Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
TLYSAU A WEN, sef Cyfansoddiadau Bardd- onol JOHN WATKINS (loan Gwent), Rhymni, yn cynwys Pryddest Goffadwriaethol ar ol Islwyn, Deigryn ar ol Mathetes, yn nghyd ag amryw englynion a darnau ereill. Mae awen loan Gwent, o ran ei hansawdd, mor ddiledryw ag unrhyw awen ag y bendith- iwyd Cymru a'i chynyrchion ond fe ddichon nad yw yn gysylltiedig a'r un manteision er rhoddi iddi y dadblygiad goraf.' Y mae rhyw d6n mewn barddoniaeth iawnrywiog ag a wna i'r galon deimlo-y mae rhyw under-current o fywyd ac effaith o dan y geiriau nas gall geiriau eu cynyrchu, er mai trwy eiriau y maent yn cael eu hamlygu. Ysbrydoliaeth o eiddo y teimlad ydyw, ac hon yw y brif elfen sydd yn cyfansoddi dylanwad barddoniaeth. Cynyrchion y deall sydd yn adeiladu, ond apeliadau y teim- lad sydd yn denu y serch, yn plygu'r ewyllys, ac yu tyneru'r galon. Miwsig calon y bardd. ydyw miwsig cynhwynol ac ysprydol barddon- iaeth, o'r hwn nid yw miwsig lleisiol neu gel- fyddydol ond efelychiad i raddau mwy neu lai perffaith. Y mae llawer o'r bywyd dirgelaidd hwn yn "Nhlysau Awen" loan Gwent, ond feallai nad yw yn mhob man yn cael ymddangos yn y diwyg goraf. Teimlir y gallasai ambell ansoddair fod yn fwy cywir-ddesgrifiadol, ac ambell frawddeg fod yn fwy cryno a destlus. Pe buasai yr awdwr yn myfyrio tipyn ragor ar ei eiriau a'i frawddegau cyn eu gollwng dros ei enau, mewn ambell i fan, buasai y farddoniaeth yn fwy derbyniol gan y chwaeth a'r llygad clasurol. Nid ydym wrth hyn am i'r darllen- ydd gredu fod loan yn ryw esgeulus iawn yn y ffordd hon, na'i fod un gronyn waeth na'i fardd- gyfoedion, ond yn unig ei bod yn ddyledswydd arnom grybwyll hyn wrth fyned heibio, ac er egluro ein meddwl yn mhellach, rhoddwn yr engraff canlynol o'l bryddest ar Islwyn 1 Mewn ffrwythlendeb, Y bytholdeb A serenai yn ei drem; A'i- gynyrchion, # Llawn prydferthion, Eto erys megys gem. Dywedir fod "y bytholdeb" yn serenu mewn ffrwythlondeb." Yn awr, beth feddylir wrth "ffrwythlondeb" yn v cysylltiad yna? Buasai mewn dysgleirdeb, eglurdeb, neu draphurdeb, yn briodolach geiriau o lawer mewn cysylltiad a serenu. Nid yw dywedyd y byddai I'w gy. nyrchion" eto aros megys gem, yn ramadegol o gwbl. Onid mwy cywir a clilasurol fuasai megys gemau ? Dylai ein beirdd ieuainc fyfyrio clasuro'ldeb arddull—hyny yw, gwylio ar fod pob syniad, gair, a brawddeg yn gwisgo y cywirdeb neu y precision mwyaf. Yn hyn mae y beirdd Seisonig yn rhagori yn fawr-y mae pob meddwl, gair, a llinell ganddynt hwy wedi eu diqestio yn dda cyn rhoddi iddynt oleuni dydd; maent yn y fath fodd fel nas gellir gwella arnynt-cariant ddillynder, purdeb, a chywiredd nodedig. Y mae yn y bryddest hon ar Islwyn benargraffau yn ei ddesgrifio gyda llawer o gywi.deb o dan ei wahanol gyineriadau, fel bardd, beirniad, a phregethwr. Fel bardd Y Ileddf a fu Awyrgylch bur ei awen gu, Ac eigion maith i'w grebwyil chwim Nis gallodd gellwair gyda dim Pan godai fry i entyrch gwawr, Ymgolli oedd ei feddwl mawr Mewn maith eangdir uwch y llu. Nid gallu certh, Yn rhwygo pobpeth yn ei nerth, Ei awen gysegredig ef; I Marworyn rhoed o allor nef I'w henyn yn ysbrydol fflam Cyneuodd hyd yr olaf lam, A Duw yn unig wyr ei gwerth. Ei gysylltiad a llenyddiaeth, ei wyleidd-dra, a'i anymhongarwch :— Ar faes llenyddiaeth oedd heb ffael, Yn gwasgar ei ddelweddau hael, Yn ddiymhongar ar ei hynt— Mor ddystaw a'r goleuni gynt; Er meddu ar gyfeillion lu, 0 galon eu hedmygu bu, Ond methai dreulio mynyd bron O'i amser mewn cymdeithas Ion. Yn ei unigedd carai fyw, # I olrhain mawredd gwaith ei Dduw Ymwasgu o'r presenol wnaeth, I gysegr y dyfodol aeth Uwch aniaii—dros y terfyn draw, Y syllai ef i'r byd a ddaw Ei awen dreiddiodd yn ei bri I'w santaidd santeiddiolaf hi. Fel beirniad:— Fe ddaeth i fynu'n feirniad craffus iawn, 0 dan edmygedd yr Eisteddfodcawn Ni fu'i onestach ar ei llwyfan hi, Yn dal ei chlorian fawr na'n Hislwyn ni. Enhuddwyd Awen—diymgeledd yw; Pan syrthiodd, collodd ei thlysineb byw; O swynol Awen, pan y tawodde, Fe gollwyd un o engyl-feirdd y De. Fel pregethwr :— Taenellwyd ei bregeth a neithdar barddoniaeth, Ni ddeuodd o'i enau yn sychlyd athroniaeth; Ireiddiwyd ei feddwl-irder trag wyddol, Nes ydoedd i'r dyrfa fel manwlith ysprydol. Nid corwynt ofnadwy yn gwasgar ei ddycliryn, Ond awel oedd esmwyth, a bywyd i w chanlyn, Yn chwythu yn dyner nes goglais y teiinlad, A'chodi y galon i dymher addoliad Na tharan gynhyrfus, ond goslef berseimol, Yn disgyn i'n clustiau yn fiwsig gwefreiddiol; Na nerthol ddaeargryn yn^aiglo dinasoedd, Ond angel tangnefedd ynlifrau y nef oedd Yn aros mewn adgof mae'i swynol arafwch, Ei ddystaw barabliad, a'i ddoniol dynerwch. A o-wedd ddifrifol i'r areithfa ai, Ar hyd y grisiau araf esgyn wnai, Cychwynai gydag emyn yn ddi-gel, Disgynai ar ein clustiau fel y mel; Darllenai a gweddiai gyda bias, Ac O mor nefol o flaen gorsedd gias. Ac 0 or le, Ei awdl ar y Nefoedd Ond yn ei olaf gampwaith deil yn fyw Perl i'n llenyddiaeth gysegredig yw; Ei Nefoedd gerfiodd yn bortread cun, O'i mewn mae naws y nefoedd fawr ei nun; Mwy hyfryd na mel-ffrydiau genym ni Yr awen lithrig lifa dswyddi hi, A gloewach nag oedd llynoedd Hesbon gynt, A dyfroedd Libanus ar ei hynt, Y'rhai ymdreiglant fel y grisial cain, I waered tua'r m6r a pheraidd sain; Ei bur obeithion, yn ei Nefoedd' dlos, Yn esgyn uwchlaw telaid ser y nos, Hyd orsedd santaidd yr anfeidrol lor, Fel treigliad chwim y dyfroedd tua'r mor Arllwysodd ei serchiadau gyda bias, Mewn cariacl i ddihalog foroedd gras, A braidd na theimlem y gogoniant llawn Yn llathru yn ei ddarlun swynol iawn; A brigau ffrwythlawn pren y bywyd sydd 0 ddau tu afon loew gwlad y dydd, A dardda o Orseddfainc Duw a'r Oen, Cartrefle hedd a bythol berffaith hoen A'i santaidd flodau sy'n drag'wyddol wyrdd, A'r Ceidwad hoff o dan goronau fyrdd, A dysglaer wawr ei anfarwoldeb pur Sydd yn gerfiedig ar ei pherlawg fur; A chlywed ydym drwyddi bryder sant, Mewn ariial dir, yn swn ei lleddfol dant, Yn prudd hiraethu yn y cystudd mawr— Yn dysgwyl gweled boreu toriad gwawr. A braidd na ddeuai palmant aur y nef I'r golwg hefyd yn ei Nefoedd ef, A gloew gwrel ei heolydd hi, Sy' fel y grisial yma gyda ni; A threiddio drwyddi swn y nefol gan, Nes dwyn i fyny ein serchiadaun Ian Dychm'ygem wel'd ei myrdd angylion glwys Yn chwai osgorddai drwyddi ar ein pwys, A dirif seintiau, megys boreu wlith, 0 fewn ei Nefoedd,"—ydym yn eu plith; Ni allwn lai na derbyn gwir fwynhad Yn ei bortread tlws o Dy ei Dad." Nid oes na gofod nac 'amser genym i ddyfynu rhagor ond gwelir oddiwrth yr hyn a ddyfyn- wyd fod y bryddest yn un o deilyngdod uchel. Y mae y Deigryn ar ol Mathetes yn gyffelyb, ac felly yr holl ddarnau rhyddfydrol ereill, a'r englynion hefyd gyda hwy. Rhifa y bryddest ar Islwyn oddeutu chwech cant a phedair-ar- ugain o linellau. Gormocl o'r haner, debygem ni. Nid oes fodd fod un marwnad yn gofyn cy- maint o hyd. Pe buasai yn bryddest fywgraff- iadol, yn yr hon y cofnodir holl ddygwyddiadau bywyd hirfaith, buasai rhyw reswm dr-os ei bod yr hyd ag ydyw. Y mae meithder mawr mewn cyfansoddiad, ar destyn na fyddo o lawer o gwmpas, yn arwain yr awdwr i ail-adrodd yr un syniadau. Y mae yn sicr o wneuthur hyny, oddieithr ei fod yn ymlwybro wrth gynllun dos- partlius a chryno. Pe chwynid tipyn ar y bryddest hon, a'i tbynu i lawr i oddeutu haner ei hyd presenol, gwnelai farwnad dda ragorol; ond rhaid cyfaddef ei bod hi yn y wedd ag y mae yn gyfansoddiad ag sydd yn hawlio can- moliaeth mawr. Gan fod hon cystal ynte, beth dybir am y ddwy gyd-fuddugol ?
Ystormydd a Llifogydd.
Ystormydd a Llifogydd. COLLEDION MAWRION. Adroddiadau o wahanol ranau o'r wlad a fynegant fod yr ystorm, dydd Iau, yr 28ain, wedi gwneyd difrod mawr ar fywydau a medd- ianau. Nerth mwyaf yr ystorm oedd ar du gogleddol yr Hurnber, ac y mae y traeth yn frith o 10ngddrylliadau yn tystio ei gerwinder. Yn y pellder bychan sydd rhwng Hornsea a Withernsea, nid oedd dim llai na un-ar- ddeg o longau wedi eu dryllio, ac un ohonynt yn long haiarn fawr, sef y Macbeth o Dum- barton. Achubwyd dwylaw yr 011, ond meistr y Macbeth. Y Hong Earl Derby, wrth gael ei gyru ar v lan, a gariodd ymaith ddarn o forglawdd Hornsea. Gyrwyd y Hong Seven Sisters o Seaham ar y traeth, ond achubwyd y dwylaw-chwech mewn nifer. Y mae pedwar o bysgodfadau ar goll, ond gall eu bod wedi troi i rywle am gysgod. Yn ystod y golygfeydd cyffrous yn South Shields, pan oedd miloedd o bersonau wedi ymgasglu i weled yr ymdrechiadau i waredu morwyr llongau drylliedig, darfu i amryw bersonau gael eu cylchynu gan y mor a'u golchi ymaith. Cafwyd cyrff pump ohonynt dydd Gwener. In Scarborough, aeth tair o longau yn ddrylliau, gan wneyd naw mewn pedair awr ar ugain. Achubwyd y dwylaw. Aeth amryw longau bychain am gysgod i'r Yarmouth Roads. Golchwyd dau oddiar eu byrddau, a boddasant. Y Sisters, Hong fechan o Newcastle, a ddrylliwyd, a boddodd ei chriw—tri mewn nifer. Boddodd dau ddyn yn perthyn i 'long o Norway yn harbwr Aberdeen. Yn Grimsby, dywedir fod y gwynt yn ddychrynllyd, a'r llongau yn cael eu chwythu i'r lan yn sych ar y traeth, mewn dull na welwyd erioed o'r blaen. Rhwng Titney Haven a Grimsby, nid oes dim llai na 60 o longau wedi eu chwythu ar y traeth. Rhwng Grimsby a Mablethorpe, cyfanrif y llongau wedi eu chwythu i'r lan ydyw 180. Nid yw y golled ar fywydau can drymed ag y gellid dysgwyl. Gwyddis fod criw un llong o Swe- den oil wedi boddi. Gwelwyd hi mewn caledi tuallan i Sutton, a tliaflwyd y rhaff iddynt; ond yr oedd y dwylaw yn analluog i wneyd defnydd ohoni. Gwnawd ymgais i anfon allan y bywydfad, ond oherwydd damwain, cafwyd fod hyn yn anmhosibl, a'r trueiniaid llong- ddrylliedig yn dolefain am ymwared a adawyd i'w tynged, yr hyn oedd yn dorcalonus i'r eithaf. Drylliodd y llong Americanaidd J. B. Brown, o Portland, Maine, a glauiwyd y dwylaw yn Greenock. Ni chawsom ni yn y Deheudir ddim o angerdd yr ystorm hon. Mwy na thebyg y cawn glywed am ddifrodiadau pellach.
[No title]
BWRDEISJDREF. MERTHYR.—Ar ol adchwil- iad diweddaf Restr yr Etholwyr yn y fwrdeisdref uchod, cawn fod 14,191 o ethol- wyr, wedi eu rhanu fel y canlyn :—Merthyr, 7,319; Aberdar, 5,606; Vaynor, 335; Llanwonno, 491. POSTAL ORDERS."—Y mae yr awdurdodau wedi caniatau i'r cynllun o ddefnyddio postal orders gael ei brofi yn y llythyrdai. Felly, byddant yn dyfod i arferiad ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn nesaf. Byddant yn debyg i fanc-nodau cyffredin, ac yn ateb yr un dyben, ond am symiau llai. Rhoddir yr orders hyn allan am y symiau a ganlyn, a bydd yn ofynol talu y swm sydd rhwng cromfachau yn ychwanegol i'r llythyrdy am eu codi :— Is. Gc.), Is. 6c. (-Io.), 2s. 6c. (lc.), 5s. (lc.), 7a. 6e. (lc.), 10s. (2c.), 12s. 6c. (2c.), 15s. (2c.), 17s. 6c. (2c.), lp. (2c.)
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. BTODBD i'n cyfeillion y Beirdd, o hyn allan gy- feirio eu holl Gynyrchion Barddonol yn v modd ac i'r cyfeiriad canlynol MR. T. DAVIES (Dewi Wyn o Essyllt), Pontypridd. ( Gwladgarwr.)
TUCHANGERDD I DDIRADDWYR Y…
TUCHANGERDD I DDIRADDWYR Y CYMRY. Tuchangerdd i bwy ? I ddiraddwyr y Cymry ? 'Dyw tuchan i ddoethion fel hwy ddim mor rhwydd; Mae mawredd eu bri a'u pwysigrwydd yn peri I'r awen feiddgaraf lesmeirio'n eu gwydd Pwy ydynt ? Ond SAESON! Ein barnu ddylasent, Athrawon y'nt hwy, eu dysgyblion y'm ni; Pa hawl sy gan Gymry diddysg a didalent I amheu cywirdeb barn Saeson o fri ? Hwy ddaethant o Loegr—o Lundain orbwysig, A gwyddant beth ydyw cenedloedd pob gwlad, A gwyddant mai'r Cymro yw'r cyntafanedig O'r anwybodusion mai Cain yw ei dad Pa ryfedd, gan hyny, fod pawb o'r Cymreigwyr Mor anwar, peryglus, difoes, a thrahaus "Welsh Nannygoats," "Taffy ,the thief," hwy a elwir, A sut gallant hwy ddysgwyl nawdd unrhyw Sais ? Haneswyr diduedd a dystiant na welwyd Un rhith o ddaioni o'r Cymry tra'n, fyw Y Celtiaid o aeh "dynion gwylltion" eu gan- wyd; ■O'ent noethion goedwigwyr yn bwyta'u cyd- ryw, A'u llosgi yn goelcyrth i'w duwiau Derwyddol,— Paganiaid fel hyny yw'r Cymry bob nn Am Saeson, hwy hanant o ilch mwyurddasol,— O'r breiniol EPAOD medd Darwin ei hun. Pa ddedfryd gyhoeddwyd gan lys Llyfrau Gleision "? Dynoethwyd y Cymry i wydd yr holl fyd A phwy na wnai gredu tystiolaeth "swyddog- ion "? Taledig o'ent hwy am ddweyd gwir-gwir i gyd Nid gwingo ddylasai My Taffy" bryd hyny, Ond tewi, a llyncu'r dystiolaeth bob gair ;J Yn lie ei gwrthbrofi, fel gwnaeth, dylai grynu, A rhedeg i dd'wedyd ei bader wrth Mair. Pa flwyddyn ddadblygwyd yr holl anniweirdeb ? A ffynai yn Nghymru, er gwarthrudd ei phlant ? Bydd merched Cymreig mwy dan fyth ysgymun- deb Gan ladies y Saeson sy'n loewach na'r nant: Ni welir yn Lloegr na Ffrainc anniweirdai (?); Mae Twrci yn burach na Chymry o rai'n Ysgybwyd hwynt o Abertawe, feallai,- 'Does gwaith i'r ysgubell yn Llundain, myn brain D'wed SHAW* mai'r iselaf o bawb mewn gwybod- aeth Yw'r Cymry, heb hawl i enwogion un oes Pe gwir fod eu moesau uwchlaw pob beirniad- aeth, Fe wyddis mai diffyg gwybodaethjyw moes Rhaid credu y SHAW, sy mor hyddysg 'n eu camrau, A'u hanes, a'u hiaith, a'u defodau, a'u cred; Sy wedi trigianu'n eu plith am flynyddau, Heb ganfod un rhinwedd gwerth mesur ei lied. D'wed "CRIW"J o Doriaid ar amser etholiad, Eu bod mor gelwyddog a phenaeth y fall; Y dysgir anwiredd mewn tai o addoliad- I addaw i'r naill, ond pleidleisio i'r llall A phwy ond nhw'r Cymry diddal, dauwynebog, A feiddia ddisodli'r Toriaid fel hyn ? Sut gawd ganddynt gymaint o gymhorth tru- garog I'w haddysg uwchraddol" a'u Coleg," mae'n syn. Beth Addysg uwchraddol i Gymry didalent Ba les a wnai addysg i rai mor ddiddysg ? Gwaith rheitach o lawer pe fyth ymbalfalent 'N y t'w'llwch gor-Aifltaidd deyrnasa'n eu mysg: Rhowch Goleg i Sais, i Ysgotyn, a Gwyddel,— Manteision diri' weddai 'sgleigion fel hwy Am Gymry, o'r braidd dylai'u bath gael eu harddel Yn fodau rhesymol, heb son am ddim mwy. Rhyw genedl ddifoes o fan sectau yw'r Cymry, Penboethiaid crefyddol, heb esgob na phab Yn llawn ofergoeledd—rhyw ddrain a mieri, Heb rin offeiriadol mewn tad nac mewn mab Gwrthgilwyr yr Eglwys lan Gath'lig," a diau, Rhai anadferedig Pe deuai'n ddydd gwyl, Be' wnelai yr Eglwys a. gwyr yr Amenau ? Ai pawb yn glochyddion pan godai'r Welsh Hwyl"! 'Does iaith na llenyddiaeth gwerth sylw gan Gymry, Na beirdd, na chantorion, na dim fel "NVNI Eu brol yn nghylch Gwyliau 'Steddfodol sy ffwlbri Beth y'nt at Rhedegfa neu Ymladdfa am spree ? Na, na, nid yw'r Cymry'n werth dim, mewn un ystyr Rhyw engraifft o wastraff ar ddim yw eu bod; Ond dyna, ar fyrder i ddim eu difodir, A dim fydd y golled,—"Nyni" ga'r holl glod MULTUM IN PARVO," Three Crosses. Sef SETH P. JONES. Mr. Shaw, Cwmafon. X Rev. T. H. Harpur Crewe, Drayton, Beauchamp Rectory.
[No title]
GWALLT LLWYD.- Mae Hair Dye hynod kT ALEX. ROSS yn cynyrchu lliw goleu neu dywyll perffaith yn union wedi y defnyddir ef. Y mae yn berffaith a pharhaol—3s. 6c. Danfonir wedi ei kfacio yn ddiogel am 55 o stampiau. Oil of Cantharides ALEX. ROSS, at gynyrchu gwa;lt a barf—3s. 6c. Wedi ei bacio, 54 stamp. Ei De- pilatory, neu Hair Destroyer, yn symud ymaith wadt arddigonol o'r gwyneb, y gwddf, neu'r breichiau, heb niwaid—3s. 6c. Ei Curling Fluid —3s. 6c. Cludiad rhydd am 54 o stampiau. Ei Skin Tightener, neu feddyginiaeth at symud rhychau a brychau du oddiar y croen; Bloom of Roses at y bochau a'r gwefusau; a'i Hair Re- storer—3s. 6c. yr wn neu danfonir am 54 stamp. Nose Machine ALBX. Ross, at lunio y trwyn i berffeithrwydd—10s. 6c. Yn rhydd am stamps. Wedi ei bacio yn gelaidd. 21, Lambs Conduit- street, High Holborn, London. Danfonir yr articles hyn gyda thread y past. Gwahoddir llyfchyrau. 2384.
Eisteddfod Nelson, Llanfabon.
Eisteddfod Nelson, Llanfabon. BYDDED hysbys y cynelir EISTEDDFOD yn L) Ysgoldy y Nelson, Llanfabon, ar ddydd Nadolig, 1880. Beirniaid y Canu,-D. T. PROSSEB, Ysw. (Eos Cynlais), Treorci. Beirniaid yr Adrodd a'r Cyfansoddiadau, ac hefyd arweinydd y dydd, y Parch. G. REES, Penuel, Nelson. PRIF DDARNAU CORAWL. 1. I'r c6r heb fod dan 50 mewn rhif a gano yn oreu Their sound is gone out;" gwobr, 9p. a lp. i'r arweinydd. 2. 1'r c6r heb fod dan 30 mewn rhif a gano yn oreu "Nant y Mynydd" (o'r Cerddor); gwobr, 3p. a dwy gyfrol, un o'r Messiah ac un o'r Creation, i'r arweinydd. 3. I'r c6r o blant o dan 15 oed, ac heb fod o dan 25 mewn nifer, a gano yn oreu "lesu, y cyfaill goreu gaed (o Telyn yr Ytgol Sul) gwobr, lp. a pitchpipe i'r arweinydd. Caniateir i chwech mewn oed i'w cynorthwyo. Y programmes i'w cael am y pris arferol gan yr yegrifenydd,— <:> DAVID BEDDOE, 2350 Nelson, via Cardiff.
Drill Hall, Merthyr.
Drill Hall, Merthyr. CYNELIR EISTEDDFOD FLYNYDDOL y TABERNACL, MERTHTR, yn y lie uchod, dydd Nadolig nesaf, Rhagfyr 25ain, 1880. BEIRNIAID Y ganiadaeth—War. PARRY, Ysw., arweinydd y Cambrian Choral Union, Birkenhead. Y farddoniaeth, adroddiadau, (be.—Y Parch. J. CEULANYDD WILLIAMS, Merthyr. PRIF DDARNAU 1. I'r cor, heb fod dan 150 mewn nifer, a gano yn oreu The Heavens are telling," o'r Creation. Gwobr, 40p., a medal aur i'r arweinydd. 2. I'r c6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn nifer, a gano yn oreu Y Blodeuyn olaf." Gwobr, 7p. 3. I'r cor o blant (ddim dros 16 oed) a gano yn oreu Jerusalem Nefol," o'r Perl Cerddorol (Rhif 3). Gwobr, 2p. 10s. 4. Am y bryddest oreu, ddim dros 150 o lin- ellau, i "Fedd newydd Joseph o Ariroathea." Gwobr, cadair dderw gwerth 3p. 3s. 5. Am Gan o Glod oreu i W. T. Crawt-hay, Ysw., ar fesur "LlwYL Onn (8 penill); gwobr, 1p. Is. Yn y Gymraeg neu y Saesonaeg. 6. Solo, Rho 'n ol fy eiddo, W eilgi" (gan Alaw Brycheiniog, Cefncoedycymer); gwobr, 10s. 6 c. 7. Solo, "Cymru Rydd" (gan Alaw Rhondda, Fern dale); gwobr, 10s. 6c. Hefyd, bydd y gwobrwyon am y gwahanol solos a enwir ar y programme, oddigerth yr alto solo, yn 10s. 6c. bob un. Am fanylion pellach, ymofyner a'r ysgrifenydd- ion, gan y rhai y ceir y p'rogramme am y pris arferol. JOHN MORGAN, 32, Bethesda-street, Merthyr. EVAN MORGAN (Alaw Tydfil), 2359 10, William-st., Morgan Town.
Public Hall, Treherbert.
Public Hall, Treherbert. CYNELIR yr unfed EISTEDDFOD ar ddeg c yn y lie uchod dydd SAUWRN (Nadolig), Rhagfyr 25ain, 1880. RHESTR O'R TESTYNAU. 1. I'r c6r heb fod dan 40 mewn nifer a gano yn oreu Y Blodeuyn Olaf (J. A. Lloyd). Gwobr, lOp. a tblws aur. 2. I'r c6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu Yr Arglwydd sydd yn teyrnesu" J. Thomas), o Cronicl y Cerddor, Rhif ii. Gwobr, 4p. 3. Traeth awd beirniadol ar "Wahanol gys- tadleuaethau yr oes, megys y rhai llenyddol, hap-chwareuol, chwareu pel o wahanol fathau, rustic sports, &c., &c. Pa rai ohonynt sydd foesol, a pha rai yn anfoesol? Beth sydd yn eu gwneyd felly, a sut i'w hadwaen oddiwrth eu gilydd?" Gwobr, Ip. 10s. 4. Pryddest, "Adda." Gwobr, 15s. 5. Casgliad goreu o "Frawddegau chwithig." Gwobr, 10s. 6. Cyfieithiad goreu i'r Saesneg o "Bydded," gan Watcyn Wyn. (I'w gael yn ilyfr cyfansodd- iadau buddugol Eisteddfodau Carmel, Treher- bert; pris 6c.) Gwobr, 10s. 7. Dau englyn i'r Sarff" (gwel Gen. iii.) Gwobr, 5e. 8. Araeth ar la" (pum' mynyd o amser). Gwobr. 5s. 9. Adroddiad goreu o eiriau Y Danchwa" (gan Honddu). Gwobr, 5s. Beirniad :—AsAPH GLAN DYFI, Ystalyfera. Rhestr gyflawn o'r testynau, &c., i'w cael am y pris arferol oddiwrth yr ysgrifenydd,— RHYS T. WILLIAMS, 2355 Abertonllwyd, Treherbert.
____0-'" Tabernacl, Treforris.I
_0- Tabernacl, Treforris. CYNELIR EISTEDDFOD FLYNYDDOL y lie uchod Dydd Nadolig nesaf, Rhagfyr 25ain, 1880. Beirniaid—Eos MORLAIS a WATCYN WYN. Y DDARNAU: I'r cdr o'r un gynulleidfa a gano yn oreu "But as for his people," o Israel in Egypt; gwobr 20p., a medal arian i'r arweinydd. I'r cdr o'r un gynulleidfa a gano yn oreu "Y Blodeuyn Olaf," gan J. A. Lloyd; gwobr, 8p. I'r c6r o blant a gano yn oreu "Iesu'r cyfaill goreu gaed," o Te7.yn yr Ysgol Sul, gan Dr. Parry; gwobr, 2p.; ail wobr, lp. I'r parti ddim dan 24, na thros 28 o rif, a gano yn oreu The last wild rose, rhif 397 o'r Musical Times; gwobr, 4p. I'r wyth a gano yn oreu "The Wreath," rhif 425 o'r Musical Times gwobr, 2p. Am y deuawd "Flow gently, Deva"; gwobr, 15s. Tenor Recit d: Solo, The Mighty Master smil'd to see," a Softly sweet in Lydian measure," o Alexander's Fea3t; gwobr, lp. Is. Bass solo, Presuming slave," o Samson gwobr, lp. Is. Pryddest goffadwriaethol i'r diweddar Mr. Wm. Howell Davies, Cross Inn, Treforris, heb fod dros 120 o linellau gwobr, 3p. 3.3. I'r hwn a adroddo yn oreu Morfa Rhuddlan;" gwobr, 5s. AMODAU :—1. Caniateir i chwech mewn oed i gaau gyda eh&r y plant. 2. Bydd cyfeilliant gyda rhif 6, 7, a 8. 3. Y cyfansoddiadau i fod yn llaw y beirniad ar neu cyn Tachwedd 25ain. 4. Enwau y cystadleuwyr i fod yn llaw yr ysgrifen- ydd ar neu cyn Rhagfyr lleg. Yn yr hwyr, cynelir cyngherdd mawreddog. pryd y cymerir rhan ynddi gan Llinos y De, Eos Morlais, a Mr. Lucas Williams, yn nghyd a chdr y lie. Rhestr gyflawn o'r testynau, yn nghyd a phob manylion, i'w cael oddiwrth yr ysgrifenydd 2374 REES JOKES, Landore.
Advertising
I DOMINION LINE TO CANADA AND THE JL7 UNITED STATES FROM LIVERPOOL. Composed of Eleven powerful and first-class Steamers. ——— To CANADA, sailing every Thursday. Cabin Fare, .ELO 10s. Assisted Steerage. Special rates > for Agriculturists and Domestic Servants. Pamphlets on Canada sent free on application. TO NEW ORLEANS AND TEXAS. Via Corunna and Havannah, sailing fortnightly. Cabin, £ 20; Steerage £ 6 6s. Surgeons and stewardess carried. Apply to the Managing Directors, Messrs. FLUl, MAIN, and MONTGOMERY, 24, James-street, Liverpool; or to the local agents. ItiMAN LINE. 0 Lerpwl i New York dyddiau Mavorth a lau CITY OF CHESTER Mawrth, Tachwedd 2. CITY OF BliUhbELS Mawrth, Tachwedd 9. CITY OF BERLIN Dvdd Iau, Tach. 18. CITY OF NEW YORK Mawrth, Tach. 23. Clf OF RICHMOND Iau, Rhagfyr 2. 0 Queenstown y diwrnod canlynol. QALOONS yn cynwys pob cysur a chyfieusdra diweddar. Pris y Ciudiad- 12, lc, 18. a 21 Guineas. Steerage, 6 Guineas, gyda *hvflawnder 0 fwydydd wedi eu coginio a phob cysur. Tros- giwyddir Teitliwyr y Steerage i Boston a Phila- delphia heb dal ychwanegol. Bookir Teithwyi i unrhyw ran or laleithiaunea Canada am brisiau neillduol. Ymofyner a WILLIAM INMAN, 22, Water street, L'erpwl; to John Bevan, Station Agent, Hengoed a Rhys Roberts, Bookseller, Morriston, neu unrhyw Oruchwyliwr yr Inman Line. L.153 To America. riUION LINE.-UNITED STATES MATT, IX STEAMERS. —One of the following other first-class full-powered STEAMSHIPS will be despatched from LIVERPOOL TO NEW YORK EVERY SATURDAY. ARIZONA CNew) ^Price MONTANA a*?? WYOMING Murtav NEVADA K: WiSCONS^ .Bentley! Dewar. UTAH Beverley. Calling at QUEENSTOWN the day following to embark passengers. RATES OF PASSAGE FROM LIVERPOOL TO NEW YORK Cabin-From 10 to 20 Guineas, according to ac- commodat. on. ° Intermediate 8 Guineas Steerage Passage to New York, Boston, and Philadelphia £ fa 6s., including a plentiful supply of provisions, cooked and served by the Company's stewards. Passengers forwarded to all parts of the United States, and Canada; also, to San Francisco China, Japan, India, New Zealand, and Australia' by Pacific Railway and Mail Steamers, at lowest through rates. These Steamers carry Surgeon and Stewardess free, and are provided with Smoke Rooms and Ladies Lounge Rooms on Deck and Bath Rooms below; also Pianos. Passengers are recommended to obtain theb Tickets from our Agents before leaving home For Freight and Passage apply to Guion and Co 11, Rumiord-stref;t. or 25, Water-street, Liverpools and 5, Waterloo Place, Pall Mall, London, s.w.; or James Scott and Co., Queenstowji; and for passage only to the Agents.- Rev. W. Harris 16, Harriet St. Trecynon; J. Callaway, Outfitter, Mountain Ash; W. Ihomas. Ry. Station, Glyn Neath; 0. Morgan, Siiuria Villa, I lanwyno Rd., Pont- ypridd; and O. Thomas. Temperance Hall, Aber- dare \lfred Copeiand, 6, Commercial Place, Aber- dare. F. Foley, Temperance Hotel. Neath and Hurlev, Matthew, & Co. 28, Mount Stuart Sq., Cardiff; John Clarke, Pwllheli & Llevn District- Humphrey Jones, 3, Hi.ll Street, Portmadoc • Arthur Trevor, Blue Bell Hotel, Conwav; G. Jones. 10, James Street, Bangor W. J. Williams*. Sec. Quarrymen's Union, 7, Market Street. Caer- narvon. ¡A85 LLINELL Y "WHITE STAR" 0 ftOYAL AND UNITED STATES' MAIL STEAMERS. RM YBUDD. —Cyrner Agcrlongau y Llinell hor, y Lane Routes wrth fyned a dychvjdyd, y rtusA gyrneradivyir gan yr Is-gadbcn Maury". L'ERPWL I NEW YOnK. Gan ddanfon teithwy i bob rhan o'r Unol Dal- aethau a Canada. Y mae yr Agerlongau ardderchog canlynol wedi eu penodi i hwyio yn wythnosol. fel y canlyn. ac yn cludo Llythyrau y Deyrnas Gyfunol o'r Unol Dalaethau. CELTIC.Dydd Iau, Tachwedd 4 BRITANNIC Iau, Tach. 11. twr"i ADRIATIC Mawrth, Tach. 16. BALTIC Dydd Sadwrn. Tachwedd 20, GERMANIC Dydd Iau, Tach. 25. ± o NEW YORK. Britanni(^Pydref 23. Adriatic, Hydref 28. Y mae yr Agerlongau hyn yn lleihau y daith i'r amser byraf ag sydd ddichonadwy, gan roddi y cysuron mwyaf ag sydd ddichonadwy i deith. wyr ar y mor. Cyfartaledd y fordaith, 8i diwrnod yn yr Haf, a 91 diwrnod yn y Gauaf. Y mae pob Hong wedi ei gwneyd yn saith raniadau dwfr-brawf. Y mae y Saloon, Ladies' Boudoir, State Rooms a'r Smoking Rooms yn nghanolbaith y llestr' ac wedi eu dodrefnu a'u gosod i fyny yn y modd mwyaf cyfleus a chostfawr, cynwysedig o Pianos, Libraries, Electric Bells, Bath-rooms, Barber's Shop, &c. Saloon Passage, 15, 18, a 21 Guineas; Return Tickets i'w cael am brisiau llai. Y mae cyfieusderau y Steerage o'r radd uchaf. yr ystofelloedd yn neiilduol o helaeth, wedi eu goleuo, awyru, a'u cynesu yn dda a chaiff t.etth. wyr o'r dosbarth yma fod eu cysuron wedi eu hastudio yn fanwl. Gweinyddesau yn y Steerage i weini ar y Gwragedd a'r Plant. Steerage Fares am brisiau llai. Drafts ar New York i'w cael yn rhad. Am hysbysleni a manylion pellach, ymofyE*p & ISMAY, IMRIE, & Co, 10, Water-street Liverpool; a 34, Leadenhal 1.485 Street, London, E.C. Agents,—David Rowlands, Penygrai^ • Rhv» Roberts, Woodfield Place, Morriston'- a D Evans & Son, auctioneers, Pontypridd. QWYDDFA'R "GWLADGARWR" am O Hysbysleni o bob maintioli, ac yn mhob lliwiau.