Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
BRYTHONFRYN A GURNOS.
BRYTHONFRYN A GURNOS. MR. GOL.,—Da genyf weled fod y brawd Gurnos wedi rhoddi naid i lawr o'i sarcastic, fantastic, bombastic balloon, gan ymgyfeirio tua terra firma rheswm a dadleuaeth deg. 0 hyn gall rhyw ddaioni ddeilliaw, ond ni ddaw dim da o ymgodi fel pledren i'r perihelion. Er mwyn i Gurnos gael yr un chwareu teg a minau, ni ysgrifenaf air yr wythnos hon, ond byddaf yn gofyn am ychydig ofod, os gwelwch yn dda, yr wythnos nesaf. Yr wyf yn deall fod y tipyn dadl hon yn cael ei gwylied gyda dyddordeb gan gylch mawr o ddarllenwyr.— Yr eiddoch yn ddibryder, BRYTHONFRYN. [Byddwn yn ddiolchgar i Brythonfryn os yr erys hyd nes y gorpheno Gurnos ei lithiau.—GOL.]
AT " TWM SION OATI" A " CYS-TADLEUWR."I
AT TWM SION OATI" A CYS- TADLEUWR." Garedigion,—Yn ol y gorchymyn a gefais, mi a yrais y feirniadaeth i Seven Gymru.—Yr eiddoch yn gywir, E. GURNOS JONES.
EFFEITHIOLR WYDD RHYFEDDOL…
EFFEITHIOLR WYDD RHYFEDDOL Y TURKISH BATH. MR. GOL.Yr wyi wedi gweled amryw o bryd i bryd yn ysgrifenu i'r GWLADGARWR, a -phapyrau ereill, i ganmol y Turkish Baths, Merthyr a chyda eich caniatad, yr wyf finau yn erfyn eich hynawsedd i minau ddweyd gair am dano. Yr oeddwn yn dyoddef, yr wythnos cyn y diweddaf, oddiwrth anwyd yn y pen a'r chest, ac wedi bod felly am tua mis, yn methu yn lan cael gwared arno. Pender- fynais gychwyn tua Merthyr-ac i'r Bath a mi, dan ofal y profiadol Mr. Atkins. Yr oedd fy llais, i raddau, wedi ei anmharu, a'r peswch yn fy mlino ond syn yw adrodd, cyn myned trwy haner goruchwyliaeth y Bath, yr oedd fy mrest wedi rhyddhau, a'r llais bron yn hollol wedi ei adferu. Nid sham na thwyll- dystiolaeth yw hyn, fel y ceir yn nglyn a llawer o'r patent medicines; ond yr hyn a brofais mewn gwirionedd yr wythnos ddi- weddaf, a phwy bynag a ewyllysio gael gwybod fy enw a'm cyfeiriad, gellir ei gael gan Mr. W. Lloyd, swyddfa'r GWLADGARWR. iIyn a ddywedaf, nid er canmol y Bath, ond er budd fy nghyd-ddynion allant fod yn dy- oddef, fel finau, gan anwyd yn ei wahanol ffurfiau. Gwnewch un prawf arno, ac ni fydd arnaf ofn y canlyniad. Ofna rhai ei bod yn berygl myned yno ar dywydd oer fel hyn. Lol i gyd, canys nis gwaeth pwy dywydd oherwydd dyma fi wedi bod ynddo ar y tywydd oeraf er's dyddiau bellach, ac wedi dianc o'r hen anwyd, yn ogystal a chael diogelwch rhag anwyd newydd. Profwch a gwelwch, fechgyn a merched, drosoch eich hunain. I'r Turkish Baths y canaf fi, Ac Atkins yno'r bachgen ffri Sy'n gwneyd i'r bobl chwysu'n 111 Fel pydlers wrth ffwrneisi. Mae'n gyru pob clefydau 'r wal, O'r meingyrff teneu, tew, a'r tal, A'u gwneyd mor lion a'r corgi bal Sy'n cyfarth ar y llwyni. —Yr eiddoch, DYN IACH.
"LLITH Y POBWR," AC EISTEDDFOD…
"LLITH Y POBWR," AC EISTEDDFOD LLWYNPIA, Y NADOLIG. MR. GOL.Fel un o ddarllenwyr cyson y GWLADGARWR, yr wyf am gael caniatad i alw sylw eich lluosog ddarllenwyr at lith a ym- ddangosodd ynddo am Ionawr y 9fed, gan un a eilw ei hun yn Bobwr, yr hon sydd yn llawn o'r anwireddau mwyaf a ymddangosodd ar ddu a. gwyn erioed ac nid wyf heb ryfeddu, Mr Gol., na fuasech yn deall mai un o rwg- nachwyr Eisteddfodol y Nadolig oedd Mr. Baker yn arllwys ei lysnafedd ar draws y cor buddugol am ei fod wedi enill y tro hwn eto, fel llawer tro o'r blaen a gtfyr pawb sydd yn gwybod rhywbeth am ganu, nad cor i ryw gorgwn o gorau i chwareu ag ef yw Cor Llwynpia, o dan arweiniad y cyfaill Alaw Gwendraeth, onide ni fuasai wedi bod yn fuddugol mewn Eisteddfodau pan oedd mwy o gorau, a llawer iawn gwell corau na Chor Bethania, Llwynpia, yn cystadlu. und at y llith. Yn y lie cyntaf, y mae yn vmosod ar y beirniad, sef Dr. Frost, Caer- dydd, gan ddweyd fod Cor Jerusalem wedi rhoddi swm o arian yn nghil-dwrn y beirniad am roddi y wobr iddynt. Pell ydym o feddwl fod neb yn credu ffiloreg Mr. Baker am y Dr. fel beirniad ond rhag ofn i hyn fod yn fodd- ion i wneyd drwg iddo ef yn y dyfodol, ac i ninau fel pwyllgor yr Eisteddfod, yr ydym am i'r byd a'r Betws wybod mai anwiredd noeth ydyw yr oil a ddywedir gan y Pobwr, oher- wydd gwyr pawb oedd yn yr Eisteddfod na fu ddim gwell trefn, a mwy heddychlawn Eis- teddfod erioed nag un Jerusalem am 1879. Y cyhuddiad nesaf ydyw, fod y cor wedi bod yn cynal gwledd yn y Dewinton Hotel ar 01 y fuddugoliaeth, yr hyn sydd un o'r anwir- eddau mwyaf gwarthus a osodwyd ar bapyr erioed, gan na fu y cor yno o gwbl yn adeg y Nadolig. Digon gwir fod Parti Rhyfeigan y Mwncod wedi bod yno wedi iddynt gael gwahoddiad gan Mr. Phillips a chan eu bod yn myned allan i ganu y nos wedi'r Nadolig, aethant i'r Dewinton, a chawsant 10s. 6c. am fyried, a buont yno am oddeutu awr o amser. GeJIid meddwl wrth Mr. Pobwr mai meddwon ydyw pawb sydd yn perthyn i Gor Llwynpia, pan, mewn gwirionedd, na fu ddim gwell lot o fechgyn mewn cor erioed nag sydd yn y cor uchod-y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau cre- fyddol, ond nid yr oil ohonynt, cofier. Yn awr, yr wyf am gael gwybod rhai peth- au gan y gwr pobyddol. Beth roddodd ar- weinydd Cor Bethania i'r Doctor am gael y wobr am ganu Hen wlad y menyg gwyn- ion ?" A beth oedd y rheswm na fuasent yn cael y wobr am ganu "Ar lan Iorddonen ddofn 1" Aj. tybed fod Cor Blaenycwm wedi rhoddi rhywbeth i'r Doctor am gael y wobr, a chor mawr Bethania yn canu 1 Digon tebyg eu bod. Nid rhyfedd fod y Pobwr yn canu clod yr enwog Eos Cynlais, oherwydd hwy gafodd y wobr ganddo yn yr Eisteddfod gafodd ei chy- nal yn Bethania ychydig fisoedd yn ol, pan oedd amryw gorau yn cystadlu. Yr ydym yn rhwym o gasglu, yn ol ymresymiad Mr. Baker, mai dyma ddull ein beirniaid o gario pethau yn y blaen yn ein Heisteddfodau y dyddiau presenol. Nid wyf yn meddwl ysgrifenu rhagor, Mr. Gol., nes cael gwybod beth sydd ganddo ar ddrws ei ffwrn. Gan ei bod yn dywydd mor oer, ac yntau yn gweithio mewn lie twym, cynghorwn ef i osod digon am dano, rhag ofn iddo beryglu ei iechyd wrth wylio symndiadau pebl ereill.—Yr eiddoch, yn mwg y pobty, WIL BRON SYTHU.
MOjRIJTJV A'I "ORSEDD Á'I…
MOjRIJTJV A'I "ORSEDD Á'I HYNODION." MR. GOL. Yr ydym yn hoff iawn o Morien fel ysgrifenydd i'r Mail; ond ffei ohono pan aiff i ymwneyd a Barddas. Dylai dyn fod yn ddysgedig cyn cydio yn y pynciau sydd weithiau yn cael camdriniaeth erwin ar law Morien. Y mae Dr. Angus yn un o brif ysgolheigion y byd ond eto wrth gyffwrdd ag un o'r cangenau sydd yn cael sylw Morien yn ei lith diweddaf, gwnai hyny gyda lled- neisrwydd ag a ddylai godi gwrid i wyneb dogmatic TMorien a'i feistr (Myfyr). Y mae dau neu dri o bethau y dylem sylwi arnynt cyn dyfod at hynod resymeg Morien. Cychwyna Morien a'i wyneb o chwith, ac os aiff dyn i'r cyfeiriad na ddylai, un o ddau beth sydd i fod-dod yn ol neu fyned rhagddo. No stand still, Morien. Rhaid myned yr holl ffordd gyda Myfyr, neu droi yn ol i'r capel neu yr Eglwys. Ni ellir rhoddi hen win Cristionogaeth yn nghostrelau Myfyr, ac mae hyna rai yn Nhrefforest na yfant ddafn ohono. Onid oes 1 Bid sicr, gweddus yw i Morien barchu Myfyr ond cofied beidio camarwain y wlad wrth wneyd hyny. Mor ami y daw Morien a'r tah- llyth- yren D.G.L. i mewn. Hwyrach mai tipyn o bwffyddiaeth i Myfyr ydyw, neu dichon mai tipyn o advertisement ydyw i ddyfeiswyr degrees, y rhai sydd mor ami yn America, fel y gellir cael teitl o bob parth o'r wlad, ac i bwy bynag a'i ceisio ac a dalo am dano. Byddai D, C.L. o un o universities y deyrnas hon yn urddas mawr, ac y maent yn Cael eu rhoddi ar wahan oddiwrth blaid a chrefydd. Os bydd dyn yn wir ddysgedig, pe byddai anffyddol neu uniongred, rhoddir teitl iddo, ond gwneyd cais teg am dano, a rhoddi prawf o allu, medr, a dysg, yn y gwrthddrych. Y mae y dyfyniad a ganlyn wedi ei gymeryd allan o Crockford's Directory, gwaith pa un yw cyhoeddi enwau a theitlau awdurdodedig :— "Twenty-four hours is not a long time in which to make a Doctor. Nor is twenty-five dollars, or very little over a dollar an hour, an unreasonable charge for the operation. It is hardly necessary to say that the High Pressure Quack Factory,' at which this re- markable process is carried on, is situated in the United States and it is satisfactory to learn that on the unimpeachable authority of a certificate from Messrs. of West Eight Street, Y.C. And last, not least, this magnificent institution, which for the small fee of —— gives a diploma! Seventeen inches by twenty-two, in script and orna- mented type, gilt, and very handsome." Felly, nid yw D.G.L. o America yn rhoddi bri yn y byd ar ei wisgwr, ac felly nid ydyw haeriadau Myfyr a Morien yn nghylch pethau ereill ond yn ymddangos yn wanach fyth yn ngoleuni y diploma Americanaidd. Cymaint a hyna am y tegan. Yn awr, ynte, gair ar bwnc neu ddau yn llythyr Morien. Awgryma Morien mai Derwyddiaeth oedd crefydd foreuaf y byd. If Derwyddon oeddynt y cyntaf i alw Duw yn Dad." Ffiloreg ddwl. Dengys Hewson yn ei lyfrau bynod, a elwir "Christianity in its Relation to Judaism and Heathenism," i'r Derwyddon fenthyca oddiwrth y Caldeaid. Mae yn dra eglur mai cyfundrefn wedi ei gwneyd i fyny o amryw ereill ydyw Derwydd- iaeth y Gorllewin. Yr enw cyntaf ar yr haul gan y Phoeniciaid ydoedd air o'r hwn y daw y gair Hindwaidd Sookla-Paksha-" yr ochr oleu." Yr oedd y gair hwnw drachefn yn dyfod o > ir Stmitaidd (feallai hen fam-iaith y ddaear)-Naschgey, o'r hwn y daw y gair nos Cyimaeg a nox y Lladin. Naschgey, neu gwyn o'r nos." Wedi hyny daeth celfyddyd yn mlaen, ac yn Haw rhyw ddyn dysgedig yn neddfau a throadau y ser a'r planedau, i ranu, #03barthu, a threfnu amser yn gyfnodau gwahanol, ac i roddi enwau arnynt, yn gystal ag ar y planedau a'r bydoedd uwchben. Ad- nt byddid y dyn hwnw fel Thoth, a'i gyfun- drefn yn gyfundrefn yr haul, ac felly, yn nghwrs amser, aeth yr hwn oedd yn dad i raniadau amser yn enwog iawn. Y Tad mewn modd arbenig ydoedd. Er ei anfarwoli, trosglwyddwyd ei enw i'r haul. Gelwid yntau, er mwyn y dyn. yn Thoth; ac y mae yn deilwng o sylw fod Thantes y Phoeniciaid, neu yn hytrach Theu Thantes, yn enw ar ddynion, ar gyfundrefn, ac ar wyliau neill- duo]. Felly hefyd, gelwid mis cyntaf a di- weddaf y flwyddyn Aifftaidd yn Thoth a 1 Sothis. Collodd y Derwyddon y syniad gwreiddiol. Wrth fenthyca cyfundrefn an- hysbys iddynt, gwnaethant gam-gymeriadau I erchyll. Aethant i addoli yr haul fel tad, tra o'r blaen yr oedd yr haul yn cynrychioli anfarwoldeb y dyn a ystyriai y cyn-genedl- oedd yn dad, yn batriarch, yn flaenorydd, ae yn sylfaenydd cyfundrefn o wybodaeth ddaearol, ac hefyd seryddol. Efe, mewn gwirionedd, oedd y Thi-i-Tho-Thoth, enw, dysg, a gogoniant yr hwn a gynrychiolid gan yr haul. Ond i'r Derwyddon Gorllewinol, aeth y Thi yn Deus—yn dduw, hyny yw, aeth y creadur a'r arwyddlun yn greawdwr. Eto, mewn perthynas i'r offeiriadaeth, y mae Morien dan ei ddwylaw yn hollol. Dywed fod yn y Beibl son am dair offeiriad- aeth. O'r hyn leiaf, dywed fod dwy offeir- iadaeth yn cael eu cynrychioli yn mhlith y llwythi. Dim o'r fath beth. Y freniniaeth a gynrychiolid yn Judah, a'r offeiriadaeth yn Lefi, ac nid oes cysgod o sail i'r haeriad fod Judah yn cynrychioli offeiriadaeth Melchize- dec. Dywedir fod Crist yn offeiriad yn ol urdd Melchizedec ond nid urdd Melchize- dec ydoedd, ond yn ol yr urdd. Ac eto, mewn perthynas i safle Llwyth Judah pan yn gwersyllu, y mae yn werth i ni fyfyrio tipyn ar y pwnc. 0 du y gogledd i'r Tabernacl yr oedd Dan, Asher, a Naphthali, yn rhifo 157,600. 0 du y deheu yr oedd Gad, Simeon, a Reuben, yn rhifo 151,450. 0 du y gorllewin yr oedd Ephraim, Manasseh, a Benjamin, yn rhifo 180,000. 0 du y dwy- rain i'r Tabernacl a'r Arch yr oedd Zabulon, Issachar, a Judah, yn rhifo 186,400. Felly, gwelir fod tri llwyth ar bob ochr i'r Taber- nacl, yn gwylio ac yn gwarchod. Nid oedd modd dosbarthu y bobl mewn gwell trefn. Nid oedd un flaenoriaeth yn cael ei rhoddi i Lwyth Judah. Yr oedd Zabulon ac Issachar yn cael yr un ragoriaeth ag oedd Judah yn ei gael; ac wrth ddwyn y Tabernacl a'r Arch, nid oedd ond y Gersoniaid, y Cohathiaid, a'r Merariaid, i gyffwrdd neu i fod gerllaw iddi, ac nid oeddynt hwy o Lwyth Judah.—Yr eiddoch, B. B. D.
Y CI "PONTO."
Y CI "PONTO." MR. GOL.Gan fy mod wedi derbyn cy- nifer o lythyrau o wahanol fanau yn ymofyn am gopi o'r penillion a ymddangosodd yn y GWLADGARWR am y ci Ponto," a chan nad oes genyf yr un wrth law, crefaf arnoch i'w gosod i ymddangos eto yn eich newyddiadur, yn un o'r rhifynau dyfodol.—Yr eiddoch, &c., ISAAC THOMAS. [Cant ymddangos yn ein rhifyn nesaf.—GOL.]
ETHOLIAD BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN…
ETHOLIAD BWRDEISDREFI CAER- FYRDDIN A LLANELLI. MR. GOL.Diolchaf am ychydig o'ch gofod yr wythnos hon i wneyd sylwadau ar Nodiad- au loan Gwyllt yn y GWLADGARWR diweddaf ar y pwnc uchod. Dywed loan fod "rhyw nythaid fechan o ddyeithriaid yn taranu ac yn hawlio llawer mwy o deilyngdod nag a hawlia gwrthddrych eu hymffrost." Nid dyeithriaid yn unig sydd yn pleidio Mr. Jenkins, ond gall rifo o'i blaid luaws o brif fasnachwyr, rhai cyfreithwyr, a chanoedd o weithwyr,—oil yn enedigol o'r lie—dynion nad ellir dywedyd am danynt fel am loan Gwyllt, mai dynion dwad" ydynt. Y mae loan yn ddiau yn aderyn gwyllt perthynol i'r nythaid fechan o ddyeithriaid sydd yn taranu ac yn hawlio llawer mwy o deilyngdod nag a hawlia gwrth- ddrych eu hymffrost," sef yr aelod presenol. Deallwyf mai dyeithrddyn o ffordd obry yw loan Gwyllt. Dywed y Gwyllt yn mhellach fod Mr. J. J. Jenkins wedi lleihau ei ddylanwad mewn llawer ffordd er pan y mae wedi penderfynu sefyll fel ymgeisydd am y gynrychiolaeth." Rhaid fod y cyfaill yn wyllt iawn, neu yn ys- grifenu anwiredd yn fwriadol pan ddanfonodd ei ohebiaeth i'r GWLADGARWR. Yr wyf fi yn foddlon credu mai mewn tymer orwgllt yr yd- oedd. Y mae yn ffaith anwadadwy fod dylan- wad Mr. John Jones Jenkins wedi mwyhau -wedi dyblu a threblu lawer gwaith drosodd er pan y mae wedi penderfynu sefyll fel ymgeisydd am y gynrychiolaeth." Pan ddaeth allan gyntaf, nid oedd yn adnabyddus i fwy- afrif yr etholwyr, er ei fod yn ymweled a Llanelli fynychaf bob dydd er's dros bum' mlynedd. Yr oedd ei ddylanwad yn fawr pan ddaeth allan, ond erbyn hyn y mae wedi ym- weled a chyfangorff yr etholwyr, ac y mae ganddo ddylanwad aruthrol; ac yn lie llei- hau, fel y carai Gwyllt a'i gyfeillion iddo wneyd, y mae yn cynyddu yn ddyddiol, ac yn 01 pob tebygolrwydd, bydd ei ddylanwad yn ddigon nerthol, erbyn dydd yr etholiad, i'w gar o yn fuddugol i'r Ft <edd. Y mae y Gwyllt yn son am "ddyn sydd wedi peri alltudiaeth oesawl i'r fasnach alcan- aidd. A ydyw y cyfaill yn pendroni 1 "Alltudiaeth oesawl i'r fasnach alcanaidd Ni fu y fasnach alcanaidd erioed yn fwy llewyrchus nag y mae yn bresenol a pha fodd y gall y Gwyllt alw sylw at ddyn sydd wedi peri alltudiaeth oesawl y fasnach ?" Barna y Gwyllt, oblegyd fod prif fonedd- igion y dref yn dweyd mai Mr. Williams yw yr addasaf," a bod yn rhaid ei gael yn y dyfodol," y bydd yn sicr o gael ei ddychwelyd. Gwybydded y Gwyllt nad all prif foneddigion y dref ddychwelyd aelod heb gynorthwy mwyafrif yr etholwyr, ac y maent hwy o blaid Mr. Jenkins. Yr oeddwn yn dysgwyl y buasai y Gwyllt yn ceisio dangos rhagoriaeth Mr. Williams, ar Mr. Jenkins; ond gan y gwyddai nas gallasai brofi hyny, ymesgusoda drwy ddywedyd "Ni raid ini wrth hysbysu darllenwyr craffus y GWLADGARWR fod y naill ymgeisydd yn rhagori ar y Hall, oherwydd y mae hyny yn ddealladwy ac yn wybyddus i bawb bellach." In awr, Gwyllt, gan dy fod mor selog o blaid yr aelod presenol, gwna un gymwynas arall iddo, sef yw hyny, profi, er budd darllenwyr y GWLADGARWR, fod Mr. Williams, y cyfreith- xvr, yn well boneddwr i gynrycliioli Llanelli fasnachol na Mr. John Jones Jenkins, y mas- nachydd. Byddaf yn dysgwyl am hyny yn y GWLADGARWR nesaf.—Yr eiddoch yn gywir, ALCANYDD.
GWENFFRWD A'R CYFARFOD ADLONIADOL…
GWENFFRWD A'R CYFARFOD ADLON- IADOL (?) YN NGHWMBACIL MR. GOL.Mi ddarllenais yn eich papyr am yr wythnos cyn y diweddaf (Ionawr 16egkdan y penawd Aberdar, hanes cyfarfod adloniadol yn nghapel yr Annibynwyr, Cwmbach, ar y Sul blaenorol, gan un a gyfenwa ei hun yn Gwen- ffrwd. Nid wyf yn gwybod beth y mae efe am i ddynion ddeall wrth ei fod yn ei alw yn Gyf- arfod Adloniadol;" mae yr enw yn cael ei roddi yn ami ar gyfarfodydd y Penny Readings. Fe fu yn y capel uchod gyfarfod chwarterol yr Ysgol Sabothol y Sul hwnw, yn cael ei ddechreu a'i ddiweddu trwy weddi, ac adrodd a chanu darnau crefyddol. Gobeithiwyf nad yw Gwen- ffrwd mor annuwiol fel ag i geisio taflu gwisg o gelwydd dros gyfarfod difrifof, yr hwn a gynal- iwyd er adeiladaeth ieuenctyd y gynulleidfa.- Yr eiddoch yn ddidwyll, Cwmbach. J. MORGAN.
BYR EBION 0 L'ERPWL.
BYR EBION 0 L'ERPWL. YR YMGYRCH ETHOLIADOL. Dywedir fod llygaid y Deyrnas Gyfunol yn gyfeiriedig tua L'erpwl y dyddiau hyn, a chad- arnheir hyny gan ymgyrchoedd gwleidyddol y gwahanol bleidiau, y rhai sydd mor selog a brwdfrydig, y naill fel y llall, a phe byddai parhad tymorol y byd yn dibynu ar ganlyniadau yr etholiad. Llawer iawn o eiriau caledion yn cael eu traddodi nad ydynt mewn un modd yn adlewyrchu anrhydedd ar y traddodwyr. Er sicrhau ei ddychweliad trwyadl i'r Senedd, y mae Arglwydd Ramsay wedi ymgymodi a'r Gwyddelod, sef y blaid hono o'r genedl ag sydd yn or-awyddus am Lywodraeth Gartrefol yn yr Iwerddon. Gresyn nad allasai gario barn i fudd, ugoliaeth heb ymostwng i addaw cefnogi y fath ysbwriel diddaioni a drewllyd. Prif nodwedd y cynhyrfwyr Gwyddelig hyn yw nad ydynt yn foddlawn i ddim, ond yn anfoddog am bob peth a dderbyniant. Tybiwyd y buasai dadsefydliad yr Eglwys yn yr Iwerddon yn boddloni y genedl; ond nid digon hyny. Rhaid iddynt hwy gael senedd yn yr Ynys Werdd, aciddilyn hyny, tebyg mai y peth nesaf a geisiant ydyw brenin. Yr hyn sydd yn taro yn erbyn natur y Cymro a'r Sais ydyw fod ein Seneddwyr yn talu cymaint o sylw i'r Gwyddelod, yn annibynol ar bawb ereill. Sicr fod y Cymry yn hawlio cy- maint o sylw a'r un genedl arall sydd yn ddeil- iaid o Goron Prydain. Mae teyrngarwch yn nodwedd arbenig yn y Cymry, fel nas gall neb estyn bys arnom fel cynhyrfwyr anfoddog, yn grwgnach am bob peth. Achosir y cynhyrfiadau yn Nghymru gan ymweliadau dynion nad ydynt yn ddinasyddion o'r Dywysogaeth, ond creadur- iaid yn gwibio am ysglyfaeth. Yn y goleuni hwn fe ddylai y Cymry ymgroesi rhag taeog- rwydd cynhyrfiol dynion nad ydynt yn gosod dim pwys ar anrhydedd cymdeithas ac urddas y gyfraith foesol. Beth bynag fydd y canlyniad o'r ymdrech etholiadol, sicr ydyw fod safon ganolog yn rhagori ar yr eithafol. Mae beichio boneddwr a gormod o faich yn sicr o fod yn gamsyniol, oblegyd pe methai ddyfod i fyny a llythyren ei addewidion, ni byddai yn ddilynol i hyn, gan y gor-eithafol, ond yn destyn mell- dithion a rhegfeydd. Mae egwyddorion Protes- taniaeth yn galw arnom i ymwrthod a dysgyblion y Babaeth, am fod egwyddorion y cyfryw yn ymgyrhaedd at uwchafiaeth ar bawb crefyddol ac annghrefyddol na fyddont yn cydolygu a hwynt parthed rheolau ffydd ac ymarweddiad o fewn y terfyngylch crefyddol. Pethau personol dyn ydyw pethau crefyddol, a dylai pob dyn fwynhau y rhagorfraint hono yn annibynol ar unrhyw lywodraeth na phlaid. Pell wyf o gredu y dylai unrhyw Aelod Seneddol ganiatau i'w draed a'i ddwylaw gael eu hymrwymo wrth syniadau un blaid fwy na'r llall, os bydd y cyfryw yn foneddwr sefydlog, o feddwl goleu- edig, ar bynciau cysylltiedig a gwladlywiaeth Prydain. Mae Parneliaeth, O'Gormaniaeth, ac aethau Gwyddelig ereill, wedi cael gormod o raff gan y Llywodraeth, fel y mae yn sicr y bydd yn rhaid tynu y ffrwyn yn dynach os ydyw y bobl hyn i gael eu cadw o fewn terfynau. Hall na fydd fy syniadau yn uniongred yn marn rhai pobl; ond credwyf y gwel y pwyllog a'r synwyrol fod dinasyddion ereill yn hawlio cy- maint o sylw a'r Gwyddelod. Peth chwithig iawn fyddai gweled pleidwyr heddwch yn cefn- ogi mesurau Gwyddelig, y rhai sydd, gan mwyaf ohonynt, yn eithafol a gwaedlyd, yn gwbl groes i dangnefedd a chymydogaeth dda. Mae y ddau aelod dros Fflint a Dinbych wedi ym- weled 9,'r dref ar gais y "Naw Cant," a chaf- wyd cyfarfod brwdfrydig, yn un o'r chwareudai, o blaid dychweliad Arglwydd Ramsay. Mae brwdfrydedd y ddwy blaid yn angerddol o boeth, a thebyg ydyw y cawn amser bywiog o hyn hyd ddydd Gwener, sef diwrnod peaodedig yr ymdrechfa. Byddaf yn teimlo fy hun na waeth genyf pa ffordd y try y fantol, gan gy- maint ydyw y twrw eithafol a gedwir, a bod yn gas genyf weled dyn yn gwystlo ei hun ar draws pob pftth i foddio mympwy plaid ag sydd fel yr hunllef ar y byd, lie bynag yr elont, yma a thu draw i'r Werydd. CAPEL NEWYDD PALL MALL. Mae yr eglwys a fu yn ymgynull yn yr hen gapel am ddegau o flynyddoedd wedi symud i'r babell newydd, yn ymyl Swyddfeydd y Gorffor- iaeth. Agorwyd y deml y dydd cyntaf o'r mis hwn, pryd y cafwyd presenoldeb amryw o brif bregethwyr y corff Methodistaidd, megv s y Parchedigion D. Saunders, J. Thomas, Carno, ac ereill nad wyf yn cofio eu henwau ar y fynud. Cynulleidfaoedd mawrion yn ymdyru o bob cwr o'r dref, fel y gellid tybio ein bod yn Jeru- salem ar adeg un o Uchel-wyliau y Pasg. Gan fod y cyfarfodydd i barhau trwy yr wythnos, a phregethau i gael eu traddodi yn y gwahanol gapeli, mi ymataliaf, gan y bydd yn fwy cyfleus, yr wythnos nesaf, i wneyd nodiadau llawna,ch ar y gweithrediadau agoriadol. ALLFORIADAU. Tawelwch sydd yn nodweddu yr adran yma o fasnach y porthladd, er fod trawsgludiad ymfud- wyr wedi cynyddu ychydig mewn cyferbyniad i'r hyn oedd fisoedd yn ol. A chymeryd y papyr- au Americanaidd fel safon ar ragarwyddion y dyfodol, fe ellir coleddu gobeithion gwell fod am- ser mwy llwyddianus i lewyrchu ar y byd mas- nachol. Gall na chyrhaedda rwysgfawredd ar- uchel, ond mae arwyddion sefydlogrwydd i'w canfod fel yn ymaftyd yn ngwahanol gangenau masnachol y byd. Gwneuthuriad haiarn a dur yn fwy rheolaidd, a masnach y glo yn fwy cyson a threfnus. Mae y naill bethyn dylanwadu ar y llall yn fasnachol fel yn gymdeithasol, fel mai bendith i'r byd ydyw gweled y peirianau yn rhedeg dros y llwybr canolog, er lies a llwyddiant pawb, yn dlawd a chyfoethog. Swn dymunol a gludir ar adenydd awelon y Werydd ydyw fod codiad yn eymeryd lie yma a thraw yn nghyflogau y dosbarth gweithiol. A dichon, gyda phwyll a gofal, y llawenychir aelwydydd Cymreig gyda. llwyddiant a llawnder, ar ol cyni a gwasgfeuon y blynyddoedd diweddaf. Mae rhagarwyddion gwelliant mor amlwg heddyw a'r arwyddion a ddaroganwyd yn dynodi dyfodiad yr atalfa ar fasnach, yr hyn a ddisgynodd ar ein gwlad fel taranfollt ddinystriol, ac a barlysodd masnach- aeth gyda'r fath ddirgryniad nes teimlodd y byd, o r mynydd hyd y mOr. Agor dy lygaid, ddar- llenydd, a gwel, a phaid a chymeryd dy lygad- dyuu gan wag honiadau i'r ffos.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Advertising
NEWYDDION P 15LLEBREDIG I'R "GWLADGARWR." DYDD MAWRTH, Chwef. 3. Cynrychiolaeth L'erpwl. Heddyw, cynygiwyd Lord Ramsay (R.) a Mr. Whitley (C.) fel ymgeisyddion dros L'erpwl. Ymgasglodd tyrfaoedd yn nghyd i longyfarch y cydymgeiswyr pan yn ymadael a'r neuadd fraich yn mraich. Gwii 80 Tunell y 'Thunderer' wedi 1, hollti yn ddarnau. Dwbl lwythwyd y gwn hwn heddyw, a thaniwydef yn Woolwich, gan gyfiawnhaupen- Ily derfyniadau y pwyllgor trwy hollti yn yfflon. Gosodwyd dau charge ynddo: yn gyntaf, 110 pwys o bylor, ac wed'yn shot yn pwyso 688 o bwysau, yn nghyd a sechiad (wad) yr ail charge yn cynwys 85 pwys o bylor, a phelen yn pwyso 575 o bwysau, a sechiad arall wed'yn. Taniwyd ef drwy drydaniaeth. Ni niweidiwyd neb. Llofruddiaeth Harpurhey. Mae Robert Haild wedi cael ei ryddhau o'r cyhuddiad o anudoniaeth, trwy fod y cyhuddiad wedi cael ei dynu yn ol. DOORS OPEN AT 10 EVERY MORNING. THE GREAT SALE OF DRAPERY GOODS CONTINUES DAILY! BE. El W I S, 11, Commercial Place, Aberdare. GWAED, CROEN, NERVES! YMAE GWAED PUR, CROEN IACH, a. JL NERVES CADARN, yn anhebgorol angen- rheidiol tuag at sicrhau Iechyd. Tiwy y gwaed y mae pob drwg a da yn gweithredu ar y corS felly, cymerer T + 0 0 OEtaBca-xs'rjss.ss.y y rhai yw'r unig feddyginiaeth ag y gellir ymddir- ied ynddynt tuag at gyflawni y gwaith o Buro a Chryfhau y Gwaed. Tuag at y PILES, Poen yn y rhan isaf o'r cefn i lawr y Cluniau, yn achosi Pen-ysgafnder, Pylu y golwg, &c., y maent yn hynod o effeithioL GWELLHAD HYNOD! •> I^r wyf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf 1 ch hysbysu fy mod wedi cael budd mawr drwy gymeryd dau flychaid o'r Pills gwerthfawr, sef 'HUGHES' PATENT BLOOD PILLS." Yr oeddwn. yn methu ceidded cam braidd, ac yn methu eis- tedd oherwydd y Piles, a Phoen yn y rhan iselaf o r Cefn, y Cluniau, a'r Pen, ac yn bur wan yn. awr, yr wyf yn holliach, ac yn bur ddiolchgar. Cwmbran, Awst 20fed, 187G. MARY JAMES. RHYBUDD.-Mae llwyddiant y Peleni hyn wedi achosi llawer i'w dynwared, felly gofaler cael y Trade Mark" uchod (sef llun Calon) ar bob blwch, a'r geiriau Blood Pills oddifewn a'r enw Jacob Hughes" ar stamp y Llywodraeth; heb hyn twyll ydyw. TRADE MARK "BLOOD PILLS." Cosbir pob ffugiad. Ar werth drwy yr holl deyrnas am Is. lic., 2s. 9c., 4s. 6c. Gyda'r post ls. Sc., 2s. lle. a 4s. ge" oddiwrth y Perchenog— Jacob Hughes, Apothecarie's Hall, Llanellv.
Y BEIBL YN LLYFR EGW YD DOR-ION-NID…
gwybod beth sydd gan eich gwrthwynebydd i'w ddweyd, a dechreu rhanu'r ysbail cyn rhyfela dim. Gan fod "nifer mawr" yn y Testament Newydd o gyfreithiau a deddfau," y mae yn debyg y cawn ni rai ohonynt i oleuni gan Brythonfryn. Dyma frawddeg a swn mawr ynddi" Yr un I Duw yw Duw natur a Beibl, a chan fod y blaen- af yn cael ei rheoli gan gadwynwaith o ddeddf- au, nid yw yn debygol y gadawsai Efe yr olaf yn lyfr pen-agored, diddeddf, a digyfraith." "Nid yw yn debygol beth dal "tebygol" at brofi pwnc ? Beth pe byddai Brythonfryn yn gwnsler ( counsel) yn dadlu am fywyd dyn, ac yn ceisio profi alibi ? A wnaethai y tro dweyd, Nid yw yn debygol fod y carcharor yn y fan a'r lie ar y pryd pan laddwyd y dyn, ac y mae yn debygol ei fod mewn lie arall." Collasai y carcharor, druan, ei fywyd yn y fan dan drwyn ei ddadleu- ydd, am na ddeallai efe y gyfraith. J GURNOS.