mhenvcae a Threde^ar, y mae cyffroadau adfywiadol- pawb ar eu heithaf i droi gwaith allan, a'r prisoedd yn gwella. Mae y gweithfeydd glo yn gweithio yn fywiog, a gobeithion am godiad yn y pris. Galw neillduol am olosg- b. a'r pris yn well. Cwmni Gweithfeydd Haiarn Rhymni yn helaethu eu gweithred- i'ldau ti wy brynu nifer o ffwrnesi golosg yn y Darreo, lie hefyd y mae ganddynt lo- feydd, glo y rhai yn mron oil a olosgir. Yn y C isnewydd, y mae profion diymwad fod masnach yn bywhau. Allforiwyd yr wythnos ddiweddaf 28,126 o dunelli olo, a 1,207 o dunelli o haiarn a dur. Cais. rhagorol o dda am alcan drwy holl weith- feydd y sir, ond ni cymerodd un cyfnewid- iad le yn y prisoedd yn ystod yr wythnos d iweddaf. Yn LLOESR, mae golwg obeithiol ar fasnach yn gyffred' inol. Yn Middlesbro', dydd Mawrth, yr oedd y farchnad yn gynhyrfus. Yr oedd haiarn-bwrw, Rhif 3, yn 3p. Is. 6e. y dunell. Yn Darlington, cymerodd codiad arall le o 5s. y dunell yn mhris yr haiarn- bwrw, a gwerthwyd Rhif 3 am 3p. 2s. 6& y dunell (present delivery). Cafwyd Is. v dunell ya rhagor am Rif 4, a gofynwyd 3p. 5s. y dunell am drosglwyddiad dioed. Gwerthwyd yr unrhyw flwyddyn yn ol am lp. 12s. 6c. y dunell. Y pris am blatiau llongau yw yn nghylch 9p. y dunell; bariau, o 8p. i 8p. 5s.; haiarn onglau, o 8p. i 8p. 10s.; bariau pydledig, 6p. Nidjyw pris y glo yn deffro dim y ffordd yma. Y prisoedd am reiliau dur o 8p. i 9p. 10s. y dunell. Yn L'erpwl, yr wythnos ddi- weddaf, yr oedd busnes fywiog yn cael- ei gwneyd, a'r prisoedd yn codi. Mewn gair, agwedd gryfhaol, fywiocaol, a chysurol, sydd ar fasnach drwy y byd yn gyffredinol. MASN ACHDEITlIIWB.