Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Llith o Ddyfed.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llith o Ddyfed. Y 12fed o Ionawr a gedwir yn ddydd Calan yn y sir hon. A dydd Nadolig heibio heb sylwi arno, oddieithr gan yr Eglwyswyr- cedwir gwasanaeth ganddynt hwy ond am ddydd Calan, meddylir cymaint am dano ag am Nadolig yn Morganwg. Mae yn rhaid i'r cig mochyn tragwyddol aros ar y hief y dydd hwn, er rhoddi lie i'r "vydd fras a'r plum pud- ding. Rhaid i'r bara barlish guddio ei wyneb Uedr am y dydd hwn, er rhoddi mantais i'r deisen foethus wenu yn siriol arnom ac yn wir, gallem feddwl fod ei gwenau yn fwy hawddgar ac yn fwy teg eleni nag erioed. Ar ddydd Calan, yn y parthau hyn, y porthir y newynog, ac y dilladir y noeth a'r carpiog, ac y mae yn rhaid dweyd nad ydyw pobl Sir Benfro yn ol i neb mewn caredigrwydd ac elusengarwch. Ceiniog neu ddwy yw calenig pobl Morganwg i'r plant, fel rheol ond yma, bara a chaws roddir, a gwelsom yn ystod y dydd ugeiniau o grwts a rhocesi yn cario beichiau anferthol o'r cyfryw gartref idd eu rhieni tlodion. Yr oedd rhywun dan y cyf- enw Zingari, o Hwlffordd, yn tuchan yn ad- fydus vn y Deivsland and Kemes Guardian, am yr wythnos ddiweddaf, oherwydd yr ar. feriad hon yn ein plith o estyn elusen i'r angenus yn nhymor y Nadolig. Nid oes genym ni unrhyw ddirnadaeth parthed pwy all y Zingari hwn fod, ond diau fod plant tlodion Hwlffordd yn ei adnabod yn eithaf. Wel, hynaws ddarllenydd, wele, yn ol yr hen ddull o gyfrif amser, un flwyddyn eto, wedi ei threiglo i for y gorphenol. Blwyddyn ar ol blwyddyn yn cyflymu heibio megys heb yn wybod i ni Gallem feddwl mai ddoe y chwareuem mewn perffaith hapusrwydd ar hen aelwyd glyd a chysegredig ein rhiaint anwyl; ond heddyw, atolwg, pa le yr ydym ? Ar ganol cefnfor tymhestlog amser, yn hwyiio ein llong fechan yn mlaen rhwng creigiau peryglus, mewn gobaith y cawn yn y diwedd, wedi penu'r fordaith helbulus hon, gyrhaedd yr hafan ddymunol yr ochr draw, lie nad oes cyfrif amser na rhifo blynyddoedd. Hyn a blwyddyn newydd dda fyddo rhan pawb.- Yr eiddoch, OENIN.

BTB EBIOK 0 L'E»PW £ .

Hunanladdiad truenus yn Nghaerffili.

Adfywiad Masnach.

Marwolaeth Serjeant Parry…

Damwain Angeuol. yn Nhredegar.

Difrod gan Wylltfilod.

Priodas Miss Martha Harries

Pont Tay.

ABERDAR.

[No title]

Advertising

Nodion Personol.