Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y Sliding Scale.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Y Sliding Scale. COPI SWYDDOGOL O'R OYTUNDEB. Cofnodiad o gytundeb a wnawd y 17eg o Ionawr, 1880, rhwng yr is-arwyddedig Wm. Thomas Lewis, John NiXon, William S Cart- wright, Frank A. Yeo, a John F. Rowbothan, wedi eu hawdurdodi yn ddyladwy i weith- redu dros Urideb Glofeydd Mynwy a Deheu- dir Cymru ar un ran, a'r is-arwyddedig Wm. Abraham, David Morgan, Samuel Davies, Philip Jones, John Blacker, John Jenkins, Isaac Evans, a Thomas Phillips, wedi eu hawdurdodi i weithredu ar ran y gweithwyr a gyflogir yn nglofeydd aelodau yr undeb dy- wededig o'r tu arall :— 1. Enwir v pleidiau dywededig i hwn yn bwyllgor unol, a chedwir y cyfryw bwyllgor yn mlaen gan y meistri a'r gweithwyr. 2. Bydd y pwyHgor unol i gael dau ysgrif- enydd—un i gael ei apwyntio gan aelodau y pwyllgor, yn cynrychioli y meistri, a'r Hall gan yr aelodau, yn cynrychioli y gweithwyr. 3. Y mae y pwyllgor unol dywededig yn cytuno ar yr amodau canlynol, er rheoleiddio graddfa y cvflogau a delir yn y cyfryw lo- feydd ar, ac o'r laf o Chwefror Desaf. 4. Rheolir y cyflogau gan Scale lithriadol, wedi ei sylfaenu ar gyfartaledd pris gwerth- iadol y g!o, fel y ceir allan o bryd i bryd, ac yr ardystir gan gyfrifwyr. 5. Rhenir y glofeydd i ddau bentwr a elwir yn berthynasol-pentwr rhif un, a phentwr rhif dan, yn cyuwys yn berthynasol y glo- feydd canlynol:— PENTWR RHlF 1. owell' Duffryn Comany's Steam Coal Collieries. D. Davis and Son's Boedryngallt Coal Company's Crawshay Brother's Dowlais Iron Company's „ D. Davies and Company's „ Nixon, Tay or, and Cory's „ Pentre Church and kesolven Glamorgan Coai Cumpany's Bute Merthvr Bwllfa ( oal Company's Rhondda Merthyr Company's Aberdare Coal Company's Heath, EVens and Company's Mordecai .Tones' Nantmelyn „ Troedyrhiw Coal Company's Ynysfaio „ Aberdare Rhondda Coal Company's H Samuel Thomas' Sguborwen New Tredegar Tredegar Iron and Coal Company's Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Co.'s J. C. Hill and Company's Vipond and Company's Patent Nut and Bolt Company's Rhymney Iron Company's „ Patridge Jones and Company's Blaenavon Iron Company's Morgan and Thompson's Cawdor Great Western Colliery Company's PENTWR RHIF 2. Energlyn Coal Company's Collieries W. S. Ca twright's Bryngwy & Tophili Collieries Patridge Junes and Co .Piasycoed J. Latch and Company's Latch ami Cope's Clapp and Company's „ Rhos Llantwit Coal Company's „ Phillip Price's Carngethin Coal Company's E. D. Williams' Wingfield Coal Company's J} Bevan and Pryce's W. and E. Beddoe's Powell Duffryn Company's White Pose „ Bargoed Coal Company's „ Phymney Iron Company's Tir Phil, Darran, and Cefn Brithdir Collieries. Dowlais Iron v ompany's New Brithdir Collieries. Tredegar Iron and Coal Company's Bedwellty and Darran Levels Collieries. Glamorgan Co«l Con pany's Bituminous Collieries Forest Iron and Sttelt ompany's Dinas Main Coal Company's Coedcae Coal Company's Troedyrhiw Coal Company's Troedyrhiw Thomas and G/iffiths' D. and L. Davis's Adare Daniel Thomas's Brithwernydd "f Llantwit Red Ash Company's Edmund Thomas's H. Hussey Vivian's Vivian and Son's Cory, Yeo & Company's Graigola & Clydach Col- T ™ „ lieries. J. (jrlasbrooke, Cwmbach P. B. Byass and Company's John GJasbr. ok's Bandore Siemen's Company's Swansea Valley Company's Aber Coal Company's 6. 0 berthynas i'r glofeydd canlynol, sef Glofeydd Cwmni Dynefor, Dyffryn, Pwll Copr John Glasbrook, Graigola a'r Graio- (Merthyr), Pwll Cwmni Western (Merthyr), Pwll Pentrefelin Vivian & Sons, Glofeydd Cwmni Birch Rock, cyfeirir at Mri. W. Thos. Lewis, F. A. Yeo, Wm. Abraham, a Isaac Evans, i benderfynu yn mha bentwr y gosod- ir y cyfryw lofeydd. 7. Glofeydd personau yn y dyfodol a unant a'r cyfryw undeb a benodir i'w pentyrau perthynasol, yn ol ansawdd a defnyddiad y glo a gynyrchir ynddynt. 8. Safon y cyflogau ar ba un y gwneir cod- iadau a gostyngiadau a gaiff fod y prisoedd amrywiol a delir yn weithredol yn y gwahan- ol lofeydd am fis Rhagfyr, 1879, a cha'r cyfryw gyflogau fod yn gyfwerth a chyfan- bris safonol pris gwerthiadol y glo, o 8s. 6c. y dunell o lofeydd pentwr 1, ac 8s. y dunell o lofeydd pentwr 2. 9. Cymerir pris gwerthiadol y glo ar gyfar- taledd, fel glo rnawr rhidylledig, wedi ei drosglwyddo yn rhydd ar y bwrdd yn Nghaer- dydd, Casnewydd, neu Abertawe. 10. Am lo a werthir i'r wageni yn y glo- feydd, y cyfan-bris cyfwerthol yn y porthladd cyffredin o allforiad a gymerir wrth gyfrif y prisoedd gwerthiadol ar gyfartaledd. 11. Bydd graddfa y cyflogau i gael ei chodi neu ei gostwng ar derfyn pob cyfnod o bedwar mis trwy ychwanegiad neu ostyngiadau o 2! y j cant ar y gyflog-raddfa safonol am bob 4c. y dunell o godiad neu ostyngiad yn nghyfan- briSj cyfartaleddol prisoedd gwerthiadol y glo yn'mhob pentwr. 12.|.<Ni chaiff fod mwyafswm na lleiafswm yn»ngraddfa y cyflogau dan y cytundeb hwn. I 13. Bydd i'r Scale gyflogau ddywededig aros mewn grym o'r laf o Chwefror, 1880, ac o hyny yn mlaen hyd nes y bydd i'r meistri neu y gweithwyr, trwy en gwahanol gynrych- iolwyr ar y pwyllgor unol, roddi chwech mis o rybudd i derfynu y cyfryw Scale, a'r cyfryw rybudd i gael ei roddi ar y laf o Chwefror, neu y laf o Awst. Bydd yn ddealledig y gall y naill neu y Hall o'r pentyrau glofaol, fel cyfangorff, wneyd defnydd o'r hawl i roi y cyfryw rybudd heb gydsyniad y pentwr arall fel cyfangorff. 14. Ar yr ystyriaeth ddarfod i'r gweithwyr gydsynio, ar y laf o Ionawr, 1878, i ostyngiad o 5 y cant yn eu cyflogau islaw lleiaf-bris y Scale y pryd hwnw mewn grym, y mae y meistri yn cytuno i ganiatau am un flwyddyn, fel ar, ac o'r laf o Chwefror nesaf, godiad o 5 y cant ar raddfa safonol y cyflogau, taledig yn Rhagfyr diweddaf, pa un a wna cyfan-bris gwerthiadol y glo, neu beidio ildio y cyfryw godiad dan y Scale y cytunir ami yn awr ond y mae ya eglur ddealledig fod y cyfryw godiad o 5 y cant yn rad-wobr caniatedig gan y meistri, ac os cyfyd y prisoedd gwerthiad- 01 uwchlaw y safon dan y gwahanol bentyrau, ni fydd y rhad-wobr yn ddyladwy yu ychwan- egol i'r gwahanol godiadau, ond ca suddo neu ffurfio rhan o'r cyfryw godiadau, fel yr ildia y prisoedd yn unol a rheoleiddiad y Scale. 15. Bydd i'r pwyllgor unol apwyntio cyfrif- wyr, y rhai ydynt i gael allan gyfan-bris y gwerthiadol y glo yn mhob pentwr. Bydd iddynt rhag blaen fynu gwybod cyfan-bris gwerthiadol y glo am y pedwar mis yn di- weddu Rhagfyr 31ain, 1879, yr hyn a lywodr- aetha y cyflogau o'r laf o Fawrth i'r 30ain o Fehefin, 1880, oddigerth fel y darbodir yn adran 14. Ail gyfnod yr ymchwiliad fydd y pedwar mis yn diweddu Ebrill 30ain, 1880, yr hyn a reoleiddia y cyflogau yn yr un rnodd am y pedwar mis yn dechreu Gorphenaf laf, 1880, ac felly yn mlaen am gyfnodau cyffelyb o 4 mis yn ystod parhad y Scale hon. 16. Bydd i'r cyfrifwyr roddi tyst-ysgrif o gyfan bris cyfartaleddol o'r cyfryw brisoedd gwerthiadol am yr holl lo yn mhob pentwr i ddau ysgrifenydd y pwyilgor unol. Bydd i'r cyfrifwyr gadw manylion eu hymcliiliadau yn hoilol ddirgel, yn unig ardystio y canlyniad mewn dau ffigwr. 17. Bydd traul y Cyfrifydd i gael ei dalu mewn cvfran-symiau gan y meistri a'r gweith- wyr 18. Yn ychwanegol at y cyflogau taladwy dan y Scale ddywededig, bydd codiad pellach o ddau a haner y cant ar y cyflogau safonol, yn mherthynas i gyflogau yn nglofeydd pen- twr rhif 2, pan fydd cyfanswm y pris gwerth- iadol wedi cyrhaedd 12s. 8e. y dunell, ac felly &c yn mhob un o'r pentyrau dywededig, am bob Is. 4e. o godiad yn y cyfan-brisoedd gwerth- iadol, bydd codiad o 2^ y cant ar safon y raddfa gyflogol, yn ychwanegol at y cyflogau taladwy dan y Scale ddywededig. Pan fydd y cyfryw godiadau ychwanegoi yn ngraddfa y cyflogau tuhwnt i'r Scale gyfFredin ddod yn daladwy, a dygwyddo gostyngiad yn nghyfan-bris gwerthiadol y glo, bydd gos- tyngiad cyfwerthol o 2i y cant ar safon 1:1 2 y raddfa gyflogol yn ychwanegol at y gostyngiad dan y Scale, am bob cwympiad o Is. 4c. y dunell yn nghyfan-bris gwerthiadol y glo lawr i'rcyfan-bris perthynasol dywededig o 13s. 2c. a 12s. 8e. W. THOMAS LEWIS. WM. ABRAMAM. W. MENELAUS. PHILIP JONES. JOHN NIXON. D. MORGAN. J. F. ROWBOTHOM. SAMUEL DAVIES. W. S. CARTWRIGHT. ISAAC EVANS. F. A. YEO. THOMAS PHILLIPS. JOHN JENKINS. JOHN BLACKER. Tystion i'r arwyddenwau uchod, JOHN THOMAS. ALEXANDER DALZIEL.

ABERDAR.

CWM RHONDDA.

CROSS INN, GER LLANDEBIE.

IViAXVYY IVirfciS. JtvUijioJuiJLv,…

Advertising