Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. Y MAE masnach a marsiandiaeth ar bob llaw yn ymddangos fel yn ymdywallt i gyfnod o fywiogrwydd adnewyddol, er gwaethaf traha gweinyddol y Toiiaid va eu gweinyddiaethau cartrefol a thramor. Mae y ceisiadau cynyadol yn dangos yn amlwg nad yw hyn va gyfyngedig i America. Y gwirionedd yw y gwna mar- siandwyr gamsyniad mawr os gwnant ddi- frydu mai yn America yn unig y mae ineddrwydd yn awr i ddechreu prynu o'r newydd, ac y mai yno yn unig y mae rheil- ffyrdd newyddion yn cael ea gwneuthur, yn ogystal ag adnewyddu yr hen rai. neu mai yno yn unig y mae gorucliwyliaethau ereill yn myned vn mlaen yn brysur, at y rhai y bydd angen am gyflenwadau mawrion o ddefnyddiau metelaidd a pheirianau. 'Gallwn hefyd alw sylw darllenwyr y 'GWLADGARWR at y Ffrancod, y rhai, fel cenedl, ydynt wedi avflawni gorchestion er dadblygu eu hadnoddau marsiandiol a llof weithyddol, ac ni ellir rhoddi atalfa ar y cyfryw gan gyfoewidiadau Jlywodraethol na gweinyddiaethol. Ar reilffyrdd, afoa- ydd, camlasau, a phorthladdoedd, y mae Ffrainc wedi ymwystlo i wario mewn deu- ddeg mlynedd, o'r rhai y mae tair eisoes wedi myned heibio, ddau cant a deugain o ifiliynau o bunau. Erbyn y flwyddyn 1890, bydd Ffrainc wedi ychwanegu un fil ar bymtheg o filldiroedd at ei chyfundrefn reilfforddyddol, a thua caw mil olilldiroedd at ei hafonvdd mordwyol a'u ehamlasaix. 33ydd tua haner y swrn a nodasom yn cael ei dreulio ar reilffyrdd, er gorphen prynu llinellau, &c. Mae deg o gwrnr/iau yn bared wedi eu pryan i fyny, ac y mae tua mil o beirianwyr yehwaoegol eisoes wedi -eu gosod yn ngwasanaeth y Weinydiiaeth. Y mae y gwahanol ymdrafodiaethau hefyd yn Rwsia, Austria, .Germani, a'r Aifft- pob un yn pwyntio at adfywiad, ac nid yw yn debyg y bydd i ymgais Bismark tuag at ychwanegu rhif y fyddin Germanaidd atal yr adfywiad hwn. Wrth dafiu cipclrem dras helyntion masnach yr haiarn a'r glo drwy wahanol ranbaithaa LLOEGR, yr ydym yn gweled fod cylehoedd New- castle yn dra boddhaus ar y cyfan yn mas- nach y glo. Y cais am nwylo yn hvnod dda. Mae masnach yr haiarn gorphen- wneuthurol yn parhan i adfywio. Prisoedd platiau yn cael eu cyfrifo 9p. i 9p. 10s. y dunell; bariau, 8p. 10s. y duaell; haiarn. 8p. 15s. y duuell. Cais mawr am haiarn- bwrw, a pharotoadau yn cael eu gwneyd er gosod ychwaneg o ffwrnesi mewn blast. Yn Middlesbro', dydd Mawrth, yr oedd y -cynulliad f-r y Gyfnewidfa vu fwy nag arferol. Yr oedd neuadd helaethfawr y Oyfnewidfa wedi ei llanw gan fasnachwyr 0 bob parth o Ogledd Lloegr. Y ffigwr gyffredinol am Rif 3 o haiarn-bwrw yw 3p. y dunell. Mae cais sefydlog a chynyaiol am bob math o haiarn-bwrw, ac y mae hyn yn gosod perchenogion ffwrnesi i ymawyddu i osod yr oil o'r eiddynt mewn blast. Yn masnach yr haiarn gorphen-wneuthurol, mae profion ychwaDegol o adfywiad. Prisir platiau o 9p. 5s. i 9p. 10. y dunell, ■a'r gweithfeydd sydd ar waith yn gweithio yn gyson. Rhywbeth yn gyffelyb yw pris- oedd yr haiarn yn Darlington, a'r golosglo yn gwerthu am 17s. 6e. wrth yr odynau. Yn Barrow-in-Furness, mae yr wythnosau diweddafwedi arddangos adfywiad rhyfedd- -01 yn masnach a gweithgarwch y lie. Mae y cais rhyfeddol o fawr sydd o bob lie, yn enwedig o America, am bob math o hcematite pig iron wedi achosi i lawer o ffwrnesi i gael .<eu chwythu i mewn o'r newydd, ac i rai newyddion gael eu hadeiladu, a mabwysiedir mesurau mewn amrywiol weithfeydd i ychwanegu yn mhob modd y cynyrch o haiarn. Mae y prisoedd wedi myned i fyny -o 6p. 15s. i 7p. y dunell wrth y weithfa am all round qualities o haiarn Bessemer, ac o 6p 8s. i 6p. 13s. am forge iron Rhif 3. "Gwerthwyd peth am 6p. 15s. y dunell. Mwn haiarn, yr hwn, wythnos yn ol, a werthid am o lp. 7s. i lp. 17s. y dunell, •svdd yn awr yn 2p. y dunell. Y prisoedd yn well am y glo a ddygir yno o Wigan a Barnsley, a galw mawr am dano. Yn NGOGLEDD CYMRU, mae gwelliant sylweddol yn masnach y glo, a chynydd mawr mewn gwaith. Mae y .rhan fwyaf o'r gwelthfeydd yn gweithio amser llawn, a'r hyn a godir a'r stoc oedd ■.ar law yn cael eu clirio ymaith. Ni fu y -cais am agerlo mor fywiog er's amser maith ag yw yn awr, ac y mae arwvddion amlwg o godiad yn y prisoedd. Mae y gweith- feydd plwm, y chwareli llechau, a'r chwar- ,eli ceryg yn gweithio yn rhagorol. Cais mawr am haiarn gorphen-wneuthurol, a'r un modd am y llafnau haiarn a chylchau. Mae melinau gwifrau Sir Amwythig yn llawn archebion, fel y mae argoelion da am y dyfodol. Yn NEHEUDIR CYMRU, mae arwyddioo o wellianc cynyddol yn ym- ddangos yn awyrgylch masnach. Wrth daflu golwg dros SIR FTNWY, mae yr olygfa ar bob Haw yn dangos yn amlwg fod cyfnewid mawr er gwell wedi eymeryd lie mewn masnach yn gyffredinol, nid yn un lie yn fwy amlwg na'r gwahanol weithfeydd, y rhai ydynt yn myned yn mlaen well-well o wythnos i wythnos. Lie y bu hir ddystawrwydd yn teyrnasu, nid oes yn awr ond trwst peirianau i'w glywed. Mae y gweithfeydd haiarn a dur yn hynod o fywiog, ac archebion rhagorol ar law. Mae y cais o wlad y gorllewin yn parhau yn rhagorol, ac allforiadau mawrion wedi cy- meryd He i'r Unol Dalaethau a'r India. Allforiwyd o'r Casnewydd, yr wythnos ddi- weddaf, 18,212 o dunelli o lo, a 4,132 o dunelli o haiarn a dur. Yn nglofa Rose Hill, New Tredegar, y mae deuddeg yn ychwaneg o odynau wedi eu cyneu. Mae rhai o'r gweithfeydd glo tai yn dangos an- foddlonrwydd tuag at Sliding Scale Caer- dydd, ac yn bwriadu cyn d eyfarfodydd i'r perwyl o drafod y mater, gan eu bod yn golygu, fel gweithwyr glofeydd yr Ocean a Ferndale, nad oes eisieu gwario arian mewn cysylltiad a'r outsiders a elwir mineral agents y gweithwyr. Golygant y gallant fyw heb- ddynt. Mae ymdrechion neillduol yn awr yn cael eu gwneyd i adgvnea y ffwrnesi sydd wedi bod yn segur am rai blynyddan, oddigerth eithriadau achlvsurol yn Trede- gar a Rhymni. Dys^wylir y bydd yr holl tfwrnesi blast yn fuan wedi eu hadgyneu. Yn y lie olaf, y mae nifer fechail o mill fur- naces wedi eu gosod ar waith, ac y mae yn debygol y cant weithio am amser maith i ddyfod. Mae trefniadau ar droed hefyd yn Blaenafon er adgychwyn y gweithfeydd yno. Mewn lleoedd ereill yn y sir, nid oes prinder archebion cartrefol a thramor, gyda chodiad prisoedd. Mae cwblhad y gwaith newydd ya Mardy, Bargoed, eiddo Mr. C. James, o'r hwn yr aeth y trueiai cyntaf o lo y dydd o'r blaea i Gaerdydd, wedi rhoddi cyttro gobeitniol yn nosoarta. y gLo tax yn Nghwm Rhondda. Mae masnach helaeth yn cael ei gwneyd drwy y sir mewn haiarn- bwrw o bob math, gyda chodiad prisoedd. Drwy SIR FORGANWfr, mae gwedd arall wedi cael ei rhoddi ar fas- nach i'r hyn oedd haner blwyadyn yn ol. Yn Abertawe a'r gweithfeydd cylchynol, y mae yr adfywiad yn parhau i fyned yn y blaen, a gwnawd busnes par lew drwy y mis cyntaf o'r flwyddyn hon. Allforiwyd o Abertawe yr wythnos ddiweddaf 19,633 o dunelli o lo, 2,566 o dunelli o patent fuel, 10 tunell o alcan i Ffrainc, 620 o dunelli o fetel i Hamburg, 233 o dunelli o olosglo i Antofagasta (Peru), a 300 o dunelli o hen haiarn i Baltimore. Mae y fasnach lo yn parhau yn fywiog yn nghylchoedd Aber- tawe, ac fel y gwelir UGhod, yr allforiadau yn cynyddu. Mae amrywiol sypynau o haiarn yn cael eu parotoi ar gyfer y Tal- aethau Unedig. Nid oes adnewyddiad cy- ffredinol yn masnach yr haiarn drwy adran Abertawe, er fod rhai gweithfeydd segur yn cael eu hadgychwyn. Y gweithfeydd alcan yw y rhai mwyaf bywiog a llwydd- ianus. Yn y Gyfarthfa a Dowlais, mae y cyfnewidiad gorfoleddus sydd wedi oymeryd lie yn ddiweddar yn myned yn mlaen yn llwyddianus yn mhob cyfeiriad. Mae y gweithfeydd yn myned yn ddidor nos a dydd, gwyl a gwaith. Mae y symiau o reiliau a anfonir ymaith o'r Gyfarthfa yn cynyddu o wythnos i wythnos, ac yn cael eu cludo ar hyd y gamlas tua Chaerdydd. Aeth y cargo llawn diweddaf i Galveston, Deheubarth America. Mae masnach y glo yma yn cydredeg ag eiddo yr haiarn a'r dur, a'r unig beth sydd yn eisieu yma yn awr yw mwy o weithwyr medrus, y rhai yr ymofynir am danynt. Mae datganiad wedi cael ei wneyd wrth dorwyr glo Dow- lais fod iddynt i gael codiad cyflogau, ac y gwna hyny gymeryd 11a drwy holl weith- feydd yr adran. Myned yn mlaen vn hylaw a bywiog mae gweithfeydd adran Caerdydd. Sliding Scale glofeydd yr Ocean a Ferndale yn unfrydol dderbyniol gan y gweithwyr, er holl ymdrech llwynogaidd yr outsiders i chwythu tan annghydfod i'w gwersylloedd. Cefais ar ddeall dydd Sadwrn diweddaf yn Ferndale fod codiad o swllt y bunt i gy- meryd lie yn mhen pythefnos yn a gweith- feydd y Davisiaid yn Bodringallt, Ferjadale, Blaengwawr, ac Abercwmboy. Well done. Mae yn yr adran hon arwyddion am godiad pris yn y glo, gan fod y meistri yn gwrthod cymeryd archebion mawr iawn am y pris- oedd presenol, am eu bod yn edrych yn mlaen am well yn y dyfodol. Allforiwyd o Gaerdydd yr wythnos ddiweddaf, yn ol statistical reports y Cyllíd-dy a'r Dociau, 102,107 o dunelli o lo, 3,560 o dunelli o patent fuel, a 4,167 o dunelli o haiarn a dur. Yr oedd y trosforiad mewnol o ffta haiarn yr wythnos ddiweddaf dros 6,000 o dunelli, 5,000 o'r hwn swm a ddaeth o Ysbaen. Daeth i fewn hefyd tua 6,000 o dunelli o goed pyllau glo, yn benaf o Ffrainc. Gyda golwg ar huriau llongau, y mae bywiog- rwydd cyffredinol yn bodoli yn y drafodaeth, a chodiad yn y cyfryw i borthladdoedd Italaidd, Gibraltar, Malta, a Port Said, a'r un modd i holl borthladdoedd Mor y Canoldir. Mae tymor llwyddiant masnachol wedi gwawrio arnom, a gwnawn ninau ein goreu i gadw yr awyrgylch fasnachol yn ddigwmwl. GOHEBYDD MASNACHOL. Caerdydd, Chwef. 3, 1880.

COLEG Y GWEITHIWR.

[No title]

Nodion Personol. --

Y BEIBL YN LLYFR EGW YD DOR-ION-NID…