Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. Y BYWIOGRWYDD yn adranoedd haiarn a glo Prydain Fawr sydd bwnc o'r pwys mwyaf, nid yn unig i'r adranoedd lie y bodola y cyfryw weithfeydd, ond hefyd i'r holl wlad. Mae yr adroddiad chwarterol a barotowyd hyd Medi 30ain o'r fFwrnesi blast sydd mewn gwaith drwy yr boll wlad, yr hwn sydd newydd gael ei gy- hoeddi, yn dangos nad oes ond pedair a deugain yn llai mewn blast nag oedd yn niwedd mis Mawrtb, pryd yr oedd yr adfywiad American- aidd ar ei ucbelfanau, a phedwar ugain a dwy- ar-bymtbeg yn fwy nag oedd yn nghanol Tach- wedd blaenorol, pan ddechreuodd yr adfywiad. Yn ystod y cbwarter, chwythwyd allan ddwy- a-deugain o ffwrnesi, a chwytbwyd i mewn ddwy-ar-bymtheg-ar-ugain. Adeiladwyd tair ffwrnes newydd, a tbynwyd un hen i lawr. Mae y nifer yn awr mewn blast yn bump cant a phedair ar ddeg-a-deugain o naw cant a phym- theg-a-deugain sydd wedi eu hadeiladu. O'r pedwar cant ac un o ffwrnesi sydd yn awr yn sefyll, mae cant a chwech yn eiddo i gwmniau y rhai svdd naill ai mewn sefyllfa o liquida- tion, neu ynte wedi cau i fyny eu gweithfeydd. Cyfrifir fel^jeth tebygol na chwythir hwy i mewn blith mwyacb. Mae y rhan fwyaf ohon- ynt yn ddiddefnydd, oherwydd y sefyllfa ad- feiliedig y maent ynddi. Wrth dynu y rhai hyn allan, cyfrifir fod dau cant a phedwar ugain a pbymtbeg yn perthyn i berchenogion y rhai y mae yn debygol a osodent ddau cant a hauer ohonynt mewn blast os byddaiy cais am haiarn yn gwnejd hyny yn angenrheidiol. Fel byn, y mae genym yn y gwahanol adranoedd mewn blast, a rhai yn barod i'w gosod felly, ar y cyfan, wyth cant o fFwrnesi. Wrth- daflu golwg dros yr holl weithfeydd haiarn a dur a fodolant yn ein gwlad, nid yw gweithfeydd tanwent a meteloedd Prydain Fawr ond megys yn eu hieuenctyd. Yn NGHAERDYDD, yr wythnos ddiweddaf, allforiwyd 88,162 o dunelli o lo, 1,926 o dunelli o haiarn a dur, 1,865 o dunelli o batentfitel, a 1,150 o dunelli o olosglo. Mordroswyd i mewn yma hefyd H,775 o dnnelli o fwn haiarn o'r Ysbaen, a 1,470 o'r unrhyw o leoedd ereill, ac yn agos i ddwy fil o dunelli o goed pyllauglo, yr oil bron o Ffrainc. Nid oedd yr allforiad o lo yr wyth- nos ddiweddaf yn dyfod i fyny a'r allforion yr wythnos cyn byny o tua 18,000 o dunelli, a dichon y gall byn greu camgasgliad. Yr oedd llwytho llongau yma yn hynod fywiog yn ystod yr wythnos, ac yn agos boll lofeydd yr adraa, yn enwedig y rhai mwyaf pwysig, 4 chyflawn- der o waith ganddynt i'w wneyd. Priodol yw i ni nodi fod llawer o longau arhaaereu llwytho yn y porthladd pan wnaethpwyd cyfrifon yr wythnos i fyny, ac am hyny nad oes yrunllei- had yn yr allforiad o lo i wledydd tramor wedi cymeryd lie. Er mor dda y mae y cais yn par- hau, y mae y cyflenwad o lo y fath fel nad oes un anhawsder ar ffordd llwytho llongau, ac am hyny nid oes yr un arwydd am godiad yn y prisoedd. Mae y llyfrau yn dra chyforiog o archebion, a'r fasnach lo, gan hyny, mewn sef- yllfa lied foddhaol. Mae masnach yn NOHASNEWYDD-AR-WYSG, yn ystod yr wythnos, wedi bod yn dra bodd- haol, ar y cyfan. Mae glofeydd sir Fynwy wedi gweithio yn weddol reolaidd drwy yr wytbnos. Mae oerni yr hin wedi creu cyffro yn masnach y glo tai, ond y mae prisoedd y glo hwn a'r glo ager yn parhau yr un. Mae yr allforion a'r mewn-forion yn parhau yn weddol fywiog, a gweithio rbeolaidd yn ngweithfeydd haiarn, dur, ac alcan y sir. Yn adran ABERTAWE, mae y gwynt dwyreiniol parhaus a'r tywydd tymbestlog, yn nghyd ag achosion ereill, wedi peri lleihad yn masnach porthladdoedd yr ad- ran. Mae cyfanswm yr allforiadau yn llai sag y mae wedi bod er's amryw wythnosau, ac nid oes un arwydd o welliant buan, gan nad oes un argoel am ddyfodiad llongau i mewn. Fel y canlyn yr oedd yr allforiadau yr wythnos ddi- weddaf:—I Ffrainc, 8,217 odunelii, a 3,240 o dunelli o batent fuel; i'r Ysbaen, 1,195 o dun- elli o lo, a 50 o dunelli o batent fuel; i Lisbon, 520 o dunelli o lo i Savannah, 650 o dunelli o lo. Adgychwyniad yr Worcester Worts, y rhai fuont yn segur am rai wythnosau oher- wydd camddealltwriaeth y tinhouse men, a wna gynyddu y cynyrch o lafuau alcan yn yr adran. Mae gweithfeydd dur Glandwr yn gweithio yn weddol reolaidd, a'r gweithfeydd alcan oil yn agos yn yr un sefyllfa ag a fynegasom yn ein hadroddiadau blaenorol. Yn adran MERTHYR TYDFIL, mae masnach y glo a'r haiarn yn parhau yn weddol fywiog. Gweithio bywiog a rbeolaidd yn y glo, haiarn, a dur yn Nowlais. Mae gweithfeydd tan y Gyfarthfa yn gweithio yn fywiog, a'r glo hefyd yr un modd. Nid oes fawr o le i achwyn am waith drwy holl weith- feydd yr adran-drwy Gwm Taf, ac i waered i'r Quaker's Yard. Dichon mai tua Plymouth y mae y llesgedd mwyaf. Yn MIDDLESBRO', dydd Mawrtb, yr oedd cynulliad gweddol o dda ar y Gyfnewidfa. Masnach yr haiarn bwrw hytrach yn fwy araf na'r wythnos flaenorol, a'r prisoedd ddim mor sefydlog ond y mae yn debygal y gwnant ddyfod yn well, os gwna yr haiarn Ysgotaidd godi. Y pris eyffredinol yma dydd Mawrth am Rif 3 oedd Ip. 19s. 6c. y dunell gan y merchants. Y mae peth haiarn bwrw wedi ei anfon oddiyma yr wythnos ddi- weddaf atom ni i Ddeheudir Cymru. Nid yw prisoedd haiarn mewn barau yn cadw i fyny yn hynod o dda, ac y mae rhai yn foddlon gwerthu am o 5p. 5s. i 5p. 10s. y dunell. Hyn yw y prisoedd cyffredinol a nodir :-Haiarn onglau am o 5p. 12s. 6c. i 5p. 15s. y dunell; haiarn platiau llongau, nis gellir eu cael o dan 6p. 15s y dunell, oherwydd y cais mawr sydd wedi bod yn ddiweddar am danynt, ac y mae y rhai a werthant y cyfryw yn cael elw da yn bresenol Caerdydd, Tach. 2, 1880. G. M. j

Eisteddfod y Rhydri.

Addysg i Gymru.

[No title]

! BYR EBION 0 L'ERPWL.

Pwysig i Berchenogion Glofeydd.

Cyfarfod o Gynrychiolwyr y…

[No title]