Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
COLEG Y GWEITHIWR.
COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Samuel Armagedon Jones.-Fechgyn di- seibiant, dyma'r eira gwyn wedi gwneyd ei ymddangosiad ar ein gwlad unwaith eto. Da iawn ei fod yn dyfod yn ei amser,—na fuasai yn oedi hyd ddiwedd Mawrth neu Ebrill, fel ag i droi ein gwanwyn yn auaf. Ond pa newyddion sydd ar hyd a lied y wlad y dyddiau hyn ? ^gupjjd,.—myn greadrau poreiwpemoa a hippopotamusod, mae newydd da disprad. ar y papyrau heddyw, fechgyn. Oes, yn enw danedd ffwlbartod ac adar, mae yn dda, fflam- goch gen i eich hysbysu fod* y meistri a'r gweithwyr yn Nghaerdydd, dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, wedi setlo a/u gilydd ar Sliding Scale; a mwy na hyny, mae y glo- wyr i gael codiad o 5 y cant yn y mis nesaf. Oni ddywedais wrthych fod pob peth yn cyd- argoeli y deuai cyffroad gwirioneddol o hyn i fis Mawrth, a dyma fy 11 ngeiriau wedi dod i ben, fel pe bawn yn broffwyd mewn gwirion- -edd. Ond heb achos treulio amser ar hyn, Mi wnaf ddim yn mhellach na chrybwyll y ffaith gysurlawn cauys, yn ddiau, chwi gewch bob rnanylion -gan fechgyn y GWLAD- GARWR yn y rhifyn nesaf, gyda golwg ar y Scale a'r codiad, ac felly, awn yn mlaen at bynciau ereill. Pwy sydd i aiarad ? Ap Corwynt.—Y mac genyf fi air bach ar fy meddwl o barthed i'r hyn a welais mewn newyddiadur Llundeinig yr wythnoa ddi- weddaf. Gwyddoch yn ddigon da fod y Yankees yn hynod hoff o frolio eu gwlad— gwiaa y rnydmd—gwiad heb clrethi-gwlad heb ddegwm, &c., &o. Nid wyf am warafun iddynt fwynhau eu gwlad a'u rhyddid ond yn sicr i chwi, mae rhyw bethau yn bodoli yn America, neu yn cael eu goddef yno, sydd yn warth oesol i'r Weriniaeth fawr gref a chynyddol. Os oes yno ryddid rhagorol mewn un ystyr, mae yno ryddid uffernol mewn ystyr avail, sef rhyddid i ladd ac an- rheithio eu gilydd gyda'r barbareiddiwch a'r creulonder mwyaf. Cofia llawer ohonoch i'r gonest Abraham Lincoln ryddhau y caethion negroaidd yn yr holl Dalaethau yn 1804 ond druain ohonynt, tlawd a helbulua fu byd llawer ohonynt oddiar hyny hyd heddyw. Ychydig heddwoh, ac ychydig neu ddim chwareuteg a gaiit i ddilyn eu gorchwylion, ac enill eu bara yn ddierlyd, fel y prawf y ddau hanesyn c«,nlynol :-Aeth celfyddyd- wr o negro i Kansas yn ddiweddar, He y gweithiodd yn ddiwyd, ac y cynilodd ddigon o avian i brynu darn o dir, ar ba un yr adeiJ- adodd gaban ac yna, dychwelodd i,w ardal frodorol, yn Nhalaeth Mississipi, i gyrchu ei wraig a'i deuIn. Ni wnaeth prin ond cyr- naedd ei gartref blaenorol, pan yr ymosodwyd arno gan mob o ddynion gwynion, y rhai a'i llusgasaut o'i dy, gan ei drin yn ofnadwy greulawn. Torwyd ymaith ei ddwy law wrth .yr arddwrn, ac yna, cymhellid ef, gyda rheg- feydd dychrynllyd, i fyned i Kansas yn awr i wneyd ei ffovtiwn !—Orybwyllir amgylchiad arall am lafurwr ieuanc o negro, yr hwn a ymfudasai yn agos i flwyddyn yn ol ac wedi gweithio yn galed yn Kansas am amryw fis- oedd, gosododd o'r neilldu rai cauoedd o ddoleri, a dygodd hwynt gydag ef i'w hen urdal mewn trefn i briodi ei ddyweddiedig, a myned a hi gydag ef i'w gartref newydd. Ar nos ei bnoaas, torwya i w ay, a uiorwyd ei ddwy fraich ymaith uwchlaw ei benelin, gan ei adael i waedu i farwolaeth yn mhresenol- deb ei wraig ieuanc, yr hon oedd ar dori ei chalon, fel y gellid dysgwyl. Dywedir nad yw Llywodraeth yr Unol Dalaethau, yr hyn a adlewyrcha arni warth tragywyddol, yn mabwysiadu unrhyw fesurau digonol i ddodi 1 lawr yr ysgelerderau hyn. Ond yn amser y Barnwyr (Pen. xx. a xxi.), darfu i Dduw orchymyn hyddin o 400,000 o wyr i fyned i Tyfel, er dial am un lofruddiaeth gyflelyb i'r rhai uchod a lladdwyd dim llai na 75,000 yn mhen ychydig, a hyny oil yn ebyrth am -fywyd un A dyma y fath ddiogelwch sydd i fywydau yn ngwlad fawr America, pan y mae yr Yankees yn bostio ac yn chwythu yn eu hudgyrn alawon clodforus i'w gwlad. Yn sigwyneb pethau fel hyn, nis gallaf ymatal rliag dweyd mewn perthynas i Frydain, fel y dywedwyd ar amgylchiad arall, With all thy faults, I love thee still." Yn wir, y mae hanesion fel yr uchod yn ddigon i fflamio gwaed dyn i'r boiling pitch, pan feddyliom am y fath hyllwaith ysgeler a dieflig. Pa le mae hedd-swyddwyr yr Unol Dcdaethau ? Pa le mae ei milwyr 1 Ai nid oes un cynyg i gael -ei wneyd i gael cyflawnwyr yr anfadwaith hwn i afael cosb ? Pa le mae Mr. Bennett, o'r New York Herald, yr hwn sydd wedi myned i'r fath draul i anfon Stanley at far- bariaid canolbarthol Affrica ] Beth pe gyrai ei law yn ddyfnach i'w logell i anfon haner dwsin neu ychwaneg o Stanleys at arch- lof- ruddion Mississipi^ Yn sicr, y mae darllen hanes y fath erchyllwaith yn ddigon i yru oer iasau trwy holl waed-lestri y corff dynol. Pa le mae y Drych a'r Wasg, papyrau Oymreig America, na fyddent hwy yn dyrchafu eu lief yn erbyn y fath ellyllwaith ofnadwy ? Hyd nes y gwelaf fi fwy o nawdd ac amddifFyn ar fywydau deitiaid gweriniaeth fawr America, rhaid i mi eto roi fy mhleidlais dros frenin- iaeth Prydain Fawr, gyda'i holl golliadau a'i threuliau enrawr. T r-wi P L nn -t i tionn rucoru —waaocu Cill beth! ma hanasion wel na'n ddychrynllyd; a phan wela i lanci eto yn spouto am 'i wlad a'i ryddid, fi ro i welten xddo fo—nid o'm nwrn, ond a geiriau lladctiadol. Fi^ giwes i lawer Ianci yn Iffrostio 'n llydan budir am y 'Merica; ond os dyna wel y ma It; yno, fi ga'n gadw'u 'Meriea gyda fi,—ond pwy hanas sy' odd'no am fasnach yno 'nawr? Ap Cadfwch.—Gwelaist ti y llythyr yn y GVVLADGAKWR diweddaf yn dweyd fod mas- nach wedi ysgogi tuag i fyny yno 1 Yn Hyde Park y mae yr ysgrifenydd yn by w, ond dy- "wedai efe nad oedd y pyllau yn gweithio yu gyson ac yn mhellach, fod yn rhaid i'r glo- wyr a ant yno o'r wlad hon i weithio yno am hir dymor fel labrwyr. Pa beth yw yr achos o hyny, nis gwn ond gwyddorn nad yw y gweithwyr presenol sydd yno yn caru gweled rhyw lawer yn myned yno o'r wlad hon, ac y mae yn eglur fod ton Ilythyr "J oab" i'r cyfeiriad hwnw, canys y mae tuedd mewn gorlawnder o ddwylaw i ddarostwng y farch- nad lafur. Fi glywes genyt ti, Ap Corwynt, am ryw amgylchiad rhyfedd a gymerodd le yn Kansas yn ddiweddar. Adrodd hi i'r Oolegwyr. Ap Corwynt.—Wel, gwr a gwraig, a dau neu dri o blant, o ardal Llangadog, ddarfu ymfudo i Kanas, ac wedi cyrhaedd rhyw dref yn y dalaeth hono, nad wyf yn cofio ei henw, aethant i letya mewn hotel yno. Yr oedd gan y par yma gryn dipyn o arian, gan olygu prynu darn o dir i'w ffarmio yn y dalaeth bell hono. Aeth y brawd o Langadog allan gyda gwr y ty i weled y dref, a dychwelasant, gan gysgu yno y noson hono. Dranoeth, aeth i lawr i'r station i edrych am ei luggage, gan adael ei wraig a'i blant yn yr hotel, mewn ystafell ar y Ilofft. Aeth y landlord gydag ef. Syn yw adrodd na ddychwelodd y poor fellow mwy Yn yr ystafell y bu y wraig hyd dranoeth, os wyf yn cofio yn dda, ac nid oedd ond ceiniog yn ei iiogell. Erbyn treio drws yr ystafell, cafodd fod hwnw wedi ei sicrhau. Yna, aeth i'r ffenestr, a chododd hono, gan waeddu ar rywrai o'r heol yn Gymraeg (canys ni fedrai air o Saesonaeg). Yn ffodus, dy- gwyddodd fod Oymro yn pasio ar yr heol, yr hwn a glywodd eu liefau, ac aeth i fewn i'r ty i yrnofyn pwy oedd yn galw arno. Aed i 11 fyny y grisiau, a dyna lie cafwyd y druanes wedi ei bwylltio yn yr ystafell, ac mewn pryder dirfawr am dynged ei phriod. Di- wedd y stori yw na ddaeth y Cymro i glawr, a'r casgliad naturiol ydyw fod rhai o sharpers America wedi crafangu ei arian, a'i hyrddio yntau i dragywyddoldeb, gan ddirgelu ei gorff yn rhywle. Darfu i'r Cymro twymgalon, yr hwn a atebodd lefau y wraig o'r heol, ac a aeth ati i'r hotel, fyned i fysg ei gyfeillion, a chasglwyd iddi yn ei hadfyd y swm o haner can' doler (tua £ 10 o'n harian ni); ac y mae LIywydd y Dalaeth wedi cynyg rhyw 500 o ddoleri am gael hyd i'r dyhiryn neu y dyhir- od a ysbeiliasant, ac wrth bob tebyg, a ladd- asant y Cymro o Langadog. Ond chwi ellwch benderfynu na ddeuir byth o hyd iddynt, gan mor llac yw cyfraith America, ac mor ddiegni yw ei swyddogion. Dyna'r peryglon ag y mae ymfudwyr yn agored iddynt. PERSONOL. Ond nid mor bersonol a "Nos Dawch." Gwelwyd gan rai o wýr y Coleg, yr wythnos ddiweddaf, y bechgyn byd-adnabyddus, Bryn- fab a Cilgwynog, yr olaf o ba rai sydd wedi bod yn nadu mor llwyddianus tua'r Nadolig hyna; agwelwydhefyd yr henbatriarch-athraw barddol, Nathan Dyfed, yr hwn, fel y clyw- som, sydd wedi ei ddewia yn feirniad yn Eis- teddfod fawreddog Mountain Ash y Sulgwyn dyfodol. Yr oedd y tri mewn gwedd iachus a chalonog.
ETKOLIAD AGOSHAOL Y BYRDDA…
ETKOLIAD AGOSHAOL Y BYRDDA U YSGOL. MR. GOL. ,—Gan fod tymor etholiad y Byrddau Ysgol yn v gwahanol bivvyii yn y cymydogaethau hyn wrth y drws, dichon mai nid anfuddiol fyddai galw sylw yr etholwyr, sef y trethdalwyr, at y mater mewn pryd, fel na byddont yn gwylltio pan ddelo yr adeg i votio. BWRDD YSGOL LLANWONNO. Bydd tymor y Bwrdd presenol ar ben diwedd Chwefror, a gelwir ar y trethdalwyr i ethol y Bwrdd newydd erbyn dechreu Mawrth. Carv/n alw sylw y trethdalwyr at un neu ddau o bethau y dylent gadw mewn golwg wrth ethol y Bwrdd newydd. Yn gyntaf, priodoldeb neu anmhrioldeb gweithrediadau y Bwrdd gyda golwg ar gan- iatau yr ysgoldai at wasanaeth crefyddol pan na fyddo eu liangen at wasanaeth addysg. Gv-vyr llawer ohonom fod Mr. Edwards, Gil- fachglyd, wedi ysgrifenu llythyr miniog i'r Soutli Wctles Daily News, yn trin y Bwrdd yn arw am feiddio gomedd Y sgoldý Ynysybwl i offeiriad plwyf Llanwonno, i gynal g wasan- aeth crefyddol ar y Saboth ac ar un o nos- weithiau yr wythnos, ac awgrymai hefyd y byddai yn fanteisiol i'r trethdalwyr pe newidid y Bwrdd presenol. Wel, ynte, beth ydyw y charge sydd gan Mr. Edwards yn eu herbyn ? Dim ond eu bod wedi cario allan y penderfyniad a wnawd gan y Bwrdd a fodolai yn 1876, cadeirydd yr hwn oedd D. Davis, Ysw.Maesyffynon, a Edmund Thomas, Ysw., Llwyncelyn (Maendy Hall yn awr), yn îs- gadeirydd. Os ydyw y trethdalwyr yn cyd- olygu a. Mr. Edwards, sef y dylid caniatau yr ysgoldai at gynal gwasanaeth crefyddol, pob peth yn dda ond dylent gofio fod ganddynt i ddewis rhwng y gwahanol enwadau ar y mater. Fel hyn—dyna Ysgoldy Ynysybwl. Tybier fod yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, neu yr Undodwyr, yn dewis cynal gwasan- aeth crefyddol i'r dyben o sefydlu pob o eglwys ar Ynysybwl, a'u bod yn gwneyd cais at y Bwrdd am fenthyg yr ysgoldf i gynal y gwasanaeth hyd nes gwelont y priodoldeb o godi adeilad eu hunain. Y pwynt i'w ben- derfynu ydyw, gan nas gall pob un o'r gwa- hanol enwadau gael yr ysgold$,. pa un sydd i'w gael ? A chymeryd cyfausoddiael y Bwrdd presenol i ystyriaeth, naturiol iawn fyddai dweyd mai y Bedyddwyr, oblegyd hwy ydyw y mwyafrif av y Bwrdd. Sut y teimlai Mr. Edwards yn ngwyneb hyny ? I'm tyb i, gweithred ddoeth iawn o eiddo y Bwrdd oedd cau allan bawb. Os ydyw yr otfeiriad yn teimlo fod angen Eglwys ar Ynysybwl, pob peth o'r goreu ond bydded i'r Eglwyswyr godi adeilad at eu gwasanaeth eu hunaiti, a gwneled pob enwad arall yr un peth. Yr ail fater ydyw yr hen gwestiwn fu yn aflonyddu y trethdalwyr a'r Bwrdd er's tua dwy flynedd yn ol, sef arolygiaeth yr ysgolion a that yr arolygydd. Dylai y trethdalwyr benderfynu pa un a oes angen arolygydd dan y Bwrdd hwn yn wahanol i Fyrddau ereill ? Os oes, yna pa un a ydyw 200p. y flwyddyn yn dal ddigonol neu ormodol am gyflawni y swydd ? Saith ysgol sydd gan y Bwrdd yn bresenol, a thalant yn agos i 30p. yr un i'r Inspector am ei waith. A pha beth ydyw ei waith ? Tegwch a'r Bwrdd presenol eto ydyw dywedyd mai y Bwrdd blaenorol a wnaeth yr apwyntiad ond yr oedd yn ddigon hawdd difodi y swydd, a chafwyd cyfle rhag- orol i wneyd hyny tua dwy flynedd yn ol, pan y dygodd Mr. Idris Williams gynygiad i'r perwyl hyny gerbron y Bwrdd presenol, yr hyn a eiliwyd gan Mr. Aaron Cule. Yr aelodau a bleidleisasant dros ddifodi y swydd oeddynt Mr. LVIatnew Wayne Morgan (IS- gadeirydd), Mr. Jones, Mountain Ash, a'r cynygydd a'r eilydd yn erbyn, Parch. E. Roberts (cadeirydd), a Mr. Thos. Edwards a'r Parch. T. Phillips, Mountain Ash. Felly, yr oedd y mwyafrif o aelodau plwyf Llan- wonno dros y difodiad ond trowyd y fantol gan yr aelodau dros Ystradyfodwg, sef Mr. D. D. Joseph a Mr. D. Evans, a Mr. T. Thomas (dros Llanfabon). Dylai y trethdal- wyr fynu gwybod barn yr ymgeiswyr am seddau ar y Bwrdd newydd dros neu yn erbyn parhad y swydd, ac hefyd y gyflog. I'm tyb i, nid oes angen am y fath swyddog. Mae yr ysgolfeistri yn gyfrifol am eu dyled- swyddau i'r Government Inspector, ac nid teg ydyw gosod neb i weithredu rhyngddynt. Nid yw y swyddog presenol yn gyfrifol o gwbl i'r Llywodraeth, ond eto gall fyned i un o'r ysgolion a gorchymyn y cyfnewidiadau a welo yn dda, ac os beiddia neb anufuddhau, gall reportio hyny i'r Bwrdd, a thynu oddi- wrthynt vote of censnre ar yr ysgolfeistr neu yr ysgolfeistres. A phe dygwyddai i'w gyf- newidiadau droi allan yn fethiant ac er drwg i'r ysgol, ni fyddai iddo ef ddyoddef dim oddi- wrth hyny, ond byddai yn effeithio ar yr atlirawon neu yr athrawesau. Gan hyny, credaf fod Inspector dan y Board yn hytrach yn ddiaiw am dano, ac yn tueddu at niweidio yr ysgolion. Ond a chaniatau fod y fath swyddog yn angenrheidiol, beth am y gyflog a delir iddo ? Dyma gwestiwn hefyd ar ba un y dylid swnio yr ymgeiswyr cyn pleid- leisio drostynt. lJyna yr Attendance (Jjjicer eto yn cael 80p. o gyflog, a second-class pass o'r Mountain Ash i Blaenllechau, gwerth lOp. yn y flwydd- yn. Wn i ddim pa alwad neillduol sydd am hwn chwaith. Onid gwell fyddai ymddiried y gorchwyl hwn i'r athrawon, a hwy i reportio bob mis i'r Bwrdd ? Os byddai galwad am gymeryd legal proceedings yn erbyn y rhai a fyddont yn wirfoddol esgeuluso anfon eu plant i'r yagol, gallai Clerk y Bwrdd wneyd y gwaith hyny. Yr wyf wedi dygwydd bod yn y Ilys rai troion pan fyddai achosion fel hyn yn dyfod gerbron yr ynadon, a gwelais y ddau swyddog hyn yno, er y gellid gwneyd wrth y Clerk ei hunan. Eto, pan fyddo case yn y County Court am fees, yr ydys yn gorfod dyfod a'r athrawon yno to prove the debt, fel y mae yno, ar yr un pryd, Clerk y Bwrdd, yr Attendance Officer, a'r athrawon, yn gwneyd dim ond yr hyn ellid wneyd gan yr athrawon yn ddigon rhwydd. Cofier, nid wyf yn beio y swyddogion am hyn ond, yn sicr, dylai y trethdalwyr alw sylw yr ymgeiswyr am aelod- aeth ar y Bwrdd nesaf at hyn, fel y gallont ddeall eu gilydd ar faterion sydd yn an- nhraethol bwysig i logellau pawb sydd yn talu trethi. Os na wneir hyn yn brydlon, fe aiff yr amser heibio, ac etholir Bwrdd eto na fydd gan y trethdalwyr unrhyw lywodr- aeth drosto am y tair blynedd nesaf. Gan hyny, coded pawb ati o ddifrif ac yn brydlon, fel y byddom yn deall ein gilydd ar y mater- ion hyn, o Mountain Ash i Blaenllechau. Cwestiwn arall tra phwysig ydyw addysg grefyddol yn ysgolion y Bwrdd. Hyd hyma mae holl ysgolion y Bwrdd yn amadifad o'r addysg hon. Beth ydyw golygiadau y treth- dalwyr ar hyn eto ? Dewch alian ar unwaith i draethu eich golygiadau yn: rhifynau dy- fodol y GWLADGARWR, a gobeithio y bydG i chwi, Mr. Gol., fod mor garedig a chaniatau ychydig o le yn eich colofnau, am y pedair neu bump wythnos nesaf, er trin y mater.- Yr eiddoch, TRETHDALWR.
BRYTHONFRYN A GURNOS.
BRYTHONFRYN A GURNOS. Y BEIBL YN "CODE OF LAWS." ( Padwll). MR. GOL.Cyn disgyn ar y testyn uchod, y mae genyf air bach i'w ddweyd wrth Gurnos am y sylw canlynol sydd ganddo yn ei lythyr di- weddaf 0 Dreorci goffadwriaeth Ic'n wir, nid annghoSaf byth y tro y cyfeirir ato, sef y tro pan y rhoddais gyfaill (?) (ie, ac un sydd wedi profi yn gyfaill sytweddol i Gurnos er's mwy na deuddeg mlynedd,) i feirniadu canu ac englyn- ion, ac yntau heb fod yn deall dim mwy na cheffyl am feirniadu canu ao englynion. Nid an- nghofiaf byth yr helynt flin hono. Ni welais i y fath wadnu erioed." Y tro y cyfeirir ato." Mr. Gurnos fawr, ni cbyfeiriais i at y tro hwnw os cyfeiriais at ddim, at ddarlith fawr, fythgofiadwy y Corn Laws oedd y cyfeiriad, pan y cafwyd yr esboniad auhefel- ydd hwnw arnynt genych. Ond gan i chwi gyf- eirio at y cyfarfod cystadleuol yn Nhreorct, y mae yn dda genyf allu eich hysbysu y medraf eto eich cyfarfod yma. Mr. Gol. a darllenwyr y GWLADGARWR,- Y mae bellach dros wyth mlynedd wedi pasio er pan gynaliwyd y cyfarfod cystadleuol hwnw yn Nnreorci. Yr oedd yno gystadleuaeth mewn barddoni, adrodds a chanu. Pasiodd y cyfarfod hwnw yn hollol ddidramgwydd, heb neb yn murmur na grwgnach dim yn fy nghlywedigaeth i beth bynag. Brynfab eniilodd ar y cywydd, a man wobrau barddonol ereill. Ar ddiwedd y cyfarfod, dywedodd Gurnos wrthyf, Y mae yn dda genyf i Brynfab enill, canys nid oes y teim- lad goreu rhyngddo ef a minau, ac yr oedd y sibrwd rhwng rhai, gan dy fod di a minau yn gyfeillion, y buaswn i yn dylanwadu arnat i atal pob gwobr oddiwrtho." Pasiodd y canu a chyfan yn y cyfarfod. hwnw heb i neb yngan yr un sill yn amoddhaol. Cyfarfyddais a Brynfab yr wyth. nos ddiweddaf, ac awdurdododd fi i wneyd def- nydd o'i enw, a'i dystiolaeth ef ydoedd i'r cyfar- fod hwnw basio yu hwylus a hollol ddirwgnach. Yn awr, beth am yr "hclynt flin," a beth am y gwadnu," Mr. Gurnos? Paham na fuasech wedi crybwyll rhywbeth am yr helynt a'r gwadnu yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf cyn hyn ? Dyma fi wedi eich dal wrth y maen llifo yma eto, a cha darllenwyr y GWLADGARWR farnu pwy i'w gredu-pa un ai Brynfab a Bryth- onfryii yn eyd-dystiolaethu, ynte Gurnos yn tystiolaethu ffordd arall. Boddlon ydwyf i farn fawr y cyhoedd. Y brawd Gurnos, dysgwch beidio camgyfleu a chamliwio ffeithiau. Gellwch gymeryd fy ngair na ddaw un daioni i chwi o hyn. Ai tybed fod eich cydwybod yn esmwyth am gyfieu camargraff o ffaen y wlad ? Chwychwi sydd yn gyfrifol am fy ngosod dan angenrhaid i gyfeirio at y cyfarfod dan sylw. Yn awr, at y pwnc—" Y Beibl yn code of laws." Darllenwch Diar. iv. 24-27 Bwrw oddiwrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus yn mhell oddiwrthyt. Edryched dy lygaid yn uniawn, ac edryched dy amrantau yn uniawn o'th flaen. Ystyria lwybr dy draed, a threfner dy holl fi'yrdd yn uniawn. Na thro ar y Haw ddehau, nao ar y llaw aswy symud dy droed oddiwrth ddrygioni." V11 awr, sylwer beth ddywed Dr. Thomas Stockwell, yr hwn a ystyrir yn oracl mewn duwinyddiaeth, ar y geiriau hyn o eiddo Solomon :—" Here are laws for the government of self. Here is a law for the tongue, a law for the eye, a law for the mind, a law for the life. How comprehensive the legislation of heaven It seeks to control the tongue, the eye, the thought, the foot, the entire man. Its laws reach the motions of every organ, every faculty, and every impulse. He who obeys those law* lives, and he only lives." Yn mha Ie y ceir y cyfreith au hyny ? Ai nid yn y Beibl ? Eto, er gwneyd twyll- osodiad Gurnos yn fwy o sarnfa fyth, mi gaf ddyfyntt a ganlyn o An Analysis on Butler's Analogy," gan y Parch. J. Gorie, M. A., tud. 118 :—The credibility that the Christian dis- pensation may have been all along carried on by general laws may require to be more distinctly made out (as thus) We know indeed several of the general laws of matter, and for a great part of the natural behaviour of living agents. But we Know in a manner nothing of the laws of tem- pests, earthquakes, famine, pestilence; and the laws regulating the place and time of the birth of persons, and their respective capacities, the laws by which sundry thoughts enter our minds, and by which innumerable things of great im- portance happen, are so unknown to us that we call their results accidental, though really there is no such thing as chance. It is only from ana- logy that we conclude the whole course of nature capable of being reduced into general laws, only from our seeing that a part is so. And if that be a just ground for such a conclusion, it is so also for at least the supposition as credible- which is sufficient for answering objections—that God's miraculous interpositions may have been all along in like manner by general laws. The exertion of such and such miraculous powers on such oc- casions, in such degrees, manners, &c., may have been by general laws, which, though unknown to us, are not more so than the unknown laws, taken for granted to be general, of innumerable things, e. fl., of the difference in the length of men's lives, and in their abilities. If then the revealed dispensations of Providence, and mira- culous interpositions be by general laws, as well as God's ordinary government in the course of nature, there is no more reason for expecting that every exigence as it arises should be provided for by general laws in the one case than in the other." Uan nad ydwyf, yn ol tyb-osodiad ''ur- nos, yn deall cynghanedd, efallai yr haera hefyd nas medraf gyfieithu, felly beruais yn djoeth osod yr uchod gerbron yn yr iaith yr ysgrifen- wyd hwy. Y casgliad oddiwrth y dyfyniad olaf yw fod holl weinyddiadau datguddiedig Duw tuag at y byd yn ddarostyngedig i ddeddfau cy- ffredinol. V r oil a wyddom ni am y deddfau yw cymaint ag sydd wedi ei egluro yn Ngair Duw. "Atygyfraithac at y dystiolaeth," meddai'r Beibl. Ond, meddai awdwr Greddf," nid oes yno yr un gyfraith i'w chael. The Bible is not a code of laws t;elwir y BOd Mawr yn ami gan bregethwyr a duwinyddion yn Ben Llyw- ydd," ac yn Ben Llywodraethwr" Llywodr- aeth benagored ac annyogel iawn fyddai Llyw- odraeth Prydain heb un code of laws Cyflawner y troseddau mwyaf anfad ac ysgeler, ac ni fyddai neb yn gwybod pa gosb i weini; a chan na fydd- ai un ddarbodaeth i gosbi, deg i un y diaugai pawo yn acugoso. ai tyoea 10a y ureawayaa hollddoeth yn galw i fodolaeth aneirif fodau yn ei ymerodraeth fawr, heb Iunio cyfreithiau hefyd i fod yn rheol bywyd iddynt ? Y mae y fath syniad yn deilwng o Darwin & Co., ond nid o neb sydd wedi bod yn esgyn i bwlpudau i gy- hoeddi am Ddeddf Vsbryd y bywyd." Yn wir, troer i bob cyfeiriad bron yn y Datguddiad Dwyfol, a chyfarfyddwn yn barhaus a'r geiriau "deddf a ehyfraith." Er engraifft, dyma y Salm fawr," fel y gelwir hi. Sylwer ar y cyf- eiriadau sydd at gyfraith yndcli hi Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yn nghyfraith yr Arglwydd. 0 am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau Cadwaf dy ddeddf- au 0 na ad fi yn hollol. Dysg i mi dy ddeddf- au. Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf. Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di. Dysg i mi, 0 Arglwydd, ffordd dy ddeddfau. Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith. A'th gyfraith a gadwaf yn wastadol. Dy ddeddfau oedd fy nghan yn nhy fy mhererin- dod. Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith. Gwell i mi gyfraith dy enau na miloedd o aur ac arian. Oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch. Mor gu genyf dy gyf- raith Er hyny nid wyf yn annghofio dy gyf. raith. A'th gyfraith yw fy hyfrydweh." Ceir cynifer a hyna o gyfeiriadau mewn un Salm yn unig. Yn mha le y mae y deddfau a'r cyfreith- iau yma i'w cael, Bergauiedydd Israel ? Pe caw- sai ei atebiad, diau y dywedasai mai yn Ewyllys ddatguddiedig Duw i'r byd y ceir hwy. Nage, meddai Gurnos,—"The Bible is not a code of laws." Wel, ddarllenwyr Beiblaidd y GWLAD- GARWR, pwy a gredwch, Dafydd, Brenin Israel, ynte Gurnos Jones ? Ni raid aros. am atebiad, canys y mae yn ddigon hawdd dyfaln beth ydyw. Barned y darllenydd os oes angen i mi ysgrif- enu rhagor ar y pwnc hwn, er ategu fy ngosod- iadfQd y Beibl yn llyfr o gyfreithiau yn gystal ag yn llyfr o egwyddorion. Credwyf yn ostyng- edig nad oes. Gan hyny, yr wyf yn gadael yr hyn a ysgrifenais i'ch sylw a'ch myfyrdod ystyr. iol. Nid gwaeth y gwir o'i chwilio, a hyderaf n» fu yr ychydig ysgrifenu hyn yn gwbl anfuddiol. Gwn hyn, mai nid amcan i foddio hoffwyr cecr- aeth bersonol am cymhellodd i ysgrifenu, oni troi yn ol syniadau cyfeiliornus am yr hen Lyfr canys pan ddarllenais y fiawddeg hono-" The Bible is not a code of laws "-yu y South Wales Daily News, dranoeth ei llefariad gan Gurnos tarawodd fi fel ergydiad mellten ei bod yn gyf- eiliornus, a phenderfynais wneyd sylw arni. C& y cyhoedd fod y 11 jury ar ein hachos, pa un ai Gurnos nea minau sydd agosaf at y gwirionedd. Nid wyf ar hyn o bryd yn golygu ysgrifenu dim yn rhagor ar y pwnc end os gorfodir fi i hyny gan ryw gamddailumadau a ddichon y brawd. Gurnos gyhoeddi yn y dyfodol, dyma y Haw a'r ewyllys fydd yn barod at y gwaith, os caniata DEDDF-roddwr y bydoedd fywyd ac iechyd. Yr- eiddoch yn ostyngedig, BRYTHONFRYN..
ICOR ERYEI A'R EISTEDDFOD…
COR ERYEI A'R EISTEDDFOD GEN- EDLAETHOL. 1880. MR. GOL. ,-Darllenais yn y GWLADGARWK yr wythnos o'r blaen nad oedd Cor y Waun- fawr yn amcanu dyfod i'r maes yn Eisteddfod Caernarfon. Nid oes hyd yn hyn ddim wedi ei wneyd yn y muter ac y mae yn rhy gynar eto i ddweyd na fydd i Gov y Waun fyned i'r ymgyrch. Gwn mai teimlad yr ardal yma fyddai o blaid i gor fyned i'r gystadleuaeth. yn Nghaernarfon, pe byddai ein brodyr o'r Deheudir yno i'n cyfarfod. Mae yn wir fod yn rawriad y cor i ddysgu yr "Emmanuel," ond ni fyddai hyny yn rhwystr mawr, gan nad oes ond dau gorawd i'w dysgu ar gyfer Caernarfon. Waunfawr. CWELLYN.
ADDEWID CERDDORION LLANELLI…
ADDEWID CERDDORION LLANELLI I MISS MARGARET AUBREY, LLANGENNECII. MR. GOL.,—Trwy gyfrwng eich newydd- iadur clodwiw, byddwch cystal a chaniatau. 'A i mi adgofio y cerddorion uchod o'u hadd- ewid i'r eneth ieuanc grybwylledig. Yn y GWLADGARWR am Ionawr 2il, yn hanes Eis- teddfod Llanelli, ceir y geiriau a ganlyn Pianoforte solo, Jenny Jones,' i blant clan 15 oed gwobr, 10s. dyfarnwyd y wobr i Miss Aubrey, Llangennech. Deallwyf fod cyfeillion cerddorol Llanelli yn bwriadu rhoddi cyngherdd er budd v chwareuyddes addawus hon." Derbyniodd yr un fechan ganmoliaeth neillduol gan y beirniad (Eos Ebrill). Nid oes dadl nad oes i hon ddyfodol dysglaer, ac os ca ychydig o gymhorth a sylw amserol, credwn yn ddiysgog y daw yn seren arnlwg yn wybren chwareuyddol y genedl. Ein hamcan wrth alw sylw y cyfeillion uchod yw hyn —pan gymer y cyngherdd bwriadedig le (a gobeithio y bydd hyny yn fuan), sicr- hawn chwi y bydd i'w hedmygwyr yn Llan- gennech ddyfod i lawr i Lanelii yn Ilu mawr. Hei ati, ynte frodyr, o ddifrif na adawer i'r bwriad oeri, ond gadewch i ni guro yr haiarn tra iyddo boeth."—Yr eiddoch, EDMYGYDD.
Nodion Personol.
Nodion Personol. CnIRY rhanbarth y Mahoning a'r Trum- bull wedi cael llawer o fwyniaut adeg y Nadolig yn ngwestdy Dafydd y Gareg Wen, Youngstown. Ymwelwyr wedi dyfod o wa- hanol fanau i'r Eisteddfod, ac yn eu plith yr oedd Pendragou y Drych mewn 11awn hwyl, & llawer ereill o wahanol barthau, a chyda hwy y Cymro aiddgar, yr Yswain Thomas, o Ddinas y Mwg. Mae Youngstown yn hen dreflan atdyniadol i'r Cymry, a cheir yn y cylchoedd lu mawr o gerddorion abeirdd. Yr hen gyfaill Thomas Thomas, ycrydd, o Waun- caegurwen, ydyw y brawd sydd yn gwiso-o y llen-enw Dafydd y Gareg Wen. Adwaenir ef yn dda fel IIenor gwych gan y cyfeillion Cur- wen, Gwydderig, Watcyn Wyn, a bechcryn y 1 11 gymydogaeth. Pleser meddwl fod y brawd yn llwyddo yn y byd, a bod cartref i'r Cymry ar daith yn yr American House. ANEURIST FARDD yn dal at ei destyn o wynt- yllu y Cyfansoddiad Americanaidd, a cheisio profi mai y Dernocratiaid ydyw cefnogwyr y Weriniaeth yn ol liythyren y cyhoeddiad cyn- taf. Condemnia yn ddiarbed wladlywiaeth y Gwerinwyr, Ft geilw hwynt yn Stalwartiaid gormesol," nid annhebyg i bendefigion Pryd- ain. Mae y Cymro diflin o'r Gelligroes yn ym- aflyd yn y pwnc fel dyn yn deall ei waith, ac os daw rhywun allan i adolygu yr ysTifau bydd yn rhaid iddo beidio cysgn, oblegyd nid gwj chwareu ag ef ydyw Aneurin feUlenor bardd, ac hanesydd. CAEL ar ddeall fod aniry w o feirdd y De yn cyweirio eu telynau tuag at Eisteddfod y Cy- mry yn nhalaeth William Penn. Mae yno'le i enill Anfarwoldeb," os bydd rhywun ya ddigon galluog at hyny. Lie dit i Arlunydd yno hefyd am bluen, os bydd yn medrn cynghanedd a gall y trydydd fyned yn Ervr os bydd yn alluog i ehedeg yn nwch na phawb ereill. Drws agored i bawb—dim un ataliad ar neb, nac ychwaith cadw pris tocyn blaeu- sedd ar neb fyddo yn absenol. CYMRY dinas y cis: moch, ar Ian yr Ohio wedi bod yn llwyddianus gyda datganiad o "Blodwen." Dau o blant yr "Hen Blwyf," yn Morganwg, yn cymeryd rhau bwysicr yn y gorchwyl, y naili yn cynrychioli y Bardd a'r llall yn cynrycmoli Arthur. Odid na fydd rhai o frodorion y Maesteg ya hoffi clvwed hyn Ereill o r un llanerch tua Utica mewn hwyl dda yn yr Listecldfod flynyddol, a deall- wn iddynt wneya pob peth yn deilwna a chv- meradwyol. 3 J COFNOD yn y Drych am Ion. laf, 1880 yn dynodi dygwyddiadau y flwyddyn 187i/ gan y lienor diwylliedig David O. Johns! Wilkesbarre. Mae y crynodeb yn werth ei gadw fel colofn gyfeiriol i'r hanesydd. Cywir y dywedodd y brawd Cynonfardd fod y cyfaill D. 0. Johns yn fyd bach ynddo ei hunan er cymaint yr anfanteision a'i cylehyna. S-f ar ben y rhestr fel un o brif ohebwyr v' BETH sydd wedi dyfod o'r ujfyL,- hi bellach dros ganol y mis, ond dim cymaint a gair am dano. Atolwg, Watcyn Wyn}