Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
i chwerthin wrth edrych arnynt, gan fy mod I yn gwybod pwy a pheth ydynt, ac anfynych y bydd deg o bob cant ohonynt yn feddianol ar bleidlais. CASAWR ENLLIB. Gan fy mod wedi derbyn dau lythyr ffug- enwol oddiwrthych, rhaid i mi gydnabod nad wyf yn amheu dim yn y mesur lleiaf eirwiredd eich gosodiadau ond nis gallaf wneyd def- nydd ohonynt heb gael adnabyddiaeth pellach ohonoch, a gwybod yn gadarnhaol pwy ydyw fy hysbysydd. Gwir fod y gwr a nodwch yn ymddyrchafu ond mor wir a hyny, fe ddaw i lawr yn gyflymach na'r bwgan gynt yn ngheubren yr ellyll. Aed rhagddo i boeri llysnafedd, a chaiff y sylw a deilynga, sef ei adael yn ddisylw, fel y byddaf yn arfer g wneyd a'i frodyr y Mwlwchiaid. Mae yr hwn a godo ei hunan yn uwch na'i safon yn amlygiad per- ffaith o ddyn neu greadur ar lun dyn yn gwbl amddifad o synwyr cyffredin. Fe ddichon y gall y peth bach fod yn greadur synwyrol ond cyn wired a bod Tabor yn y mynyddoedd, mae yntau yn amddifad o synwyr cyffredin. Gadawer y cryddion yn awyrgylch y ffedel- faen, ar wastadeddau gwlad y cwyr. Cymer- ed yr Ap Crispyn hwnw anfonodd ei fygyth- ion i mi yr awgrym, ac aed ymaith mewn tangnefedd, rhag dygwydd iddo beth a fyddo gwaeth. Mae y gwirionedd yn llosgi ar groen ambell i ddynsawd, bydded y peth a fyddo, fel yr ymwylltia yn annyoddefol, a cheisia, pe gallai, ladd a thraflyncu pawb a phobpeth o'i gwmpas. Mae i bob corgi ei gyfnod yn y byd ond bydd hen feddyg amser yn sicr o wneyd trefn arno, gan ei ddwyn i'w Ie, ac i adnabod ei hunan. Hwyrach y caf hamdden i wneyd sylw ar y cudd-gynghor a'r cynghreirio mawr sydd yn y wlad yn bresenol mewn gwahanol gyfeiriad- au i ryw ddybenion nad oes neb yn gwybod dim am yr amcanion ond yr hen ddyn a'i blant. Ddarllenydd, edrych ar y byd yn ei wyneb, a thi a ddysgu ddoethineb wrth wylied ysgog- iadau y pigyrnau symudol a welir ar ddelw ddynol. Yr wyf newydd dderbyn y pellebryn a ganlyn EFROG NEWYDD, Tachwedd 7fed, pump o r gloch yn y prydnawn.-Yr agerlong Arizona wedi cyrhaedd yn ddiogel i'r hafan, a phawb yn iach ar y bwrdd. Bydd cyfeillion y Bar- goed, a pharthau ereill o'r wlad, yn 11awen i gael ar ddeall fod y cyfeillion, Gwrhyd Lewis a'u deulu, a'r brawd Lot Lake, yn iach yr ochr yma i'r Werydd. Boed y brys-hysbysiad yn ddigon nes y cewch air oddiwrth Gwrhyd ei hun.—Brysgenadwr. OYMRO GWYLLT.
MASNACH LOAWL Y DEHEUDIR.…
MASNACH LOAWL Y DEHEUDIR. CYFARFOD MISOL GLOWYR CWM ABERDAR. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn y Bute Arms, Aberdar, nos Lun diweddaf. Daeth nifer yn nghyd, a chafwyd cyfarfod rhagorol. Yn mysg amryw bethau ereill, pasiwyd y penderfyniadau canlynol — 1. Fod y cyfarfod hwn, can belled ag yr ydym wedi cael tystiolaethau y personau o Hirwaun, yn eu rhyddhau o'r cyhuddiadau a ddygwyd yn eu herbyn mewn cydwythnos- olyn. 2. Fod y cyfarfod hwn, yn ngwyneb y cyhuddiadau sydd yn cael eu taenu am y personau hyn, i anfon dau berson i fyny dros y dosbarth i chwilio i mewn yn mhell- ach i'r achos erbyn y cyfarfod misol nesaf. CYFARFODYDD Y GLOWYR YN LLANCAIACH. Dydd Linn diweddaf, cynaliwyd cyfarfod- ydd lluosog o ddirprwywyr y glowyr o Fynwy a Deheudir Cymru yn y Nelson Inn, Llan- caiach, er cyd-ystyried amryw bynciau, megys cwestiynau y tollau tramorawl, trefn- iant y naw awr, arolygiaeth mwngloddiau, coedo gan ddirprwywyr, a'r drysorfa ym- waredol barhaol. Yn y boreu, cynaliai tor- wyr glo tai a glo ager eu cyfarfodydd ar wahan. CYFARFOD TORWYR GLO AGER. Yn nghyfarfod torwyr glo ager, llywyddai Mr. Thomas James, Aberaman, a Mr. Wm. Howells, Rhondda, yn is-lywydd. Mr. J. Thomas, Mountain Ash, yn ysgrifenydd. Y mater cyntaf a ddaeth dan ystyriaeth ydoedd adroddiad y cyfrifydd, yr hwn a. roddwyd gan gynrychiolwyr y gweithwyr ar Bwyllgor y Sliding Scale, heb un cyfeiriad at y pris- oedd am ba rai y gwerthid y glo gan y meistri. Yr oedd y penderfyniadau fel a ganlyn :— 1. Fod y cyfarfod hwn am osod o flaen glowyr Deheudir Cymru y dymunoldeb neu yr annymunoldeb o gael yr ystadegau o bris y glo oddiwrth y cyfrifwyr gan gynrychiol- wyr y glowyr, yn lie eu cadw yn ddirgelaidd, yn y cyfarfod nesaf. 2. Fod y cyfarfod yn ewyllysio clywed cyfrifon yr ysgrifenydd cyllidol. yr hwn a gyflwynwyd, a phenodwyd Mri. Dd. Morgan, Aberaman, a Wm. Williams, Ynyshir, Rhon- dda, i archwilio yr unrhyw. 3. Fod yr ysgrifenydd i gael awdurdod i anfon llythyron at wahanol weithfeydd glo ager sydd heb gyfranu tuag at dreuliau y Bwrdd, yn dymuno arnynt i wneyd hyny can gynted ag y byddo modd. CYFARFOD TORWYR GLO TAI. Yn nghyfarfod y. glowyr hyn, yr oedd Mr. Thomas Davies, dosbarth Castellnedd, yn lywydd, a Mr. John Jenkins, Llanfabon, yn is-lywydd. Ysgrifenydd, Mr. J. Thomas, Dinas. Y gwaith cyntaf yma oedd derbyn adroddiad y cyfrifydd am y pedwar mis yn diweddu Awst 31ain, yr hwn a gymeradwy- wyd. A ganlyn yw y penderfyniadau a bas- iwyd 1. Fod pleidlais o ddiolchgarwch i gael ei roddi i gynrychiolwyr y gweithwyr fydd ar | Fwrdd y Sliding Scale, am eu gwasanaeth an gonestrwydd yn eu hymdrafodaethau yn y | gorphenol. 2. Gan i Mr. Thomas Phillips, y Rhondda, anfon i mewn ei ymddiswyddiad fel aelod o'r Bwrdd oherwydd ei anallu i fod yn bresenol yn y dyfodol, fod ethol aelod yn ei le i gael ei adael i dorwyr glo tai dosbarth Rhondda. 3. Y dylai pob glofa, yn ol barn y cyfarfod hwn, gymeryd i ystyriaeth y cyflogau a delir i'r cynrychiolwyr sydd ar y Bwrdd ac yn marn y dirprwywyr oeddynt yn bresenol, y dylent dderbyn 8s. y dydd. 4. Fod pob gweithiwr i gyfranu 3c. yr un tuag at dreuliau y Bwrdd, ac fod y taliadau hyny i gael eu danfod i Mr. Lewis Morgans, Nelson Inn, via Cardiff, ar neu cyn y laf o Ragfyr, 1880, ac fod yr ol-daliadau dyledus i'r cyfryw i gael eu gadael ar anrhydedd y glowyr hyn, pa un a dalant ai peidio. Y rhai canlynol a enwyd fel cynrychiolwyr torwyr y glo tai ar Fwrdd y Sliding Scale am y pedwar mis dyfodol :—Mr. Isaac Evans, Castellnedd (2405 o bleidebau); Mr. John Jenkins, Ffaldgaiach (2405 eto); a Mr. Henry Mitchard (315). Y ddau gyntaf etholwyd. CYFARFOD Y DDAU GORFF 0 LOWYR MEWN UN GYNADLEDD. Am ddau o'r gloch, cyfarfu torwyr glo tai a glo ager mewn un gynadledd. Llywydd, Mr. Thomas James, Aberdar is-lywydd, Mr. Davies, Castellnedd a'r ysgrifenydd, Mr. John Thomas, Mountain Ash. Yr hyn a ddaeth o dan sylw gyntaf oedd y trethoedd a osodir ar y nwyddau yn Ynys Prydain, y rhai a drosglwyddir i wledydd tramor, a phasiwyd y penderfyniadau canlynol 1. Fod y cyfarfod hwn, ar ol ymresymu pwnc y trethoedd a osodir ar y nwyddau a drosglwyddir o'r wlad hon i wledydd tramor, o'r farn y byddai yn dda cael cynadledd cyf- ansoddedig o gynrychiolwyr o bob dosbarth o weithwyr yn Neheudir Cymru, er dyfeisio rhyw foddion i ddwyn y peth o flaen Bwrdd Masnach, gyda'r amcan o gael lleihad yn y trethoedd hyny, os nad eu llwyr ddiddymiad. (Gadawyd galw yn nghyd y gynadledd i gyn- rychiolwyr y gweithwyr sydd ar Fwrdd y Raddfa Lithrol). 2 Fod y cyfarfod yn gofidio i ddeall fod yn rhai parthau o'r dosbarth fwy na naw awr o ddyddwaith (turn) yn cael eu gweithio mewn rhei glofeydd, a dymuna a dysgwylia, ar ol y laf o Ragfyr nesaf, y bydd i bob glowr, llwyth-gludwr (haulier), a gweithwyr tanddaearol ereill, i beidio gweithio rhagor na naw awr y dydd, neu 54 awr yr wythnos o chwech diwrnod. 3. Fod cyfarfodydd cyhoeddus i gael eu cynal yn mhob dosbarth, er mwyn cael cyd- ddealltwriaeth ar y mater, ac fod hawl gan aelodau y Bwrdd Cymodol i ymweled a'r dosbeirth hyn, er mwyn siarad yn gyhoeddus yn y cyfarfodydd, os bydd galwad am danynt. 4. Fod y materion ereill, sef arolygiaeth fi. wlgloddiau a choedo, i gael eu gohirio hyd y cyfarfod cyffredinol nesaf. CYFARFOD Y MEISTRI YN NGHAER- DYDD. Y mae y cwestiwn o Drysorfa Ymwaredol Barhaol i'r Glowyr wedi bod gerbron meistri a gweithwyr er's talm o amser bellach. Yn nghyfarfod diweddaf y cynrychiolwyr, addefid fod yr egwyddor o sefydlu trysorfa barhaol fel yn iawn, ond fod y manylion yn agored i gryn lawer o ystyriaeth ofalus, ac nid oedd y dynion yn awyddus i fyned i unrhyw drefn- iant ag a'u hamddifadai o'r nawdd a roddid I gan Act Cyfrifoldeb y Meistri ar adeg pan y 1 11 mae graddfa y cyflogau mor isel fel na wna ddarbodi y gweithwyr ag angenrheidiau noethion bywyd, ac ni £ gallent yn bosibl roi o'r neilldu unrhyw swm er ffurfio trysorfa ymwaredol. Daw Act Cyfrifoldeb y Meistri i weithrediad Ion. laf, 1881, a chawsai y meistri, yn nghyfarfod diweddaf yr Undeb, yn gystal ag mewn cyfarfod neillduol a gynal- iwyd ganddynt dydd Iau, y mater dan ystyr- iaeth. Ychydig ddyddiau.yn ol, cafodd Mr. Campbell, ysgrifenydd Trysorfa Lancashire a Cheshire, gydymddyddan 4 Mr. W. T. Lewis, llywydd Undeb Meistri Deheudir Cymru a sir Fynwy. Ymdriniwyd ar y dymunoldeb o ffurfio trysorfa gyffelyb i eiddo Lancashire a Cheshire, a'r canlyniad fu i Mr. Campbell gael cyfle i siarad a'r meistri mewn cyfarfod neillduol a gynaliwyd yn y Royal Hotel, Caerdydd, dydd Gwener. Y mae y meistri yn awyddus iawn am i drysorfa i'r perwyl hwn gael ei ffurfio, ac y dylai ddyfod i weith- rediad cyn y laf o Ionawr, 1881. Nid oedd y cyfarfod dydd Gwener yn un lluosog iawn. Llywyddid gan Mr. Menelaus. Yr oedd hefyd yn bresenol Mri. Cartwright, Hood, Edward Jones, Evan Lewis, J. Rowbotbam, E. P. Martin, E. Grace, E. O. Jones, W. Colquhoun, B. Pratt, A. Taylor, M. Cope, &c. Ni chafwyd adroddiad swyddogol o'r gweithrediadau, ond deallwn fod yno ym- ddyddan maith wedi bod gyda golwg ar wneyd cynygion pellach i'r gweithwyr tuag at ffurfio trysorfa gyd-yswirol—i gael ei ffurfio gan y gweithwyr, ac i ba un y byddai y meistri yn gyfranwyr haelionus, neu pa un a ddylai trysorfa ddiffynol gael ei sefydlu er rhoddi iawn i feistri yn erbyn damages ellid ddwyn yn eu herbyn, neu er ffurfiad undeb er gwrthsefyll y cyfryw hawl-ofynion ag a ddichon gael eu dwyn yn erbyn yr aelodau. Yn hytrach nag un o'r cyfryw, deallwn eu bod wedi cytuno i ffurfio pwyllgor o'r meistri, y rhai a gant awdurdod i wneyd cynygion i'r gweithwyr tuag at sefydlu trysorfa, Dydd Mawrth canlynol, yr oedd cyfarfod arall o'r meistri i'w gynal, ond gan y byddwn yn myned i'r Wasg cyn y gall adroddiad ohono z!l ein cyrhaedd, rhaid ei ohirio hyd ein nesaf. Dealiwn fod trysorfa gyffelyb i'r un fwriedir sefydlu yn gweithio yn dda mewn rhanau o Loegr.
[No title]
CARCHARWYD llythyr-gludydd dro yn ol am ladrata llythyr yn cynwys cheque am 2,774p.
Hanesion Dosbarthawl.
Hanesion Dosbarthawl. J PONTYPRIDD. GYFRINFA IFORAIDD TREHAEOD A GWEN IFOB. —Ar y 29ain o Hydref, ymgyfarfu pwyllgor lluos- og o Gyfrinfa Trehafod a Gwen Ifor, er hyrwyddo tysteb ei hysgrifenydd, sef Mr. Thomas Williams, am yr hon yr hysbyswyd yn y GWLADGARWR. Mae yn dda genyf gael ar ddeall fod y pwyllgor yn gweithio yn egniol, er gwneyd tysteb a fydd yn werth i'w chyflwyno i'r diwyd, onest, ac ymdrech- gar ysgrifenydd. Pawb a garant gyfranu tuag at y dysteb hon, bydded iddynt anfon eu rhoddion i'r I trysorydd, sef Mr. Thomas Watkins, Hopkins Town, ger Pontypridd. Cyferfydd y pwyllgor yn nesaf yn ystafell Cyfrinfa Gwen Ifor, ar yr 16eg o Dachwedd.-R. Gwygyll Hughes. LLANFABON. PRIODAS. --Un o'r dyddiau diweddaf yma, caw- som yr hyfrydwch o weled un o'r priodasaii mwyaf ardderchog a welsom erioed, sef priodas Mr. Wil- iams, meddyg, a Miss Emily Mathias, merch Mr. R. Mathias, contractor, &c. Yr oedd dau gerbyd gorwych o'r New Inn Hotel, Pontypridd, yn cael eu tynu gan ddau bar o geffylau gleision, yn cludo y parti priodasol, yn cynwys ei thad, ei brawd, a pherthynasau a chyfeillion ereill, i St. Cynon, a gwasanaethwyd ar yr achlysur gan Rector D. Leigh. Wedi dychwelyd a chyfranogi o luncheon, ymadawodd y par ieuanc gyda'r tren dau am y brif-ddinas, er treulio eu mis mel, a dywedwn ninau,- Melus f'o eu melfis weithian, Tilwyddau mel f'o'u rhan 'nol hyn, Heb un groes i beri griddfan, Iddynt ar eu taith trwy'r glyn Engyl bychain dd'ont i'w haelwyd, Dinam, serchog, bywiog, glan, Ac mor galled ag a anwyd Yn hoff Gymru, gwlad y gan. Y mae Mr. a Mrs. Mathias yn awr wedi gweled pedwar o'u hanwyl blant wedi ymsefydlu yn y byd, a'r oil ohonynt yn wir ddedwydd a chysurus, a dymunwn yr un llwyddiant i ddilyn y gweddill di- briod, a'u rhiaint sydd heddyw yn teimlo gan ddweyd,— Fel gwnaethom ni y gwnaethant hwythau, Priodi'n nerth eu dyddiau-hafddydd oes. Llwyddiant iddynt medd llawer heblaw—Mabon- ivyson. ABERDAR. CAPEL SALEM.—Oherwydd annymunoldeb ynyr eglwys uchod, yr hwn nad yw yn weddus manylu arno yma, gorfu i'r diaconiaid hynaf, a mwyafrif mawr yr eglwys, y rhai ofalent am burdeb crefydd, ymadael a'r capel yn ddiweddar, ac y maent yn awr yn addoli mewn ty helaeth, wedi ei lanw a meinciau, ac areithfa gyfleus wedi ei chodi ynddo. Nos Fawrth, Tachwedd 2il, ymgyfarfu yr eglwys, yn nghyd a, nifer o weinidogion y cylch, er cyd- nabod mai hon ydoedd gwir eglwys Salem. Penod- wyd y Parch. W. Edwards, Ebenezer, i lywyddu, yr hwn a alwodd ar y Parch. W. S. Davies, Llwydcoed, i ddechreu trwy ddarllen a gweddio. Yna, eglurodd Mr. Edwards natur y cyfarfod, a dywedai i'r gweinidogion ddyfod yn nghyd i gyd- nabod yr eglwys fel eglwys Salem. Yna, awd at fwrdd y cymundeb, a gweinyddid ar doriad y bara gan y Parchn. W. Edwards, ac R. Griffiths, Tabor, Cefn. Cyn dechreu yr ordinhad, derbyniwyd dwy chwaer i gymundeb yr eglwys gan Mr. Edwards. Ar dywalltiad y gwin, gweddiodd y Parch. R. Rowlands, Aberaman, ac anerchwyd y gynulleidfa gan y Parch. J. Morgan, Cwmbach, a thraddod- wyd hefyd anerchiadau gan y Parch. E. M. Evans, Seymour-street, a'r Parch. D. Brythonfryn Griffith. Cyn terfynu, daeth y Parch. D. Silyn Evans, Siloa, i'r lie, a chafwyd anerchiad byr ganddo yntau. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. R. Rowlands. Cafwyd cyfarfod gwresog iawn o'r dechreu i'r diwedd, a'r lie wedi ei orlanw. Rhifa yr eglwys tua 80, a throsodd, ac wedi syroud y rhwystrau o'r ffordd, bydd y capel yn eiddo iddynt eto yn fuan, er pob haerllugrwydd.—Gohebydd. CWMBACH.—Cyfarfodydd Diolchgarwch. — Dydd Sul, Hydref 31ain, cynaliwyd cyfarfodydd diolch- garwch am y cynhauaf yn Eglwys y lie uchod. Pregethwyd yn hynod gymhwysiadol ac effeithiol yn y boreu gan y Parch. J. W. Wynne Jones, M.A., Ficer Aberdar; yn y prydnawn, gan y Parch. J. H. Lloyd, M. A., curad newydd Cwm- bach ac yn yr hwyr, gan y Parch. Mr. Bishop, Cwmaman, yn Seisnig. Cafwyd cyfarfodydd da, a phregethau gafaelgar o'r dechreu i'r diwedd. CWMBACH.—• Y Beibl Gymdcithas. — Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Bryn Seion, capel Annibyn- 01 y lie hwn, yr wythnos ddiweddaf, pryd y cymer- wyd y gadair gan y Parch. J. Morgan. Anerchwyd y gynulleidfa gan y Parch. J. Griffiths, Abertawe, cynrychiolydd y gymdeithas. Cafwyd cyfarfod dyddorol dros ben, a rhoddodd Mr. Griffiths, ar ei ymweliad a'r lie dros y gymdeithas, foddlonrwydd cyffredinol. CWMBACH. —Cylchvnjl Flynyddol,—Ar y Sul, Hydref 17eg, cynaliodd Methodistiaid Cyntefig Seisms: y lle hwn gylchwyl flynyddol y Gymdeithas Genadol, pryd y pregethwyd gan y Parch. J. Harvey, eu gweinidog, o Aberdar, a chan y Parch. J. Butcher, Bryste (y deputation). Cafwyd Saboth gwerthfawr, pregthau grymus, gwrandawiad astud, a chasgliadau da at y genadaeth. Daeth llu o Aberaman, a lleoedd ereill, i'r cyfarfodydd. —Y nos Lun ganlynol, am saith o'r gloch, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y capel, pryd y cymerwyd rhan ynddo gan weinidogion o Gwm Aberdar. Llywyddwyd gan y Parch. J. Harvey, ac anerch- wyd y gynulleidfa hefyd gan y Parch. J. Butcher. Cafwyd cyfarfod da iawn. TABERNACL. -Nos Lun diweddaf, cynaliodd go- beithlu y capel uchod gyfarfod er cadw mewn cof sefydliad y gobeithlu yn y capel. Cafodd y plant eu mwynhau yn fawr, ond y peth a roddodd y boddlonrwydd mwyaf oedd y danteithion a ran- wyd rhyngddynt cyn ymadael. — Un o'r plant. CYFARFOD SEFYDLU.—Cynaliwyd cyfarfodydd sefydliad y Parch. Daniel Silyn Evans yn wein- idog ar eglwys Annibynol Siloa, Aberdar, ar ddyddiau Mercher a Iau, y 3ydd a'r 4ydd cyfisol. Nos Fercher, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. S. Davies. Llwydcoed. Pre- gethwyd gan y Parchedigion T. Morris, Dowlais, a W. G. Williams. Rhymni. Boreu dydd Iau, dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Morgan, Cwmbach, a phregethwyd gan y Parch. E. Powell, Tredegar. Wedi hyn, cafwyd anerchiad gan y Parch. W. Edwards, Ebenezer, Aberdar, ar yr undeb oedd ar gael ei ffurfio rhwng yr eglwys a'r gweinidog; ac yna gofynodd i'r eglwys rhoddi arwydd o'i dewisiad o Mr. Evans i'w bugeilio trwy godiad deheulaw, yr hyn a wnawd yn nnfrydol. Ar 01 hyn, gofynwycl am arwydd gan Mr. Evans o'i gydsyniad, yr hyn a wnaeth. Wedi hyny, pre- gethwyd. gan y Parch. R. Griffiths, Cefncoedy- cymer. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn gan y Parch. J. Davies, Abercwmboy; a phregethwyd gan y Parcbedigion T. R. Williams, Dowlais, a Dr. Rees, Abertawe. Yn yr hwyr, dechreuwyd gan y Parch. R. Rowlands, Aberaman, a phregeth- wyd gan y Parchn. J. B. Davies, Maendy, a Dr. Rees. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol yn mhob ystyr-tyrfaoedd Iluosog yn gwrando yn astud, y pregethau yn hwylus a nerthol, ac arwyddion amlwg o wenau y Nefoedd ar y gwasanaeth drwyddo. Yr oedd yn dda genym weled y fath nifer luosog o. weinidogion y cyfundeb, ac o'r gweinidogion cymydogaethol o bob enwad yn bresenol, yr hyn oedd yn arwydd amlwg, debyg- wn, o'u parch tuag at yr eglwys a'i gweinidog dewisiedig. Da iawn genym fod Mr. Evans yn dechreu ar ei weinidogaeth fel olynydd i'r anwyl a'r hybarch David Price, gydag agwedd mor ddy- munol ar bethau yr eglwys yn berffaith unol yn ei dewisiad ohono, ac arwyddion amlwg fod yr undeb a ffurfiwyd yn gydfynedol ag ewyllys  Meistr Mawr. Mae llawer iawn o ieuenctyd, ac o hen wrandawyr wedi ymuno a'r eglwys yn yr wythnosau diweddaf. Gobeithiwn y bydd ea dyfodiad i'n plith yn fendith i'r eglwys, ac i'r dref yn gyffredinol. —Deivi ab Iago. MOUNTAIN ASH. l PENRHIWCEIBR. -Mae y dydd hir-ddysgwyliedig yn agoshau er gosod i lawr gareg goffadwriaethol capel Annibynol y lie uchod, ac am chwarter i dri o'r gloch dydd Gwener nesaf, Tachwedd 12eg, bydd y seremoni yn cael ei gyflawni gan John Cory, Ysw., Caerdydd. Dysgwylir amryw weinidogion ac ereill o wahanol fanau i gymeryd rhan yn y gwaith. Ni bydd i un gwahoddiad personol gael ei wneyd, gan hyny deued pawb a allo ag sydd yn teimlo dyddordeb yn yr achos wrth yr unig wa- hoddiad hwn.-Annibynwr.
NEWYDDION DIWEDDARAF
NEWYDDION DIWEDDARAF (GYDA'R PELLEBYR). Nos FAWRTH. EIN MILWYR YN YR IWERDDON. Yn hwyr, nos Lun, cafodd y 19th Hussars orchymyn, heb y rhagbarotoacl lleiaf, i fyned o Dublin i fferm Cadben Boycott, yn swydd Mayo. Aeth pedwar catrawd ohonynt gyda'r tren i'r lie. Y mae gan Mr. Boycott werth 500p. o gnydau heb eu medi, oblegyd bygythiai y Land Leaguers y dialeddid ar unrhyw un a'i cynorthwyai yn y gwaith amaethyddol. Y mae efe felly wrth ei hun, a methiant arianol yn ei aros. Y mae yr Orangemen (Protestaniaid), o Ogledd Iwerddon, yn bwriadu dyfocl i gynorth- wyo Mr. Boycott, a dysgwylir y cymer brwydr le rhwng y ddwy blaid. Aeth nifer o wyr perthynol i'r Army Service Corps (pa rai sydd yn gofalu am luniaeth i'r fyddin), gydag un cert ar ddeg, yno heddyw. Bydd 400 o wyr o'r 80th gatrawd yn ymadael o Curragh heddyw am yr un ardal. Pellebryn diweddarach a hysbysa fod yr awdurdodau yn parhau i anfon milwyr i'r cy- mydogaethau terfysglyd. Yr oedd parti o 70 o Brotestaniaid arfogedig, dan lywyddiaeth y Milwriad Lloyd, Y.H., yn bwriadu ymadael o Monaghan er myned i fferm y Cadben Boycott i'w gynorthwyo, ond ar y fynyd ddiweddaf, gwrthododd Mr. Forster, yr Ysgrifenydd Gwyddelig, roddi caniatad iddynt i ymadael o'r lie. CYNRYCHIOLAETH SIR GAERNARFON. Y mae Mr. Rathbone, diweddar Aelod Sen- eddol dros L'erpwl, wedi ei ddewis fel yr ym- geisydd Rhyddfrydol am gynrychiolaeth sir Gaernarfon, yr hon sedd sydd yn wag drwy ddyrchafiad Mr. Watkin Williams, Q.C., i fod yn farnwr.
Offeiriad yn ymosod ar Lyfrwerthwr.
Offeiriad yn ymosod ar Lyfrwerthwr. Am ymosod ar Mr. C. H. Carpenter, gwerthwr llyfrau dan y Mri. Smith yn ngorsaf Caerfyrddin, dirwywyd y Parch. John Frank Morgan, clerc mewn urddau sanctaidd, i 20s. a'r costau o 9s. 6c., neu 14 diwrnod o garchar a chaledwaith. Ymddengys i'r offeiriad daro yr erlynydd ar ei ben a ffon, nes i'r fan y disgynodd yr ergyd chwyddo yn enbyd. Dadl a chroes-eiriau oedd rhyngddynt o barthed i bapyrau a archasai y diffynydd.
Syrthio o Awyren.
Syrthio o Awyren. Aeth dyn o'r enw Navarre i fyny mewn awyr- en (balloon) yn Paris, yr wythnos ddiweddaf, gan olygu perfformio rhyw gampiau yn yr awyr am .50 ffranc. Pan oedd yn yr uchder o 2,100 troedfedd, gollyngodd ei afael, a syrthiodd i'r ddaear gyda chyflymdra dychrynllyd, a suddodd ddwy droedfedd i'r ddaear. Yr oedd y cyffro a'r gwaeddi mwyaf yn mysg y miloedd cynull- edig.
Newyddion Cyffredinol
Newyddion Cyffredinol CYFRIFIR y bydd Montana Territory, yn y Talaethau Unedig, yn cynyrchu 50,000,000 o bwysau o wl&n y tymor hwn. YN ol pob tebygolrwydd, bydd Mri. Moody a Sankey yn talu ymweliad a. Lloegr yn ystod gauaf 1881. DYWEDIR fod Mr. Gladstone yn bwriadu, y flwyddyn nesaf, gwneyd gwellianau pwysig iawn i'r doll ar gymun-rhoddion. DYDD Mercher wythnos i'r diweddaf, bu farw Mr. Wm. Archer Ledmond, aelod Seneddol dros fwrdeisdref Wexford, yn dra disymwth, o glefyd y galon, yn Cork. CAFODD Wm. Hughes, oFerthyr, pregethwr gyda'r Bedyddwyr, yr hwn a brofwyd yr wythnos ddiweddaf, yn mrawdlys Abertawe, ar y cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar Margaret Ingnan, saith mlynedd o lafur penydiol. PRIODAS lANdAiDD.—Medi 26ain diwedd- af, priodwyd un Miss Faris a Mr. Latham trwy'r telegraph Safodd hi yn swyddfa y pellebr yn Portland, a'r gweinidog wrth ei hochr, ac yr oedd Mr. Latham yn sefyll wrth ben arall y Uinell yn Albany. Cymerodd y wasanaeth haner awr o amser. Yr oedd yn berffaith gyfreithlon, yn ol cyfraith y Talaethau Unedig. GOHEBYDD y St. James's Gazette, yn Berlin, a ddywed < £ Pasiodd sorfflu o filwyr Rwsaidd trwy Berlin, a chanddynt mewn gofal y swm o 8,000,000 o roubles. Ffortiwn preifat y Czar oeddynt, ac ar y ffordd i'w defnyddio hwynt mewn rhyw wlad arall." Y mae masnach yr hen frawd wedi talu mor dda, fel y mae yn bwriadu ymadael a'r siop yn gyfangwbl cyn hir. i
Advertising
MAIR-ADDOLIAETH LLEW LLWYFO Allan o'r Wasg, ac yn gwerthu yn gyflym, BUDDUGOLIAETH Y GROES, ARWRGERDD, Gyda gwrth ddadleuon yr Awdwr yn erbyn Beirniadaethau TAFOLOG, LLAWDDEN, a YOLCAN, GAN LLEW LLWYFO. PRIS SWLLT. Tri chopi ai- ddeg'am archeb am ddeuddeg. Ymbilia LLEW LLWYFO am gefnogaeth ei gyf- eillion mewn ,cyfwng lied ddyrys. Diolchir am archebion buan, cyfeiriedig i L. W. LEWIS (Llew Llwyfo), 2388 Carnarvon. YN EIN RHIFYN NESAF, OYHOEDDIE MADOG AB OWAIN 6WYNEDD, Sef Nofel Fuddugol Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru, 1880. Hon oedd yr oreu o bedair o ffugchwedlau a dderbyniodd y beirn- iad (y Parch. E. Gurnos Jones), yr hwn a rydd ganmoliaeth uchel iddi yn ei feirniadaeth fanol. Y mae yn chwedl wir Gymreig, ac yn un sydd a thuedd ynddi i foddhau y chwedlgarwr chwaethusaf. GWAED, CROEN, NERVES!! YMAE GWAED PUR, CROEN IACH, a JL NERVES CADARN, yn anhebgorol angen- rheidiol tuag at sicrhau Iechyd. Trwy y gwaed y mae pob drwg a da yn gweithredu ar y corff; felly, cymerer ii W'l i (L (FIEGISTEBIIXJ.) y rhai yw'r unig feddyginiaeth ag y gellir ymddir- ied ynddynt tuag at gyflawni y gwaith o Buro a Chryfhau y Gwaed. Tuag at y PILES, Poen yn y rhan isaf o'r cefn i lawr y Cluniau, yn achosi Pen-ysgafnder, Pylu y golwg, &c., y maent yn hynod o effeithiol. GWELLHAD HYNOD! SYR,—Yr wyf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf i'ch hysbysu fy mod wedi cael budd mawr" drwy gymeryd dau flychaid o'r Pills gwerthfawr, sef "HUGHES' PATENT BLOOD PILLS." Yr oeddwn yn methu ceidded cam braidd, ac yn methu eis- tedd oherwydd y Piles, a Phoen yn y rhan iselaf o'r Cefn, y Cluniau, a'r Pen, ac yn bur wan yn awr, yr wyf yn holliach, ac yn bur ddiolchgar. Cwmbran, Awst 20fed, 1876. MARY JAMES. RHYBUDD.—Mae Ilv.-yddiant y Peleni hyn wedi achosi llawer i'w dynwared, feily gofaler cael y "Trade Mark" uchod (sef llun Calon) ar bob blwch, a'r geiriau Blood Pills" oddifewn a'r enw Jacob Hughes ar stamp y Llywodraeth; heb hyn twyll ydyw. TRADE MARK "BLOOD PILLS." Cosbir pob ffugiad, Ar werth drwy yr holl deyrnas am ls. -Z £ c., 2s. 9c., 4s. 6c. Gyda'r post Is. 3c., fts. 11c. a 4s. 9c,, oddiwrth y Pcrch&nog— Jacob Hughes, Apothecarie's Wall, Llanellv. SWYDDFA'R "GWLADGARWR" am S Circulars, Billheads, a Chardiau. -0_ SWYDDFA'R "GWLADGARWR" am k.3 bob math o Argraffwaith rhad I