Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Eisteddfod Treherbert, Nadolig,…
Eisteddfod Treherbert, Nadolig, 1879. BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADAU. GAN RHYDDERCH AB MORGAN. Casgliad o Ffracthebion Barddonol. Derbyniasom saith o gasgliadau, y rhai a bwysant gyda'u gilydd bedwar ptmjs a chwar- ter. Nid yw y cwbl a gasglwyd gan yr ym- geiswyr hyn yn deilwng o'u galw yn ffraeth- ebion; ond buaswn gyda chydwybod dawel yn dyfarnu yr iselaf ei deilyngdod o'r saith yn deilwng o'r wobr flaenaf. Dryw bach o dre'r baw.-Casgliad helaeth, yn cynwys llawer o amrywiaeth ffraethlym, ac yn cadw y dyddordeb i fyny hyd o fewn ychydig dudalenau i'r diwedd. Buasai ei eiddo yn llawer gwell heb yr englynion gwag- saw i Ddau a dwy a Babilon." Nid oes y mymryn lleiaf o ffraethineb yn y naill na'r llall ohonynt. Buasai yn ganmoladwy yn y Dryw i beidio dwyn i'w gasgliad yr iaith front, anweddus, a geir ganddo yn nhudalenau y chweched a'r seithfed. Os yw yn gymydog i awdwr y llinellau sydd yn y tudalenau a nod- wyd, cynghored ef i astudio'r Ysgol Fardd- ol," iaith deilwng, a chwaeth goethedig. Awenyddwr. — Casgliad gwych a phur chwaethus ond y mae amryw ddarnau yn y casgliad hwn na theilyngant eu cyfrif fel yn meddu y gronyn lleiaf o ffraethineb. Mae Taith Nic yn hen ddarn pur gyfarwydd i bawb sydd yn arfer darllen barddoniaeth ond y mae yn llawer rhy faith, ac telly lietya "Gân y Cwrt Bach," i'w cymec d i mewn yn gyfan o dan benawd testyn fel hwn. Rhagora hwn lawer mewn teilyngdod ar y Dryw. Yulcan.—Gwelodd yr awdwr yn dda ein hysbysu mai yr un yw efe ac Awenyddwr, a rhydd i ni ei farn bersonol ar y ddau gyfan- soddiad yn y geiriau canlynol Yr wyf yn credu eu bod yn llawer iawn mwy na gwerth y wobr," &c. Dywed yn mhellach :—" Cy- meraf yr eondra arnoch, os byddwch mor garedig a pheidio eu gosod yn gydfuddugol, os nad ydynt yn deilwng o'r 3p., bydd yn fwy dymunol genyf eu cael yn ol," &c. Cy- mered yr ymgeisydd hwn gynghor yn garedig genyf wrth fyned heibio—h.y., na thored gynlluniau allan i'r beirniaid i weithio wrth- ynt, ond danfoned ei eiddo i bob cystadleu- aeth yn foel a digynffon. Os na thybia fod ei feirniaid yn ddigon galluog i edrych dros ei gynyrchion, cadwed hwynt iddo ei hun. Mae y casgliad hwn o'r un nodwedd a'r un blaen- orol, ond fod ynddo rai darnau mwy taraw- iadol ac yr ydym o'r un farn a'r awdwr yn ddigellwair-mae pob un o'r ddau gasgliad yn fwy na gwerth y wobr; ond y mae genym ereill yn dyfod ar eu hoi sydd lawer yn hel- aethach na'r ddau gyda'u gilydd, ac yn meddu ar deilyngdod uwch na'r ddau yn un. Twm o'r Nant yr Ail. Teiml wn yn cldiolcn- gar i'r ysgrifenydd hwn am ei gasgliad cryno, tlws, a ffraethbert. Ffraethebion sydd ganddo gan mwyaf. Dengys chwaeth bur, a gofal teilwng wrth ddyfynu, ac y mae wedi gosod y gwaith allan yn drefnua a. phrydferth. Caradog ap Arthur.—Y mae eiddo yr ym- geisydd hwn yn gyffelyb, mewn arddull a theilyngdod, i eiddo Twm ond y mae yn fwy o feistr ar ei waith. Can belled ag y mae yn myned, y mae yn llawn cystal ag eiddo'r goreu yn y gystadleuaeth hon ond y mae wedi bod yn rhy fyr ei anadl yn y rhedegfa bresenol i enill y gamp. Mae cystal bara yn y dorth geiniog ag sydd yn y dorth ddwy; ond dewisir y dorth fwyaf yn mlaenaf, os ceir hi am yr un bris a'r lleiaf. Nenog Wyn.—Casgliad wedi costio llawer o lafur ac ymchwiliad manwl, ac wedi ei ddethol yn chwaethus, a'i osod allan yn hynod eglur a threfnus. Rhydd lawer o ddyddor- deb wrth ei ddarllen, a byddai yn iechyd i ambell un pruddglwyfus ei feddwl i gael cip- olwg ar y ffraethebion hyn, er llawenhau yehydig ar ei ysbryd yn nyddiau adfyd. Arthur.—Dyma'r tlysaf a'r goreu yn mhob ystyr. Mae yn glod i ben a chalon y casgl- ydd. Cawn ganddo 149 o dudalenau, yn fyw o ffraethineb amrywiol feirdd hen a diweddar ein cenedl, a'r cwbl wedi ei drefnu mewn diwyg ragorol. Rhodder y wobr flaenaf i Arthur, a'r ail i Nenog Wyn. A. wdl-" Y Ddaear." Derbyniwyd ar y testyn hwn bump o awdlau, ac y mae yn llawen genyf ddatgan fod y gwaelaf ohonynt yn meddu ar deilyng- dod uchel. Y mae y testyn yn eang iawn, a pha ddwysaf y myfyrdod uwch ei ben, mwyaf oil yr ymeanga yn ei hyd a'i led, ei ddyfnder a'i uwchder. Cawn ynddo feusydd annher- fynol i'r meddyliau mwyaf addfed, cyrhaedd- bell, a gafaelgar, yn mhlith daearegwyr, ser- yddwyr, morwyr, athronwyr, haneswyr, beirdd, a duwinyddion yr oesau. Wrth ei astudio yn bwyllog, gwelir fod gwyddoniaeth a datguddiad dwyfol yn cyd-ymgusanu mewn heddwch yn eu cyd-dystiolaeth i allu, doeth- ineb, daioni, a gogoniant "Crëawdwr cyrau y ddaear." Wrth ddarllen yr awdlau hyn, argyhoeddir ni fod eu hawdwyr galluog wedi darllen llawer ar rai o'r llyfrau goreu, ac wedi dwyn i'w cyfansoddiadau ddameaniaethau amryfal a dyfnddysg ein prif awduron ar ddaeareg, seryddiaeth, a gwyddoniaeth, yn eu gwahanol agweddau. Ond y mae yn y gys- tadleuaeth hon, fel braidd yn mhob cystadleu- aeth arall, raddau yn ngalluoedd meddwl, nerth dirnadaeth, gogoniant meddylddrychol, a thlysineb saerniol yr awdwyr. Y cyntaf ddaw dan ein sylw yw La Terre.-Cymer yr awdwr hwn olwg bur eang ar y testyn. Cychwyna gydag eiddun- iad yr awenydd am wen 16r a'i oleuni dwyfol i'w arwain i faes toreithiog y testyn, yn yr englyn caplynol Iôr anwyl, i'r awenydd-rho dy wen Ar dy waith ysblenydd I'w enaid bydd arweinydd A gwawl o dêg oleu dydd. Sylwa ar y ddaear, fel ei gosodir allan gan ddaearegwyr, gyda chryn lawer o fedr ac yn. awenyddol, ac yna try at hanesiaeth ysbryd- oledig, a gweithia allan drefniad y cread yn ganmoladwy iawn. Teimlwn wrth ddarllen yr awdl hon nad yw yr awdwr bob amser yn ddigon ffodus i ddewis yr ansoddeiriau mwyaf priodol, a phentyra ormod ohonynt ar draws eu gilydd mewn rhai llinellau, nes y cyll yr adranau hyny o'r eyfansoddiad lawer o'u nerth. Mae yma hefyd lawer o olion diofal- wch i'w canfod. Prawf y llinellau canlynol hyny-mewn gwallau cynghaneddol, ieith- yddol, llythyrenol, neu wall mewn synwyr:— Yn ngwisg fraf yr haf 'r ol hyn. I fwynhau hydref einioes. Rhedai air gant rhodau'r gwawl. Er i chwa fig y gauaf gwyn. Ac ha ymylent ar ffyrf cymylau. Estynant, r(A)odd&nt yn r(h)ydd. Ar bur farmorau'n her furmurant. Wych eiraol, uwch eu haur eiliau. Yn ei dwrw cyndeiriog. I'r llonydd defnydd a ddaeth. Pob gwig a'i,flwsig o fawl. Y curo, ie, 'r earn. Ac o aeddfwyn a bywiol gynheddfiad. A'r glaear daear a ddaeth. Lion o hyd llumiai hcdd (tor mesur). A'r ddaear Ddien a lygrwyd (tor mesur eto). Ond nef etifedd o'r tan. Dryw allu hydr ewyllys. A gwyliau meib goleuni. I'r fraich gadarn yn froch a godwyd. A'r adaear gron ciclirgrynwycl. Ai drwy'r byd a,dre' heb barch. Wnai hynaws esyn mewn hoenus osgo. Ger gorseddfa'r wynfa wen. Gyda meidrolion, neu gydymdreilio. Yn ufydd gan chwilydd yn chwai. Y wawdus demhestl wedyn. Delw Ion yn nghol ei bodolaeth. Dihafal hiliwyd o ddwyfol olion. Rhelyw'r byw na fa'n nhfr bedd. A'r anwir byrddir heddyw. I'r anwyl fan roer yn anreg. I'r Gwaredydd a dedwyd dant. Digofaint Duw yn gafod," &c. Gresyn fod y bardd hwn wedi esgeuluso cy- maint ar saerniiaeth ei awdl. Er hyn o wallau, mae ganddo ra.i darnau rhagorol. Llywarch Hen.-Cawsom lawer o foddhad wrth ddarllen yr awdl bert a thyner hon. Cymer yr awdwr olwg eang ar wahanol agweddau'r testyn. Mae ganddo gynllun pur gwmpasog a manwl wedi ei dynu allan, yr o, c, hwn a weithir gydag egni a bywiogrwydd neillduol gan yr awdwr. Teimlwn nad ydym yn cydredeg trwy y cyfansoddiad a bardd o arucheledd a threiddgarwch manylgraff; ond gwelwn yn ei eiddo wylder, symlrwydd, chwaeth goethedig, a llawer o brydferthwch. Rhaid ei feio yntau am ychydig ddiofalwch mewn rhai o'i linellau, megys :— Cyn rhoi pedryfan anian (gormod odlau). Hwyrach y bydd rhai o'm brodyr barddol yn annghytuuo a mi pan y dywedwyf mai Lleddf a Thalgron yw,— Dedwydd ydoedd Dofydd dan; ond felly y byddaf fi yn edrych arni. Eto :— Y rhoedd i'w hanian yr awyr deneu. Gwn mai rhoed a feddyliai'r bardd; ond rhaid i mi gymeryd y llinellau fel y maent. Rhuo'n hydrwyllt wnai'r chwyrn raiadrau. Yn dotio o gariad atynt. Heb ei gwau rhwng brigau braf. Acw ar wen cdr y wig (nid yw'r adar yn gwSnu). A ehor y wig chwareugar. Yr orwych a wenent ar ei cheinwedd. Ollynwyd allan yn lleng, o dyllau. Y llynclyn yn llawn gwenwyn a gwyniau. Yw mwynhau o wenau nen. Eurdes had, Paradwys wen. Nid yw y man wallau hyn braidd yn haeddu eu coffa mewn cymhariaeth i gorff a chyfan- waith yr awdl alluog hon. Yr ydym yn mawr edmygu tlysineb, naturioldeb, a barddoniaeth swynol yr awdwr hwn. Ifor.—Disgyna yr awdwr galluog hwn yrt ddiymdroi ar ei destyn, ac a drwy ei waith yn anrhydeddus. Mae ei gynghaneddion yn meddu llawer o newydd-deb a thlysni, ei ddrychfeddyliau yn aruchel, a nodweddir yr awdl drwyddi ag yni a bywyd barddonol. Mae ynddi rai llinellau pur aneglur, y rhai, gydag ychydig fdrafferth ychwanegol i'r awdwr, a allesid drefnu i gyflwyno eu meddwl yn fwy goleu i'r darllenydd. Nid yw yr hyn a gyfrifwn yn ddiffygiol yn saernïaeth yr awdl ond prin gwerth ei nodi. Ceir ambell linell, megys Tegwch byd dug uwchben (tor mesur). Tiroedd y deheu a'r dwyrain treiddent. Gwastadedd anherfyn 'n estyn fynent. Mwyn ag anwyl mae'n gwenu. Olion o dawch lanwai'n d6. Is y ewm oil sy'n cam wau. Goruwch ing ag erch angeu. Drwsiodd lor dros daearen. Duw Ner ddatoda anian. Daear newydd ddedwydd ddaw. Nid yw yr ychydig wallau hyn ond brychau distadl ar gyfansoddiad dysglaer ac uchel iawn ei deilyngdod yn y gystadleuaeth hon. Pererin.-Rhagora awdl Pererin ar eiddo ei bedwar cydymgeiswyr mewn llyfnder a naturioldeb darllenadwy. Ystyrir ef hefyd yn eangach ei syniadau, ac yn eymeryd golwg helaethach, llwyrach, a mwy athronyddol ar y testyn, na'r tri a nodwyd eisoes. Mae ei gynghaneddion fel pe wedi tyfu, a'i feddyliau yn goethedig, ond yn addurnedig a symledd. Cymer i mewn ddamcaniaethau hen a di- weddar o barthed ffurfiad a chyfnewidiadau ansoddol y ddaear, a rhydd i'r datguddiad dwyfol ei le priodol yn ei berthynas a dad- blygiadau gwyddoniaeth. Teimlwn nad yw wedi bod mor ofalus gydag ambell linell ag y gallasai fod. Cydnabyddwn ar yr un pryd fod rhai o'n prif feirdd yn euog o arfer yr hyn a gondemnir genym mewn rhai o'r llin- ellau canlynol ond goreu oil pa leiaf o wen- didau a geir mewn cyfansoddiad cystadleuol., yn neillduol felly ar brif destynau ein Heis- teddfodau. Nid da y canlynol :— Dy wanwyn ar ddillyn dddl. Neu wynias dan oedd i'w clirystyneiddio. j Ond gwawriodd cyfnod arall 1 Uwch ein byd, a chawn heb 6all. 'Mh.9b bre a chwm a'i breichiau hyd. Gai ei hir ysgwyd gan wewyr esgor. Rhai a. thraed danynt, ihai uthr adenydd. A chaid ar y chwecheci dydd. Os damwain hyn, rhaid synu. Eraill wed'yn Yn llawn gwenwyn (Lleddf a Thalgron). Y mynydd a wna orchymynion. Ddodant y celfydau (celfyddydau). Onid doeth? Y milyn dig. Droed dew ei phoenydd yn d\vr diffynol. Wddf hir, a greddf i'w (h)arwaill. Genir y gwyrddfrig wamvyn,-a genir GogoniaLt y flwyddyn. 0, ddillyn Wamoyn, wyt yn dihuno. Yr haf a ddaeth, a'i ryfedd-Iuniall byw Lonant bob unigedd. Y pererin —i'r prairi. Genhadon, hedd—geneuau Duw oeddynt. Lili cain yn y drain draw- Pwy gadd wisg debyg iddaw? (gwryivaidd). Droswy'n diferu mae'r swyn difyrus. Heb groes yn f' ymyl i ddwyn fy sylw. Troi yn ol o'r tir hwn wnaf. Gwelir wrth y llinellau a ddyfynwyd fod rhai ohonynt yn wallus eu cynghaneddiad, ac ereill yn cynwys dwy gydsain feddal yn ym- galedu i gyfateb mewn sain i gydsain galed. Mae cryn ddiofalwch yn y bai olaf wedi bod. Awdl gampus ydyw eiddo Pererin, er yr ychydig wendidau a nodwyd. Mae iddi enaid mawr a gogoneddus, ac nid yw y diffygion a welir ynddi ond ychydig lwch ar ei gwisg emog. Cuvier.-Mae y bardd rhagorol hwn yn dyfod i fyny yn yr ymdrechfa bresenol yn amlder ei rym." Meistr ar ei waith ydyw fel bardd, athronydd, a duwinydd. Mae ei graffder yn seraffaidd, ei feddylddrychau yn ogoneddus, a'i saerniaeth awenyddol yn meddu y eywreinder mwyaf adduruol. Mae ei awdl yn fwy eyflawn a chwmpasog nag eiddo ei gydymgeiswyr. Disgyna fel eryr ar ei ysglyfaeth, gan sugno ei holl waed ef. Blin genym fod rhai gwallau cynghaneddol wedi dianc arno yn ei gyfansoddiad rhagorol; ond pe buasai y wobr yn ugain gini a chadair aur, buasem yn ei dyfarnu yn llawen i Cuvier. Efe yw y goreu, a dyfernir gwobr a chadair yr Eisteddfod hon iddo, a hyny yn anrhydeddus.
MARWOLlET rl DEWIN CWRTY-CADNO.
MARWOLlET rl DEWIN CWRTY- CADNO. Cynaliodd Mr. Grover, y crwner, dreng- holiad, dydd Mercher, yn Ynyscadwdwg Innr ger Pontypridd, ar gorff John Harries, Cwrt- ycadno, sir Gaerffyrddin, 57 mlwydd oed, yr hwn a ddarganfyddwyd gan Sergeant Watkins yn y gamlas, ger Cilfynydd, foreu dydd Mawrth blaenorol. Dywedai Wm. Jenkins, Pontshonnorton^ iddo weled y trengedig am 12 o'r gloch nos Sadwrn. Ymddangosai wedi myn'd ychydig mewn gwirod. Gofyn- odd i'r tyst os gwyddai lie yr oedd dyn o'r enw Phillip Blunt yn byw. Adnabyddodd Mrs. Morgan, Llanelli, Caerfyrddin, y treng- edig. Dydd Gwener blaenorol, gwelsai ef yn Aberdar mewn perthynas i ewyllys ei thad, yr hon oedd ganddo mewn carpet bag. (Ni chafwyd y carpet bag na'r gynwys hyd yn hyn). Yr oedd wedi dweyd wrthi hi fod rhai miloedd o bunau yn dod iddi, ac yr oedd wedi trefnu i fyned gydag ef i Loegr ar y fusnes. Mewn ymddyddan, gofynodd hi iddo pa fodd y daethai i feddiant o'r ewyllys. Ei ateb oedd :—" Nid yw fater i chwi pa le y cefais hi. Ni ladratais hi erioed." Proff- esai wybod yr oil am y property. Y rheith- wyr, ar ol gwrando tystiolaethau pellach, a ddychwelasant y rheithfarn o "Cafwyd wedi boddi." Nid oedd drwgdybiaeth fod neb wedi ymosod arno.
DAMWAIN ALAETHUS YN MIDDLE…
DAMWAIN ALAETHUS YN MIDDLE DYFFliYN. Bu farw glowr o'r enw William Lewis, 20 oed, 2 Dyffryn Road, Cwmbach, nos Fawrth, wythnos i'r diweddaf, oddiwrth niweidiau a dderbyniodd yn nglofa Middle Dyffryn y prydnawn hwnw. Yr oedd yn eistedd gyda'r gyrwr, David Davies, y tu blaen i nifer o trams, pan y cwympodd yn ddamweiniol, a. phasiodd yr olwynion drosto gan achosi amryw niweidiau mewnol. Fel y cwympai y trengedig, gafaelodd yn y gyrwr, Davies, a'r canlyniad oedd i hwnw golli ei droed, a syrthio dan y trams nes tori ei ddwy goes. Y mae yntau mewn cyflwr peryglus iawn.
OFFEIRIAD MEDDW.
OFFEIRIAD MEDDW. Dydd Mercher, o flaen Maer ac ynadon Chester, cyhuddwyd William Barrowclough,. offeiriad Cricciaeth, sir Gaernarfon, o fod yn feddw ac analluog ar yr 20fed o'r mis diweddaf. Dywedai yr heddgeidwad fod y diffynydd, am 11 o'r gloch y boreu ar y dydd a nodwyd, yn feddw yn Brook-street, a chymerth y tyst ef i orsaf yr heddgeidwad, gan ei gloi yno. Dywedodd yr Uwch-gwnstabl i'r diffynydd, wedi iddo sobri, gael eu feichnio allan, a chaniatawyd iddo fyned ymaith ond iddo roi ei air i ymddangos. Gwadai ei fod yn feddw, a dywedai ei fod yn glaf ac wrth geisio cerdded, iddo syrthio. Dirwywyd ef i 10s. a'r costau am fod yn feddw.
[No title]
NAI'R BARDD LONGFELLOW.—Y mae nai y bardd enwog hwn yn ngafael y gyfraith am ffugio enw ei ewythr wrth cheque o 1,000 o ddoleri.
SARAH WILLIAMS, Etifeddes…
SARAH WILLIAMS, Etifeddes y Gelli. TFUG-CHWEDL AIL OREU EISTEDDFOD GADEIR- IOL DEHEUDIR CYMRU. PENOD I.— (ParhadJ. Yr Ymddiriedaeth a'r Adduned. "Y mae genyf ychydig yn rhagor i'w hysbysu," meddai yr Yswain Williams wrth ei ferch Sarah. Y mae'r ewyllys a'r prawfion yn gloedig yn ddrar dirgejaidd fy ysgrifgist. Gwyddoch chwi y ffordd idd ei agoryd." Ond fy nhad, yr enw. Pa beth yw yr enw?" llefai hithau mewn ton frysiog, pan yn canfod aeliau y llygaid yn syrthio yn drymllyd. Ond yr cedd yn rhy ddiweddar; dychwelodd y llewygfeydd dirdynol, pa rai oedd wedi ei adael er's pedair awr ar ngsia. O'r diwedd, yr oedd yn amlwg fod y llinyn arian yn cael ei dori, a thybiai hi iddi ei glywed yn sisial yn ddystaw Maddeuwch, 0 maddeuwch i'chtad." « Fy nhad," oedd yr a-eb, "byddwch yn dawel; gwnaf y cwbl. Y nefoedd a faddeuo ac a drugarhao wrth eich henaid. Yr wyf yn maddeu o eigion.fy nghalon." Ond cyn fod y frawddeg olaf wedi ei gorphen, yr eedd yr enaid wedi ymadael. Arosodd Sarah wrthi ei hun am enyd. Yr oedd unigrwydd a thawelwch y lie yn fwy cyfaddas i sefyllfa ei meddwl. Yn mhen ychydig, clywai guro wrth ddor yr ystafell; ond erbyn edrych, cid oedd yno ond dwy o'r morwynion, y rhai a'i harweiniasant hi i'w hystafell ei hun. Wedi cyrhaedd yno, dymunodd am gael bod yn nnig am ych- ydig; ac yna ymdaflodd ar yr esmwyth- fainc. ac 0! v fbtb feddyliau a redai drwy ei mynwes. Y ddoe yr oedd yn etifeddes gyfoethocaf y wlad o amgylch, ond yn awr yn dlawd-neb ddim. Y ddoe yr oedd yn ymfalch'io ei bod yn ddisgynedig o linach anrhydeddus, ac yr oedd y boneddwr ieuanc mwyaf gobeithiol yn y wlad yn ymgcisydd am ei llaw, sef Syr John Gwyn, at yr hwn y cyfeiria ei thad; ond erbyn heddyw, yr oedd yn dlawd ac yn hollol ddigysur, a gwaeth na'r cwbl, yn ferch i lofrudd. Arosodd ychydig; ond yn fuan,- torodd allan i wy IOf 0! fy nhad, fy anwyl dad, pa load y bu arnoch i ddwyn y fath watthrudd a chywilydd ar eich hunig blentyn ?" Ar ol hyn, syrthiodd yn ol ar ei chefn mewn llewyg. Pan ddadebrodd o'r llewyg, deallodd nad ydoedd wrthi ei hun mwyach, gan y clywai swn lleferydd uchel y geiriau a dryw nant ei chalon fel picellau:— "'Sarah, fy anwyl Sarah, yr ydych yn well yn awr," meddai Syr John Gwyn, yr hwn a benliniau wrth ei esmwythfainc. « Diolch t'r nefoedd, yr ydych yn fy ad- mabod." Gadewch fi," gorchymai hithau, mewn ton awdurdodol, "gadewch fi, yr wyf yn atolygu arnoch." Fy anwylyd, yr ydych wedi gorweithio eich hunan i raddau gormodol. Ni allaf oodef eich gadael yn awr, hyd yn nod yn ngofal eich morwynion mwyaf ffyddlawn. Byddai hyny yn greulondeb ynof." "Na, na; ni chewch aros. Mynaf ddangos fy mod yn feistres y lie am ych- ydig, o'r hyn leiaf." Edrychai Syr John gyda syndod ar agwedd gynhyrfus ei gwyneb. Y cochni annatuiiol ag oedd yn fflamio yn ei grudd- iau, y gwyllt-wyneb ag oedd yn pelydru allan o'i llygaid, yn nghyd â'r don awdur- dodol a ddefnyddiai pan yn siarad, oeddynt bethau newydd iddo ef. "Gwnaf eich dymuniad," meddai ef. ee Gadawaf y Gelli ar unwaith, ond byddaf yma yn gynar boreu yfory, er mwyn rhoddi fy nghynorthwy i chwi, er mwyn dwyn oddiamgylch y trefaiadau cysylltiedig a'r angladd." Nid wyf yn chwenych dim ond llon- yddwch. Gallaf fi ddwyn y trefniadau heb gynorthwy un dyn, a gwnaf felly hefyd. Dyna, ewch bellach," meddai, a chauodd ei llygaid fel pe buasai ei bresenoldeb yn peri poen dirfawr iddi. Edrychai Syr John mor syn a phe y buasai taranfollt wedi syrthio wrth ei draed, gan daflu ei olwg ar yr un pryd ar Nora, hen forwyn ffyddlawn y Gelli am lawer o flynyddau. Y mae yn well i chwi fyned, Syr John," ebai Nora. Bydd yn well ac yn fwy ynddi ei hun erbyn y boreu, 'rwy'n gobeithio. Nid yw yn rhyfedd yn y byd ei bod mor anmhwyllog yn awr." Yr ydych yn gamsyniol," meddai Sarah. Yr wyf yn gwybod beth yr wyf yn ei lefaru yn bur dda; a phe buasai Syr John yn meddu ar y gronyn lleiaf o fon- eddigeiddrwydd, neu deimladau fel eiddo dyn arall, ni fyddai mor greulawn a gwthio ei bresenoldeb ar blentyn amddifad a di- amddiffyn yn groes i'w ewyllys. Nid wyf yn ewyllysio dim ond llonyddwch." Suddodd yn ol am unwaith yn ychwaneg ar ei hesmwythfainc, pa un a allai fod wedi ei gwneuthur o geryg nadd, o ran dim gorphwys ae esmwythdra a roddai i Sarah. Ildiodd Syr John, o'r diwedd, i'w deisyf- iadau, a gadawodd y He. Ar ei ffordd adref, synai beth allasai fod y mater ar etifeddes y Gelli. Nid oedd wedi ymddwyn erioed o'r blaen yn y dull hwnw ato ef. Feallai ei bod am dori y eysylltiad carwr- iaethol a fodolai rhyngddynt. Gallasai ef, boneddwr o waedoliaetb a chyfoethog fel ag yr oedd, gael un oedd lawer amgenach na hi i'w ateb. Yr oedd ef wedi ym- ddarostwng wrth wneyd dim a hi. Pan yn marchogaeth gartref, teimlai ei fynwes mor aflonydd a chynddeiriog a thonau y m6r mewn ystorm. Yr oedd ei edmygedd mor fawr, yn nghyd a'i gariad mor angerddol at yr etifeddes ar un Haw yn gymaint, ac eiddigedd a drwgdybiaeth ar y llaw arall yn gwneyd ei fynwes yn hollol annedwydd. « Rhoddaf un cynyg yn ychwaneg iddi," meddai, tra yn cymhwyso ei yspardynau at ochrau ei geffyl. Arosaf hyd yfory, neu, feallai, hyd drenydd ac ar ol hyny, os na chaf ryw sicrwydd am y dyfodoloddiwrthi, ac os na llwyddaf i gael pen arni y pryd hwnw, caiff wybod nad yw Syr John Gwyn yn gaethwas i un fenyw o dan y nef. Y mae ei Arglwyddiaeth o'r Dyffryn wedi ceisio, amryw droion, i alw gydag ef yn y Palas. Dywedir fod ei ferch yn ddarlun byw o brydferthwch, ac feallai y caf gyfle i'w gweled a siarad a hi, ac yna caiff Sarah Williams wybod mai nid dyn gwellt vdwyf fl. Ond feallai fy mod yn rhy barod i'w chondemnio, ag ystyried yr amgylchiadau y mae ynddynt yn awr. Feallai y daw Amser a'r cwbl i oleuni; hen esboniwr heb ei ail ydyw ef." Erbyn hyn, yr oedd wedi cyrhaedd Palas y Dyffryn, a throdd i mewn, lie y cafodd dderbyniad croesawus. 4? •» -x- Eisteddai Sarah Williams yn llyfrgell ei thad prydnawn y dydd wedi ei thad farw. Yr oedd goleuni y tan dysglaer, yn nghyd a goleuni y llasern oedd yn llosgi ar y bwrdd, yn disgyn ar ei gwyneb gwelw ar ei gwaith yn edrych dros y gwahanol bapyrau ag oedd yn ysgrifgist ei thad. Yr oedd y bywiogrwydd a arferai fod yn ei llygaid wedi ymadael, ac yr oedd trallod a gofid ei meddwl i'w ganfod yn gerfiedig ar ei gwynebpryd treuliedig. Meddyliai fod pob gobaith wedi ymadael 4 hi am byth. Yr oedd yn unig a digymhoith. Pa beth oedd i'w wneyd ? Yr oedd y papyrau yn profi yn eglur fod yr hyn a hysbyswyd iddi gan ei thad yn berffaith wirionedd, ac yn ei gondemnio fel llofrudd dideimlad a threisiwr annghyfiawn yn ngwydd ei llygaid. Yno yr oedd copi o ewyllys ei hen daid, yn nghyd 4 thyst-ysgrif gyfreith- lawn o briodas cefader ei thad a'i wraig ieuane anffodus. Ond pa fodd yr oeddynt wedi dyfod yno, a pha ryw ddyfeisiau dieflig a fu ar waith er mwyn eu medd- ianu ? Ofnai ddychymygu am y camwri a wnaethpwyd tuag at eu sicrhau. Ond yn nghanol y cwbl, pryd y teimlai ei hun wedi ei llyncu i fyny gan arswyd a syndod, dychymygai y elywai eiriau diweddaf ei thad yn swnio yn ei chlustiau. Oud pa fodd yr oedd i weithredu? Pa fodd yr oedd i fyned yn mlaen er gwneuthur iawn ac ad-daliad am weithredoedd ei thad ? Yn sydyn, cofiodd ei eiriau diweddaf, sef "Ceweh wybodaeth bellach gan Nora" ac mewn moment, canodd y gloch, gan orchymyn Nora i'r ystafell ati ar unwaith. Wedi hyny, trodd gan osod'yr holl bapyrau o'r golwg. Yn fuan, gwnaeth yr hen forwyn ffyddlawn ei hymddangosiad Gorchymynodd ei meistres ieuanc iddi i gymeryd y gadair oedd yn ei hymyl, ac eistedd arni. Wedi i hyny gael ei wneyd, gyda chryn ymdrech i feddianu ei hun, trodd at yr hen forwyn, a dywedodd:— Nora, yr unig gynorthwy a ellwch roddi i mi yn fy nhrallod a'm gofid ydyw trwy roddi atebiad llawn i bob gofyniad a a roddaf ger eich bron, heb geisio celu dim oddiwrthyf. Yr wyf yn credu eich bod yn fy ngharu, ac yn teimlo drosof. Beth bynag a feddyliwch am fy ngofyniadau a fy ngweithredoedd, a wnewch chwi roddi i mi y prawf hwn o'ch cydymdeimlad ffyddlawn ?" Fy anwyl ferch, gwnaf bob peth a fedraf drosoch," ocheneidiai yr hen forwyn ffyddlawn. Ond "Ust! dyna ddigon. Ni allaf oddef llawer o siarad ofer. Dywedodd fy nhad wrthyf eich bod chwi yn cofio am farwol- aeth Oscar Williams." "W rth gwrs yr wyf. Byddai yn an- mhosibl i mi beidio. 0 yr wyf yn cofio yr awr y dygwyd adref ei gorff marw, ac am drallod a hiraeth eich tad, druan. Pe y buasai yn frawd iddo yn He cefnder, nid wyf yn meddwl y gallasai ei ofid fod yn fwy." (JPw larhau).
[No title]
GOFYNWYD i'r diweddar Abraham Lincoln pa fodd yr oedd yn teimlo ar ol colli buddug- oliaeth, pan y dywedodd, Yr wyf yn teimlo fel y bachgen hwnw yn Kentucky, yr hwn, wrth redeg, a darawodd ei droed wrth gareg, yr hwn a ddywedai ei fod yn rhy fawr i lefain, ac wedi briwio gormod i chwerthin.