Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
OARWR TEGWCH AC AP CORWYNT.
OARWR TEGWCH AC AP CORWYNT. MR. GOL.Nis gallaf ddirnad mewn unrhyw fodd pa beth sydd yn achosi i ddynion fod mor ddigllawn ag ymddangos- odd Carwr Tegwch ei hun yn eich rhifyn diweddaf, yn unig am fod Ap Corwynt wedi defnyddio tipyn o'i ffraethineb mewn rhifyn blaenorol. Mae melusder i'w gael yn ffraeth- ebau Ap Corwynt. Defnyddied ragor ohon- ynt nis gallwn lai na'u mwynhau gyda phleser. Ond am lith beiddgar Carwr Teg- wch, nis gallwn weled un frawddeg neu syniad ynddo i beri i'r un o aelodau cor Abercwmhoy, hyd y nod y penboethaf ohon- ynt, i'w cofleidio. Ni fuasai cyfaill i Iago Cynon erioed wedi bod yn euog o ddanfon y fath gruglwyth o ch llenges, pa rai, gallaf feiddio dweyd, sydd yn ddrewedig i ffroenau Thos. James. Nid oes amcan da mewn ysgrifenu rhyw sothach fel hyn, eithr yn hytrach tuedda i greu annghyfeillgarwch rhwng y cyfeillion gwresocaf hyny, sef Gwilym, Hywel, ac Iago Cynon. Gobeith- iwn na chymer Gwilym a Hywel aylw o'r C. T. cynen-greuol hwn. Bydded iddo fod islaw eu sylw. Aberaman. HIRAM JAMES. [Achwyna Mr. Hiram James fod awduraeth llith Carwr Tegwch yn cael ei briodoli iddo ef. Dy- munwn hysbysu mai nid Air. James yw'r awdwr. —GOL.]
Hanesion Dosbarthawl.
Hanesion Dosbarthawl. MERTHYR. LLOSGI I FABWOLAETH. —Dydd Gwener, Hydref 29ain, cynaliwyd trengboliad yn y Rickard's Arms, I Abercanaid, ar gorff James James, 67 oed, yr hwn oedd yn gweithio yn mhwll Gethin. Yr oedd y trancedig yn ddarostyngedig i lewygon. a chollwyd ef o'i gwch, a chafwyd ef gerllaw, a'i ddillad yn fflamiau. Tybir ddarfod iddo syrthio i'r tan pan mewn un o'i lewygon. Dychwelwyd y rheithfarn o Farwolaeth Ddamweiniol." CASTELLNEDD. COLEG Y BALA.—Tchydig Sabothau yn ol, bu myfyriwr yn ymweled a Maesyrhaf ar ran y "Coesau Newvdd," a chasglodd ychydig dros ddwy bunt, yr hyn oedd gryn dipyn yn llai na'r llynedd. Y Sul diweddaf, bu myfyriwr arall yn yr un capel ar ran yr Hen Gyfansoddiad, a chasgl- odd y swm anrhydeddus o 6p. 3s., sef mwy na'r llynedd. Fel hyn y mae'n eglur fod Ty Dafydd yn myned gryfach gryfach, a'r eiddo Saul yn myned wanach wanach. -J. A. MAESHEULOG. CTNGHERDD.-Nos Fercher wythnos i'r diwedd- af, cynaliwyd cyngherdd yn y lie hwn, ac yr oedd yr elw i'w gyflwyno tuag at achos dyngarol, nad oes angen ei enwi. Llanwodd y Parch. T. James y gadair lywyddol. Awd trwy brogramme maith, ond wele'r prif bethau. Ye breezes that blow (Dr. Parry), "Gwroniaid Gwlad y Gan," ac Y Gareg Ateb," gan Mri. H. Evans, M. Jones, a Joseph Josephs. "Y GardotesFach" (Dr. Parry), Wyres fach Ned Pugh," a 'Rwyf yn cofio'r lloer" (Seth P. Jones), gan Llinos Heulog. Fe ddarfu i'r gantnres obeithiol hon wefreiddio yn lythyrenol braidd yr holl dorf. Ail-ganodd y ddwy gan a nodwyd. Bwriedir rhoddi ysgol gerddorol iddi cyn gynted ag sydd bosibl. Llwyddiant iddi ymberffeithio yn y cyfamser.— Ysg. CAERDYDD. Y RHYDD-DDARLLENFA —Bu yn ddiwrnod mawr yn Nghaerdydd, dydd Mercher wythnos i'r di- weddaf, ar yr achlysur o osodiad careg sylfaen Rhydd-ddarllenfa newydd Caerdydd. Cyflawn- wyd y seremoni gan y Maer yn ei wisgoedd swyddogol, yn mhresenoldeb tyrfa fawr. Cynygiai y pwyllgor JOQp a 50p. am y plan goreu a'r ail oreu o'r ty newydd. ac enillwyd y flaenaf gan Mri. James, Seward, a Thomas, a'r ail wobr gan Mri. Ellis a Frame, Caerdydd a Llundain. Awst Slain, deibyniwyd 12 tender er ei adeiJadu, a derbyniwyd eiddo Mr. Richard Roberts am 7,986p. Bydd hwn yn adeilad ardderchog, ac yn addurn a chlod i dref gyflym-gynyddol Caerdydd. Yma gall y tlotaf fel y cyfoethocaf ddyfod o hyd i ffynonellau mawrion gwybodaeth. Pa le mae Aberdar gyda'i 40,000 o drig olion ? LLANELLI. YMWELIAD YR AELODAU SENEDDOL. -Dydd Gwener, ymwelwyd a Llanelli gan yr Aelodau Seneddol, Mr. Powell a Mr. B. T. Williams, er anerch yr etholwyr. Cymerwyd mantais ar yr achlysur hefyd i ffurfio Cymdeithas Ryddfrydol i Lanelli. Siaradodd y ddau aelod, a chawsant dderbyniad brwdfrydig. Yn y prydnawn, ym- gynullodd tua 1500 o bersonau i Gapel Seion, ac yr oedd hwn eto yn gyfarfod gwresog ac unfrydol iawn. Llywyddid gan Mr. C. W. Gaussen, cad- eirydd y Bwrdd Lleol. Triniwyd y Weinyddiaeth ddiweddar yn enbyd gan y ddau aelod am eu gwallau a'u cam-wiadlywiaeth. Siaradwyd hefyd gan Mr. Abel Thomas, bargyfreithiwr, Abertawe, ac ereill Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn gyda brwdfrydedd mawr:—"Fod y cyfarfod hwn yn calonog gymeradwyo ymddygiad Seneddol Mri. Powell a Williams, gan lwyr ymddiried ynddynt, ac yn ymwystlo i barhau i'w cefnogi." GILFACH GOCH. GWYL DE. -Cynaliwyd gwyl de flynyddol Bryn Seion eleni fel arferol. Trodd allan yn llwyddiant mawr. Cafwyd yn yr hwyr gyfarfod adloniadol mewn canu ac adrodd. Yr oedd y plant bach yn gwneyd eu gwaith yn dda iawn, yr hyn nas gallwn ddweyd am y plant mawr. Rhaid cael rhywbeth newydd bellach, fechgyn. AIL-GYCHWYN GLOFA.—Y mae yn agos i'r lie hwn lofa wedi ei hail-gychwyn, sef Glofa Gelli'r Haidd. Y mae Cwmni newydd wedi ei chymeryd yn bresenol, ac yn debygol o fyned yn y blaen yn llwyddianuB; ac os felly, bydd yn les mawr i'r lie hwn. Y mae safle y lofa uchod rhwng Tonyrefail a'r lie hwn, wrth sawdl Mynydd y Gar. CREDWYF y dylai trigolion y Gilfach wneyd mwy o ymdrech i gael darllenfa i'r lie. Y mae yn hynod na fyddai rhai o'r llenorion wedi taro ar y peth hwn. Credwf, pe byddai i rai o brif lenor- ion y lie, a'r dyifion mwyaf eu dylanwad yn yr ardal, megys Mr. R. Williams, manager, Mr. Dd. Jones (Dafydd o Went), Mr. J. Mackle, Mr. C. Rowlands, y Parchn. J. C. Evans W. Thomas, ac amryw ereill, yn taro allan, y gellid ei gael. Y mae gwir argen am y fath sefydliad yn y 11e. Y mae yn beth i'w ryfeddu na fuasai wedi ei sefydlu er's blynyddau. Byddai cael Coffee Tavern yn fendith fawr i le fel hwn, a byddai y ddarllenfa yn nglyn a'r Coffee Tavern yn beth da.-Ardalwr. MOUNTAIN ASH. DARLITH.—Nos Lun diweddaf, Tachwedd y laf, traddodwyd darlith ardderchog yn nghapel Nazar- eth. Mountain Ash, gan y Parch. T. D. Mathias, o Merthyr Vale. Testyn ei araeth oedd Yr hen Christmas Evans, yr apostol Cymreig." Ymdra- fododd y darlithydd a'i destyn yn ddeheuig dros ben, ac i berffaith foddhad llu o wrandawyr.-T. TREHERBERT. "DYNION YN CODI 0 DDIM." -Cafwyd darlith ragorol ar y testyn uchod gan y Parch. J. Kilsby Jones, yn Horeb, nos Lun, Hyd. 25ain. Bu yn siarad am ddwy awr. Er hyny, nid oedd neb wedi blino arno. Yr oedd y ddarlith drwyddi yn tueddu at greu penderfyniad yn yr hwn sydd yn brwydro ag anhawsderau, a chreu ynddo hyder am lwyddiant i'w ymdrech. Y cadeirydd ydoedd Mr. M. Llewellyn, Blaenycwm. Y CYNGHRAIR RHYDDFRYDOL CENEDLAETHOL.— Cafodd eich gohebydd yr anrhydedd o fod yn un o genadau dosbarth uchaf. y Rhondda i'r wyl fawr hon yn Nghaerdydd. Hydref 28ain. Addefaf yn rhwydd nad wyf wedi talu'r sylw ag y mae 11awer wedi wneyd i wleidyddiaeth, ac nad wyf wedi gwneyd nemawr i'r cyfeiriad hwnw ond credwyf ei bod yn adeg ag y dylem godi at ein dyled- swyddau fel un gwr, fel gweithwyr drwy y deymas. Y mae'r adeg yn neshau pan y caiff pawb o gymeriad moesol hawl i bleidleisio, a dylem gael ein haddysgu, a dys-gu ein gilydd, yr iawn ffordd i ddefnyddio yr hawlfraint hono wedi ei chael, er cefnogi ac hyrwyddo egwyddorion rhyddid, a lledu elfenau moes a chrefydd. Dy- wedai un o'r enwogion yn IN ghaerdydd mai un bai a glywodd ef yn cael ei osod yn erbyn Prydain yn nglyn â rhyddhad y caethion drwy dalu iawn am danynt, sef na fuasai wedi eu haddysgu yn flaen- orol i hyny yn elfenau rhyddid, fel y gallent werthfawrogi y cyfryw ar ol ei gael. A dywedai y dylem ni gymeryd addysg oddiwrth y ffaith hon, drwy addysgu'r werin yn elfenau Rhyddfrydiaeth, fel ag y byddent yn alluog i werthfawrogi'r cyfryw wedi iddynt gael yr hawl i bleidleisio i'w dwylaw. Eu hegwyddori i'r fath raddau fel y buasai gwrid yn codi i'w gwynebau pan fyddai neb yn sangu ar derfynau eu hawlfraint bleidleisiol drwy geisio eu denu i wyro barn ar y pwnc. Yr oedd yr oil o'r siarad a fu yno yn dda, ond credwyf fod eiddo Mr. C. H. James, A.S., gyda'r g, reti, os nid y goreu ohonynt. Gwnaeth y boneddwr esgusawd am ei fod yn ymgymeryd A; gorchwyl nad oedd yn addas i'w gyflawni, ond nid oedd angen iddo, canys prof- odd ei hun yn wir feistr ar ei bwnc, sef Y Gyf raith yn nglyn a pherchenoga^th tiroedd yn y deyrnas." Carwn yn fawr pe byddai i Mr. D. Morgan, Mountain Ash, ysgrifenu cyfres o lyth- yrau i'r GWLADGARWR ar y gwahanol faterion a fuont dan sylw yno, canys y mae efe yn ddigon addasach na'ch gohebydd hwn i wneyd hyny.- D. Weeks.
Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. Y FFASIWN ddiweddaf mewn umbrellas yw rhai ysg war, yn lie rhai cylchog. Dyma hint i'r merched. Y MAE y glowyr yn nosbarth Possil, yn agos i Glasgow, wedi derbyn codiad yn eu cyflogau o 6c. y dydd. Y MAE yr Hawlydd wedi gyru at Mr. On- slow i ofyn iddo ysgrifenu at yr holl bwyll- r, gorau i ddiolch am eu gwasanaeth i'w achos. DYWEDIR y bydd yn rhaid ychwanegu cein- iog at yr income tax y flwyddyn nesaf, er dwyn treuliau yr arddangosfa lyngesol yn nghylch Dulcigno. DVDD Llun diweddaf, daeth nifer o longau i mewn i Whitby wedi eu llwytho ag ysgadan. Yr oedd y Hong leiaf yn dal 60,000 o bysgod, a'r llong fwyaf 160,000 Y MAE Senedd Natal wedi dechreu ar eu gwaith eto. Dywedir fod sefyllfa Zululand yn bur heddychol. Anfonir adgyfnerthion milwrol yn erbyn y Basutos. t 0 BUENOS AYRES, pawn yr hanes fod y cyflafareddiad am heddwch rhwng Chili a 11 Peru, trwy ymdrechion yr Unol Dalaethau, wedi myned yn ddifudd. Y MAE tir yn Texas yn hynod o rad. Y mae y Llywodraeth wedi penderfynu gwerthu tair miliwn o erwau yn Nosbarth Pan Handle yn ol 2s. Ie. yr erw. Y MAE y Llywodraeth Rwsiaidd yn cadw eu dwylaw yn dyn ar y newyddiaduron o hyd. Y mae amryw wedi cael eu dirwyo yn ddi- weddar, a chyhoeddiad ambell un wedi ei atal am ychydig fisoedd. DYWED y Times of India y bydd dwy seren gynffonog (comets) anarferol o fawr yn ym- ddangos yn y ffurfafen y flwyddyn nesaf. Byddant yn cyrhaedd dros un rhan o bedair o'r wybren. UN o gyfreithiau Puritanaidd Connecticut yw Na fydded i neb redeg ar y Saboth ond mewn dull parchus." Dychymyger gweled dyn yn rhedeg mewn "dull parchus" ar ddydd Sul gwyntog ar ol ei het, a'r holl bobl ar yr heol yn llygadu arno. LLOFRUDMAETH.—Yn mrawdlys Durham, dydd Gwener diweddaf, o flaen y Barnwr Field, cafwyd W. Brownlow yn euog o lof- ruddio ei gariad drwy dori ei gwddf yn Evens- wood ar y 18fed o Awst diweddaf. Gwnaeth y carcharor, ar ol hyny, ymgais ar ei fywyd I ei hun. Pasiwyd dedfryd marwolaeth. I MR. MACDONALD, A.S., AR GYFLOGAU'R GLOWYR.—Ysgrifenai Mr. Macdonald dydd Llun, pe na buasai strike y flwyddyn hon, na fyddai cyflogau y glowyr mor isel, ond yn hytrach y derbynient godiad. Yr oedd y fasnach eto wedi ei pharlysu gan gwrs gwieth na gorphwyllog. Anogai y dynion i adael pethau i orphwys am dymor. DYDD Mawrth wythnos i'r diweddaf, tra- ddododd Arlywydd Salisbury (yr Ysgrifenydd Tramor yn Llywodraeth Beaconsfield) araeth yn Taunton, yn mha un y condemniodd bolicy y Llywodraeth gyda golwg ar y Cwes- tiwn Dwyreiniol. Beiai efe y Llywodraeth hefyd am eu methiant i atal terfysg yn yr Iwerddon. Y mae nifer mawr o Aelodau Seneddol wedi bod yn areithio yn ystod yr wythnosau diweddaf. ÅCHOS TANCHWA RISOA.—Ysgrifena Mr. W.|H. Preece i'r Mining Journal, yn yr hwn y dengys brofion o achos y danchwa yn Risca. Dywed fod nwy yne, ac nad oedd amheuaeth ganddo nad mellt achosodd y danchwa. Y TAN DINYSTRIOL YN Y RHONDDA.—Yn nghyfarfod pymthegnosol Bwrdd Ysgol Ystradyfodwg, dydd Gwener, gwnawd cyfeir- iad at y tan yn y Pentre, nos Iau, wythnos cyn hyny. Ystyriai y cadeirydd y dylai swyddfeydd y Bwrdd gael eu symud. Cyd- syniai Mr. Edmund Thomas. Dywedai y cadeirydd fod swyddfeydd y Bwrdd uwch ystorfa o olew, &c. Penderfynwyd dwyn y mater gerbron cyfarfod nesaf y Bwrdd. Cymeradwyai y Surveyor am i'r Bwrdd brynu. 50 o fire-plugs, yr hyn a gostiai tua 180p. CYFRAITH Y CLADDU.—Y mae y gyfraith uchod wedi ei dwyn i weithrediad yn Ep- worth, sef y lie y ganwyd John Wesley. Y mae'r amgylchiad yn teilyngu sylw. Bu pab- yddes oedranus farw, ac yn ol dymuniadau perthynasau y trancedig, gwnaeth y Parch. Canon Gurden, o Crowle, ei oreu i'w daearu yn unol a'i ffydd. Er na roddwyd y rhybudd yn gywir fel y gofynir gan Gyfraith y Claddu, rhoddwyd caniatad ar unwaith i'w chladdu gan y ficer, yr Anrh. a'r Parch. Mr. Dundas. Y mae 320 o flynyddau oddiar pan weinydd- odd offeiriad pabyddol mewn angladd yn Nghladdfa Epworth o'r blaen. MARWOLAETH MR. T. J. HUGHES, Y CANWR ENWOG.-Y mae enw Mr. T. J. Hughes yn ddigon adnabyddus i gerddorion fel dadganwr (baritone) o'r radd flaenaf. Yr unig dro y cafodd yr ysgrifenydd gyfle i'w glywed a bod yn ei gyfeillach oedd yn Eis- teddfod Aberteifi, yn Awst 1866, pan oedd efe, Edith Wynn, a Kate Wynn, wedi cael eu cyflogi gan y pwyllgor. Meddai ar lais nerthol a seinber. Bu farw yn 49 oed, yn ei breswylfod, 72, Queensland-st., L'erpwl. Yr oedd yn ffafryn mawr er's blynyddau, yn neillduol yn Eisteddfodau y Gogledd. Yr oedd yn un o brif leiswyr oddiar y cychwyn yn nghyngherddau nos Sadyrnol Lea. Am la wer o flynyddau, bu yn arweinydd y giki) yn eglwys St. Nicholas. Gadawodd Mr. I Hughes deulu lluosog a chylch mawr o gyfeillion i alaru ar ei ol. RHUTHRWYNT OFNADWY.—Bydd yn dda gan gyfeillion ac edmygwyr lluosog Syr Samuel a Lady Baker, y teithwyr Affrican- aidd adnabyddus, i glywed newyddion oddi- wrtho. Dyddiwyd y llythyrau diweddaf 6 wythnos yn ol o Hong Kong, yn rhoddi hanes ei deithiau trwy y rhan fwyaf o India. Arosasant dros rai wythnosau yn India, lie y lladdodd Syr Samuel dri o deigrod, un o ba rai oedd yn ddychryn y gymydogaeth, ac wedi ysglyfaethu amryw o'r brodorion cyn i Syr Samuel gyrhaedd yno. Wrth deithio o Calcutta trwy Penang a Singapore, cawsant fordaith arw yn mau Bengal. Ond pan yn y culforoedd, ryw 24 awr o daith i Hong Kong, daliwyd hwy gan un o'r rhuthrwynt- 11 y oedd (typhoon) ofnadwy, y rhai a wnant y moroedd hyny mor beryglus. Parhaodd yr ystorm aruthrol hon am 22 awr, ac yr oedd y llong ar oil oedd ynddi yn y perygl mwyaf, gan fod y tonau yn ymlifo i fewn i'r cabanau a'r saloons. Yr oedd y teithwyr wedi eu taraw gan ddiwydrwydd rhyfeddol y Chine- aidd -yr afon wedi ei llwytho gan gychod yn llawn o ddiwyd-ddynion. YMOSODIAD HONEDIG GAN DAFARNWR YN Y RHONDDA.—Yn heddlys Pontypridd, dydd Mercher, wythnos i'r diweddaf, cyhuddid Moses Rees, landlord y Glamorgan Hotel, Trealaw, o ymosod ar Ruth Watkins, 20 mlwydd oed, ei forwyn. Dywedai yr achwyn- es iddi fod yn ei wasanaeth am tua thri mis. Ei dyledswydd oedd golchi allan y bar ar ol "Stop tap." Nos y 18fed, aeth hi i bwll ger y t,t i gyrchu dwfr i'r perwyl hwnw. Aeth y diffynydd yn llidiog am yr amser y bu ymaith, a phan ddychwelodd, anerchodd hi mewn iaith isel. Gofynodd hi iddo os carai glywed y fath eiriau am ei blentyn ei hun ? Ar hyn, camgwthiodd a chamdriniodd hi, gan ei throi allan o'r t,t, ao aeth i d,t. cymydog. Dywedai hono fod yr achwynes mewn cyflwr enbyd, yn ddu a glas drosti. Galwodd y diffynydd ar Janet Davies, golch- yddes, yr hon a roddodd dystiolaeth yn ei ffafr ef. Sylwai yr yiaad, os gellid profi yr achos yn erbyn y diffynydd, y byddai yn drosedd pwysig iawn, ond yr oedd amheu- aeth, a chai yntau y budd o hyny, felly, taflwyd yr achos allan. MADAM PATTI A'I HADEILADYDD.—Y mae Mr. Arthur Lewis, bar-gyfreithiwr, yn eistedd mewn cyflafareddiad yn y Mackworth Hotel, Abertawe, ar achos a gyfeiriwyd c frawdlys diweddaf Abertawe, yn mha un yr oedd Mr. Thomas Heard, coed-fasnachydd, yn gwysio Madam Patti am y swm o 2,500p., dyled a drosglwyddasid iddo gan Mr. Thomas Rees, builder. Darfo i Madam Patti gyflogi Mr. Rees i wneyd ychwanegiadau at ei th,t, sef Castell Craig y Nos. Mynegid fod Rees wedi gwneyd y gwaith gwerth 14,000p., a hawlia fod Madam Patti ar y 18fed o Fai, 1880, yn ddyledus iddo yn y swm o 2,500p. Trosgjlwyddodd Mr. Ree3 y swm hwn i Mr. Heard. Pan glywyd yr achos yn flaenorol, dadleuai Madam Patti ei bod wedi talu 8,435p., ac nad oedd rhagor o waith wedi ei wneyd. Honai hefyd nad oedd y 2,500p. a hawlid am ychwanegiadau wedi eu cael allan trwy adfesuriad i fod yn ddyledus, ac nad oedd y swm yn daladwy hyd ar ol tri mis ar ol cwblhad yr holl waith. Gwadai yn mhell- ach drosglwyddiad y ddyled gan Rees, a rhoddai i fyny hawliad gwrthwynebol dan gytundeb Mawrth 18fed, 1880, yn yr hwn yr ymgymerai Rees i orphen yr adeiladau erbyn Ebrill 4ydd, ac yr oedd i dalu swm penodol am bob dydd os na fyddent wedi eu gorphen yr amser hwnw. Yn y cyflafareddiad pre senol, ymddengys Mr. Gye dros Madam Patti, a Mr. Howell Jeffreys dros Mri. Heard a Rees. Y mae y mater heb ei derfynu. LLIFODD nant i lofa ger Wolverhampton, yr wythnos ddiweddaf, nes ei llwyr foddi. Y MAE y Ceidwadwyr wedi cael ychwaneg- iad o 1,850 o etholwyr ar y register yn swydd Middlesex. TROSGLWYDDWYD y Parch. Pelham Dale, offeiriad yn Llundain, i garchar am droseddu Cyfraith yr Addoliad Cvhoeddus. Y MAE Moody a Sankey wedi cychwyn am Galiffornia, Hyd. 13eg, gan gynal eyfarfodydd yn ninas y Llyn Halen ar y daith. Bu Syr Hardinge Giffard yn Launceston, nos Sadwrn diweddaf, yn trin a chondemnio y Llywodraeth yn enbyd iawn yn ei araeth i'w etholwyr. YCHYDIG ddyddiau yn ol, bu farw Mr. Henry Giles, is-olygydd y South Wales Daily News am chwe' mlynedd, yn 38 mlwydd oed. Gadawodd weddw a phump o blant. YN mrawdlys Durham, dydd Sadwrn, ded- frydwyd dynes o'r enw Mary Hood i ddeuddeg mis o garchar a chaledwaith am daflu vitriol ar ddynes arall. GWNAWD ymgais i ddychwelyd cerbydres y mail o Dublin i Galway dydd Sadwrn. Cafwyd careg aruthrol ar y rheiliau, ond, yn ffodus, taflwyd hi ymaith gan yr agerbeiriant. GERLLAW Norton Junction, o Towcester i Badbury, darfu i dri cherbyd olaf y gerbyd- res ddymchwelyd. Cafodd y teithwyr ysgyd- wad erwin, ond, yn ffodus, ni laddwyd neb. DYDD Sadwrn, taflodd dynes yn Glasgow ei dau blentyn allan drwy ffenestr. Bu un ohonynt farw yn fuan, ac y mae y Hall wedi ei niweidio yn angeuol. Y MAE Bwrdd Gwarcheidwaid Merthyr wedi penderfynu cario achos Cymdeithas Gyfeillgar Hirwaun i lys uwch, gan fod yr ynad cyflogedig wedi dyfarnu yn eu herbyn. 11 TYBIR fod dau gorff a gladdwyd yn Shef- field wedi eu gwenwyno, ac y mae yr awdur- dodau wedi gorchymyn ar iddynt gael eu codi o'u beddau, er mwyn gwneyd archwiliad meddygol arnynt. AM ymosod ar ddynes o gymeriad drwg yn Abertawe, anfonwyd tri o lanciau o'r enwau James Jones, David Jones, a David Walters i garchar am ddau fis yr un gyda chaledwaith. MADAME ADELINA PATTI. Y mae y per- gantores hon newydd gyrhaedd Berlin, er rhoddi nifer o gyngherddau yn y Royal Opera. Tra yn Germani, bydd hi yn derbyn (trwy law ei agent, M. Pollini, o Hamburg) 450p. y nos HWLFFOEDD.—Cafivyd tvedi marw. Boreu dydd Sul diweddaf, cafwyd hen wr o'r enw Parker, yr hwn oedd yn byw wrtho ei hun yn St. Thomas's Green, gan Mr. James Hicks yn farw yn ei ystafell wely. Dr. John, yr hwn a alwyd i fewn gan Supt. Williams, a ddywedai iddo farw o glefyd y galon. PRIODAS Y CZAR o RWSIA.—Cymerodd priodas y Czar o Rwsia a'r Dywysoges Dol- gorouki le ychydig ddyddiau yn ol, dim ond pedwar mis ar ol, marwolaeth ei wraig. Yr oedd perthynas anmhriodol rhwng y Czar a'r Dywysoges er's blynyddau, a chafodd amryw blant ohoni. Nid yw plant y diweddar ymerodres yn hoffi y briodfta hon, ac yr oeddynt oil yn absenol yn ystod y seremoni briodasol. Y SGELERWAITH YN LLUNDAIN.—Ar y 22ain o Hydref, yr oedd dyn o drwsiad parchus a dynes yn cydgerdded yn Finsbury Park, yn ymddangosiadol ar delerau cyfeillgar, ac yna eisteddasant i lawr ger y llyn. Yn sydyn, tynodd y dyn revolter o'i logell, a thaniodd amryw ergydion at y ddynes, yr hon a gwymp- odd yn uniongyrchol. Yna taniodd y dyn at ei frest ei hun. Cymerwyd y ddynes i fyny, ac aethpwyd hi i'r clafdy. Cafwyd fod y dyn yn fyw, ac aethpwyd ag ef i'r Rhydd- glafdy Breninol. Yno dywedodd, Lledd- ais y cyfaill goreu oedd genyf ar y ddaear, ac y mae yn ddrwg genyf na fuaswn wedi lladd fy hun. Ni wyddoch fy nhrallodau." Dy- wedai yn mhellach ei fod yn Lloegr er's tuag wyth mis, wedi glanio yma o Awstralia, lie y gadawsai wraig a theulu, ac mai y ddynes a saethodd oedd ei chwaer-yn-nghyfraith. Ei enw ydyw William Herbert.
Groeg a Thwrci.
Groeg a Thwrci. Yr helynt rhwng y ddwy deyrnas hyn yw cwestiwn yr awr. Anerchodd Brenin Groeg ei Senedd Hyd. 21ain, a datganai ei bendec- fyniad ef a'r genedl i gysylltu Thessaly aic Epirus a Groeg, trwy nerth milwrol, os bydtl angen. Y mae gan Groeg 45,000 o filwyr, ac y mae y fyddin i gael ei hychwanegu i 70,000. Nid yw Twrci wedi "cydsynio i dros- glwyddo drosodd Thessaly ac Epirus, er ei bod wedi addaw rhoddi Dulcigno i fyny, ond y mae yr oediad yn anfoddhaol.
Twrci a'r Galluoedd.
Twrci a'r Galluoedd. 0 Gaercystenyn, Hyd. 29ain, mynegir fod Dervish Pasha wedi ei awdurdodi i gymeryd y penaethiaid Albanaidd mewn dalfa—y rhai a wrthsafant drosglwyddiad Dulcigno, ac i ddanfon allan o'r wlad y rhai a wrthodant fod yn ddeiliaid i Montenegro. Ofnir mewn llawer cylch y bydd gwrth- safiad cyndyn gan breswylwyr Dulcigno. Hysbysir fod Riza Pasha wedi ei ddi- swyddo.
Afghanistan.
Afghanistan. LLOFRUDDIAETH DYBIEDIG YR AMEER. Y mae adyoddiad wedi cyrhaedd y wlad hon fod Abdul Rahman Ameer, neu frenin y wlad, wedi ei lofruddio. Nid oes newyddion wedi eu derbyn o India yn eadarnhau hyny. Y mae yn dra thebyg fod pethau yn parhau yn dra anesmwyth yn y wlad hono hyd yma, a hyny mewn canlyniad i ymyriad annghyf- reithlawn Llywodraeth yr Iuddew o Loegr.
NEWYDDION DIWEDDARAP
NEWYDDION DIWEDDARAP (GYDA'R PELLEBYR). Nos FAWRTH. MARWOLAETH AELOD SENEDDOL. Heddyw, bu farw Mr. William Archer Redmond. yr Aelod Seneddei' dros Fwrdeis- dref Wexford, yn yr Iwerddon. Eisteddodd dros y lie uchod oddiar 1872. Yn ei olygiad- au politicaidd, yr oedd efe yn Home Ruler. Bu farw yn Cork o glefyd y galon. Y TERFYS WYR iWYDDELIG. Dywed pellebryn o Limerick y sibrydir yno fod Mr. J-ohn Dillon, A.S., wedi ei gy- meryd i fyny heddyw yn Limerick Railway Junction. Gwnaethpwyd hyn gan ddau heddgeidwad, y rhai a aethant i mewn i'r railway carriage gydag ef.
Addysg Uwchraddol i Gymru.
Addysg Uwchraddol i Gymru. Boreu dydd Mawrth, yr 2il cyfisol, cynaliwyd cyfarfod yn vestry Capel Trinity, Aberdar, er ystyried y priodoideb o gynal cyfarfod cyhoeddns yn y dref i ymdria a'r pwnc uchod. Nid oedd y cyfarfod mor line sog ag ydysgwyIid iddo fod. Etholwyd y Parch. W. Edwards, Ebenezer, i'r gadair, yr hwn a sylwai ei bod yn bosibl y gallai y Ddirprwyaeth Freiniol gyfarfod yn Aberdar mewn oddeutu mis o amser, ac felly mai gwell fyddai cynal cyfarfod cyhoeddus er cael allan deimlad trigolion y lie ar y cwestiwn. Y Parch. E. Davies, Rhymni, a ddywedodd mai goreu pa fwyaf ami y cynelid y cyfarfodydd hyn. Os byddai i bobl Oymru ddangos difaterwch yn y mater, buasai hyny ya offeryn yn nwylaw eu gelynion er rhwystro Cymru i dderbyn y fraint a geisia. Nid oeddid yn sicr eto pa un ai yn Merthyr neu ynte yn Aberdar y cyfarfydda y Ddirprwyaeth—efallai yn y ddau Ie. Mr. D. Davies, Canton House agredai mai Aberdar oedd y lie mwyaf cyfleus yn Neheudir Cymru i adeil- adu coleg, ac felly yr oedd yn angenrheidiol i'r trigolion gymerycl rhan brominent yn y symudiad, fel y gallent hawlio yr hyn oedd yn iawn. Mewn atebiad i'r Parch. R. J. Jones, dywedai y Parch. E. Davies nad oedd y dosbarth gweith- gar yn deall y cwestiwn, ac o ganlyniad nid oeddynt yn teimlo dyddordeb ynddo. Yr oedd yn berffaith bosibl y gallai y Ddirprwyaeth hon eto fyned yn ddifudd, fel yr un yn 1849. Yn 1849, er fod y Cymry yn Ymneillduwyr, ni ym- ddangosodd ond Eglwyswyr o flaen y Ddir- prwyaeth. Sylwai y Parch. W. James mai y cynllun goreu fyddai i gynal cyfarfod cyhoeddus, ac i ychydig siaradwyr osod allan y mater yn glir o flaen y cyhoedd, ac i'r cyfarfod hwnw ddewis personau cymhwys i ymddangos o flaen y Ddirprwyaeth. O'r diwedd, penderfynwyd fod cynadledd (cynwysedig o holl ddynion cy- hoeddus Cwm Aberdar) i'w chynal, i yatyried y pwnc, a'i bod i orphwys ar y gynadledd hono, par un a gynelid cyfarfod cyhoeddus neu beidio. Etholwyd y Parch. Wm. James a Mr. R. Pardoe yn gyd-ysgrifenyddion. Bydd i'r pwyllgor gytarfod eto nos Wener, pryd y penodir ar y lie a'r amser i gyna) y gynadledd grybwylledig.
[No title]
AM saethu ei wraig, ond nid yn farwol, yn Mrawdlys Caer, dydd Sadwrn, dedfrydwyd Thomas Hughes i wyth mlynedd o benyd wasanaeth. r fUll
Advertising
GWAED, CROEN, NERVES!! YMAE GWAED PUR, CROEN IAOH, a JL NERVES CADARN, yn anhebgorol angen- rheidiol tuag at sicrhau Iechyd. Trwy y gwáetl y mae pob drwg a da yn gweithredu ar y corff; felly, cymerer ;i x/ III Vv u ill v4 A' Ub If itjfe '<&(' V./ t43'/W "v A- u'1f i' v (U-Esa-Xs'risifcsjxj.# y rhai yw'r unig feddyginiaeth ag y gellir ymddir- ied ynddynt tuag at gyflawni y gwaith o Baro a Chryfhau y Gwaed. Tuag at y PILES, Poen yn y rhan isaf o'r cefn i lawr y Cluniau, ya achosi Pen-ysgafnder, Pylu y golwg, &c., y maent yn hynod o effeithiol. I G-WELLHAD HYNOD! SYR, Y r wyf yn teimlo yn ddyledswydd.aiinaf i'ch hysbysu fy mod wedi cael budd mawr drwy gymeryd dau flychaid o'r Pills gwerthfawr, sef "HUGHES' PATENT BLOOD PILLS." Yr oedScta^n yn methu ceidded cam braidd, ac yn methueis- tedd oherwydd y Piles, a Phoen yn y rhan iselaf o'r Cefn, y Cluniau, a'r Pen, ac yn bur wa^; yn awr, yr wyf yn holliach, ac yn bur ddiolchgay. Cwinbran, Awst 20fed, 1876. MARY JAMES. RHYBUDD.—Mae llwyddi»»t y Peleni hyn wedi achosi llawer i'w dynwared, felly gofaler cael y Trade Mark" uchod (sef llun Calon) ar boo blwch, a'r geiriau blood Pills oddifewn aSt enw Jacob Hughes ar stamp y Llywodraeth; heb hyn twyll ydyw. TRADE MARK BLOOD PiLLS." Cosbir pob ffugjLacL Ar wrth drwy yr holl deyrnas am Is. ifc,, 2s. 9c., 41. 6o. Gyda'r post Is. 3c., 2s, IJé. a 4s. 9c,, oddiwrth y Parchtnog— Jacob. HugheSy Apothecaries Hall, Llqfielly.
LLITH Y BABCTJD.
ffyrdd drygionus, ymhyfrydweh mewn sanct- | eiddrwydd a gwirionedd. ac ymdrechwch ddyssu y ffordd i garu a pharchu eich cyd- ddynion, gan gofio fod dydd i ddyfod pan y cosbir pob drwg-weithredwr. Rhaid terfynu, gan obeithio y bydd i heddwch deyrnasu ar yr Ynys cyn y bydd i mi ysgrifenu eto, neu fe fydd yn rhaid defnyddio y chwip. — Yr eiddoch mewn hwyl, BARCUD O'R CWM Du. [Deallwn fod Adolphus yn cael ei gyhuddo o fod yn ysgrifenydd y llithiau hyn. Boed hysbys mai nid efe yw'r awdwr.—GOL.]